Llafur a phres y non doms

Dydi Blogmenai ddim yn dyfynu’r Daily Mail yn aml iawn – am resymau amlwg – ond mae’r stori yma yn un digon diddorol.  Ymddengys bod Tom Watson – dirprwy arweinydd y Blaid Lafur – wedi derbyn £40,000 tuag at ei ymgyrch gan Max Mosley.  Byddwch yn cofio nad ydi Max yn arbennig o hoff o’r papurau newydd yn sgil hacio ffonau a chyhoeddusrwydd i sut mae’n treulio ei amser – ahem – hamdden.

Rwan mae’r swm yma’n un enfawr i’r math yma o etholiad, ac mae’n esiampl arall o sut mae pobl gyfoethog yn gwario eu harian i geisio dylanwadu ar y broses ddemocrataidd yn y DU.  Fel yr Arglwydd Ashcroft – oedd yn ol pob tebyg yn disgwyl i’w gyfraniadau enfawr i’r Toriaid brynu’r weinidogaeth amddiffyn iddo – dydi Max Mosley ddim yn byw yn y DU i bwrpas talu cyn lleied o dreth a phosibl.  

Mae’r ddwy blaid fawr unoliaethol a’u gwleidyddion yn derbyn swmiau sylweddol o bres gan bobl sydd ddim eisiau talu cyfraniad teg yn eu trethi.  Dweud y cyfan am natur y pleidiau hynny mewn gwirionedd. 

Jeremy gelwyddog

A bod yn gwbl deg efo Llafur Arfon dydyn nhw ddim ar ben eu hunain yn eu tueddiad anffodus i ddweud celwydd yn barhaus – mae dweud celwydd yn rhan o ddiwylliant Llafur o’r bon i’r brig.  Wele’r arweinydd yn rhaffu celwydd ar raglen Andrew Marr yr wythnos ddiwethaf.
Dyma sut i hoelio gwleidyddion celwyddog.
Gwyliwch y fideo drwyddi.

Y Blaid a’r cwestiwn annibyniaeth

Dydw i ddim yn llwyr gytuno efo blogiad Jason ynglyn a Question Time y diwrnod o’r blaen – doedd y rhaglen ddim mor wael a hynny – ac roedd yr amrediad o safbwyntiau oedd yn cael eu cyflwyno yn ehangach o lawer nag oedd yn wir am y rhan fwyaf o’r rhaglenni cyn etholiad cyffredinol mis Mai.

Serch hynny mae ganddo bwynt ynglyn ag ymdriniaeth y Blaid o gwestiwn annibyniaeth.  Yn ol Jason yr hyn ddylai Leanne fod wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn ar annibyniaeth oedd y canlynol (yn hytrach na dweud bodi economi’r wlad yn rhy wan ar hyn o bryd):

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.


Cyn mynd ymlaen, efallai y dyliwn ychwanegu i Leanne ddweud yn glir ar y cychwyn bod annibyniaeth yn rhywbeth mae’r Blaid ei eisiau – doedd llefarwyr y Blaid ddim yn dweud hynny’n aml cyn iddi ennill yr arweinyddiaeth.

Serch hynny mae llawer o’r hyn mae Jason yn ei ddweud yn gywir – ond byddwn i’n mynd gam ymhellach na Jason – mae angen gwneud mwy na thynnu sylw at y ffaith bod tlodi Cymru yn ganlyniad uniongyrchol i’w dibyniaeth llwyr ar wlad arall i’w rheoli a cham reoli treuenus y Blaid Lafur Gymreig ers 1999.  

Dylid mynd ati i ddweud bod gwella’r economi yn rhywbeth y byddai’r Blaid mewn llywodraeth yn rhoi calon ac enaid i’w wireddu – yn rhannol oherwydd ei bod yn credu bod pobl Cymru yn haeddu gwell na’r arlwy treuenus sydd yn cael ei chyflwyno ger eu bron ar hyn o bryd, ac yn rhannol oherwydd ei chred y dylai Cymru reoli ei hun – yn union fel y rhan fwyaf o wledydd normal eraill.

