Mymryn am y Saeson Cymraeg

Dydw i fawr o eiteddfodwr – er fy mod i’n mynychu’r rhan fwyaf ohonynt o ddiigon – cael fy llusgo yno gerfydd fy nghlust braidd ydw i a dweud y gwir.  Beth bynnag, mi gefais ddianc am ychydig oriau ddoe a mynd am dro i Groesoswallt – tref nad ydw i erioed wedi ymweld a hi o’r blaen.  Mae gan y dref amgueddfa ddigon diddorol – ond hynod ddi drefn.  Ymysg yr hyn oedd yn cael eu harddangos oedd y cofebau isod – cofebau i’r milwyr o’r ardal a fu farw yn y Rhyfeloedd Napoleonaidd a Rhyfel y Crimea yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roeddwn eisoes yn gwybod i’r Gymraeg oroesi am gyfnod maith ynn Ngogledd Sir Amwythig a bod dwsinau o enwau Cymraeg ar bentrefi – Bettws-y-Crwyn, Llanvair Waterdine, Llanymynech, Trefarclawdd ac Argoed er enghraifft, a channoedd o enwau caeau a thai – Rhyd y Cwm, Gwern y Brenin a Phencraig er enghraifft.  Ond nid oeddwn yn disgwyl gweld cymaint o gyfenwau Cymreig.  Mae mwyafrif llethol yr enwau ar y gofeb Napoleanaidd yn rhai Cymreig, ac mae mwyafrif clir yr enwau ar y gofeb Rhyfel y Crimea a ymladdwyd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach yn rhai Cymreig hefyd.  Mae’r niferoedd yma’n uwch nag y byddent yn y rhan fwyaf o gymdogaethau yng Nghymru heddiw.  

Yn y dref yma y gwelodd Y Cymro olau dydd gyntaf yn 1932 ac yn ol Gwyddoniadur Cymru roedd siaradwyr Cymraeg nad oedd a’u gwreiddiau yng Nghymru yn byw yn yr ardal ymhell i mewn i’r ugeinfed ganrif.  Dwi’n cofio siarad (yn y Gymraeg) efo hen gwpl yng Ngorsef Aberystwyth yn y saith degau hwyr oedd yn dweud eu bod yn byw wrth ymyl ‘Soswallt’chwedl hwythau.  Wnes i ddim gofyn iddynt ar pa ochr i’r ffin roeddynt yn byw – mae Croesoswallt bum milltir o’r ffin efo Cymru. Roeddynt  wedi rhyfeddu at wrthrych roeddwn yn ei gario o dan fy nghesail, ac yn ceisio fy nghael i egluro sut oedd yn gweithio, a phwy oedd y ‘parti’ ar y clawr.  LP Geraint Jarman oedd gen i.  Roedd yna gapel Cymraeg – Horeb yn agored yn y dref ar ddechrau’r ganrif yma.  Mae nifer o siopau efo perchnogion sydd a chyfenwau Cymreig, a hyd y gwn i yma mae’r unig siop gwerthu llyfrau Cymraeg y tu allan i Gymru – er bod gen i gof plentyn o ymweld ag un yn Llundain yn y saith degau cynnar.

Does yna ddim byd yn newydd am hyn oll wrth gwrs – a dwi’n siwr bod nifer sy’n darllen y blogiad yma yn gwybod llawer mwy na fi am hanes y Gymraeg yn ardal Croesoswallt.  Ond mae’n drawiadol fel mae rhywfaint o’r cymunedau sydd y tu hwnt i Gymru sydd wedi cynnal y Gymraeg yn cael mwy o sylw cyfryngol na’i gilydd.  Mae’n ddealladwy bod mor a mynydd yn cael ei wneud o oroesiad yr iaith ar ochr arall y Byd ym Mhatagonia – ac mae’r ffaith bod ffigyrau blaenllaw ym myd darlledu yn byw yn Llundain yn egluro pam bod cymuned Gymraeg y ddinas honno yn cael cymaint o sylw.  Mae maint y gymuned Gymraeg yn Lerpwl yn y gorffennol yn egluro pam bod ei hanes hithau wedi ei groniclo’n gymharol drylwyr.  

