Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 6

Jones Junior (yn hytrach na’i fos Jones Senior sydd o dan sylw eto heddiw).  Mae’r camarwain y tro hwn yn ymwneud a saga Pont yr Aber yng Nghaernarfon – neu i fod yn fwy manwl awgrym gan Sion mai ei ymgyrch o sy’n gyfrifol am ei hatal rhag cael ei chau.

Rwan mae’r stori mymryn yn gymhleth – yn arbennig os ydych yn dod o’r tu allan o Wynedd, ond mi geisiwn wneud pethau’n syml.
Mae Gwynedd – fel pob cyngor arall yng Nghymru – yn gorfod gwneud toriadau sylweddol mewn gwariant – a felly gwasanaethau.  Mae dau reswm uniongyrchol am hyn.  
1).  Y toriadau sylweddol i gyllideb y Cynulliad yn sgil y toriadau enfawr a bleidleiswyd arnynt fis Chwefror y llynedd yn San Steffan gan y Blaid Lafur, y Toriaid a’r Dib Lems.
2). Y ffaith i ‘r Cynulliad drosglwyddo lwmp o’r toriadau hyn i’r cynghorau.  Cafodd Gwynedd setliad salach na’r rhan fwyaf o gynghorau gan lywodraeth Llafur y Cynulliad. 
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gynghorau, aeth Gwynedd ati i lunio rhestr o pob toriad posibl ac ymgynghori efo’r cyhoedd ynglyn a pha doriadau oedd fwyaf derbyniol (neu leiaf anerbyniol).  Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ar lein, a cymrodd rhai miloedd o bobl fantais o’r cyfle i wneud hynny.
Beth bynnag, dau o’r toriadau posibl ar y rhestr oedd cau Pont yr Aber yng Nghaernarfon a Phont Abermaw.  Roedd yna ddwsinau o bosibiliadau eraill, gan gynnwys cau canolfannau hamdden, torri grantiau diwylliant a hamdden ac ati, ac ati.  Am rhyw reswm gafaelodd Sion yn y posibilrwydd o gau Pont yr Aber yn hytrach na’r un arall, a chynhaliodd brotest ar y bont.  Ymddengys bod nifer go dda o bobl yn cytuno efo fo mai dyna ‘r mater mawr – a chafwyd gwrthdystiad eithaf sylweddol ar y bont yn ystod yr hydref.
Yn y cyfamser roedd y broses ymgynghori yn mynd rhagddi, gyda phobl Gwynedd yn dweud eu dweud ar lein.   Llunwyd rhestr  oedd wedi ei seilio bron yn llwyr ar flaenoriaethau ‘r cyhoedd ac ar sail hynny y llunwyd y papur oedd yn argymell beth i’w dorri a beth i beidio ei dorri.  ‘Doedd y cyhoedd ddim yn ystyried y dylai cau Pont yr Aber fod yn agos at frig y rhestr, felly ni chafodd ei chau – yn union fel nifer sylweddol o argymhellion posibl eraill.  
Felly y cyhoedd a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad a achubodd y bont, nid protest Sion.  Mae’n debygol wrth gwrs i nifer o bobl oedd yn y brotest gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyfranu at y penderfyniad felly –  a chware teg iddynt am wneud hynny.  
Ond mae’r awgrym bod y penderfyniad i beidio a chau’r bont  yn ganlyniad i’r brotest yn gwbl gamarweiniol.  Yn wir mae ‘n ymgais drwsgl i hawlio clod ar draul y nifer fawr o bobl a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad yn ddi rodres a di ffwdan ac heb fynd i chwilio am ganmoliaeth.  Dinasyddion cyfrifol, di lol Gwynedd mewn geiriau eraill.

Protest Cymdeithas yr Iaith ar y Maes ddoe

Dydw i ddim yn amau cymhelliad yr aelodau o Gymdeithas yr Iaith a fu ‘n protestio ar y Maes yng Nghaernarfon ddoe mewn ymgais i ddwyn perswad ar gynghorwyr Cyngor Gwynedd i ymwrthod rhag gwneud toriadau yng ngwariant y Cyngor.  Serch hynny ‘dwi’n meddwl ei bod yn amserol i atgoffa’r Gymdeithas o un neu ddau o ffeithiau.

