Llongyfarchiadau _ _ _

_ _ _ i berchenog y ty yma ym Mrynrefail am gael y lle wedi ei werthu mor gyflym – aeth ar y farchnad yn dilyn newidiadau sylweddol yn ei gynlluniau ddechrau mis Mai.  Gobeithio y bydd yn hapus yn ei gartref arall –  yn Neganwy neu lle bynnag mae hwnnw.
Mi fyddwn i’n bersonol wedi gofyn ychydig mwy na £180k mewn pentref mor ddeniadol a Brynrefail, ond dyna fo – efallai ei fod ar frys i adael

Prif wrthblaid ei mawrhydi?

Felly mae Llafur o blaid cyfyngu codiadau cyflog gweithwyr sector gyhoeddus i 1% am 4 blynedd.
Ac maen nhw o blaid rhoi cap ar fudd daliadau.
Ac maen nhw o blaid cyfyngu credydau treth i deuluoedd efo dau o blant.
Cofiwch hynny pan maent yn dod i ofyn i chi am bleidlais gennych flwyddyn nesaf, a chofiwch hynny pan maent yn mynd trwy’r rigmarol arferol o ddweud ‘Vote Plaid get Tory’.  
Ychydig iawn, iawn o wahaniaeth sydd yna rhwng Llafur a’r Toriaid yn y pen draw.

Y Western Mail, etholiadau mewnol y Blaid, ac etholiadau mewnol yToriaid

Mae ymdriniaeth ddiweddar y Western Mail o hanes yr etholiad fewnol agos Leanne a Neil am enwebiaeth y Blaid yng Nghanol De Cymru yn ddadlennol.  
Cafodd y Mail wybodaeth gan aelod o’r Blaid Lafur o agosatrwydd y gystadluaeth.  Aeth prif ohebydd y papur, Martin Shipton ati i gynhyrchu cyfres o straeon ar y pwnc, oedd yn cynnwys esgyrn sychion (gwir) y stori, troelli ffeithiol anwir Llafur (bod yr aelodaeth yn ddrwg dybus o Leanne) a stwff oedd yn ffrwyth dychymyg llwyr (bod ymchwiliad mewnol yn mynd rhagddi i ddarganfod pwy ryddhaodd y stori i’r troellwr Llafur David Taylor).  Aeth y Shipton ati ymhellach i gynhyrchu erthygl oedd yn mynnu bod y Blaid yn cyhoeddi  holl ganlyniadau ei etholiadau mewnol.  Nodwyd yn y llinell olaf, a theitl yr erthygl y dylai pleidiau eraill wneud hynny hefyd – ond roedd y stori’n ymwneud yn llwyr ag etholiad fewnol Plaid Cymru.

Anaml y bydd unrhyw blaid yn rhyddhau’r math yna o wybodaeth – i raddau helaeth i osgoi’r hyn ddigwyddodd yn yr achos hwn – bwydo troelli negyddol gan bleidiau eraill a newyddiaduriaeth anghyfrifol, unochrog ac anonest fel un Shipton.
Beth bynnag, ymddengys bod Shipton eisiau gwybod union ganlyniadau pob hystings am enwebiaeth i sefyll mewn etholiadau cyngor plwyf, ond am rhyw reswm mae yna stori llawer gwell o ddiffyg trylwyder a democratiaeth o flaen ei lygaid, ond dydi o ddim eisiau dim i ‘w wneud efo hi – y ffordd mae’r Toriaid yn dewis eu hymgeiswyr rhanbarthol.
Dydw i ddim yn un am gymryd rhan mewn ffrae drydarol fel rheol, ond dwi wedi ceisio gofyn i Shipton pam mae eisiau adrodd ar un stori, tra nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb yn y llall.  Dydw i heb gael ateb – neu o leiaf ateb sy’n gwneud synnwyr.

Os ydw i’n deall trefn dewis ymgeisyddion rhanbarthol y Toriaid yn iawn mae’n gweithio rhywbeth fel hyn.  Os mai un aelod sydd gan y Toriaid yn y rhanbarth, yna mae’n cael ei roi ar ben y rhestr yn ddi wrthwynebiad, am mae cystadleuaeth ddemocrataidd am y tri lle arall.  Os oes yna ddau aelod, mae’r ddau yn cystadlu am y ddau le cyntaf, ac mae pawb arall yn cael ymgeisio am y ddau safle arall.  Nid oes gan y sawl sydd yn y ddau safle gwaelod lawer o obaith o gael eu hethol.

