Cefnogwyr Cymreig y bomio

Y bomwyr Cymreigdiolch i Golwg360 am y rhestr.


ASau Cymru a gefnogodd y cynnig i fomio

Guto Bebb (Ceidwadwyr, Aberconwy)

Chris Bryant (Llafur, Rhondda)

Alun Cairns (Ceidwadwyr, Bro Morgannwg)

Stephen Crabb (Ceidwadwyr, Preseli Penfro)

Wayne David (Llafur, Caerffili)

Byron Davies (Ceidwadwyr, Gwyr)

Chris Davies (Ceidwadwyr, Brycheiniog a Maesyfed)

David Davies (Ceidwadwyr, Sir Fynwy)

Glyn Davies (Ceidwadwyr, Sir Drefaldwyn)

James Davies (Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd)

Stephen Doughty (Llafur, De Caerdydd a Phenarth)

Simon Hart (Ceidwadwyr, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro)

David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd)

Susan Elan Jones (Llafur, De Clwyd)

Craig Williams (Ceidwadwyr, Gogledd Caerdydd)

Ystadegau iaith Gymraeg

Fel y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gwybod, rhyddhawyd Adolygiad o’r Defnydd o’r Iaith Gymraeg Rhwng 2013 a 2015 yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.  Mae mwy o ddata ar gael ar y We na sy’n ymddangos yn uniongyrchol yn yr adroddiad wedi ei ryddhau ar Statiaith – ac mewn mannau eraill..  Dwi’n bwriadu cyhoeddi peth o’r wybodaeth yna o bryd i’w gilydd, gan efo cymariaethau rhwng awdurdodau lleol.
ddechrau cip ar y canrannau absoliwt sy’n siarad y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru.

A rhuglder y sawl dy’n dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn ol awdurdodau lleol.

Ac amlder y defnydd o’r Gymraeg ymysg y sawl sydd yn ei siarad.

Aelodau Seneddol Llafur a Thoriaidd yn paratoi am ryfel

Felly mae llywodraeth San Steffan ar fin cyflwyno mesur fydd yn caniatau i’r DU gymryd rhan yn yr wyl fomio sydd wedi bod yn mynd rhagddi yn Syria ers blynyddoedd bellach – a sydd wedi arwain at filiynau o bobl yn gadael y wlad.

Mae ‘arweinydd’ y Blaid Lafur – Jeremy Corbyn – wedi penderfynu i ganiatau i’w aelodau seneddol bleidleisio o blaid yr idiotrwydd yma – ac mae hynny yn ei gwneud yn sicr, fwy neu lai, y bydd y bomiau’n syrthio erbyn diwedd yr wythnos.  Ar un olwg bydd Corbyn yr un mor gyfrifol am yr hyn fydd yn digwydd a Cameron a’r criw o little Englanders, jingoistaidd sy’n ffurfio’i grwp seneddol.

Does yna ddim byd yn mynd i argyhoeddi seneddwyr San Steffan bod yna ddatrysiad amgen i broblemau’r Dwyrain Canol na lluchio ychydig mwy o fomiau i mewn i’r pair.  Pan mae’n dod i fomio does yna’r un wers yn ddigon chwerw i newid y canfyddiad hwnnw.  Gwarwyd $3 triliwn ar ail ryfel Irac ac mae hyd at filiwn o bobl wedi colli eu bywydau o ganlyniad, uniongyrchol neu anuniongyrchol, i’r rhyfel hwnnw.  Y cyfiawnhad oedd y byddai rhyfela yn ein gwneud yn ddiogelach – yr un rheswm a ddefnyddir y tro hwn.  Wele cymaint diogelach ydym ni yn sgil Rhyfel Irac: 
Rhag ofn nad ydych yn cofio – yn 2003 y cychwynodd Rhyfel Irac. 
Os ydych eisiau tystiolaeth bod yr ymyraeth yma mor hanner call a’r holl ymgyrchoedd blaenorol gwrandewch ar Cameron yn rwdlan am 70,000 o filwyr ‘cymhedrol’ yn Syria yn disgwyl am arweiniad ganddo fo a’i ffrindiau.  ‘Dydi naif ddim yn ansoddair digon cryf rhywsut.  

Cais i ddarllenwyr Blogmenai

Mae’r sefyllfa yr ydym wedi bod yn son amdani yn ddiweddar lle mae gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn llusgo ymgeiswyr Cynulliad o gwmpas sefydliadau cyhoeddus yn un sydd yn peri gofid.  Yn y bon mae un o ddau beth yn digwydd – ac mae’r ddau yn gwbl anerbyniol mewn democratiaeth fodern.

