Guto Bebb, Russell Goodway ac S4C

Gweler ymateb Russell Goodway i gwestiwn hollol resymol Guto Bebb ynglyn a chyllido S4C.  I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd a Russell, mae’n gynghorydd Llafur yn Nhrelai, Caerdydd.  Mae hefyd yn gyn arweinydd y cyngor – yr un mwyaf dadleuol yn hanes y cyngor.  Mae rhai priodoli twf y Dib Lems yng Nghaerdydd i’w arweinyddiaeth trychinebus.
Gwnewch beth y mynwch o’r ateb.

Clec arall i S4C

Felly mae’r rhan o gyllideb  S4C sy’n dod gan lywodraeth San Steffan yn lleihau o £6.7m i £5m erbyn 2019/20 – cwymp  o 26%.  Rydan wedi cael y newyddion da o lawenydd mawr yma ar ddiwrnod pan rydym hefyd wedi clywed bod George Osborne wedi dod o hyd i £23bn nad oedd yn gwybod bod ganddo ac wedi mynd ati i gynyddu gwariant ar yr heddlu, ‘amddiffyn’ a chael gwared o’r toriadau mewn credydau treth.  Byddai arbed S4C rhag y toriad  wedi costio 1/13,530 o’r £23bn.



Mae £1.7m yn bres mawr i S4C, ond dydi o ddim mewn gwrionedd.  Cymharwch y ffigyrau hyn efo’r gwariant canlynol dwi wedi eu dewis ar fympwy.


Bomio Libya a’i throi’n wladwriaeth sydd wedi methu –  £320m
Bwydo’r cannoedd o Arglwyddi yn Nhy’r Arglwyddi – £1.3m.
Treuliau’r 650 Aelod Seneddol – £103m (2013)
Y gost o addasu RAF Voyager A330 at ddefnydd David Cameron –  £10m.
Cost tebygol uwchraddio adeilad San Steffan £5.7bn.
Gwir gost y teulu brenhinol £334m y flwyddyn (pan ystyrier diogelwch, incwm a gollir i’r trysorlys ac ati).
‘Amddiffyn’ Ynysoedd y Malvinas – £75m (2010 – mwy erbyn heddiw). 

Rwan dydi’r £1.7m o doriad mae S4C yn gorfod ei gymryd yn ddim byd yng nghyd destun gwariant cyhoeddus y DU.  Bydd hwnnw tua £760bn y flwyddyn nesaf.  Wrth ymyl gwariant felly  dydi £1.7m ddim hyd yn oed cyn gryfed a phiso dryw yn Llyn Padarn.  Ond mae mae’r toriad yn mynd rhagddo  beth bynnag – yn ol pob tebyg ar argymhelliad gwas sifil sydd yn ystyried gwariant ar ddarlledu cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth isel iawn.  

Ac o’i safbwynt o mae’n flaenoriaeth isel iawn wrth gwrs – does yna ddim gwahaniaeth iddo rhwng darlledu Farsi a darlledu Cymraeg.  Ond o’n safbwynt ni yng Nghymru – os ydan ni’n siaradwyr Cymraeg neu beidio – mae’r iaith yn rhan creiddiol o’n hunaniaeth.  Ac o ganlyniad mae’r strwythurau sy’n ei chynnal yn bwysig.  Mae felly’n amhriodol bod penderfyniadau pwysig ynglyn ag ariannu’r strwythurau hynny’n cael eu cymryd gan bobl sy’n gwbl ddi hid am y Gymraeg.  Dylai dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg gael ei gymryd gan bobl sy’n deall ei bwysigrwydd i Gymru.  Nid dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.  


Mae’n weddol amlwg y dylai  darlledu yn ei gyfanrwydd gael ei ddatganoli i Gymru – ond wnaiff hynny ddim digwydd am reswm sy’n ddim oll i’w wneud a Chymru.  Byddai datganoli’r gyfrifoldeb honno i Gymru yn ei gwneud yn anodd cyfiawnhau peidio a’i datganoli i’r Alban – a dydi hynny ddim am ddigwydd am resymau amlwg.




Beth ddigwyddodd i Lais Gwynedd?

