Jobs i’r hogiau a’r genod – eto

Mater  sy’n codi’n aml ar y blog hwn ydi’r ffaith bod grym gwleidyddol i Lafur yng Nghymru yn arwain yn ddi eithriad bron at ddefnyddio’r grym hwnnw i bwrpas enwebu cyfeillion gwleidyddol i gyrff cyhoeddus, a phenodi cyfeillion gwleidyddol i swyddi cyhoeddus.  Rydym wedi nodi sawl gwaith bod aelodaeth o ‘r Blaid Lafur yn ffordd llawer mwy effeithiol o ‘fynd ymlaen’ yn an haeddianol yn y Gymru gyfoes nag ydi aelodaeth o’r Seiri Rhyddion.

Mae’r stori yma’n esiampl berffaith.  Byddai rhywun yn meddwl y byddai gwleidyddion Llafur yn ceisio osgoi’r math yma o beth mor agos at etholiadau – ond y gwir syml ydi nad ydynt yn gweld fawr ddim o’i le ar y math yma o ymddygiad.   Trosiad perffaith o’r hyn ydi Cymru heddiw. 

Chware teg i pob rhan o Gymru = Cymru unedig

Mae’r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith at y gwariant anghyfartal yng Nghymru gyda mwy o adnoddau yn cael eu cyfeirio i ardaloedd lle mae Llafur yn gryf, a llai i’r ardaloedd lle maent yn wanach.  
‘Does yna neb yn gofyn am ffafriaeth i’r Gogledd, a does yna neb eisiau chwarae gwleidyddiaeth eforhaniadau  yng Nghymru.  Ond mae’n bwysig o ran undod cenedlaethol bod pob rhan o’r wlad yn teimlo ei bod yn cael chwarae teg.  Mae’r anghyfartaledd gwariant a geir ar hyn o bryd yn creu hollt di angen yng Nghymru.  Dylai unrhyw un sy’n canfasio’n rheolaidd yn unrhyw ran o’r Gogledd fod yn ymwybodol bod yna deimlad cyffredinol bron yn y rhanbarth nad ydi ‘r Gogledd yn cael chwarae teg. 

Mae cynllun y Blaid i ddeddfu i sicrhau gwariant cyfartal ar hyd a lled y wlad felly’n rhywbeth i’w groesawu.  Gallai dileu’r canfyddiad yn y  Gogledd nad ydi’r rhanbarth yn cael chwarae teg wneud mwy na dim arall i greu gwlad mwy unedig.  Rheswm arall i fotio i’r Blaid ym mis Mai.

Cynllun prentisiaeth Plaid Cymru


·         Bwriedir talu am y 50,000 o brentisiaethau gyda siâr Cymru o lefi prentisiaethau y Deyrnas Gyfunol, sydd werth £150m i Gymru bob blwyddyn.
·         Bwriedir gwneud hyn oherwydd cred y Blaid na ddylai unrhyw berson ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru fod tu allan i addysg, swydd a hyfforddiant ac er mwyn gwella rhagolygon y genhedlaeth nesaf.
·         Ar hyn o bryd mae 12,200 o bobl ifanc Cymru rhwng 16 a 18 – un o bob deg – y tu allan i addysg, swydd a hyfforddiant, sydd yn llawer gormod.
·         Mae Plaid Cymru yn credu bod prentisiaethau yn cynnig llwybr i’r byd gwaith sydd yr un mor werthfawr â chwrs prifysgol ac mae’n gwleidyddion yn benderfynol o sicrhau fod y ddau lwybr yma yn cael eu hystyried i fod yn gyfartal yn y dyfodol.


