Mwy o lawenydd a dedwyddwch o Gaerdydd

Mae yna rhywbeth grotesg am wylio’r sawl sydd i fod i arwain prif ddinas Cymru trwy gyfnod anodd o doriadau yn defnyddio eu hynni a’u brwdfrydedd i erlid ei gilydd, a lladd ar ei gilydd yn y was.  Mae’r stori llawn i’w chael yma
Dyma rhai o eiriau Ralph Cook wrth adael y Blaid Lafur.
And so it is with deep regret that I can no longer remain a member of a political group consisting of so many nasty, vindictive, cruel and incompetent politicians as the Cardiff Labour group of councillors.
After 37 years membership of the Labour Party and almost 16 years serving the Trowbridge ward as a Labour councillor I have just instructed officers of the council to suspend all my future financial contributions to the Labour group.
Y tro diwethaf roedd Llafur yn rheoli Caerdydd o 1995 i 2004 roedd llywodraethiant y ddinas mewn cyflwr o argyfwng parhaol erbyn y diwedd.  Mae wedi cymryd llai o lawer o amser i ddod i hynny y tro hwn.  Mae prif ddinas Cymru yn haeddu gwell. 

Pam bod sgwrsio’n bwysig

Fyddwn i ddim yn synnu mai’r cyfarfod efo Mhiari Black yng Nghaernarfon neithiwr (a drefnwyd gan Plaid Cymru, Arfon) oedd y cyfarfod gwleidyddol mwyaf yng Ngogledd Cymru ers i Leanne ymweld a Phrifysgol Bangor yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol ym mis Ebrill.

I’r rhai yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd efo Mhairi, hi ydi Aelod Seneddol newydd Paisley ar ol curo Douglas Alexander ym mis Mai.  Hi hefyd ydi’r Aelod Seneddol ieuengaf i gael ei hethol ers oes yr arth a’r blaidd.  Mae hefyd wedi datblygu i fod yn dipyn o obsesiwn gan bapurau fel y Daily Mail – sy ‘n ei hystyried yn ymgorfforiad twt o’u cred nad ydi cenedlaetholwyr Celtaidd i fod yn agos at San Steffan mewn gwirionedd.
Ta waeth, roedd Mhiari ar ei thraed am tros i awr rhwng ei hanerchiad ac ateb cwestiynau’r gynulleidfa – y cwbl heb ddarn o bapur na nodyn ar ei chyfyl.  Siarad oedd hi am ei thaith i fod yn Aelod Seneddol – gan gychwyn fel ymgyrchydd Ia o gefndir Llafur yn y refferendwm a gorffen efo ei hargraffiadau o Dy’r Cyffredin wedi iddi gael ei hethol.  Roedd natur yr hyn roedd ganddi i’w ddweud yn ddadlennol.
Sgwrsio am sgwrsio oedd hi mewn gwirionedd – am y gwahanol bobl roedd wedi siarad efo nhw yn y ddwy ymgyrch – refferendwm ac etholiadol – mae wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar.  Roedd yn gwneud hynny mewn ffordd fywiog a brwdfrydig iawn – ond son am sgwrsio oedd hi yn y diwedd.  Ac efallai mai hynny ydi’r brif wers i ni yma yng Nghymru.

