Pam ei bod yn bwysig nad Llafur sy’n arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd

Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai wedi sylwi ar ffrwydriad anodweddiadol o weithgarwch gan Weinidog Cyntaf Cymru, Carwyn Jones.  Ymddengys ei fod yn gwneud ei ffordd o gwmpas Cymru tra’n honni gwneud rhywbeth arall cwbl anodweddiadol – gwrando.  

Y rheswm am hyn oll wrth gwrs ydi bod Carwyn eisiau pum mlynedd arall wrth y llyw yng Nghymru.  Mae’n bwysig er mwyn Cymru nad ydi o na’i blaid yn arwain llywodraeth Cymru ar ol y flwyddyn nesaf – mae Carwyn wedi methu yn bersonol a symud Cymru yn ei blaen ers cael ei ethol yn Brif Weinidog  ddiwedd 1999, ac mae ei blaid efo record o fethiant aleuthus ers 1999.  Llafur sydd wedi arwain pob llywodraeth ers 1999 – y nhw sy’n gyfrifol am pob methiant ers hynny.
Un o’r prif ddadleuon tros ddatganoli yn ol yn 1997 oedd y byddai ymreolaeth leol yn caniatau i lywodraeth Cymru fynd i’r afael a than berfformiad economaidd Cymru o gymharu a gweddill y DU.  Yn hytrach na chau y bwlch hwnnw, mae wedi agor ac wedi agor yn sylweddol.  Mewn termau cymharol mae Cymru yn dlotach heddiw nag oedd yn 1999.
Mae’n debyg i’r cyfryngau Seisnig wneud gormod o fethiannau’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a rhy ychydig o’r methiannau yn y Gwasanaeth yn Lloegr – ond record o fethiant ydi record Llafur Cymru beth bynnag.  Bu tan gyllido ers 2011, ceir methiannau yn y ddarpariaeth mewn perthynas ac argaeledd cyffuriau, profion a doctoriaid teulu mewn ardaloedd gwledig.  Mae yna ddiffyg cysondeb darpariaeth ar hyd a lled y wlad, mae’r ad drefnu sydd wedi ei orfodi ar Fyrddau Iechyd yn ansensitif ar y gorau ac yn orffwyll o wirion ar y gwaethaf.  
Prif faes gorchwyl arall y Cynulliad ydi addysg.  Mae’r ffordd mae Llafur wedi mynd i’r afael a’r Gwasanaeth Addysg yn esiampl pellach o ddiffyg crebwyll.  Yn ystod blynyddoedd cynnar y Cynulliad roedd y system wedi ei nodweddu gan hunan fodlonrwydd ynglyn ag allbwn y system ac ymgeisiadau di ddiwedd i ddefnyddio’r gyfundrefn i wireddu gwahanol amcanion cymdeithasol.  Wedyn yn sgil profion Pisa 2009 cafwyd panig gwyllt llywodraethol sydd wedi arwain at lunio system sydd mewn cyflwr o newid parhaus (gyda’r newidiadau yn aml yn groes i’w gilydd), sydd wedi ei lethu gan fiwrocratiaeth, lle mae pawb yn cael ei herio gan bawb arall a lle bod pawb efo baich gwaith cwbl afresymol.

Petai pobl Cymru yn caniatau i Lafur arwain y llywodraeth nesaf, yna byddai record hir o fethiant yn cael ei gwobreuo – a rydan ni i gyd yn gwybod beth ydi canlyniad gwobreuo methiant – mwy o fethiant.

Mae David Davies yn dod a gwarth ar Gymru

: “Mae’n rhaid i ni ddweud, sori, ond os ydych chi’n ffoi rhag rhyfel mae gwersylloedd yn Nhwrci a Jordan sy’n gallu sicrhau eich diogelwch.
“Ond ni allwn ni dderbyn miloedd ar filoedd i Ewrop. Pe bai pawb yn cael eu derbyn fe fyddai’n ddiwedd ar y Gwasanaeth Iechyd, oherwydd ni allwn ni ymdopi gyda’r niferoedd.” – David Davies, Aelod Seneddol Mynwy ar Newyddion 9 heno.
Bore ma roedd y dyn yn cyhuddo cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru am fod eisiau caniatau mynediad i rai o’r bobl anffodus sy’n dianc rhan rhyfeloedd y Dwyrain Canol.