Unionist & Conservatives nid Conservative & Unionists

Ymddengys bod hanner aelodau seneddol Toriaidd Cymru wedi sgwennu at George Osborne yn gofyn iddo beidio datganoli pwerau trethiant i Gymru heb refferendwm. 
Dydw i ddim yn Dori – wrth gwrs.  Ond pe byddwn yn Dori byddwn yn credu – ac yn gweld mantais wleidyddol – mewn sefydlu perthynas glir rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus yn y seneddau datganoledig – yn arbennig felly yng Nghymru.  
Un o’r prif ddistiau sy’n cynnal cefnogaeth etholiadol y Blaid Lafur Gymreig ydi’r ffaith eu bod mewn sefyllfa i alw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru heb orfod codi ffadan o dreth ar neb i gynnal y gwariant hwnnw.  Mae’r diffyg perthynas rhwng gwariant a threthiant hefyd ymysg y rhesymau pam bod gwleidyddiaeth Cymru mewn aml i ffordd yn wleidyddiaeth anaeddfed, a pham bod Llafur yn parhau i fod a chefnogaeth etholiadol ar ol cyfnod hir o fethiant.
Byddai rhywun yn meddwl y byddai Tori yn gweld hyn, ac mae’n debygol eu bod – ond bod y reddf i wrthwynebu datganoli pwerau i Gymru yn gryfach na’r angen i weithredu yn unol ag egwyddorion ceidwadol ac mewn ffordd sy’n gyson a hunan les etholiadol.  
Unoliaethwyr yn gyntaf, Toriaid a gwleidyddion wedyn.

Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 4

Er bod teledu fel dyfais yn llawer hyn nag y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn dychmygu, ymddangosodd teledu  masnachol yn yr UDA (lle arall?) gyntaf yn niwedd 40au’r ganrif ddiwethaf.  Ar y cychwyn yr hyn a gafwyd oedd efelychiadau gweledol o raglenni radio, ond blodeuodd y cyfrwng yn y 50au a chafwyd pob math o ffurfiau newydd yn ymddangos.  Dechreuwyd darlledu  dramau, operau sebon, teledu amser brecwast, sioeau cwis ac ati yn ystod y cyfnod.  Roedd chwaraeon wedi eu darlledu o’r cychwyn – fwy neu lai.  Yn ystod y degawdau canlynol cafodd comediau, ffilmiau, rhaglenni dogfen, ac ati eu darlledu.  Datblygodd rhaglenni newyddion yn sylweddol hefyd i fod yn rhan o’r byd gwleidyddol / etholiadol.  Yn negawd olaf y ganririf ddiwethaf a dechrau’r ganrif yma datblygodd teledu realiti – os mai dyna’r term Cymraeg.  Roedd y rhan fwyaf o hyn oll mewn lle pan ddaeth S4C i fodolaeth ar ddechrau’r 80au.


Mae rhywfaint o’r stwff yma yn ffeithiol – rhaglenni dogfen neu’r newyddion er enghraifft, mae rhywfaint yn ddeunydd dychmygol – operau sebon neu ffilmiau.  Mae’r rhan fwyaf yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol – rhaglenni dogfen  hanesyddol neu ffilmiau cyfnod, ac mae rhaglenni chwaraeon byw neu agweddau ar ddarpariaeth newyddion cyfoes yn edrych ar y presenol.  Mae rheolau sylfaenol ffiseg yn ei gwneud yn amhosibl edrych i ‘r dyfodol – er bod ambell i raglen wedi ceisio cael hwyl yn gwneud hynny.  A chymryd bod teledu wedi cyrraedd Dorset yn ystod y cyfnod pan roedd Leighton yn ei arddegau, gallai fod wedi dod ar draws rhaglen o’r enw Tommorrow’s World oedd yn gwneud yn union hynny.

Rhywsut neu’i gilydd mae hyn oll wedi mynd heibio Leighton Andrews.  Mae’n llafurio efo’r camargraff dybryd mai pelen grisial neu bortal sy’n arwain i ‘r dyfodol ydi’r bocs yng nghornel ei ystafell. fyw.  Ymddengys iddo ddod ar draws rhaglen o’r enw Byw Celwydd sydd – dwi’n deall – yn ddrama deledu, a chymryd ei bod yn darogan y dyfodol.

Hoffwn sicrhau holl ddarllenwyr Blogmenai, a Leighton yn arbennig nad ydi’r teledu yn caniatau i ni edrych i’r dyfodol.  Petai hynny’n wir byddai ‘n beth drwg iawn, iawn i Ladbrokes a Paddy Power.  Yn wir, ym marn awdur Blogmenai, gwastraff amser llwyr ydi edrych ar y teledu – ond stori arall ydi honno.
Diweddariad 22:57

Ymddengys bod Leighton wedi darllen y blogiad, ac mae’r geiniog o’r diwedd – wedi degawdau – wedi syrthio.


Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 3

Rant (a dyfynu sut mae’r awdur yn ei ddisgrifio) gan ymgeisydd Llafur Arfon sydd o dan sylw y tro hwn. Mae yna nifer o ddatganiadau sydd – wel ddim yn wir.  Mae cywiro datganiadau ffug o gyfeiriad Llafur Arfon yn rhywbeth mae’r blog yma wedi gorfod ei wneud yn aml iawn tros y flwyddyn diwethaf.

Mae’r swyddogion yn y swyddfeydd a’r £70,000, £80,000 a Prif Weithredwr ar £100,000 +

Wel mae hyn o leiaf yn rhannol wir.   mae yna wahaniaeth rhwng cyflogau uchel swyddogion Cyngor Gwynedd a chyflogau casglwyr sbwriel.  Mae’n wir hefyd bod rhai swyddogion ar y cyflogau a arenwir –  unarddeg a bod yn fanwl gywir, allan o weithlu o tua 5,500.    Dydi hi ddim yn gywir i ddweud bod y swyddogion yn y swyddfeydd a’r (sic) £70,000, £80,000.  Mae mwyafrif llethol swyddogion a gweithwyr swyddfa’r cyngor ar gyflogau cymhedrol iawn.  Mae’n hynod anffodus – ac ymfflamychol – awgrymu bod pobl sydd ar gyflogau cymharol gyffredin yn cael cyflogau uchel iawn. 


Mae hogiau sy’n gweithio ar y biniau ar ryw £12,000 y flwyddyn ac yn gweithio yn galed iawn.

 Mae’r ffigwr ar gyfer cyflogau gweithwyr hel sbwriel yn un cwbl ddychmygol.  Mae tal Casglwr Sbwriel/Ailgylchu yn seiliedig ar raddfa cyflog GS4 – pwyntiau 10-13.  Mae’r ystod cyflog rhwng £14,338 – £15,941 y flwyddyn ar gyfer gweithwyr llawn-amser. Mae rhai yn gweithio oriau ychwanegol a felly ar gyflog uwch.
Petai Sion yn mynd ati i wneud ei ymchwil yn ofalus, byddai’n darganfod bod  cyflogau casglwyr sbwriel yn is na chyflogau prif weithredwyr ym mhob cyngor yng Nghymru – ac yn wir y Byd.  Serch hynny mae’r gwahaniaeth rhwng cyflogau’r casglwyr sbwriel a’r Prif Weithredwr yn llawer,  llai yng Ngwynedd nag ydyw yn y cwbl o gynghorau Llafur Cymru. – neu unrhyw gyngor arall yng Nghymru.  Maent oll yn talu mwy i’w Prif Weithredwr na Gwynedd – ac mae nhw i gyd – neu bron i gyd – efo mwy o swyddogion ar y cyflogau mae Sion yn son amdanynt na sydd gan Wynedd.  Mae rhai – Castell Nedd Port Talbot er enghraifft – efo cymaint a phump swyddog ar £100k+. 

Yn ail, mae rhai o’r hogiau sydd yn gweithio ar y biniau ar ‘zero hour contract’, sydd yn golygu does ddim sicrwydd o gwbwl gyda oriau gwaith ‘na cyflog i gefnogi eu teuleuoedd. Gwarthus.
Mae hyn hefyd yn gwbl ddychmygol mae gen i ofn.  Dydi Cyngor Gwynedd ddim yn cyflogi unrhyw gasglwyr sbwriel ar gytundeb sero awr.  Mae yna ychydig o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y telerau hyn  – 81 a bod yn fanwl gywir – y cwbl ym maes gofal.  Mae’n ffigwr sydd wedi cwympo tros y blynyddoedd diwethaf a bydd yn cwympo ymhellach yn y dyfodol agos.
Fel yn y stori  cyflogau uchel i uwch swyddogion, mae cynghorau Llafur gyda’r mwyaf awyddus i gyflogi pobl ar waelod y domen ar gytundebau sero awr.  Yn wir  fyddai hi ddim llawer o ormodiaeth i alw cytundebau sero awr yn Gytundebau Llafur – mae’r blaid a’i gwleidyddion yn hoff iawn ohonynt.  Roedd gan Gyngor Doncaster 2,759 ar y cytundebau hyn yn 2013.  
Yma yng Nghymru – yn ol y ffigyrau diweddaraf y gallaf ddod o hyd iddynt – roedd 418 o staff Cyngor Pen y Bont ar gytundebau sero awr, ac roedd 482 o staff Cyngor Abertawe ar gytundebau felly.  Hwyrach bod newid wedi bod yn y ffigyrau erbyn hyn – does gen i ddim ffordd o wybod.  Mae’r ddau yn gynghorau Llafur, ac mae rhan o Ben y Bont yn etholaeth Carwyn Jones.