Roedd ymgyrch Ia yn wahanol  i etholiadau arferol yn y DU oherwydd ei bod wedi ei seilio i raddau helaeth ar sgwrsio efo pobl yn eu tai a’u strydoedd eu hunain.  Mae ymgyrchoedd fel rheol wedi eu seilio ar nifer gyfyng o negeseuon cymharol arwynebol yn cael eu hailadrodd trosodd a throsodd a throsodd – ar y cyfryngau, mewn gohebiaeth ac wrth ganfasio.  Roedd yna reswm da am holl sgwrsio’r cenedlaetholwyr Albanaidd – roedd y mater dan sylw a goblygiadau hynod gymhleth iddo, felly roedd yna waith egluro – a gwaith tawelu ofnau.  Dwi’n cofio eistedd mewn swyddfa Ia tua deufis cyn yr etholiad pan ddaeth gwrsig i mewn gyda nifer o gwestiynau.  Treuliodd un o’r ymgyrchwyr oedd yn yr adeilad hanner awr yn siarad efo hi am ei gwahanol ofidiau.  Roedd y bobl oedd ar y stondinau stryd yn chwilio am bobl i sgwrsio am annibyniaeth efo nhw – ac o ddod o hyd i rhywun roeddynt yn treulio cryn dipyn o amser yn siarad efo nhw.  A barnu o sgwrs Mhairi roedd yr ymgyrch etholiadol yn ddigon tebyg.
A dyna i raddau helaeth ydi’r rheswm am lwyddiant ysgubol yr SNP – mae wedi ei seilio ar unigolion yn sgwrsio efo unigolion eraill – yr etholwyr.  Mae yna pob math o ddulliau ymgyrchu – ar y cyfryngau, ar y cyfryngau amgen, trwy ohebu ac ati – ond cysylltiad uniongyrchol rhwng unigolion ydi’r dull gorau o ddwyn perswad.  Dyna’r math o gysylltiad mae aelodau’r ddynol ryw wedi esblygu i ymateb iddo orau. Llwyddodd yr ymgyrch Ia i ddenu niferoedd sylweddol o bobl i droedio’r palmentydd i gyfathrebu’n uniongyrchol efo pobl.  Methwyd ag ennill yr ymgyrch honno, ond roedd llawer iawn o’r bobl oedd ar gael ym mis Awst a Medi 2014 hefyd ar gael i wneud yr un peth ym mis Ebrill a Mai 2015.  
Os ydi’r sawl sy’n darllen y blog yma eisiau gwneud gwahaniaeth y flwyddyn nesaf, mae yna pob math o ffyrdd o wneud hynny – mae yna rhywbeth y gall pawb ei wneud, a dydi canfasio ddim at ddant pawb.  Ond y peth mwyaf gwerthfawr y gellir ei wneud ydi siarad efo pobl – canfasio ydi’r ffordd fwyaf gwyddonol ac effeithiol o ymgyrchu’n uniongyrchol, ond mae sgwrsio’n anffurfiol efo cyfeillion, perthnasau, cymdogion a chyd weithwyr yn effeithiol hefyd.
Os nad ydan ni’n dysgu yr un gwers arall o’r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban tros y flwyddyn diwethaf – pwysigrwydd sgwrsio fel erfyn etholiadol ydi’r wers i’w chymryd.

Mwy o ryfela yn y Brifddinas

O diar, mae’r grwp o gynghorwyr mwyaf boncyrs yng Nghymru (ac mae hynny’n cryn ddweud) wrthi unwaith eto.  Ymddengys bod grwp Llafur Caerdydd wedi pleidleisio i daflu’r Cynghorydd Ralph Cook allan o’r Blaid Lafur am chwe mis.  Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol nad ydi’r math yma o beth yn anarferol yng Nghaerdydd  – mae ymddiswyddiadau, gwaharddiadau, cecru mewnol a chyhoeddus, a chynllwynio yn erbyn yr arweinyddiaeth yn ddigwyddiadau.

Fel rhywun sydd ddim yn edmygu’r Blaid Lafur mae’n anodd cadw crechwen rhag dod i ‘r wyneb weithiau wrth rythu ar idiotrwydd y teulu rhyfeddol o disfunctional yma i lawr yn y brifddinas.  Ond ‘dydi’r peth ddim yn joc mewn gwirionedd – mae Cyngor Caerdydd yn wynebu toriadau anferth ar hyn o bryd, toriadau fydd yn ddistrywgar i wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas am ddegawdau.  Ac eto mae’r sawl sydd i fod yn llywodraethu yn defnyddio y rhan fwyaf o’u hynni yn erlid ei gilydd.  

Mae’r hogiau (a hogiau sy’n bennaf gyfrifol am y llanast) yn gwneud i gyngor diwethaf Ynys Mon edrych yn gall, rhesymol a dedwydd.  Ond am resymau amlwg ‘does yna ddim perygl iddynt fynd yr un ffordd a’r cyngor hwnnw 

Dadansoddiad Martin Baxter o stori etholiad 2015

Dydi dadansoddiad Martin Baxter o’r cyfeiriadau a symudodd pleidleiswyr ddim yn manylu ar yr hyn ddigwyddodd yng Nghymru – ond mae’n ddadlennol serch hynny.  Mwy o bleidleisiau Llafur yn mynd i ‘r Toriaid nag i UKIP, y Toriaid yn colli llwyth o bleidleisiau i UKIP ond yn cael eu digolledu gan gyn bleidleiswyr Llafur a Lib Dem, yr SNP yn bwyta pleidleisiau Llafur a Lib Dem ond yn cael dim o gyfeiriad y Toriaid, y Lib Dems yn gwaedu pleidleisiau i pob cyfeiriad, UKIP yn cael pleidleisiau gan bawb.

