Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 5

Cyfres o ddatganiadau ar trydar gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, Sion Jones sydd gennym y tro hwn.  Mae ‘n cychwyn efo hon:

Son mae Sion am y posibilrwydd a gododd rai blynyddoedd yn ol o godi carchar ar safle hen ffatri Ferodo rhwng Caernarfon a’r Felinheli.  
Mae’n arferol gyda chynllun cymharol fawr fel hwn i farn bolareiddio yn lleol.  Yr arfer ydi bod pobl sy’n byw yn agos iawn at ddatblygiad yn tueddu i’w wrthwynebu am ei fod yn achosi problemau / anhwylusdod iddyn nhw eu hunain, tra bod pobl sy’n byw ychydig ymhellach i ffwrdd yn ei groesawu oherwydd y cyfleoedd economaidd sy’n deillio ohonynt.
Roedd hyn yn wir yn achos carchar Caernarfon – a chefais flas uniongyrchol o wrthwynebiad pobl oedd yn byw ar hyd glannau’r Fenai i’r datblygiad.  Roeddwn yn digwydd bod yn gadeirydd Cangen Caernarfon Plaid Cymru ar y pryd, a chefais fy hun yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus i drafod y datblygiad yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon.  Roedd Hywel Williams yr Aelod Seneddol, Alun Ffred yr Aelod Cynulliad a Dyfed Edwards, arweinydd y cyngor ar y llwyfan efo fi ar y llwyfan.  Roedd y tri  o blaid y datblygiad.  Fel sy’n arferol mewn cyfarfodydd fel hyn daeth llawer, llawer mwy o wrthwynebwyr y datblygiad nag o gefnogwyr i’r cyfarfod.  ‘Doedd y cyfarfod ddim yn un cyfforddus i’w gadeirio, a chafodd pawb amser digon caled oherwydd eu cefnogaeth i ‘r cynllun.

Petai’r cynllun wedi mynd rhagddo byddai wedi effeithio  ar ddwy ward yn bennaf – ward Menai yng Ngogledd Caernarfon a’r Felinheli – pentref ychydig filltiroedd i’r dwyrain o’r dref.  Mae’r ddwy ward yn gadarnleoedd i Blaid Cymru – ac nid yw’n gyfrinach i bleidleisiau ac aelodau gael eu colli yn yr ardal oherwydd cefnogaeth y Blaid i ddenu ‘r datblygiad i Gaernarfon ar lefel San Steffan, Cynulliad a Chyngor Gwynedd.  Roedd y datblygiad yn cael ei gysylltu’n lleol efo Plaid Cymru.

Fel mae’n digwydd ni ddaeth y carchar i Gaernarfon – a hynny oherwydd i weinidog gwladol (Llafur) benderfynu na fyddai hynny’n digwydd.  Wedi i un o gyd gynghorwyr Sion – Dyfrig Jones – ymateb i ‘w drydariad trwy ddweud hynny atebodd Sion gyda’r trydariad isod:

Dydi hynny ddim yn wir chwaith.  Roedd y Blaid ar Gyngor Gwynedd o blaid y cynllun – wele ymateb y Cyng Dewi Lewis – y deilydd portffolio datblygu ar y pryd – i’r Daily Post.

“This is one of the most important developments in this area for some time, it’s important that we start preparing for it now so that the people of Gwynedd are top of the list when it comes to opportunities and jobs.

“We will be holding talks with our partners in the Assembly Government and Westminster, as well as in health, education and the local business sector and trade unions while carrying out the groundwork before the jail opens.”

Wedi i Dyfrig nodi nad oedd honiad Sion yn wir a gofyn iddo dderbyn nad oedd ei haeriad yn wir, cafwyd y trydariad yma gan Sion:

Mae’r math yma o ddadl yn gyfarwydd i unrhyw un sy’n dilyn Llafur yng Nghymru.  Byddwch yn cofio i Carwyn Jones geisio rhoi’r bai am i’w lywodraeth fethu ag ariannu cynllun i osgoi llifogydd ar yr A55 ar Blaid Cymru oherwydd i Ieuan Wyn Jones beidio a gweithredu cynllun cyfangwbl wahanol ar yr A55.  Rhywbeth tebyg sy’n digwydd yma – cynllun hollol wahanol oedd yr un i godi carchar anferth Titan yn y Gogledd – un a wrthwynebwyd gan y Blaid – ac un nad oedd erioed am ddod i ardal Caernarfon / Y Felinheli beth bynnag – roedd yn rhy fawr o lawer i hynny.
Wedi i Dyfrig dynnu sylw at hynny, cawn y trydariad yma gan Sion: 
Felly yr honiad erbyn hynny oedd bod ymgeisydd y Blaid yn Arfon – Sian Gwenllian – yn erbyn y datblygiad.  Yn anffodus dydi hynny ddim yn wir – eto fyth.  Roedd yn wleidyddol anodd i Sian beidio a gwrthwynebu ‘r cynllun.  Byddai’r rhan fwyaf o ‘r carchar wedi ei leoli yn ei ward, ac roedd yna gryn wrthwynebiad yn lleol.  Ond wnaeth hi ddim gwrthwynebu – ac roedd hynny ‘n arwydd o ddewrder gwleidyddol ar ei rhan. Mae’n wir iddi godi rhai o’r materion oedd yn poeni ei hetholwyr efo’r gweinidog – ond gwnaeth hynny mewn cyd destun lle’r oedd yn llawn dderbyn yr angen  am y carchar.  
Cafwyd dau drydariad gan gynghorydd arall – Dafydd Meurig – yn tynnu sylw at hynny:
Ni chafwyd ateb hyd yn hyn gan Sion.
Rwan rydym wedi hen arfer efo antics Llafur Arfon parthed camarwain – bydd llawer yn cofio i Alun Pugh flocio nifer fawr o bobl oedd yn tynnu sylw at ddatganiadau amheus ar ei gyfri trydar, a dwi’n cofio bod un o ragflaenwyr Alun yn cadw blog ac yn dileu yn rheolaidd sylwadau oedd yn tynnu sylw at ddatganiadau nad oedd yn ffeithiol gywir ar y blog, tra ‘n parhau i ddangos y  ffeithiau hynny.  
Ond dydan ni heb arfer efo’r gwir yn cael ei droi yn gyfangwbl a’i ben i lawr.  Y sefyllfa mewn gwirionedd oedd bod gwleidyddion Plaid Cymru yn cymryd risgiau gwleidyddol sylweddol er mwyn dennu datblygiad a allai fod o les sylweddol i economi ‘r ardal – ond i weinidog Llafur atal y cynllun rhag mynd rhagddo yn yr ardal.  Ond mae Llafur Arfon yn ceisio camarwain yr etholwyr trwy honni bod y Blaid yn gwrthwynebu datblygu’r cynllun.
Rydan ni’n torri tir newydd mae gen i ofn – y math o dir nad oes neb eisiau ei dorri.

Storm amherffaith i Lafur ym mis Mai?

Dydi hi ddim yn bosibl gweld i’r dyfodol wrth gwrs – ac mae hynny’r un mor wir pan rydym yn ceisio rhagweld etholiadau na phan rydym yn ceisio rhagweld unrhyw beth arall.  Serch hynny mae yna deimlad – cyffredinol bron – ar hyn o bryd y bydd etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai yn rhai anodd iawn, iawn i Lafur.  

Nid ‘teimlad’ yn unig sydd y tu ol i’r canfyddiad yma, mae yna ddata sy’n awgrymu hynny hefyd.  Mae’r polau ‘cenedlaethol’ – yn yr ystyr Brydeinig – yn awgrymu bod Llafur yn perfformio’n gymharol wael a bod y bwlch rhyngddyn nhw a’r Toriaid yn araf gynyddu.  Mae’r polau Cymreig yn awgrymu bod y blaid tua 10 pwynt yn is nag oedden nhw ar yr un pwynt yn y cylch etholiadol ddiwethaf – ac roedd y polau bryd hynny yn gor ddweud y gefnogaeth i Lafur.  Ac wedyn mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu ei bod yn debygol iawn na fydd Llafur yn symud yn ol i gymharu a 2011.  Roedd Etholiad Cyffredinol y llynedd hefyd yn etholiad gwael i Lafur yng Nghymru.

