Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr Blogmenai

Dwi’n gwybod y byddai’n well gennych weld llun ohona i yn hytrach nag un yr Aelod Cynulliad Toriaidd Darren Millar, ond bydd rhaid i chi fyw yfo Darren.  
Mae ganddo fo siwmper Nadolig, ‘does gen i ddim un – oni bai bod rhywun wedi prynu un yn anrheg ‘Dolig i mi, ond mae hynny yn hynod anhebygol.  Mae ei goeden yn well ac yn llawer mwy lliwgar na fy un i – er fy mod yn siwr ei fod o wedi talu llawer mwy am ei un o na wnes i – mi ges i un am £5 yn B&Q ddoe.  Mae Darren hefyd wedi eillio, dydw i ddim, ac mae o wedi torri ei wallt yn ddiweddar.  Mae’n rhai misoedd ers i mi wneud hynny.  Mae Darren yn amlwg newydd gael bath ac o bosibl fec ofyr yn arbennig ar gyfer y llun – does gen i ddim amynedd i gael y cyntaf, a fyddwn i ddim yn gwybod lle i fynd i chwilio am yr ail.  
Yn bwysicach ymddengys bod disgwyl i ddyn roi ei ddwylo ar ei liniau, dal ei gefn yn syth a gwneud rhyw fath o ymdrech i wenu ar gyfer y math yma o lun.  Yn ffodus dydi’r math yna o beth ddim yn poeni Darren.  
Felly Nadolig Llawen i chi – un ac oll.

Etholiad Cyffredinol ar y ffordd i’r Ynys Werdd

Mae amser etholiad yn un hynod ddigri yn yr Iwerddon – yn rhannol oherwydd antics rhyfeddol rhai o aelodau’r Dail (TDs) sy’n poeni am eu seddau.  Mae’r esiampl isod o ddigywilydd-dra yn un dda.  Defnyddio gwasanaeth argraffu ‘r Dail i gynhyrchu 85,000 o gardiau ‘Dolig i etholwyr.
Bwriadwn adrodd yn gyson ar y math yma o beth – mae yna lawer mwy ar y ffordd gyda’r etholiad yn debygol o gael ei chynnal ddechrau ‘r flwyddyn nesaf.

Ad drefnu llywodraeth leol a’r Gymraeg

Cododd y cwestiwn – ymddangosiadol aniddorol – o sut y dylid ad drefnu llywodraeth leol yng Nghymru ar rifyn cyfredol Hawl i Holi.  Gan bod y rhaglen yn cael ei darlledu i Bwllheli symudodd y drafodaeth yn naturiol i ad drefnu llywodraeth leol yn y Gogledd.  Roedd ymgeisydd y Blaid yn Arfon – Sian Gwenllian – yn dadlau tros yr opsiwn tair sir tra bod yr ymgeisydd Llafur, Sion Jones o blaid dau gyngor.  Roedd y ddau yn dadlau y byddai eu dewis nhw yn well i’r Gymraeg.  


Bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ydi cyfuno Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy yn y Gogledd Orllewin a chyfuno Dinbych, Wrecsam a Fflint yn y Gogledd Ddwyrain – ond cadw opsiwn yn agored o gael tri chyngor yn y Gogledd – Gwynedd a Mon, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.  

O ran yr iaith Gymraeg mae dau funud o feddwl yn dangos y byddai’r ail opsiwn, wrth gwrs, yn llawer, llawer gwell.  

Ar hyn o bryd mae Gwynedd yn defnyddio’r Gymraeg fel ei hiaith weinyddol, mae statws y Gymraeg yn llawer llai cadarn yng Nghyngor Ynys Mon, ac yn llai cadarn eto yng Nghyngor Conwy.  Mae polisi  Gwynedd wedi bod yn gryn gefn i’r iaith yn yr ardal, gan sicrhau statws proffesiynol i’r iaith,  a chymhelliad economaidd i Gymry Cymraeg aros ar eu milltir sgwar, ac  i’r di Gymraeg ddysgu’r iaith.

Mae proffeil ieithyddol Gwynedd a Mon yn eithaf tebyg, tra bod un Conwy yn gwbl wahanol.  Yn ol cyfrifiad 2011, 30.5% o drigolion Mon sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg o gwbl a 26.5% o drigolion Gwynedd sydd yn yr un sefyllfa.  Yng Nghonwy mae’r ganran yn 60.5%.  Mae 56% o drigolion Mon yn siarad yr iaith,  64% o rai Gwynedd, a 27% o bobl Conwy.  

Mae’n wir bod yr hen Gyngor Gwynedd oedd yn bodoli cyn yr ad drefnu llywodraeth leol diwethaf yn cwmpasu llawer o’r tri hen awdurdod, a bod hwnnw yn gymharol Gymreig o ran ei naws, os nad ei weinyddiaeth. Ond dim ond at ardal Llandudno oedd yr hen Wynedd yn ymestyn, byddai’r endid newydd yn ymestyn i Fae Cinmel – sy’n newid y proffil ieithyddol yn sylweddol.   Byddai siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif mewn cyngor sydd wedi ei gyfansoddi o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Mon, ond byddant mewn mwyafrif cyfforddus mewn cyngor fyddai wedi ei ffurfio o Gyngor Mon a Chyngor Gwynedd.  