Nid gwrthwynebiad athronyddol  ydi’r prif faen tramgwydd i annibyniaeth – sylweddoliad nad oes gan Cymru’r gallu i godi’r trethiant digonol i gynnal ei gwasanaethau cyhoeddus presenol ydi’r broblem.  Dylid cydnabod mai’r unig ffordd i fynd i’r afael a thlodi Cymru ydi cael gwared o’r  llywodraeth drychinebus, di glem sydd ganddom am hyn o bryd.  

Byddai mynd ati i wneud hyn yn niwtraleiddio’r honiad Llafur arferol bod gan y Blaid obsesiwn efo annibyniaeth a materion cyfansoddiadol yn hytrach na rhai economaidd.  Gellid dadlau wedyn mai’r gred mewn annibyniaeth sy’n rhoi’r ffocws i’r Blaid i wella’r economi.  Dim ond trwy wella un y gellir cyflawni’r llall.  Mae cyfoethogi Cymru yn angenrheidiol i’r Blaid os yw am sicrhau annibyniaeth i Gymru.  Mae cadw Cymru’n dlawd yn angenrheidiol i ‘r Blaid Lafur os yw am wireddu ei obsesiwn cyfansoddiadol hithau – cadw Cymru’n rhan fach a di ddylanwad o endid cyfansoddiadol llawer mwy.  


A’r diweddaraf gan Lafur Arfon

Mae’r blog yma wedi beirniadu Plaid Lafur Arfon yn y gorffennol am ymgyrchu ar faterion amherthnasol a gwirion.  Beirniadaeth neu beidio ‘does yna ddim byd yn newid – fel mae’r trydariadiadau yma a gyhoeddwyd ddoe gan arweinydd Llafur ar Gyngor Gwynedd, Sion Jones. Ymddengys bod Plaid Cymru yn shambls o blaid oherwydd bod Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd yn ennill mwy na £100,000.  Yn rhyfedd ddigon cafodd y trydariad ei gyhoeddi ar yr un diwrnod ag oedd Carwyn Jones yn gorfod ateb cwestiynau am bod Cyngor (Llafur) Caerdydd wedi caniatau i’w Prif Weithredwr nhw gael £170,000 y flwyddyn.

Fel sy’n weddol gyffredin efo Llafur mae’r trydariad uchod yn ffeithiol anghywir.  Mae cyflog Prif Weithredwr Gwynedd yn yr amrediad £100,536 – £108,264.  Dyma’r amrediad sydd wedi bodoli ers 2008.  Mae’r cynnydd o 10% yn gynnydd cwbl ddychmygol.  

Rwan mae’n wir bod Prif Weithredwr y cyngor yn derbyn mymryn mwy na £100,000 o gyflog – ond mae’r cyflog hwnnw ymysg yr isaf yng Nghymru (ac o bosibl yng ngweddill y DU hefyd).  Mae Ann Hopcyn yn ateb ei sylw efo linc i’r tabl isod.  Mi fyddwn yn nodi bod y tabl ychydig yn garedig efo Llafur yn yr ystyr nad yw’n llawn gynrychioli brwdfrydedd y blaid honno i roi cyflogau sylweddol iawn i uchel swyddogion.  Roedd Llafur yn rhan o’r weinyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin a ddaeth i’r casgliad bod eu prif swyddog nhw werth £185,000 y flwyddyn.
Ond mae pethau hyd yn oed yn waeth na hynny mewn gwirionedd.  Mae yna lawer o swyddogion eraill ar gynghorau sy’n ennill mwy na £100,000 – gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gweithio i gynghorau sydd o dan reolaeth llwyr, neu reolaeth rannol Llafur.  Hyd y gwn i nid yw’r ffigyrau yma wedi eu coledu ers 2013 – ond dyma ganfyddiadau Wales Online yn ystod y flwyddyn honno.  Mae’r ffigyrau yn cyfeirio at 2011/12.
Mae llywodraeth Carwyn Jones yn honni eu bod yn gwrthwynebu cyflogau uchel iawn i uchel swyddogion cynghorau, tra’n gwrthod gwneud dim i fynd i’r afael efo’r sefyllfa.

