Nodwedd

Brexit a hen ragfarnau Prydeinig

Un o’r pethau mwyaf trawiadol – a diddorol mewn rhai ffyrdd – am yr holl fusnes Brexit yma – ydi’r ffaith bod cymysgedd o hen ragfarnau a mytholeg Prydeinig yn elfen greiddiol o’r ffordd mae cefnogwyr Brexit yn rhesymu ac yn rhesymoli eu agweddau. .Yr agwedd gryfaf ar feddylfryd yma ydi’r gred yn netholusrwydd (os mai dyna’r gair Cymraeg am ‘exclusivism’) y DU – y gred bod y DU yn wahanol i wledydd eraill ac yn well na nhw.

Mae’r rhesymau tros barhad y gred yma yn gymhleth ac wedi goroesi am gyfnod maith.  Ond un o’r rhesymau  ydi’r ffaith nad ydi’r DU erioed wedi gorfod wynebu ei hanes yn yr un ffordd a mae gwledydd sydd wedi colli rhyfeloedd mawr wedi gorfod gwneud.  

Mae yna gilfachau – a chilfachau mawr ar hynny – hynod dywyll yn hanes yr Ymerodraeth Brydeinig.  ‘Does yna ddim ymwybyddiaeth eang o hynny yn y DU, ac mae agweddau’r gwledydd oedd yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig yn dra gwahanol i’r profiad o fod yn rhan o ymerodraeth nag ydi agwedd Prydeinwyr.  ‘Does ddim rhaid mynd cyn belled a Kenya neu India i ddeall hyn – byddai taith fyrach o lawer i Ddulyn yn gwneud y tro’n iawn.

Ac mae’r ffaith nad yw Prydain wedi cymryd golwg gwrthrychol ar ei hanes yn creu pob math o ffwlbri chwerthinllyd.  Er enghraifft dyna i ni Gavin Williamson, pan oedd yn Weinidog Amddiffyn yn egluro wrthym syniad mor dda fyddai anfon llongau rhyfel i For De China yn dilyn Brexit.  Mae’n anodd gwybod ymhle i ddechrau efo hon.  Mae llywodraeth Williamson yn dweud ein bod yn gadael yr UE i bwrpas gallu dod i gytundebau masnach efo gwledydd mewn rhannau o’r Byd megis y gwledydd ym Mor De China ar yr un llaw, tra bod Williamson eisiau eu bygwth ar y llaw arall.  Mae’r dyddiau pan roedd Prydain yn ddigon pwerus i anfon llongau rhyfel i fomio Ting-ha er mwyn gorfodi’r Tseiniaid i dderbyn opiwm o India wedi mynd, a ‘dydyn nhw ddim yn debygol o ddychwelyd.

Tybed a fyddai Prydain yn edrych yn fwy ffafriol ar China petaent yn anfon llongau rhyfel i For y Gogledd?  

A wedyn dyna i ni y canfyddiad rhyfedd gan lywodraeth y DU a’r cyfryngau Prydeinig bod dyletswydd ar arweinwyr gwledydd eraill i flaenori buddiannau’r DU tros fuddiannau eu gwledydd eu hunain.  Weithiau mae’r canfyddiad yma’n cael ei fynegi mewn ffordd ychydig yn wahanol – sef bod llywodraeth y DU neu ei chyfryngau yn daeall yn well buddiannau gwledydd eraill nag ydyn nhw eu hunain yn eu deall – a bod y buddiannau hynny trwy gyd ddigwyddiad ffodus yn rhedeg yn union gyfochrog a rhai’r DU.

Mae hyn yn ymylu at fod yn ogleisiol. Mae Leo Varadkar yn cymryd yr agwedd mae’n ei chymryd oherwydd ei fod yn dilyn trywydd strategol sy’n fanteisiol i’r wlad mae yn ei harwain – Iwerddon.  ‘Dydi o ddim yn cael ei dalu i ddilyn trywydd strategol sy’n fanteisiol i’r DU.  Mae llawer mwy o allforion Iwerddon yn mynd i’r UE na sy’n mynd i’r DU – ond bod llawer o’r allforion hynny yn croesi’r DU ar hyn o bryd. Byddai Brexit caled yn golygu y byddai’n rhaid gwirio’r nwyddau sy’n cael eu gwerthu yn yr UE unwaith neu ddwywaith neu byddai’n rhaid allforio yn uniongyrchol i’r UE.  Mae hyn yn broblem strategol sylweddol i lywodraeth Iwerddon a gwaith y llywodraeth hwnnw ydi ceisio atal y broblem.  

Ond mae yna ragdybiaeth yn y DU y dylai Iwerddon roi buddiannau’r DU o flaen ei buddiannau ei hun (fel y dywedodd Malcolm Rifkind ychydig ddyddiau yn ol).  Mae’r disgwyliad yma wedi ei wreiddio mewn cyfnod pan roedd Iwerddon – a llawer i wlad arall – yn gorfod gwneud yn union yr hyn roedd llywodraeth y DU yn dweud wrthyn nhw am ei wneud.

Ymddengys i Priti Patel gymryd at y syniad o ddefnyddio dosbarthiad bwyd fel modd o roi pwysau ar lywodraeth Iwerddon i ildio i Brydain ynglyn a’r ffin rhwng Gogledd a De Iwerddon.  Rwan mae dosbarthiad bwyd ‘gwleidyddol’ yn rhywbeth roedd y DU yn ei ymarfer yn rheolaidd yn Oes Fictoria, ac mae’n lwybr polisi a arweiniodd at ddioddefaint di ben draw a miliynnau o farwolaethau yn Iwerddon ac yn y wlad mae Priti Patel yn hannu ohoni. Mae’r syniad wrth gwrs yn un idiotaidd – hyd yn oed o dan safonau gweinidog Toriaidd – mae Iwerddon yn cynhyrchu llawer mwy o fwyd na mae’n ei ddefnyddio, ac mae ymysg y gwledydd mwyaf diogel o ran cyflenwadau bwyd yn y Byd.  Mae Prydain wrth gwrs yn eithaf ansicr o ran ei chyflenwadau bwyd – gan orfod mewnforio ddim ymhell o hanner ei bwyd – y rhan fwyaf o hwnnw oddi wrth gyfeillion Iwerddon yn yr UE.  Ond unwaith eto rydym yn dod ar draws hen ffeddylfryd yn ail ymddangos mewn cyd destun cyfoes.

A daw hyn a ni at yr Ail Ryfel Byd – rhywbeth sy’n hynod o agos at galonnau cenedlaetholwyr Prydeinig.  Mae’n ganolog i’w canfyddiad o’r Byd a’i bethau i’r DU ennill y rhyfel hwnnw.  Mae’n debyg y dylai’r ffaith mai llai nag 1% yn unig o’r sawl a laddwyd yn y rhyfel oecc yn Brydeinwyr awgrymu bod y gwirionedd ychydig yn fwy cymhleth, ond wrth gwrs dydi ffeithiau na chymhlethdod ddim yn arbennig o agos at galonau cenedlaetholwyr Prydeinig.  Ond mae’r canfyddiad yn bwysig i naratif Brexit.  Dyna pam bod Dunkirk neu’r Battle of Britain yn cael eu codi pob tro mae yna son am broblemau neu dioddefaint yn sgil Brexit – ‘Os daethom ni trwy Dunkirk mi ddown ni trwy hyn hefyd’.

