Ynglyn a chefnogaeth ‘unfrydol’ Llafur yn Arfon

Mae’n ddiddorol nodi bod Plaid Lafur Arfon o’r farn bod yna gefnogaeth ‘unfrydol’ iddynt ym Maesgerchan yng nghyffiniau Bangor, Caernarfon a Bethesda.

Dwi wedi canfasio ardaloedd yn Arfon ers degawdau, ac erioed wedi dod ar draws yr unman efo cefnogaeth unfrydol i’r Blaid – ac mae hynny’n cynnwys ardaloedd megis Twthill yn agos at ganol Caernarfon, Llandwrog, y Waunfawr neu Benygroes lle mae’r gefnogaeth i’r Blaid cyn uched – os nad yn uwch – nag ydyw mewn unrhyw ward yng Nghymru.  
Ond mae’n un o nodweddion hynod Llafur Arfon bod yna gefnogaeth rhyfeddol iddynt pan maent yn canfasio.  Cafwyd degau o adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am gefnogaeth gryf neu anhygoel i ‘newid yn lleol’ yn ystod ymgyrch mis Mai.  Yn anffodus wnaeth y gefnogaeth honno ddim amlygu ei hun ar ddiwrnod yr etholiad pan gafwyd gogwydd o tua 4% yn erbyn Llafur.  
Dwi’n dweud nad ydw i erioed wedi dod ar draws cefnogaeth unfrydol i’r Blaid o’r blaen – ond mae’r un peth yn wir am bawb arall ag eithrio Llafur Arfon a Kim Jong Un.  Does yna ddim cefnogaeth unfrydol i Sinn Fein ar y Lower Falls, dim cefnogaeth unfrydol i Lafur yn Toxteth, dim cefnogaeth unfrydol i’r SNP yn East End Dundee, dim cefnogaeth unfrydol i’r Toriaid yn Huntingdon a dim cefnogaeth unfrydol i’r Dib Lems yn _ _ _ anghofiwch honna.  
Ond er mai sgorio tua 30% fydd Llafur mewn etholiadau San Steffan yn yr etholaeth,  a thua 26% mewn etholiadau Cynulliad (mae eu perfformiad yn rhyfeddol o sefydlog) a llai o lawer na hynny mewn etholiadau cyngor – mae’n ymddangos bod ardaloedd yn Arfon sydd yn eu cefnogi’n unfrydol.
Gadewch i ni ystyried yr ardaloedd dan sylw am funud fach.  Mae’n wir bod gan Lafur gefnogaeth barchus iawn ym Maesgerchen – cawsant ychydig mwy na hanner y bleidlais ym mis Mai – ond roedd y gyfradd pleidleisio yno gyda’r isaf yn yr etholaeth.  Mae G’narfon yn fwy cymhleth gyda’r bleidlais Lafur yn amrywio o tua 17% yn agos at y Fenai i tua 47% y rhannau tlotaf i’r de o Afon Cadnant.  Ar draws y Dre roedd y Blaid yn llawer  cryfach na Llafur efo rhai ardaloedd yn polio mwy na 60% iddi.  Mae yna hefyd nifer uchel iawn o aelodau o Blaid Cymru yn byw yng Nghaernarfon.  Mae Bethesda’n symlach – cafodd Llafur tua chwarter y bleidlais tra bod yna gannoedd ar gannoedd o bleidleisiau Plaid Cymru ym  mocs y pentref – mwy na mewn unrhyw focs arall yng Nghymru mae’n debyg.  Roedd yna fwy na dwy bleidlais Plaid Cymru am pob un Llafur ym mocs Bethesda.  
Mae’n anodd gwybod beth i’w wneud o’r honiadau  o gefnogaeth anhygoel rwan ac yn ystod etholiad San Steffan y llynedd mewn etholaeth lle mae Llafur yn wan ( yng nghyd destun Cymru). Efallai nad ydi’r hogiau yn gwybod sut i ganfasio a’u bod yn cymryd gair clen fel tystiolaeth o gefnogaeth etholiadol.  Efallai eu bod nhw jyst yn twyllo eu hunain.  Neu wrth gwrs efallai eu bod yn credu ei bod yn OK i ddweud ychydig o gelwydd wrth yr etholwyr gan gymryd bod rheiny yn rhy wirion i weld trwyddynt ac yn rhy ddwl i’w parchu na’u cymryd o ddifri.  Mae yna rhywbeth yn hynod o Lafuraidd am yr agwedd ddilornus honno at bobl gyffredin mae gen i ofn.