BLAENAU GWENT

Chief executive – David Waggett

Salary = £103,050

(with other payments and employer pension contributions = £126,379)

BRIDGEND

Chief Executive Officer and Head of Paid Service – Jo Farar 
Salary = £131,091 
(with other payments and employer pension contributions = £169,572)

Corporate Director – Children – Hilary Anthony 
Salary = £104,068 
(with other payments and employer pension contributions = £131,492)

Corporate Director – Communities – Louise Fradd 
Salary = £104,068 
(with other payments and employer pension contributions = £134,811)

Assistant Chief Executive – Performance and S151 Officer – David MacGregor 
Salary = £101,857 
(with other payments and employer pension contributions = £131,795)

CAERPHILLY

Chief Executive – Anthony O’Sullivan 
Salary = £123,665 
(with other payments and employer pension contributions = £149,294)

Deputy Chief Executive – Nigel Barnett 
Salary = £118,480 
(with other payments and employer pension contributions = £142,740)

Director of Social Services – Albert Heaney 
Salary = £105,367 
(with other payments and employer pension contributions = £127,045)

Director of Education – Sandra Aspinall 
Salary = £100,682 
(with other payments and employer pension contributions = £121,721)

CARDIFF

Chief Executive – Jonathan House 
Salary = £179,663 
(with other payments and employer pension contributions = £219,159)

Corporate Director Social Services – Neelam Bhardwaja until November 2011 
Salary £112,168 
(with other payments and employer pension contributions = £161,234)

Chief Corporate Services and Section 151 Officer – Christine Salter 
Salary = £107,088 
(with other payments and employer pension contributions = £130,689)

CARMARTHENSHIRE

Chief Executive – Mark James 
Salary = £185,365 (salary includes fees and allowances) 
(with other payments and employer pension contributions = £209,498)

Director of Regeneration and Leisure – Dave Gilbert 
Salary = £130,251 
(with other payments and employer pension contributions = £147,193)

Director of Technical Services – Richard Workman 
Salary = £118,410 
(with other payments and employer pension contributions = £135,689)

Director of Social Care, Health and Housing – Bruce McLernon 
Salary = £118,410 
(with other payments and employer pension contributions = £133,965)

Director of Resources – Roger Jones 
Salary = £118,410 
(with other payments and employer pension contributions = £133,940)

Director of Education and Children – Rob Sully 
Salary = £110,055 
(with other payments and employer pension contributions = £124,622)

CEREDIGION

Chief Executive – Bronwen Morgan 
Salary = £108,226 
(with other payments and employer pension contributions = £125,664)

DENBIGHSHIRE

Chief Executive – Mohammed Mehmet 
Salary = £124,859 
(with other payments and employer pension contributions = £166,719)

FLINTSHIRE

Chief Executive – Colin Everett 
Salary = £156,302 
(with other payments and employer pension contributions = £191,550)

GWYNEDD

Chief Executive – Harry Thomas 
Salary = £108,264 
(with other payments and employer pension contributions = £131,606)

ISLE OF ANGLESEY

Chief Executive – Richard Parry Jones 
Salary = £101,737 
(with other payments and employer pension contributions = £122,075)

MERTHYR TYDFIL

Chief Executive – Gareth Chapman 
Salary = £120,123 
(with other payments and employer pension contributions = £138,100)

MONMOUTHSHIRE

Chief Executive – Paul Matthews 
Salary = £117,000 
(with other payments and employer pension contributions = £140,210)

NEATH PORT TALBOT

Chief Executive – Steven Philips 
Salary = £129,725 
(with other payments and employer pension contributions = £148,593)

Director of Environment – John Flower 
Salary = £101,819 
(with other payments and employer pension contributions = £117,000)

Director of Social Services, Health and Housing – Tony Clements 
Salary = £101,216 
(with other payments and employer pension contributions = £115,892)

Director of Education and Lifelong Learning – Karl Napieralla 
Salary = £115,038 
(with other payments and employer pension contributions = £131,869)

Director of Finance and Corporate Services – Derek Davies 
Salary = £106,338 
(with other payments and employer pension contributions = £121,907)

NEWPORT

Managing Director – Tracey Lee 
Salary = £122,770 
(with other payments and employer pension contributions = £147,142)

Corporate Director, Regeneration and the Environment – Sheila Davies 
Salary = £101,313 
(with other payments and employer pension contributions = £121,565)