Ac wedyn dyna i ni’r agweddau is ymwybodol yna.  Byddwch yn cofio i Priti Patel – ia hi eto – ddatgan y bydd rhyddid i symud yn dod i ben ar Hydref 31.  Meddwl mae Priti wrth gwrs am ryddid symud i bobl o’r UE yn y DU – ond byddai cymryd y fath gwrs yn sicr o gael union yr un effaith ar ddinasyddion y DU symud yn yr UE.  Mae bron yn sicr y bydd unrhyw gamau mae Priti yn eu cymryd i erlid tramorwyr yn cael eu hadlewyrchu ar ffurf camau tebyg gan yr UE.  Ond i rhywun fel Priti mae’n rhan o’r drefn naturiol bod Prydeinwyr yn troedio’r Byd yn unol a’u dymuniad.  Onid hynny oedd yn digwydd yn nyddiau’r Ymerodraeth?  Y peth anaturiol ydi i dramorwyr droedio tir y DU – does yna ddim cysylltiad rhwng y naill beth na’r llall.

Esiampl tebyg oedd llinellau coch Theresa May – roedd y DU i adael yr UE a’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.  Cyn gynted a bod y penderfyniad yna wedi ei wneud, roedd llywodraeth y DU yn gosod ei hun ar lwybr oedd yn ei harwain i gyfeiriad fyddai’n ei gorfodi i dorri amodau cytundeb rhyngwladol pwysig roedd wedi ei arwyddo – Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Mae symud di dramgwydd ar draws y ffin yn elfen bwysig – yn elfen ganolog – o’r cytundeb hwnnw.  Dydi hi ddim yn bosibl cael cyfundrefn reoliadol gwahanol mewn dwy wlad heb wirio beth sydd yn croesi o’r naill wlad i’r llall. Doedd y cysyniad bod angen symud ymlaen mewn modd nad oedd yn arwain at dorri cytundeb rhyngwladol heb wawrio ar Mrs May na’i llywodraeth – mae’r DU wedi arfer torri cytundebau pan mae hynny’n hwylus.  Mae’r strancio a’r rhincian dannedd gan wleidyddion sydd o blaid Brexit a’r wasg bod Iwerddon a’r UE yn disgwyl i’r DU anrhydeddu ei chytundebau rhyngwladol wedi bod yn rhywbeth i ryfeddu ato.

Ac mae’r syniadau yma i gyd – y dylai buddiannau Prydain gael blaenoriaeth, hyd yn oed gan wledydd eraill, bod ceisio bwlio gwledydd eraill efo bygythiadau i roi buddiannau’r DU o flaen rhai eu hunain yn briodol ac yn rhesymol, bod Prydain yn arbennig ac yn sylfaenol wahanol i wledydd eraill, bod tramorwyr yn ddichall ac yn anibenadwy, bod cytundebau thyngwladol yn bethau i’w torri pan mae hynny’n gyfleus wrth galon yr holl brosiect Brexit.  A dyna’r rheswm pam bod yna cymaint o lanast – mae dealltwriaeth y sawl sy’n hyrwyddo Brexit wedi ei seilio ar fodelau o le’r DU yn y byd sydd wedi hen, hen ddyddio.

Pam y byddai ethol Dewi Evans yn gadeirydd yn weithred hunan niweidiol ar ran y Blaid

Mae’n debyg y dylwn gychwyn trwy ddatgan diddordeb.  ‘Dwi’n eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid ac ar ei Phwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu.  Roeddwn ar y panel disgyblu yn ystod gwrandawiad cyntaf Neil McEvoy a roeddwn yn y gwrandawiad a fethodd ddod i benderfyniad os dylid ganiatáu iddo ail ymaelodi a’r Blaid.  Fodd bynnag nid oes gennyf fwriad i gyfeirio at achos Neil McEvoy yn benodol,nag at unrhyw achos arall – i’r graddau bod hynny’n bosibl.

Yr hyn hoffwn ei wneud ydi cywiro ambell i gam ganfyddiad ynglŷn a sut mae prosesau disgyblu’r Blaid yn gweithio.  Mae gen i ofn bod cryn dipyn o droelli cwbl gam arweiniol ynglŷn a phrosesau disgyblu’r Blaid.- enghraifft o hynny ydi yr hyn mae Dewi Evans yn ei ddweud yma (What is not healthy is when differences get personal, and members are being expelled for being in the ‘wrong’ group or being on the ‘wrong’ side of the debate.)  Mae’n gwbl gamarweiniol i awgrymu bod y broses disgyblu yn gweithio yn y modd yma – ac mae’n fwy na phosibl bod yr honiad yn fwriadol gamarweiniol.  Efallai y byddai o gymorth i edrych  ar bwrpas a gweithdrefn y Pwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu.  

Prif orchwyl y corff ydi ystyried pa gamau i’w cymryd pan mae cwyn yn dod i law bod aelod neu aelodau o’r Blaid wedi torri ei rheolau sefydlog.

Fel mae’r enw yn awgrymu pwrpas rheolau sefydlog ydi rheoli’r ffordd mae’r Blaid a’i aelodau yn gweithredu yn fewnol.  

Yn y bon mae tri cham wedi i gwyn am aelod gael ei derbyn gan y Blaid yn ganolog.:

  1. Y gwyn yn cael ei throsglwyddo i banel o dri (gan amlaf).  Y panel yn ystyried y gwyn, yn chwilio am dystiolaeth bellach os oes angen gwneud hynny, ac yn cynnal gwrandawiad os yw o’r farn bod achos i’w ateb.  Yn dilyn y gwrandawiad daw i ddyfarniad os oes rheolau sefydlog wedi eu torri neu beidio – ac os oes rheolau wedi eu torri daw i gasliad ynglyn a sancsiwn priodol.
  2. Os ydi’r sawl sydd wedi ei ddyfarnu’n euog o dorri rheolau sefydlog yn teimlo ei fod / bod wedi cael cam gall apelio’r dyfarniad a / neu briodoldeb y gosb.  Bydd panel o dri yn ystyried y cais – ac yn amlwg nid oes cysylltiad rhwng aelodau’r panel newydd a’r penderfyniad gwreiddiol.
  3. Os ydi aelod wedi ei wahardd gall wneud cais i ail ymuno a’r Blaid wedi i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.  Nid panel, ond yn hytrach y Pwyllgor Aelodaeth a Disgyblaeth llawn sydd yn ystyried y cais yma.  Mae gorchwyl y pwyllgor yn wahanol y tro hwn.  Yr hyn sydd yn cael ei ystyried ydi os oes tystiolaeth bod yr apelydd yn deall ei fod wedi torri rheolau sefydlog, a’i fod / bod felly yn anhebygol y bydd yn torri’r un rheolau eto.  Mae rhesymau da am hyn.  Os nad ydi apelydd yn deall ei fod / bod wedi torri rheolau sefydlog y tebygrwydd ydi y bydd yr aelod yn torri’r un rheol eto, ac y bydd cwyn arall tebyg yn dod i law ac y bydd y broses yn cychwyn eto.

