Mae’n debyg y dyliwn longyfarch aelod seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan ar ei wrthwynebiad di wyro i’r toriadau Toriaidd mewn gwariant cyhoeddus a’r gyfundrefn les. Yn wir cymaint ei wrthwynebiad nes iddo addo ymladd yn eu herbyn wrth ddiolch i’w etholwyr am ei gefnogi unwaith eto ym mis Mai. A phan gafodd y cyfle i’w gwrthwynebu, roedd yn teimlo mor gryf gwnaeth yn siwr bod ei ben ol wedi ei blanu’n soled ar y ffens ac aeth ati i atal ei bleidlais.
Pawb yn hapus ac yn llawen
Mae’n dda nodi bod ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yn mynd rhagddi mewn ffordd mor aeddfed a brawdgarol. Pawb yn un teulu dedwydd.
Wele rhai o’r datgamiadau mwyaf cofiadwy hyd yn hyn.
Talks like a ponce, lost votes over Iraq and when he told party members who voted for Jeremy Corbyn to have a heart transplant: It’s just abuse… it’s totally unacceptable. – Prescott am Blair
The moronic MPs who nominated Jeremy Corbyn to ‘have a debate’ need their heads felt. They should be ashamed of themselves. They’re morons. – John McTernan am yr aelodau seneddol Llafur a enwebodd Corbyn.
I am one of them (hy moron) I have to say at no point did I intend to vote for Jeremy myself nor advise anyone else to do so – Beckett.
The self-anointed “moron” shouldn’t have called herself a moron and shouldn’t have backed down over her decision to nominate Corbyn – Prescott am Beckett.
Who the heck is John McTernan? He advised in Scotland, we lost, he advised Australia and we lost. He wasn’t in the Blair camp in any substance whatsoever… he has no authority – Prescott am McTernan.
Bloody useless job as interim leader. Made a “mess” over Welfare Bill vote which she had no authority to make – Prescott am Harman.
Who? Prescott am Liz Kendall.
The party is becoming the political equivalent of Millwall Football Club. Their chant? ‘No one likes us, we don’t care. Mary Creagh am ei phlaid.
It would not take the country forwards, it would take it backwards. This is why when people say ‘My heart says I should really be with that politics’ – get a transplant. – Blair am bobl dy ‘n ystyried cefnogi Corbyn.
The so called ‘trendy left’ politics of the early 1980s was a contributory factor in covering up child abuse. I myself saw that repeatedly at first hand in Lambeth. Meanwhile children were murdered and disappeared, were raped and beaten, forced into prostitution, trafficked around and a significant number of lives destroyed and blighted.
Your inaction in the 1980s and 1990s says a lot, not about your personal character, which I admire, but about your politics which I do not. Your carefully worded excusing of Islington Council in the House of Commons equally demonstrates why it is inappropriate for you to attempt to lead the Labour Party at the critical time of the Goddard Enquiry, as child abuse is the issue that will haunt this Parliament – John Mann AS wrth Jeremy Corbyn AS.
Gwleidyddiaeth Cymru a’r Alban – cymhariaeth
Cwestiwn ar dudalen sylwadau blogiad diweddar ynglyn a pham bod yr SNP wedi apelio yn ddiweddar at bobl sydd wedi rhoi ‘r gorau i bleidleisio i Lafur, tra nad ydi hynny wedi digwydd i Blaid Cymru ydi’r rheswm am y blogiad hwn. Fel rheol mae Blogmenai yn delio mewn canrannau wrth ymdrin ag etholiadau, ond i bwrpas y blogiad hwn byddwn yn delio efo niferoedd rhifol yn bennaf – mae’n fwy perthnasol i fwriad y blogiad.
Ta waeth o edrych ar etholiadau San Steffan Cymru ers 1997 mae’n amlwg i Lafur golli cryn dipyn o bleidleisiau – tua 230,000 a bod yn fanwl. Mae’r Toriaid wedi graddol gynyddu eu pleidlais ers eu perfformiad salaf yn 2001 o tua 120,000 pleidlais. Cododd pleidlais y Lib Dems tros i 100,000 rhwng 2001 a 2010, cyn iddynt gyflawni’r wyrth o golli bron i 200,000 o bleidleisiau bum mlynedd yn ddiweddarach. Gweddol ymylol oedd UKIP hyd at 2015 pan gynyddodd eu pleidlais bron i 170,000 o gymharu a 2005. O gymharu a’r newidiadau anferth yma mae pleidlais y Blaid wedi bod yn rhyfeddol o gyson – gan aros yn yr amrediad 160,000 i 196,000 trwy gydol y cyfnod. Llwyddodd UKIP i ddod o unman yn 2010 i fod yn drydydd yn 2015.