Canlyniad tebygol yr opsiwn Mon / Gwynedd / Conwy ydi y byddai’n llawer anos i gael y gefnogaeth y byddai ei hangen i gael cyngor fyddai’n defnyddio’r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng gweinyddol.  Gallai fod yn anodd beth bynnag – mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio oherwydd bod yna gonsensws traws bleidiol trosto, a bod yna gefnogaeth eang i’r polisi ar lawr gwlad.  Does yna ddim polisi cyffelyb ym Mon – a dydi hi ddim yn glir bod y gefnogaeth i drefniant cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth gyffelyb yno.

Yn wir, hyd yn oed pe byddai’r cyngor newydd yn penderfynu dilyn trywydd y Wynedd bresenol y peth cyntaf fyddai yn ei wynebu fyddai argyfwng.  Efo’r rhan fwyaf o’r sawl sy ‘n gweithio i Gyngor Conwy yn ddi Gymraeg byddai tri opsiwn posibl – ceisio cynnal gwasanaeth lle nad ydi cyfran sylweddol o’r gweithwyr yn deall nag yn gallu defnyddio’r iaith weinyddol, diswyddo nifer sylweddol o bobl neu eu gorfodi i ddysgu’r Gymraeg.  Swnio’n hwyl i chi?

Mae’n bwysig o safbwynt dyfodol yr iaith fodd bynnag bod o leiaf un o’r cynghorau newydd yn mabwysiadu polisi iaith y Wynedd gyfredol.  Mae Leighton Andrews yn un o garedigion yr iaith – ac mae ganddo gyfle go iawn i osod trefn mewn lle a allai fod yn gefn gwirioneddol i’r Gymraeg yn y Gogledd Orllewin.  Mae ganddo gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.  Gobeithio y bydd yn ei gymryd – beth bynnag farn y Blaid Lafur yng Ngwynedd.

Cofiwch am ymgyrch codi pres Llanelli

Gydag ymgyrch godi pres Llanelli bellach wedi codi tri chwarter o’r £2k mae ei angen, mae yna amser i wneud eich cyfraniad o hyd.  Fel y sonwyd o’r blaen, mae canlyniad Llanelli yn rheolaidd ymysg y mwyaf ymylol yng Nghymru mewn etholiadau Cynulliad.  Os ydi’r gorffennol yn rhoi arweiniad i ni am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, dyma’r ffordd mwyaf effeithiol i gyfrannu i’r Blaid ar hyn o bryd.  Gallai pob cyfraniad – mawr neu fach – wneud y gwahaniaeth rhwng ail gipio’r sedd neu ei gadael i gyfrannu at fwuafrif posibl arall i’r Blaid Lafur a phum mlynedd arall o fethu ym Mae Caerdydd.

Mwy o lanast o Gaerdydd

Chwaneg o lanast o gyfeiriad grwp cyngor mwyaf boncyrs Cymru – Grwp Llafur Cyngor Caerdydd.  Sylwadau na all ond bod wedi eu gwneud gyda’r bwriad o wneud sefyllfa anodd yn ymfflamychol.  Mae Ralph Cook sy’n gyn ddirprwy arweinydd y cyngor bellach wedi ei ddiarddel o ‘r Blaid Lafur. Yn anffodus dyma’r criw sy’n gyfrifol am lywodraethu ‘r brifddinas.
Gweler y stori yma.

W00000573 – ardal Gymreiciaf Cymru?

Un o nodweddion diddorol cyfrifiad 2011 ydi bod data manwl wedi ei ryddhau ynglyn ag is adrannau o wardiau – a hynny ar ffurf hawdd i gael mynediad iddo.  Rwan dwi heb chwilio’n rhy fanwl – does gen i ddim amser, ac mae yna filoedd o unedau cyfri –  ond yr ardal mwyaf Cymraeg allaf ddod o hyd iddo ydi rhan o ward Seiont yn nhref Caernarfon – ardal W00000573 gyda mwy na 96% yn siarad y Gymraeg a 2.5% yn unig heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl.  I’r sawl sydd ag obsesiwn efo dosbarth cymdeithasol mae’r ardal fach yma yn cynnwys tai preifat modern, yn ogystal a thai a blociau fflatiau cymunedol.

Os ydych eisiau chwilio eich hun, edrychwch yma.  

Gwleidydda mewn ysbyty unwaith eto

Dwi’n gwybod bod hyn yn dechrau mynd yn boring – ond ymweliad gan un o weinidogion yn llywodraeth Cymru a sefydliad cyhoeddus yng nghwmni ymgeisydd Cynulliad sydd ganddom o dan sylw eto fyth. Yn yr achos yma Julia Dobson (Ynys Mon) ydi’r ymgeisydd, Vaughan Gething (unwaith eto) ydi’r gweinidog a Phenrhos Stanley yng Nghaergybi ydi’r ysbyty.

