Amrywiaeth a’r Blaid Lafur

Mae’n dda nodi bod y Blaid Lafur yn hyrwyddo amrywiaeth o ran oed, lliw, rhyw ac ati.  Fel y gwelwch mae yna ddynas wedi gwneud ei ffordd i’r llwyfan yn ystod sesiwn drafod yng Nghynhadledd y Blaid Lafur.  Anna Hutchinson ydi ei henw – ac mae’n cael cadw cofnodion o’r perlau o ddoethineb sy’n dod o gegau’r hogiau.

Lwcus iawn.

Llongyfarchiadau i’r Arglwydd Sewel

Dwi’n gobeithio nad oes yna unrhyw un yn ddigon sinigaidd i gredu nad aeth yr heddlu ati i ddod a chyhuddiadau yn ymwneud a chyffuriau yn erbyn yr ‘Arglwydd’ Sewel oherwydd ei gyfoeth a’i statws sefydliadol.
Wedi’r cwbl roedd y dystiolaeth yn wan iawn gyda dim byd ond lluniau, ffilm fideo, recordiad ohono’n son am gyffuriau a dwy dyst ar gael.  Fyddai’r heddlu byth yn dod a chyhuddiadau yn erbyn unrhyw un gyda thystiolaeth mor ddi ddim.

Llafur Cymru ar flaen y gad am unwaith

Anaml iawn y bydd y Blaid Lafur ‘Gymreig’ ar y blaen ynglyn ag unrhyw beth o gwbl – ond mae’n ddiddorol nodi eu bod ar y blaen am unwaith ym maes pwysig ffraeo mewnol.  
Yn sgil anufudd-dod yr aelodaeth mae Kim Howells, cyn Aelod Seneddol Pontypridd, wedi bod yn mynd trwy ei bethau gan ddweud wrth y wasg y byddai’n gwrthwynebu arweinyddiaeth newydd Llafur yn chwyrn petai’n dal yn Aelod Seneddol.  Dywedodd hefyd bod rhyfel cartref oddi mewn i’r Blaid Lafur bellach yn anhepgor.  Does yna ddim ffordd well o greu ffraeo a rhyfela mewnol mewn plaid wleidyddol na thrwy ddarogan rhyfela a ffraeo mewnol – ‘proffwydoliaeth hunan gynhaliol’ ydi’r term ‘dwi’n meddwl.
Da iawn hogiau, daliwch ati.

Ynglyn a Cameron ei fochyn a’i ddrygs

Mae am fod yn anodd ‘sgwennu hwn i gyd a chadw wyneb syth, ond mi geisiwn ni ein gorau – mae yna oblygiadau difrifol i ‘r holl stori.

Mi wnawn ni ddechrau efo’n cyfeillion yn y Bib.  Roedd y stori wedi ei chladdu yn dwfn yn un o gorneli bach tywyll Newyddion 9 heno.  Cymrodd oriau maith i’r Bib lwyddo i gael eu hunain i gyfeirio at y stori o gwbl. ‘Amheus’ oedd yr ansoddair a ddefnyddwyd gan Newyddion 9 i ddisgrifio seremoni dderbyn honedig Cameron.  Amheus?   
Mewn amserau arferol mae’r Bib yn ceisio bod yn ddi duedd – ac efallai bod hynny’n fwy gwir am y Bib yng Nghymru na’r Bib yn yr unman arall.  Ond pan mae’n dod iddi – refferendwm yr Alban, digwyddiadau brenhinol, cefnogi rhyfeloedd tramor dw lali, embaras i’r sawl sy’n rhedeg y wladwriaeth, mae’n cyflawni ei phwrpas – amddiffyn buddiannau’r elitiau sy’n rheoli’r wladwriaeth Brydeinig.
Yn ail dyma i ni’r busnes anffodus yma o seremoni dderbyn honedig Cameron i Gymdeithas Piers Gaveston.  Rwan dydi grwpiau fel hyn ddim yn arbennig o anarferol ymysg dynion ifanc (yn bennaf) mewn  sefydliadau addysgol eltaidd.  Yn wir mae yna bwrpas iddynt – mae rhannu profiadau fyddai’n gryn embaras mewn cylchoedd arferol yn ffordd o gryfhau’r cysylltiadau oddi mewn i grwp – er bod rhaid cyfaddef ei bod yn ymddangos bod y grwp yma’n mynd ymhellach na’r rhan fwyaf yn y cyswllt hwn.  Mae pawb yn gwybod rhywbeth am bawb oddi mewn i’r grwp – felly does neb yn dweud dim.  Mae pawb yn cadw cyfrinach pawb.  Mae bod yn perthyn i grwp felly sydd efo buddiannau a gwybodaeth yn gyffredin i’w haelodau o gymorth wrth rwydweithio yn y dyfodol.  Mae llawer o’r sawl sydd yn llywodraethu efo Cameron gyda chefndiroedd hynod o debyg iddo – wedi mynd i’r un Brifysgol tua’r un pryd ar ol mynychu ysgolion bonedd tebyg.  Mae llawer o ‘r bobl sy’n rhedeg pob dim arall yn y DU o gefndiroedd tebyg iawn hefyd. Dydi Cymru ddim fel hyn beth bynnag glywch chi am y Taffia – dydi hanner aelodau’r cabinet heb fod ym Mhrifysgol Aberystwyth na wedi bod yn aelodau o’r Geltaidd – nid fy mod yn gwneud cymhariaeth rhwng y Geltaidd a’r Piers Gaveston wrth gwrs.

