Pam bod UKIP yn gwneud yn dda yn rhai o Gymoedd y De?

Mae’r rheswm yn syml yn ol y blog etholiadol election data.  Mae yna bump grwp o bobl sy’n tueddu i droi oddi wrth Llafur tuag at UKIP, ac mae’r pump wedi eu gor gynrychioli yn rhai o Gymoedd y De:

1). Teuluoedd sy’n ei chael yn anodd yn economaidd.
2). Grwpiau ‘coler glas’
3). Pobl mewn oed sy’n byw ar stadau cyngor.
4). Pobl mewn oed sydd ar fudd daliadau sy’n byw mewn fflatiau cyngor neu stadau tai cymunedol.
5). Pobl ifanc iawn sydd ar incwm isel.

Am fanylion llawn – a llond trol o fapiau – gweler yma.

Mae wasg Seisnig yn boncyrs

Ymddengys bod yr holl wasg Seisnig ddyddiol wedi cael eu hunain mewn stad sy’n ymylu ar hysteria oherwydd bod anffyddiwr gwereniaethol o heddychwr  yn ymatal rhag canu can sy’n gofyn i Dduw sicrhau buddugoliaethau milwrol i frenhines.  Yn eu byd rhyfedd nhw mae methiant i ragrithio’n gyhoeddus yn fater o warth a chywilydd.

Ymddengys o’i gyfraniadau rhyfedd ar Newsnight bod Owen Smith yn rhyw gytuno efo nhw.

Hollol bisar.

Llais cryf i Gymru

Yn ddi amau bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru Nia Griffith bleidleisio ychydig fisoedd yn ol tros £30bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.  Y toriadau hyn – ynghyd a rhai blaenorol – sydd yn gyfrifol am y toriadau milain mewn gwariant sy ‘n brathu ar hyd y sector gyhoeddus ar hyn o bryd – toriadau y byddwn yn gweld tystiolaeth o ‘u heffaith pob tro y byddwn yn rhoi’r newyddion ymlaen.
Ond tybed faint sydd yn gwybod am yr holl faterion pwysig nad ydi Nia’n teimlo ‘n ddigon cryf trostynt i fentro bwrw ei phleidlais?
Penderfynodd Nia atal ei phleidlais yn San Steffan ar y materion canlynol:
Ariannu Cymru yn deg – hy ar sail angen.
Atal toriadau i bensiynau sector gyhoeddus.
Torri cyfradd uchaf treth incwm.
Lleihau treth ar ynni mewn ardaloedd gwledig.
Caniatau i lywodraeth Cymru bennu ei blaenoriaethau ei hun mewn gwariant ar is adeiledd.
Datganoli grym tros brosiectau ynni sylweddol i Gymru.
Caniatau Cymru i reoli ei hadnoddau naturion eu hunain.
Atal ffracio hyd bod sicrwydd am ddiogelwch y broses wedi ei sefydlu.
Capio budd daliadau y bobl dlotaf mewn cymdeithas.

Goblygiadau buddugoliaeth Corbyn – nodiadau brysiog

Dwi’n siwr y cawn ni gyfle yn y dyfodol agos i drafod natur gwleidyddiaeth Corbyn – ond dwi ddim yn credu’r naratif sefydliadol / cyfryngol bod yr wleidyddiaeth honno yn rhwym o fod yn amhoblogaidd – mae datblygiadau etholiadol ar draws Ewrop yn dangos hynny yn weddol glir.  Yn wir byddwn yn troi’r naratif bod Corbyn yn ddrychiolaeth o’r gorffennol a’i ben i lawr.  Blair ac Adain Dde Llafur sy’n byw yn y gorffennol mewn gwirionedd – maent yn dal i ail adrodd dadleon yr wyth degau fel petai strwythur yr economi heb newid, fel petai’r rhaniadau oddi mewn i gymdeithas heb newid, fel petai lleoliad gwleidyddol y pleidiau eraill heb newid, fel petai’r bygythiadau milwrol heb newid, fel pe bai’r  Blaid Lafur heb gael ei dadberfeddu’n fyw yn wyneb ymtsodiad ffyrnig o’r Chwith iddi.  Ond materon i ddiwrnod arall yd’r rhain mewn gwirionedd – pwrpas y blogiad yma ydi edrych ar y goblygiadau i Gymru.