Mae’n debygol bod y patrymau sylfaenol yn berthnasol i Gymru hefyd – ond heb yr ymyraeth SNP wrth gwrs.

Llafur yn gwbl hapus efo tan wariant cyhoeddus yng Nghymru

Felly roedd Andy  Burnam yn gwybod bod Cymru yn cael ei than gyllido yn 2007 – ond eto yn hytrach na mynd i’r afael efo’r sefyllfa aeth ati i ganiatau i Gomisiwn Holtham dreulio blwyddyn yn darganfod os oedd Cymru yn wir yn cael ei than gyllido.  Dwi’n credu i’r Comisiwn edrych ar y ffordd mae Cymru’n cael ei chyllido rhwng haf 2008 a haf 2009.   Canlyniad i Gytundeb Cymru’n Un oedd Comisiwn Holtham – neu mewn geiriau eraill gorfodwyd Llafur i gytuno i gomisiwn i ddarganfod os oedd Cymru yn cael ei than gyllido.

 O ddarganfod bod Cymru yn cael ei than gyllido o tua £300m y flwyddyn yn 2009 penderfyniad Llafur oedd gwneud dim i adfer y sefyllfa – gan ddefnyddio’r argyfwng economaidd ar y pryd fel esgys – er mai piso dryw yn y mor ydi £300m o gymharu a chyfanrwydd gwariant cyhoeddus y DU mewn gwirionedd.  Ond ag ystyried newyddion heddiw dydi hynny ddim yn syndod, roeddynt eisoes yn deall bod Cymru’n cael ei than gyllido yn 2007 – ar yr hwyraf un – ond nid oeddynt am wneud dim oll am y peth.

Gadael yr Ewro?

Mae’n ddiddorol gwrando ar ymdriniaeth y Bib o argyfwng ariannol Gwlad Groeg.  Mae Joe Lynam wedi bod yn egluro’n ofalus i ni beth sydd yn mynd i ddigwydd os na fydd Gwlad Groeg yn anrhydeddu ei dyledion i gwahanol fanciau rhyngwladol – Gwlad Groeg yn gorfod gadael yr Ewro, y Drachma’n  gorfod cael ei hail gyflwyno, y Drachma’n  colli hanner ei gwerth, mewnforion yn dwblu mewn pris, pobl Gwlad Groeg methu fforddio mewnforion, pobl yn gorfod gadael y wlad i gael gwaith ac ati.  Mae Joe’n ymddangos i fod wedi ypsetio’n lan, ac mae’n amlwg yn cymryd ochr Jeroen Dijsselbloem, arlywydd Eurogroup yn gyfangwbl ddi gwestiwn. 


