Gwahaniaethau ar draws y DU mewn agweddau tuag at yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r cwbl o’r isod wedi eu dwyn oddi ar gyfri trydar @UKGE2020 – un o’r cyfrifon mwyaf diddorol i’r sawl sy’n hoffi gwleidyddiaeth ac ystadegau.  
Dydw i ddim yn meddwl fy mod angen rhoi gormod o sylwebaeth yma – mae’r trydariadau yn siarad trostynt eu hunain.  Ond maent yn taflu goleuni digon diddorol ar batrwm cefnogaeth i’r Undeb Ewropeaidd – o ran gwledydd y DU, rhanbarthau oddi mewn i’r gwledydd hynny, rhyw, oedran a dosbarth cymdeithasol.

Unoliaethwyr Ulster yn dangos mwy o sensitifrwydd na Jason ‘McCarthy’ Mohammad

Onid yw’n ddiddorol i arweinydd Unoliaethwyr Ulster (yr UUP), Mike Nesbitt  deimlo’r angen i ymddiheuro i genedlaetholwyr Gwyddelig oherwydd i unoliaethwyr mwy eithafol ganu God Save the Queen yn eu presenoldeb yn ystod digwyddian yn Stormont i gofio Cadoediad 1918, tra bod Jason Mohammad yn harthio Leanne Wood oherwydd nad yw’n un am ganu’r un gan?

Mae’n dod i rhywbeth pan mae Unoliaethwyr Ulster yn fwy sensitif i hunaniaeth Wyddelig nag ydi BBC Cymru i hunaniaeth Gymreig.

Cylch dieflig

Yn ardal Abids yn Hyderabad, De India oeddwn i ar ddiwrnod olaf Ebrill 2011 pan drywanwyd Akbar Owiasi.  Doeddwn i erioed wedi clywed amdano chwaith – ond mae’n ddyn pwysig yn y ddinas anferth yma o bron i 8m o bobl.  Mae’n un o arweinwyr plaid wleidyddol Fwslemaidd yn Ne India, ac mae’n wleidydd dadleuol.  Gallwch weld y manylion yma os oes gennych ddiddordeb.

Siarad efo cyfreithiwr oeddwn i, a fo gafodd y newyddion ar ei ffon symudol.  Parhaodd yr alwad ychydig o eiliadau, ac wedi iddi ddod ar ei ben cododd ar ei draed a dweud ei fod yn mynd adref, a fy nghyngori innau i fynd yn ol i fy ngwesty cyn gynted a phosibl.  Eglurodd ar y ffordd allan bod Owiasi wedi ei saethu, a’i bod yn bosibl y byddai llawer o bobl yn marw tros yr oriau nesaf.  Hindu oedd y cyfreithiwr.  Roedd gen i gar a gyrrwr yn aros amdanaf, ac roedd yn amlwg bod y gyrrwr wedi clywed y newyddion hefyd.  Roedd am fy ngyrru yn ol i’r gwesty cyn gynted a phosibl.  Roedd Hen Dref Hyderabad rhyngom ni a’r gwesty.  Yr Hen Dref ydi’r prif ardal Fwslemaidd mewn dinas sydd wedi ei rhannu’n weddol gyfartal rhwng Hindwiaid a Mwslemiaid – sefyllfa anarferol yn Ne India Hindwaidd.