Peidiwch a phoeni – dydw i ddim yn barod i ‘sgwennu marwnad Llais Gwynedd eto – beth bynnag ddigwyddith rhwng rwan a 2017 mi fydd rhai o aelodau’r grwp gwrth sefydliadol yn cael eu hethol bryd hynny – ac mae’n debyg y bydd Llais Gwynedd yn chwarae rhyw ran neu ‘i gilydd yng ngwleidyddiaeth Gwynedd am sbel wedi hynny.

Ond fel rydym wedi ei drafod yma, ac yma mae’n ymddangos bod llanw’r Llais yn cilio gyda rhai aelodau yn gadael y grwp, rhai eraill yn ymddeol am resymau iechyd (neu’n marw yn achos Bob Wright druan) ynghyd a methiant parhaus i gael llawer mwy na chwarter y bleidlais mewn is etholiadau.  Dim ond wyth mlynedd yn ol roeddynt wedi ennill seddi mewn cyfres o wardiau yn bennaf yn Ne a Gorllewin y sir, ac roeddynt yn beryg bywyd mewn is etholiadau ym mhob rhan o’r sir ag eithrio Bangor a Dyffryn Ogwen.  Mae’n amlwg bod pethau wedi newid – ond y cwestiwn diddorol ydi pam?
Mae yna fwy nag un ateb – fel sydd yn aml yn wir yn y sefyllfaoedd hyn.  Mae’r cyfryngau ac yn arbennig y Bib wedi colli diddordeb ynddynt – roedd yna amser pan roedd y Bib yn adrodd ar pob buddugoliaeth is etholiad oeddynt yn ei chael tra’n anwybyddu pob is etholiad arall yng Nghymru.  Mae’r system newydd i Wynedd lle mae’r penderfyniadau yn cael eu cymryd gan y cabinet yn rhoi llai o gyfle iddynt ennill cyhoeddusrwydd.  Mae diffyg llwyddiant etholiadol yn cael sgil effaith o’i gwneud yn anodd iddynt gael pobl i sefyll trostynt – i Lais Gwynedd y safodd un o ‘r ymgeiswyr annibynnol yn is etholiad De Pwllheli yr wythnos nesaf y tro diwethaf.  Dydi’r ymadawiadau heb helpu chwaith – maent wedi colli pum cynghorydd i Blaid Cymru tra bod un arall bellach yn gynghorydd di grwp.
Ond er nad ydi ‘r uchod wedi helpu llawer, mae yna reswm arall pwysicach o lawer.  Yn wir y rheswm hwnnw sy ‘n gyrru y rhan fwyaf o’r lleill.  Ceir awgrym o’r rheswm yn sylwadau y Cyng Anwen Davies ar ol i ganlyniad nos Iau yn Llanaelhaearn gael ei gyhoeddi:
Mi rydan ni dal yn erbyn polisi addysg y cyngor ac mae rhai yn gryf iawn yn erbyn cau ysgolion bach hefyd,
Beth sy’n gwneud ni’n wahanol [i Blaid Cymru] yw ein bod ni yn cwffio dros y werin ar lawr gwlad. Mi rydan ni yna i bobol pan fyddan nhw angen help.
Mewn geiriau eraill mae naratif Llais Gwynedd yn union yr un peth heddiw ag oedd yn ol yn 2007 – eu bod yn erbyn ad drefnu ‘r gyfundrefn ysgolion, eu bod nhw o blaid pobl tra bod pleidiau eraill – mewn rhyw ffordd neu’i gilydd – yn eu herbyn ac nad ydyn nhw yn hoff o Blaid Cymru.
Arhosodd y naratif yr un peth, er i’r tirwedd gwleidyddol newid yn llwyr.  Pan ddaeth Llais Gwynedd i fodolaeth roedd y Blaid mewn grym ym Mae Caerdydd, doedd yr economi heb syrthio oddi ar ochr dibyn, roedd gwariant cyhoeddus yn dal i gynyddu, ac roedd bron i bawb yn ystyried y cynllun ail strwythuro ysgolion yn rhy bell gyrhaeddol o lawer.
Erbyn hyn mae’r Blaid yn genedlaethol wedi dod allan o lywodraeth, newid arweinyddiaeth, symud i ‘r chwith, ac wedi arwain y gad yn erbyn llymdra. Mae’r cynllun ail strwythuro presenol yn un llawer mwy graddol na’r un gwreiddiol.  
Yn lleol mae’r cyngor wedi gorfod gweinyddu toriadau sylweddol – ond nid yw hynny wedi effeithio ar gefnogaeth y Blaid, fel y dangosodd canlyniadau Etholiad Cyffredinol 2015.  Y rhesymau am hynny ydi bod naratif cenedlaethol y Blaid wedi gwahanu’r weinyddiaeth yng Nghaernarfon oddi wrth y toriadau ym meddyliau ‘r rhan fwyaf o etholwyr, ac mae yna ymwybyddiaeth bod y Blaid yn lleol yn gweinyddu’r toriadau mewn ffordd cyfrifol, cynhwysol a thryloyw.
Mewn geiriau eraill ‘dydi naratif Llais Gwynedd ddim yn berthnasol i’r hinsawdd gwleidyddol sydd ohoni yng Ngwynedd heddiw –  ac oni bai eu bod yn dod o hyd i naratif mwy cyfoes byddant yn parhau i golli tir yn weddol gyflym.  Dydi hi ddim yn bosibl ennill etholiadau heddiw trwy ymladd brwydrau ddoe efo naratif sydd bron yn ddeg oed.