Mae’r cwestiynau arferol yn codi – ydi hwn yn ymweliad gweinidogol, ac os felly pam bod ymgeisydd o blaid y gweinidog yn ei ddilyn o gwmpas y lle?  Os mai ymweliad ar ran y Blaid Lafur ydi hi, pam bod rheolwyr ysbyty yn caniatau ymweliad pleidiol wleidyddol? a phwy sy’n talu am y teithio ac ati?
A barnu oddi wrth dystiolaeth ymgeisydd Llafur yn Arfon, mae’n weddol amlwg bod yna lawer iawn o ymweliadau a sefydliadau cyhoeddus gan weinidogion yng nghwmni ymgeiswyr yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Rwan, hyd y gallaf i farnu mae yna un o dri pheth yn digwydd:
1). Mae gweinidogion llywodraeth Cymru yn gwleidydda yn ystod ymweliadau swyddogol, gweinidogol.  Petai hyn yn wir byddai’n awgrymu bod statws gweinidog yn llywodraeth Cymru wedi ei danseilio a’i is raddio yn sylweddol oherwydd ymddygiad anghyfrifol gweinidogion Llafur.
2).  Bod yr ymweliadau yn rhai gwleidyddol ar ran y Blaid Lafur.  Mae gan y blaid honno pob hawl i wleidydda – ond byddai’n  ymddangos bod cryn dipyn o amser pobl sydd i fod yn rhedeg Cymru yn cael ei dreulio’n gwleidydda.  Mae hefyd yn codi cwestiynau am reolwyr sefydliadau cyhoeddus.  Fi fyddai’r cyntaf i amddiffyn hawliau pawb i gefnogi pleidiau gwleidyddol o’u dewis eu hunain a mynegi’r gefnogaeth honno i ‘r Byd a’r betws.  Ond mae cysylltu sefydliad sy’n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus a sydd a rhanddeiliaid sydd efo safbwyntiau gwleidyddol amrywiol efo plaid wleidyddol yn ymddangos yn annoeth.  Ydi hi’n bosibl bod rheolwyr ysbytai, ysgolion a sefydliadau trydydd sector yn hapus i daflu y sefydliadau hynny i ferw’r pair etholiadol?
3).  Amwyster a diffyg eglurder – bwriadol neu anfwriadol.  Petai hyn yn wir byddai’r ffiniau rhwng rol wleidyddol a gweinidogol unigolion yn y llywodraeth wedi colli eu heglurder.  Ni fyddai’n amlwg i reolwyr sefydliadau os ydi’r ymweliadau fyddai’n cael eu trefnu efo nhw yn rhai swyddogol neu beidio.  Ni fyddai statws yr ymweliadau yn glir i’r ymgeiswyr sy’n cael eu llusgo o gwmpas sefydliadau cyhoeddus chwaith.  Yn wir efallai na fyddai’n glir i’r gwrinidog ei hun beth yn union ydi natur ei ymweliad.  Ni fyddai neb yn glir am ddim byd.  Byddai’r aneglurder yma’n ddefnyddiol iawn i’r Blaid Lafur wrth gwrs.
O orfod dewis, byddwn yn mynd am 3). Hwnnw ydi’r eglurhad mwyaf Cymreig o beth coblyn.  

Pa mor ddi duedd ydi’r Sefydliad Materion Cymreig?

Roedd y blogiad diwethaf yn edrych ar y defnydd o’r refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop gan y Blaid Lafur ‘Gymreig’ fel rhan o’u strategaeth ar gyfer etholiadau mis Mai.  Dylid edrych ar y stori fach isod hefyd yng nghyd destun etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae Adam Price yn gwbl gywir i ymateb i’r stori yn y ffordd y gwnaeth.

Yr IWA wrth gwrs ydi’r Sefydliad Materion Cymreig – sefydliad sydd i fod yn gwbl ddi duedd.  Dydi cynnal dadl gyhoeddus rhwng gynrychiolwyr dwy blaid yn unig – yn y misoedd cyn etholiad Cynulliad – ddim yn edrych fel gweithred ddi duedd.  Mae’n edrych yn llai di duedd pan mae cynnal dadl felly yn ffitio’n berffaith efo strategaeth etholiadol un o’r ddwy blaid yna – sef y Blaid Lafur – i’r dim. Mae’n edrych yn llai di duedd eto pan rydym yn ystyried bod cyfarwyddor y Sefydliad Materion Cymreig hefyd yn ymgeisydd tros y Blaid Lafur ym mis Mai.

Mae gen i ofn y bydd y penderfyniad yma tanseilio enw’r Sefydliad Materion Cymreig fel corff di duedd – nid bod hynny am boeni’r Blaid Lafur wrth gwrs.  Wedi’r cwbl mae’r blaid honno yn disgwyl i pob sefydliad cyhoeddus Cymreig fod yn gefnogol iddi.