Beth ydi’r rhesymau yn y dirywiad hwn yng nghefnogaeth Llafur?  Fel ym mhob stori fel hyn mae yna sawl rheswm.  Ceisiwn edrych ar un neu ddau.  
1). Mae’r gefnogaeth i Lafur yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn gyffredinol yng  ers 1997.  Gellir dangos hyn mewn sawl ffordd.  Ystyrier eu cadarnleoedd er enghraifft.  Roedd pleidlais Llafur yn y Rhondda yn 30,318 yn Etholiad Cyffredinol 1997, 15,976 gawson nhw y llynedd.  Y ffigyrau cyfatebod ar gyfer Dwyrain Abertawe ydi 29,151 a 17,807 a Merthyr / Rhymni 30,012 a 17,618.
2).  Bu Llafur mewn grym ers 1997.  Mae pleidiau sydd mewn grym am gyfnodau maith yn tueddu i’w chael yn anos fel mae amser yn mynd rhagddo. 
3).  Mae gan Llafur record ddifrifol o wael o lywodraethu  ac maent wedi bod ar eu gwaethaf pan maent wedi bod yn rheoli ar eu pennau eu hunain.  Oherwydd gwendid y cyfryngau Cymreig dydi record wael Llafur heb gael y sylw mae’n ei haeddu yn y gorffennol.  Ond arweiniodd y ffaith mai llywodraeth Carwyn Jones oedd yr unig weinyddiaeth Lafur yn y DU at gryn sylw gan y papurau Llundeinig yn y misoedd cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd.  Cafwyd yr ymdriniaeth hysteraidd arferol wrth gwrs.
4).  Mae Llafur Prydain mewn cyflwr sydd ddim ymhell o fod yn un o ryfel cartref parhaus – dydi pleidleiswyr ddim yn hoffi pleidiau rhanedig sy’n ffraeo’n fewnol.  
5). Mae’r sylw cyfryngol mae Llafur Prydain yn ei gael bron yn unfrydol negyddol – o’r Guardian i’r Mail i’r Telegraph.  
6). Mae Llafur yn ei chael yn anodd i gael eu pleidleiswyr i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.  3/4 y sawl a bleidleisiodd trostynt yn 2010 wnaeth hynny yn 2011 – ac roedd etholiad 2011 yn etholiad dda iddynt.  Tua 53% o bleidleiswyr 2005 bleidleisiodd i Lafur yn 2007.  Petai hynny yn digwydd ym mis Mai byddai’r bleidlais yn is na 300,000 – y bleidlais isaf i Lafur yn hanes y Cynulliad.
7). Maent yn ei chael yn anodd i gael actifyddion i weithio ar gyfer etholiad Cynulliad.  Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn llawn o straeon am ganfasio drws i ddrws yn y misoedd cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd.  Ychydig iawn o hynny sydd i ‘w glywed eleni.  Does yna ddim tystiolaeth bod y miloedd a ymaelododd a’r blaid i gefnogi Corbyn yn fodlon gweithio mewn etholiad Cynulliad.
8). Fel y sonwyd yn ddiweddar mae absenoldeb llwyddiant llywodraethol ynghyd a natur wasgaredig y gwrthwynebiad i Lafur yn ei gwneud yn anodd i Lafur greu naratif etholiadol effeithiol a chredadwy.  Mae hon yn broblem sylweddol.
Fel y dywedais ar y cychwyn – fedran ni ddim rhagweld y dyfodol, a gall pethau newid – ond ar hyn o bryd mae’n edrych fel petai Llafur yn wynebu rhywbeth sy’n ymylu at fod yn storm berffaith.

Y broblem i Lafur yng Nghymru

Mae dadansoddiad Roger Scully o’r rhesymau (neu rai o’r rhesymau) tros siwrna wahanol Llafur Cymru a Llafur yr Alban yn y blynyddoedd wedi 2007 yn un treiddgar. 