Roedd yr Hen Dref yn rhywbeth rhyfeddol i’w gweld ar y diwrnod hwnnw.  Fel gweddill y ddinas roedd yn cau i lawr, gyda degau o filoedd o bobl yn llifo adref – llawer ohonynt yn ferched yn eu gwisgoedd du unffurf.  Roeddynt yn fy atgoffa o forgryg.  Roedd ceir arfog ar gornel pob stryd ac roedd cannoedd o heddlu parafilwrol yn sefyll ar hyd ddwy ochr y stryd yn hel pobl tuag adref – ac yn gwneud hynny mewn modd nad oedd gyda’r mwyaf addfwyn.  Roedd yr ymdeimlad o ofn yn dew yn yr awyr crasboeth – roedd bron yn bosibl ei deimlo, a’i flasu a’i arogli.  Roedd i’w glywed hefyd yn nistawrydd llethol y tyrfaoedd fel roeddynt yn brysio tuag adref.
O gyrraedd y gwesty roedd y mesurau diogelwch llym oedd yn nodweddu’r lle wedi eu huwchraddio yn sylweddol – roedd yna dau ddwsin o swyddogion diogelwch wrth y drws ac roedd rhwystrau wedi eu gosod o gwmpas yr adeilad.  Pan gyrhaeddais y drws gafaelwyd ynddof a’m lled luchio i mewn i’r cyntedd a’m rhybuddio i beidio a meddwl am adael yr adeilad heb ganiatad.  Wnes i ddim.  Treuliais weddill y diwrnod yn y gwesty a mynd i fy ngwely.  
Codais yn y bore i fyd hollol wahanol.  Roedd yr argyfwng wedi cilio, ac roedd yr ymdeimlad o ofn wedi cilio yn ei sgil.  Roedd pobl yn mynd a dod i ‘r gwesty mel y mynnant.  Holais un o’r merched wrth y ddesg pam bod y panig drosodd, ac roedd yr eglurhad yn un syml.  Wedi ei drywannu gan Fwslim arall oedd Owaisi o ganlyniad i ffrae ynglyn a thir,  ac nid oedd ei anafiadau yn bygwth ei fywyd beth bynnag.  Fyddai yna ddim dial llwythol / crefyddol.
Roedd pobl Hyderabad yn gywir i ddychryn ar y diwrnod arbennig yna – mae yna hanes hir o wrthdaro cymunedol sylweddol ar sail crefydd yn India.  Er enghraifft lladdwyd hyd at 17,000 o Siciaid yn yr oriau yn dilyn llofruddiaeth Indira Gandhi yn 1984 gan dyrfaoedd Hindwaidd.  Petai’r hyn ddigwyddodd ar strydoedd Paris neithiwr wedi digwydd mewn aml i ran arall o’r Byd byddai yna dywallt gwaed pellach a sylweddol wedi digwydd yn gyflym iawn.  Mae’n adlewyrchu ar sefydlogrwydd creiddiol cymunedau trefol, seciwlar Gorllewinol na chafwyd ymateb treisgar i ddigwyddiadau neithiwr.  

Mae natur trais neithiwr wedi esgor ar gryn dipyn o drafod – a chryn dipyn o ddamcaniaethu bod Islam fel crefydd gyda rhywbeth yn unigryw dreisgar amdani.  Cafwyd ffrae fach reit anifyr ar y cyfryngau cymdeithasol Cymreig ar y pwnc.  

Mae hynny yn wir i raddau ar yr eiliad yma yng nghwrs hanes, ond mae ffraeo diwynyddol ymysg Cristnogion wedi arwain at fwy o lawer o dywallt gwaed yn y gorffennol.  Yr hyn ddigwyddodd i newid hynny oedd y Chwyldro Ffrengig a’r seciwlareiddio mewn cymdeithasau Gorllewinol a ddilynodd hynny.  Nid bod seciwlariaeth wedi arwain at lai o dywallt gwaed wrth gwrs – roedd yna ddigon o hwnnw yn y Gorllewin yn y ganrif ddiwethaf o ganlyniad i wrthdaro rhwng ideolegau seciwlar – ond newidiodd natur a lleoliad y trais.  Dydi’r newidiadau cymdeithasol hyn heb gyffwrdd a’r Byd Mwslemaidd, ac o ganlyniad mae trais ar sail crefyddol yn parhau i ddigwydd. Mae cymdeithasau Mwslemaidd hefyd yn sylfaenol wahanol i rai Gorllewinol.


Mae llawer o’r trais sy’n dod o du Mwslemiaid wedi ei wreiddio mewn camddealltwriaeth o’r hyn mae’r Gorllewin yn ei wneud yn y Dwyrain Canol a thu hwnt.  I’r ffwndementalwr Islamaidd mae ymyraeth y Gorllewin yn y Dwyrain Canol yn ymysodiad crefyddol.  Dyna’r unig ffordd y gall rhywun sy’n edrych ar y Byd mewn termau cwbl grefyddol ei ddehongli.  Dydi hynny ddim yn wir wrth gwrs, edrych ar ol ei buddiannau ei hun mae’r Gorllewin.  Pan mae cefnogi, ac yn wir arfogi eithafwyr ffwndementalaidd yn unol a’i buddiannau mae’n gwneud hynny – mae cefnogaeth gyfoes i deulu brenhinol Saudi Arabia a jihadis Afghanistan yn yr 80au yn esiamplau amlwg o hynny.

