Enwebiaeth rhestr y Gogledd – Ann Griffith

Mae’n dipyn o arfer bellach i ymgeiswyr ar gyfer enwebiadau i sefyll mewn gwahanol etholiadau ar ran y Blaid anfon peth o’u gohebiaeth i Blogmenai i’w gyhoeddi.  Mae’n debyg bod hynny’n gwneud synnwyr oherwydd bod lwmp go sylweddol o ddarlleniad y blog yn aelodau ‘r Blaid – ac y nhw sy ‘n penderfynu pwy ydi eu hymgeiswyr.  
Beth bynnag Ann Griffith sydd wedi cymryd mantais o’r ddarpariaeth yn gyntaf.  Mae Ann yn gynghorydd yn Ynys Mon tros ward Bro Aberffraw.  Daeth o fewn trwch blewyn i ennill y sedd gyntaf o flaen yr enwog Peter Rogers yn yr etholiadau cyngor diwethaf – cryn gamp.   Mae wedi rhoi ei henw ymlaen ar gyfer enwebiaeth ar restr Gogledd Cymru.
Mae croeso cynnes i unrhyw ymgeisydd arall, o unrhyw ranbarth anfon ei ohebiaeth – byddaf yn fwy na pharod i ‘w gyhoeddi.  
*Cliciwch ar y ddelwedd i’w gweld yn glir.

Y canlyniadau lleiaf cyfrannol erioed

Mae’r blog hwn wedi nodi ar sawl achlysur bod y drefn bleidleisio a geir yn y DU yn gwbl anheg, ac wedi awgrymu y byddai mabwysiadu’r dull pleidleisio a ddeifnyddir ym mhob etholiad yng  Ngweriniaeth Iwerddon, pob etholiad Gogledd Iwerddon ac eithrio rhai San Steffan, ac etholiadau lleol yr Alban – STV – yn ffordd gwell o lawer o ddewis cynrychiolwyr etholedig.
Mae’r fideo bach isod yn egluro’n dwt ac yn syml pam bod y drefn sydd ohoni mor ddiffygiol.

Y Toriaid a gwariant ar drwsio senedd-dai

 Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio’r ffasiwn stad y cafodd y Toriaid Cymreig nhw’i hunain ynddo pan benderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol gomisiynu adeilad newydd i fod yn gartref i’r Cynulliad newydd.  Roeddynt yn dadlau bod y gwariant o £100m yn  llawer rhy uchel, ac yn dadlau bod gan y sefydliad gartref hen ddigon da eisoes – yr anghenfil brics coch sydd yn sownd i gefn yr adeilad newydd  hyd heddiw. 




Doedd y ffaith bod mwy o lawer yn cael ei wario tua’r un pryd ar Portcullis House – bloc o swyddfeydd i Aelodau Seneddol yn San Steffan – yn poeni dim arnynt, nac yn achosi unrhyw embaras iddynt.  Mae’r cysyniad ei bod yn iawn gwario yn ddi ben draw ar y senedd ‘go iawn’ yn San Steffan, tra bod unrhyw wariant ar y ‘ffug’ senedd yng Nghaerdydd wedi ei wreiddio yn dwfn yn y ffordd mae’r Toriaid Cymreig yn canfod y Byd.  Felly roedd pobl fel Rod Richards, Nick Bourne a David Davies yn myllio’n ddi ddiwedd bod Cymru yn gwario ar adeilad i leoli ei senedd.

Ac nid prynu adeilad yn unig oedd yn eu poeni – o na.  Mae gwariant ar yr adeilad hefyd yn broblem.  Yn wir roedd David Davies – ac yntau wedi cael dianc o Fae Caerdydd am borfeydd brasach San Steffan erbyn hynny – yn outraged bod £3.2m wedi ei wario ar uwchraddio rhan o’r adeilad tros un haf.  Ei union eiriau oedd:

 I find it outrageous that Ministers in the Welsh Government feel it is appropriate to refurbish their own offices at great expense at a time when, for understandable reasons, cuts are having to be made in public spending.
This sets a very poor example to public sector bodies which are all in the position of having to cut back and prioritise where they spend their money.