Ond mae llawer Gymry Cymraeg wedi ymfudo yn y gorffennol i ddinasoedd a threfi ar hyd a lled y Byd, ac wedi byw o leiaf rhai agweddau ar eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi gadael Cymru.  Er nad ydi trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i’r llall yn yr amgylchiadau hyn yn dda – mae straeon y bobl hyn yn rhan o stori’r Gymraeg. Ac mae stori’r Saeson yng Ngogledd Amwythig (a Swydd Henffordd) oedd yn siarad y Gymraeg yn rhan o stori’r Gymraeg hefyd.  Mae’n anffodus nad oes mwy yn cael ei wneud o hanes y cymunedau hynny.

Carwyn Jones – ffydd yn gryfach na thystiolaeth.

Felly mae Carwyn Jones o’r farn mai symud i’r ‘canol’ ydi’r ffordd ymlaen i’r Blaid Lafur – ac y bydd felly yn pleidleisio i rhywun sy’n debygol o symud Llafur tuag at y ‘canol’ hwnnw.  Mewn geiriau eraill fydd o ddim yn pleidleisio i Jeremy Corbyn.

Rwan bu ‘symud tua’r canol’ yn erthygl ffydd braidd ymysg gwleidyddion proffesiynol Llafur ers eu hetholiad trychinebus yn 1983 pan gafodd Llafur gweir anferthol gan y Toriaid – yn rhannol oherwydd i adain Dde’r Blaid Lafur benderfynu mai’r ffordd orau o symud tua’r ‘canol’ fyddai trwy ffurfio eu plaid eu hunain a chlymbleidio efo’r Rhyddfrydwyr.  Y ‘prawf’ tros gywirdeb y ddamcaniaeth yma ydi etholiad 1997 pan gafodd Llafur eu buddugoliaeth fwyaf erioed o dan arweiniad Tony Blair.  Roedd llawer o blatfform Blair wedi ei seilio ar blatfform etholiadol Bill Clinton yn 1992 pan aeth ati i ddadlau tros achosion adain Dde traddodiadol – cyfraith a threfn, ‘cyfrifoldeb’ cyllidol, ac ati.
Y broblem efo’r gred mai’r ‘canol’ ydi’r lle i fod ydi nad yw ynddi ei hun yn gred resymegol.  Yn wir mae ‘n gred sydd wedi ei seilio ar gamargraffiadau rhesymegol.  
Er enghraifft fedrwn ni ddim cymryd yn ganiataol mai symud i’r Dde oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Blair – roedd llywodraeth Major mewn llanast llwyr erbyn 1997 – roedd wedi colli ei hygrededd economaidd yn llwyr wedi i’r DU gael ei gorfodi allan o’r ERM gan y marchnadoedd pres, ac roedd yr etholiad yn cael ei hymladd yng nghysgod cyfres hir o sgandalau ariannol a rhywiol – y cwbl ohonynt yn ymwneud a gwleidyddion Toriaidd.  
Ar ben hynny mae’r un mor rhesymegol i ddadlau mai’r unig gyfeiriad sy’n addas i’w gymryd ydi un tua’r Dde ar sail buddugoliaeth 1997 ag ydi hi i ddadlau mai’r unig gyfeiriad i’r gymryd ydi tua’r Chwith yn sgil buddugoliaeth 1945.  Mae cymdeithas yn newid, mae amodau economaidd yn newid, ac o ganlyniad mae union leoliad y ‘canol’ hefyd yn symud.  Petai pawb yn credu bod rhywbeth sydd wedi gweithio unwaith yn rhwym o weithio pob tro yn ei fywyd personol, yna byddai pawb mewn cryn lanast.
Ystyriwch y canlynol – etholiad gorau Llafur erioed oedd un 1997.  Daeth 13,518,167 o bobl allan i bleidleisio iddynt bryd hynny.  Erbyn 2001 roedd y cyfanswm wedi syrthio i 10,724,953.  Syrthiodd y bleidlais eto yn 2005, ac eto yn 2010.  Cynyddodd eto eleni – ond dim ond i 9,347,304.  Felly roedd tros i 4 miliwn o etholwyr wedi eu colli rhwng 1997 a 2015.  Roedd cyfanswm y Toriaid tua 2 filiwn yn uwch nag un Llafur yn 2015.
Yr etholiad cyffredinol cyntaf ‘dwi yn ei gofio oedd un 1970 – ac roedd honno’n fwy o sioc nag un 2015 hyd yn oed.  Roedd disgwyl y byddai llywodraeth Lafur Harold Wilson yn cael ei hail ethol yn weddol hawdd – ond Toriaid Heath aeth a’r dydd, a hynny gyda mwyafrif clir.   Ond hyd yn oed pryd hynny cafodd Llafur 12,208,758 o bleidleisiau – mwy nag a gafwyd mewn unrhyw etholiad wedyn ag eithrio un 1997.  Roedd yna 7 miliwn o bobl yn llai yn byw yn y DU bryd hynny.  Oni bai am 1983 cafodd Llafur fwy o bleidleisiau ym mhob etholiad 1945 i 1997 nag a gawsant yn etholiadau’r mileniwm yma.  Roedd poblogaeth y DU tua 13 miliwn yn is yn 1945 nag yw heddiw.  