PEMBROKESHIRE

Chief Executive – Bryn Parry-Jones 
Salary = £159,462 
(with other payments and employer pension contributions = £194,820)

Director of Development – Dr Steven Jones 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £131,042)

Director of Finance and Leisure – Mark Lewis 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £128,034)

Director of Social Care and Housing – Jon Skone 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £132,373)

Director of Transportation and Environment – Ian Westley 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £129,322)

POWYS

Chief Executive – Jeremy Patterson 
Salary = £130,000 
(with other payments and employer pension contributions = £160,000)

Strategic Director – Finance and Infrastructure – Geoff Petty 
Salary = £101,000 
(with other payments and employer pension contributions = £124,000)

Strategic Director – Law and Governance – Clarence Meredith 
Salary = £101,000 
(with other payments and employer pension contributions = £124,000)

RHONDDA CYNON TAFF

Chief Executive – Keith Griffiths 
Salary = £142,000 
(with other payments and employer pension contributions = £159,000)

Group Director Corporate Services (Deputy Chief Executive) – Steve Merritt 
Salary = £122,000 
(Pension contributions not available)

Group Director Environmental Services – George Jones 
Salary = £113,000 
(Pension contributions not available)

Group Director Community and Children’s Services – Ellis Williams 
Salary = £113,000 
(Pension contributions not available)

Director of Education and Lifelong Learning – Chris Bradshaw 
Salary = £107,000 
(Pension contributions not available)

SWANSEA

Chief exec – Jack Straw 
Salary £140,000 
(with other payments and employer pension contributions = £168,700)

Corporate director environment – Reena Owen 
Salary £110,161 
(with other payments and employer pension contributions = £132,870)

Corporate director regeneration and housing – Phil Roberts 
Salary £110,000 
(with other payments and employer pension contributions = £132,550)

Corporate director education – Richard Parry 
Salary £105,000 
(with other payments and employer pension contributions = £126,684)

TORFAEN

Chief Executive – Alison Ward 
Salary = £121,940 
(with other payments and employer pension contributions = £140,257)

VALE OF GLAMORGAN

Chief Executive – John Maitland Evans 
Salary = £156,920 
(with other payments and employer pension contributions = £191,848)

Director of Legal, Public Protection and Housing – Peter Evans 
Salary = £108,067 
(with other payments and employer pension contributions = £132,438)

Director of Environmental and Economic Regeneration – Rob Quick 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £132,298)

Director of Finance, ICT and Property – Sian Davies 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £132,180)

Director of Social Services – Phil Evans 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £131,343)

Director of Learning and Development – Bryan Jeffreys 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £131,044)

WREXHAM

According to the figures, there were no officers employed by Wrexham ouncil in 2011/12 who were paid a salary of £100,000 or more.

Diwrnod gwael i Corbyn

Ymddengys nad yw Corbyn am gael trafod Trident yn ei gynhadledd.  Canlyniad hynny ydi na fydd polisi Llafur tuag at wario hyd at £100bn ar WMDs ddim yn newid, a chanlyniad hynny yn ei dro ydi y bydd llawer o aelodau seneddol Llafur yn pleidleisio gyda’r Toriaid ar y mater.

Yn y cyfamser roedd yr arweinydd newydd ar raglen Andrew Marr y bore ‘ma yn rhaffu celwydd am wleidyddiaeth yr Alban.  Yn naturiol ddigon ni chafodd ei herio gan Marr.  Er gwaetha’r holl heip mae’n dechrau ymddangos nad oes llawer iawn wedi newid mewn gwirionedd.

Buddugoliaeth i’r cenedlaetholwyr yng Nghatalonia

Rydym wedi cyffwrdd a’r stori am annibyniaeth Catalonia yn y gorffennol.  Ymddengys bod y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth wedi ennill yn etholiadau Catalonia – ac maent yn cymryd hynny fel mandad am annibyniaeth.  Bydd llywodraeth geidwadol Sbaen yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i atal hynny. 
Bydd y misoedd nesaf yn hynod ddiddorol – a helbulus yn ol pob tebyg.
Stori yma.
Gellir dilyn pethau yma.