A rwan dyma’r newyddion yn dod am y bil uwchraddio / cynnal a chadw yr honglad mawr hyll o adeilad neo Gothaidd sy’n gwbl anaddas i bwrpas  sy’n gwasanaethu fel deddfwrfa’r DU.  Y gost – arhoswch amdani – ydi hyd at  £7.1bn – ia na chi – biliwn nid miliwn.  Mae’r ffigwr yn un mawr – ond i gael rhyw syniad ohono ystyriwch hyn – mae’n swm uwch nag ydi cost y Gwasanaeth Iechyd yn ei gyfanrwydd yn ei gostio yng Nghymru am flwyddyn.



Yr ateb ariannol gyfrifol – y math o beth mae Toriaid yn ei hoffi – i ddyfynbris o’r math yma ydi chwalu’r lle a symud i rhywle arall.  Mae tir adeiladu yn ardal Westminster ymysg y tir drytaf yn y Byd.  Mae’n costio tua £93,300,000 yr hectar.  Mae Palas San Steffan yn sefyll ar 40 hectar – mae’r tir werth £3.73bn.  Mae yna dir adeiladu yn Llundain i’w gael am cyn rhated a £8m yr hectar.  Byddai safle o’r un maint yn costio £320m yn Barking er enghraifft.  Petai’r senedd yn symud o Lundain gellid cael tir am tua £1.5m yr hectar ym Mirmingham – a gellid prynu’r safle am £60m.  Neu wrth gwrs mae yna pob math o lefydd eraill diddorol – Cannock Chace er enghraifft lle mae tir adeiladu yn costio £725,000 yr hectar – gellid prynu’r safle am £30m.  Mi fyddai unrhyw un o’r trefniadau amgen hyn yn caniatau i ‘r wladwriaeth brynu tir, codi senedd newydd sydd efo digon o le i’r holl aelodau seneddol eistedd yno a gadael celc o bres wrth gefn i fynd tuag at dalu’r ddyled genedlaethol yn hytrach na gorfodi’r trethdalwr i ddod o hyd i tros i £7bn.



Dwi’n siwr felly y bydd y Ceidwadwyr Cymreig ar flaen y gad i berswadio’r llywodraeth i beidio a chwythu £7.1bn ar adnewyddu tysteb i ddiffyg chwaeth pensaerniaeth Fictorianaidd. A dwi’n siwr y bydd David Davies yn arwain y Toriaid Cymreig yn hyn o beth.  Os oedd gwario £3.2m ar adnewyddu’r Cynulliad yn cymaint o stwmp arno, mae’n rhaid y byddai talu 2,200 o weithiau c cymaint a hynny ar rhywbeth y gellid gwneud elw arno yn ei anfon i fedd cynnar.

*Ymddiheuriadau am yr amrywiol ffontau – problemau technegol fel mae’r dywediad yn mynd.

Dosbarthiad boncyrs Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder cyfrwng Cymraeg

Dydi gor yrru ddim yn rhywbeth i fod yn arbennig o falch ohono, ond mi ges i fy nal yn gwneud hynny wrth yrru i Lanaelhaearn fis diwethaf – roeddwn yn gwneud 40mya mewn parth 30mya.  

Er syndod i mi cefais ddewis i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth gyrru yn hytrach na chael dirwy a 3 phwynt ar fy nhrwydded.  Yn fy nineweitrwydd cymrais yn ganiataol y byddai cwrs cyfrwng Cymraeg ar gael – ac ymddengys bod cyrsiau felly yn wir i’w cael – ond ddim i drigolion Gogledd Cymru.  Yn ol gwefan TTC Cymru does yna ond cyrsiau i’w cael yn ‘Ne a Chanolbarth Cymru’.  Felly dyma chwilio am gyrsiau Cymraeg yn y De a’r Canolbarth – o chwilio yn ofalus dwi wedi dod o hyd i bedwar – un yng Nghastell Nedd, un yng Nghasnewydd, un yn Abertawe a’r llall yng Nghaerdydd.  Yn ddi amau mae pob un o’r lleoedd yna yn y De – dim un yn y Canolbarth.  Am reswm cwbl amhosibl i’w ddeall mae’r cyrsiau yn cael eu cynnal cyn belled a phosibl o’r ardaloedd hynny lle mae niferoedd sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn y Gogledd.  Mae bron pob cymuned lle mae mwy na 70% o’r boblogaeth yn agos at arfordir y Gogledd, tra bod pob cwrs yn agos at arfordir y De.

Oherwydd fy mod yn gweithio yr unig gwrs cyfrwng Cymraeg sy’n addas i mi ydi un yng Nghaerdydd sydd yn gorffen am 6 o’r gloch ar ddydd Sul.  Gobeithio na chaf fy nal yn gor yrru wrth geisio ei gwneud hi adref mewn pryd i fynd i fy ngwely ar amser call er mwyn medru codi i fynd i ‘r gwaith yn y bore.  

