I’r pant y rhed y dwr

Felly mae’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi llwyddo i greu swyddi yng Nghaerdydd a Glannau Dyfrdwy, tra’n methu ‘n llwyr i wneud hynny lle mae’n fwy anodd.  Mae’r stori bron iawn yn drosiad o’r hyn ydi Llafur yng Nghymru – gwneud yn o lew pan mae pethau’n hawdd, a methu’n llwyr pan mae pethau mymryn yn fwy heriol.

Disgwyl i bobl goffau’r meirw trwy ganu can ryfelgar

Mae hi’n anffodus bod Dydd Sul y Cofio wedi troi yn rhyw fath o achlysur pan mae Toriaid yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn mynychwyr sydd ddim yn rhannu eu gwleidyddiaeth – ond dyna lle ydan ni ar hyn o bryd – gydag arweinydd Llafur yn cael ei feirniadau am beidio gwneud rhywbeth neu’i gilydd i raddau digonol.

Mae’r Toriaid wrthi yng Nghymru hefyd gyda un o gynghorwyr Toriaidd y ddinas y. Gwichian oherwydd na chanodd arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd anthem genedlaethol Lloegr yn seremoni Sul y Cofio a gynhalwyd yn y brifddinas.

Rwan mae yna resymau tros beidio canu’r gan blentynaidd yma hyd yn oed os nad ydych yn Gymro nag yn genedlaetholwr o unrhyw fath.  Can yn clodfori unigolyn ydi hi yn hytrach na’r wlad y mae’r unigolyn honno’n ei harwain – mae yna rhywbeth yn gwltaidd am y gan – y math o beth y byddech yn ei ddisgwyl o anthem Gogledd Corea.
Ond y rheswm amlwg tros beidio ei chanu mewn seremoni coffau milwyr marw ydi ei bod yn gan mor rhyfeddol o ryfelgar.  Rhyfeloedd sydd wedi arwain at yr holl gelanedd i filwyr tros y canrifoedd, ac mae disgwyl i ni eu coffau trwy ganu can ryfelgar.  Wele’r geiriau llawn isod.
1. God save our gracious Queen,
Long live our noble Queen,
God save the Queen!
Send her victorious,
Happy and glorious,
Long to reign over us;
God save the Queen!

2. O Lord our God arise,
Scatter her enemies
And make them fall;
Confound their politics,
Frustrate their knavish tricks,
On Thee our hopes we fix,
God save us all!

3. Thy choicest gifts in store
On her be pleased to pour;
Long may she reign;
May she defend our laws,
And ever give us cause
To sing with heart and voice,
God save the Queen!

4. Not in this land alone,
But be God’s mercies known,
From shore to shore!
Lord make the nations see,
That men should brothers be,
And form one family,
The wide world over.

5. From every latent foe,
From the assassins blow,
God save the Queen!
O’er her thine arm extend,
For Britain’s sake defend,
Our mother, prince, and friend,
God save the Queen!

6. Lord grant that Marshal Wade
May by thy mighty aid
Victory bring.
May he sedition hush,
And like a torrent rush,
Rebellious Scots to crush.
God save the Queen!

Gwleidydda yn Ysbyty Gwynedd?

Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai sydd hefyd yn wrandawyr Radio Cymru yn gyfarwydd a’r Cynghorydd Sion Jones o Fethel.  Mae Radio Cymru wrth gwrs yn dilyn polisi gweddol gaeth o gynnal mwy o gyfweliadau efo Sion nag efo pob un o’r 74 cynghorydd sir arall yng Ngwynedd efo’i gilydd.  Yn wir dwi wedi clywed un neu ddau o bobl yn cyfeirio at Radio Cymru fel Radio Sion.

Ta waeth, rydan ni’n crwydro.  Yr hyn sydd gen i mewn golwg heddiw ydi’r trydyriadau hyn gan Sion: 

Ymddengys – yn ol tystiolaeth Sion – ei fod wedi bod yn ymweld ag Ysbyty Gwynedd yng nghwmni Mark Drakeford y gweinidog iechyd a Vaughan Gething, ei ddirprwy.  Rwan yn amlwg ‘dydi hi ddim yn briodol i weinidogion yn y llywodraeth fynd i ysbytai i wleidydda.  Mae ymweld ag ysbytai yn rhan o’u rol gweinidogol.  Dyna pam bod gweinidogion yn cael cyfarwyddiadau clir i beidio a mynd a phobl eraill i ysbytai ac ati oni bai bod y rheiny yn cael gwahoddiad gan y sefydliadau eu hunain.

