Cynhadledd Hydref 2015

Newydd gyrraedd adref o’r Gynhadledd – ac un arbennig o dda oedd hi hefyd – digon o bobl yn mynychu, wedi ei threfnu’n dda, llawn brwdfrydedd a hwyl.  Mae gan y Blaid pob rheswm i edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.  

Atodaf araith Leanne isod – a byddaf yn postio rhai o’r areithiau eraill hefyd fel maent yn ymddangos ar youtube.

O.N diolch i’r cynadleddwyr hynny o’r Gogledd oedd ddigon caredig i bleidleisio trostof fel un o gynrychiolwyr y Gogledd ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.  Roedd eich pleidleisiau yn ddigon i’m hethol. 

Beth sydd gan Janet Finch Saunders mewn golwg ynglyn a Golwg

Mae’r sgwrs fach yma ar gyfryngau cymdeithasol rhwng Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch Saunders ac ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, Trystan Lewis.  Cyfeirio mae Trystan at erthygl a ymddangosodd yn Golwg yn ddiweddar oedd yn honni nad oedd gan Janet fawr o glem am beth y byddai hi’n hoffi ei weld yn digwydd i gynghorau lleol Cymru.  Er mai hi ydi llefarydd swyddogol y Toriaid ar lywodraeth leol, ni ddylai fod fawr o syndod i neb sydd wedi dilyn ei gyrfa nad oes ganddi lawer o glem ynglyn a manylion ei phortffolio ei hun – dydi eglurder na llygad am fanylder ddim yn nodweddion sydd ymysg ei chryfderau.

Serch hynny mae ei hymateb yn ddiddorol – nad ydi Golwg yn gynrychioladol o’r wasg ehangach ac nad ydi newyddiadurwyr Cymraeg yn gynrychioladol o newyddiadurwyr yn gyffredinol.  Rwan mae hi’n bosibl bod Janet yn darllen Cymraeg yn ddigon da i ddarllen Golwg, a’i bod wedi dod i’r casgliad bod ymdriniaeth yr wythnosolyn cyfrwng Cymraeg  o faterion y dydd yn sylfaenol wahanol i ymdriniaeth gweddill y wasg.  Dydi hi erioed wedi dangos gallu o unrhyw fath i gyfathrebu yn y Gymraeg hyd y gwn i.
Ar y llaw arall efallai mai’r unig beth mae yn ei wybod am Golwg ydi ei gyfrwng a’i bod yn cymryd bod yna rhywbeth yn sylfaenol wahanol am rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg.  Rhagfarn yn hytrach na barn fyddai hynny wrth gwrs.

Radio Cymru a Carwyn Jones

Dwn i ddim os mai fi ydi o, ‘ta oes yna rhywbeth yn amhriodol am ymddangosiadau Carwyn Jones ar y Bib yn ddiweddar?  Ymddangosodd ‘ein hannwyl Brif Weinidog’ (a benthyg term Gwilym Owen) ar Raglen Dylan Jones y bore ‘ma i drafod y ffrae wneud rhyngddo a Stephen Crabb.  Cafodd gwpl o gwestiynau bach digon syml a di niwed gan Dylan Jones, cyn i’r ddau fynd ati i sgwrsio am rygbi.  Dwi’n eithaf sicr mai dyma’r ail waith i hyn ddigwydd tros yr wythnosau diwethaf – cyfweliad gwleidyddol bach hawdd yn troi yn gyfle i Carwyn gymryd arno i fod yn un o’r hogia (neu’r bois efallai) trwy baldaruo am chwaraeon.  