Ar un olwg mae ethol Corbyn yn anghyfleus a dweud y lleiaf i’r Blaid (a’r SNP).  Mae yna lai o ddwr rhyngom ni a Llafur na fu ers blynyddoedd lawer.  Mae am fod yn anodd disgrifio plaid sy’n cael ei harwain gan Corbyn fel Toriaid Coch na rhyfelgwn anghyfrifol.  Ond mi fydd yna gyfleoedd yn codi ac mae’n bwysig cymryd mantais ohonynt.  Nid ei bolisiau fydd prif  broblem Corbyn, ond ei ‘ffrindiau’.  Bydd Adain Dde ei blaid yn gwneud yr hyn allant i’w danseilio o’r diwrnod cyntaf.  Maent eisoes wedi gwneud hynny’n glir.  Byddai ‘n well gan adain Blairaidd y Blaid Lafur weld llywodraeth Doriaidd nag un Lafur o dan arweinyddiaeth Corbyn.  Mae record Adain Dde Llafur o golli gydag urddas yn wael – a dweud y lleiaf.  Poerwyd y dwmi allan o’r goets go iawn yn wyth degau’r ganrif ddiwethaf, ac aethwyd ati i ffurfio plaid newydd – yr SDP.
Ac mi fedrwn fentro y bydd y Toriaid yn gyffredinol, a’r canghellor yn benodol – y canghellor mwyaf ‘gwleidyddol’ ers Lawson – yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gymryd mantais o’r rhaniadau hynny a’u chwyddo.  Ar ben hynny mae’r cyfryngau bron yn unffurf wrthwynebus i Corbyn i ryw raddau neu’i gilydd – mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wasg draddodiadol Lafur a’r Bib.  Gallwn fod yn siwr y byddwn yn clywed y datganiadau di ddiwedd gan rai o aelodau cabinet cysgodol Llafur – a wnaed yn ystod yr ymgyrch – nad ydi Corbyn yn addas i fod yn Brif Weinidog trosodd a throsodd a throsodd.
Yn ychwanegol at hynny dydi hi ddim yn glir o gwbl hyd yn hyn sut berthynas fydd yna rhwng y Blaid Lafur ‘Gymreig’ a’r un Brydeinig.  Ychydig iawn o annibyniaeth barn mae ‘r Blaid Lafur ‘Gymreig’ wedi ei ddangos hyd yn hyn – dydi hi ddim yn glir beth fydd yn digwydd os ydi Carwyn Jones yn ceisio torri ei gwys ei hun – er bod mwyafrif llethol aelodau ei blaid yng Nghymru wedi pleidleisio i Corbyn yn ol pob tebyg.
Gallwn fod yn siwr y bydd rhaniadau yn codi yn y math yma o dirwedd – y gamp i’r Blaid fydd cymryd mantais ohonynt.

Ond tydi hi’n hwyl bod yn aelod o’r Blaid?

Noson wych i lawnsio ymgyrch yn Aberconwy echnos yng nghwmni Trystan Lewis, Meinir Gwilym a Hogiau’r Berfeddwlad a Jacob Elwy neithiwr yng Nghlwb Rygbi Llandudno a’r Clwb Pel Droed yn orlawn neithiwr yng Nghaernarfon yng nghwmni Sian Gwenllian, Celt a Tamarisco i lawnsio’i hymgyrch hithau.  
Nid canfasio a thaflennu ydi gwleidydda i gyd  – ond mae’r gwleidydda yn mynd rhagddo o hyd cofiwch – cafodd Leanne dderbyniad gwych yn Llandudno brynhawn echdoe a dosbarthwyd miloedd lawer o daflenni yn Arfon fore ddoe (er i mi golli hynny – roedd gen i gyfarfod yn Nolgellau yn anffodus).
Mae Pleidwyr y Gogledd Orllewin ar y lon unwaith eto.  