Yr hyn sydd gan Roger ydi bod perfformiad Llafur yn y ddwy wlad Geltaidd yn debyg iawn yn 2007, ond bod Llafur Cymru wedi perfformio’n well na Llafur yr Alban ers hynny.  Mae’n priodoli hynny i ddau beth yn bennaf:
1). Y ffaith i’r SNP lywodraethu yn effeithiol iawn fel gweinyddiaeth leiafrifol rhwng 2007 a 2011.  Agorodd hyn y drws i fuddugoliaeth ysgubol yn 2011.  
2).  Y ffaith bod yr wrthwynebiad i Lafur wedi ei hollti sawl ffordd yng Nghymru, tra bod llawer o’r bleidlais wrth Lafur wedi hel o gwmpas un blaid nerthol yn yr Alban.
Mae hyn yn wir – natur wasgaredig y bleidlais wrth Lafur a sicrhaodd bod y blaid honno yn ennill nifer o seddi fis Mai diwethaf efo llai na 40% o’r bleidlais.
Mae’n weddol amlwg bod Llafur Cymru mewn gwell lle o lawer na Llafur yr Alban – ond mae gan fersiwn Gymreig y blaid broblem nad oes gan y fersiwn Albanaidd.  O ran strategaeth etholiadol mae pethau’n weddol syml i Lafur yn yr Alban – beirniadu record yr SNP mewn llywodraeth a honni y byddan nhw yn gwneud yn well (a gobeithio nad ydi pobl yn cofio eu cyfnod nhw mewn llywodraeth). 
Yng Nghymru mae’n fwy anodd – mae’r Toriaid yn fygythiad i Lafur mewn rhai ardaloedd, UKIP mewn ardaloedd eraill a Phlaid Cymru mewn ardaloedd eraill eto.  Mae’r pleidiau hynny yn wahanol iawn i’w gilydd, ac mae’n anodd creu naratif etholiadol sy’n effeithiol yn erbyn y cwbl ohonyn nhw.  Petai gan Lafur record dda o lywodraethu yng Nghymru byddai yna naratif ar gael – ond mae eu record yn alaethus o wael.  Dyma pam bod Llafur yn ceisio hawlio clod am lwyddiannau sydd ddim oll i’w wneud efo nhw – llwyddiant mewn chwaraeon neu ganmoliaeth arbennig i’r wlad yn Rough Guide.

Mae dod o hyd i naratif addas yn goblyn o broblem iddyn nhw – dwi’n falch mai eu problem nhw ydi hi.

Edrych ymlaen i etholiadau 2016 – etholiad Gweriniaeth Iwerddon

Roeddwn wedi rhyw addo cael golwg ar y rhagolygon ar gyfer y ddwy etholiad cyffredinol yn yr Iwerddon fydd yn cael eu cynnal eleni. Er nad ydi’r etholiad wedi ei galw eto, bydd rhaid ei chynnal erbyn y gwanwyn, ac mae’r ymgyrch i bob pwrpas wedi cychwyn.  Mi gychwynwn ni efo pwt am y cefndir gwleidyddol yn gyntaf.

Dwy blaid sydd wedi dominyddu yn Iwerddon ers degawdau – Fianna Fail a Fine Gael.  Erbyn heddiw mae’r ddwy blaid yn debyg iawn o ran gwleidyddiaeth  – Centre Right fyddai’r term yn y Saesneg mae’n debyg.  Ffurfiodd y naill blaid o’r ochr a enilliodd y Rhyfel Cartref (FG), a datblygodd y llall o’r ochr a gollodd (FF).  Yn eironig ddigon daeth yr ochr a gollodd y rhyfel i ddominyddu’r heddwch – gyda Fianna Fail yn dod i fod yn blaid fwyaf Iwerddon am ddegawdau lawer.  Doedd y gwahaniaeth rhwng y pleidiau ddim yn fawr – roedd FF yn fwy ceidwadol mewn materion cymdeithasol, ond yn fwy hyblyg, popiwlistaidd a phragmataidd na FG mewn materion economaidd.  Roedd hefyd yn fwy gweriniaethol a chenedlaetholgar.