Llafur yn ymgyrchu yn erbyn deilliannau eu polisiau eu hunain – eto

Mae’r blog yma wedi nodi yn y gorffennol mai un o nodweddion rhyfedd y Blaid Lafur Gymreig ydi ei hangen i fod yn bopiwlistaidd wrth sefydliadol ac yn sefydliadol ar yr un pryd.  O bryd i’w gilydd mae’r ymgais yma i reidio dau geffyl sy’n aml yn carlamu i gyfeiriiadau cwbl wahanol yn arwain at sefyllfaoedd digon gogleisiol – fel pan aeth Aelod Cynulliad y Rhondda – Mr Leighton Andrews- allan ar y strydoedd i brotestio yn erbyn cau ysgol – rhywbeth oedd yn ddeilliant i Gyngor Llafur yn ufuddhau i ofynion polisi y Gweinidog Addysg – Mr Leighton Andrews.  

Yn naturiol ddigon mae ein cyfeillion ym Mhlaid Lafur Arfon yn rhan o yn union yr un diwylliant.  Esiampl dda o hyn ydi’r hw ha maent yn geisio ei achosi oherwydd bod Cyngor Gwynedd bellach yn casglu sbwriel na ellir ei ail gylchu pob tair wythnos (cesglir sbwriel ail gylchu yn wythnosol). 
Cyn mynd ymlaen mae’n debyg y dyliwn aros i wneud sylw ar y defnydd mynych o’r gair trychineb neu trychinebus mewn perthynas ag amgylchiadau lle bod cyfuniad o’r drefn newydd, trefniadau ‘Dolig a’r tywydd garw wedi arwain at sbwriel yn hel y tu allan i dai rhai o drigolion Gwynedd.  Mae sbwriel y tu allan i’r ty yn anghyfleus, ond dydi o ddim yn drychineb.  Mae llawer o’r bobl rydym yn eu gweld yn llifo ar draws cyfandir Ewrop ar ol golli eu cartrefi, cael eu carcharu a’u harteithio neu weld anwyliaid yn cael eu lladd wedi profi trychineb, ond dydi pobl sydd a sachau sbwriel wrth eu ty heb – neu byddai rhannau mawr o  Dreganna (Cyngor Caerdydd, Llafur) wedi ei ddatgan yn ardal trychineb wythnos diwethaf.  Mae’r defnydd o’r ansoddair yn blentynaidd a di chwaeth.  
Ta waeth, mae stori’r newidiadau mewn trefniadau casglu sbwriel  yn cael ei yrru gan ddau beth – rheoliadau ail gylchu llywodraeth Cymru a’r toriadau yn yr arian sydd ar gael i awdurdodau lleol.  
Mae gan llywodraeth Cymru dargedau ail gylchu i’w cwrdd, felly maent yn gorfodi awdurdodau lleol yng Nghymru i gynyddu’n sylweddol – ac yn gynyddol – ar faint o sbwriel sy’n cael ei ail gylchu.  Os nad ydi ‘r awdurdodau yn cwrdd a’r targedau hynny, maent yn cael dirywon sylweddol.  Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni mae’r awdurdodau  yn cymryd camau megis torri ar gasgliadau sbwriel cyffredin er mwyn annog pobl i ail gylchu cymaint a phosibl.
Yn ychwanegol – fel mae pawb yn gwybod – mae yna doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus ar lefel y DU – ac mae hyn yn effeithio yn negyddol ar faint o adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.  Mae Llafur yn hoffi cyfeirio at y toriadau hyn fel toriadau Toriaidd – ond toriadau Toriaidd / Lib Dem / Llafur ydyn nhw mewn gwirionedd.  Aeth mwyafrif llethol aelodau seneddol Llafur trwy lobiau San Steffan efo’r Toriaid ym mis Chwefror y llynedd i bleidleisio tros £15bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.  £15bn.  
Fel y dywedwyd mae’r adnoddau sydd ar gael i lywodraeth Cymru felly yn llai o lawer oherwydd penderfyniadau’r Toriaid / Llafur / Lib Dems yn San Steffan.  Ond dydi’r toriadau sy’n cael eu trosglwyddo i’r awdurdodau lleol ddim yn gyfartal – mae rhai Llafur – at ei gilydd – yn cael llai o doriadau na chynghorau sydd ddim yn rhai Llafur.  Felly mae’r toriad mae Gwynedd dlawd yn ei gymryd yn  uwch na’r toriad mae Caerdydd gyfoethog yn ei gymryd.  Penderfyniad gweinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd ydi hynny.  Canlyniad anhepgor hyn oll ydi bod pob awdurdod lleol – ac yn arbennig rhai sydd ddim yn rhai Llafur – yn gorfod crafu o gwmpas i chwilio am ffyrdd o arbed arian. Un ffordd o wneud hynny ydi casglu sbwriel yn llai aml.  Mae’r ffaith bod arbed arian yn y ffordd yma  yn cyd fynd a rheoliadau ail gylchu Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymhelliad i dorri ar gasgliadau sbwriel cyffredin wrth gwrs.
Felly mae Llafur Arfon yn ceisio gwneud elw etholiadol o sefyllfa sy’n cael ei chreu gan doriadau mewn gwariant cyhoeddus maent wedi pleidleisio trostynt yn San Steffan, cyfundrefn ariannu anheg maent wedi ei greu yng Nghaedydd a rheoliadau ail gylchu maent yn gorfodi awdurdodau lleol i’w mabwysiadu ar boen dirwyon anferth.  
Fel mae’r ddelwedd isod yn ei dangos – mae cynghorau Llafur o dan bwysau digon tebyg – er nad ydyn nhw’n gorfod ysgwyddo cymaint o doriadau.

