Mr Graham a Mr Asghar yn wynebu hystings teg

Mi fydd darllenwyr hir dymor Blogmenai yn gwybod bod y cwestiwn o sut mae’r Toriaid. ‘Cymreig’ yn dewis eu hymgeiswyr cynulliad rhanbarthol wedi bod yn fater sydd wedi mynd a’r sylw o bryd i’w gilydd. 

Daeth y mater i’r golwg gyntaf pan benderfynodd Mohammad Asghar adael Plaid Cymru ac ymuno efo’r Toriaid oherwydd nad oedd y Blaid yn fodlon gadael iddo gyflogi aelodau o’i deulu – yn wahanol i’r Toriaid.  Ymddengys i Asghar dderbyn sicrwydd bryd hynny y byddai’n cael un o’r ddau le cyntaf ar y rhestr fel gwobr am ddod trosodd at y Toriaid.

Beth bynnag, ar ol hir a hwyr o geisio dod o hyd i sut yn union mae’r Toriaid yn dewis eu hymgeiswyr rhestr, ymddengys bod y sawl sydd eisoes yn aelodau yn cael un o ‘r ddau le cyntaf yn awtomatig tra bod pawb arall yn gorfod ymladd am y trydydd a’r pedwerydd lle – hynny yw ymladd am leoliadau nad oes gobaith iddynt gael eu hethol oddi arnynt.  Mi fyddai trefn mor anemocrataidd sy’n hyrwyddo diffyg atebolrwydd yn gryn stori yn unrhyw le arall – ond Cymru ydi Cymru, a’r cyfryngau Cymreig ydi’r cyfryngau Cymreig.

Ond chware teg i Doriaid De Ddwyrain Cymru – maen nhw wedi mynnu cael hystings agored a bydd rhaid i’r ddau AC – Mohammad Asghar a William Graham gymryd eu siawns efo 10 ymgeisydd arall.  

Gall ysbryd democratiaeth dorri i’r wyneb yn y llefydd mwyaf anhebygol!



Ynglyn a defnyddio swyddogaeth undeb i bwrpas propoganda pleidiol wleidyddol

Mae’n ddiddorol bod Unsain yn mynnu ymddiheuriad gan y Blaid oherwydd y darllediad gwleidyddol diweddaraf sy’n tynnu sylw at fethiannau treuenus Llafur i gynnig gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yng Nghymru.  Gellir darllen y stori gyflawn yma, ac mae’r darllediad wedi ei gyhoeddi ar y blog hwn ychydig ddyddiau yn ol.

Rwan, does ‘na neb am wn i yn cymryd bod Unsain yn annibynnol o Lafur mewn unrhyw ffordd ystyriol o gwbl.  Yn wir mae fwy ynghlwm a chorpws llonydd, lleddf, hunan fodlon Llafur Cymru nag ydyw’r un undeb arall.  Ond yn yr achos yma mae yna gysylltiad agosach fyth.  Mi fydd y sawl yn eich plith sy’n gyfarwydd a gwleidyddiaeth etholiadol Arfon yn cofio’r gwr bonheddig yn y llun isod – Martin Eaglestone.
Safodd Martin mewn nifer o etholiadau Cynulliad a San Steffan yn Arfon /Caernarfon i Lafur yn yr etholaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf – gan gael cweir pob tro wrth reswm.  Bryd hynny roedd yn byw efo’i wraig a’i bump o blant yn y Felinheli.  Mae gen i frith gof o ganfasio ei dy yn ddamweiniol mewn rhyw etholiad neu’i gilydd.
Beth bynnag, diflannodd i Gaerdydd yn fuan wedi’r gweir arferol yn 2007 gan ail ymddangos yng Nghaerdydd.  Mae bellach yn byw yng nghyffiniau ‘r Brifddinas ac mae’n briod a dynas newydd – Dawn Bowden.  Fel y gwelwch o’i thudalen flaen Trydar, does ganddi ddim cysylltiad o unrhyw fath efo’r Blaid Lafur fel y cyfryw:

Nagoes wir, dynas undeb ydi Dawn – a hi ydi’r swyddog Unsain sy’n gyfrifol am faterion iechyd yng Nghymru.  Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am y myllio a’r tantro hunan gyfiawn sy’n nodweddu’r stori fach yma.
Rwan mae’n bosibl wrth gwrs mai consyrn at ei haelodau sydd yn gyrru sterics Dawn.  Byddai hynny’n rhyfedd braidd gan nad oes unrhyw feirniadaeth o aelodau Unsain – nag unrhyw undeb arall – yn y darllediad.  Beirniadaeth o’r blaid wleidyddol sydd wedi rhoi arweiniad mor ddi ddim a di gyfeiriad tros cymaint o flynyddoedd sydd yna.  Ond dyna fo, mae pobl yn gallu bod yn rhyfedd.
Ar y llaw arall gallai Dawn fod yn defnyddio ei statws o fewn Unsain i gymryd rhan mewn ymarferiad propoganda pleidiol wleidyddol yn dilyn cynllwyn bach a ddeorwyd tros y bwrdd brecwast rhwng dau hac Llafuraidd.
Dwi’n meddwl fy mod yn gwybod pa eglurhad sydd fwyaf tebygol.

Felix, Sion a deddfau cyffuriau

Mi glywais i rhyw fymryd o raglen radio Vaughan Roderick y diwrnod o’r blaen.  Ymysg eitemau eraill cafwyd trafodaeth ar gyfreithloni canabis. Vaughan, Felix Aubel, Sion Jones a rhywun arall nad ydw i’n cofio ei henw oedd yn cymryd rhan.   Fel llawer o raglenni mae Felix yn cymryd rhan ynddi roedd yna rhyw gymysgedd rhyfedd o’r boncyrs a’r di niwed o’i chwmpas.  Roedd y pedwar ohonyn nhw yn mynd trwy’i pethau fel petai yna fewath o dystiolaeth bod erlid defnyddwyr canabis wedi lleihau’r defnydd a wneir o’r cyffur.  Roedd Felix yn ein sicrhau bod ‘ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl’ wedi dangos iddo bod defnyddio’r cyffur meddal hwn gwneud i bobl ymosod ar eu partneriaid, treisio eu plant ac achosi anhrefn ar y strydoedd.  Mae’n amlwg nad yw ‘ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl’ wedi arwain ato’n cael ei hun mewn sefyllfa lle mae ganddo sbliff yn ei geg.  Roedd Sion yntau’n poeni am y sefyllfa, ac am i ‘r awdurdodau fynd ar ol defnyddwyr cyffuriau a’u cosbi ‘n llymach o lawer.  Roedd Felix wrth gwrs yn cytuno.

Rwan mae defnyddio cyffuriau yn beth eithaf stiwpid i’w wneud – ond dydi o ddim mor stiwpid ag ydi cred Sion a Felix mai ‘r ffordd ymlaen ydi gwneud defnydd hyd yn oed yn fwy llym o’r gyfundrefn droseddol.

Y broblem efo’r cyfreithiau cyffuriau sydd gennym ar hyn o bryd ydi nad ydyn nhw’n gweithio – a dydyn nhw erioed wedi gweithio.  Ers 1971 mae tua £1 triliwn wedi ei wario ar hyd a lled y Byd mewn ymdrech i atal pobl rhag defnyddio cyffuriau trwy wneud defnydd llawdrwm o’r system gyfreithiol. Ac eto mae’r farchnad yn cynyddu a chynyddu, a chynyddu a chynyddu gan greu elw rhyfeddol i ddrwg weithredwyr ar hyd a lled y Byd.   Rydym yn clustnodi amser ac adnoddau di ben draw i fynd i’r afael a’r broblem – yn taflu niferoedd enfawr o bobl i’r carchar – a’r canlyniad ydi bod mwy o gyffuriau ar y stryd a bod mwy o elw yn cael ei wneud gan ddrwg weithredwyr.


