Ynglyn a sacio Jenny Rathbone

Hanes sacio Jenny Rathbone fel cadeirydd un o bwyllgorau’r Cynulliad am godi llais yn erbyn y cynllun i wario’r rhan fwyaf o’r pres cyfalaf sydd ar gael i Gymru ar ychydig filltiroedd o darmac ochrau Casnewydd sy’n dominyddu’r cyfryngau cymdeithasol Cymreig heno. 

Mae’n demtasiwn i gael tipyn o hwyl yn tynnu sylw at y ffraeo mewnol cyffredinol sy’n amgylchu’r Blaid Lafur ar hyd y DU ar hyn o bryd, ac awgrymu bod yr hogiau yn cystadlu i weld pwy ydi’r gorau am ffraeo.  Ond mae yna bwynt mwy difrifol i’w wneud.
Mae unrhyw un sydd wedi treulio amser yn canfasio yng Ngogledd Cymru yn gwybod mai un o’r prif bethau sy’n poeni etholwyr ydi’r canfyddiad na chaiff y Gogledd chwarae teg ym Mae Caerdydd.  Os ydi’r canfyddiad yn un cywir neu beidio, mae’n fater sydd ar flaen meddyliau pobl.  
Mae’n ddiddorol felly mai Llafurwraig o Gaerdydd sy’n meiddio cicio yn erbyn y tresi mewn perthynas a gwariant gorffwyll Brynglas.  Dim gair gan Ken Skates, na Carl Sargeant na Sandy Mewies na Ann Jones na Lesley Griffiths. Mae’n well ganddyn nhw sefyll yn gadarn tros eu bosus gwleidyddol na thros y sawl sydd wedi eu hethol nhw.  
Mae yna ymdeimlad rhanbarthol cryf iawn yng Ngogledd Cymru – mae diffyg dewrder aelodau Cynulliad y Gogledd pan mae’n dod i sefyll tros fuddiannau eu hetholwyr am fod yn broblem i pob un ohonyn nhw fydd yn sefyll pan ddaw etholiadau’r gwanwyn nesaf.

Llafur Arfon – gwirio ffeithiau rhan 1

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn cofio i gryn dipyn o amser gael ei dreulio yn ystod yr ymgyrchEtholiad  Cyffredinol ddiwethaf yn cywiro gwahanol ymgeisiadau gan Blaid Lafur Arfon i gam arwain etholwyr Arfon.  