Yn yr un ffordd mae llawer o’r trais sy ‘n dod o du’r Gorllewin hefyd yn deillio o gamddealltwriaeth.  Mae llawer o wledydd y Dwyrain Canol yn greadigaethau cyn bwerau ymerodrol Gorllewinol.  Rhoddwyd llinellau ar fap oedd yn aml yn lleoli gelynion hanesyddol oddi mewn i’r un gwladwriaethau.  Roedd y llinellau yn cael eu rhoi ar y map gan bobl oedd yn credu nad oedd gwahaniaeth sylfaenol yn natur cymdeithasau’r Dwyrain Canol a rhai Gorllewinol – neu bobl nad oeddynt erioed wedi meddwl llawer am y peth. ‘Doedd hynny ddim yn wir, ac o’r herwydd cafwyd nifer o unbeniaethau di drugaredd yn yr ardal. Roedd llywodraethau felly yn dod i fodolaeth oherwydd nad oedd trefniadau llywodraethol mwy rhesymol yn gallu dal gwladwriaethau sylfaenol ansefydlog at ei gilydd. 

 Wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, ac yn arbennig wedi 9/11 cafodd arweinwyr Gorllewinol y syniad o ddymchwel rhai o’r unbeniaethau roeddynt wedi ffraeo efo nhw, gan gredu y byddai yna wladwriaethau democrataidd rhyddfrydig (tebyg i’r Swistir o bosibl) yn cymryd eu lle.  Doedd hynny ddim yn bosibl, ac o ganlyniad mae llawer o’r Dwyrain Canol erbyn hyn y tu hwnt i unrhyw lywodraethiant call o gwbl.

Mewn geiriau eraill mae ymyraeth y Gorllewin yn y Dwyrain Canol wedi rhyddhau neu gyflymu prosesau sydd wedi gwneud llawer o’r ardal y tu hwnt i lywodraethiant, ac mae’n ymateb i hynny gyda mwy o drais.  Mae ffwndementalwyr Islamaidd yn dehongli hynny fel ymysodiad crefyddol ac maent hwythau yn eu tro yn ymateb gyda mwy o drais.  Ac mae’r Gorllewin wedyn yn ymateb trwy gynyddu’r traid – ac ati, ac ati, ac ati.  


Y Bib yn chwarae ei rhan yn llawn ym McCarthiaeth Sul y Cofio

Mae natur sefydliadol a theyrngarwch BBC Cymru / Wales i sefydliadau Prydeinig – ac i’r ffordd mae’r sefydliad hwnnw yn edrych ar y Byd – wedi bod yn thema cyson ar y blog hwn tros y blynyddoedd.  Mae’r fideo sydd y tu ol i’r linc yma yn cwmpasu agweddau yma i’r dim.

Jason ‘McCarthy‘ Mohammad sydd yn holi Leanne Wood am y storm fawr am ddim byd a godwyd gan y cyfryngau yn sgil sylwadau gan rhyw gynghorydd o Dori  ynglyn a’r ffaith bod Neil McEvoy – arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd – wedi dewis peidio a chanu y ryfelgan  o anthem sydd gan Lloegr yn ystod seremoni Sul y Cofio yng Nghaerdydd y diwrnod o’r blaen.
O ddeall na fyddai Leanne yn canu’r gan chwaith mae Jason yn cael eu hun mewn dipyn o stad ac yn ein sicrhau ei fod o ei hun yn falch iawn o fod yn ‘Brit’ (chwedl yntau) ac yn datgan ei ganfyddiad plentynaidd a chwerthinllyd bod y mater yn un o bwys mawr fel ffaith. 