Mae yna resymau sy’n ymwneud a grymoedd economaidd sylfaenol yn gyrru hyn oll.  Fel mae’r awdurdodau yn mynd yn fwyfwy llawdrwm ar y drwgweithredwyr sy’n cyflenwi cyffuriau, mae’r sawl sy ‘n fodlon cymryd y risg i gyflenwi yn gofyn am fwy o arian – wedyn mae pris cyffuriau yn cynyddu ac wedyn mae’r sawl sy’n ei ddefnyddio yn cael eu hunain yn gorfod torri cyfreithiau eraill er mwyn fforddio talu am gyffuriau.  Mae’r drefn sydd ohoni yn gwthio prisiau cyffuriau i fyny, a’r bobl sydd yn elwa o hynny ydi gangiau o ddrwg weithredwyr sy’n gweithredu ar hyd a lled y Byd – o Gaernarfon i Fogota.  Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng natur cyfreithiau gwrth gyffuriau a’r anhrefn mae cyffuriau yn eu hachosi ar hyd a lled y Byd.  Mae’r fasnach Fyd eang werth tua $300bn.

Mae effaith hyn ar hyd a lled y Byd yn syfrdanol.  Mae’n debyg i tua 100,000 o bobl farw ym Mecsico rhwng 2006 a 2015 oherwydd yr anhrefn mae’r diwydiant cyffuriau ac ymdrechion yr awdurdodau i ‘w atal wedi ei greu. Ychydig mwy na 3,000 fu farw yng Ngogledd Iwerddon trwy’r rhyfel hir yno. Ceir carchardai llawn at yr ymylon mewn llawer o wledydd (defnyddwyr cyffuriau ydi mwyafrif carcharorion America – tua 500,000 o bobl). 

Ac eto dydi ‘r holl ymdrechion ddim wedi cael unrhyw effaith o gwbl.  Yn ol rhai amcangyfrifon mae traean o oedolion y DU wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar rhyw bwynt neu’i gilydd yn eu bywydau.  Mae un plentyn mewn chwech rhwng 11ac 15 oed yn defnyddio cyffuriau, mae yna tua 2,000 o bobl yn marw y flwyddyn o ganlyniad i gyffuriau ac mae ‘r defnydd o gyffuriau cyfreithlon – legal highs – yn rhemp.

Ac eto (yn y DU) mae tua 500,000 o bobl yn cael eu stopio a’u harchwilio am gyffuriau yn flynyddol yn y DU, ac mae 70,000 o bobl yn cael eu bywydau wedi eu difetha trwy gael record troseddol am ddefnyddio cyffuriau.


Er gwaethaf hyn oll ‘dydi’r broblem ddim yn gwella o gwbl.  Yn wir mae ymchwil y Swyddfa Gartref yn dangos yn weddol glir nad oes perthynas rhwng llymder cyfreithiau cyffuriau a faint o bobl sy’n defnyddio cyffuriau.

Mae yna ffyrdd o leihau’r defnydd o gyffuriau – ond nid trwy erlid pobl sy ‘n gwneud drwg i neb ag eithrio eu hunain a bwydo cyfrifon banc drwgweithredwyr ar hyd a lled y Byd efo biliynau o bunnoedd mae gwneud hynny.

I’r pesimistiaid iaith

Pwt bach i’r sawl yn eich plith sy’n wylofain ac yn rhincian dannedd yn barhaol am ddyfodol yr iaith.  Yn ol y dudalen yma o wefan Comiwsiynydd y Gymraeg roedd yna ganran uwch o blant 3/4 oed yn siarad Cymraeg yn 2011 nag ar unrhyw adeg ers 1931.  Ar ben hynny wrth gwrs mae grwpiau ifanc o fewn y boblogaeth yn llawer mwy tebygol o siarad y Gymraeg na’r grwpiau hyn.

Dydi hyn oll ddim yn golygu bod yr iaith yn ddiogel wrth gwrs – ond mae angen cyfeirio at y cadarnhaol yn ogystal a’r negyddol.

I weld y ddelwedd yn iawn cliciwch yma.

O Gydweli i Gwmaman

Ac i ffwrdd a ni o Gyngor Tref Cydweli i Gyngor Tref Cwmaman – a chynghorydd Llafur arall.  Collodd maer Llafur Cwmaman Shahid Hussain bleidlais o ddiffyg hyder yn ddiweddar o 11 pleidlais i 1 gyda’r maer yn pleidleisio o’i blaid ei hun, un yn ymatal a phawb arall yn pleidleisio yn ei erbyn.