Rwan mae llawer o hyn yn wir – byddai gadael yr Ewro yn achosi anhrefn, byddai yna lawer o ddioddefaint, byddai mewnforion yn ddrud iawn, byddai pobl yn ei chael yn anodd i dalu dyledion, byddai chwyddiant yn uchel – ond hanner y stori ydi hi.  Mae yna ochr arall i’r stori hefyd – un nad ydi Joe eisiau dweud wrthym amdani.   Petai’r Drachma’n colli hanner ei gwerth byddai Gwlad Groeg yn fwyaf sydyn ymhlith y lleoliadau gwyliau rhataf yn y Byd, a byddai nwyddau a chynnyrch amaethyddol o Wlad Groeg hefyd yn rhad iawn – ac felly’n gystadleuol iawn.  Os ydi Gwlad Groeg yn gadael yr Undeb Ewropiaidd yn ogystal a’r Ewro gall gymryd camau i atal cyfalaf rhag gadael y wlad – rhywbeth sy’n anathema i’r Undeb Ewropiaidd, ond sy’n ddigon posibl i’w wneud.  Gallai hefyd adael i’r banciau fynd yn fethdalwyr, ac felly trosglwyddo’r gyfrifoldeb ariannol am eu cynnal oddiwrth pobl gyffredin Gwlad Groeg a thuag at gredydwyr tramor – y bobl mae Mr Dijsselbloemyn poeni cymaint amdanynt.  
Tros amser byddai’r economi yn dod at ei hun, a byddai gwerth y Drachma yn cynyddu.  Byddai’r economi yn ail sefydlogi, ac yn dechrau tyfu.  Os nad ydych yn fy nghredu mae’r patrwm yma o ddymchweliad economaidd difrifol yn cael ei ddilyn gan dwf economaidd yn digwydd o dro i dro.  Dilynwyd argyfwng ariannol Gwlad yr Ia (2008 – 2011) gan adferiad gweddol gryf a chyflym.  Felly hefyd argyfwng yr Ariannin (1998-2002).  
Rwan dydw i ddim yn cymryd arnaf am eiliad na fydd y digwyddiadau sy’n debygol o ddigwydd tros y dyddiau nesaf yn achosi dioddefaint ac anhrefn.  Ond dydi pethau ddim mor syml a mae’r BBC a’r rhan fwyaf o’r cyfryngau prif lif yn honni.  Ag ystyried y dioddefaint mae llymder eithafol wedi ei achosi yng Ngwlad Groeg eisoes, a’r dioddefaint sydd yn debygol o gael ei achosi yn y dyfodol, mae’n fwy na thebyg mai cerdded i ffwrdd oddi wrth yr Ewro ac yn wir Ewrop ydi’r llwybr mwyaf rhesymegol i Wlad Groeg.  
Mae’r stori yn un gweddol gyfarwydd – mae’r sefydliadau cyfryngol a gwleidyddol yn Ewrop yn blaenori buddiannau sefydliadau ariannol a byddsoddwyr tros fuddiannau trwch poblogaeth Ewrop.  Dyna beth sydd wrth wraidd yr hanner stori rydym yn ei chael o Wlad Groeg.

Gwleidyddiaeth ffantasi

Mae’n ddifyr gweld ymateb ryfedd y Toriaid i’r newyddion bod Leanne Wood wedi ail aregu na fydd Plaid Cymru yn mynd i glymblaid efo nhw ar ol etholiadau’r flwyddyn nesaf.

This is just fantasy politics.  Leanne Wood isn’t even confident of winning a constituency seat, which is why she’s opted for the parachute of a place on the regional list as well.

Mae’n anodd gweld y cysylltiad rhwng y ffaith nad ydi hi’n bosibl bod yn sicr o ennill sedd etholaethol y Rhondda efo’i mwyafrif o ? a ‘gwleidyddiaeth ffantasi’.  Serch hynny  mae’r sefyllfa sydd ohoni yn creu un ffantasi – sef bod posibilrwydd y bydd y Toriaid yn ennill grym o unrhyw fath yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.  Mae rhifyddeg etholiadol y Cynulliad yn ei gwneud yn amhosibl i’r Toriaid ennill unrhyw fath o rym ym Mae Caerdydd heb gydweithrediad Plaid Cymru – ac mae hi mor glir a chloch na fydd y cydweithrediad hwnnw ar gael.  

Neu mewn geiriau eraill does yna ddim pwrpas o gwbl i bobl bleidleisio  i’r Toriaid os ydynt eisiau dylanwadu ar bwy fydd yn llywodraethu Cymru y flwyddyn nesaf – gallant fod yn hollol sicr na fydd y Toriaid yn agos at goridorau grym y Cynulliad.  A benthyg (ac addasu) slogan sy’n cael ei defnyddio gan y pleidiau unoliaethol yn ystod ymgyrchoedd San Steffan – mae pleidlais i’r Toriaid yn wastraff pleidlais.