Felly beth bynnag ddigwyddodd cyn 2001 mae Llafur wedi colli pleidleisiau  yn y cannoedd o filoedd yn ystod y mileniwm hwn, ac maent wedi tin droi mewnsafle gwleidyddol canol y ffordd trwy gydol y cyfnod –  ond mae gwleidyddion proffesiynol fel Carwyn Jones yn ail adrodd hyd at syrffed  y farn mai dyna’r lle i fod os ydi Llafur i gael llwyddiant etholiadol.  Mae’r gred yma wedi ei seilio mwy ar ffydd nag ar dystiolaeth mae gen i ofn. 

Mae’n fwy rhesymol i gasglu bod lleoliad gwleidyddol presenol Llafur yn colli llawer mwy o bleidleisiau iddi na sy’n cael eu hennill.

Lwc mul – neu lwc Aelod Seneddol efallai

Llongyfarchiadau i Aelod Seneddol Llafur St Helens South, Marie Rimmer ar gael ei hachos llys am ymosod ar ymgyrchydd Ia ar ddiwrnod Refferendwm yr Alban y llynedd wedi ei ollwng.  

Yn ol Patricia McLeish dechreuodd Ms Rimmer ymddwyn yn ymysodol tuag ati cyn mynd ymlaen i’w chicio fel roedd yn dosbarthu pamffledi Ia y tu allan i’r orsaf bleidleisio yn Shettleston, Glasgow ar ddiwrnod y refferendwm.  Ar y cychwyn roedd Ms McLeish yn gyndyn o fynd a’r mater at yr heddlu oherwydd ei bod yn meddwl bod Ms Rimmer, oedd yn arweinydd Cyngor St Helen’s ar y pryd, yn dioddef o afiechyd meddwl – ond gwnaeth ddatganiad i ‘r heddlu yn ddiweddarach, a threuliodd Ms Rimmer wyth awr yn westai i heddlu Glasgow.

Beth bynnag, cynhalwyd yr achos ddoe, a sylwodd y siryf mai Shettleston ac nid Shettleston, Glasgow oedd ar y ffurflenni cyhuddo – a daeth a’r achos i ben yn y fan a’r lle oherwydd nad oedd lleoliad yr anfadwaith wedi ei enwi’n briodol.  Dim ond un Shettleston sydd yn yr Alban ac yn Glasgow mae hwnnw.  