Felly, os ydym yn gofyn pwy sydd wedi elwa o gwymp y bleidlais Lafur yr ateb ydi pawb ar rhyw bwynt neu’i gilydd ag eithrio Plaid Cymru. Mae ‘pawb’ gyda llaw hefyd yn cynnwys ‘neb’. Roedd yna 125,000 llai yn pleidleisio yn 2015 na wnaeth yn 1997 – er bod 80,000 mwy ar y gofrestr pleidleisio erbyn 2015.
Mae yna rhywfaint yn gyffredin rhwng patrwm Cymru a’r Alban. Cwymp y bleidlais Lafur ydi’r peth mwyaf amlwg – ond mae’r cwymp yn llawer mwy – tua hanner miliwn rhwng 1997 a 2015. Roedd pleidlais yr SNP yn llawer llai sefydlog nag un y Blaid. Collwyd tros i 200,000 o bleidleisiau tros ddwy etholiad o 1997 i 2005 ond enillwyd tua miliwn o bleidleisiau tros y ddwy etholiad ddilynol – y rhan fwyaf o ddigon rhwng 2010 a 2015. Cynyddodd y Lib Dems eu pleidlais yn sylweddol rhwng 1997 a 2005 – gan ddod yn ail yn yr etholiad honno. Ond cafwyd cwymp o rai degau o filoedd rhwng 2005 a 2010, a chollwyd chwarter miliwn o bleidleisiau rhwng 2010 a 2015. Fel yr SNP syrthiodd pleidlais y Toriaid i’w bwynt isaf yn 2005 gan gynyddu yn raddol yn y ddwy etholiad ddilynol – er bod eu pleidlais 60,000 yn is ym mis Mai eleni nag oedd yn etholiad trychinebus 1997. Roedd pleidlais y tair prif blaid unoliaethol yn sylweddol is yn 2015 nag oeddynt yn 1997.
Pleidleisiodd tua 100,000 mwy yn 2015 nag yn 1997 gyda llaw – sy’n awgrymu bod nifer sylweddol o bobl nad oeddynt wedi pleidleisio ers talwm wedi mynd allan i bleidleisio i’r SNP. Fel y gellir gweld o’r tabl isod mae cyfraddau pleidleisio yn yr Alban bellach yn ol i ble’r oedd yn 1997 tra bod Cymru wedi llithro o fod y mwyaf tebygol i bleidleisio i fod y lleiaf tebygol o wneud hynny – oni bai am Ogledd Iwerddon.
| Etholiad | DU | Lloegr | Cymru | Yr Alban | G. Iwerddon |
|---|---|---|---|---|---|
| 2015 | 66.1% | 65.8% | 65.7% | 71.1% | 58.1% |
| 2010 | 65.1% | 65.5% | 64.7% | 63.8% | 57.6% |
| 2005 | 61.4% | 61.3% | 62.6% | 60.8% | 62.9% |
| 2001 | 59.4% | 59.2% | 61.6% | 58.2% | 68% |
| 1997 | 71.4% | 71.4% | 73.5% | 71.3% | 67.1 |
Ond roedd yna etholiadau eraill rhwng yr etholiadau San Steffan – a’r rhai pwysicaf o’r rheiny oedd etholiadau Cynulliad a Holyrood. O safbwynt y Blaid, yr etholiad orau o ddigon oedd y gyntaf. Yn wir dyma’r etholiad orau yn hanes y Blaid – sut bynnag rydym yn edrych arni. Roedd y 290,000 yn uwch na’r un bleidlais arall a gafodd y Blaid erioed – roedd y bleidlais wedi dwblu bron ers etholiad San Steffan 87 er i’r gyfradd pleidleisio syrthio. Cafodd y Blaid 28.4% o’r bleidlais, o gymharu a 37.6% Llafur. Roedd y bleidlais ranbarthol hyd yn oed yn uwch – 312,000 neu 30.5% i 35.3% Llafur. Cafwyd cynnydd sylweddol ar hyd a lled y wlad – roedd hi’n edrych fel petai gwleidyddiaeth Cymru yn newid o’r diwedd ar droad y ganrif. Ni ddaeth y newid hwnnw i fodolaeth, ac ers 2001 mae pleidlais y Blaid wedi ail aros oddi mewn i amrediad cul rhwng 180,000 a 205,000 – tebyg i’r amrediad San Steffan, ond ychydig yn uwch.