Mae Sul y Cofio eleni wedi bod yn un mwy McCarthiaidd na’r un ydw i’n ei chofio yn y gorffennol, gyda phobl yn cael eu beirniadu am beidio gwisgo Pabi, ac am beidio a chanu’r ryfelgan gyda digon o arddeliad.  Mae’n ddigon naturiol bod BBC Wales eisiau arwain y gad yn hyn o beth.  
Beth bynnag – un neu ddau o ffeithiau i Jason, y Bib a gweddill y criw cynyddol anoddefgar sy’n meddwl bod ganddynt hawl dwyfol i ddweud wrth bobl eraill beth i’w feddwl a beth i’w wneud:

 Mae Cymru yn draddodiadol ryddfrydig.  Golyga hynny bod parch at safbwyntiau eraill yn rhan o wead y wlad.  Mae ceisio gorfodi pobl i rannu ein barn ni’n hunan trwy wneud eu barn nhw yn un ‘amharchus’ neu anghyfansoddiadol yn rhywbeth sylfaenol anghymreig i’w wneud.

 Mae yna nifer o hunaniaethau gwahanol yng Nghymru – yn yr ystyr yna mae Cymru yn wlad gymharol gymhleth.  Mae yna bobl sydd efo hunaniaethau sydd wedi eu gwreiddio y tu allan i’r DU, mae yna bobl sydd a’u hunaniaeth wedi ei seilio ar grefydd, mae yna bobl sydd efo hunaniaeth Gymreig, hunaniaeth Seisnig, hunaniaeth Brydeinig a hunaniaeth o ran arall o Ynysoedd Prydain.  Mae yna bobl sydd hefyd efo cyfuniad o’r hunaniaethau hyn.  Dydi llawer o bobl sydd a hunaniaeth llwyr Gymreig ddim yn ystyried bod canu anthem Lloegr yn gydnaws a’u hunaniaeth.  Dwi erioed wedi canu ‘r gan am y rheswm hwnnw, a fydda i ddim yn gwneud hynny o dan unrhyw amgylchiadau yn y dyfodol chwaith.

Mewn sefyllfa o gymhlethdod hunaniaethol fel hyn mae’n bwysig bod pob hunaniaeth yn cael parch, neu bydd pris i’w dalu o ran cydlynedd cymdeithasol.  Un o brif achosion y gwrthdaro maith yng Ngogledd Iwerddon oedd bod un hunaniaeth yn cael ei thrin fel un cwbl dderbyniol tra bod un arall yn cael ei thrin fel un cwbl anerbyniol – roedd y Bib ynghanol hynny wrth gwrs. Dydi hi ddim yn addas nag yn dderbyniol i ddarlledwr gwladwriaethol geisio cornelu’r sawl maent yn eu holi am ymddwyn mewn ffordd sy’n gyson a’u hunaniaeth nhw.  Nid bod Y Bib am gwestiynu hunaniaethau eraill wrth gwrs.  

Os daw Mark Reckless neu Neil Hamilton yn aelodau cynulliad ym mis Mai, gallwch fod yn siwr na fyddant yn cael eu plagio gan Jason am beidio gwisgo cenhinen neu beidio dysgu geiriau’r anthem Gymreig.  Chaiff pobl sydd a hunaniaeth egsgliwsif Seisnig ddim y broblem fach honno.  

Felly plis bois – calliwch a thyfwch i fyny.  Mae Cymru a’r DU yn ehangach yn llawer llai goddefgar heddiw nag oeddynt ugain mlynedd yn ol, ac mae yna rhywbeth gwirioneddol drist am ddarlledwr gwladwriaethol yn hyrwyddo’r diffyg goddefgarwch hwnnw.

Llywodraeth Cymru – y weinyddiaeth mwyaf di glem yn Ewrop?

Diolch i Kezia Dugdale – arweinydd newydd Llafur yn yr Alban am egluro i ni sut mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar sut i flaenori gwariant.

“I said to Huw that their budget is being cut and they have all these other pressures from the NHS, which is causing them some challenges in Wales, and so on and I said to him, ‘where are you finding the money from for these other big commitments?’ and he said they would worry about that later”  _ _ “What matters to him is the political will to do something. I was quite impressed by both the boldness and frankness of that”.