Hanes Casnewydd yn ail adrodd ei hun

Mae’n ddigon posibl bod gan Paul Flynn bwynt bod ymgeiswyr lloches yn cael eu dosbarthu mewn modd anghyfartal, ac mae hefyd yn bosibl bod ymdrech fwriadol yn cael ei gwneud i sicrhau nad oes llawer o ymgeiswyr lloches yn cael eu hunain mewn etholaethau Toriaidd.

Ond mae yna rhywbeth chwithig am ddyn efo cyfenw fel Flynn sy’n cynrychioli etholaeth yng Nghasnewydd yn cwyno am ymgeiswyr lloches.  Casnewydd ydi ardal fwyaf Pabyddol Cymru.  Mae’r rhan fwyaf o’r Pabyddion sy’n byw yno efo’u gwreiddiau yng Ngorllewin Cork, ac maent yn byw yng Nghasnewydd oherwydd i filoedd o Wyddelod oedd yn llwgu lwyddo i ddianc ar fwrdd llongau oedd yn gadael Harbwr Cork yn ystod y Newyn Mawr – an Gorta Mor. Mae teulu fy ngwraig – Lyn- o ‘r cefndir hwnnw – er mai i Gaerdydd yr aethant hwy.   Byddai’r llongau yn eu gadael ar hyd arfordir De Cymru gan wybod y byddai’n rhaid i awdurdodau’r plwyfi yma yn eu cadw’n fyw wedi iddynt gael eu darganfod.  
Mi fedrwn ni fod yn reit siwr bod roedd yna bobl fel Mr Flynn bryd hynny yn cwyno bod rhaid i ardal Casnewydd gymryd gormod o bobl oedd yn chwilio am loches.

Mwy o idiotrwydd o Gaerdydd

Mae’n debyg bod ymgeisydd UKIP yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau’r Cynulliad i’w ganmol am gael ei bamffled agoriadol allan yn weddol gynnar.  Neu o leiaf dwi’n rhyw gymryd mai gohebiaeth ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ydi’r pamffled gan mai dyna’r etholiadau nesaf – does yna ddim son o unrhyw fath o etholiadau o gwbl yn y darn. 

Serch hynny mae Brian yn addo pob math o bethau os ydi ei blaid yn cael ei ethol – rheoli ‘ein’ ffiniau (dwi’n cymryd mai ffiniau’r DU sydd gan Brian mewn golwg yn hytrach na rhai Cymru), cael gwared o daliadau Ewrop er mwyn ariannu’r Gwasanaeth Iechyd, cael gwared o dreth incwm ar bobl sydd ar incwm isel, cael gwared o’r dreth llofftydd, cael gwared o dreth etifeddiaeth, cael gwared o gymorth tramor ac ati.
Yn anffodus dydi hi ddim yn ymddangos bod neb wedi trafferthu egluro i Brian na fydd mewn sefyllfa i weithredu ar unrhyw un o’i addewidion  os caiff ei ethol.  Materion sydd yng ngofal llywodraeth San Steffan ydi pob un o addewidion Brian.  Mae’n ymladd ei ymgyrch ar agenda na fydd mewn unrhyw sefyllfa o gwbl i’w gweithredu os caiff ei ethol.
Mae am fod yn hwyl dilyn yr ymgyrch idiotaidd yma tros y misoedd nesaf.