Mae pleidlais y pleidiau unoliaethol yn tueddu i fod yn llawer is mewn etholiadau Cynulliad na rhai San Steffan, ond mae’r patrymau yn debyg. Cynyddodd pleidlais y Toriaid yn raddol o 162,000 i 237,000 – adlewyrchiad o’r hyn sydd wedi digwydd ar lefel San Steffan. Roedd pleidlais y Lib Dems yn fwy cyfnewidiol, ond cyrhaeddodd uchafswm ei phleidlais yn 2007 gyda 144,500 o bleidleisiau, gan syrthio’n sylweddol i 100,000 yn 2011. Mae canlyniadau etholiad cyffredinol eleni yn awgrymu bod cwymp pellach ar y ffordd y flwyddyn nesaf. Syrthiodd pleidlais Llafur yn raddol rhwng 1999 a 2007 (er bod y ganran yn stori arall), o 380,000 i 315,000 cyn neidio i 402,000 yn 2011 – eu pleidlais uchaf yn hanes y Cynulliad. Gallwn dybio bod hynny yn adwaith i fuddugoliaeth y Toriaid ar lefel San Steffan y flwyddyn flaenorol.
Tra mai’r etholiad gynharaf oedd yr un mwyaf llwyddiannus i’r Blaid, yr un ddiweddaraf oedd yr un orau i’r SNP. Roedd eu 903,000 fwy na dwywaith eu hisafbwynt o 449,000 yn 2003. Cafwyd cwymp arwyddocaol rhwng 1999 a 2003 o 673,000 i 449,000, adennillwyd y tir a gollwyd (a goddiweddyd Llafur) yn 2007 a chafwyd cynnydd sylweddol yn 2011.
Stori o ddirywiad ydi un Llafur – cwymp enfawr yn eu pleidlais o 908,000 i 660,000 rhwng 1999 a 2003, a chwymp mwy graddol yn y ddwy etholiad ddilynol. Mae hanes y ddwy blaid unoliaethol arall yn adlewyrchu ei gilydd i raddau – cwymp cymharol fach yn eu pleidlais yn 2003, ad ennill tir yn 2007 ac yna cwymp sylweddol yn 2011 – un o tua 50,000 yn achos y Toriaid a 170,000 yn achos y Lib Dems.
Reit – beth allwn ei gasglu o hyn oll?
Y peth cyntaf i’w nodi ydi bod yr Alban a Chymru yn wledydd tra gwahanol mewn aml i ffordd. Un o’r gwahaniaethau pwysicaf o safbwynt etholiadol ydi bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael bron y cyfan o’u newyddion gwleidyddol o Loegr. Mae’r sefyllfa yn yr Alban yn wahanol – mae yna wasg Albanaidd sydd yn trafod gwleidyddiaeth yr Alban yn fanwl, ac mae rhai o’r papurau mwyaf poblogaidd yn gefnogol i ‘r SNP – y Scottish Sun er enghraifft. Mae yna wahaniaethau eraill hefyd – mae yna hollt diwylliannol yng Nghymru tra bod yna un crefyddol yn yr Alban (mae tua 19% o boblogaeth Cymru yn siarad y Gymraeg, tra bod tua 16% o boblogaeth yr Alban o gefndir Pabyddol), mae gan yr Alban fwy o lawer o strwythurau cenedlaethol na Chymru, mae canran llawer is o boblogaeth yr Alban wedi eu geni yn Lloegr na sydd yng Nghymru, ac mae mwy o bobl yr Alban efo hunaniaeth Albanaidd na sydd o bobl Cymru efo hunaniaeth Gymreig. Mae’r SNP hefyd yn hanesyddol gryfach na’r Blaid.
Yr ail beth i’w nodi ydi bod refferendwm 2014 wedi dylanwadu yn sylweddol ar ganlyniadau etholiadau cyffredinol yr Alban yn 2015. Mae’n weddol amlwg i fwyafrif llethol y sawl a bleidleisiodd Ia ymgynyll o gwmpas baner yr SNP, a chanlyniad hynny oedd cyflafan o safbwynt Llafur, a’r Lib Dems, a chynydd sylweddol ym mhleidlais yr SNP. Mae’n amlwg hefyd i nifer sylweddol o bobl nad oedd wedi pleidleisio yn 2010 bleidleisio i’r SNP yn 2015 – pleidleisiodd tua hanner miliwn mwy o bobl yn 2015 o gymharu a 2010. Does yna ddim refferendwm wedi bod yng Nghymru, felly does yna ddim cymhariaeth ystyrlon i’w gwneud ar gyfer 2015.
