Catalonia ac annibyniaeth

Mae bod yn Catalonia heddiw tipyn bach fel bod yn yr Alban ar yr un pryd y llynedd – ond efallai y byddai’r ‘Alban ar steroids’ yn well disgrifiad.  Mae’r ymgyrch tros annibyniaeth yn hynod o weladwy yma – gyda baner annibyniaeth – yr Estelada i’w gweld ym mhob man mae dyn yn edrych bron – o fflatiau gwyliau ar y Costa Brava i’r blociau fflatiau ar gyrion trefi mawr megis Vic i sgwariau a strydoedd cul pentrefi bach y Pyrennies.

Ceir yr un math o stondinau stryd ag a gafwyd yn yr Alban gydag actifyddion yn ceisio darbwyllo pobl i gefnogi annibyniaeth, ceir pobl yn hel enwau ar gyfer deisebau a cheir arch farchnadoedd yn gwerthu baneri a chynyrch sy’n hyrwyddo annibyniaeth.  Cafwyd ‘refferendwm’ answyddogol y llynedd gydag 80% o’r sawl a gymrodd ran yn pleidleisio tros adael yr undeb efo Sbaen.
Serch hynny mae annibyniaeth yn y byr dymor yn  llai tebygol yng Nghatalonia heddiw nag oedd yn yr Alban yr adeg yma flwyddyn yn ol.  Yn sylfaenol un glwyd arall oedd rhaid i’r ymgyrch yn yr Alban ei chroesi erbyn hynny – ennill refferendwm.  Methwyd a neidio’r glwyd honno wrth gwrs.
Mae’n rhaid croesi dwy glwyd yng Nghatalonia.  Yn gyntaf mae etholiadau wedi eu trefnu yng Nghatalonia ddiwedd Medi eleni.  Gan nad yw llywodraeth Sbaen yn derbyn bod refferendwm yn gyfansoddiadol mae’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn ystyried yr etholiad yma yn refferendwm de facto.  Os byddant yn ennill byddant yn cychwyn llunio cyfansoddiad newydd gyda’r bwriad o sefydlu gwladwriaeth annibynnol erbyn 2017.   Mi fydd llywodraeth Sbaen yn gwrthwynebu hyn, a bydd y glymblaid arferol o fusneswyr rhyngwladol (yr Undeb Ewropiaidd, y Pab, llywodraeth China, Obama, Bob Geldoff – efallai y bydd galw am wasanaethau Gareth Edwards unwaith eto) yn sefyll y tu ol iddynt.  Gwrthwynebiad Sbaen a’r gymuned ryngwladol ydi’r ail glwyd.
O dan amgylchiadau arferol byddai’r  glwyd gyntaf yn cael ei chroesi’n weddol hawdd – mae’r pleidiau cenedlaetholgar yn ddi eithriad yn gwneud yn well na’r rhai ffederal mewn etholiadau Catalanaidd).   Efallai y bydd pethau’n fwy cymhleth y tro hwn.   Er i fwyafrif clir bleidleisio tros annibyniaeth yn y bleidlais answyddogol, mae’n debyg i’r sawl oedd yn erbyn annibyniaeth at ei gilydd beidio a thrafferthu i bleidleisio.  Mae’r polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu nad oes mwyafrif clir tros annibyniaeth – er bod y polau hynny wedi dangos mwyafrif tros annibyniaeth yn y gorffennol cymharol agos.   
Byddai gwrthwynebiad y wladwriaeth Sbaeneg gyda chefnogaeth y gymuned rhyngwladol ddim yn hawdd i’w oresgyn.  Un ateb posibl ydi newid yn llywodraeth Sbaen.  Mae’r blaid geidwadol sy’n rheoli ar hyn o bryd yn debygol o golli grym maes o law.  Mae’n bosibl y bydd y blaid newydd adain Chwith, Podemos yn rhan o’r llywodraeth nesaf.  Maen nhw’n wrthwynebus i annibyniaeth i Gatalonia, ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu refferendwm ar y mater.  Mae’n bosibl y byddant  yn caniatau refferendwm swyddogol – petai hynny’n digwydd mi fyddai yna drydydd glwyd – ond a chlirio honno byddai’r ail glwyd – gwrthwynebiad y wladwriaeth Sbaeneg – wedi ei niwtraleiddio i pob pwrpas.  