Mae’r math yma o wleidydda yn sylfaenol anonest, ond mae hefyd yn blentynaidd – gwleidyddiaeth ysgol feithrin.  
Mae hefyd wrth gwrs yn nodweddu’r Blaid Lafur ar lawr gwlad.

Goroesiad gwleidyddol Doughty – gwendid Llafur

Dwi ddim eisiau tramgwyddo ar alar preifat – ond mae yna rhywbeth braidd yn boncyrs mai ymateb Llafur i’r cytundeb rhwng y Bib ac Aelod Seneddol De Caerdydd – Stephen Doughty – iddo ymddiswyddo o gabinet cysgodol Llafur yn fyw yn ystod cyfweliad, ydi cwyno wrth y Bib.

Mae’n amlwg o amseriad yr ymddiswyddiad bod y Bib a Doughty eisiau achosi cymaint a phosibl o niwed i’r Blaid Lafur.  Petai Doughty yn perthyn i unrhyw blaid arall, neu i’r Blaid Lafur cyn Corbyn – byddai’n colli’r chwip.  Duw a wyr pam y byd y byddai plaid eisiau cadw aelod seneddol sy’n gwneud pob dim o fewn ei allu i’w niweidio.

Y diweddaraf gan Golwg

Nid colofn Gwilym Owen ydi’r offrwm o Golwg sy’n derbyn sylw yr wythnos yma – er ei bod werth ei darllen.  I dorri stori hir yn fyr mae Gwil wedi – fel sy’n arferol – sgwennu rhywbeth hyll am rhywrai neu’i gilydd yn ei golofn, mae un o’r rheiny wedi ‘sgwennu llythyr at Golwg yn dweud rhywbeth hyll am Gwilym – ac mae’r hen fabi wedi dechrau udo crio a mynd ati i lenwi ei golofn efo manylion ei hanes meddygol mewn ymgais i’n cael ni i gyd i grio efo fo.  Tour de force mewn hunan dosturi, hunan gyfiawn.  Dim ond yng Nghymru mae’r math yma o rybish myfiol yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer cylchgrawn materion cyfoes.