Cyn hynny fodd bynnag mae yna gymhariaeth i’w gwneud. Syrthiodd pleidlais Plaid Cymru a’r SNP yn sylweddol rhwng 1999 a 2003 yn etholiadau ‘r Cynulliad a Holyrood. Rhoddodd Alex Salmond a Dafydd Wigley y gorau i arwain eu pleidiau yn 2000. Roedd y ddau yn adnabyddus a charismataidd yn eu ffyrdd gwahanol, ac roedd Dafydd o leiaf yn erbyn arweinwyr Llafur llai adnabyddus a phoblogaidd na fo ei hun. Mae gan Ieuan Wyn Jones a John Swiney eu cryfderau, ond nid oeddynt mor etholiadol boblogaidd na’u rhaglaenwyr. Digwyddodd pethau eraill hefyd, creodd y pleidiau unoliaethol ddelwedd mwy Cymreig / Albanaidd iddyn nhw eu hunain, aeth Llafur yng Nghymru ati i uniaethu Plaid Cymru efo’r iaith Gymraeg (cofier y Welsh Mirror), gwelodd pleidiau bychain sy’n gefnogol i annibyniaeth dwf yn yr Alban.
Wedi etholiad 2003 collodd Llafur bleidleisiau yng Nghymru a’r Alban yn sgil Rhyfel Irac. Y Lib Dems elwodd ar hynny yn bennaf yn Etholiad Cyffredinol 2005, ond cynyddodd pleidlais y Blaid a’r SNP yn etholiadau 2007 – y Blaid o ychydig, ond ad enilliodd yr SNP bron i’r cwbl o’r pleidleisiau oedd wedi eu colli yn 2003.
Un o’r prif resymau am hyn oedd i Alex Salmond ddychwelyd i arwain y gad. Llithrodd pleidlais Llafur – ac yn groes i’r disgwyl enillodd yr SNP o drwch blewyn a ffurfio llywodraeth leiafrifol. Mynd i glymblaid efo Llafur wnaeth y Blaid, gyda Llafur yn arwain y glymblaid honno. Roedd y ddwy blaid genedlaetholgar mewn llywodraeth, ac yn eu ffyrdd gwahanol roedd y ddwy blaid yn llwyddiannus. Llywodraeth Cymru’n Un oedd yr un orau yn hanes y Cynulliad – ac roedd yr hyn oedd yn wahanol a diddorol amdani yn dod o gyfeiriad Plaid Cymru. Rheolodd yr SNP ar eu pennau eu hunain, gan wneud hynny yn effeithiol iawn – yn llawer mwy effeithiol na’r llywodraethau blaenorol. Roedd goreuon yr SNP yn Holyrood – roedd Tim A Llafur ymhell i ffwrdd yn San Steffan..
Cafodd yr SNP wobr fach yn Etholiad Cyffredinol 2010, ar ffurf cynnydd yn eu pleidlais – byddai wedi bod yn fwy o lawer oni bai mai Brown a Darling oedd yn arwain y Blaid Lafur Brydeinig. Cawsant wobr mwy arwyddocaol o lawer yn Etholiad Holyrood y flwyddyn ganlynol – cynnydd sylweddol yn eu pleidlais, grym ar eu pennau eu hunain a’r cyfle i alw refferendwm annibyniaeth ac ail strwythuro gwleidyddiaeth y wlad. Collodd y Blaid bleidleisiau yn y ddwy etholiad fel ei gilydd. Pan ddaeth Etholiad Cyffredinol 2015 cynyddodd ei phleidlais – gan roi’r ganran ail uchaf mewn etholiad cyffredinol yn hanes y Blaid, ond bychan oedd y cynnydd wrth ochr yr un ol refferendwm a gafodd yr SNP.
Felly pa gasgliadau cyffredinol ydym yn gallu eu tynnu o hyn oll?
1) Nid oes yna dystiolaeth bod yr SNP wedi tynnu llawer mwy o bobl i mewn i’r broses etholiadol hyd y refferendwm – hwnnw ydi’r trobwynt o ran ail gysylltu efo’r etholwyr coll.
2) Mae yna gryn dipyn o dystiolaeth bod gwleidyddiaeth Cymru yn llawer mwy Prydeinig nag un yr Alban – mae’r twf graddol ym mhleidlais y Toriaid yng Nghymru yn ogystal a’r ffaith bod cefnogaeth UKIP yn debyg yng Nghymru a Lloegr yn awgrymu hynny’n gryf. Dydi UKIP ddim yn gystadleuol yn yr Alban, a fflat ar y gorau ydi cefnogaeth y Toriaid.
3). Mae yna gwymp hir dymor yng nghefnogaeth Llafur yng Nghymru a’r Alban. Yr eithriad ydi Etholiadau’r Cynulliad yn 2011 pan ymatebodd pobl Cymru i fuddugoliaeth Doriaidd yn San Steffan trwy roi mwy o gefnogaeth i’r brif blaid lywodraethol yng Nghymru – adlais llai trawiadol mewn ffordd o’r symudiad at yr SNP yn yr Alban. Mi fyddwn yn betio cryn dipyn o bres y bydd y gogwydd hir dymor yn parhau yn 2016 ac y bydd y bleidlais Lafur yn syrthio tuag at ei lefel 2007.