Ond tydi bod yn Aelod Seneddol yn gallu dod a lwc yn ei sgil dywedwch?

Y diweddaraf o Gyngor Caerdydd

Felly mae’n syrthio ar Blaid Cymru i geisio atal y weinyddiaeth Llafur ar gyngor mwyaf boncyrs Cymru rhag trosglwyddo tros i fil o’u staff i ofal cwmni newydd ‘hyd braich’.  Mi fydd y newidiadau yn effeithio yn bennaf ar bobl sydd ar gyflogau isel – pobl casglu biniau, pobl sy’n gweithio mewn parciau ac ati.  
Arbed pres ydi’r rheswm a roddir wrth gwrs – a dyna yn wir ydi’r rheswm, neu ran o’r rheswm o leiaf.  Prif gostau y cwmni hyd braich newydd (o ddigon) fydd cyflogi eu staff.  Yr unig ffyrdd sydd ganddynt mewn gwirionedd  o arbed pres ydi trwy dorri ar staff, trwy dorri eu cyflogau, neu trwy wneud eu hamodau gweithio yn salach.  Does yna ddim byd arall sydd am wneud llawer o wahaniaeth.  Ond mae cwmni hyd braich yn rhoi cyfle i’r weinyddiaeth Lafur wthio’r gyfrifoldeb am ymosod ar ansawdd bywyd rhai o’i gweithwyr tlotaf hyd braich oddi wrthynt eu hunain.  
Fydd ddim rhaid i unrhyw benderfyniadau anodd fynd trwy gabinet Llafur – mi fydd yna Brif Weithredwr i’r cwmni newydd i gymryd y bai.  Ymarferiad mewn cael rhywun arall i wneud gwaith budur y weinyddiaeth Llafur mae gen i ofn – ac enghraifft arall, eto fyth, o’r Blaid Lafur yn gweithredu mwy fel Toriaid na Llafurwyr.

Pam bod ‘atebion’ David Davies i argyfwng Calais yn sylfaenol anymunol

Felly ateb David Davies – Aelod Seneddol Mynwy – i’r argyfwng mewnfudwyr yng Nghalais ydi anfon byddin Prydain i Ogledd Ffrainc a gorfodi’r mewnfudwyr arfaethiedig i fynd i fyw mewn gwersylloedd yn Affrica neu’r Dwyrain Canol  a lleihau budd daliadau yn y DU er mwyn rhoi llai o anogaeth i fewnfudwyr ddod i ‘r DU.  Mae David yn foi digon dymunol, ond mae o hefyd yn byw mewn bydysawd cyfochrog i’r un mae pawb arall yn byw ynddo.

Mae Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol bellach yn llawn dop o wersylloedd i ffoaduriaid – ac hynny yn ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml i’r rhyfeloedd a’r ymgyrchoedd bomio mae plaid David wedi bod mor frwdfrydig i’w cefnogi.

Mae llawer o’r gwledydd mae David eisiau dympio ei broblem pobl sy’n chwilio am loches arnynt eisoes yn dlawd, ac eisoes wedi cymryd nifer fawr o bobl o’r tu allan i’w ffiniau -Iran 857,400, Yemen 241,300, Ethiopia 433,990, De Sudan 229,600, Uganda 220,600, Kenya 534,000.  Twrci sydd efo’r mwyaf o bobl – 1.6m.  Ar ddiwedd 2014 roedd 0.24% o boblogaeth y DU yn bobl oedd yn chwilio am loches – 117,161 o bobl sydd wedi derbyn caniatad i aros 36,383 oedd yn disgwyl i’w hachosion gael eu clywed a 16 person nad oedd ganddynt wladwriaeth.  Mae 86% o bobl sy ‘n chwilio am loches wedi eu lleoli mewn gwledydd sy ‘n datblygu yn economaidd – hy gwledydd sydd yn llawer tlotach a felly llai abl i ddelio efo’r broblem na’r DU.