Mae’r hanes yn ddigon syml yn y bon – gwrthododd Shahid ddatgan diddordeb cyn trafodaeth am gais cynllunio oedd i ‘w drafod yn ddiweddarach gan Gyngor Sir Caerfyrddin.  Gan bod cais cynllunio i agor siop gan Shahid ei hun ‘doedd hi ddim yn briodol iddo fynegi barn ynglyn a chais Tesco – dylai fod wedi cau ei big a gadael yr ystafell.  Aeth hi’n glamp o ffrae rhwng Shahid a’i gyd gynghorwyr pan ddywedwyd wrtho na ddylai siarad – ac mae’r mater yn debygol o gyrraedd yr ombwdsman.  Mae’n dra phosibl mai Shahid ydi’r unig faer yn hanes Cyngor Cwmaman i golli ei swydd o ganlyniad i bleidlais o ddiffyg hyder.

Ymddengys nad dyna’r tro cyntaf i Shahid fethu a datgan diddordeb mewn mater oedd yn sicr o ddiddordeb iddo.  Mewn cyfarfod cyhoeddus  ar ddyfodol lleoliad y Swyddfa Post a gadeirwyd gan Shahid gwrthwynebodd symud Swyddfa Bost i’r ganolfan gymuned heb ddatgan  ei fod am i ‘r Swyddfa Post fynd i’w garej ei hun.  Pan ddywedodd ein hen gyfaill Kevin Madge wrtho y dylai ddatgan diddordeb ymddengys iddo ddweud  This is a load of fucking shit.

Yr hyn sydd gan Shahid a Ryan ydi bod y ddau wedi eu dewis gan Lafur i fod yn gynghorwyr tref iddynt yn Sir Gaerfyrddin.  Mae Ryan wedi ei ddi arddel a’i ail arddel. Dydi hi ddim yn ymddangos bod Llafur yn arbennig o ddethol ynglyn a phwy maent yn eu dewis i ‘w cyflwyno gerbron yr etholwyr.

Ymgeisydd Llafur yn is etholiad Cydweli

Mae nifer wedi eu synnu at ddewis Llafur o ymgeisydd ar gyfer yr is etholiad yma sydd i’w chynnal ar Dachwedd 19 yn dilyn marwolaeth Keith Davies (Llafur).

Ryan Thomas, cyn is faer Cydweli ydi’r ymgeisydd.  Daeth Ryan i sylw cyhoeddus yn gynharach eleni pan benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ollwng  achos llys yn ei erbyn ar y bore pan oedd yr achos i fod i fynd rhagddo, wedi iddo ymddiheuro i ddynas ifanc iawn am gyffwrdd a’i bronnau mewn digwyddiad meddw yn ystod seremoni codi maer newydd i Gydweli yn ol ym mis Mai 2014.  Er nad ydi hi’n bosibl enwi’r ddynas o dan sylw am resymau cyfreithiol, mae hi a’i theulu yn adnabyddus iawn yn yr ardal.
Ta waeth, canlyniad byr dymor hyn i gyd oedd i Ryan gael ei esgymuno o’r Blaid Lafur dros dro, ac ymddiswyddodd oddi ar y Cyngor Tref.  Ond mae’n ymddangos mai’r canlyniad yn y tymor ychydig yn llai byr ydi iddo gael ei dderbyn yn ol i freichiau’r Blaid Lafur a’i gyflwyno ger bron etholwyr Cydweli fel ymgeisydd is etholiad Cyngor Sir.  
Rwan dwi’n gwybod bod Ryan yn ifanc, dwi’n gwybod bod ambell i seremoni codi maer yn gallu bod yn bethau rhyfeddol o feddw, dwi’n gwybod bod stwff yn digwydd pan mae pobl o dan effaith y ddiod gadarn, a dwi ‘n gwybod am natur y diwylliant Llafuraidd yng Nghymru.  
Efallai y byddai’n briodol i Lafur ganiatau i Ryan ail afael yn ei yrfa wleidyddol ar ol cyfnod rhesymol ar y cyrion – ond does yna ddim cyfnod rhesymol wedi mynd rhagddo.  Ychydig fisoedd yn unig sydd ers ei ymddiheuriad.  
Mae’r ‘maddeuant’ hynod frysiog yma yn anfon negeseuon cwbl anaddas ynglyn a difrifoldeb ymddygiad rhywiol amhriodol gan ddynion tuag at ferched – ac mae’n awgrymu bod Llafur Cymru –  er gwaetha’r gwaharddiad byrhoedlog – yn cymryd y mater yn weddol ysgafn yn y bon.  
Cofiwch, efallai bod mwy iddi na hynny hefyd – mae yna straeon ar led bod Llafur wedi bod yn e bostio aelodau  newydd oedd wedi ymuno a’r blaid yn sgil ymgeisyddiaeth Corbyn yn yr etholiad arweinyddol a cheisio eu perswadio i sefyll – gan gynnwys rhai sy’n byw ymhell o Gydweli.  Efallai nad oedd fawr neb arall yn fodlon sefyll iddynt – sefyllfa sydd yn gyfarwydd iawn yma yng Ngwynedd.  Os felly, byddai peidio a chynnig ymgeisydd wedi bod yn ddewis callach 
a mwy cyfrifol yn yr amgylchiadau hyn.
Gellir gweld mwy o fanylion yma.  