Yn groes i awgrym Dewi Evans nid oes ystyriaeth o unrhyw fath yn cael ei roi i farn gwleidyddol  neb – oni bai bod y farn honno yn groes i reolau sefydlog y Blaid, ac mai’r farn honno fyddai’r rheswm am y gwyn.  ‘Dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw achos lle mae hyn wedi digwydd.

Mae’r broses  yn annibynnol – a ni all neb o’r tu allan amharu arni. Petai Dewi Evans yn cael ei ethol yn gadeirydd y Blaid ni fyddai ganddo’r mymryn lleiaf o rym i ganiatau i aelodau sydd wedi eu gwahardd ddychwelyd – ddim mwy na fyddai ganddo petai’n arweinydd, prif weithredwr, aelod etholedig, yn aelod o’r Cyngor Cenedlaethol, neu aelod cyffredin o’r Pwyllgor Gwaith nad yw hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Disgyblu. 

Eto mae rheswm da pam nad yw pobl sydd y tu allan i’r broses yn gallu dylanwadu arni – er mwyn osgoi amharu ar sail gwleidyddol neu bersonol. Dyma yn ol yr hyn a ddeallaf fwriad Dewi Evans os caiff ei ddewis yn gadeirydd y Blaid – amharu ar broses ddisgyblu am resymau gwleidyddol.  Byddai ceisio gwneud hyn yn achosi cryn anhrefn mewnol.

Mae ymhlyg yn ymgyrch Dewi Evans nad oes angen cyfundrefn ddisgyblu o gwbl – neu o leiaf cyfundrefn ddisgyblu sydd efo dannedd. Byddai cyfundrefn ddisgyblu sydd ddim yn cosbi neb am dorri rheolau sefydlog  ddim gwerth ei chael.  Os nad oes gan y Blaid gosb effeithiol am dorri’r rheolau hynny does ganddi hi ddim parch at ei rheolau ei hun – ac os nad oes ganddi barch at ei rheolau ei hun ‘does ganddi ddim parch ati hi ei hun chwaith yn y pen draw. 

‘Dwi’n troi rwan at gam argraff arall sy’n ymddangos i fod ymhlyg yn ei ymgyrch, sef y canfyddiad bod llawer o bobl ar hyn o bryd wedi eu gwahardd o’r Blaid.  ‘Dydi hynny ddim yn wir.  Gellir cyfri’r sawl sydd yn y sefyllfa yna ar un llaw.

Er enghraifft mae yna ganfyddiad bod nifer fawr o bobl wedi eu gwahardd yn dilyn anghytundeb yn Llanelli ynglŷn a dewis ymgeisydd i sefyll yn Etholiad Cyffredinol 2017. ‘Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud mai un aelod yn unig a waharddwyd gan y Pwyllgor Disgyblu, ac mae hwnnw’n rhydd i wneud cais i ail ymaelodi bellach – os yw eisiau gwneud hynny.   

Mae’n wir i rai aelodau adael o’u gwirfodd, a bu’n rhaid i’r cadeirydd presennol wahardd cangen tref Llanelli dros dro – yn dilyn gweithredu anghyfansoddiadol  cyson o fewn y gangen honno.  Mae’r gwaharddiad hwnnw wedi dod i ben ers tro byd.

A daw a hyn a ni at rôl y cadeirydd yn y broses ddisgyblu – ac mae’n gwbl wahanol i’r hyn sy’n cael ei awgrymu gan ymgyrch Dewi Evans.  Mae dyletswyddau cadeirydd y Blaid yn ei orfodi i gymryd penderfyniadau dydd i ddydd – yn wahanol i’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor Gwaith – yn arbennig felly pan mae argyfwng yn codi.  Os yw’n cymryd penderfyniad  bydd yna’n gofyn am sel bendith y Pwyllgor Gwaith llawn yn fuan wedyn.  Mae’r cadeirydd presennol wedi gorfod gwneud penderfyniadau felly – yn achlysurol iawn.  Mae hefyd wedi dangos cryn ddewrder wrth ymateb yn gadarn i broblemau.  

Mae Dewi Evans yn honni mai cymodi ydi’r ffordd o fynd i’r afael a chwynion bod aelodau wedi torri rheolau sefydlog y Blaid.  Mae’r ffordd yma o edrych ar bethau yn sylfaenol wallus.  ‘Dydi cymodi ddim yn ffordd o ddelio efo aelodau sy’n torri rheolau sefydlog – llwfdra di gyfeiriad ydi mynd ati i wneud hynny. Ffordd o ddelio efo sefyllfa pan mae carfannau  yn anghytuno ydi cymodi, ac mae hynny – wrth gwrs – wedi digwydd mewn sefyllfaoedd felly.  Yn wir mae cryn ymdrech wedi ei wneud i gymodi rhwng gwahanol garfanau yn y gorffennol – ac mae’r cadeirydd presennol wedi chwarae rhan blaenllaw yn yr ymdrechion hynny i gymodi.

‘Dwi’n credu ei bod yn deg casglu o’r hyn mae Dewi Evans wedi ei ddweud na fyddai fel cadeirydd y Blaid yn fodlon ymateb yn gadarn i argyfwng, ac na fyddai am i aelodau  sy’n gweithredu yn groes i’r rheolau sefydlog yn wynebu unrhyw ganlyniadau am wneud hynny.  Byddai’n treulio ei amser yn ceisio cymodi yn hytrach nag amddiffyn y Blaid oddi wrth y sawl fyddai’n gweithredu’n groes i’w rheolau.  Byddai hefyd yn ceisio amharu ar y broses ddisgyblu – er nad oes ganddo unrhyw hawl cyfansoddiadol  i wneud hynny.

Byddai ethol cadeirydd sydd ddim eisiau amddiffyn rheolau sefydlog y Blaid, sydd ddim eisiau cymryd camau effeithiol pan mae argyfwng yn codi, ond sydd eisiau amharu ar brosesau sydd y tu hwnt i’w faes gorchwyl yn gamgymeriad dybryd. Y peth diwethaf mae’r Blaid ei angen ar yr adeg yma yn ei hanes ydi cadeirydd gwan – a chadeirydd sy’n ymffrostio yn ei wendid ei hun.

Etholiadau Ewrop 2 – nodiadau (hynod) frysiog

Cafodd y ddwy brif blaid unoliaethol efo’i gilydd y ganran isaf erioed o’r bleidlais – 22% – o filltiroedd.  Yn 2017 y ffigwr cyfatebol oedd 82.5%.  Mae‘r cwymp yng nghyfanswm y pleidleisiau hyd yn oed yn fwy trawiadol – mae’n syrthio o 1.3m i 182k

Plaid Cymru yn curo Llafur am y tro cyntaf mewn etholiad Cymru gyfan.

Plaid Brexit yn ennill pob sir ag eithrio tair yn y Gorllewin. 

Fel rheol mae’n well edrych ar ffigyrau o safbwynt canrannau – ond ambell waith mae’r rhifau abserliwt yn well – Mae rwan yn un o’r achlysuron hynny.