Mae nifer o wledydd Gorllewinol yn delio efo llawer mwy o geisiadau am loches na’r DU – yr UDA, yr Almaen, Sweden, yr Eidal er enghraifft.  Dydi Ffrainc ddim yn derbyn cymaint o geisiadau na’r DU – a’r prif reswm am hynny ydi nad ydi’r wlad honno yn cartrefu ymgeiswyr lloches am dri mis, mae Prydain yn darparu cartrefi cyn gynted a phosibl.  Gallai Prydain wrth gwrs wneud yr un peth – ond byddai David, y Mail, yr Express ac ati wedyn yn cwyno bod dinasoedd De Lloegr yn edrych fel Calais efo pobl yn cysgu ar ochr y strydoedd.

Mae David hefyd eisiau gostwng budd daliadau.  Dwi ddim yn siwr os mai son am fudd daliadau i ymgeiswyr lloches mae o yn hytrach na budd daliadau i bawb – ond mae’r budd dal mae ymgeiswyr lloches yn ei gael yn dod i £36.95 y person, yr wythnos – mae hyn yn £5.28 ar gyfer bwyd, dillad a hylendid personol y dydd.  Mae David yn ennill £67,060 y flwyddyn fel aelod seneddol.  Mae David hefyd yn mynd o gwmpas y wlad yn traddodi darlithiau – mae’n codi £150 yr awr am rheiny.  Roedd ei dreuliau am lety a theithio tros £18,000 yn 2013-2014.  A bod yn deg dydi’r ffioedd darlithio na’r treuliau ddim yn arbennig o uchel, ond mae’n rhaid eu bod yn edrych fel ffortiwn i rhywun sy’n ceisio cynnal ei hun ar £5 y diwrnod.

Ac mae yna fater arall hefyd.  Dydi o ddim yn glir os mae eisiau i ymgeiswyr lloches gael llai na £5.28 y diwrnod mae David, ynteu a ydi o eisiau i bawb gael llai o fudd daliadau er mwyn gwneud y DU yn llai atyniadol i fewnfudwyr – gyda mae mewnfudwyr wedi derbyn hawl i loches mae ganddynt hawl i fudd daliadau pellach wrth gwrs.  Rwan mae’r Toriaid wrthi’n brysur yn torri budd daliadau pobl ieuengach – fel y trafodwyd yn y blogiad diwethaf, ac efallai mai cyflymu’r broses  sydd gan David mewn golwg.  Yn sicr mae’r wasg Adain Dde yn awyddus iawn i gysylltu mewnlifiad efo budd daliadau.

Mae yna tua 7 miliwn o bobl wedi mewnfudo i Awstralia ers diwedd yr Ail Ryfel Byd – y rhan fwyaf  o Ewrop a’r rhan fwyaf o ddigon er mwyn gwella eu hunain – dwi ddim yn meddwl bod neb yn cwestiynu hynny.  Mae’r gred bod pobl efo greddf naturiol i geisio gwella eu cyflwr materol yn elfen greiddiol o’r ffordd mae’r wasg Adain Dde a phobl fel David yn gweld y Byd, a’r hyn sy’n gwneud i gymdeithasau dynol weithio.  Ond mae’n ymddangos bod y Mail, y Telegraph a’r Express yn priodoli greddfau felly i Ewropiaid gwyn.  Mewnfudo i chwilio am waith mae’r boi o Newcastle, ond chwilio am fudd daliadau mae’r sawl sy’n dweud ei fod yn dianc rhag erledigaeth yn Eritrea.  Mae’r boi o Newcastle yn weithgar, tra bod yr un o Eritrea yn ddiog.  Mae yna rhywbeth hyll iawn yn y ffordd yna o edrych ar y Byd.