Rwan wnaeth Dylan Jones ddim holi gwestai nesa’r rhaglen – Gareth Davies – am ei ddamcaniaethau ynglyn a materion gwleidyddol y dydd ar ol dweud ei bwt am Bencampwriaeth Rygbi’r Byd.  Mae Gareth yn gwybod ei stwff am rygbi, hyd y gwn i dydi o ddim yn gwybod rhyw lawer am wleidyddiaeth.  Dydi Carwyn Jones ddim yn gwybod llawer am rygbi na phel droed chwaith – beth ydi pwrpas ei holi am y pynciau hynny? 
‘Dwi’n gwybod bod BBC Cymru’n hapus bod Carwyn wedi dechrau cymryd diddordeb ynddyn nhw yn fwyaf sydyn, ac efallai eu bod nhw’n teimlo’r angen i ddangos eu diolchgarwch iddo trwy lobio cwpl o gwestiynau hawdd i’w gyfeiriad a gadael iddo baldaruo am chwaraeon.  Ond mae gen i ofn mai faint bynnag o actio’r ci bach ffyddlon ddaw o gyfeiriad BBC Cymru, bydd Carwyn yn colli diddordeb ynddynt yn syth ar ol Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  

Cynhadledd Plaid Cymru 2015

Cofiwch am Gynhadledd Flynyddol y Blaid yn Aberystwyth ddydd Gwener a dydd Sadwrn.  Bydd y digwyddiad yn digwydd yn naw degfed blwyddyn y Blaid, ac mae’n ddigon posibl mai hon fydd y Gynhadledd fwyaf yn ei hanes o ran y nifer o bobl fydd yn mynychu.  Dewch os ydi hi o gwbl yn bosibl.

Fel y gwelwch o’r amserlen isod bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn annerch y Gynhadledd ddydd Gwener – ond mae yna siaradwyr arbennig o dda eraill trwy gydol y Gynhadledd.  

Mi gaiff aelodau sy’n mynychu’r Gynhadledd gyfle anarferol i bleidleisio tros awdur Blogmenai os ydynt eisiau gwneud hynny ac os ydyn nhw’n aelodau yn y Gogledd.  Dwi’n sefyll i fod yn un o ddau gynrychiolydd y Gogledd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.  Rwyf wedi cyflawni’r rol honno am y ddwy flynedd diwethaf.  Y ddau ymgeisydd arall ydi Vaughan Williams, Caergybi a Carrie Harper, Wrecsam.

Mae yna nifer o etholiadau cystadleuol eraill yn cael eu cynnal, gan gynnwys:
Cyfarwyddydd Polisi ac Addysg Wleidyddol
Cynrychiolydd Rhanbarthol Canol De Cymru
Pwyllgor Llywio’r Gynhadledd

Bydd ymgeiswyr y Blaid am Gomisiynwyr yr Heddlu yn cael eu dewis yno hefyd.

Beth bynnag am etholiadau, prif arwyddocad y Gynhadledd fydd ei hamseriad – mae’n cael ei chynnal fel mae ymgyrchoedd Cynulliad ar hyd a lled Cymru yn cychwyn o ddifri.  Mae’n bwysig mai’r Blaid ac nid Llafur fydd yn arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.  Mae’r blaid honno wedi methu a methu eto ers ennill grym yn y Cynulliad yn 1999.  Ymhellach mae Cymru wedi pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad fwy neu lai ers 1918 – ac rydym yn cael ein gwobreuo efo lleoliad ar waelod bron i pob tabl economaidd am wneud hynny.  

Byddai cynhadledd lwyddiannus yn fan cychwyn da ar yr ymgyrch anodd ond posibl i ddod a’r hunllef hir o oruwchafiaeth Llafur yng Nghymru i ben.

Is etholiadau cyngor sydd ar y gweill

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn cofio am yr holl stwr pan enilliodd Llafur is etholiad Cadnant yn Arfon ychydig wythnosau cyn mynd ymlaen i gael cweir yn yr Etholiad Cyffredinol.  Gellir gweld cyfeiriad yma er enghraifft – er bod sawl un arall hefyd.