4). Mae Plaid Cymru yn ei chael yn eithriadol o anodd cael pobl o’r tu allan i’w chefnogwyr creiddiol i bleidleisio iddi – mae llawer o’r bobl hyn yn byw yn hanner gorllewinol y wlad, ac mae yna ganran uchel ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. Unwaith yn unig mae’r patrwm hwnnw wedi ei dorri mewn gwirionedd – yn 1999. Llwyddodd Llafur i ail sefydlu’r patrwm yn weddol ddi drafferth erbyn 2003. Mae’r SNP wedi torri allan o’u cadarnleoedd gan apelio at y dosbarth gweithiol trefol, ac at Babyddion. Roedd y broses yma wedi cychwyn yn 2007 – saith mlynedd cyn y refferendwm.
5). Yr hyn a agorodd y drws i’r SNP oedd y fuddugoliaeth trwch blewyn a ffodus yn Holyrood yn 2007. Dyna roddodd y cyfle iddynt ddangos eu bod yn well na Llafur am reoli. Dilynodd pob dim arall o hynny – y cynnydd yn 2010, cyflafan 2011, refferendwm 2014 a chwalu cynrychiolaeth Albanwyr unoliaethol San Steffan yn 2015.
Ac os oes yna wers i ‘w dysgu o ‘r gymhariaeth Cymru / Yr Alban mae hi’n ymwneud a’r diwethaf o’r pwyntiau uchod. O ennill o dan yr hen reolau, roedd yr SNP mewn sefyllfa i fynd ati i newid y drefn oedd ohoni, ac wedi hynny i newid y tirwedd etholiadol ar pob lefel. Ac yna mae’r her i’r Blaid – i arwain llywodraeth ym Mae Caerdydd – a dod i wneud hynny o dan y gyfundrefn sydd ohoni.
Mae’n edrych yn dalcen caled, ond bydd pwysau sylweddol ar Lafur y flwyddyn nesaf – yn erbyn twf graddol y Toriaid, yn erbyn y Blaid o’r Chwith ac yn erbyn UKIP yn rhai o’i chadarnleoedd traddodiadol. Ar ben hynny mae’n edrych yn debygol bellach y bydd yr etholiad yn cael ei hymladd yng nghysgod drwg deimlad fydd wedi codi yn sgil yr etholiad arweinyddol. Efallai na fydd dod o flaen Llafur yn cymaint o gamp yn 2016 nag yw wedi bod yn y gorffennol.
Pwysigrwydd ennill grym, a’i ymarfer yn effeithiol ydi’r brif wers sydd gan yr SNP i’w dysgu i’r Blaid.
Pwy fethodd sefyll tros yr anghenus?
Rhestr yw’r isod o sut y pleidleisiodd aelodau seneddol Cymru yn y bleidlais neithiwr ar doriadau mewn budd daliadau ynghyd a lefelau tlodi plant yn eu hetholaethau. Un o sgil effeithiadau penderfyniad Ty’r Cyffredin i weithredu’r toriadau fydd cynnydd mewn tlodi plant. Bydd yna pob math o doriadau eraill i’r wladwriaeth les wrth gwrs.
Fel y gwelwch pleidleisiodd y Toriaid i gyd ag eithrio Chris Davies o blaid y toriadau, pleidleisiodd y tri Phleidiwr a’r Lib Dem yn erbyn a phleidleisiodd saith o’r pump ar hugain Llafurwr yn erbyn, a methodd y deunaw Llafurwr arall bleidleisio y naill ffordd neu’r llall.
Pleidleisiodd 308 Tori tros y mesur neithiwr. Dydi 308 ddim yn fwyafrif o’r 650 o’r aelodau seneddol nag o’r 646 sy’n mynychu’r lle yn absenoldeb aelodau Sinn Fein. Mewn geiriau eraill, petai pob aelod seneddol Llafur wedi bod a’r asgwrn cefn i bleidleisio yn erbyn gorchymyn dw lali eu harweinydd dros dro i beidio a gwrthwynebu ymysodiad y Toriaid ar y wladwriaeth les, yna byddai’r bil wedi syrthio. Ond wnaethon nhw ddim, ac o ganlyniad mae’r ymysodiad yma ar rhai o’r mwyaf bregus mewn cymdeithas wedi cael rhwydd hynt i gychwyn ar ei daith trwy’r senedd.
Mae sawl cwestiwn yn codi o hyn – a’r un canolog ydi ‘Beth yn union ydi pwynt y Blaid Lafur os nad yw’n edrych ar ol y mwyaf anghenus mewn cymdeithas?’ Ond un eilaidd ydi – ‘Os nad ydi Llafur yn fodlon sefyll tros yr anghenus, pwy sydd?’ ‘Plaid Cymru’ ydi’r ateb yng Nghymru, a’r ‘SNP’ ydi’r ateb yn yr Alban wrth gwrs. Ond mae gen i mai ‘r ateb yn Lloegr ydi ‘Neb’.