Ynglyn a chamarwain yr etholwyr

Mae’r stori fach a ddatblygodd ar trydar ddoe yn un bach digon diddorol.  Mae’n deillio o drydariad gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, y Cyng Sion Jones ei fod yn gynhyrfus iawn ynglyn a buddugoliaeth Jeremy Corbyn yn etholiad arweinyddol y Blaid Lafur, a’i fod wedi cefnogi’r sosialwr o Islington o’r dechrau’n deg.
Cafwyd ymatebion gan y Cyng Dyfrig Jones yn tynnu sylw i Sion ddatgan cefnogaeth i Andy Burnham ym mis Mai.

Ymddengys iddo hefyd wneud yr honiad iddo gefnogi Corbyn o’r cychwyn yn un o’r nifer nid ansylweddol o gyfweliadau mae’n eu cael gan y Bib.

A bod yn deg efo Sion aeth ati i gywirio ei hun yn syth gan ddweud ei fod wedi newid ei feddwl a chefnogi Corbyn yn ‘hwyr ym mis Mai’.
Ond mae yna broblem yn aros mae gen i ofn.  Cafwyd datganiad gan Sion bod Burnham wedi colli ei gefnogaeth yn sgil sylwadau a wnaeth ynglyn a’r ffordd roedd Llafur wedi ymateb i bleidlais ar dorri budd daliadau.  Gwnaeth Burnham y sylwadau hynny ar Orffennaf 21 2015.  I’r rhai yn eich plith sydd ddim yn rhy siwr o sut mae’r calendr yn gweithio – mae hynny gryn ddau fis ar ol diwedd Mai.  Roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod mai Corbyn fyddai’n ennill erbyn y dyddiad hwnnw.
Rwan, dydan ni ddim yn son am rhyw gelwydd mawr Carmichaelaidd yma.  Does yna ddim amheuaeth bod Sion yn cefnogi Corbyn erbyn y diwedd.  Does yna ddim amheuaeth chwaith nad oedd yn cefnogi Corbyn o’r cychwyn fel yr honodd.  Ar un olwg mae’n ymgais hanner dealladwy – os naif – i wneud ei gysylltiad efo llwyddiant Corbyn yn gryfach nag oedd mewn gwirionedd.
Ond mae dau beth yn codi o’r stori ryfedd.  I ddechrau mae’n bwydo i mewn i ymdeimlad o anonestrwydd ymysg gwleidyddion.  Mae’n rhesymol i amau y byddai gwleidydd sy’n fodlon dweud celwydd ‘golau’ bychan, hefyd yn fodlon dweud celwydd mwy sylweddol petai amgylchiadau yn galw am hynny.
Mae yna rhywbeth arall hefyd – rhywbeth sydd yr un mor wir i flogiwr ag yw i wleidydd.  Mae hi bron yn unarddeg mlynedd ers i Flogmenai gychwyn – ac mi fedraf ddweud efo fy llaw ar fy nghalon nad oes yna erioed ymgais wedi ei gwneud i gyflwyno rhywbeth sy’n ffeithiol anghywir.  Peidiwch a cham ddeall – dydw i ddim yn honni am funud i fod ar rhyw ucheldir moesol – penderfyniad ymarferol ydi osgoi camarwain.  Mae’n bwysig i flogiwr bod yr hyn sydd yn ei flog yn gredadwy.  Mae cynnwys stwff sydd ddim yn ffeithiol gywir yn tanseilio hynny yn llwyr.  Mae’r egwyddor yna yr un mor wir i wleidydd – mae i wleidydd tanseilio ei gredinedd ei hun efo man gelwydd yn hurt.