Na, colofn arall yn yr wythnosolyn sy’n dennu’r sylw – y brif erthygl am Carwyn Jones a llifogydd yr A55 – Carwyn yn Tawelu’r Dyfroedd.  Bydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol bod storm o feirniadaeth wedi udo uwch ben y Prif Weinidog ers ddydd San Steffan – oherwydd ei arafwch i ymateb i’r llifogydd, oherwydd iddo drio roi’r bai ar Ieuan Wyn Jones am lanast ei lywodraeth,  oherwydd iddo ddisgwyl bedwar diwrnod cyn dod i’r Gogledd, oherwydd iddo fethu a chyfarfod a thrigolion Tal y Bont, oherwydd iddo ddod yn ol mewn panic bedwar diwrnod yn ddiweddarach i wneud hynny, oherwydd iddo ddweud – yn gwbl anghywir – bod yr arian i ddelio a phroblem yr A55 wedi ei ryddhau gan ei lywodraeth,  oherwydd iddo honni’n gwbl ddi sail mai bai’r deiliaid tir lleol oedd y rheswm pam nad oedd y broblem wedi derbyn sylw, oherwydd iddo feio’ n gwbl anheg swyddogion y cyngor oherwydd iddo ddianc yn ol i Gaerdydd cyn cwrdd a thrigolion Tal y Bont, oherwydd bod un o’i weinidogion wedi tyngu na fyddai llifogydd 2012 yn cael eu hailadrodd.
Beth bynnag – er bod yr erthygl yn son am un neu ddwy o’r beirniadaethau – mae’n derbyn eglurhad cwbl anghredadwy Carwyn Jones yn hollol anfeirniadol – ac yn dod i’r casgliad bod y dyn wedi tynnu ‘r gwynt o hwyliau ei feirniaid, ac wedi dod, gweld a choncro.  Ym myd bach rhyfedd Golwg mae gwleidyddion pob amser yn eirwir ‘da chi’n gweld.  Yn y cyfamser – yn y Byd go iawn roedd y beirniadu’n dal i ruo.
Swnio tipyn bach fel Pravda yn nyddiau olaf yr Undeb Sofietaidd yn dal i adrodd ar lwyddiannau economaidd ysgubol yr Undeb, poblogrwydd rhyfeddol Gorbachev a diolchgarwch y werin iddo – fel roedd yr holl sioe’n syrthio’n ddarnau o’i gwmpas. 

‘Bai pawb ond fi ydi o’

Gydag ymddiheuriadau i’r sawl yn eich plith nad ydynt yn byw yng Ngogledd Cymru, mae gen i ofn ein bod yn dychwelyd at lifogydd yr A55, ac ymddygiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones ers i’r llifogydd hynny ddigwydd ar ddydd San Steffan.

Wna i ddim mynd tros hen dir – rydym eisoes wedi edrych ar ei ymddygiad bisar ers y 26ed o Ragfyr.   Fodd bynnag dychwelodd i’r Gogledd ddoe gan ymweld a Thal y Bont a’r Bontnewydd.  Yn ystod yr ymweliad dywedodd y bydd cynllun Cyngor Gwynedd i atal dwr rhag llifo ar yr A55 yn cael yr arian i fynd rhagddo.  Yn amlwg mae hynny’n fater i’w groesawu.  Ond aeth ati wedyn i geisio trosglwyddo’r bai oddi wrth ei lywodraeth a thuag at bobl eraill.
Yn y bon gwnaeth dri honiad sydd – a bod yn garedig – yn hynod amheus.  Honodd bod yr £1.5m ar gael o’r dechrau’n deg, bod deiliaid y tir o gwmpas yr A55 yn gyfrifol am atal y gwaith rhag mynd rhagddo’n brydlon ac mai bai swyddogion Cyngor Gwynedd oedd ‘camddealltwriaeth’ wythnos diwethaf.  
Mae’r cynghorydd lleol – Dafydd Meurig wedi ymateb i’r holl honiadau amheus.  Amgaeaf yr ymateb hwnnw isod.

1. Dywedodd bod yr arian wedi bod yno o’r cychwyn. Nid yw hyn yn wir. Rwyf wedi gweld llythyrau gan Lywodraeth Cymru dyddiedig Mehefin a Medi 2015 yn cydnabod cais Gwynedd, ond yn dweud nad oes penderfyniad ar y cyllid wedi ei wneud.

 2. Dywedodd mai materion efo tirfeddiannwyr oedd wedi dal y prosiect yn ei ôl. Mae hyn yn nonsens. Bore ‘ma fe gadarnhaodd dau Gynghorydd Cymuned gyda’r tirfeddiannwyr bod y trafodaethau wedi eu cwblhau ers tro byd.

 3. Rhoddodd Carwyn Jones y bai am gamddealltwriaeth wythnos diwethaf ar swyddogion Cyngor Gwynedd. Nid yw hyn yn wir ac mae’r swyddogion yn gandryll. 