Petai yna fewath o dystiolaeth bod Bwrdd Iechyd neu Awdurdod Lleol yn dod i benderfyniadau ynglyn a sut i wario arian cyhoeddus yn y ffordd idiotaidd yma, byddai ‘r Cynulliad yn eu rhoi mewn mesurau arbennig cyn i chi gael cyfle i ddweud ‘Mae Huw La La Lewis yn benci o’r radd flaenaf’.

Tybed os oes yna unrhyw wlad arall yn ddigon anffodus i gael ei rhedeg gan giwad mor gwbl ddi glem?


Pam nad arestio cyn filwyr ydi’r ffordd orau o fynd i’r afael efo gwaddol Gogledd Iwerddon

Mae ‘n ddiddorol bod Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi arestio un o’r milwyr a gymrodd ran yng nghyflafan Bloody Sunday yn Ninas Derry ym mis Ionawr 1972.

Mae Ymchwiliad Saville (ewythr i’r AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts gyda llaw) wedi sefydlu’r ffeithiau sylfaenol.   

Lladdwyd 13 o bobl ac anafwyd 13 o bobl eraill gan rai o aelodau o 1PARA.  Collwyd rheolaeth ar y milwyr wedi iddynt fynd i mewn i ardal Weriniaethol Y Bogside sy’n agos at ganol y ddinas.  Nid oeddynt wedi derbyn gorchymyn i fynd i’r Bogside, ond roedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanynt wedi penderfynu gwneud hynny ar ei liwt ei hun.  Roedd hyd at 30,000 o wrthdystwyr hawliau wedi ymgynyll yno a dechreuodd rhai o ‘r milwyr saethu i mewn i’r dorf.    Nid oedd yr un o’r sawl a laddwyd yn fygythiad i’r  saith milwr oedd yn gyfrifol am y lladd.  Roedd dau o’r rheiny yn meddwl (yn anghywir) eu bod yn saethu at bobl efo gynnau tra bod y pump arall wedi saethu pobl roeddynt yn gwybod nad oeddynt yn fygythiad o unrhyw fath.  Dywedwyd cryn dipyn o gelwydd wrth yr RUC a’r ymchwiliad gwreiddiol brysiog a gynhalwyd – ymchwiliad Widgery gan y milwyr oedd yn rhan o’r digwyddiad.

Rwan mae’r digwyddiadau yma ymhell, bell yn y gorffennol bellach, ac yn bersonol fedra i ddim gweld llawer o bwrpas i ddefnyddio’r system droseddol i erlyn y dynion sydd bellach mewn oed oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau ar y diwrnod hwnnw.  Mae’r ffeithiau wedi eu sefydlu (ar ol degawdau o wadu) ac mae teuluoedd y meirwon wedi cael y rhyddhad hwnnw o’r diwedd.

Ond mae yna faterion eraill yng ngorffennol Gogledd Iwerddon i fynd i’r afael efo nhw – materion lle nad oes yna atebion clir wedi eu cyflwyno eto.  Mae’r materion hyn yn ymwneud ag i ba raddau roedd gwasanaethau cudd wybodaeth Prydain yn annog / caniatau i derfysgwyr teyrngarol roeddynt yn eu rheoli ladd nifer fawr o bobl

Mae yna ddwsinau o esiamplau o aelodau o’r lluoedd diogelwch yn lladd sifiliaid.  Er enghraifft  yn Buskhill, Swydd Down yn 1975 lladdwyd pump o bobl gan gynnwys tri aelod o ‘r Miami Showband.  Roedd y ddau arall a laddwyd yn aelodau o ‘r UDR – catrawd leol o’r Fyddin Brydeinig –  roeddynt yn ceisio gosod bom yng nghar y band a chwythodd hwnnw i fyny yn gyn amserol gan eu lladd nhw. Saethwyd tri aelod o’r band yn farw yn y munudau canlynol.  Cafodd dau aelod arall o ‘r UDR eu carcharu yn ddiweddarach am gymryd rhan yn yr ymysodiad.  Y tri aelod o’r band a laddwyd oedd Brian McCoy, Fran O’Toole a Tony Geraghty.  