Beth ddylai ddigwydd ar ol etholiad y Cynulliad?

Mae’r sgwrs ynglyn a’r hyn ddylai ddigwydd yn dilyn yr etholiad Cynulliad eisoes wedi dechrau – er ein bod misoedd maith i fynd rhagddynt cyn yr etholiad.  Mae’n sicr nad Llafur fydd yn llywodraethu am byth – mae hyd yn oed llywodraethau sy’n perfformio’n dda yn syrthio yn y diwedd – record ddi dor o fethiant sydd gan Lafur Cymru.  Dydi hi ddim yn glir os mai yn 2016 y bydd hynny’n digwydd – ond dyna pryd y dylai ddigwydd.  
O safbwynt y Blaid mae yna hierarchiaeth o bosibiliadau.  Dwi’n eu rhestru nhw isod.

Y peth gorau allai ddigwydd ydi mwyafrif llwyr i Blaid Cymru.

Yr ail beth gorau allai ddigwydd fyddai llywodraeth lleiafrifol Plaid Cymru.  
Y trydydd peth gorau fyddai llywodraeth glymblaid o dan arweiniad Plaid Cymru.
Ond beth petai Llafur efo mwy o ACau a Phlaid Cymru, ond ddim digon i ffurfio llywodraeth – yna beth wedyn?  Mae nifer yn teimlo na ddylai’r Blaid byth gadw Llafur mewn grym – gweler yma er enghraifft.  

Mae yna resymeg etholiadol y tu ol i’r ddadl yma.  Mi fydd y Blaid wedi bod wrthi am fisoedd yn tynnu sylw at record alaethus Llafur mewn llywodraeth -record sydd gyda’r gwaethaf yn Ewrop.  Gallai mynd i lywodraeth efo nhw wedyn ymddangos yn rhagrithiol.  
Serch hynny fyddwn i ddim yn cyn belled ag i wrthod y posibilrwydd yn llwyr.  Tra bod Llafur wedi methu ym mhob maes bron – y tri prif fethiant ydi iechyd, addysg a datblygu’r economi.  Byddai’n anghyfrifol caniatau i Lafur gael y tri phortffolio yna am bum mlynedd arall i wneud llanast pellach ohonynt, os oes unrhyw ffordd o osgoi hynny.  Y tal y dylid ei godi am glymbleidio efo Llafur ydi’r tri portffolio yna – dim llai.  Mae pobl Cymru yn haeddu gwell darpariaeth na’r shambyls parhaus a pharhaol sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.  
Os na fyddai hynny yn dderbyniol i Lafur gallant ddewis rhwng glymbleidio efo UKIP neu’r Toriaid, neu geisio rhedeg llywodraeth leiafrifol.  Go brin y byddant yn gwneud yn waeth na maent wedi ei wneud hyd yn hyn.