Hyd y gwelaf i mae yna un o bedwar peth yn digwydd yma:
1). Mae Sion yn sefyll y tu allan i’r adeiladau ac yn cael sgwrs efo ‘r gweinidogion – ond yn ymatal rhag mynd i mewn efo nhw.  Mae hynny’n bosibl, ond nid dyna mae’r trydyriadau yn ei awgrymu – ond wedyn dydi’r cyfri trydar yma heb fod yn gwbl ffeithiol ddibynadwy yn y gorffennol.
2). Mae’r gweinidogion yn gwybod beth ydi’r rheolau ond yn mynd ag ymgeisydd etholiadol o gwmpas ysbyty efo nhw beth bynnag.
3).  Dydi ‘r gweinidogion ddim yn gwybod beth ydi’r rheolau ynglyn ag ymweliadau proffesiynol – ond mae’n amlwg yn rhan o’u busnes i wybod.
4).  Mae swyddogion Ysbyty Gwynedd –  am rhyw reswm neu’i gilydd – wedi rhoi gwahoddiad i Sion ymweld a’r ysbyty yng nghwmni dau weinidog yn y llywodraeth.  Mae hynny’n anhebygol ond yn bosibl – yn arbennig ag ystyried eu bod yn ddigon parod i ddefnyddio eu cyfri trydar swyddogol i roi cyhoeddusrwydd i Sion.

Is etholiadau cyngor yng Nghymru

I’r rhai ohonoch sy’n mwynhau is etholiadau lleol mae yna saith ar y ffordd yng Nghymru tros y dair wythnos nesaf.  Mae’n ddiddorol bod Plaid Cymru wedi llwyddo i gael 6 ymgeisydd – mwy na neb arall.  Mewn pedair is etholiad yn unig mae Llafur wedi dod o hyd i ymgeisydd, tra bod gan y Toriaid ddau a’r Dib Lems ddwy a’r Gwyrddion un.


Tachwedd 12
Cyngor Conwy, Eglwysbach – Plaid Cymru yn amddiffyn  – 2 ymgeisydd – Tori, Plaid Cymru.
Cyngor Pen y Bont, Dyffryn Ogwr – Annibynnol yn amddiffyn – 5 ymgeisydd: Llafur, Plaid Cymru, UKIP, Annibynnol.

Tachwedd 19

Cyngor Gwynedd, Llanaelhaern – Llais Gwynedd yn amddiffyn  – 3 ymgeisydd: Plaid Cymru, Llais Gwynedd, Annibynnol.
Cyngor Gwynedd, Dewi (Bangor)  Plaid Cymru yn amddiffyn  – 3 ymgeisydd : Llafur, Dib Lem, Plaid Cymru
Cyngor Caerfyrddin Cydweli – Llafur yn amddiffyn  – 6 ymgeisydd: Tori, Llafur, Plaid Cymru, People First, a dau Annibynnol.

Tachwedd 26

Cyngor Gwynedd, De Pwllheli – Llais Gwynedd yn amddiffyn – 4 ymgeisydd: Plaid Cymru, Llais Gwynedd a dau annibynnol.

 Bettws (Casnewydd) – Annibynnol yn amddiffyn  – 6 ymgeisydd – Llaf, Ceid, Gw, DemRh a 2 x Annibynnol.

Yn ogystal a’r saith uchod mae un arall ar y gweill – ond does dim gwybodaeth wedi dod i law ynglyn a’r dyddiad na’r ymgeiswyr eto.

Cyngor Conwy Gogarth (Llandudno),  Toriaid yn amddiffyn.

Diweddariad (Diolch D M) – Deall bod Greg Robbins am sefyll dros y Blaid. Mae o’n cynrychioli’r ward ar gyngor tref Llandudno.


Llafurwraig arall yn cael un o brif swyddi cyhoeddus Cymru

Fydd o ddim llawer o syndod i neb bod y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd – Sophie Howe- gyda chysylltiadau clos efo’r Blaid Lafur.  Mae’n ymddangos ei bod yn gyn gynghorydd Llafur yng Nghaerdydd.  Mae hi’n ddirprwy i Alun Michael fel Comiwsiynydd yr Heddlu yn Ne Cymru, ac mae wedi sefyll tros Lafur mewn nifer o etholiadau.  Mae hefyd yn gyn ymgynghorydd preifat i Carl Sargeant.  Mae un o’r Comisiynwyr eraill – Comiwsiynydd y Gymraeg, Meri Huws – efo cysylltiadau agos efo’r Blaid Lafur hefyd.

Dydi’r tueddiad i swyddi cyhoeddus pwysig gael eu llenwi gan aelodau neu gefnogwyr blaenllaw Llafur ddim wedi ei gyfyngu i gomisiynwyr.  Cymerwch y Gwasanaeth Iechyd er enghraifft.