Plaid Brexit yn cael bron cymaint o bleidleisiau na Llafur, Toriaid a Lib Dems efo’i gilydd.

Plaid Cymru yn cael bron cymaint a’r Toriaid a’r Lib Dems efo’i gilydd.

PC wedi cael mwy o bleidleisiau na’r Toriaid ym mhob sir ag eithrio Mynwy (llai na 200 oedd ynddi) ac wedi cael tair gwaith pleidlais y Toriaid yng Nghaerdydd a 14 pleidlais am pob pleidlais Doriaidd yng Ngwynedd.  Curodd y Blaid Llafur mewn 13 sir – gan gynnwys y ddwy mwyaf poblog – Caerdydd a RCT.

Mi aeth y niferoedd o bobl aeth allan i bleidleisio i fyny o tua 103,000 – o dan amgylchiadau felly byddwn yn disgwyl i bleidlais pawb gynyddu – os nad y ganran.  Ond wnaeth hynny ddim digwydd.

Brexit + UKip (tros UKIP o’r blaen) – +98k

Lib Dem – +85k

Plaid Cymru – + 52k

Gwyrdd + 19k

Llafur – —79k

Toriaid – — 73k

Gelly plaid efo safbwyntiau cryf ar Brexit yn cael eu gwobreuo – pob plaid sydd heb safbwynt glir yn cael eu cosbi.

I ffocysu ar berfformiad y Blaid:

Cynnydd yng nghanran y Blaid 4.34%, cynydd mewn pleidleisiau + 52k.

Dydi  + 4.34% ddim yn edrych yn fawr – ond mae’n anarferol iawn i PC weld symudiad felly o un etholiad i etholiad cyfatebol dilynol. Yr unig bethau fedra i feddwl amdanyn nhw ydi’r etholiadau ar droad y mileniwm a 1970.  Roedd y ddau achos yna pan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan.  Mae’n anarferol iawn i’r Blaid wneud yn dda tros Gymru pan mae yna lywodraeth Doriaidd yn San Steffan – ac mae’n fwy anarferol eto pan mae’r nifer sy’n pleidleisio yn cynyddu.

Pleidlais y Blaid uchaf fel arfer yn y bedair sir fwyaf Cymraeg o ran iaith – ond y cynnydd yn is na’r cymedr mewn tair ohonynt – ond cynnydd sylweddol iawn yng Ngwynedd.  Cymedr 3% – heb Gwynedd 1.3%

Dinasoedd y De 8%.  Cymoedd 5%. Seddi Toriaidd y De Ddwyrain 5%, Canolbarth a Gorllewin llai Cymraeg 3%.  Gogledd Cymru llai Cymraeg 2.8%.

Siroedd aros – bron i 6%.  Llawer uwch yn  y ddwy sir gryfaf tros Gymru.

Mae perfformiad PC yn wahanol i’r lleill i’r graddau bod amrediad enfawr ym mhleidlais y Blaid rhwng un sir a’r llall – 41.3% o wahaniaeth i’r Blaid rhwng Gwynedd (50.8%) a Fflint (9.5%) – gwta 1/2 awr i ffwrdd ar yr A55.  Ffigyrau y Toriaid ydi 8.4%, Brexit 19.8%, Llafur 19.4%, Lib Dems 17.5%.

Edrych yn ol ar Etholiad Ewrop – rhan 1

Edrych yn ol ar Etholiad Ewrop – rhan 1

Un o fanteision etholiad ydi ei fod yn rhoi cyfle i chwarae o gwmpas efo ffigyrau – ac mi wnawn ni wneud ychydig o hynny tros y dyddiau nesaf.

Gan bod y Blaid wedi dod o flaen Llafur am y tro cyntaf erioed mewn etholiad Cymru gyfan mi wnawn ni ddechrau trwy edrych ar y gymhariaeth rhwng pleidlais Llafur a phleidlais y Blaid.  Dwi ddim yn meddwl bod hon yn siarad trosti ei hun – llwyddodd y Blaid i lanhau’r llawr go iawn efo Llafur yn y Gymru Gymraeg. 

Beth fydd yn digwydd heno?

Reit, beth sydd am ddigwydd pan mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfri heno?

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi os oes rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod i sicrwydd mae nhw’n dweud celwydd.  Yr unig ffordd hollol ddibynadwy o ddweud beth sydd am ddigwydd mewn etholiad ydi cael golwg dda ar y pleidleisiau wedi i’r pleidleisio ddigwydd ond cyn i’r canlyniadau gael eu datgan.  Mae hyn yn eithaf hawdd yn y rhan fwyaf o gyfrifon etholiadol. 

Y rheswm am hyn ydi bod yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gyfri yn dilysu’r pleidleisiau (gwneud yn siŵr bod y nifer cywir o bleidleisiau ym mhob bocs) cyn dechrau cyfri – ac mae’r pleidleisiau yn y golwg pan maent yn gwneud hynny.  Os ydi rhywun efo syniad go lew beth mae’n ei wneud mae’n bosibl darogan y canlyniad yn gyflym iawn ar ôl gweld y pleidleisiau – oni bai bod pethau’n agos iawn wrth gwrs.

Mae etholiadau Ewrop yn wahanol – mae’r papurau yn cael eu dilysu a’u pen i lawr, o ganlyniad canran fach iawn o’r pleidleisiau sydd yn y golwg gan amlaf – ac mae hynny’n ei gwneud yn anodd iawn, iawn i ddarogan yn gywir.

Serch hynny, dydi hyn oll ddim yn golygu na ellir gweld dim byd o gwbl, ac mae yna ddangosyddion eraill hefyd – ym mha wardiau mae’r bleidlais yn uchel iawn neu’n isel iawn a pholau piniwn cyhoeddus er enghraifft.  Ac wrth gwrs mae yna sibrydion o gwmpas – rhai sydd ddim yn gwbl ddibynadwy, ond rhai sydd wedi eu seilio ar rhywfaint wybodaeth bendant – ac mae’n bosibl dod i rhai casgliadau ar sail hynny.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi ei bod yn gwbl sicr mai’r Blaid Brexit fydd yn cymryd y sedd cyntaf.  Mae nhw wedi gwneud yn dda ar hyd a lled Cymru ac yn debygol o ddod yn gyntaf hyd yn oed yn rhai o’r ardaloedd bleidleisiodd i aros – gan gynnwys y brif ddinas.

Plaid Cymru fydd yn cael yr ail sedd yn ôl pob tebyg.  Mae’n ymddangos bod y bleidlais i’r Blaid wedi bod yn uchel ym mherfedd-diroedd y Gymraeg ac mae’n debygol o ddod yn ail i’r Blaid Brexit mewn nifer o gynghorau lle mae pob Aelod Seneddol yn rhai Llafur, a lle cafodd Llafur fwyafrifoedd anferthol yn 2017.  Mae’n bosibl y bydd y Blaid yn curo Llafur 2:1 mewn nifer o etholaethau sydd ag ASau ac ACau Llafur.

Plaid Brexit fydd yn cael y trydydd sedd – er ei bod yn bosibl – ond ddim yn debygol y byddant yn cael yr ail.