                                   Dafydd Meurig
Ymddengys bod Prif Weinidog Cymru yn ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb personol, beio pobl eraill am fethiannau ei lywodraeth ei hun a chamarwain etholwyr Gogledd Cymru.  Dydi hyn ddim yn adlewyrchu’n dda arno.  
Y cwestiwn diddorol ydi – Pam?  Mae’r ateb i’w gael yma.  
Mae Vaughan yn gwbl gywir bod Llafur o dan bwysau sylweddol yng Ngogledd Cymru, ac y gallai perfformiad gwael yma arwain at ddiwedd cyfnod Carwyn Jones fel Prif Weinidog.  Cafodd Llafur gweir yn eu dwy sedd darged yn y Gogledd ym mis Mai – er gwario’n sylweddol ar y ddwy.  Collwyd un sedd yn gwbl anisgwyl, a daethwyd o fewn trwch blewyn i golli sedd arall.  
Record llywodraeth Carwyn Jones a’r canfyddiad cyffredinol bron yn y Gogledd bod y rhanbarth yn cael ei anwybyddu’n llwyr gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd sy’n gyfrifol am y pwysau hwnnw, yn ogystal ag ymddygiad rhyfedd y Prif Weinidog – y bownsio i lawr ac i fyny o’r De i’r  Gogledd, y panic lloerig a’r camarwain trwsgl.  Wedi’r cwbl – fel rydym eisoes wedi nodi – mae’r hyn ddigwyddodd ar yr A55 ar Wyl San Steffan yn wenwyn pur o safbwynt y Blaid Lafur yn y Gogledd. Mae’n crisialu difaterwch y blaid a’r blaenoriaethau gwariant gwrth Ogleddol i’r dim.  

Contract canser Plaid Cymru

Mae canser  yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol rhywbryd yn ystod eu bywydau.

Does yna’r unman sy’n lle da i gael cansar – yn amlwg – mae yna rai llefydd yn waeth na’i gilydd.   Mae’r rhestrau aros am ddeiagnosis yma yn fater o warth cenedlaethol.  Er enghraifft mae tua traean o gleifion yng Nghymru yn aros am chwech wythnos neu chwaneg,  1% a 6% ydi’r ffigyrau cymharol yn Lloegr a’r Alban.  
‘Dydi’r targed o sicrhau bod 95% o achosion sy’n cael eu cyfeirio trwy’r llwybr brys yn derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod erioed wedi ei gwrdd – mae’r perfformiad tua 8% yn salach nag yw yn yr Alban.  Does yna fawr unman yn Ewrop lle mae’r tebygolrwydd o oroesi’r clefyd yn waeth.
Bwriad Contract Canser Plaid Cymru  – a gyhoeddwyd heddiw – ydi lleihau amseroedd aros, gwella mynediad at gyffuriau a chefnogi cleifion

Bydd cynlluniau Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yn cyflymu diagnosis ac yn sicrhau y gall cleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau mae arnynt eu hangen.  
Mae Contract Canser 3 phwynt Plaid Cymru yn ymrwymo i’r canlynol:
  • Dod ag amseroedd aros i lawr – diagnosis neu ddweud nad oes canser ymhen 28 diwrnod
  • Cronfa triniaethau newydd: gallu mynd at feddyginiaethau newydd ar sail beth mae’r meddyg yn ragnodi, nid eich cod post 
  • Cefnogaeth unigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

Mae’r cynllun hefyd yn anelu at ostwng nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi trwy ofalu bod y brechlyn HPV yn cael ei roi am ddim i fechgyn yn ogystal â merched, trwy gymryd camau pellach i atal pobl rhag ysmygu, trwy gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, a thrwy sicrhau gwell mynediad at feddygon teulu trwy ein cynllun i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol.

Tros yr wythnosau nesaf bydd cyfres o ddatganiadau polisi pwysig eraill yn cael eu gwneud gan y Blaid.  Bydd y datganiadau hyn yn rhoi dewis clir i bobl Cymru ym mis Mai – dewis rhwng llywodraeth sy’n bwriadu gwneud gwahaniaeth go iawn trwy fynd i’r afael a rhai o broblemau mwyaf di symud Cymru, a’r status quo o ddiffyg uchelgais a than berfformiad parhaus. 

Bydd etholwyr Cymru yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn fis Mai.  Mae’n hanfodol bod y cyfle’n cael ei gymryd.