Pam bod y Toriaid yn hapus i bechu’r ifanc?

Roeddwn i ‘n fy ugeiniau yn ystod wythdegau ‘r ganrif ddiwethaf, ac roedd gen i deulu ifanc am y rhan fwyaf o’r ddegawd honno.  Degawd Thatcher oedd hi wrth gwrs – cyfnod sy’n cael ei gysylltu efo diweithdra, ymosodiadau ar hawliau gweithwyr, toriadau mewn gwariant cyhoeddus ac ati.  Doedd y cyfnod ddim yn un arbennig o hawdd i ninnau – mi dreuliais gyfnod yn ddi waith ar ol gadael y coleg, ac roedd gennym bump o blant erbyn dechrau’r naw degau – dydi pump o blant byth yn hawdd na’n rhad i’w magu.  Ond ag edrych yn ol a chymharu efallai nad oedd yr amser ymhlith yr un anoddaf i fod yn ifanc ynddo.  Pan adawais y brifysgol doedd gen i ddim dimau goch o ddyled i neb.  Fel y dywedais, treuliais gyfnod yn ddi waith, ond doedd hi ddim yn arbennig o anodd i ddod o hyd i dy cyngor, ac wedi i mi gael gwaith cymerodd flwyddyn i ni gael ein hunain mewn sefyllfa lle gallwn brynu ty. Roeddwn mewn swydd broffesiynol, ac o ganlyniad roedd y wraig yn gallu aros adref i edrych ar ol y plant.

Os ydych yn eich hugeiniau heddiw ac yn magu teulu mae’r darlun uchod am fod yn un hynod o anghyfarwydd i chi – os ydych yn cael amser i ddarllen y blog yma rhwng, gwaith, rhedeg yn ol ac ymlaen i nol y plant o’r feithrinfa, poeni am sut i dalu’r rhent am y ty ac ati.  

Mae bod yn ifanc a magu teulu heddiw yn llawer, llawer anos yn y byd sydd ohoni.  Mae yna nifer o resymau am hyn, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt ynghlwm a newidiadau demograffig – mae’r boblogaeth wedi tyfu ers hynny, mae’r nifer o dai gydag un person yn byw ynddynt wedi cynyddu, ac o ganlyniad mae’r berthynas rhwng galw a chyflenwad tai wedi newid, ac mae tai yn llai fforddadwy.  Ar ben hynny mae’n fwy anodd cael benthyciad i brynu ty erbyn hyn – oherwydd llanast y banciau.

Newid demograffig mwy fodd bynnag ydi un yn strwythur oedran  y boblogaeth – mae yna fwy o lawer o bobl 65+ – ac mae yna oblygiadau pell gyrhaeddol i batrymau gwariant cyhoeddus ynghlwm a hynny – goblygiadau sydd wedi eu cymhlethu gan yr argyfwng ariannol a achoswyd gan y banciau.  Mae’r rhan fwyaf o’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus a ddaeth yn sgil y newidiadau yma wedi effeithio ar grwpiau oedran eraill – nid ar bobl hyn.  

Ffioedd myfyrwyr oedd un o ‘r pethau a effeithiodd ar lawer o bobl ifanc yn ystod y senedd diwethaf.  Y tro yma mae’r llywodraeth yn mynd i’r afael a chostau budd daliadau trwy ganslo budd daliadau tai i’r sawl sydd yn ieuengach na 21 a chael gwared o gredydau treth i’r sawl sydd a mwy na dau o blant.  Cafwyd toriadau mewn budd daliadau plant hefyd wrth gwrs.  Yn y dyfodol bydd y newidiadau mewn amodau pensiwn yn cael effaith hyd yn oed mwy arwyddocaol ar eu bywydau.