Ac wedyn mae hi’n mynd yn gymhleth – ac mae yna sawl posibilrwydd am beth fydd yn digwydd i’r bedwerydd sedd.  Yr hyn rydym yn gallu bod yn sicr ohono ydi na fydd y Torïaid na’r Blaid Werdd nag UKIP yn y ras arbennig yma. 

Mae yna bleidlais fach i UKIP – un fach – 3% o bosibl – ond gallai hynny fod yn ddrud i’r Blaid Brexit.

Mae’r bleidlais Doriaidd yn debygol o fod yn gyfforddus is na 10% – sydd ddim yn gwbl annisgwyl.  Mae hi’n bosibl na fyddan nhw yn dod yn bumed hyd yn oed.

Mae’r bleidlais Lafur yn debygol o fod yn gyfforddus is nag oedd y polau yn awgrymu.  Mae’n debyg bod y gyfradd pleidleisio yn hynod o isel yn rhai o’r wardiau lle mae Llafur ar eu cryfaf.  Ar ben hynny mae yna adroddiadau o bleidlais wan iawn i Lafur mewn llefydd cwbl annisgwyl – gan gynnwys stepan drws Mark Drakeford.

Bydd y bleidlais Lib Dem yn uwch o lawer nag oedd yn 2014 – a byddant yn ail i’r Blaid Brexit mewn nifer o ardaloedd lle nad ydi trefniadaeth Plaid Cymru yn dda – Abertawe er enghraifft.  Ac mae hyn yn ein gadael efo 4 posibilrwydd ar gyfer y pedwerydd sedd – Llafur, Lib Dem, ail Plaid Cymru a 3ydd i’r Blaid Brexit.  Dwi’n meddwl mai’r pedwerydd posibilrwydd ydi’r lleiaf tebygol – ond nid y posibilrwydd cyntaf ydi’r mwyaf tebygol.

Ond cyn i neb ddechrau cynhyrfu cofiwch beth ddywedais ar y cychwyn – os ydi rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod beth sydd am ddigwydd maent yn dweud celwydd.

Beth bynnag, mi geisia i bostio yn hwyrach heno os dwi’n darganfod mwy.

Beth fydd yn digwydd yn yr etholiad Ewrop?

Mae’n debyg bod rhywbeth digri am y sefyllfa ryfedd lle mae llefarwyr ar ran y Blaid Doriaidd a’r Blaid Lafur yn dweud bod canlyniadau etholiadau lleol yn Lloegr yn arwydd bod yr etholwyr yn dweud wrth y gwleidyddion am sicrhau Brexit (mae Nigel Evans druan wrthi fel ‘dwi’n ‘sgwennu hyn).  

Y gwir ydi – wrth gwrs – bod y blaid Brexit caled (UKIP), y blaid Brexit (Toriaid), a’r blaid Brexit dan din (Llafur) i gyd wedi colli seddi rif y gwlith (1559 i fod yn fanwl) tra bod y pleidiau gwrth Brexit (Dib Lems a Gwyrddion) wedi ennill seddi (894). A rhaid cofio wrth gwrs mai ardaloedd oedd o blaid Brexit oedd yn pleidleisio – nid oedd etholiadau yn Llundain na’r Alban.  

Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Ngogledd Iwerddon gyda llaw – roedd y ganran o’r bleidlais a sicrhawyd gan y pleidiau unoliaethol (y rhai sydd o blaid Brexit i pob pwrpas) yn is na mae wedi bod erioed o’r blaen.

Y cwestiwn diddorol o’n safbwynt ni ydi beth mae hyn yn ei olygu yma yng Nghymru?  Yr etholiadau nesaf – os byddant yn digwydd – ydi etholiadau Ewrop ddiwedd y mis yma.

Amrediad pleidlais Llafur mewn etholiadau Ewrop (ers mabwysiadu pleidlais gyfrannol yn 1999) ydi 20.3% (2009) i 32.5% (2004).  Amrediad y Toriaid ydi 17.4% (2014) i 27.8% (1999). 

Byddwn yn disgwyl i’r ddwy blaid unoliaethol fawr gael eu canran isaf erioed o bleidleisiau yn yr etholaethau i’r UE.  Mae’n bosibl y byddant yn cael cyn lleied a 30% o’r bleidlais rhyngddyn nhw.  45% oedd y cyfanswm hwnnw yn 2014.   Mae’n debygol hefyd y bydd y Toriaid yn colli eu sedd – os ydi’r blaid sy’n cael y mwyaf o bleidleisiauyn cael 25% o’r bleidlais – rhywbeth sy’n debygol iawn.

Beth felly am y ddwy blaid Brexit – plaid Nigel Farage ac UKIP?  27.6% oedd pleidlais UKIP (yng Nghymru) yn 2014 – canran oedd fwy neu lai yn union fel yr un Prydeinig.  Mae’r polau Prydeinig y  amrywio o ran cefnogaeth Plaid Brexit ar hyn o bryd- ond mae’r diweddaraf yn awgrymu eu bod ar tua 34%.  

Roedd y polau yn 2014 yn tueddu i or ddweud y bleidlais UKIP – a byddai hynny’n awgrymu ei bod yn  fwy na phosibl y bydd pleidlais y blaid Brexit ddim llawer mwy nag un un UKIP yn 2014.  

Ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf y bydd pleidlais y blaid Brexit yn is eto.  Mae llai o bobl o blaid Brexit heddiw nag oedd yn 2014 (er eu bod yn fwy swnllyd o lawer), ac yn fy mhrofiad i o leiaf mae llawer o’r sawl sydd eisiau gadael yr UE yn mynegi uchel ac yn groch nad ydyn nhw byth am bleidleisio eto.  Rhywbeth fyddai’n – ahem – anffodus iawn, iawn.

‘Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn afresymol i gymryd y bydd pleidlais y pleidiau Brexit – UKIP + Brexit + Llafur + Toriaid yn dod i tua 55% i 60%.  Mae hyn – wrth gwrs – yn gadael 40% i 45%  ar gyfer y pleidiau gwrth Brexit.  Sefyllfa’r pleidiau hynny yn 2014 oedd Plaid Cymru 15%, Gwyrddion 4.5%, Dib Lems 4%.  Mae hynny’n gadael lle i dyfu o 15% i 20% rhwng y bedair (a chynnwys Change UK) plaid i dyfu felly.  Dydi hyn ddim yn gyfanswm anferthol os ydi o wedi ei rannu rhwng 4 plaid.  Petai’r twf wedi ei rannu’n gyfartal byddai tair sedd i’r pleidiau Brexit ac un yn unig i’r pleidiau Aros (2 i’r Blaid Brexit, un i Lafur ac un i’r Blaid).  Dwi’n disgwyl i’r Toriaid gael o gwmpas 10% o’r bleidlais Gymreig a cholli eu hunig sedd gyda llaw.  

Ond petai 10% yn mynd i’r Blaid byddai hynny yn dod a hi i 25%.  Byddai hynny yn agos at bleidlais y Blaid Brexit ac mae’n debygol mai tua 25% fydd ei angen ar y blaid sy’n dod yn gyntaf i gael ail sedd.  (30% oedd ei angen yn 2014 – ond bydd y bleidlais wedi ei rannu’n fwy cyfartal rhwng mwy o bleidiau y tro hwn).  Byddai cynnydd tebyg o 10% i naill ai’r Dib Lems neu’r Gwyrddion yn debygol o roi’r bedwerydd sedd  iddyn nhw hefyd.  