A thra ein bod yn son am batrymau ac is etholiadau _ _

Wele’r is etholiadau a gynhalwyd ers etholiadau’r cyngor yn 2012.  Aeth un sedd yn wag – Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog – ond dychwelwyd aelod o Blaid Cymru yn ddi wrthwynebiad i gynrychioli’r ward honno.

Eto mae patrymau eithaf clir i’w gweld.  Dim ond Plaid Cymru sy’n gallu dod o hyd i ymgeiswyr ym mhob rhan o’r sir.  Mae’r Blaid yn gyntaf neu’n ail ym mhob is etholiad ac yn cael rhwng 27% a 72% o’r bleidlais.  Ail ydi lleoliad gorau Llais Gwynedd ac mae eu canran uchaf nhw 28.08% yn debyg iawn i ganran isaf Plaid Cymru – 27.13%.  Mae eu hamrediad o 7% i 28%.  Dwy waith allan o chwech mae Llafur wedi dod o hyd i ymgeisydd, er iddynt ennill un etholiad a dod yn ail yn y llall.  Amrediad o 10.2% i 42.4% sydd gan yr Annibynnwyr – enillwyd un sedd ganddynt o fewn ychydig wythnosau i etholiad 2012.  Fel arfer ‘dydi ‘r Toriaid ddim yn ystyried Gwynedd yn ddigon pwysig i drafferthu a hi ar lefel lleol, a wnawn ni ddim son am y Dib Lems am resymau sy’n ymwneud a charedigrwydd naturiol awdur y blog.


Mae’n edrych fel petai’r Blaid yn adeiladu at sefyllfa lle gallant ddominyddu’r cyngor nesaf (ar ol 2017) mewn ffordd nad yw wedi llwyddo i wneud o’r blaen.  Mae’n  gyfrinach lled agored bod nifer o’r grwp Annibynnol yn agos at Blaid Cymru yn wleidyddol – a bydd yn ddiddorol i weld beth y byddant hwy yn ei wneud rhwng rwan a 2017, o weld y ffordd mae’r gwynt gwleidyddol yn chwythu yng Ngwynedd.  

Dyddiau difyr.

Crebwyll gwleidyddol ‘ta chrebwyll mathemategol Felix Aubel sy’n giami?

Ymddengys bod y Tori swnllyd sydd bellach yn byw yn Ne Orllewin Cymru yn credu mai ymyraeth ei blaid o oedd yn gyfrifol am atal Plaid Cymru rhag cipio sedd yn is etholiad Cidweli neithiwr.  Mi anghofiwn y ffaith ei bod yn ymddangos bod well gan Dori sy ‘n weinidog yr Efengyl weld Llafurwr – sydd a hanes lliwgar a dweud y lleiaf – yn cael ei ethol na Phleidiwr – rydan ni’n gwybod bod y pleidiau unoliaethol yn sylfaenol eithaf agos at ei gilydd.  