Dryswch Llafur ynglyn a’r iaith

Mae’r blog yma wedi nodi yn y gorffennol ei bod yn anffodus – a dweud y lleiaf – bod y gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, Carwyn Jones, yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth dwyn perswad ar ei blant ei hun i ddefnyddio’r Gymraeg efo’i gilydd.  Os nad ydym yn gallu perswadio ein plant i wneud rhywbeth, mae’n anodd gweld pam ein bod yn disgwyl gallu dwyn perswad ar unrhyw un arall i wneud yr un peth.  Ymddengys i Carwyn fynd un cam yn well ym Mhatagonia ac annerch cyfarfod gweddol fawr trwy’r Saesneg, a’r Saesneg yn unig.  Go brin y gallai ddod o hyd i dyrfa o oedolion yn unrhyw le yn y Byd lle mae mwy yn deall y Gymraeg na’r Saesneg, ac mae’n cymryd y penderfyniad i’w hannerch yn y Saesneg.  Dydi idiotrwydd ddim yn air digon cryf rhywsut. 

Ond wedyn mae’r Gymraeg yn bwnc sydd wedi bod yn anodd i’r Blaid Lafur erioed. Mae rhai o wleidyddion Llafur yn y gorffennol – ‘Arglwydd’ Tonypandy a Iorweth Thomas er enghraifft wedi bod ymysg y pobl mwyaf gwrth Gymraeg i droedio’r Ddaear. Yn yr oes sydd ohoni maent i fod yn gefnogol i’r iaith – ond mae hyn yn eu drysu yn lan.  Ychydig iawn o ‘u gwleidyddion cenedlaethol neu leol sy’n defnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith.  Dydi pobl fel Gwenda Thomas neu Kevin Madge sy’n ei siarad yn rhugl prin byth yn traddodi ynddi ar lawr y Cynulliad neu Gyngor Caerfyrddin.
A hyd yn oed yma yng Ngwynedd – lle mae nifer o wleidyddion, aelodau a chefnogwyr Llafur yn gwneud defnydd helaeth o’r iaith –  mae’n achosi problemau seicolegol i’r blaid.   Roeddem yn edrych ar ymddygiad rhyfedd un o’u hymgeiswyr Cynulliad yn ddiweddar – lle mae’n ystyried darpariaeth ddwyieithog fel rhywbeth sy’n ymylu ar hiliaeth, ond yn cwestiynu pam bod cyfrif trydar preifat gan berson di Gymraeg sy’n cefnogi’r Blaid ddim trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r dryswch rhyfeddol yma yn ymestyn i gefnogwyr cyffredin ar lawr gwlad.  Ystyrier y trydariad yma gan gefnogwr adnabyddus o’r Blaid Lafur yn Arfon er enghraifft.

Er mwyn osgoi embaras i’r trydarwr, ac i guddio pwy ydyw mi gyfeiriwn ato fel John.  Ymddengys bod John yn meddwl ei bod yn briodol cyfeirio cyfrifon trydar preifat Saesneg i bencampwr iaith Gwynedd.  Ond ar yr un diwrnod roedd wrthi’n cwyno i Gyngor Gwynedd yn gyhoeddus trwy gyfrwng ei gyfri trydar bod rhywun wedi dympio llwyth o sbwriel yn agos at ei gartref.  Yn naturiol ddigon roedd yn cwyno trwy gyfrwng yr iaith fain. 
Mae’n anodd credu’r dryswch rhyfeddol yma rhywsut.

Ymgeiswyr lloches yn achosi mwy o broblemau

Dwi’n siwr y bydd darllenwyr Blogmenai yn cydymdeimlo efo’r aelod seneddol Toriaidd Adam Holloway ar y problemau mae’n eu cael efo ymgeiswyr lloches.  Does yna ddim pen draw i’r problemau mae hyn oll yn ei achosi.  Eglurodd ei broblemau dybryd mewn dadl yn Nhy’r Cyffredin heddiw.

“They have been though dozens of safe countries by the time they get to Calais. It’s quite possible to be a refugee and an economic migrant.