Ac yn drydydd dyna i ni statws trethiannol Ashcroft pan oedd yn ariannu Plaid Geidwadol Cameron.  Wna i ddim aros gormod efo hon – mae’r pleidiau gwleidyddol ar yr achos yna.  Ond byddai goblygiadau bod wedi dweud celwydd am hynny yn fwy difrifol, os yn llai gogleisiol na busnes rhyfedd y mochyn.


Problem fach Carwyn Jones

Felly – yn dilyn cyfweliad yr ‘Arglwydd’ Falconer y bore ‘ma ymddengys bod cabinet cysgodol newydd Llafur yn rhanedig ar o leiaf 11 mater:

  • Ewrop
  • Nato
  • Trident
  • Annibyniaeth Banc Lloegr
  • Academiau addysgol
  • Cap ar fudd daliadau
  • Gwladoli’r Grid Cenedlaethol
  • Gwladoli’r banciau
  • Irac
  • Syria
  • Gogledd Iwerddon

Mae hon yn gryn restr – ac mae’r un gyflawn yn debygol o fod yn llawer, llawer hirach.  Dim ond y materion a gododd y bore ‘ma sydd wedi eu rhestru uchod.  Mae’n amheus gen i bod unrhyw gabinet neu gabinet cysgodol wedi bod mor rhanedig ers hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.  Yn sicr does yna’r un arweinyddiaeth wedi bod mor barod i siarad am ei rhaniadau o’r blaen.



Mae hyn oll yn gadael y Blaid Lafur ‘Gymreig’ mewn cyfyng gyngor.  Mae’n anhepgor y bydd y rhaniadau’n troi’n ffraeo cyhoeddus – a bydd hynny’n cael effaith negyddol ar ymgyrch y Cynulliad.  Bydd felly’n demtasiwn i Carwyn Jones geisio ymbellau oddi wrth llywodraeth Corbyn – ond bydd hynny ‘n achosi problemau ynddo’i hun.  Mae yna fwy – llawer mwy – o aelodau’r Blaid Lafur ‘Gymreig’ wedi pleidleisio i Corbyn na wnaeth i Carwyn Jones.  Mae gan Corbyn felly fwy o hygrededd ymysg aelodau Llafur Cymru na sydd gan Carwyn Jones.  Ond yn bwysicach na hynny 
hyd yn oed bydd rhaid i lywodraeth Bae Caedydd ymladd etholiad ar ei record ei hun os ydi hi’n symud oddi wrth Corbyn – ac mae’r record honno yn un enbyd o ddiffyg uchelgais, methiant treuenus i ddarparu gwasanaethau sylfaenol, a diffyg effeithiolrwydd cyffredinol.

Bydd yn ddiddorol gweld os y bydd yn well gan Carwyn Jones gysylltu ei hun efo cecru di ddiwedd yn Llundain ‘ta efo ei record alaethus ei hun o fethiant di dor.  Mae’n dda gen i mai ei broblem o ydi hi.