Ond roedd gwleidyddion o blaid Stephen Crabb yn defnyddio straeon hyd yn oed yn fwy eithafol nag un Peter Hain yn refferendwm yr Alban – y byddai Putin yn ymosod ar yr Alban petai’n annibynnol, y byddai Lloegr yn gorfod bomio meusydd awyr yr Alban, y byddai’r wlad yn agored i ymosodiadau o’r gofod ac ati, ac ati. Peth felly ydi refferendwm wrth gwrs – mae’r ochr sydd yn gwrthwynebu newid yn rhybuddio rhag pob math o angau, dioddefaint, gwewyr ac ing os ydi’r newid yn digwydd. Mae refferendwm, mewn rhai ffyrdd yn etholiad ar steroids.
Wel dyna ni neis
Yn ol WalesOnline Edwina Hart y Gweinidog Busnes, sydd wedi penodi’r bwrdd newydd. Trwy gyd ddigwyddiad llwyr mae Ms Beynon yn briod efo un o gyd weithwyr Ms Hart – Leighton Andrews, y Gweinidog Llywodraeth Leol.
Mae gan Ms Beynon hanes o gael ei phenodi i rolau cyhoeddus pwysig – digwyddodd rhywbeth tebyg yn 2010 – er mai’r Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru oedd yn gyfrifol am y penodiad y tro hwnnw.
Pwy fyddai wedi meddwl y gallai un person fod mor lwcus ddwywaith?
Y cyfle gorau i wneud cyfraniad ariannol gwleidyddol gwirioneddol effeithiol
Pa awdurdod sy’n cael toriad anferth – a pha rai sydd ddim
GVA – o ddrwg i waeth
Trychinebus ydi’r ansoddair mwyaf addas i ddisgrifio’r ystadegau GVA a ryddhawyd heddiw. Dyma’r mesur o faint o gyfoeth a gynhyrchir ac mae Cymru unwaith eto yn perfformio yn salach nag ydyw yn unrhyw le arall yn y DU.
Roedd GVA y pen yng Nghymru ar gyfer 2014 yn 71.4% o gyfartaledd y DU. Mae hyn yn ddirywiad o’r ffigwr ar gyfer 2013, oedd yn 72.5%. Felly nid yn unig bod Cymru y tu ol i bob man arall yn y DU – ond mae’n syrthio ymhellach yn ol. Mae’n perfformio yn waeth na Gogledd Iwerddon – rhan o’r DU sydd ond wedi dechrau adfywio wedi degawdau o ryfela.
Crebwyll etholiadol gwych Llafur
Trydariad mwyaf bisar y diwrnod
Mwy am HS2 a Chymru
Mae yna ffrae wedi codi yn sgil y stori yn y Western Mail y bore yma (gweler blogiad ddoe) oedd yn ymwneud a’r ffaith na fydd Cymru yn elwa llawer yn ariannol o’r gwariant anferth (gallai ddod i £80bn erbyn y diwedd) ar y cynllun rheilffordd cyflymder ychel – HS2 – yn Lloegr. Fel sy’n digwydd yn aml gyda straeon am faterion cyllidol, mae perygl iddi gael ei chuddio y tu ol i niwl cymhlethdod dulliau ariannu llywodraethol – ond mae’r stori yn sylfaenol syml.
Dadl Llywodraeth San Steffan ydi bod Cymru’n cael ei than ariannu o gymharu a Gogledd Iwerddon a’r Alban oherwydd bod trafnidiaeth rheilffordd wedi ei ddatganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon tra nad ydi hynny’n wir am Gymru. Network Rail ydi’r asiantaeth sy’n gyfrifol am yr is adeiledd rheilffordd wrth gwrs. O ganlyniad ‘dydi’r cynnydd mewn gwariant trafnidiaeth yn sgil HS2 ddim yn newid yng Nghymru, ond mae’n newid yn y ddwy wlad arall.
Y corff sy’n gyfrifol am ddarparu HS2 yw HS2 Limited, nid Network Rail. Yn wahanol i Network Rail, nid yw HS2 Limited wedi ei ddatganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Dydi Network Rail na HS2 Limited wedi ei ddatganoli i Gymru. Felly byddai rhywun yn disgwyl y byddai Cymru’n cael ei thrin yn gyfartal gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon. Ond ‘dydi hi ddim.