Cefnogi’r boi oedd yn gwybod bod Cymru’n cael ei than ariannu

Hmm, felly mae Owen Smith, Kevin Brennan, Nick Thomas-Symonds, Nia Griffith, Wayne David, ac Albert Owen wedi datgan cefnogaeth i Andy Burnham.  

Hwn ydi’r Andy Burnham sydd bellach yn cyfaddef ei fod yn gwybod ers blynyddoedd bod Cymru yn cael ei than ariannu, ond na wmaeth unrhyw beth i fynd i’r afael a’r sefyllfa oherwydd mai rhif 2 yn y Trysorlys oedd ac nid rhif 1.  

Beth bynnag flaenoriaethau’r ASau Llafur hyn, dydi Lles Cymru ddim yn eu plith.

Llun a theitl

Tybed os oes yna erioed deitl i flog wedi bod mor anghydnaws a’r llun sydd ar y dudalen flaen nag ymdrech AS Toriaidd Maldwyn, Glyn Davies?  A View from Rural Wales ydi enw’r blog, ond ceir llun o balas neo Gothaidd fawreddog ymhell, bell o’r Gymru wledig, neu unrhyw fan gwledig arall o ran hynny.
Mae’n siwr bod yna neges yno yn rhywle _ _ _ 

Pwt o Perpignan

Bu’n gryn gyfnod ers i mi fod yn Perpignan ddiwethaf.  Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod y gornel fach chwilboeth yma o Ffrainc hefyd yng Nghatalonia – cartref y Catalan Dragons i’r sawl yn eich plith sy’n dilyn rygbi’r gynghrair.
Newid amlwg ers i mi fod yma ddiwethaf ydi bod y Gatalaneg yn llawer mwy gweladwy, er bod llywodraeth Ffrainc yn enwog o anoddefgar o ieithoedd ag eithrio’r Ffrangeg.  Wnewch chi ddim clywed llawer o’r Gatalaneg yn Perpignan ei hun – er ei bod yn weddol gyffredin ei chlywed ym mhentrefi’r Pyrennies gerllaw – ac wrth gwrs tros y ffin yn Sbaen.  
Un o’r prif resymau am weladwyedd newydd yr iaith yn Ffrainc ydi bod y weinyddiaeth leol Lagendoc Rossilion wedi rhoi statws swyddogol i’r iaith ar ei thiriogaeth.  Mae hynny yn ei dro yn ganlyniad i’r brwdfrydedd newydd tuag at yr iaith yr ochr arall i’r ffin rhyngwladol. Mae ynagysylltiad agos rhwng cenedlaetholdeb ieithyddol a chenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn y rhan yma o’r Byd.  Yn yr ystyr yna mae Catalonia yn fwy tebyg i Gymru nag i’r Alban.

Y Front Nationale yn Ffrainc ac UKIP yng Nghymru

Mae’r ddau fap isod yn dangos cyfraddau diweithdra yn Ffrainc a’r bleidlais i’r blaid asgell Dde eithafol y Front Nationale yn etholiadau arlywyddol 2012.  Mae diweithdra ar ei uchaf ar hyd arfordir y Mor y Canoldir ac yn hen berfedd diroedd diwtdiannol y wlad yn y Gogledd Ddwyrain.  Nid bod hynny’n golygu o anghenrhaid mai’r di waith sy’n pleidleisio i blaid Le Pen, mae mwy yn pleidleisio iddi yn yr ardaloedd hyn na sy’n ddi waith.  Mae ardaloedd sydd efo lefelau uchel o ddiweithdra yn fregus yn economaidd, ac mae bod mewn sefyllfa economaidd fregus yn ymddangos i arwain at dueddiad i bleidleisio i’r Dde eithafol.  Does yna ddim cysylltiad amlwg rhwng lefelau cefnogaeth o UKIP a lefelau mewnfudo.

Fel y gellir gweld o’r trydydd map sy’n dangos dwysder cefnogaeth UKIP yng Mghymru eleni, mae’r patrwm yn debyg.

Blogiad gwyliau 1

Reit, dwi ar fy ngwyliau – ac fel arfer dwi am flogio yn achlysurol –  mae’n gwbl anisgwyl (ac yn wir anesboniaday) cymaint sy’n darllen fy mlogiadau gwyliau.  Yr un telerau ag arfer mae gen i ofn – blog gwleidyddol nid blog gwyliau  ydi Blogmenai, felly gwleidyddol fydd y cynnwys.  Hefyd peidiwch a disgwyl i mi wastraffu’r gwyliau yn ei diddanu yr uffars hunanol – mi fydd pob dim yn eithaf cwta.  Peidiwch a chwyno am wallau iaith chwaith – dwi ddim yn bwriadu prawf ddarllen dim.