Ond – a cheisio bod yn wrthrychol yma – os oes rhywun sy’n gwrthwynebu Brexit methu penderfynu i pa blaid gwrth Brexit fyddai orau i bleidleisio iddi – y Blaid fyddai’r gorau o lawer.  Byddai plaid sy’n gwrthwynebu Brexit yn dod ar ben y pol yn gwneud datganiad cryfach o lawer na dwy sedd i bleidiau gwrth Brexit – ond gyda Plaid Brexit ar ben y pol. Byddai hefyd yn ypsetio Nigel Farages a Rees Moggs y byd yma yn fwy na dim.

Ffantasi ddi gyfnewid Llafur Arfon

Fel mae pawb sy’n gyfarwydd efo Plaid Lafur Arfon yn gwybod, mae nhw yn treulio cryn dipyn o amser ac ynni yn ffraeo – efo’i gilydd yn bennaf.  Weithiau bydd hynny yn torri i wyneb y dwr – yn amlach na pheidio (ond ddim pob tro) ar un o wefannau cymdeithasol eu hunig gynghorydd yng Ngwynedd – Sion Jones.

Cwyno oedd o ddoe nad fo ydi ymgeisydd Llafur ar gyfer Arfon yn etholiadau San Steffan.  Yn naturiol ddigon ynghanol y cwyno am ei blaid ei hun mae’n cwyno am Blaid Cymru a’i ardal ei hun.  Bydd o gryn syndod i’r cannoedd lawer o bobl sydd wedi heidio i draeth Dinas Dinlle yn haul y dyddiau diwethaf bod Sion yn ystyried bod y lle yn ‘ddymp’ o dan Cyngor Gwynedd.  Mae o hefyd wrthi’n  cwyno bod y Blaid wedi cael eu hethol yn Arfon ers 45 o flynyddoedd (rhywbeth sydd ddim yn wir wrth gwrs – dim ond yn 2005 y daeth Arfon i fodolaeth fel etholaeth.

Mae’r naratif yma – bod Arfon yn ddymp ac mai cynrychiolaeth Plaid Cymru yn San Steffan a’r Cynulliad yn diwn gron gan yr hen griw o Lafurwyr yn Arfon.  Mae’r criw yma wedi colli rheolaeth ar Lafur yn Arfon gyda llaw – ond stori i flogiad arall ydi

Y brif broblem efo’r naratif ydi ei bod yn nonsens llwyr a chyfangwbl.  Wrth safonau Cymru ‘dydi Arfon ddim yn etholaeth dlawd – ac o gymharu ag etholaethau sy’n pleidleisio i Lafur yn ddi eithriad, mae’n etholaeth eithaf cyfoethog.

Os ydym yn cymharu Arfon efo’r etholaethau sydd wedi cael eu cynrychioli yn ddi dor neu fwy neu lai’n ddi dor gan Lafur mae yna wahaniaeth sylweddol mewn safonau byw – ac mae’r gwahaniaeth hwnnw yn ffafrio Arfon.  Cymerer – er enghraifft Aberafon.  Nid  hon ydi’r etholaeth Lafur dlotaf o ddigon – yn wir mae’n ddigon nodweddiadol o etholaethau Llafur yng Nghymru.   

Enillwyd y sedd gan Ramsay McDonald i Lafur yn 1922 – bron i gan mlynedd yn ol – ac mae Llafur wedi ennill pob etholiad yno ar lefel San Steffan a Cynulliad ers hynny.  Bydd Llafur yn cael tua 70% yn rheolaidd.  Dydi’r etholaeth ddim yn llewyrchys wrth safonau Gorllewin Ewrop.  Llafur sydd wedi rheoli’r cyngor lleol ers i hwnnw gael ei ffurfio hefyd.
Mae 21% o drigolion yr etholaeth yn byw yn y cymdogaethau mwyaf amddifiedig yn y DU (8% ydi’r ganran yn Arfon).  Mae cyfraddau hyd bywyd tua dwy flynedd yn is yn Aberafan nag yw yn Arfon.  Mae 25% o’r boblogaeth yn economaidd anweithgar o gymharu a 19% yn Arfon.  Mae 32% o’r boblogaeth mewn swyddi proffesiynol o gymharu a 46% yn Arfon.  Nid oes gan 32% o’r boblogaeth unrhyw sgiliau o gwbl o gymharu a 25% yn Arfon.  Mae cyflogau wythnosol yn Arfon tua £60 yn wythnos yn uwch nag ydynt yn Aberafan, ac mae prisiau tai £12k yn uwch yn Arfon.  Mae safonau addysg yn sylweddol uwch.  Yn wir cymaint yr amddifadedd yn Aberafan mae 30% o blant yn cael prydau ysgol am ddim.  13% ydi’r ganran gyfatebol yn Arfon.  Mae llawer mwy o drigolion Aberafan yn dioddef o anabledd ac o dan law doctor, ond mae yna lawer llai o ddoctoriaid yno.


Ffigyrau o 2015 (y diweddaraf sydd ar gael) ac i’w gweld yma.  


Ond ‘dydi dyn ddim mymryn callach o dynnu sylw ein cyfeillion Llafur yma yn y Gogledd at ffeithiau a phethau anghyfleus felly.  Mae’r syniad mai aelodau etholedig lleol sy’n gyfangwbl gyfrifol am lewyrch- neu ddiffyg llewyrch – lleol,  cyn belled nad ydi’r aelodau etholedig yna yn Lafurwyr sy’n cynrychioli ardaloedd tlawd, wedi ei wreiddio’n rhy dwfn i’w symud.  

Dyfodol Gogledd Iwerddon a Brexit

Canolbwynt anisgwyl y ffrae Brexit ydi Gogledd Iwerddon a’i statws cyfansoddiadol.  Mae’n hawdd anghofio bod y backstop sydd wedi bod yn destun cymaint o wichian gan y DU yn rhywbeth wnaeth y DU ei hun ofyn amdano.  

Yn amlwg mae’n bwysig – yn hanfodol bwysig – i’r UE bod ei ffiniau allanol wedi eu diogelu er mwyn sicrhau nad ydi nwyddau ac ati sydd ddim yn cyfarfod a rheoliadau’r UE yn dod i mewn trwy’r drws cefn.  Y ffordd amlwg i wneud hyn ydi i gadw Gogledd Iwerddon oddi mewn i’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau – a dyna oedd yr UE am ei wneud.  Roedd hyn yn anerbyniol i’r DUP, ac roedd mwyafrif seneddol y Toriaid yn ddibynol ar ewyllys da y criw lliwgar hwnnw.  Felly awgrymodd Prydain drefn lle fyddai Prydain gyfan yn aros oddi mewn i fframwaith rheoliadol yr UE tan bod cytundeb masnachu parhaol yn cael ei gytuno.  Ac yn y fan yna aeth pig yr holl broses Brexit yn sownd.
Felly mae Brexit yn debygol o gael ei aberthu ar allor undod cyfansoddiadol y DU.  Ond pa mor saff ydi’r undod hwnnw beth bynnag?  Mae’r ateb i hynny i’w gael mewn ystadegau.