Dychwelyd i’r deyrnas fanana

Felly dyma fi ar y llong ar y ffordd yn ol adref i’r newyddion gwych fy mod yn cael gwneud fy nghyfraniad bach i gadw 45 o ‘arglwyddi’ newydd mewn moethusrwydd.  Daw hyn a’r cyfanswm i 826.  Mae nifer o ‘r ‘arglwyddi’ newydd ymysg y sawl oedd ynghanol y sgandal dreuliau enwog saith mlynedd yn ol.  Mae gan y Dib Lems 8 o aelodau seneddol etholedig a 102 o ‘arglwyddi’ efo’r hawl i ddeddfu – er na chawsant eu hethol gan neb. 

Mae’n debyg mai’r unig gorff llywodraethol mwy o ran maint ydi Cyngres y Bobl yn China sydd a bron i 3,000 o aelodau. Ond mae hwnnw yn gorff mwy democrataidd, llai drud a llai llwgr na Thy’r Arglwyddi.  



Mae yna etholiadau – o fath – i’r Gyngres. Yr unig beth sydd ei angen i fod yn aelod o Dy’r Arglwyddi ydi bod yn ffrindiau efo arweinydd un o’r pleidiau unoliaethol mawr, bod wedi cyfrannu pres i arweinydd un o’r pleidiau unoliaethol mawr, neu bod wedi cyfrannu i un o’r pleidiau unoliaethol mawr.  Mi fydd yna ambell i berson arall yn cael ymuno o bryd i’w gilydd am resymau cyflwyniadol.

Tra bod dod a thair mil o gynrychiolwyr o pob cwr o China at ei gilydd yn broses cymharol ddrud, dydi’r Gyngres ond yn cyfarfod am 10 i 14 diwrnod y flwyddyn – yn y gwanwyn fel rheol.  Mae Ty’r Arglwyddi yn cyfarfod ar hyn y flwyddyn – ac mae unrhyw aelod sy’n teimlo fel mynychu yn cael gwneud hynny – gan dderbyn ‘costau’ o £300 y dydd.  Yn naturiol ddigon bydd llawer yn cymryd mantais o hyn, a bydd rhai’n treulio’r diwrnod yn cysgu’n braf ar y meinciau coch cyfforddus.

Mae deddfwrfa fawr, anetholedig fel hyn yn arwydd o wladwriaeth lle nad ydi atebolrwydd yn gweithio’n iawn, a’r mwyaf mae rhywun yn edrych ar y drefn Brydeinig, y mwyaf mae dyn yn cael y teimlad bod yr atebolrwydd democrataidd sydd wedi ei sefydlu yng ngweddill Gorllewin Ewrop wedi mynd ar goll yn y  DU rhywsut.  Dwi’n gwybod i’r Chwyldro Ffrengig fethu a chyffwrdd Prydain – ond rhywsut llwyddodd i ddylanwadu ar wledydd eraill na effeithiodd yn uniongyrchol a nhw.  Ond rhywsut mae yna deimlad o Deyrnas Fanana am y DU – rhywle lle mae’r syniad o gyfartaledd  ac atebolrwydd llywodraethol wedi methu a gwreiddio’n iawn

Meddyliwch am Bennaeth y Wladwriaeth er enghraifft.  Dynas o’r enw Elizabeth Windsor sy’n 
cyflenwi’r rol arbennig yna ar hyn o bryd.  Mae wedi bod wrthi – heb fod yn atebol i neb na dim – am 
dros i hanner canrif.  Mae ei chymwysterau ar gyfer y swydd bwysig yma fel a ganlyn:

Hi oedd merch hynnaf ei thad.
Doedd ganddi hi ddim brawd.
Dydi hi ddim yn Babyddes, a dydi hi ddim wedi priodi Pabydd.