Oes yna unrhyw le arall oni bai am Gymru lle lleolir gwasanaethau cyn belled a phosibl oddi wrth ddefnyddwyr?

*Diweddariad 19/6 – y Mrs wedi dod o hyd i gwrs i mi ym Mangor trwy wneud cais trwy ffonio y TTC – y ddynas yr ochr arall i’r ffon yn dweud bod cyrsiau  yn cael eu cynnig yn y Gogledd ers fis Ionawr – ond nad oedd y Wefan wedi ei diweddaru ers hynny.

Y cynghorau newydd a’r Gymraeg

Yn ol y Bib mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru leihau’r nifer o gynghorau Cymreig o 22 i 8 gydag opsiwn pellach o 9.  Wna i ddim trafod y cynlluniau y tu allan i fy ardal fy hun ar hyn o bryd, ond mae gen i bwt i’w ddweud am yr hyn sy’n debygol o ddigwydd yn y Gogledd Orllewin.

Y bwriad ydi cyfuno Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy yn y Gogledd Orllewin a chyfuno Dinbych, Wrecsam a Fflint yn y Gogledd Ddwyrain – ond cadw opsiwn yn agored o gael tri chyngor yn y Gogledd – Gwynedd a Mon, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.  O ran yr iaith Gymraeg byddai’r ail opsiwn yn llawer gwell.  
Ar hyn o bryd mae Gwynedd yn defnyddio’r Gymraeg fel ei hiaith weinyddol, mae statws y Gymraeg yn llawer llai cadarn yng Nghyngor Ynys Mon, ac yn llai cadarn eto yng Nghyngor Conwy.  Mae polisi  Gwynedd wedi bod yn gryn gefn i’r iaith yn yr ardal, gan sicrhau statws proffesiynol i’r iaith,  a chymhelliad economaidd i Gymry Cymraeg aros ar eu milltir sgwar, ac  i’r di Gymraeg ddysgu’r iaith.
Mae proffeil ieithyddol Gwynedd a Mon yn eithaf tebyg, tra bod un Conwy yn gwbl wahanol.  30.5% o drigolion Mon sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg o gwbl a 26.5% o drigolion Gwynedd sydd yn yr un sefyllfa.  Yng Nghonwy mae’r ganran yn 60.5%.  Mae 56% o drigolion Mon yn siarad yr iaith,  64% o rai Gwynedd, a 27% o bobl Conwy.  

Mae’n wir bod yr hen Gyngor Gwynedd oedd yn bodoli cyn yr ad drefnu llywodraeth leol diwethaf yn cwmpasu llawer o’r tri hen awdurdod, a bod hwnnw yn gymharol Gymreig o ran ei naws, os nad ei weinyddiaeth. Ond dim ond at ardal Llandudno oedd yr hen Wynedd yn ymestyn, byddai’r un newydd yn ymestyn i Fae Cinmel – sy’n newid y proffil ieithyddol yn sylweddol.   Byddai siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif mewn cyngor sydd wedi ei gyfansoddi o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Mon, ond byddant mewn mwyafrif cyfforddus mewn cyngor fyddai wedi ei ffurfio o Gyngor Mon a Chyngor Gwynedd.  

Canlyniad tebygol yr opsiwn Mon / Gwynedd / Conwy ydi y byddai’n llawer anos i gael y gefnogaeth y byddai ei hangen i gael cyngor fyddai’n defnyddio’r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng gweinyddol petai Conwy’n gynwysiedig yn y drefniant newydd.  Gallai fod yn anodd beth bynnag – mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio oherwydd bod yna gonsensws traws bleidiol trosto, a bod yna gefnogaeth eang i’r polisi ar lawr gwlad.  Does yna ddim polisi cyffelyb ym Mon – a dydi hi ddim yn glir bod y gefnogaeth i drefniant cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth gyffelyb yno.

Mae’n bwysig o safbwynt dyfodol yr iaith fodd bynnag bod o leiaf un o’r cynghorau newydd yn mabwysiadu polisi iaith y Wynedd gyfredol.  Mae Leighton Andrews yn un o garedigion yr iaith – ac mae ganddo gyfle go iawn i osod trefn mewn lle a allai fod yn gefn gwirioneddol i’r Gymraeg yn y Gogledd Orllewin.  Mae ganddo gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.  Gobeithio y bydd yn ei gymryd.