Dwi’n gwybod o’r gorau bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gwybod hyn yn iawn. ond mae’n siwr y byddai’n werth ei ail adrodd cyn ei fod yn rhywbeth nad oedd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon Karen Bradley yn ei ddeall.  Mae yna berthynas clos iawn rhwng cefndir crefyddol pobl a’u hunaniaeth cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae yna berthynas yr un mor glos rhwng hunaniaeth genedlaethol a phatrymau pleidleisio.  
Mae’r rhan fwyaf o bobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i’r pleidiau cenedlaetholgar – yr SDLP a Sinn Fein tra bod y rhan fwyaf o bobl o gefndir Protestanaidd yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.  Mae yna dir canol – ac mae hwnnw ar 
 o bryd yn cael ei lenwi gan Y Blaid Werdd ac Alliance – ond mae’r tir hwnnw yn gymharol fach.  
Ymhellach mae’r eithafion yn gryfach na’r cymhedrol oddi mewn i’r blociau pleidleisio ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Erbyn hyn mae tros i 70% o’r bleidlais genedlaetholgar yn mynd i Sinn Fein ac mae tros i 70% o’r bleidlais unoliaethol yn mynd i’r DUP.  Yn 2017 aeth  11 sedd i unoliaethwyr a 7 i genedlaetholwyr – y cwbl o’r rheiny i Sinn Fein a’r cwbl o’r rhai unoliaethol ag eithrio un i’r DUP. 
Roedd Gogledd Iwerddon wedi ei greu’n benodol o’r dechrau’n deg i fod a mwyafrif Protestanaidd – a llwyddodd y weinyddiaeth unoliaethol yn Stormont i gynnal mwyafrif o tua 2:1 hyd at cychwyn y rhyfel hir yn 1969 – er gwaethaf cyfradd geni Papyddol uwch.  Roedd hynny’n cael ei adlewyrchu yn y patrymau pleidleisio wrth gwrs.  Enillwyd 11 o’r 12 sedd San Steffan gan unoliaethwyr yn Etholiad Cyffredinol 1966 gyda Gorllewin Belfast yn unig yn ethol cenedlaetholwyr.
Dechreuodd y boblogaeth Babyddol ddringo gymharol gyflym wedi cychwyn y rhyfel yn 1969 – yn rhannol oherwydd i lywodraeth y DU gael gwared o’r strwythurau oedd wedi disgrimineiddio yn erbyn Pabyddion mewn meysydd fel tai a chyflogaeth.
Mae’r newidiadau demograffig yma – fel rydym wedi gweld – yncael eu adlewyrchu mewn patrymau pleidleisio.  Mae’r ddwy etholiad diweddaraf (un Cynulliad Gogledd Iwerddon a San Steffan) wedi arwain at lai na hanner y pleidleisiau yn mynd i’r pleidiau unoliaethol am y tro cyntaf – roedd cyfanswm y pleidiau cenedlaetholgar a’r canol yn uwch.
Ond beth am y dyfodol?  
Wel, mae yna lwyth o ddata am ddemograffeg yn cael ei goledu yng Ngogledd Iwerddon yn flynyddol – yn rhannol oherwydd gofyniadau statudol i fonitro bod cyflogaeth yn deg ac yn adlewyrchu’r gymdeithas ehangach.  Mae’r tabl isod yn dangos data sydd wedi ei hel wrth lunio adroddiad cyflogaeth blynyddol y dalaith.

Oed (2017) PabyddionProtestaniaid
16+41%42%
16 – 2445%33%
16 – 5943%38%
60+35%54%

Yr hyn sy’n drawiadol yma ydi’r ffaith bod mwyafrif mawr o bensiynwyr yn Brotestaniaid – ond pan ydan ni’n cyrraedd oedrannau ieuengach mae yna fwyafrif Pabyddol mawr – a chynyddol.
Beth felly am y dyfodol?  Wel mae mae’r cyfrifiad ysgolion yn dweud wrthym bod 51% o’r plant sydd yn ysgolion y dalaith yn Babyddion a 33% yn Brotestaniaid.  Mae’r gweddill yn syrthio i gategoriau eraill – yn bennaf pobl sydd ddim yn fodlon datgelu crefydd eu plant.  
Gallwn ddod i ddau gasgliad o hyn.  Yn gyntaf mae tua’r un faint o Babyddion a Phrotestaniaid yn y boblogaeth sy’n pleidleisio bellach.  Yn ail – ag ystyried oedran y blociau crefyddol gallwn fod yn siwr y bydd y boblogaeth sy’n pleidleisio yn mynd yn fwy Pabyddol (ac felly cenedlaetholgar) pob blwyddyn, ac yn llai Prorestanaidd (ac unoliaethol) pob blwyddyn.  
Gallwn felly ddweud bod y seiliau sy’n cynnal lle Gogledd Iwerddon yn wan iawn.  Mi fyddai’n baradocs rhyfedd petai cyfle’r sawl sydd o blaid Brexit yn cael ei golli i amddiffyn statws cyfansoddiadol rhan o’r DU sy’n statws anghynaladwy beth bynnag.

Yr enwog ddeiseb fesul etholaeth

Mae’r ffigyrau yma wedi dyddio rhyw gymaint – neithiwr wnes i fynd ati i edrych – ond wele’r canrannau sydd wedi arwyddo’r enwog ddeiseb i wyrdroi Erthygl 50:

Ynys Mon – 5.95%

Arfon -10.08%

Meirion Dwyfor – 6.83%

Aberconwy – 7.22%

Gorllewin Clwyd -6.31%

Dyffryn Clwyd – 4.78%

Delyn –  5.78%

Alyn a GD – 5.58%

Wrecsam – 5.06%

De Clwyd – 4.92%

Trefaldwyn – 6.49%

Brycheiniog / Maesyfed – 7.78%

Ceredigion – 9.3%

Dwyrain Caerfyrddin – 6.24%

Preseli Penfro – 6.11%

Gorll C/fyrddin / De Penfro – 5.65%

Llanelli – 4.42%

Gwyr –  7.68%

Gorll Abertawe – 7.72%

Dwyr Abertawe – 4.18%

Castell Nedd – 4.54%

Aberafan – 4.02%

Ogwr – 4.2%

Rhondda – 3.18%

Cwm Cynon – 3.42%

Merthyr – 3.22%

Blaenau Gwent – 2.79%

Torfaen – 4%

Islwyn – 3.78%

Caerffili – 4.87%

Pontypridd – 6.37%

Penybont – 5.82%

Bro Morgannwg – 7.17%

Gorll C/dydd – 11.12%

Gogledd C/dydd – 11.69%

Canol Caerdydd – 11.48%

De Caerdydd – 9.05%

Dwyrain Casnewydd – 4.78%

Mynwy – 9.23%

Polio diweddar – PC vs Llafur

Mae yna gryn dipyn o sylw wedi ei roi i ddau bol piniwn diweddar – y naill gan YouGov a’r llall gan ICM – sy’n awgrymu bod y gefnogaeth i’r Blaid ar gynnydd tra bod cefnogaeth Llafur yn lleihau.  Wna i ddim edrych arnyn nhw’n fanwl – mae eraill wedi gwneud hynny – yma er enghraifft.