Cynhyrfodd Llafur Arfon, Gwilym Owen a llu o seibr filwyr yn lan gan dybio bod hyn yn arwydd pendant bod Llafur am gipio Arfon yn yr etholiad cyffredinol.  Heb frolio – Blogmenai oedd yn gywir ynglyn a’r mater hwn a’r amrywiol sylwebyddion oedd yn anghywir.  Mae is etholiadau cyngor ac etholiadau Cynulliad neu San Steffan yn greaduriaid tra gwahanol.  
Serch hynny mae yna berthynas rhwng y ddau fath o etholiad.  Gall cyfres o fuddugoliaethau – neu golledion – mewn is etholiadau cyngor yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad fwy greu canfyddiad o lewyrch etholiadol neu ddiffyg llewyrch.  Mewn geiriau eraill gallant greu, neu lesteirio ar fomentwm ymgyrchu.
Felly mae’n ddiddorol bod cyfres o is etholiadau cyngor eisoes ar y gweill yng Nghymru – pob un ohonynt mewn ward enilladwy i’r Blaid.  
Ceir tair ar Dachwedd 19 – yn wardiau Dewi (Bangor) a Llanaelhaearn yng Ngwynedd a Chidwely yng Nghaerfyrddin.  Ac mae dwy arall lle nad oes dyddiad wedi eu penu ar eu cyfer eto – De Pwllheli yng Ngwynedd ac Eglwys Bach yng Nghonwy.  

Llafur Arfon – gwirio ffeithiau rhan 2

Dwi’n gwybod bod blogiadau gyda’r geiriau’Llafur Arfon’ a ‘celwydd’ ynddynt yn mynd yn ddiflas braidd i ddarllenwyr o rannau eraill o Gymru, ond – gan fentro colli mwy o ddarllenwyr- dyma un arall ar y ffordd.

Bu tipyn o storm yn lleol yn gynharach heddiw yn dilyn hysbyseb gan gwmni o Loegr sydd wedi prynu Plas Glynllifon ger Caernarfon oedd yn awgrymu’n gryf bod y cwmni hwnnw wedi rhoi enw Saesneg ar yr adeilad hanesyddol.
Codwyd y mater yn syth bin gan nifer o wleidyddion lleol.  Dwi’n credu mai’r gwleidydd cyntaf i godi’r mater oedd Sian Gwenllian – ymgeisydd y Blaid yn Arfon yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf – yn dilyn trydariad gan Guto Dafydd.  Cafodd gefnogaeth gan gynghorwyr annibynnol a Llais Gwynedd lleol.  Yn sgil y feirniadaeth chwyrn cafwyd tro  bedol gan y cwmni, a chafodd Plas Glynllifon ei enw gwreiddiol yn ei ol.
Ond yn ol Llafur Arfon, doedd y tro bedol yn ddim oll i’w wneud efo’u gwrthwynebwyr lleol – roedd y cwmni wedi newid eu meddyliau cyn unrhyw feirniadaeth gan Sian a’r gwleidyddion eraill.  Does yna ddim eglurhad pam y byddai’r cwmni yn newid eu meddyliau yn ddi ofyn.
Ond yn ol y Daily Post y feirniadaeth ddaeth gyntaf, a’r tro bedol wedyn.  Felly mae rhywun yn camarwain – Dail y Post neu Lafur Arfon.  Ag ystyried record alaethus Llafur Arfon mewn perthynas a geirwiredd, ac o ystyried bod ganddynt pob gymhelliad i ddweud celwydd (atal gwrthwynebwyr gwleidyddol rhag cael clod), ac  o ystyried nad oes gan Dail y Post hanes o gwbl o gynhyrchu straeon camarweiniol, ac o ystyried llinell amser riportio’r Bib, dwi’n gwybod pwy dwi’n ei gredu.
Gan bod y trydariad wedi ei gyfeirio at brif weinidog Cymru mae cwestiwn diddorol yn codi.  Rydym yn gwybod bod Llafur yn fwy na pharod i gam arwain yr etholwyr – ond ydi hi’n bosibl bod yna ddiwylliant o gam arwain ei gilydd?  Mae’n ymddangos bod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn un cadarnhaol.
Rydym wedi sefydlu eisoes nad ydi Llafur yn parchu’r etholwyr – ‘dydi pobl ddim yn dweud celwydd wrth y sawl rydym yn eu parchu.  Ond ymddengys nad ydi aelodau Llafur hyd yn oed yn cefnogi ei gilydd.