Uwd o gelwydd cyfryngol

Mae’n ymddangos bod y ddwy stori a ymddangosodd yn y papurau newydd y bore ‘ma yn gelwydd – neu mor agos at gelwydd na mae’n bosibl bod.  Mae’r un enwocaf – yr un am lywodraeth yr Alban yn gwrthod talu i gadw Mrs Windsor a’i theulu anferth yn ddi sail – mecanwaith yr ariannu sy’n newid.  Mae’r un am gysylltiadau Gweinidog Cyntaf yr Alban wedi ei seilio ar y ffaith i Nicola Sturgeon siarad unwaith efo rhywun sydd wedi dweud ychydig o bethau hyll ar trydar.  Mae awdur Blogmenai wedi siarad efo llawer o bobl sydd wedi dweud pethau hyll ar trydar – ac mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod yr un peth yn wir am y rhan fwyaf o bobl eraill.
Dydi dweud celwydd am yr SNP ddim yn rhywbeth newydd wrth gwrs.  Yr esiampl mwyaf adnabyddus oedd y celwydd a ryddhawyd i’r Telegraph gan Alistair Carmichael ar gychwyn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol eleni – mewn ymgais aflwyddianus i achub seddi ‘r Dib Lems yn yr Alban.
Ac mae yna ribidires o esiamplau eraill – ymysg y mwyaf di chwaeth ydi’r ymgais isod gan y Daily Mail i feio marwolaeth Charles Kennedy ar genedlaetholwyr yn hytrach nag adrodd ar yr eglurhad a gafwyd gan y crwner yn y cwest i’r farwolaeth – mai gwaedlif a achoswyd gan alcoholiaeth oedd yn gyfrifol am y farwolaeth.
Ymddengys bod pob ymgais i smalio bod gwrthrychedd proffesiynol – neu hyd yn oed safonau newyddiadurol proffesiynol – yn cael eu harfer wedi cael llich trwy’r ffenest pan mae’n dod i adrodd ar wleidyddiaeth yr Alban. 
I rhyw raddau mae’r arfer o ‘sgwennu celwydd a nonsens  mewn perthynas a’r Alban yn mynd yn ol i’r ymgyrch Na yn y misoedd oedd yn arwain at y refferendwm y llynedd.  Wele restr o beth o’r celwydd a ddywedwyd yn ystod refferendwm yr Alban y llynedd.  Afraid dweud i’r cwbl lot gael eu hailadrodd yn ffyddlon gan y cyfryngau Prydeinig.
1). Bydd rhaid i Loegr fomio meusydd awyr yr Alban.  Lord Fraser of Carmyllie
2). Bydd rhaid i’r pandas adael sw Caeredin. Llefarydd ar ran llywodraeth y DU.
3).  Bydd yr Alban yn agored i ymysodiadau o’r gofod.  Philip Hammond.
4). Bydd rhaid i’r Alban dalu am ddad gomisiynu canolfan WMDs Prydain yn Faslane ac am godi canolfan WMDs newydd.  Philip Hamond.
5). Bydd rhaid i bawb yrru ar ochr dde’r lon.  Andy Burnham.
6). Bydd Prydain yn cadw gafael ar ran o’r Alban er mwyn cadw eu canolfan WMDs.
7). Bydd rhaid codi rhwystrau rhwng Lloegr a’r Alban a bydd angen pasport i groesi o un wlad i’r llall.  Theresa May.
8). Bydd y Byd i gyd yn cael ei ddad sefydlogi a bydd ‘grymoedd y tywyllwch’ wrth eu bodd.  George Robertson.
9). Bydd costau o £2.7bn yn codi o newid. LSE.
10). Bydd costau ffonau symudol yn saethu trwy’r to.
11).  Fydd Albanwyr ddim yn cael gweld Dr Who.  Maria Miller.
12).  Bydd y diwydiant adeiladu llongau yn dod i ben.  Plaid Lafur yr Alban.
13). Bydd costau cadw car neu lori yn cynyddu £1,000 y flwyddyn.  David Mundell
14). Bydd mynd i siopa yn llawer drytach.  Margaret Curran.
15).  Bydd rhaid i Brydain anfon y fyddin i’r ffin efo’r Alban.

Yn waelodol mae’r swnami cyfryngol yma o gelwydd a lol yn adlewyrchiad o gasineb y sefydliad unoliaethol tuag at bobl sy’n bygwth datgymalu’r Undeb – ond mae hefyd yn adlewyrchiad o dlodi deallusol yr achos unoliaethol.  Yn hytrach na dadlau yn rhesymegol ar sail pethau sy’n digwydd yn y Byd go iawn, mae’r naratif unoliaethol  wedi ei seilio ar stwff dychmygol sy’n digwydd mewn Byd dychmygol.  Dydi dadleuon o bwys hanesyddol ddim yn cael eu hennill yn y ffordd yna – hyd yn oed pan mae mwyafrif llethol y cyfryngau yn byw yn yr un Byd ffantasiol.