1).  Mae gweinidogion yn cymryd mantais o ymweliadau swyddogol a sefydliadau cyhoeddus i godi proffil ymgeisyddion o’u plaid yn y misoedd cyn etholiad hynod bwysig.  
2).  Mae pwysau yn cael ei roi ar reolwyr sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru – yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – i ganiatau i wleidyddion Llafur ymweld a nhw ar ymweliadau gwleidyddol / etholiadol.  
Mae’r naill sefyllfa a’r llall yn gwbl anerbyniol – ac mewn unrhyw wlad ag eithrio Cymru byddai’r cyfryngau newyddion prif lif yn neidio ar y stori yn hytrach na gadael pethau i flog amaturaidd.  
Petai’r sefyllfa gyntaf yn wir byddai protocolau gweinidogol yn cael eu torri, a phetai’r ail yn wir byddai grym llywodraeth yn cael ei gam ddefnyddio i ennill mantais etholiadol.  Y cwestiwn arwyddocaol ydi faint o hyn sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru.
Felly os oes unrhyw un yn gwybod am sefyllfa debyg lle mae gweinidogion Llafur yn hebrwng ymgeiswyr Cynulliad o gwmpas sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan y trethdalwr, gadewch i mi wybod.  Mi gaiff y sgandal sylw yma os nad yn unman arall.  Gallwch wneud hynny trwy gysylltu a mi ar y cyfeiriad ebost ar ochr dde tudalen flaen y blog.

Gwleidydda mewn ysgol y tro hwn

Chwi gofiwch i Flogmenai dynnu sylw at y ffaith i Weinidog Iechyd Cymru a’i ddirprwy fynd o gwmpas Ysbyty Gwynedd yn eu rol gweinidogol tra’n tywys ymgeisydd Cynulliad sydd heb rol o unrhyw fath o gwmpas y sefydliad.  Y broblem yma – a ninnau ar drothwy etholiad – ydi bod rolau swyddogol a gwleidydda etholiadol eithaf amrwd yn cael eu cymysgu.  Mae hyn yn tanseilio hygrededd yr ymweliadau swyddogol – ac yn caniatau i bobl godi cwestiynau ynglyn a’u gwir bwrpas.

Mae’n ymddangos nad y Gweinidog Iechyd a’i ddirprwy yn unig sydd wrthi.  Wele’r lluniau hyfryd isod o’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Bryn Teg yn Llwynhendy ger Llanelli.  
Y cymeriadau yn y lluniau ydi Geraint Jones pennaeth Ysgol Bryn Teg, Huw Lewis y Gweinidog Addysg, Sharen Davies, un o gynghorwyr (Llafur) Llwnhendy, Keith Davies, Aelod Cynulliad Llanelli a Lee Waters ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.  

Rwan mae’n amlwg ei bod yn briodol bod Mr Jones yn ei ysgol ac mae’n wir bod Mr Lewis – fel Gweinidog Addysg – am ymweld a sefydliadau addysgol o bryd i’w gilydd.  Does yna ddim problem efo Mr a Ms Davies yn cadw cwmni iddo chwaith – mae ‘r ddau yn cynrychioli Llwynhendy ar gwahanol gyrff etholedig.  Er bod rhaid nodi nad oes yna arwydd o gynghorydd arall Llwynhendy, Theressa Bowen sy’n perthyn i’r Grwp Annibynnol ar y cyngor yn y llun chwaith – tybed os cafodd hi wahoddiad? 

Ond y cwestiwn mwy pwysig ydi – beth mae Lee Waters yn ei wneud yno?   Does yna’r un copa walltog (nag unrhyw un moel o ran hynny) wedi pleidleisio iddo yn Llwynhendy.  Pam bod rhywun sydd heb unrhyw statws swyddogol yn Llwynhendy – ond sydd eisiau pleidleisiau pobl y dref honno ym mis Mai – yn dilyn gweinidog yn Llywodraeth Cymru ac aelodau etholedig o gwmpas ysgol?  

Dwi ddim yn gwybod yr ateb – ond mae’n edrych fel esiampl arall gan Lafur o ddefnyddio busnes gweinidogol swyddogol i bwrpas chwilio am bleidleisiau yn lleol.

By jingo – i ffwrdd a ni unwaith eto

Slang o’r ail ganrif ar bymtheg ydi’r term Saesneg By Jingo.  Yn y dyddiau hynod grefyddol hynny ‘doedd pobl ddim yn fodlon defnyddio enw Iesu Grist mewn cyd destun ysgafn, felly roedd yn well ganddyn nhw ddweud By Jingo na By Jesus.