Mae bron i hanner y bil budd daliadau yn cael ei wario ar yr henoed wrth gwrs, ond fydd yna ddim tocio yn y fan honno – dyma pam.

Yn ol Ipsos Mori roedd y patrwm oed / pleidleisio tros y DU yn etholiad eleni fel a ganlyn:

              Tori.         Llafur 

18-24 –   27%.         43%

25 – 34 – 33%          36%

35 – 44 – 35%.         35%

55 – 64 – 37%          31%

65+         47%.         23%

Hynny yw mae’r henoed yn llawer, llawer mwy tebygol o bleidleisio i’r Toriaid, na’r grwpiau ieuengach mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn ymosod ar eu safonau byw.  Mae’r patrwm yma’n cael ei gymhlethu gan y ffaith bod yr henoed hefyd yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na grwpiau ieuengach. Eto yn ol Ipsos Mori mae’r cyfraddau pleidleisio fel a ganlyn:

18-24 – 43%

25-34 – 54%

35-44 – 64%

45-54 – 72%

55-64 – 77%

65+ – 78%

Wele’r tabl llawn isod:

Mewn geiriau eraill mae’r Toriaid yn canolbwyntio eu toriadau ar bobl ieuengach oherwydd eu bod nhw’n llai tebygol o bleidleisio i’r Toriaid, a’u bod yn llai tebygol i bleidleisio o gwbl.  O hollti’r boblogaeth yn ddau gallwn ddweud bod pobl sy’n ieuengach na 45 yn fwy tebygol o bleidleisio i Lafur nag i’r Toriaid, tra bod pobl tros 45 yn fwy tebygol o bleidleisio i’r Toriaid. Faint sydd yn y ddau grwp felly?  Yn ol cyfrifiad 2011 roedd y dosbarthiad poblogaeth fel a ganlyn bryd hynny:

Mae’n weddol amlwg felly bod mwyafrif clir iawn o’r boblogaeth yn ieuengach na 45.  Ond dydi’r sawl sydd yn ieuengach nag 18 ddim yn cael pleidleisio.  I sbario i chi orfod gwneud y cyfrifiad (mae gen i daenlen) mae yna tua 23,500,000 o bobl efo hawl i fod ar y gofrestr pleidleisio sy’n ieuengach na 45 tra bod tua 26,895,000 sydd yn hyn na hynny.  Yn etholiad mis Mai roedd y gymhareb rhwng Llafur a’r Toriaid yn 45.2/54.8, petai’r cyfraddau pleidleisio yr un peth ar hyd yr ystod oedran byddai’r Toriaid yn dal ar y blaen 47.2/52.8 – (roeddwn i’n dweud bod gen i daenlen) – byddai Llafur yn nes at y Toriaid, ond byddai gan y Toriaid fwy o bleidleisiau (a seddi yn ol pob tebyg) na Llafur.  Ond mae’n debyg na fyddai gan y Toriaid ddigon i lywodraethu ar eu pennau eu hunain.  Llywodraeth leiafrifol Lafur fyddai’n ddibynnol ar yr SNP / Plaid Cymru / yr SDLP a’r Gwyrddion fyddai’n rheoli yn ol pob tebyg.

Dyna pam bod penderfyniad bwriadol Llafur i beidio a cheisio apelio at bleidleiswyr ieuengach trwy fethu gwrthwynebu mesur budd daliadau’r Toriaid mor anealladwy.  Dyna pam bod Jeremy Corbin mor boblogaidd ymysg aelodau’r Blaid Lafur.  Mae ei negeseuon creiddiol yn apelio at y rhan yna o’r boblogaeth sy’n dioddef yn sgil penderfyniadau’r llywodraeth – pobl ieuengach.  A dyna pam bod yr SNP mor boblogaidd yn yr Alban – mae’n debyg bod 75% o bobl 18-24 yn eu cefnogi, tra bod y ffigwr yn 25% ymysg pobl 65+.  Roedd naratif yr ymgyrch Ia yn un oedd yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu gwladwriaeth oedd a thegwch cymdeithasol ymysg ei gwerthoedd creiddiol.