Mae’r Datganiad Polisi Cyllido Barnett yn nodi’n glir fod Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn ôl-daliad Barnett (y fformiwla sy ‘n ariannu Cymru, yr Allban a G Iwerddon) o 100% yn sgil HS2 tra bod Cymru’n derbyn 0%. Mae hyn yn cael effaith ((cymharol) sylweddol ar yr arian sy’n dod i Gymru yn sgil y gydadran o Fformiwla Barnett sy’n cael ei yrru gan wariant yr Adran Drafnidiaeth yn ei chyfanrwydd – 91% i’r Alban, 91.3%.i Ogledd Iwerddon a 80.9% i Gymru.
Canlyniad hyn ydi y bydd Cymru yn cael rhywfaint o gynnydd £750m tros pum mlynedd efallai) mewn adnoddau o ganlyniad i’r cynnydd cyffredinol yng ngwariant yr Adran Drafnidiaeth yn sgil HS2, ond bydd y consequential Barnett yn sicrhau 3.39% o’r £55.7bn i Ogledd Iwerddon (£1.89bn), a bydd yr Alban yn cael 9.85% (£5.49bn), ond fydd Cymru’n cael dim o’r consequencial.
Mae’n ymddangos mai’r rheswm – neu esgus efallai – tros y gwahaniaeth yma ydi bod Llywodraeth San Steffan yn ystyried HS2 fel cynllun Cymru a Lloegr – er nad ydi’r rheilffordd newydd yn croesi modfedd o dir Cymru.
Mae anghenion Cymru wrth gwrs yn llawer mwy na rhai’r Alban yn sgil ei thlodi enbyd – a gellir gwneud dadl bod ei hanghenion yn fwy na rhai Gogledd Iwerddon hefyd. Egwyddor waelodol Barnett oedd bod gwledydd y DU yn cael eu hariannu ar sail angen. Nid dyna sy ‘n digwydd – mae’r cyllido ar ei isaf lle mae’r angen fwyaf. Mae’r datblygiad yma yn atgyfnerthu yr anhegwch sylfaenol hwn.
Erbyn heddiw mae Llafur yn honni ei bod o blaid unioni anhegwch sylfaenol Barnett – ond cawsant dair blynedd ar ddeg i wneud hynny a wnaethon nhw ddim – ac ni roddwyd unrhyw bwysau ar Lywodraeth Llafur San Steffan gan y Blaid Lafur Gymreig i wneud hynny chwaith. Dydi hi ddim yn anodd gweld pam – byddai addasu Barnett yn golygu y byddai’r Alban yn cael llai o adnoddau – ac roedd Llafur yn gwybod yn iawn bod etholwyr yr Alban yn llawer llai dibenadwy na rhai Cymru. Roedd Llafur yn ofn yr SNP yn yr Alban, roedden nhw’n gallu dibynnu ar etholwyr Cymru i bleidleisio i Lafur – felly gellid anwybyddu eu anghenion.
Bai y Toriaid yn bennaf ydi’r datblygiad diweddaraf wrth gwrs – ond rydan ni’n disgwyl ychydig o sbeit gwrth Gymreig o bryd i’w gilydd o ‘r cyfeiriad hwnnw – fel y gwelsom efo’r toriad arall yng nghyllideb S4C yn ddiweddar. Ond mae ‘n ymddangos na wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru unrhyw ymdrech o gwbl i roi pwysau ar San Steffan i ariannu Cymru yn yr un ffordd a mae’r gwledydd Celtaidd eraill yn cael eu hariannu mewn perthynas a HS2.
Ond fel soniais ddoe mae yna fwy iddi na hynny. Mae diffyg parch Llywodraeth San Steffan at Lywodraeth Cymru wedi creu’r canfyddiad yn Llundain nad oes rhaid cymryd Cymru o ddifri. Mae ymlwybro di gyfeiriad, di glem, di asgwrn cefn y weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd yn atgyfnerthu’r canfyddiad hwnnw o ddiwrnod ar ol diwrnod. Yr unig ffordd o newid hynny ydi peidio eu hethol i lywodraeth – a daw yna gyfle i wneud hynny ym Mis Mai.