Dwi newydd dreulio’r diwrnod yn ardal Verdun, yng Ngogledd Ddwyrain Ffrainc. Mae’r dref yn lle hynod ddymunol a heddychlon ond mae’n enwog oherwydd brwydr erchyll rhwng yr Almaen a Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Bu farw cannoedd o filoedd ar y ddwy ochr yn ystod y frwydr – a barhaodd am 300 niwrnod.  Cafodd naw o bentrefi ar y safle eu difa – rhai ohonynt wedi bod yn gymunedau hyfyw ers Oes y Rhufeiniaid.  Nid oedd yn bosib dychwelyd iddynt wedi’r rhyfel oherwydd y difrod a’r holl ffrwydrolion marwol oedd ar hyd y lle.  Serch hynny maent yn parhau i fod yn bentrefi yn llygaid y gyfraith gydag etholiadau i ddewis cyngor pentref a maer – i bentrefi sydd wedi eu chwythu oddi ar wyneb daear ganrif yn ol a lle nad oes fawr ddim ar ol o’r pentrefi gwreiddiol.  Mae’r rhan fwyaf o’r coedwigoedd enfawr wedi eu cau i’r cyhoedd oherwydd eu bod yn parhau i fod a gweddillion dynol, gwenwyn rhyfel a ffrwydrolion sydd heb ffrwydro.  Byddin Ffrainc yn unig sydd a hawl mynediad.


Serch hynny mae llawer i’w weld – ceiri  tan ddaearol anferth a’r L’ossuaire de Douaumont er enghraifft.  Lle i storio esgyrn ydi L’ossuaire.  Mae’r un yn Douramont yn anferth – mae yna weddillion dynol 130,000 o filwyr yn L’ossuaire de Douaumont – yn Almaenwyr a Ffrancwyr.  Mae’r nifer esgyrn yn cynyddu’n flynyddol fel mae mwy o weddillion yn cael eu darganfod a’u storio.  Mae yna fynwent filwrol y tu allan lle claddwyd tua 16,000 o’r sawl y gellid eu hadnabod.  Ceir mynwentydd tebyg yma ac acw ar hyd yr ardal.  Roedd mwyafrif llethol y sawl fu farw yn yr ardal yn ddynion yn eu dau ddegau, a’u tri degau cynnar – oed fy mhlant i heddiw.  Bywydau nad oedd wedi hanner eu byw yn llythrennol wedi eu chwythu’n ddarnau.  
Mae’n bosibl ymweld a’r naw pentref coll – er nad oes yna ddim llawer i’w weld ag eithrio ychydig o adfeilion treuenus, arwyddion i ddangos pwy arferai weld yn lle, ac eglwys fechan sydd wedi ei hadeiladu ar pob safle yn y blynyddoedd ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf.  

Mae’r cysylltiad gwleidyddol yn weddol amlwg mae’n debyg gen i.  Y ganrif ddiwethaf oedd yr un mwyaf gwadlyd yn hanes y ddynoliaeth o ddigon.  Roedd y rhyfeloedd a arweiniodd at y tywallt gwaed yn cael eu gyrru gan ddwy ffrwd wleidyddol wahanol imperialaeth a gwrthdaro ideolegol.  Cenfigen a drwg deimlad rhwng y sawl oedd yn rheoli pwerau imperialaidd mawr oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd yn Verdun, a chafwyd cryn dywallt gwaed yn ail hanner y ganrif pan oedd yr ymerodraethau mawr yn syrthio’n ddarnau. Ac wedyn roedd yna’r gwrthdaro ideolegol oedd yn y bon yn ymwneud ag anghytundeb ynglyn a’r ffordd orau o drefnu economiau.  