                      Joanne Burton ac Enda Kenny – arweinwyr Llafur a FG


Ffurfiodd gwleidyddiaeth modern Gweriniaeth  Iwerddon yn y blynyddoedd wedi’r Rhyfel Cartref o gwmpas yr hollt chwerw a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y trawma cenedlaethol hwnnw – ac yna rhewodd.  Ciliodd y Rhyfel Cartref yn y cof ddegawd wrth ddegawd – ond arhosodd y wleidyddiaeth Rhyfel Cartref.  Daeth ambell i blaid ac yna diflannu, roedd y Blaid Lafur yno o’r dechrau bron – ond rhyw hanner plaid oedd hi mewn gwirionedd – yn cael ei hun ddigon cryf i gyngrheirio efo FG i gadw FF allan o rym o bryd i’w gilydd.  

Roedd y gyfundrefn wleidyddol – gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref – yn edrych yn ddi symud – yn anorchfygol.  Ond yna – daeth yr argyfwng ariannol mawr ym mlynyddoedd diwethaf y ddegawd diwethaf – a meiriolodd y gyfundrefn wleidyddol tros nos.  Collodd FF lawer o’i chefnogaeth gwledig i FG a’i chefnogaeth trefol i Lafur.  Symudodd Sinn Fein yn ei blaen rhywfaint – plaid sy’n cyn ddyddio’r lleill ond sydd a’i gwreiddiau diweddar yn ymwthio o’r ffin a rhyfel diweddarach o lawer – ac enilliodd gwahanol grwpiau annibynnol gefnogaeth sylweddol iawn hefyd.  Roedd Etholiad Cyffredinol 2011 yn drychineb i FF.  Wele’r canlyniadau:

Mae’r polau diweddaraf yn awgrymu y bydd y ddwy blaid lywodraethol – Llafur a FG yn colli cefnogaeth – ac yn arbennig felly Llafur.  Serch hynny mae FG yn dal yn glir ar y blaen. Bydd FF yn cynyddu eu cefnogaeth rhyw gymaint – ond heb ddod yn agos at eu cefnogaeth flaenorol, a bydd SF yn dwblu eu cefnogaeth.  Bydd y gwahanol grwpiau annibynnol yn cynyddu eu cefnogaeth hyd yn oed yn fwy na hynny.  Dwi’n tueddu i gredu bod y polau yn debygol o gael eu gwireddu i raddau helaeth ond gyda SF yn gwneud ychydig yn well na maent yn awgrymu a Llafur yn waeth.  Mae’r data creiddiol yn rhoi SF yn llawer nes at FG na’r data terfynol, ac mae hefyd yn awgrymu y bydd Llafur yn gwneud yn salach.  
Dau beth sy’n ddiddorol mewn gwirionedd ac mae’r ddau yn ymwneud a SF mewn gwirionedd.  
Mae’n amlwg mai FG fydd yn arwain y llywodraeth nesaf, ond mae pwy fydd yn brif wrthblaid yn bwysig.  Petai ‘n SF yn hytrach na FF byddai gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref o’r diwedd wedi dod i ben go iawn.  Petai FG yn cael eu gorfodi i glymbleidio efo FF – (maent yn dweud nad ydynt yn fodlon gwneud hynny – ond rhifau nid egwyddorion sy’n penderfynu pethau fel hyn yng ngwleidyddiaeth Iwerddon) – byddai diflaniad y wleidyddiaeth honno hyd yn oed yn fwy disymwth. 
           Gerry Adams yng nghyfarfod lawnsio ei ymgyrch etholaethol yn Dundalk neithiwr.

Mae’r ail fater o ddiddordeb yn ymwneud a gwleidyddiaeth y Chwith.  Mae yna bleidlais Chwith go sylweddol yn yr Iwerddon erbyn hyn, ond mae wedi ei gwasgaru rhwng SF, Llafur (er ei bod yn amheus y gellir ystyried y blaid honno yn blaid adain Chwith bellach) a nifer o bleidiau / unigolion sy’n cael eu cyfri ymysg yr annibynwyr.  Mae’n sicr y bydd y bleidlais yn wasgaredig ar ddiwrnod yr etholiad, ond yr her i SF wedi hynny fydd i grisialu’r Chwith o ‘u cwmpas.  Os digwydd hynny bydd gwleidyddiaeth y Weriniaeth yn y dyfodol yn dra gwahanol i’r hyn a gafwyd ers sefydlu’r wladwriaeth.