Bu’n rhaid dechrau’n gynnar ar gyfer ethol Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Rydym eisoes wedi dod ar draws nifer o ymgeisiadau i gamarwain yr etholwyr gan gynnwys celwydd noeth a di addurn bod Cyngor Gwynedd newydd roi 10% o godiad cyflog i Brif Weithredwr y cyngor.  Felly waeth i ni gychwyn cyfres o flogiadau i gywiro’r celwydd fel mae’n cael ei gyflwyno.
Wele ymgais arall i gam arwain yr etholwyr heddiw.  Ymddengys bod gan Plaid Cymru gynllun i atal myfyrwyr Cymreig rhag astudio y tu allan i Gymru.
Mae’n anodd gwybod yn iawn beth sydd y tu ol i’r ymgais yma i gamarwain yr etholwyr.  Mae myfyrwyr o pob rhan o’r Byd yn astudio yn Lloegr.  Hyd yn oed petai Cymru’n wlad annibynnol sy’n cael ei rheoli gan Blaid Cymru, ni fyddai’n bosibl atal pobl rhag astudio yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropiaidd – byddai hynny’n gwbl groes i gyfraith Ewrop.  
Mae’n wir bod gan y Blaid gynlluniau i leihau neu ddiddymu ffioedd myfyrwyr i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru mewn rhai pynciau fel meddyguniaeth.  Y rheswm am hynny ydi bod prinder meddygon yng Nghymru ac mae yna cryn dipyn o dystiolaeth bod myfyrwyr yn tueddu i aros yn yr ardal maent wedi mynd i goleg ynddo ar ol gadael coleg.  Mewn geiriau eraill mae’n ymgais i gynnig anogaeth i fyryfwyr mewn pynciau dethol i aros yng Nghymru er mwyn delio efo prinderau yn y gweithlu yng Nghymru.
Rwan mae cynnig anogaeth ariannol yn fater hollol wahanol i orfodi pobl i wneud pethau.  Mae’n weddol gyffredin i lywodraethau gynnig anogaeth ariannol i bobl ymddwyn mewn ffordd arbennig.  Un esiampl ymysg llawer ydi’r camau mae llywodraeth y DU a Chymru yn eu cymryd i ddwyn perswad ar unigolion a chwmniau ynni i ymddwyn mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol.  Does yna neb yn ei Iawn bwyll hyd y gwn i yn honni bod y camau hyn yn ymgais gan lywodraethau i orfodi pawb i roi paneli solar ar ben ei dy, neu i brynu car efo injan fach, neu i roi melin wynt yn sownd yn eu simdde, neu i beidio a defnyddio bagiau plastig.  Does yna neb yn ei lawn bwyll chwaith yn dehongli’r ffaith nad oes rhaid talu treth ar gyfraniadau elysennol fel ymgais i orfodi pawb i gyfrannu i elusen.  
Ond fel hyn mae’r ddisgwrs wleidyddol yn Arfon mae gen i ofn.  Roedd ymgyrch Alun Pugh yn gymysgedd rhyfedd o geisiadau i gamarwain etholwyr,  drama a hysteria – ond wnaeth hynny ddim ennill unrhyw bleidleisiau iddo. Un o’r rhesymau am hynny ydi bod y rhan helyw o bobl yn deall pan mae gwleidyddion yn ceisio eu cam arwain, ac yn cymryd hynny fel tystiolaeth o ddiffyg parch llwyr gan y gwleidyddion hynny tuag atynt.  ‘Dydi pobl ddim yn ceisio cam arwain y sawl maent yn eu parchu. 
Mae’n ymddangos nad ydi’r Blaid Lafur yn Arfon wedi dysgu unrhyw wersi o’u methiant llwyr ym mis Mai.  

Perlau Gwereniaethol – rhan 1

A hithau’n dymor dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad arlywyddol America roeddwn yn meddwl  y byddai’n hwyl edrych ar rhai o’r datganiadau cwbl orffwyll mae’n rhaid i’r ymgeiswyr Gwereniaethol eu gwneud er mwyn apelio at y sawl sy’n pleidleisio yn ystod y broses ddewis.  Mi wnawn ni ddechrau efo hon gan Ben Carson.

Dim cynhadledd i UKIP

O diar – dydi UKIP ‘Cymru‘ ddim yn cynnal eu cynhadledd yn Abertawe.  Y rheswm hynod anarferol ydi bod yna gynhadledd Wanwyn, felly does yna ddim angen cynhadledd yn ystod yr hydref. 

Mi fedrwch chi gredu’r stori honno os mynnwch chi.  

Eglurhad arall ydi bod y rhagolygon yn awgrymu y byddai yna erwau o seddi gwag yn y neuadd, ac y byddai’r digwyddiad yn edrych fel rhywbeth wedi ei drefnu gan y Dib Lems.  Roedd e bost yn egluro pam bod y digwyddiad wedi ei ganslo gan y cwmni dosbarthu – Ticketsource – yn dweud yn glir mai diffyg gwerthiant oedd y rheswm.
Dewiswch chi pa un ydi’r eglurhad mwyaf tebygol.   

Etholiad Glan yr Afon ddydd Mercher

Mae gan y Blaid gyfle gwirioneddol o ennill sedd Gorllewin  Caerdydd yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Mae yna nifer o bethau’n dod at ei gilydd i wneud hynny’n bosibl.  Byddai buddugoliaeth mewn is etholiad yn ward ymylol Glan yr Afon yn gam pwysig tuag at sicrhau mai Neil McKevoy yn hytrach na Mark Drakeford fydd yn cynrychioli’r etholaeth y tro nesaf.
Felly os ydych yn byw yng Nglan yr Afon gwnewch yn siwr eich bod yn pleidleisio.  Os ydych yn ‘nabod rhywun sy’n byw yno, rhowch air da tros yr ymgeisydd Ruksana Begum.  Gallai buddugoliaeth yno fod yn gam pwysig tuag at ganlyniad trawiadol y flwyddyn nesaf.
Cofiwch mai ddydd Mercher – nid dydd Iau – mae’r etholiad.