George, Leo a’r gweddill

Doeddwn i methu peidio meddwl am y dyfyniad isod o lyfr Leo Abse, Tony Blair, the Man Behind the Smile pan ddarllenais y newyddion am yr ymchwiliad diweddaraf i droseddau rhywiol posibl ar ran y cyn lefarydd Ty’r Cyffredin a’r gwrth Gymreigiwr blaenllaw, George Thomas.

When George died of throat cancer four years ago, Welsh nationalists and their fellow-travellers danced on his grave even as Britain mourned his passing. The nationalist apologists choked with rage that the obituarists, reflecting public opinion, were recording tributes of so many who felt indebtedness to George. 

They lost their usual articulacy and relapsed into gutter abuse. The obituary in the main Anglo-Welsh literary journal declared him to be “swinish”, “cynical”, a “creep”, “possessed of peasant cunning”, “glib”, “tactless”, “pathologically vicious” and “brutal”. The thesaurus was dredged to find pejoratives to be heaped upon his tombstone. They mocked too his “overheated relationship with his Mam”. 

I take pride that I had been able to shield him a little, so that he was unbesmirched when his time came. Led by the Prince of Wales, representing the Queen, Westminster Abbey was packed with 1,400 mourners — not only the great and the good but hundreds of representatives of the charities, chapels and churches to whom he had acted as an inspiration.

Yn nodweddiadol o Abse mae’n mynd ati i ddefnyddio marwolaeth ei gyfaill i ymosod ar bobl mae’n eu hystyried yn genedlaethwyr Cymreig.  Mae’r geiriau am amddiffyn Thomas rhag cael ei faeddu gan ei weithredoedd ei hun yn arbennig o arwyddocaol o gofio bod Abse ei hun yn destun ymchwiliad o droseddu rhywiol ar y cyd efo Thomas.

Rwan, does yna ddim cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth gwrth Gymreig Abse a Thomas a’r hyn maent yn cael eu cyhuddo o’i wneud wrth gwrs, ond mae’r stori yn rhan o batrwm ehangach o gamymddygiad dybryd gan bobl sefydliadol ac yn arbennig felly gwleidyddion yn San Steffan.  Bydd y patrwm hwnnw yn cael ei ddatgelu tros y blynyddoedd nesaf fel y bydd gwahanol ymchwiliadau heddlu yn cyrraedd eu terfyn.  Mae’r patrwm hwnnw yn ei dro yn rhan o’r patrwm ehangach sydd wedi arwain at res di ben draw o selebs – yn cael eu hunain mewn trybeini – rhai cyn marw ac eraill wedi iddynt farw – llawer ohonynt wedi eu hurddo a’u clodfori gan y sefydliad Prydeinig – ac wrth gwrs gan y wasg Seisnig.  Erbyn iddo farw roedd Thomas yn cael ei drin fel rhyw gymysgedd o sant cyfoes a thrysor cenedlaethol. 

Mae’r union bapurau newydd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hunain mewn cyflwr o hysteria hunan gyfiawn pan mae Aelodau Seneddol o’r Alban yn curo dwylo yn y senedd, yn bwyta efo’r staff gweini neu fwyta sglodion yn Nhy’r Cyffredin, nid yn unig wedi methu hyn oll yn llwyr, ond maent wedi treulio degawdau yn clodfori pobl oedd yn ol pob tebyg yn euog o droseddau difrifol.  Mae’n dra anhebygol nad oedd ganddynt unrhyw syniad o’r hyn oedd yn digwydd o dan eu trwyna yn San Steffan.
Ac efallai mai’r brif wers i’w chymryd o hyn oll ydi bod y cyfryngau Seisnig yn eithaf boncyrs mewn materion fel hyn – a llawer o faterion eraill hefyd.  Cofier bod y Bib yn meddwl nad oedd problem rhedeg cyfres o raglenni teyrnged i Jimmy Savile, er bod rheolwyr y gorfforaeth yn ymwybodol o lawer o’i weithgareddau troseddol. Greddf gyntaf y cyfryngau hynny ydi cynnal unigolion maent yn eu hystyried yn rhan o’r sefydliad Prydeinig.   O’r cyfeiriad yma y daw bron y cwbl o’r newyddion yr ydym yn ei dderbyn yng Nghymru.