Ychwanegiad bach i flogiad ddoe

Os ydi pol diweddaraf Panelbase yn yr Alban yn gywir, mae’n fwy na phosibl mai trydydd fydd Llafur yn etholiadau Mis Mai yn yr Alban.  Mae’r gwahaniaeth rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol wedi bod yn mynd yn llai yn gyson.  Ond hyd yn oed petai’r lleihad cyson yn y bwlch yn dod i ben – ag ystyried cymlethdodau’r system etholiadol – gallai’r ffigyrau a geir ar hyn o bryd roi mwy o seddi i’r Toriaid na Llafur.  
Byddai hynny’n newid syfrdanol mewn gwlad sydd wedi ei dominyddu gan Lafur ers chwe degau’r ganrif ddiwethaf.

Mae nhw’n paratoi am _ _ gweir

O diar, ymddengys bod Llafur yn disgwyl trychineb yn etholiadau mis Mai.  Yn ol cyflwyniad i gabinet cysgodol y blaid gan gyfarwyddwr etholiadau’r blaid, Patrick Hennegan, dydi pethau ddim yn edrych yn dda.



Ynglyn a’r Alban


“A result in line with these polls would see 13 constituency seats fall to the SNP, while two further seats would be tight races between the SNP and the Conservatives with Labour coming third,” 


Felly mae Llafur yn disgwyl colli 15 allan o 15 sedd uniongyrchol yn yr Alban.  Ond beth am y seddi rhanbarthol?  Mae yna lawer o’r rheiny yn yr Alban, ac maen nhw’n siwr o achub Llafur?  Wel na.

“However, Labour have problems here too, as polling points to a much more fragmented regional vote, with rises for the Conservatives, the Greens, Ukip and the Liberal Democrats in current polling _ _ Labour could fall to 25 seats or below, far behind the SNP, who could claim up to 70, and only a little way ahead of the Conservatives, who could take 20 or more.”

Wel ‘na fo ‘ta, dyna Llafur wedi rhoi’r gorau i obeithio am ennill yn yr Alban a throi eu golygon at geisio dod yn ail.  Beth am Gymru felly?  Mae’n rhaid y gall Llafur obeithio am ganlyniad cadarnhaol yma.  Na mae gen i ofn:

In Wales a 7% fall in support since 2011 suggests that Labour would lose effective control of the Welsh assembly and could suffer its worst ever result there.

Cynghorau Lloegr?  Mae etholiadau am lawer o’r rheiny yn digwydd ym mis Mai hefyd. Mwy o ing a gwewyr mae gen i ofn.
In English councils, Labour is down on average by 8% on its 2012 polling levels, suggesting the loss of control of 20 councils.  

Mae’r blog yma wedi nodi sawl gwaith yn y gorffennol bod Llafur yn datblygu i fod yn blaid fwyfwy Lundeinig – ac oddi yno y daw’r unig newyddion da.  

There is optimism that Labour’s Sadiq Khan will defeat Tory candidate Zac Goldsmith .  
Ymddengys bod Llafur ddeg pwynt o flaen y Toriaid yn iard gefn Corbyn.

Mi fyddwch chi’n clywed – ac yn darllen – pob math o ddatganiadau cadarnhaol gan Lafur Cymru tros y misoedd nesaf am y derbyniad gwych maent yn ei gael ar stepen y drws ac ati, ac ati.  Heip ydi o i gyd – maen nhw’n disgwyl cweir y tu allan i Lundain – ac mae’n hynod debygol mai dyna fydd yn digwydd.

Plaid y. ‘bobl fawr’?

Rydan ni eisoes wedi cyfeirio at ‘rant’ ymgeisydd Llafur yn Arfon oherwydd bod biniau heb eu casglu yn ystod cyfnod y Nadolig.  Byddwch yn cofio iddo wneud nifer o ddatganiadau cwbl gamarweiniol yn ystod y rant.  Wnaethom ni ddim – fodd bynnag –  aros efo’r paragraff bach yma – mi edrychwn i’n fwy manwl heddiw. 

Yn drydydd, dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, mi roedd y Cyngor wedi rhoi bai ar ‘y tywydd garw’ am fethu casgliadau. ANGHYWIR – Does ddim un awr wedi’i fethu gan y gweithwyr yn ein ardaloedd ni, dim ond esgus gan y fat cats yn y Cyngor am beidio rhoi’r adnoddau iawn i’r gweithwyr.