Yn yr 1870au y daeth y term i gael ei ddefnyddio yn y ffordd yr ydym yn ei adnabod heddiw.  Roedd yna ryfel rhwng Twrci a Rwsia ar y pryd, ac roedd Prydain yn gweld ymgais y Rwsiaid i reoli porthladdoedd dwr cynnes i’r de iddynt fel bygythiad i’w rheolaeth o India. Arferid canu’r gan fach yma mewn tafarnau a neuaddau cerddoriaeth.
We don’t want to fight but by Jingo if we do
We’ve got the ships, we’ve got the men, we’ve got the money too
We’ve fought the Bear before, and while we’re Britons true
The Russians shall not have Constantinople.

Daeth y term i gynrychioli agweddau creiddiol sydd wedi bod yn weddol gyffredin ym Mhrydain am ganrifoedd – polisi tramor ymysodol iawn sy’n defnyddio bygythiadau neu drais yn hytrach na diplomyddiaeth arferol i ddiogelu buddiannau cenedlaethol.  Mae’r cysyniad bod gwlad y sawl sy’n arddel agweddau jingoistaidd yn uwchraddol o gymharu a gwledydd eraill hefyd ymhlyg yn yr agwedd yma.  Mae jingoistiaeth yn ffurf ar genedlaetholdeb eithafol, mae’n Xenaffobaidd ac mae hefyd yn sylfaenol stiwpid.



Jingoistiaeth noeth ydi bygythiadau Cameron  a nifer o arweinyddion y Blaid Lafur i fomio Syria. Wneith ymuno efo’r dwsin o wledydd eraill sydd yn bomio’r lle yn ddyddiol ddim gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i’r sefyllfa filwrol yn Syria – ond mi wneith o roi’r argraff i’r hurt bod y DU yn gwneud rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth.  Mae pawb yn Syria yn cael ei fomio gan rhywun neu ‘i gilydd – dyna pam bod yna 6.5 miliwn wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Mae yna ffyrdd eraill y gellid buddsoddi adnoddau i danseilio IS (costiodd cyrchoedd Libya £1.75bn) –  cymryd camau diplomyddol i danseilio’r gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol mae IS yn ei dderbyn gan rai o’n ‘cyfeillion’ yn y Dwyrain Canol, tanseilio’r llif o arian sy’n caniatau iddynt ymladd eu rhyfel, tanseilio eu hymdrechion i gyrraedd cefnogwyr potensial ar y We Fyd Eang, annog y sawl sydd yn ymladd IS i roi eu gwahaniaethau o’r neilltu am y tro a rhwyfo i’r un cyfeiriad.  

Byddai pob un o’r camau uchod yn fwy effeithiol nag ymateb yn y ffordd or ymysodol, jingoistaidd arferol.  Yn wir byddai gwneud dim oll yn fwy effeithiol na’r hyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd – wedi’r cwbl anaml iawn, iawn mae ymyriaethau milwrol gan y DU ers yr Ail Ryfel Byd wedi llwyddo i wneud unrhyw beth ag eithrio cynhyrchu mwy o anhrefn.  

Ond jingoistiaeth fydd yn mynd a hi wrth gwrs – pan mae’n dod i ddelio efo tramorwyr anystywallt mae’r DU pob amser yn dewis yr ymateb gor ymysodol a threisgar ond aneffeithiol cyn yr ymateb deallus ac effeithiol.  Fel yna mae hi wedi bod erioed.

Troi newyddion da yn newyddion drwg

Dwi’n gwybod ei bod yn draddodiadol yn y Gymru sydd ohoni i fod mor besimistaidd a phosibl ynglyn a dyfodol yr iaith – ond ydi’r bennawd yma’n mynd ychydig yn rhy bell dywedwch?  
Mae’n arwain stori am gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl a chynnydd mwy yn y nifer o siaradwyr sy’n siarad y Gymraeg ond yn methu gwneud hynny ‘n rhugl ers 2004 – 2006.  Oherwydd y cynnydd anghyfartal mae’r ganran sy’n siarad yr iaith yn rhugl mewn cymhariaeth a chyfanswm siaradwyr Cymraeg yn gostwng.  Ond y stori sylfaenol ydi bod y nifer a’r ganran sy’n siarad y Gymraeg wedi cynyddu – yn eithaf sylweddol.
Wir Dduw mae yna ddigon o newyddion drwg heb fynd ati i greu mwy.