Mewn geiriau eraill cafodd ei phenodi ar sail secteraidd a llwythol.  Er gwaethaf hynny mae’r trethdalwr – yn Babyddion neu beidio – yn cael eu gorfodi i ariannu Elizabeth Windsor ac aelodau eraill ei theulu.  Mae’n rhaid gwneud hyn er gwaetha’r ffaith ei bod hi a’i theulu ymysg pobl gyfoethocaf y Byd – ac mae’r cyfoeth hwnnw wedi ei adeiladu ar y manteision mae’r olyniaeth llwythol a secteraidd wedi ei roi iddynt.  Mae ei mab hynaf – Charles Windsor – a’r brenin nesaf os bydd yn goroesi ei fam – yn hoff iawn o geisio dylanwadu ar weinidogion sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd trwy lythyru efo nhw i bwrpas  gorfodi ei gwahanol ddiddordebau esoterig ar y gweddill ohonom.  Mae atebion rhai o’r gweinidogion yn ogleisiol o grafllyd.



Erbyn meddwl, efallai fy mod wedi gwneud cam ddefnydd o’r gair ‘democrataidd’ yn y frawddeg ddiwethaf ond un.   Mae gan y llywodraeth bresenol fwyafrif llwyr i lywodraethu yn ol ei doethineb addfwyn ei hun ar 37% o bleidleisiau’r sawl a drafferthodd i bleidleisio.  Mae hynny’n fwy na’r 35% a gafodd Blair yn 2005 gyda llaw.   Mae’r wladwriaeth yn cael ei rhedeg gan gabinet sydd a 50% o’i haelodau wedi bod i ysgolion bonedd – 7% ydi’r ganran ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.  Mae’r Prif Weinidog a’i Ganghellor yn perthyn trwy waed i’r dywydiedig Elizabeth Windsor a’i thylwyth llawen.  

Mae gennym drefn etholiadol sy’n caniatau i un blaid gael 3 sedd ar llai na 100,000 o bleidleisiau ac un arall i gael 1 gydag 3.8m o bleidleisiau.  Ar hyn o bryd mae’r brif wrthblaid yn cynnal etholiad arweinyddol.  Mae tri o’r ymgeiswyr efo gwleidyddiaeth tebyg iawn i’w gilydd ac nid anhebyg i un y llywodraeth.  Fel 17 aelod o’r cabinet Toriaidd mae 3 ohonynt wedi bod i Rydychen neu Gaergrawnt.  Oherwydd bod ofn cyffredinol ymysg arweinyddiaeth presenol y Blaid Lafur bod y rhan fwyaf o’r pleidleiswyr am bleidleisio i’r boi sydd wedi ei addysgu yn y coleg ‘anghywir’ a sy’n arddel y wleidyddiaeth ‘anghywir’ (hy gwleidyddiaeth y rhan fwyaf o aelodau ei blaid) mae yna ymarferiad enfawr i chwynu’r rhestr etholwyr o bleidleiswyr sy’n debygol o bleidleisio trosto yn mynd rhagddi.  Canlyniad chwerthinllyd hyn ydi bod arweinwyr undeb a phobl sydd wedi ymgyrchu tros hawliau pobl gyffredin trwy eu bywydau yn cael eu gwrthod oherwydd ‘nad ydynt yn arddel gwerthoedd Llafur’ tra bod dynion busnes cyfoethog yn cael eu derbyn.

Nid bod llawer o hyn am gynhyrfu’r cyfryngau wrth gwrs.  Mae’r rhan fwyaf o’r cyfryngau print ym mherchnogaeth pobl gyfoethog iawn sy’n rhannu’r un buddiannau materol a’r sawl sy’n llywodraethu, ac mae pawb yn cael eu gorfodi i gyfrannu at ddarlledwr cyhoeddus sy’n gweithredu fel darlledwr gwladwriaethol pan mae’n canfod bygythiad i fuddiannau’r wladwriaeth – ac yn mynd ati i stwffio propoganda amrwd i lawr corn gyddfau’r sawl sy’n ei ariannu.  



Gwelwyd hyn yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban yn ddiweddar, fe’i gwelwyd yn ystod y dwsinau o ryfeloedd mae’r DU wedi cael ei hun ynddynt ers sefydlu’r Bib, fe’i gwelwyd yn ystod Streic y Glowyr, fe’i gwelir yn yr hyrwyddo hysteraidd o ddigwyddiadau ‘brenhinol’ a sefydliadol, ac fe’i gwelwyd trwy gydol y stad o anhrefn maith yng Ngogledd Iwerddon.  