O edrych yn ol mae llawer o’r hyn oedd yn achosi i bobl ddefnyddio dulliau diwydiannol i ladd ei gilydd yn eu cannoedd o filoedd yn ymddangos yn ddi sylwedd a di ddim erbyn heddiw.  Ond ar y pryd roedd 
gwleidyddion y pleidiau sefydliadol  ynghyd a’r wasg oedd yn eu cefnogi yn datgan yn groch bod rhaid mynd i ryfel er mwyn atal rhyw erchylldra neu’i gilydd.  Doedd yna ddim consensws sefydliadol tros pob rhyfel – er enghraifft roedd ein cyfeillion yn y Daily Mail yn groch yn erbyn cymryd rhan yn yr Ail Ryfel Byd –  cyn iddi ddechrau – er eu bod o blaid bron i pob rhyfel arall a gymrodd Prydain ran ynddi trwy’r ganrif.  Ond roedd lled gonsensws yn amlach na pheidio, ac roedd y farn gyhoeddus yn cael ei llywio mewn modd oedd yn ei gwneud yn bosibl i gychwyn a chynnal rhyfel.

Mae ein hanes diweddar yn dangos yn glir i ni nad ydi lled gonsensws gan y sefydliad gwleidyddol yn golygu bod y consensws hwnnw yn gywir.  Mae hynny yr un mor wir am ryfeloedd y ganrif ddiwethaf ag yw am wleidyddiaeth y ganfif yma.  Roedd barn y Toriaid a Llafur am ymyraeth yn Afghanistan ac Irac yn gwbl anghywir.  Roedd polisi economaidd neo ryddfrydig a’r llyfu a llempian o gwmpas banciau anghyfrifol yn gwbl anghywir, roedd yr ymgyrch ofn a dychryn yn erbyn annibyniaeth i ‘r Alban wedi ei seilio ar gelwydd, dydi’r gred gwltaidd mewn llymder ddim yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd, ac mae’r corws sy’n rhybuddio yr aiff Llafur i ddifancoll os ydynt yn dewis arweinydd sydd o’r tu allan i’r consensws sefydliadol hefyd yn anghywir.

Mae coelio nonsens y grwpiau cul sy’n berchen y cyfryngau a sy’n rhedeg y sefydliadau gwleidyddol yn San Steffan wedi arwain at drychineb ar ol trychineb yn ystod y ganrif ddiwethaf, a does yna ddim lle o gwbl i gredu y bydd dilyn yr un grwpiau yn gibddall yn arwain at ganlyniadau llesol yn ystod y ganrif yma chwaith.

Dylai Chris Bryant edrych adref

Mae’r strop bach mae Chris Bryant yn ei chael ar hyn o bryd yn ddigri.  Mae’n honni bod ‘cefnogwyr’ Plaid Cymru wedi ymuno a’r Blaid Lafur fel aelodau ategol i bwrpas pleidleisio i Jeremy Corbyn fod yn arweinydd y blaid honno.

Mae hyn yn y bon yn eithaf syml.  Mae gan Blaid Cymru reolau cadarn sy’n gwahardd unrhyw aelod rhag ymaelodi a phlaid sy’n sefyll yn erbyn y Blaid mewn etholiadau.  Felly mae aelodaeth ddeuol o’r SNP a’r Blaid yn bosibl, ond tydi aelodaeth ddeuol o’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddim yn bosibl.  Os oes aelod o’r Blaid yn ymuno a’r Blaid Lafur, yna bydd yn colli ei aelodaeth o Blaid Cymru yn ddiymdroi.  ‘Does gan y Blaid ddim rheolaeth o gwbl tros yr hyn mae pobl nad ydynt yn aelodau yn ei wneud.
Ond mae Llafur wedi penderfynu ar drefn bisar o ddewis arweinydd lle mae gwahanol grwpiau o bobl yn cael pleidleisio, lle mae pobl o unrhyw gred wleidyddol yn cael ymuno fel aelodau ategol am bris gostegol yn unswydd i gael pleidleisio, lle mai’r Aelodau Seneddol sy’n cael dewis pwy sydd yn cael sefyll ond bod rhai ohonynt yn enwebu rhywun nad ydynt eisiau iddo gael ei ddewis.  Trefn or gymhleth, afresymegol, boncyrs sy’n gofyn am broblemau.  
Bai un plaid ydi’r shambyls yma, ac nid Plaid Cymru ydi honno.

Ail wladoli ‘r rheilffyrdd

Un o’r nifer o faterion diddorol sydd wedi codi yn sgil yr etholiad am arweinyddiaeth Llafur ydi ail wladoli ‘r system rheilffyrdd.  Cafodd y rheilffyrdd eu gwladoli gan Lafur ym 1948 a’u dychwelyd i ddwylo preifat gan lywodraeth John Major ym 1993.  Roedd canlyniadau’r penderfyniad hwnnw yn drychinebus i ddefnyddwyr y rheilffyrdd, gan greu darpariaeth ddrud ac aneffeithiol iawn.  Diffyg atebolrwydd  sydd wrth wraidd y sefyllfa yma.