Dewrder Llafur
Leighton yn mwynhau ei wyliau haf
Mrs Windsor a chydymdeimlad anghyfleus ei theulu a Natsiaeth
Mae’n siwr bod yna rhywbeth neu’i gilydd i’w gymryd o’r helynt ynglyn a’r lluniau a ryddhawyd gan y Sun o’r frenhines, eu mam, ei hewythr a’i chwaer yn ymarfer saliwt Natsiaidd yn 1933 neu 1934. Ymddengys bod Palas Buckinham yn ‘siomedig’ bod y papur wedi penderfynu cyhoeddi’r delweddau.
Mae’r lluniau yn edrych yn hynod o anymunol heddiw, ond byddant wedi ymddangos yn llai anymunol bryd hynny – doedd hi ddim yn arbennig o anarferol i bobl ym Mhrydain fynegi cydymdeimlad efo’r Natsiaid bryd hynny. Roedd y Daily Mail – ynghyd a darllenwyr y Daily Mail yn bodoli bryd hynny – fel y gwnant rwan. Roedd y papur – ac yn ol pob tebyg ei ddarllenwyr – yn gefnogol – neu o leiaf yn gydymdeimladol efo’r weinyddiaeth ym Merlin o’r diwrnod y cafodd ei ethol hyd at y diwrnod i ryfel gael ei gyhoeddi.
Esiampl enwog o’r gwahaniaeth mewn agweddau tuag at Natsiaeth heddiw a chyn yr Ail Ryfel Byd ydi’r llun hwn o dim peldroed Lloegr yn 1938 cyn gem gyfeillgar yn erbyn yr Almaen.
Doedd hi ddim yn gyfrinach bod teimladau’r teulu brenhinol yn amwys ynglyn a Natsiaeth ar y gorau. Wnaeth Edward V111 erioed drafferthu cuddio ei gefnogaeth i lywodraeth Natsiaidd yr Almaen, ceisiodd y Fam Frenhines roi pwysau ar lywodraeth y DU rhag mynd i ryfel efo’r Almaen tan y diwedd. Roedd yn gefnogol i’r Arglwydd Halifax – gweinidog a ddadleuodd yn chwyrn yn erbyn mynd i ryfel hyd y diwedd. Roedd tair o chwiorydd Dug Caeredin yn briod a swyddogion Natsiaidd. Mae’r Dug yn ymddangos yn y llun isod yn mynychu cynhebrwng un o’i frodyr yng nghyfraith.
Pan gymerwyd y llun o’r frenhines a’i theulu yn chwarae bod yn Natsiaid roedd y broses o ddod a phob corff cyhoeddus a gwirfoddol o dan reolaeth y Blaid Natsiaidd – Gleichschaltung wedi mynd rhagddo. Roedd y Reichstad wedi ei losgi, a’r Comiwnyddion wedi eu herlid. Roedd
Ermächtigungsgesetz wedi dod yn weithredol – deddf oedd yn caniatau i Hitler a’i gabinet greu a gweithredu deddfau heb ofyn i’r Reichstad a hyd yn oed os oeddynt yn groes i’r cyfansoddiad. Roedd pob plaid ag eithrio’r Blaid Natsiaidd wedi eu diddymu. Doedd yr ymysodiadau ar gymodogion yr Almaen heb gychwyn. Ond roedd hyn oll yn gwbl dderbyniol i gydadran sylweddol o boblogaeth y DU. Mi fedrwn i fod yn weddol siwr bod llawer o’r bobl hynny yn ddarllenwyr y Daily Mail.
Cafodd y Daily Mail ei sefydlu yn 1896 gan Alfred Harmsworth. Y syniad y tu ol i’r papur oedd cynhyrchu rhywbeth haws i’w ddarllen na’r papurau oedd ar gael ar y pryd, rhywbeth fyddai’n apelio yn arbennig at ferched ac a fyddai’n sefyll tros the power, the supremacy and the greatness of the British Empire – a dyfynnu Harmsworth ei hun. Daeth yn hynod boblogaidd yn syth bin.
Ers cyhoeddi’r papur yn gyntaf cafwyd dau Ryfel Byd, mae’r Ymerodraeth Brydeinig wedi cwympo, mae democratiaeth wedi sefydlu a gwreiddio ar hyd a lled y Byd, mae Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth wedi dod, ac wedi mynd, mae economi y DU a’i hagweddau cymdeithasol wedi eu trawsnewid, mae technoleg wedi trawsnewid y Byd – ac mae’r Daily Mail yn rhyfeddol o debyg o ran ei werthoedd gwaelodol yn 2015 i’r hyn oeddynt yn 1896.