“And I think that’s one of the appalling truths of the Syrian bodies that have been washed up on the beaches. They previously got to safe countries and now they’re choosing to come to Europe…

“Likewise, we have people in this country who have come here, have claimed asylum, and then they go back on holiday in the places where they claimed asylum from. 

“I couldn’t have my hair cut the other day for that reason.”


Y Blaid Lafur’Gymreig’ a’r Gymraeg

Mae’n debyg ei bod ychydig yn anisgwyl bod ymgeisydd Llafur yn Arfon yn etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfri trydar o ‘r enw @PlaidSurge yn uniaith Saesneg – wedi’r cwbl ychydig fisoedd yn ol roedd Sion yn ceisio ffurfio cysylltiad rhwng darpariaeth ddwyieithog a hiliaeth.  Ond, a bod yn deg, ni all neb gyhuddo Sion ei hun o gadw cyfri trydar sydd ddim yn parchu’r Gymraeg – mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n amlach na’r Saesneg ganddo.
Fel mae’n digwydd mae yna reswm gweddol syml pam bod @PlaidSurge yn uniaith Saesneg – cyfrif preifat ydi o – mae’n cael ei gadw gan rhywun sy’n cefnogi ‘r Blaid, a gallai fod yn aelod, ond dydi o ddim yn gyfrif Plaid Cymru.  Mae’n fwy na thebyg bod deiliaid y cyfrif yn ddi Gymraeg.  
Mae gan y Blaid bolisi dwyieithog cadarn – yn wahanol iawn i’r Blaid Lafur.  O ganlyniad mae cyfathrebu cyhoeddus y Blaid yn ganolog i gyd yn ddwyieithog – o’r cyfrifon trydar, i ‘r cyfrif Gweplyfr, i’r wefan, i gyfrif trydar yr arweinydd.  Mae cyfathrebu mewnol y Blaid i gyd yn ddwyieithog hefyd.  Mae pwyllgorau mewnol y Blaid – y Cyngor Cenedlaethol, y Pwyllgor Gwaith a’r Gynhadledd yn gwneud defnydd o gyfieithwyr, ac maent yn cael eu cynnal yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.  
Cymharer hyn efo’r Blaid Lafur ‘Gymreig’ sydd i pob pwrpas yn endid uniaith Saesneg.  Mae’n wir bod yr elfennau parhaol i’r wefan yn ddwyieithog – er bod y deunydd sy’n cael ei diweddaru o ddydd i ddydd bron yn ddi eithriad yn Saesneg.  Mae’r cyfrifon trydar – @WelshLabour, @WelshLabourStudents, @WelshLabPress, @WelshLabourGrassroots yn uniaith Saesneg.  Mae’r cyfrif Gweplyfr yn uniaith Saesneg.  Mae cynhadledd ‘Gymreig’ y blaid bron i gyd yn Saesneg, mae’r pwyllgorau mewnol a’r cyfathrebu mewnol gyd yn Saesneg, mae’r datganiadau i ‘r wasg yn Saesneg ac mae bron i’r cwbl o’u haelodau Cynulliad yn defnyddio’r Saesneg a’r Saesneg yn unig yn eu gwaith pob dydd.  Hyd yn oed yma yn Arfon – etholaeth Gymreiciaf Cymru o ran iaith, ychydig iawn o Gymraeg a ddefnyddwyd gan eu hymgeisydd ym mis Mai ar ei gyfrif trydar.
Gan bod cyfrif preifat uniaith Saesneg sy’n digwydd bod yn gefnogol i Blaid Cymru yn ymddangos i boeni Sion, byddai’n ddiddorol gwybod beth mae o – neu’r ychydig o bobl eraill yng Nghymdeithas Cledwyn sy’n honni i fod yn garedigion y Gymraeg o ran hynny – wedi ei wneud i dynnu sylw’r Blaid Lafur yn ganolog at y ffaith ei bod yn endid sy’n dangos ychydig iawn, iawn o barch tuag at y Gymraeg.