1). Er mai cyngor o dan reolaeth Plaid Cymru ydi Cyngor Gwynedd, ac er bod y Cyngor yn gwneud toriadau, nid toriadau Plaid Cymru ydyn nhw.  Pleidleisiodd y dair plaid fawr unoliaethol – Llafur, y Toriaid a’r Dib Lems – yn San Steffan o blaid hyd at £15bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus yr amser yma y llynedd.  Dyna’r toriadau mae cynghorau ar hyd a lled y DU yn gorfod eu gweithredu rwan.  
2). Penderfyniad llywodraeth Lafur Bae Caerdydd oedd rhoi setliad cymharol wael i Wynedd o gymharu a nifer o gynghorau Llafur De Cymru.  Mae’r grant mae Gwynedd yn ei gael felly’n eithaf sal – ac mae’r broblem gweinyddu toriadau felly ‘n fwy llym yma nag ydyw mewn rhai o ardaledd eraill Cymru.
3). Mae Cyngor Gwynedd wedi ymgynghori’n eang efo etholwyr Gwynedd cyn mynd ati i weinyddu ‘r toriadau Llafur / Toriaidd / Dib Lems.  Mae’r broses wedi bod yn llawer mwy tryloyw yma nag ym mron i unrhyw ardal arall yng Nghymru.
4). Er y bydd toriadau poenus yn digwydd, fydd yna ddim canolfannau hamdden – prif ragdybiaeth y brotest – yn cau.
Ond yn bwysicach na dim, petai Cyngor Gwynedd yn dilyn cyngor y Gymdeithas ac yn peidio a gwneud toriadau ni fyddai modd gosod cyllideb.  Canlyniad hynny fyddai colli rheolaeth o’r Cyngor i gomisiynwyr llywodraeth Cymru, a byddant hwythau yn gweithredu’r toriadau – a phetai hynny’n digwydd fyddai yna ddim ymgynghori efo’r cyhoedd na thryloywder.  Byddai’r toriadau yn cael eu gweithredu yn ddisymwth a di drugaredd.  ‘Does yna neb eisiau hynny.

Tim Farron yn anerch y Dib Lems Cymreig

‘Dwi’n cyfri tua hanner cant o bobl yn y llun.  

Mae hon yn gynhadledd genedlaethol yn gwrando ar arweinydd un o’r pleidiau mawr Prydeinig ychydig fisoedd cyn etholiad tyngedfenol. 
Dwi’n credu i dair neu bedair gwaith cymaint ddod i weld Mhairi Black yn siarad ar ol cyfarfod blynyddol pwyllgor etholaeth Arfon o’r Blaid ym mis Medi.

Buddugoliaeth arall i’r Blaid ym Mangor

Llongyfarchiadau i Mair Rowlands am ennill sedd i’r Blaid ar Gyngor Dinas Bangor:

Plaid Cymru – 90
Dib Lems – 53
Annibynnol – 32

Ymddengys bod y gweir gafodd Llafur yn is etholiadau cyfagos ward Dewi ym mis Tachwedd wedi arwain at benderfyniad i beidio a sefyll y tro hwn.  
Mae’n arferol i Lafur beidio a sefyll yn wardiau Gorllewin a De Gwynedd, ond erbyn hyn ymddengys nad oes ganddynt ddiddordeb mewn sefyll yn Nwyrain trefol y sir chwaith.  

Dail 31 wedi ei ddiddymu

Mae’r blog yma yn gwneud un peth sydd fwy neu lai yn unigryw – darparu sylwebaeth cyfrwng Cymraeg (a di duedd) ar wleidyddiaeth Iwerddon.  Rwan bod y 31fed Dail wedi ei ddiddymu, dwi’n gobeithio cynhyrchu ambell i flofiad ar y pwnc yn ystod yr ymgyrch.