O’r dechrau’n deg roedd y papur yn hynod gefnogol i ryfeloedd – roedd yn gefnogol i gychwyn Rhyfel y Boer. Roedd cynyddu maint ac arfogi’r fyddin Brydeinig yn thema mawr gan y papur yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif – roedd Harmsworth wedi penderfynu bod gan yr Almaen gynllwyn cudd i ddifa’r ymerodraeth Brydeinig. Roedd cynllwyn Iddewig / Almaeneg yn obsesiwn trwy gydol y cyfnod. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Kitchener yn darged cyson i’r Mail – rhan o’r rheswm am hynny oedd nad oedd yn darparu’r Fyddin Brydeinig efo arfau digon distrywgar. Un rhyfel nad oedd yn gefnogol iddi gyda llaw oedd yr Ail Ryfel Byd – roedd yn llwyr yn erbyn mynd i ryfel yn erbyn Ffasgaeth hyd y bore wedi i’r rhyfel gychwyn – pan newidiodd fel cwpan mewn dwr.
Newidiodd y papur ddwylo yn dilyn y Rhyfel Mawr – cafodd ei brynu gan yr Arglwydd Rothermere. Llwyddodd hwnnw i godi’r cylchrediad i 2,000,000 ond ychydig o newid a fu yn y safbwyntiau gwleidyddol. Ymwelodd Rothermere a Hitler yn 1930, ac mae’n debyg ei fod yn cyfrannu’n ariannol i’ achos yn ystod y cyfnod hwnnw.
Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933 aeth y Daily Mail ati i gefnogi’r llywodraeth newydd gyda chryn dipyn o frwdfrydedd. Cyfansoddodd Rothermere gyfres o erthyglau ei hun yn canmol llywodraeth Hitler, yn beirniadu papurau eraill oherwydd eu ‘obsesiwn ‘ efo trais y Natsiaid – doedd ychydig o drais yn ddim oll wrth ymyl y ‘manteision mawr’ a ddaeth i’r Almaen a’r amddiffyniad yn erbyn Comiwnyddiaeth ac Iddewiaeth a gynigid gan y gyfundrefn newydd.
Cynhyrchodd prif ohebydd tramor y papur George Ward Price lyfr gyda’t teitl I Know the Dictators yn 1937 yn canmol unbeniaethiaid Ffasgaidd i’r cymylau. Dyma oedd ganddo i’w ddweud am Hitler.
Behind the forceful character which he displays in public he had a human, pleasant personality… He had the artistic, visionary tendencies of the South German type… and there was a strong strain of sadness and tenderness in his disposition… Hitler had… a fondness for children and dogs… His personality and prestige were so strong that without any effort on his part, he is surrounded by much awe on the part of his entourage… Hitler is a widely read man… familiar with the works of the leading German philosophers who had mastered the history, geography and social and economic conditions of the chief European countries.
Yn wir roedd y Daily Mail yn agored gefnogol i British Union of Fascists Mosely am gyfnod. Mewn erthygl ym mis Ionawr 1934 gan Rothemere ei hun canmolwyd y grwp Ffasgaidd i’r cymylau. Roedd yr erthygl yn gorffen efo’r geiriau
Timid alarmists all this week have been whimpering that the rapid growth in numbers of the British Blackshirts is preparing the way for a system of rulership by means of steel whips and concentration camps. Very few of these panic-mongers have any personal knowledge of the countries that are already under Blackshirt government. The notion that a permanent reign of terror exists there has been evolved entirely from their own morbid imaginations, fed by sensational propaganda from opponents of the party now in power. As a purely British organization, the Blackshirts will respect those principles of tolerance which are traditional in British politics. They have no prejudice either of class or race. Their recruits are drawn from all social grades and every political party. Young men may join the British Union of Fascists by writing to the Headquarters, King’s Road, Chelsea, London, S.W.
Tynnwyd y gefnogaeth yn ol yn ddisymwth yn ystod haf 1934 – mae’n debyg oherwydd i nifer o fusnesau oedd a chysylltiadau Iddewig fygwth roi’r gorau i hysbysebu yn y papur oni bai bod y papur yn rhoi’r gorau i gefnogi Mosley.
Mae’r ffaith bod y teulu Brenhinol yn cwyno cymaint oherwydd i’r Sun gyhoeddi’r llun yn dweud mwy wrthym am ein hoes ein hunain nag ydyw am y blynyddoedd rhwng y Ddwy Ryfel Byd. Bryd hynny roedd elfennau arwyddocaol o’r Dde yn y DU yn gydymdeimladol i rhyw raddau neu’i gilydd efo Ffasgiaeth a Natsiaeth ( ac roedd elfennau arwyddocaol o’r Chwith yn cydymdeimlo efo’r weinyddiaeth yn yr Undeb Sofietaidd hefyd). Erbyn hyn mae Natsiaeth yn cael ei ystyried gan y Dde a’r Chwith fel ei gilydd fel ymgorfforiad o ddrygioni. Mae yna fwy nag un rheswm am hynny – un rheswm oedd bod yr hyn wnaeth y Natsiaid yn wirioneddol ddrwg dan safonau’r rhan fwyaf o bobl.