O’m safbwynt fy hun does gen i ddim byd yn erbyn caniatau i’r sector breifat gael contractau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus os ydi hynny’n ffordd effeithiol o fynd ati.  Ond dydw i ddim yn derbyn bod darpariaeth gyhoeddus yn ei hanfod yn llai effeithiol na darpariaeth breifat.  Mae yna ddigon o esiamplau o ddarpariaeth gyhoeddus effeithiol.  Er enghraifft y rhan mwyaf effeithiol o’r ddarpariaeth trenau ydi’r rhan sy’n cael ei ddarparu gan y sector gyhoeddus.  Mae rheilffordd arfordir Dwyrain y DU yn cael ei redeg gan gwmni cyhoeddus – y Directly Operated Railways.  Mae’r DOR yn llawer mwy effeithiol a llai dibynnol ar gymorthdaliadau cyhoeddus na’r un darparwr gwasanaeth trenau arall.

Yr hyn sydd yn hanfodol i wasanaeth effeithiol ydi bod y darparwr yn atebol i’r sawl sydd yn ei ddefnyddio – boed hwnnw yn ddarparwr preifat, cyhoeddus neu drydydd sector.  Gallai’r atebolrwydd hwnnw fod ar ffurf atebolrwydd etholiadol (Gwasanaeth Iechyd neu heddlu er enghraifft), y gallu i ddewis darparwr arall (sector addysg neu wasanaethau masnachol), neu’r gallu i beidio a defnyddio’r wasanaeth o gwbl (unrhyw wasanaeth dewisol).  

Dydi hi ddim yn bosibl i fwyafrif defnyddwyr rheilffyrdd yn y DU sicrhau atebolrwydd trwy unrhyw un o’r dulliau uchod.  Dydi gwasanaeth rheilffordd ddim yn ddewisol i lawer o bobl – mae’r unig ffordd ymarferol sydd ganddynt i fynd i’w gwaith.  Dydi hi ddim yn bosibl newid darparwr am bod mae gan y darparwr fonopoli ar ran benodol o’r rhwydwaith.  Dydi’r cwmniau rheilffordd ddim yn atebol i bwysau democrataidd oherwydd nad ydynt yn cael eu rhedeg gan wleidyddion etholedig.

Gall preifateiddio weithio er budd y cwsmer lle nad oes monopoli gan y darparwr.  Mae yn natur y ddarpariaeth rheilffordd bod yn rhaid wrth fonopoli.  Lle ceir cyfuniad o fonopoli preifat a diffyg atebolrwydd mae’r wasanaeth bron yn rhwym o fod yn anfoddhaol a drud. Dydi monopoli cyhoeddus ddim yn cymaint o broblem oherwydd bod atebolrwydd democrataidd yn rhan o’r model.  

Mae ideoleg y farchnad rydd wedi bod yn broblem yn y DU mewn perthynas a’r rheilffyrdd o’r dechrau’n deg.  Yn ol yn oes Fictoria caniatawyd i’r system gael ei chodi bron yn llwyr gyda chyfalaf preifat.  Canlyniad hynny ydi system sydd wedi datblygu yn fympwyol, yn aml mewn ymateb i ystyriaethau busnes tros dro – doedd yna erioed ystyriaethau strategol ehangach yn gyrru’r broses o adeiladu’r system.  Mae hyn yn wahanol i’r hyn ddigwyddodd mewn llawer o wledydd Ewropiaidd eraill.  Er enghraifft yn Ffrainc cymerodd y llywodraeth ran bwysig mewn cynllunio’r system yn strategol oherwydd yr angen i allu symud milwyr yn gyflym i amrywiol ffiniau’r wlad.  O ganlyniad mae’r system yno yn fwy cytbwys, a mwy rhesymegol.

Mae ail wladoli’r rheilffyrdd yn no brainer -chwedl y Sais – oddi tan unrhyw ystyriaeth gwrthrychol ac ymarferol.  Mae’r ffaith mai ond dau o’r pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur sydd eisiau gwneud hynny yn  adrodd cyfrolau am cymaint mae’r ideoleg neo ryddfrydig wedi treiddio i weithiennau ‘r Blaid Lafur fodern.