Mae’r etholiad i’w gynnal ar Chwefror 26 – a bydd yr ymgyrch swyddogol felly ymysg y byrraf yn hanes y wladwriaeth.  Serch hynny mae ymgyrch answyddogol digon ffyrnig wedi bod yn mynd rhagddi ers wythnosau.  Bydd y 32fed Dail yn cyfarfod gyntaf ar Fawrth 10. 
Y diwrnodiau diddorol fodd bynnag fydd y Dydd Sadwrn a’r Dydd Sul ar ol yr etholiad pan fydd y pleidleisiau’n cael eu cyfri.  Mae’r dull pleidleisio – STV mewn seddi aml aelod – yn sicrhau bod y cyfri yn faith ac yn gymhleth.  Bydd datganiadau ar ddiwedd pob cyfri unigol ym mhob etholaeth, a gellir cael dwsin neu fwy o ddatganiadau cyn i ganlyniad llawn mewn etholaeth ddod yn amlwg.  Mae dilyn y cyfri mewn etholiadau Gwyddelig yn fwy tebyg i ddilyn cyfres o rasus gwahanol ar yr un pryd na gwrando ar ganlyniadau etholiad.
Dydych chi ddim angen bod yn anorac i fwynhau’r profiad.

Llafur Cymru yn cefnogi’r economi (hy un Essex)

Gair bach o ganmoliaeth am unwaith i ymgeisydd Llafur yn Arfon, Sion Jones.  A chymryd bod y trydariad isod yn ddibynadwy, ymddengys bod Sion yn dilyn esiampl Plaid Cymru ac yn argraffu ei ddeunydd etholiadol yn lleol.  Yn amlwg mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu.

Serch hynny mae yna rhywbeth ychydig yn anarferol am y geiriad – pan rydym yn dweud ein bod yn ‘gwrthod’ gwneud rhywbeth, mae yna rhywun yn ceisio ein gorfodi i wneud rhywbeth yn erbyn ein hewyllys gan amlaf.  Pwy tybed fyddai’n ceisio gorfodi ymgeisydd i argraffu ei ddeunydd y tu allan i’w etholaeth?  Un ateb posibl ydi’r ‘Blaid Lafur Gymreig’  – neu o leiaf byddai rhywun yn credu hynny o edrych ar ffrwd trydar Carl Harris – @cjharris85.
Mae Carl wedi bod yn cael cip ar wariant diweddar y Blaid Lafur ‘Gymreig’ ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Yn ol ei drydariad cyntaf ar y pwnc ymddengys iddynt wario £14k ar eu ‘gwrw’ Americanaidd.
Rwan mi geisiwn fod yn garedig.  Duw a wyr pam y byddai’r Blaid Lafur Gymreig eisiau gwasanaethau ‘gwrw’ Americanaidd, ond os oes rhaid iddyn nhw gael un, mae’n siwr bod rhaid mynd i America i chwilio amdano. Mae croeso iddyn nhw wastraffu eu pres os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.   Mae’n debyg bod yna rai mathau o gyngor neu wasanaethau nad ydynt ar gael yng Nghymru.  Iawn, gadawn i honna fynd ‘ta.  Beth arall mae Carl wedi ei ddarganfod?
Hmm – deunyddiau etholiadol ydi’r rheiny.  Be arall?  
Paratoi a phostio deunyddiau etholiadol.  Be arall?
Gwasanaethau cwmni paratoi gwefannau.  Ddim ar eu pennau eu hunain yn y fan yna debyg.  Be arall?
Argraffu deunyddiau etholiadol i’w dosbarthu yng Nghymru.  Be arall?

Mwy o’r un peth.  Unrhyw beth arall?

Taflenni.  Oes yna fwy?
Mwy o’r un peth.  Oes yna fwy?
A – posteri.  Mwy?
Mwy o bosteri.  

Mwy o bres yn mynd o Gymru i Essex felly, diolch i’r Blaid Lafur Gymreig.  Ydi hyn yn dechrau mynd yn llwyth o bres dywedwch?

Arglwydd mawr mae yna wariant anferth fan hyn.  Oes ‘na fwy?
Mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud mewn gwirionedd.  Mae Llafur eisiau i etholwyr Cymru fuddsoddi eu ffydd ynddyn nhw trwy bleidleisio iddynt ym Mis Mai – ond dydyn nhw ddim eisiau buddsoddi eu harian eu hunain yn economi Cymru.
Dweud y cyfan mewn gwirionedd.