Ond mae yna reswm arall hefyd. O edrych ar hanes o drydydd traean yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, dydi’r rhan fwyaf o ryfeloedd Prydain ddim yn edrych yn arbennig o dda. Dydi rhyfeloedd sy’n cael eu hymladd i bwrpas adeiladu neu amddiffyn ymerodraeth ddim yn gweddu a gwerthoedd Byd sy’n hyrwyddo democratiaeth a hawliau gwledydd unigol. Mae’r ideoleg hiliol oedd yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau adeiladu ymerodraeth yn edrych hyd yn oed yn waeth mewn cyd destun lle mae cyfartaledd hiliol a hawliau dynol yn cael eu clodfori. Mae’r holl fusnes ymerodrol yn edrych yn hyll. Ond dydi hynny ddim yn wir am yr Ail Ryfel Byd – mae hwnnw’n cael ei ddylunio fel rhyfel yn erbyn hiliaeth, yn erbyn ymysodoldeb milwrol, yn erbyn drygioni. Mae’n ryfel sy’n hawdd i ‘w gyfiawnhau – a’i glodfori o safbwyntiau y Byd yr ydym ni yn byw ynddo heddiw.
A dyma yn y bon ydi’r rheswm am yr ymateb hysteraidd i luniau’r Sun. Mytholeg ydi’r stori bod gwrthwynebiad unffurf ym Mhrydain i dwf Ffasgaeth ar y Cyfandir yn nau ddegau a thri degau’r ganrif ddiwethaf – ond mae’n fytholeg sydd rhaid wrthi i gynnal y stori bod Prydain wedi bod yn rym er daioni yn y Byd ar sail y ffaith iddi ymladd ar yr ochr ‘gywir’ hanes – am unwaith.
Mae’r rhyfel yn erbyn Natsiaeth yn esgys am y gweddill – mae’n hanfodol i’r naratif gwrth hanesyddol o ynys yn sefyll tros ryddid a hawliau dynol trwy’r canrifoedd. Mae unrhyw beth sy’n cymylu hynny yn ennyn y math o ymateb a gafwyd tros y dyddiau diwethaf.
“
Ceisio gwyrdroi democratiaeth
Mae’n debyg y dyliwn i longyfarch Plaid Lafur Arfon ar gael 50 o aelodau newydd. Efallai ei bod mymryn yn grintachlyd i nodi bod aelodaeth unrhyw blaid yn codi’n sylweddol pan mae etholiad arweinyddol ar y gweill – mae pobl eisiau pleidleisio mewn etholiadau felly. Mae’n debyg bod hyn yn arbennig o wir yn yr etholiad yma gan fod Llafur wedi gostwng eu tal aelodaeth i £3 ar gyfer y sawl sydd am gymryd rhan yn yr ymarferiad o ddewis arweinydd.
Yn y cyfamser mae’r Telegraph yn ceisio cymryd mantais o hyn trwy annog pobl i dalu’r dair punt oherwydd bod y papur eisiau i bobl fotio i Jeremy Corbyn. Mae tim golygyddol y papur adain Dde o’r farn y byddai ethol Corbyn yn arweinydd yn arwain at drychineb etholiadol i Lafur oherwydd bod aelod seneddol Islington yn adain Chwith ac yn farfog.
Dwi’n digwydd anghytuno efo’r canfyddiad yna – yn fy marn bach i Corbyn ydi’r gorau o’r pedwar – byddai’n galluogi Llafur i gysylltu efo’r byddinoedd o bleidleiswyr mae wedi eu colli ers 1997. Ond beth bynnag am hynny mae yna rhywbeth gwirioneddol anymunol am weld y papur hunan bwysig, hunan gyfiawn a pharod i bregethu yma yn ceisio tanseilio a gwyrdroi proses ddemocrataidd.
Hyll iawn yn wir.
Mhairi Black yn Nhy’r Cyffredin
Roedd y sawl a welodd Mhairi Black yn siarad yng Nghaernarfon a Blaenau Ffestiniog yn gynharach y mis yma yn gwybod bod aelod seneddol ieuengaf Ty’r Cyffredin yn un da am sefyll ar ei thraed a siarad. Cafodd cynulleidfa ehangach wybod hynny heddiw.