Lladdwyd rhieni i bedwar o blant, James a Gertrude Devlin o ganlyniad i gael eu saethu yn eu car yn Ebrill 1974 yn Coalisland, Swydd Tyrone.  Goroesodd Patricia Devlin – un o’u pedwar plentyn oedd yn 17 oed ar y pryd – yr ymysodiad.  Treuliodd un aelod o’r UDR gyfnod maith mewn carchar er bod un arall yn rhan o’r ymysodiad.  Roedd y dryll Smith & Wesson wedi ei ‘ddwyn’ o wersyll UDR ac wedi ei ddefnyddio mewn nifer o ymysodiadau eraill.  

Lladdwyd pedwar o bobl mewn ffrwydriad yn Killyliss, Tyrone o ganlyniad i ffrwydriad mewn bwthyn ym mis Ebrill 1975.  Roedd Marian Bowen, Michael McKenna a Seamus McKenna yn frodyr a chwaer, ac roedd y ferch yn feichiog ac yn agos at esgor ar blentyn.  Chwythwyd y pedwar yn ddarnau, a bu’n rhaid chwilio am hir am weddillion y babi yn y rwbel – roedd wedi cael eu chwythu o groth ei mam.  Ni chafwyd neb yn euog ond cafodd aelod o’r UDR ei garcharu am ffrwydriad tebyg mewn ty gerllaw.  Am rhyw reswm ni chafodd ei holi am y bomio yn Killyliss.  

Ym mis Chwefror 1989 cafodd Pat Finucane, un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus Gogledd Iwerddon ei saethu bedair gwaith ar ddeg wrth fwyta cinio Dydd Sul efo ei deulu yi gartref yng Ngogledd Belfast. Roedd y sawl a’i saethodd yn asiant i wasanaeth cudd wybodaeth Prydain, roedd y sawl a ddarparodd y wybodaeth roedd ei angen i’w saethu yn gweithio i wasanaeth cudd wybodaeth Prydain ac roedd y Browning 9mm a ddefnyddwyd yn yr ymosodiad yn perthyn i’r heddlu (RUC).  

Roedd un o’r drylliau (Browning 9mm arall) a ddefnyddwyd mewn ymosodiad ar siop bwci ar yr Ormeau Road ym Melfast yn 1992 yn un oedd wedi ei ddychwelyd i grwp parafilwrol teyrngarol gan yr RUC yn gynharach. Roedd y dryll arall (assault rifle VS58) yn rhan o domen o arfau a fewnforwyd i Iwerddon gan asiant oedd yn gweithio i wasanaeth cudd wybodaeth Prydain. Lladdwyd pump yn yr ymysodiad hwnnw – Jack Duffin, Willie McManus, Christie Doherty, Peter Magee, and James Kennedy.

Does yna ddim un o’r ffeithiau ‘dwi wedi cyfeirio atynt uchod yn gynhenus – maen nhw wedi eu cymryd o achosion llys, cwestau i farwolaethau neu ymchwiliadau’r Historical Enqueries Team.  Fel y dywedais, mae yna ddwsinau o achosion tebyg lle mae cydweithrediad rhwng aelodau o’r lluoedd diogelwch neu’r gwasanaethau cudd wedi eu profi – ac mae yna lawer mwy o achosion lle mae honiadau tebyg nad ydynt wedi eu profi.  Yr hyn sydd ddim mor glir ydi pa mor systemig oedd y cydweithredu – pwy oedd yn gwybod ac i ba raddau mae pethau’n cael eu cyfeirio.

Byddai ymvhwiliad i hynny (yn hytrach na’r ymchwiliadau i achosion unigol sydd yn cael eu cynnal) yn llawer mwy gwerthfawr nag erlyn hen ddynion bron i bedwar deg pump mlynedd ar ol eu troseddau.  Ond gallai ymchwiliad ehangach daflu goleini ar sut mae’r wladwriaeth Brydeinig yn ymateb pan mae’n teimlo ei bod o dan fygythiad – a gallai gyfeirio at sut y bu’n ymddwyn ar adegau eraill yn ei hanes.  Dyna pam nad ydi ymchwiliad felly byth yn debygol o gael ei chynnal.