Etholiad Gweriniaeth Iwerddon – rhan 4 – Sinn Fein
Er mai dyma’r blaid hynaf yn Iwerddon mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r blaid wedi tyfu yn etholiadol yn sgil y rhyfel hir yn y Gogledd, ac yn arbennig felly yn dilyn yr ymprydiau newyn yn Long Kesh yn 1981.
Cywiro dataganiadau camarweiniol – rhan 8
Does yna ddim camarwain mawr yma, ond mae yna ddau beth i’w nodi.
Etholiadau Gweriniaeth Iwerddon – rhan 3 Fine Gael
Ail blaid bythol wyrdd ydi Fine Gael wedi bod ers i Fianna Fail ddod i rym. Daeth yn ail ym mhob etholiad rhwng ei ffurfio yn 1933 o dri grwp / plaid arall – Cumann na nGaedheal, y National Centre Party a’r grwp ffasgaidd y National Guard neu’r Blueshirts. Ia, rydach chi wedi darllen y cymal olaf yn gywir, mae hoff blaid Wyddelig y DU wedi ei gwreiddio yn rhannol mewn ffasgaeth. Blas enw Fine Gael hyd heddiw ydi’r Blueshirts.
Mwy o dystiolaeth nad ydi’r Gogledd yn cael chwarae teg gan Lafur
Pol heddiw ac effaith y refferendwm ar etholiadau’r Cynulliad
Y Mail ydi’r Mail _ _
_ _ ble bynnag mae o. Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd ar papur dyddiol senoffobaidd sydd byth a hefyd yn ceisio dychryn ei ddarllenwyr efo straeon am ddrygioni tramorwyr. Mae hwn yn hen draddodiad i’r papur – gwariodd gryn dipyn o amser cyn yr Ail Ryfel Byd yn ein rhybuddio rhag drygioni’r Iddewon ac yn canu clodydd y diweddar Adolf Hitler.
Etholiadau Gweriniaeth Iwerddon – rhan 2 – Fianna Fail
Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 7
Jones yr ieuengaf unwaith eto. Ymddengys bod cynghorydd Bethel wedi rhedeg cais rhyddid gwybodaeth a darganfod bod Cyngor Gwynedd wedi gwario tua £460k ar ymgynghorwyr allanol tros y bedair blynedd diwethaf.
Rwan mae’r defnydd o ymgynghorwyr allanol gan awdurdodau lleol yn fater cynhenus. Mae’r sawl sy’n beirniadu’r arfer yn honni (fel arfer) y dylai’r awdurdodau eu hunain wneud y gwaith a bod talu i rywun arall wneud hynny yn wastraff arian. Ond mae’r awdurdodau yn honni (eto fel arfer) mai defnyddio ymgynghorwyr am gyfnodau byr i bwrpas cyflawni cynlluniau penodol maen nhw, a bod hynny’n fwy cost effeithiol nag ydi cyflogi pobl ar gytundebau hir dymor.
Does yna ddim rheol cyson yma – weithiau mae’n fwy cost effeithiol i chwilio am arbenigedd allanol, ond weithiau mae’n fwy cost effeithiol i ddefnyddio arbenigedd mewnol, neu gyflogi pobl sydd efo ‘r sgiliau angenrheidiol ar gytundebau parhaol. Mae dod i gasgliadau ynglyn ag effeithlionrwydd cynlluniau fel hyn yn fater o edrych ar bethau achos wrth achos.
Serch hynny mae faint o arian sy’n cael ei wario yn gallu rhoi rhyw fath o syniad i ni. Er enghraifft gallwn gymryd bod y tua £2.8m a wariwyd gan Gyngor Fflint (Llafur) rhwng mewn blynyddoedd diweddar yn ddefnydd aneffeithiol o adnoddau – yn arbennig felly ag ystyried nad ydi’r cyngor hwnnw yn gwneud joban dda o gofnodi yn union faint o ddefnydd maent yn ei wneud o ymgynghorwyr. Mae’n rhaid bod yna ffordd o strwythuro’r gweithlu mewn modd fyddai’n caniatau i gyngor wario £2.8m ar weithwyr cyflogedig llawn amser.