Mae Shipton yn gwybod hyn, ac mae wedi cadarnhau hynny yn ystod y ddadl trydar.

Rwan mae’r gyfundrefn yma yn rhyfeddol a anghynwysol ac anemocrataidd.  Mewn hinsawdd lle mae’r rhan fwyaf o bleidiau yn ceisio ehangu eu hapel, mae fel petai’r Toriaid Cymreig yn ceisio cyfyngu eu hapel nhw.  O’r wyth aelod rhanbarthol Toriaidd mae saith yn ddynion canol oed – neu hyn na hynny.  Mae’r Toriaid Prydeinig yn arbrofi efo hystings agored er mwyn ehangu’r nifer sy’n cael enwebu eu hymgeiswyr.  Mae’r Toriaid Cymreig yn mynd i’r cyfeiriad arall a gwneud eu proses mor gaedig a phosibl.  I bob pwrpas mae trwch aelodaeth y Blaid Doriaidd yng Nghymru yn cael eu torri allan o’r posibilrwydd o gael eu hethol yn aelodau cynulliad.  
Efallai bod y gyfundrefn yma yn osgoi’r posibilrwydd o sioc anymunol, ond mae hefyd yn sylfaenol anemocrataidd.  Gallai aelod rhanbarthol Toriaidd dreulio’r rhan fwyaf o’i ddiwrnod gwaith ym Mae Caerdydd yn yr Eli Jenkins yn hytrach nag yn y Cynulliad, ac ni fyddai’n rhaid iddo boeni ‘n ormodol am beidio a chael ei enwebu i sefyll tros y Toriaid.  
Eto – er bod ganddo stori dda am ddiffyg atebolrwydd a diffyg trolwyder go iawn –  dydi’r Western Mail ddim eisiau dim byd i’w wneud a hi.  Dwi wedi gofyn i Martin Shipton pam ac mae’n ateb trwy ddweud mai pobl lwythol fel fi sy’n stopio pobl rhag cefnogi’r Blaid, y dyliwn weld y llun maw (fel fo ma’n debyg) a bod Pleidwyr yn flin fo’r Toriaid oherwydd iddynt gael mwy o bleileisiau na ‘r Blaid yn etholiadau eleni.  Gwnewch beth ydych eisiau o hynny – ond mae’n swnio i mi fel dyn yn ceisio osgoi ateb cwestiwn.
Gan nad ydi Shipton yn awyddus i esbonio ei safonau dwbl ei hun a’i bapur, mi dria i.  Mae’r Western Mail – a’r cyfryngau Cymreig ehangach yn sylfaenol sefydliadol ac unoliaethol yn y ffordd maent yn canfod y Byd, ac maent yn naturiol amheus o unrhyw beth sydd ddim yn sefydliadol ac unoliaethol.  Felly mae’r ffaith nad ydi’r Blaid yn cyhoeddi union ganlyniadau’r rhan fwyaf o’i etholiadau mewnol werth gwneud stori ohoni – mae’n cadarnhau canfyddiad y cyfryngau o natur amheus yr hyn sy’n wahanol iddyn nhw.  Dydi’r ffaith nad oes yna’r un blaid unoliaethol, sefydliadol arall ym Mhrydain yn cyhoeddi’r ffigyrau yma chwaith ddim yn ddigon i greu stori – mae’r cyfryngau yn uniaethu’n naturiol efo’r pleidiau hynny, a dydyn nhw ddim eisiau tystiolaeth o natur amheus y pleidiau hynny.  
Dydi prosesau mewnol anemocrataidd plaid unoliaethol ddim o ddiddordeb chwaith – am yn union yr un rheswm.

Leanne, Neil ac ymdriniaeth Shipton – hanes o wendid Llafur


 Mae’r etholiad y Cynulliad yn  rhyw gychwyn yn gynnar y tro hwn – Golwg yn llawn o luniau anferth o wleidyddion Llafur ddydd Iau diwethaf, a’r Western Mail yn dawnsio’n ufudd i droelli’r Blaid Lafur yr wythnos yma. Mi adawan ni lonydd i Golwg am y tro, mae’r hyn sy’n gyrru’r cylchgrawn hwnnw i boeni’n niwrotig nad yw’n ddigon Llafuraidd tipyn yn wahanol i’r hyn sy’n gwneud i’r Western Mail ysgrifennu nonsens. Dwi’n siwr y byddwn yn dod yn ol at Golwg maes o law.