Mi adawn o’r neilltu natur sarhaus y dermenoleg a ddefnyddir, y ffaith bod pob sir yng Nghymru yn ol pob tebyg efo mwy o swyddi cyflog uchel na Gwynedd a’r ffaith ei bod yn anhepgor bod unrhyw gorff sy’n cyflogi miloedd lawer o bobl efo rhai ar gyflogau cymharol uchel.  Edrych wnawn ni ar y gred sydd ymhlyg yn y baragraff bod rhywbeth moesol amheus am fod ar gyflog cymharol uchel – ac edrych ar rhywbeth o’r enw Mosaic
Dull ystadegol o rannu poblogaeth y DU i gydrannau gwahanol ydi cynllun Mosaic y cwmni Experian.  Defnydd masnachol sydd i’r system yn bennaf – mae’n ddefnyddiol i gwmniau masnachol i bwrpas targedu cwsmeriaid posibl.  Mae yna hefyd ddefnydd gwleidyddol amlwg. 

Yn ol astudiaeth ddiweddar gan y Blaid Lafur ei hun sy ‘n defnyddio Mosaic, mae ei haelodaeth yn – wel gyfoethog – at ei gilydd.  

Dau gydadran sylweddol o aelodau’r Blaid Lafur – a defnyddio’r enwau lliwgar mae Experion yn eu defnyddio ydi prestige positions city prosperity.  

Labour is also attracting 10% of its overall membership from those categorised by Mosaic as being in “prestige positions” – affluent, home-owning married couples enjoying financial security. This category makes up 9% of the general population.

Felly ymddengys bod ychydig mwy yn perthyn i ‘r categori yma ymysg aelodau’r Blaid Lafur na geir yn y boblogaeth yn gyffredinol.  Mae’n debyg bod hyn ychydig yn anisgwyl gan y byddai rhywun yn meddwl y byddai pobl cymharol gefnog wedi eu tan gynrychioli yn y Blaid Lafur.  Beth am City Prosperity ‘ta?

As a group they make up 4% of the general population in contrast to 11.2% of party membership,” it says.
The report says the party has 36,646 members categorised as coming from a category it calls “city prosperity”, and 19,917 of these have joined since the general election – an increase of 119%.
Reit – llawer mwy anisgwyl – bron i dair gwaith cymaint o ‘r grwp yma yn perthyn i’r Blaid Lafur ‘na sy ‘n perthyn i’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.  
Gadewch i ni weld beth yn union ydi Prestige Positions a City Prosperity.  

Ia – dyna chi – ar gyfartaledd mae incwm teuluol y naill grwp yn £100k i £149k tra bod incwm teuluol y grwp arall yn £150k+.  Mae rhwng pumed a chwarter aelodau’r Blaid Lafur yn byw mewn teuluoedd sydd ag incwm o £100k+.  
Pa ganran felly o weithwyr Cyngor Gwynedd sydd ag incwm o £70k+?  Mae’r ateb i honna yn llai na 0.2%.  Felly mae gennym ni gynrychiolydd plaid sydd a chanran uchel o’i haelodau ar gyflogau teuluol o £100k+ yn galw gweithwyr swyddfa cyngor yn fat cats ar y sail bod 0.2% o weithwyr y cyngor hwnnw yn ennill £70k+.  A – chyn i rywun ofyn – byddwn yn tybio bod llai na 100 o aelodaeth y Blaid fyddai’n syrthio i’r categoriau yma.
A dyna chi – rhagrith Llafur ar ei orau.  Cynrychiolydd plaid sydd a degau o filoedd o’i haelodau ar gyflogau uchel iawn yn honni bod llond dwrn o weithwyr sector gyhoeddus sydd ar gyflogau is yn fat cats.  

O.N i’r rhai ohonoch sydd ddim digon ffodus i fyw yn y Gogledd Orllewin – pobl gyfoethog iawn ydi ‘pobl fawr’ – perchnogion chwareli a ‘ballu.  Dydi’r term ddim yn un canmoliaethus.