Yn hytrach na hynny ceisiaf edrych ar yr hyn mae’r polau yn ddweud wrthym mewn cyd destun hanesyddol.  Mi wnawn ni gychwyn efo cip ar y ddau bol:

ICM  Llafur 34 %  Plaid Cymru 27%  Torïaid 23%  UKIP 5% Dib Lems 7% 

YouGov  Llafur 32 %  Plaid Cymru 23%  Torïaid 26%%  UKIP 7% Dib Lems 8% 

Efallai mai’r meincnod gorau os ydym eisiau dod i farn ynglŷn a pherfformiad pa mor dda ydi hwn  ydi etholiadau gorau’r Blaid erioed – etholiad Cynulliad 1999.

1999 Llafur 37.6 %  Plaid Cymru 28.4%  Torïaid 15.8%  Dib Lems 13.5%

Yn amlwg mae’r perfformiad ICM yn arbennig yn cymharu’n dda efo hyn – ac mae’n cymharu’n dda iawn efo perfformiad y Blaid yn 2016.

2016 Llafur 34.7%  Plaid Cymru 20.5%  Torïaid 21.1% UKIP 12.5% Dib Lems 7.7%

Os ydym eisiau edrych ar y newid mewn termau gogwydd oddi wrth Llafur tuag at Plaid Cymru mae’r pol YouGov yn awgrymu gogwydd o 2.6% tra bod y pol ICM yn awgrymu gogwydd o 3.6%. 

O edrych ar bethau yn y ffordd yna dydi’r gogwydd at y Blaid yn y polau ddim yn arbennig o fawr. Yn 2016 roedd gogwydd oddiwrth Llafur tuag at y Blaid yn 4.4% – er mai cwymp yn y gefnogaeth i Lafur oedd yn gyfrifol am hynny i raddau helaeth yn hytrach na chynnydd yng nghefnogaeth y Blaid.  Aeth canran Llafur o’r bleidlais i lawr  7.6% ac aeth canran Plaid Cymru i fyny 1.2%.

Felly sut oedd y Blaid yn gwneud o gymharu a Llafur yn 2016?

Yn amlwg roedd y Blaid o flaen Llafur yn y 6 etholaeth sy’n cael ei gynrychioli ganddi ar hyn o bryd – Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion, Dinefwr / Dwyrain Caerfyrddin a’r Rhondda.  Mae’r gwahaniaeth mwyaf (37.8%) mewn etholaeth sy’n cael ei chynrychioli gan Lafur yn San Steffan gyda llaw – Ynys Mon.

Ond mae tair etholaeth arall lle cafodd y Blaid fwy o bleidleisiau na Llafur, ond lle na enillwyd yr etholaeth gan y naill blaid na’r llall.  Aberconwy, Maldwyn a Gorllewin Clwyd ydi’r rhain.  Mae’r Blaid ymhell y tu ôl i’r Torïaid ym Maldwyn, yn nes atynt yng Ngorllewin Clwyd ac o fewn tafliad carreg yn Aberconwy.  

Rydym eisoes wedi edrych ar y gogwyddau tuag at y Blaid sy’n cael eu hawgrymu mewn polau diweddar.  Ond beth mae hynny’n ei awgrymu am faint o seddi (etholaeth) ychwanegol mae’r Blaid yn debygol o’u hennill.

Byddai gogwydd o 1% i’r Blaid yn arwain at fuddugoliaeth yn Llanelli.

Byddai Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd yn syrthio ar ogwydd o 2%.

Ar ogwydd o 3% byddai Caerffili’n syrthio.

Byddai gogwydd o 4% o Lafur i’r Blaid yn arwain at ennill Aberconwy – cyn belled a bod pleidlais y Torïaid yn aros yn gyson neu’n syrthio.

Byddai gogwydd o 6% yn arwain at fuddugoliaeth i’r Blaid yng Nghastell Nedd.

Felly byddai gogwydd cyson ar draws y wlad o 6% yn arwain at ddwblu seddi etholaeth y Blaid.  Pa mor aml mae gogwydd felly yn digwydd?  Wel – dydi o ddim yn beth mor brin a hynny yng nghyd destun llywodraethau datganoledig.   Roedd gogwydd ychydig yn uwch na hynny o Lafur i’r SNP yn 2007 – y tro cyntaf i’r SNP ffurfio llywodraeth yn Holyrood.  Roedd yna ogwydd tebyg oddi wrth Lafur tuag at  yr SNP eto yn 2011 ac roedd yna ogwydd ychydig yn llai (tua 5%) oddi wrth Llafur i’r SNP yn 2016.  Roedd y gogwydd oddi wrth y Blaid tuag at Lafur yn 4.8% yn 2016.  Felly mae gogwydd o 6% – a dwblu seddi uniongyrchol y Blaid yn ddigon posibl – ond beth am ogwyddau mwy na hynny?

Mae gogwyddau mwy yn brin mewn etholiadau cyffredinol Prydain gyfan, ond mae’n digwydd weithiau.  Y symudiad mwyaf oedd gogwydd o 14.4% oddi wrth Lafur i’r Llywodraeth Genedlaethol yn 1931.  Cafwyd gogwyddau o 11.8% a 10.2% oddi wrth y Torïaid at Lafur yn 1945 a 1997.

Ac os ydi’r Blaid i ddod yn agos at yr 20 sedd sydd eu hangen i gael hanner y seddi uniongyrchol mae angen gogwydd sylweddol uwch na 6%.  Byddai dwblu’r gogwydd i fymryn mwy na 13% yn ychwanegu 4 sedd arall yn unig – Wrecsam, Islwyn, Gorllewin Abertawe a Phontypridd.  Mae’n rhaid i ni fynd at 15% i gyrraedd yr 20 – byddai Torfaen, De Caerdydd, Bro Morgannwg a Merthyr yn syrthio efo gogwydd felly.  Mae’n werth nodi bod y Blaid lai nag 20% y tu ôl i’r Torïaid yng Ngorllewin Clwyd hefyd – byddai’r math yma o symudiadau tuag at y Blaid yn ei rhoi efo cyfle yn y fan honno.

Ydi gogwydd o 15% yn digwydd yn aml?  Wel ydi a nag ydi – fel rydym wedi gweld.  Ond mae’n digwydd yn rheolaidd mewn is etholiadau – yn wir mae 23 esiampl o ogwydd o fwy na 20% yn y ganrif ddiwethaf mewn is etholiadau San Steffan.  Ond mae’n anodd meddwl am lawer o esiamplau etholiadau gwlad gyfan.  Ac efallai mai dyma fydd yr her i’r Blaid yn 2021 – ceisio atgynhyrchu rhai o amodau is etholiad.  Mae’n fwy na phosibl y bydd amgylchiadau ôl Brexit yn rhoi cyfle unigryw i wneud hynny.

*Ffigyrau etholiadau Cynulliad i gyd yn cyfeirio at y bleidlais etholaethol a nid y bleidlais ranbarthol.