Ynglyn ag etholiadau Holyrood

Byddwch yn cofio i ni edrych yn ddiweddar ar bol piniwn rhyfeddol o’r Alban sy’n awgrymu y gallai’r SNP ennill cymaint a 60% o’r bleidlais etholiadol yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.  Byddai hynny wrth gwrs yn golygu y byddai’r SNP yn ennill pob un o’r 73 sedd etholaethol.

Ond yr hyn sy’n ddiddorol – ac heb gael sylw cyfryngol – ydi goblygiadau hynny o ran yr ail bleidlais.  Byddai ennill y 73 sedd yn golygu y byddai’n ymylu at fod yn gwbl amhosibl i’r SNP ennill seddau rhanbarthol.  Mae’n ymddangos bod nifer dda o bobl eisoes yn sylweddoli hynny – mae’r un pol yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP ddeg pwynt yn is yn y rhanbarthau nag ydynt yn yr etholaethau.  Mae’r cwbl o’r gefnogaeth goll yn mynd i’r Blaid Werdd – plaid arall sydd o blaid annibyniaeth wrth gwrs.
Petai cyn lleied a 20% o’r sawl sydd ar hyn o bryd yn bwriadu pleidleisio i’r SNP yn yr etholiadau rhanbarthol bleidleisio i’r  Blaid Werdd yna gallai’r blaid honno yn hawdd gael mwy o seddi na’r Blaid Lafur – nag unrhyw blaid unoliaethol arall o ran hynny.  Byddai’r llywodraeth a’r brif wrthblaid yn gefnogol i annibyniaeth.  Ond gallai pethau fod yn waeth – yn llawer, llawer gwaeth i’r pleidiau unoliaethol.
Mae yna grwpiau eraill sydd o blaid annibyniaeth fydd yn debygol o sefyll yn y rhanbarthau – Solidarity a’r SSP er enghraifft.  Petai hanner y sawl sy’n bwriadu rhoi eu pleidlais ranbarthol i’r SNP (a’i wastraffu os ydi’r polau yn aros fel y maent) yn ei roi iddyn nhw neu’r Blaid Werdd, yna byddai tua 98 o’r 129 sedd yn mynd i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth.  Petai pawb yn gwneud hynny byddai tua 106 o’r 129 aelod o blaid annibyniaeth.  Mae 55% o’r etholwyr yn erbyn annibyniaeth – neu dyna beth oedd y sefyllfa ym mis Medi beth bynnag.
Mae hyn yn dangos gwendid sylfaenol y system bleidleisio wrth gwrs, ond mae hefyd yn esiampl da o jerimandro etholiadol yn arwain at ganlyniadau cwbl anisgwyl.  Roedd y gyfundrefn etholiadol wedi ei chynllunio gan lywodraeth Blair i wneud yn siwr na fyddai cefnogwyr annibyniaeth byth yn ennill mwyafrif llwyr yn Holyrood.  Mae hynny’n ymddangos yn hurt bost erbyn heddiw.

Marchog arall i Gymru fach

Llongyfarchiadau i’r ymgyrchydd unoliaethol, Gareth Edwards ar gael ei urddo’n farchog fel gwobr am ei wasanaethau sylweddol i’r Undeb.  Mae’n dda gweld cymaint o’r Cymry mwyaf llywath a theyrngar i’r sefydliad Prydeinig  yn cael eu gwobr haeddianol gan y sefydliad Prydeinig.

Mae chwaraewyr rygbi, neu gyn chwaraewyr rygbi wedi chwarae rhannau blaenllaw yn yr ymgyrchoedd tros ddatganoli, neu tros gryfhau datganoli ers yr ymgyrch wreiddiol yn 79, ond doedd gan Mr Edwards ddim digon o ddiddordeb yn yr un o’r rheiny i gymryd rhan.  Roedd ganddo fwy o ddiddordeb, fodd bynnag mewn ceisio dwyn perswad ar Albanwyr i beidio pleidleisio tros fod yn wlad annibynnol – fel y mwyafrif llethol o wledydd eraill.

Yn wir roedd mor barod i gymryd rhan nes caniatau iddo’i hun edrych yn wirion ar fideo a gomisiynwyd gan Better Together trwy ddefnyddio dadl gwbl hurt tros beidio a phleidleisio tros annibyniaeth – bod rhyw fath o gysylltiad rhwng undod y DU ac undod tim rygbi’r Llewod.  Mae’r tim hwnnw eisoes yn tynnu chwaraewyr o ddwy wladwriaeth wahanol  – y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.