Yn wir mi fyddwn yn dadlau i lyfdra newyddiadurol yn ystod y cyfnod hwnnw a arweiniodd at fimicio cibddall o naratif llywodraethol bod problem wleidyddol yn broblem droseddol anesboniadwy gyfrannu  at golli cannoedd o fywydau yn ddi angen.  Ac ar ben hynny – er gwaethaf presenoldeb anferth yn y dalaith ar hyd y cyfnod – methodd y Bib a gweddill y cyfryngau a sylwi bod nifer sylweddol o ddynion oedd yn cael eu rheoli ac oedd yn derbyn cyflog gan y wladwriaeth yn rhedeg o gwmpas y dalaith yn saethu pobl a’u chwythu i fyny – a hynny er (a defnyddio idiom leol) bod y cwn ar ochrau’r strydoedd yn gwybod yn iawn.  

Gyda llaw mae’n ddiddorol yn y cyd destun yma i Douglas Hogg gael ei godi’n ‘arglwydd’ ddoe.  Enilliodd enwogrwydd amheus iddo’i  hun ddwywaith yn y gorffennol – am ddefnyddio trefn dreuliau llwgr San Steffan  i gael y treth dalwr i dalu am lanhau ei ffos, ac am sefyll i fyny yn Nhy’r Cyffredin i wneud honiad ffug bod  Pat Finucane, un o bartneriaid hyn cwmni cyfreithiol  Madden & Finucane o Felfast, yn gefnogwr i’r IRA.  Cafodd Finucane ei lofruddio o flaen ei wraig a’i blant lai na mis yn ddiweddarach tra’n bwyta ei ginio dydd Sul yn ei gartref gan gyn heddwas o’r enw Ken Barrett a dyn arall.  Fe’i saethwyd yn ei wyneb bedair ar ddeg o weithiau. Roedd y dryll a ddefnyddwyd yn y llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan gyn heddwas arall ac asiant cyflogedig i’r gwasanaethau cudd – Bill Stobie, ac roedd y wybodaeth a ddefnyddwyd i gynllunio’r llofruddiaeth wedi ei ddarparu gan ddyn arall oedd yng nghyflogaeth y gwasanaethau cudd – Brian Nelson.