Ond yr hyn sydd o fwy o ddiddordeb yma ydi diffyg crebwyll mathemategol a gwleidyddol Felix.  Gadewch i ni edrych ar y ffigyrau:
Llaf – 288
PC – 248
Ann 1 – 177
People 1st – 58
Toriaid – 53
Ann 2 – 28
Ymddengys bod Felix yn credu y byddai o leiaf 41 (77%) o’r 53 pleidlais a gafodd ei blaid wedi mynd i ‘r Blaid oni bai bod Tori ar gael i bleidleisio trosto – er bod ganddynt 2 ymgeisydd annibynnol, 1 ymgeisydd People First, un Llafurwr, neu aros adref a pheidio pleidleisio i ddewis rhyngddynt.  Mae trosglwyddiad o 77% yn eithaf uchel rhwng aelodau o’r un plaid mewn cyfundrefnau etholiadol lle trosglwyddir pleidleisiau – tra bod trosglwyddiad o llai na 2% yn weddol gyffredin rhwng pleidiau hollol wahanol i’w gilydd fel Plaid Cymru a’r Toriaid.

Dwi’n gwybod bod Felix yn credu mewn ysbrydion a gwyrthiau a stwff felly – ond wir Dduw mae’r ddamcaniaeth bach yma yn bellach oddi wrth realiti na’r naill gred na’r llall.

Cydbwysedd y grwpiau ar Gyngor Gwynedd

Yn sgil canlyniadau neithiwr mae’n ddiddorol edrych yn ol ar gynrychiolaeth y gwahanol grwpiau / bleidiau ar Gyngor Gwynedd tros y blynyddoedd diwethaf.   

Cyngor Gwynedd Tach 2015

·         Plaid Cymru 39

·         Annibynnol 18

·         Llais Gwynedd 8

·         Llafur 5

·         Democratiaid Rhyddfrydol 2

·         Aelod Unigol 2 

 

Cyngor Gwynedd Mai 2012

  • Plaid Cymru 37
  • Annibynnol 18
  • Llais Gwynedd 13
  • Llafur 4
  • Democratiaid Rhyddfrydol 2

 

Cyngor Gwynedd Mai 2008

  • Plaid Cymru 35
  • Annibynnol 16
  • Llais Gwynedd 12
  • Llafur 4
  • Democratiaid Rhyddfrydol 5


 Ceir sawl patrwm gweddol glir – gwendid parhaus Llafur ar lefel llywodraeth leol yn y sir, dirywiad y Lib Dems, sefydlogrwydd y grwp Annibynnol, dirywiad cyflym diweddar Llais Gwynedd a chryfder cynyddol Plaid Cymru.  Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud bod un o’r ddwy sy ‘n Aelod Unigol hefyd yn aelod o ‘r Blaid gyda llaw.


Rwan mae’r ffaith bod y Blaid yn parhau i ddenu cynghorwyr o’r grwpiau eraill – yn arbennig Llais Gwynedd, yn parhau i gael niferoedd sylweddol iawn o bleidleisiau mewn is etholiadau cyngor, yn parhau i ddenu ymgeiswyr o safon uchel i sefyll ym mhob is etholiad, a hynny er gwaethaf gorfod gweinyddu’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn adrodd cyfrolau am wytnwch y Blaid ar lawr gwlad Gwynedd.  Dwi’n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y Blaid yn gryfach heddiw nag yw erioed wedi bod yn hanes Cyngor Gwynedd.

Llongyfarchiadau i Aled a Gareth a llongyfarchiadau i grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.  Mae’r hyn sydd wedi digwydd tros y blynyddoedd diwethaf yn gryn gamp.

Is etholiadau heno

Llanaelhaearn (Gwynedd)

Plaid Cymru – 200
Llais Gwynedd – 112
Annibynnol – 99
Plaid Cymru cipio sedd Llais Gwynedd
Gogwydd anferth yma o Lais Gwynedd i Blaid Cymru o tua 30%.
Dewi, Bangor (Gwynedd)
Plaid Cymru – 189
Llafur – 110
Dib Lem 19
Plaid Cymru cadw
Cydweli ( Caerfyrddin)
Llafur 288
Plaid Cymru 248
Ddim yn siwr o’r gweddill eto

Llaf cadw
Diweddariad – Cyngor Dinas Bangor – Dewi:
168 Plaid Cymru 
126 Llafur / Labour
  25 Dem Rhydd / Lib Dem
Plaid Cymru cadw.