Mae Llafur ar lefel Cynulliad wedi cael sawl cyfle i leihau’r defnydd o ‘r cytundebau hyn trwy gefnogi gwelliannau i’r perwyl hwnnw gan y Blaid.  Maent wedi gwrthod gwneud hynny mewn perthynas a phob un o’r adrannau canlynol.
1.       Bwrdd Cyflogau Amaethyddol
2.       Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng nghyfnod 3
3.       Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng nghyfnod 4
4.       Gofal Cymdeithasol yng nghyfnod 2
5.       Gofal Cymdeithasol yng nghyfnod 3

Yn wir mae gan aelodau seneddol Llafur hanes hir o ddefnyddio cytundebau sero awr i gyflogi eu gweithwyr eu hunain. 


Rhestr a geir isod o’r Aelodau Seneddol Llafur o’r senedd (San Steffan) diwethaf sy’n cyflogi pobl ar gytundebau sero awr.


Adrian Bailey
Alan Campbell
Alan Meale
Alex Cunningham
Andy Burnham
Andy Slaughter
Ann Clwyd
Ann McKechin
Barbara Keeley
Barry Sheerman
Ben Bradshaw
Bob Ainsworth
Bridget Phillipson
Catherine McKinnell
Chinyelu Susan Onwurah
Chris Evans
Clive Efford
Dan Jarvis
Ed Balls
Fiona Mactaggart
Frank Dobson
George Mudie
Glenda Jackson
Graeme Morrice
Graham Jones
Gregg McClymont
Heidi Alexander
Helen Jones
Huw Irranca Davies
Ian Lucas
Ian Murray
John Woodcock
Jon Trickett
Jonathan Ashworth
Jonathan Reynolds
Julie Hilling
Karen Buck
Katy Clark
Kerry McCarthy 
Kevan Jones
Lilian Greenwood
Louise Ellman
Luciana Berger
Lucy Powell
Lyn Brown
Margaret Curran
Mary Creagh
Meg Hillier
Meg Munn
Mike Wood
Nic Dakin
Pat Glass
Peter Hain
Rachel Reeves
Rosie Cooper
Rushanara Ali
Sarah Champion
Seema Malhotra
Shabana Mahmood
Sheila Gilmore
Stephen Twigg
Susan Jones
Toby Perkins
Tom Greatrex 
Valerie Vaz
Vernon Coaker
Virendra Sharma
Yasmin Qureshi

Yn drydydd, dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, mi roedd y Cyngor wedi rhoi bai ar ‘y tywydd garw’ am fethu casgliadau. ANGHYWIR – Does ddim un awr wedi’i fethu gan y gweithwyr yn ein ardaloedd ni, dim ond esgus gan y fat cats yn y Cyngor am beidio rhoi’r adnoddau iawn i’r gweithwyr.