Ond wedyn mae’r system gyfreithiol yn un ryfedd yn ei chyfanrwydd. Mae’r system yn wych am ddod o hyd i bobl sy’n twyllo i gael budd daliadau, ond yn anobeithiol o sal am ddod o hyd i bobl sy’n gwrthod talu eu trethi – er bod sgeifiwrs treth yn colli mwy o bres o lawer i’r Trysorlys na hawlwyr budd daliadau anonest.  Mae’r heddlu yn cymryd degawdau i fynd i’r afael a chylch cam drin plant anferth honedig reit o flaen eu trwynau yn San Steffan (a llefydd eraill) tra’n delio yn effeithiol efo’r sawl sy’n dwyn Mars Bar o arch farchnad oherwydd ei bod yn llwglyd.  Gall ymchwiliadau cyhoeddus gymryd blynyddoedd a blynyddoedd i’w gweithredu (mae Chilcott wedi cymryd cryn dipyn mwy o amser na’r rhyfel mae’n edrych ar ei hachosion) neu gall y llywodraeth gyfarwyddo eu canlyniad (Widgery).  Mae ymddygiad anghyfrifol y banciau Prydeinig wedi dod yn agos at ddod a’r economi i’w gliniau, ac wedi achosi caledi gwirioneddol i rai o bobl mwyaf bregus cymdeithas – ond ‘does yna neb wedi torri’r gyfraith. Yn wir mae’r rhan fwyaf o’r sawl oedd yn gyfrifol yn ol ar gyflogau anferthol.
Mae’n debyg na fyddai trefn lywodraethol sylfaenol anemocrataidd ac anatebol mor ddrwg petai’n effeithiol – ond yr hyn a gynhyrchir gan y gyfundrefn sydd ohoni ym Mhrydain ydi gwlad gyfoethog ond diarhebol o anghyfartal.  Mae’r anghyfartaledd i’w weld ar lefel bersonol a lefel rhanbarthol.  Mae gan Brydain rai o’r rhanbarthau ac unigolion tlotaf yng Ngorllewin Ewrop – ac mae gan Gymru fwy na’i siar – llawer mwy na’i siar o ardaloedd a theuluoedd tlawd.  Pan mae gormod o rym yn nwylo cydadrannau cyfyng o gymdeithas – mae cyfoeth yn cronni’n dwt o gwmpas yr union gydadrannau hynny – felly mae pethau’n gweithio mae gen i ofn.  
Ac wedyn dyna i ni’r gyfundrefn wobreuo bisar – sydd wedi ei seilio ar godi hiraeth am ymerodraeth ddiflanedig oedd yn ymestyn tros tua chwarter arwynebedd y Byd pan roedd yn ei hanterth.  Mae yna gryn gystadlu am anrhydeddau megis yr MBE a’r CBE – yn ein mysg ni fel Cymry yn fwy na neb.  Roedd yna gost i’r Ymerodraeth honno wrth gwrs – ac roedd y rhan fwyaf o’r gost honno yn syrthio ar drigolion yr Ymerodraeth.  Roedd yn rhaid wrth wladwriaeth arbennig o filwriaethus – mae’r DU wedi ymosod yn filwrol ar tua 90% o’r gwledydd sy’n bodoli heddiw – llawer, llawer mwy nag unrhyw wlad arall.  O sefydlu’r Ymerodraeth roedd rhai o’r dulliau a ddefnyddwyd i ddelio efo’r gwahanol wrthryfeloedd sy’n rhwym o ddigwydd yn dilyn concwest filwrol yn alaethus yn ol unrhyw safonau.  Ac roedd yna dueddiad anffodus i drigolion yr Ymerodraeth lwgu i farwolaeth yn eu miliynau.  Patrwm cyson ddaeth i ben yn llwyr pan ddaeth yr Ymerodraeth i ben. 

Ac ar y nodyn gwirioneddol anymunol yna dyna ddwy awr ar long wedi hedfan a ninnau yng nghysgod clogwynni gwyn De Lloegr.   Fyddwn i ddim wedi credu y gallai mordaith dwyawr ddiiflannu mor sydyn.  Well i mi godi fy mhac a mynd i chwilio am y car.

Dyna agwedd y Blaid Lafur at y Gymraeg yng Nghaerdydd yn glir felly

Stori lawn yma.

Er gwybodaeth, mae yna 54,504 o drigolion Caerdydd yn honni rhyw sgil neu’i gilydd yn yr iaith Gymraeg yn ol Cyfrifiad 2011.  Mae hyn yn tua pedair gwaith y nifer o Fwslemiaid sy’n byw yn y brif ddinas, ac mae’n llawer uwch nag unrhyw grwp lleiafrifol ethnig – ag eithrio disgynyddion Gwyddelod. Mae Mr Bale ei hun ymysg y 54k+.  

Pen draw rhesymeg Mr Bale ydi mai dim ond pobl wyn, uniaeth Saesneg o gefndir Cristnogol sy’n rhan o wead cymdeithasol y ddinas.
Mae gen i lawer o deulu yng Nghaerdydd – rhai yn siarad y Gymraeg, ac eraill ddim mor ffodus.  Bydd yn newyddion tra anymunol i’r rhai sydd yn siarad y Gymraeg i ddeall nad ydi’r cyngor Llafur yn eu hystyried yn rhan o wead cymdeithasol y ddinas.  
Apartheid – gan Lafur yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif ar hugain.