Ta waeth, ymlaen at y Western Mail.  Mae’r Western Mail wedi rhedeg nifer anhygoel o  storiau yr wythnos yma ar ganlyniadau hystings Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru.  Mae rhan o’r hyn sy’n cael ei honni yn wir, tra bod rhan yn sicr ddim yn wir.  Gweler yma, yma ac yma er enghraifft.

Esgyrn sychion y stori i’r Cynghorydd Neil McEvoy o’r Tyllgoed, Caerdydd ddod yn agos i guro Leanne i frig y rhestr yn dilyn yr etholiad fewnol am ymgeisyddiaeth rhestr Canol De Cymru.  Petai hynny wedi digwydd yna byddai Leanne yn llai tebygol o gael ei hethol i’r Cynulliad yn 2016 – er y byddai dau lwybr yn agored iddi o hyd – gallai gael ei hethol yn y Rhondda, a gallai gael ei hethol fel ail ddetholyn ar y rhestr.  Yn wir mae’r ddau lwybr yna’n agored i Neil rwan – yn yr amgylchiadau sydd ohonynt mae Gorllewin Caerdydd yn enilladwy i’r Blaid – Neil ydi ymgeisydd y Blaid yn yr etholaeth honno.




Cyn bod David Taylor – un o arch droellwyr Llafur yng Nghymru – wedi darparu’r Byd a’r Betws efo manylion agosatrwydd y canlyniad mae’n gwbl briodol i’r Western Mail wneud stori o’r peth.  Yr hyn sy’n llai priodol fodd bynnag ydi i’r papur ail gynhyrchu’r sbin Llafuraidd o geisio creu naratif o rwygiadau, embaras eithriadol ac ymchwiliadau mewnol.  Mae’r rhan yna o’r stori yn gelwydd a dim byd arall.

Dydi hi ddim yn arbennig o anodd egluro’r canlyniad agos mewn termau sy’n cyd fynd yn well a’r hyn ydi’r Blaid.  Mae Neil yn gynghorydd hynod effeithiol a charismataidd sydd a phroffeil uchel iawn yng Nghaerdydd.  Yn wir, gellir dadlau ei fod o a’r grwp bach iawn o Bleidwyr sydd ar y cyngor wedi dal y weinyddiaeth Lafur i gyfri yn llawer mwy effeithiol na mae’r grwpiau Toriaidd a Dib Lemaidd wedi.  Mae’r rhan fwyaf o aelodau Plaid Cymru Canol De Cymru yn byw yng Nghaerdydd, ac yn darllen yn rheolaidd am Neil yn y papurau lleol. Fel arweinydd plaid does gan Leanne ddim cymaint o amser na Neil i wneud yr hyn mae’n rhaid ei wneud i sicrhau bod cefnogwyr yn gwneud eu ffordd i ‘r hystings.  Roedd yna ganfyddiad y byddai Leanne yn ennill yn hawdd beth bynnag oherwydd ei bod yn arwain y Blaid, felly roedd yna leiafrif o bobl oedd yn gefnogol i Neil ar lefel leol yn teimlo’n rhydd i bleidleisio iddo er mwyn ceisio sicrhau’r ail le.  Bu bron iddo ennill y lle cyntaf.




Rwan mae pethau fel hyn yn digwydd mewn etholiadau mewnol – a dyna pam yn ol pob tebyg nad ydi’r Toriaid yn trafferthu efo rhyw nonsens fel democratiaeth fewnol.  Mae’n stori fach dda – ond dyna’r cwbl ydi hi.

Beth sydd ddim yn wir fodd bynnag ydi’r naratif bod rhyw hollt fawr yn bodoli, a bod swyddogion candryll y Blaid wrthi bymtheg y dwsin yn cynnal ymchwiliadau er mwyn cael gwybod sut y cafodd David Taylor y wybodaeth am y canlyniad.  Does yna ddim ymchwiliad o unrhyw fath yn digwydd – a dwi eto i ddod ar draws swyddog candryll – na hyd yn oed tipyn yn flin.  