Mae’n eithaf cyhuddiad i gynghorydd etholedigi honni bod gweithwyr cyflogedig cyngor yn dweud celwydd yn gyhoeddus  i guddio eu methiannau eu hunain..  Petai’n wir byddai’n amlwg yn gam ymddygiad proffesiynol difrifol ac fater i drefn ddisgyblu’r cyngor.  Os oes gan Sion wybodaeth am swyddogion yn dweud celwydd dylai ei gyflwyno i swyddog monitro’r cyngor.  Mae’n anhebygol iawn o wneud hynny oherwydd bod proses ddisgyblu wedi ei seilio ar ffeithiau  oeraidd yn hytrach na ffrwyth dychymyg.
Os ydi cynghorwyr eisiau beirniadu eu cyngor eu hunain a phobl sy ‘n gweithio i’r cyngor hwnnw –  mae hynny’n fater iddyn nhw.  Byddai’n well gwneud hynny yn siambr y cyngor os mai mynd i’r afael a rhyw broblem neu’i gilydd ydi’r bwriad – ond gwleidyddiaeth ydi gwleidyddiaeth ac etholiadau ydi etholiadau – ac mae rhywun yn deall hynny.  
Ond mae’n anghyfrifol i feirniadu ar sail ‘ffeithiau’ sydd ddim yn wir.  Mae pobl yn credu cynghorydd oherwydd eu bod yn credu bod ganddo fynediad i ffeithiau cywir – yn wahanol i’r gweddill ohonom gall  holi swyddogion er mwyn cael ffeithiau sydd yn gywir.  Mae peidio a gwneud hynny tra’n creu ffeithiau ffug i’w defnyddio mewn disgwrs wleidyddol yn dibrisio’r ddisgwrs honno’n llwyr.  Y math yma o gamarwain bwriadol sy’n rhannol gyfrifol am y dirmyg sydd gan lawer o bobl tuag at yr holl broses ddemocrataidd yn yr oes sydd ohoni.  

Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 2

Diolch i Elis Dafydd am dynnu sylw at hon.

“Pe bai pawb yn byw fel rydym ni’n byw yng Nghymru, byddai angen bron i dair planed er mwyn darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid yw hynny’n opsiwn i Gymru bellach[…]” 



Mae’r dyfyniad wedi ei godi o wefan Llywodraeth Cymru.  Petai’r dyfyniad yn wir, mae’n rhaid bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried prynu, dwyn, benthyg, hawlio, rhentu neu gywain mewn rhyw ffordd arall ddwy blaned, er mwyn mynd i’r afael a phroblemau amgylchyddol Cymru.  

Os nad ydi cywain dwy blaned yn opsiwn bellach, mae’n rhaid ei fod ar un amser – golyga hynny yn ei dro y byddai trafodaeth wedi digwydd ynglyn a’r mater rhywbryd neu’i gilydd.  Mae’n debygol iawn – am resymau sy’n ymwneud ag argaeledd – mai Gwener a Mawrth fyddai’r ddwy blaned dan sylw.



Dwi ddim yn credu i’r drafodaeth yma erioed fynd rhagddi – yn rhannol oherwydd mai diffyg uchelgais llwyr ydi un o brif nodweddion Llywodraeth Cymru, nid uchelgais gorffwyll ac afresymegol –  ac yn rhannol oherwydd y byddai hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn deall o’r dechrau’n deg bod problemau technegol ac ariannol anorchfygol ynghlwm a’r cywaith arbennig yma.  Gobeithio.  

Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 1

Cyn bod y blog wedi bod wrthi’n cywirio datganiadau sydd yn gl _ _ ahem, gamarweiniol gan wleidyddion (Llafur yn bennaf), a chan bod datganiadau felly yn rhwym o gynyddu fel bydd etholiad mis Mai yn dynesu, waeth i ni ddechrau cyfres fach ar y thema.  Bydd pethau’n gweithio fel hyn – byddaf yn dyfynu ‘r sawl sydd yn camarwain, cywiro’r camarweiniad a chynnig eglurhad pellach os oes angen.

Mi wnawn ni ddechrau  Kevin Madge, cyn arweinydd Llafur yn Sir Gâr.  Yn ol y blogiwr o Gastell Newydd Emlyn – Cneifiwr gwnaeth y datganiad canlynol tra’n trafod aildrefnu llywodraeth leol yn y Carmarthenshire Herald wythnos diwetha:

 “The Labour Party is not supportive of any reorganisation……If Leanne Wood has been having talks and they involve bringing back Dyfed, they (h.y. y Blaid) need to come clean now.

Does dim angen llawer o eglurhad pellach yma.  


(2). Llywodraeth Lafur – nid un Plaid Cymru – ydi llywodraeth Cymru.  Carwyn Jones ydi’r Prif Weinidog, nid Leanne Wood.