Beth bynnag, yn wahanol i ambell achlysur diweddar, mae ffigyrau Sion yn gywir y tro hwn – y ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio ydi’r broblem o ran camarwain.
Daeth Sion o hyd i’r wybodaeth trwy redeg cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn am wybodaeth moel am faint o bres mae Gwynedd wedi ei wario ar ymgynghorwyr allanol tros y bedair blynedd ddiwethaf. Wele canlyniad yr ymarferiad hwnnw.
2012/13 – £44,377
2013/14 – £34,761
2014/15 – £240,950
2015/16 – £136,662Gallai Sion – fel cynghorydd – fod wedi gofyn i swyddogion y cyngor am y manylion a gafodd trwy redeg y cais rhyddid gwybodaeth, ynghyd a holi am fanylion llawnach. Byddai hynny wedi bod yn fwy effeithiol – gan arbed y gost a’r ymdrech i’r cyngor o brosesu cais rhyddid gwybodaeth, yn ogystal a darparu eglurhad llawn am y taliadau. Byddai hynny wedi bod yn well o safbwynt treth dalwyr y sir.Beth bynnag, ni chafwyd ymholiad am y rhesymau tros y gwariant, ond anfonwyd y ffigyrau yn ddi addurn i’r Daily Post. Byddai mymryn o ymchwil ar ran Sion – neu roi cwestiwn syml i swyddog – wedi rhoi darlun cyflawn o natur y gwariant. Gan na wnaeth o drafferthu gwneud hynny, mi af i ati i ddarparu ‘r wybodaeth.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant – £260,000 yn 2014-15 a 2015-16 yn ymwneud a gwariant ar gynllun i intigreiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. Er bod Cyngor Gwynedd yn comiwsiynu’r gwaith, nid Cyngor Gwynedd sy’n talu amdano. Llywodraweth Cymru sy’n talu am 100% o’r costau. Mi fyddwch yn gwybod mai llywodraeth Lafur ydi Llywodraeth Cymru.
Roedd £21,500 o’r hyn a wariwyd ar ymgynghorwyr allanol yn 2015-16 yn ymwneud a datblygu system dechnoleg gwybodaeth ar ran holl awdurdodau’r Gogledd. Eto mae 100% o’r gwariant yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mi fyddwch yn gwybod mai llywodraeth Lafur ydi Llywodraeth Cymru.
Gwariwyd £13,680 tros y ddwy flynedd ariannol diwethaf ar gwmni recriwtio staff a £14,770 ar gyflogi swyddog arbenigol i gymryd lle swyddog yn ystod absenoldeb hir dymor.
Gwariwyd £28,400 ar ymgynghoriad ynglyn a’r ddarpariaeth a roir i bobl mewn oed yn lleol.
Tros y bedair blynedd diwethaf mae £90,220 wedi ei wario ar gwmni sy’n darparu hyfforddiant i benaethiaid gwasanaethau ac ar ddarparu penaethiaid gwasanaethau tros dro pan roedd swyddi yn wag.
Mae’r ychydig sy’n weddill yn cael ei wario ar fan gynlluniau.
Rwan o edrych ar y manylion ‘does yna ddim o hyn yn ymddangos yn afresymol. O ddarparu’r wybodaeth yn gwbl foel, yn ddi eglurhad, ac wedi ei agredu tros bedair blynedd mae’r gwariant yn ymddangos yn afresymol.
Mae’n bosibl camarwain efo ffeithiau sy’n wir weithiau.
Etholiad Iwerddon – rhan 1
Dwi wedi rhyw addo son ychydig am etholiad cyffredinol Iwerddon sydd i’r gynnal wythnos i ‘fory, ond heb gael amser i wneud hynny. Mi gawn ni gip bach iawn heno – a chip ar un blaid yn benodol – Plaid Lafur Iwerddon.


