Pan mae anfodlonrwydd gydag arweinydd plaid, mae hynny’n weddol amlwg i bawb – mae swn y cecru tu ol i ddrysau caedig un treiddio’r waliau ac mae straeon yn cael eu rhyddhau  i’r wasg byth a hefyd.   Dylai Llafur wybod hyn – mae pob un o’u harweinwyr nhw ers y saith degau (gydag eithriad John Smith) wedi gorfod ymdopi efo cynllwynio a checru mewnol.  Does yna ddim rhwyg mewnol ynglyn a’r arweinydd yn y Blaid a does yna ddim ymchwiliad mewnol yn mynd rhagddo i unrhyw beth o gwbl ar hyn o bryd.

Beth sydd gennym fodd bynnag ydi Llafur yn defnyddio  naifrwydd y Western Male / Walesonline er mwyn tanseilio arweinydd Plaid Cymru.  Dydi hi ddim yn anodd deall pam bod hynny’n digwydd chwaith – mae arweinydd Plaid Cymru yn fwy adnabyddus nag arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae bron i pob sylwebydd annibynnol yn ei hystyried yn ased sylweddol i’r Blaid.  Dyna pam bod arweinydd diog a di fflach Llafur Cymru wedi cael ei anfon ar daith o amgylch Cymru i smalio ei fod yn gwrando ar bobl, a dyna pam yr troelli yn erbyn Leanne.  

Gallwn ddisgwyl llawer, llawer mwy o hyn tros y misoedd nesaf.  Wedi’r cwbl y peth diwethaf mae Llafur ei eisiau ydi ymladd etholiad ar eu record mewn llywodraeth.  

Tystiolaeth bod Llafur mewn lle gwael ydi’r holl droelli mewn gwirionedd.

Dyfodol S4C yn nwylo pobl cwbl ddi hid am ddyfodol y Gymraeg

Dydi o ddim yn syndod wrth gwrs bod y Toriaid eisiau parhau gyda’r broses o ddad berfeddu S4C a gychwynwyd ganddynt yn ol yn 2010.  Dydi o ddim yn syndod chwaith bod Tori o Sais yn ei hystyried yn ‘rhesymol’ i S4C gymryd toriad cyffelyb i un y Bib – er mai un sianel Gymraeg sydd yna yn y Byd, tra bod yna gymaint o rai Saesneg nes ei bod yn nesaf peth i amhosibl i’w cyfri.  Wedi’r cwbl dydi dyfodol y Gymraeg yn golygu dim i bobl fel Mr Wittingdale.  
Cyn lleied o syndod ag ydi agwedd y Toriaid at S4C a’r Gymraeg, o’r ochr yma i Glawdd Offa mae’n amlwg ddigon bod y penderfyniad yn un pwysig iawn o safbwynt dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg, a thrwy estyniad dyfodol y Gymraeg ei hun.  Dydi hi ddim yn briodol nag yn rhesymol bod dyfodol rhywbeth sydd mor bwysig i ddiwylliant Cymru yn nwylo aelod seneddol Maldon.  
Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt mae’n amlwg y dylid datganoli’r gyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru i Gaerdydd.  Mae’n bosibl y byddai’r toriadau yn digwydd beth bynnag, ond byddai’r penderfyniad yn un fyddai wedi ei wneud yng Nghymru gan Gymry.  Byddai’n benderfyniad fyddai wedi ei wneud yng nghyd destun disgwrs gwleidyddol Cymreig a chan bobl sy’n ymwybodol o werth y Gymraeg ac o bwysigrwydd S4C i’w dyfodol.  
Ar hyn o bryd mae S4C yn cael ei diberfeddu’n fyw gan bobl sydd a dim dealltwriaeth o gwbl o’i phwysigrwydd diwylliannol.  Mae hynny’n drychineb cenedlaethol.

Gohebiaeth diweddaraf Ann Griffith

Fel y gwyddoch dwi’n fwy na pharod i gyhoeddi gohebiaeth hystings unrhyw Bleidiwr sydd am i mi wneud hynny.

Dyma’r diweddaraf gan Ann Griffith sy’n sefyll am enwebiaeth y Gogledd.  Mae un hystings eisoes wedi ei gynnal, ac mae dau arall ar y gweill – y naill yn Theatr y Stiwt, Rhos am 7.30 dydd Iau, a’r llall yn Theatr Seilo, Caernarfon am 10.30 ddydd Sadwrn.  
Os oes rhywun arall (mewn unrhyw ranbarth) eisiau i mi gyhoeddi gohebiaeth, anfonwch gopi trwy ebost.