Mae tri chadeirydd neu is gadeirydd y saith Bwrdd Iechyd Cymreig gyda chysylltiadau clos efo’r Blaid Lafur.  Un cadeirydd neu is gadeirydd sydd efo cysylltiad efo plaid arall.

 Mae o leiaf 10 o 79 (neu 13%) aelod y Byrddau Iechyd Lleol a’r Byrddau Ymddiriedolaeth Iechyd gyda chysylltiadau agos efo’r Blaid Lafur o gymharu a thri sydd a chysylltiadau efo’r holl bleidiau eraill efo’i gilydd. 

Mae’n ymddangos bod aelodaeth o’r Blaid Lafur yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael enwebiaeth i swydd gyhoeddus yng Nghymru.  

Clir fel mwd

Felly mae Llafur yr Alban yn erbyn adnewyddu Trident tra bod Llafur Prydain o blaid.  Mae arweinydd Llafur yn yr Alban o blaid Trident ond mae arweinydd Llafur y DU yn erbyn.  

Yma yng Nghymru mae arweinydd Llafur Cymru o blaid adnewyddu, ond eisiau lleoli’r ganolfan WMDs yn Sir Benfro – ac felly gwneud y rhan yna o Gymru yn darged i ymysodiad niwclear.  Mae Mark Drakeford yn erbyn, a felly hefyd Nia Griffith a Julie Morgan a ‘dydi Chris Bryant ddim yn rhy siwr.  Ymddengys bod Owen Smith o’r farn bod Llafur o blaid Trident ond eisiau cael gwared o’r system cyn gynted a phosibl.
Pwy ddywedodd bod rhaid bod yn glir mewn gwleidyddiaeth?

Hwre, adeilad yn 80 oed

Mae’r blog yma eisoes wedi tynnu sylw at arfer anymunol y Bib i ddwyfoli pobl sydd wedi gweithio i’r Bib – neu sydd yn gweithio i’r Bib – ar achlysur eu marwolaeth.  Gweler yma er enghraifft.  Mae’r arfer yma wedi goroesi nifer o benodau bach hynod anymunol – megis y clodfori gorffwyll o’r diweddar Jimmy Savile pan fu hwnnw farw, a’r cynllunio i ryddhau nifer o raglenni oedd i’w glodfori a’i ganmol hyd yn oed wedi i’r manylion anymunol am ei fywyd preifat ddechrau dod i’r wyneb.

Ta waeth – mae BBC Cymru wedi penderfynu mynd un cam ymhellach.  Os ydi gwefan newyddion Cymreig y gorfforaeth i’w chredu yr ail beth pwysicaf i ddigwydd yng Nghymru heddiw ydi bod adeilad o’u heiddo yn cael ei benblwydd yn 80 oed.

Mae’n debyg y gallwn edrych ymlaen i fwy o orffwylledd hunan bwysig fel hyn tros y blynyddoedd nesaf.  Mae’r Bib yn gweld ei hun fel darlledwr gwladwriaethol – ac felly fel endid a ddylai fod yn hynod bwysig a dylanwadol – yn ganolbwynt i fywyd y genedl.  Yn anffodus i’r Bib mae newidiadau technolegol, cyllidol, cymdeithasegol a gwleidyddol wedi glastwreiddio’r pwysigrwydd hwnnw yn sylweddol tros  y blynyddoedd diwethaf.  

Ond peidiwch a disgwyl i hynny arwain at ymddygiad mwy gwylaidd – i’r gwrthwyneb.  Fel y bydd pwysigrwydd gwirioneddol y Bib yn edwino, bydd y temtasiwn i ffugio pwysigrwydd trwy gyfrwng hunan ganmol yn cynyddu.

A chyn i mi dderbyn cwynion (anaml iawn y bydd Blogmenai yn derbyn cwynion ag eithrio pan mae’n beirniadu BBC Cymru), does gen i ddim byd yn erbyn unrhyw un sy’n gweithio wasanaeth newyddion a materion cyfoes y Bib – mae rhai’n gwneud joban dda iawn, mewn cyd destun anodd os nad amhosibl. Ond mae’r ffordd mae’r gorfforaeth yn canfod y Byd yn strwythurol, sefydliadol, Brydeinig,  ac mae’r rhagfarnau mae’r canfyddiad hwnnw yn esgor arnynt yn cael effaith negyddol ar ei hymdriniaeth o wleidyddiaeth a bywyd yng Nghymru – ac yn y gwledydd Celtaidd eraill.