Mae’n debyg bod yr hollt dosbarth traddodiadol mewn cymdeithas yn bwysicach pan oeddwn i’n fy ugeiniau nag ydyw heddiw – ond mae yna hollt arall yn brysur agor – un rhwng pobl ieuengach a phobl sydd wedi cael y gorau o wladwriaeth les Aneirin Bevan – pobl sydd wedi cael gwell ohono na chaiff neb byth eto.  

Mae hyn oll yng nghefndir y ddadl am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.  Mae tri o’r pedwar ymgeisydd i gwahanol raddau yn dadlau tros dderbyn y neo ryddfrydiaeth economaidd sydd wedi dod yn gonsensws yn y DU ers i Blair gael ei wneud yn arweinydd y Blaid Lafur.  Mae’r neo gonsensws hwnnw  yn rhwym o greu gwladwriaeth lai o lawer – a grwpiau sydd ddim yn defnyddio eu grym etholiadol fydd yn dioddef fwyaf yn sgil hynny.  Ond os nad ydi pleidiau gwleidyddol yn rhoi unrhyw reswm i bobl ieuengach ymarfer eu grym etholiadol dydyn nhw ddim am drafferthu pleidleisio. 

Llefarydd y Dib Lems ar ddim byd o gwbl

Hmm wele rhestr llefarwyr swyddogol y Dib Lems.  Oherwydd mai dim ond 8 aelod seneddol, mae’n ddealladwy bod Farron wedi gorfod troi pob carreg i ddod o hyd i lefarwyr.  Felly yn ogystal ag aelodau seneddol, mae’n llawn barwniaid, arglwyddi, cyn aelodau seneddol, Aelodau Senedd yr Alban, Aelodau Cynulliad, cynghorwyr ac yn wir maer.  
  1. Leader: Tim Farron MP
  2. Economics: Baroness Susan Kramer
  3. Foreign Affairs/Chief Whip/Leader of the house: Tom Brake MP
  4. Defence: Baroness Judith Jolly
  5. Home Affairs: Alistair Carmichael MP
  6. Health: Norman Lamb MP
  7. Education: John Pugh MP
  8. Work and Pensions: Baroness Zahida Manzoor
  9. Business: Lorely Burt
  10. Energy and Climate Change: Lynne Featherstone
  11. Local Government: Mayor of Watford, Cllr Dorothy Thornhill
  12. Transport: Baroness Jenny Randerson
  13. Environment and Rural Affairs: Baroness Kate Parminter
  14. International Development: Baroness Lindsay Northover
  15. Culture Media and Sport: Baroness Jane Bonham-Carter
  16. Equalities: Baroness Meral Hussein-Ece
  17. Justice/Attorney General: Lord Jonathan Marks
  18. Northern Ireland: Lord John Alderdice
  19. Scotland: Willie Rennie MSP, Leader of the Scottish Liberal Democrats
  20. Wales: Kirsty Williams AM, Leader of the Welsh Liberal Democrats
  21. Campaigns Chair: Greg Mullholland MP
  22. Grassroots Campaigns: Cllr Tim Pickstone, Chair of the Association of Liberal Democrat Councillors
Mae yna ddau o ‘r wyth aelod seneddol yn absennol – Nick Clegg oherwydd iddo wrthod joban a hoff fab Sir Geredigion.  Ymddengys nad yw’r ail yn cael ei ystyried gan ei blaid yn addas i lefaru ar eu rhan am unrhyw fater o gwbl – hyd yn oed llefarydd tros faterion mewnol Lledrod.  Mae Mark yn lwcus nad ydi etholwyr Ceredigion mor ddethol a’r Dib Lems.

Pam bod y Toriaid yn hapus i bechu pobl ieuengach?