Yr unig blaid unedig?

Rydan ni wedi son eisoes am oblygiadau posibl agosatrwydd refferendwm Ewrop ag etholiad y Cynulliiad.  Heb fynd i ail adrodd y stori, awgrymais bod dau bosibilrwydd:

1). Bod yr etholiad yn cael ei dominyddu’n llwyr gan naratif Prydeinig.  Byddai hynny’n dda i’r pleidiau unoliaethol, ac yn arbennig felly UKIP
2). Bod yr ymgyrch etholiadol yn cael ei dominyddu i’r fath raddau gan yr ymgyrch Ewrop fel nad oes fawr o neb yn sylwi arni, a bod hynny ‘n llusgo’r cyfraddau pleidleisio tua’r llawr.  Byddai hynny – mae’n debyg – yn llesol i Blaid Cymru.
Ond o weld y trydariad isod gan AS Aberconwy, Guto Bebb mae rhywbeth arall yn fy nharo.

Mae Guto’n gwbl gywir bod ymddangosiad David Jones (AS Gorllewin Clwyd) gydag UKIP yn rhoi hygrededd i’r blaid wrth Ewropiaidd ymysg Toriaid, ac felly yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Janet Finch Saunders yn cael ei hailethol.  Ond yr hyn sy’n fwy arwyddocaol ydi’r ffaith ydi bod ymgyrchu yn erbyn yr Yndeb Ewropiaidd yn bwysicach i David Jones nag amddiffyn sedd ei protoge, a bod y Toriaid yn fodlon ffraeo’n gyhoeddus tros y mater.  Rydym wedi clywed ffraeo felly ar lefel gweinidogol tros y dyddiau diwethaf wrth gwrs.  Y gwir ydi bod ffraeo am Ewrop yn rhan  o DNA y Toriaid.  Meddyliwch am y naw degau.  Ychwanegwch at hynny’r ffaith bod tyndra eisies yn bodoli oherwydd y newidiadau arfaethiedig yn y ffiniau etholiadol am gael effaith hynod niweidiol ar y Toriaid yng Nghymru, a bod cystadleuaeth chwyrn am y seddi ‘diogel’.  Mae yna bosibilrwydd cryf o ffraeo Toriaidd go iawn yn yr wythnosau sy’n arwain at yr etholiad ym mis Mai.  Dydi etholwyr ddim yn hoff o bleidiau sy’n chwifio eu dillad budur yn gyhoeddus.
A daw hynny a ni at y Blaid Lafur – mae’r blaid honno wedi symud o ddisgyblaeth haearnaidd o dan Tony Blair lle nad oedd neb yn cael dweud fawr ddim i’r eithaf arall lle mae pawb yn cael credu beth maen nhw ei eisiau, dweud beth maen nhw ei eisiau a ffraeo’n gyhoeddus am beth bynnag maen nhw ei eisiau.  Ac wedyn dyna UKIP sydd heb ddewis ymgeiswyr rhanbarthol yng Nghymru eto oherwydd ffraeo mewnol, sydd a’r rhan fwyaf o’u ychydig aelodau etholedig wedi ymddiswyddo, lle mae llythyrau maleisus yn cael eu dosbarthu’n fewnol gan aelodau UKIP am wleidyddion blaenllaw UKIP.
Mae hynny’n gadael y Dib Lems a Phlaid Cymru.  Go brin y bydd y cyntaf o ‘r rhain yn ffactor arwyddocaol fis Mai, sy’n gadael y Blaid.  Bydd y Blaid yn ol pob tebyg yn cael ei hun yn y sefyllfa  o fod yr unig blaid arwyddocaol fydd yn wynebu’r etholiad ym mis Mai yn unedig, tra bod pawb arall yn ffraeo ymysg ei gilydd yn gyhoeddus.  Mae’r sefyllfa yna’n anarferol os nad unigryw – ac mae’n sefyllfa sy’n cynnig cyfleoedd i elwa’n etholiadol.

Gair olaf am y tro ar yr etholiadau Gwyddelig

Mae etholiadau Gweriniaeth Iwerddon wedi gadael y wlad yn rhywle nad yw wedi bod o’t blaen.  Mae’r ddwy blaid geidwadol Rhyfel Cartref yn debyg iawn o ran maint gyda FG yn colli sleisen enfawr o’i phleidleisiau ac i raddau llai ei TDs.  Perfformiodd y blaid Rhyfel Cartref arall FF yn dda – yn well na’r disgwyl – yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig.  Perfformiodd Sinn Fein yn well na wnaeth yn 2010 gan ennill seddi ar hyd y wlad – ond ddim cystal a roedd nifer yn disgwyl.  Cafodd Llafur brofiad tebyg i un y Lib Dems yn y DU y llynedd, a gwnaeth amrywiaeth eang o ymgeiswyr a grwpiau annibynnol yn dda iawn.

Mae yna lywodraeth amlwg wedi ymddangos o’r canlyniad cwbl anisgwyl yma – clymblaid FG / FF – gyda chymorth rhai o’r elfennau annibynnol gene pool – pobl sydd a’i gwreiddiau yn y ddwy brif blaid – os oes angen hynny.  Ond ‘dydi FG a FF ddim yn debygol o wneud hynny.  Y rheswm am hynny ydi bod y Chwith yn y Weriniaeth yn wasgaredig iawn – gyda Sin Fein a nifer o grwpiau llai – a mwy asgell chwith – am yddfau ei gilydd.  Petai’r ddwy blaid fawr yn clymbleidio SF fyddai’n arwain y yr wrthblaid.  Byddai hynny’n eu darparu efo cyfle i uno’r Chwith Gwyddelig o gwmpas eu baner.  Dewis go iawn i’r etholwyr ydi’r peth diwethaf mae’r prif bleidiau a’r sefydliad Gwyddelig ei eisiau.  Felly maen nhw’n anhebygol o ddilyn y trywydd hwn.
   Y Brodyr Healy-Rae, Danny a Michael – Annibynnol.  Cafodd y ddau eu hethol yn Kerry – gyda Michael yn cael y bleidlais uchaf yn y wladwriaeth.  

Y canlyniad mwyaf tebygol i hyn oll ydi ymgais gan un blaid – gyda chymorth grwp o annibynwyr o bosibl – i lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol yn ogystal a chydsyniad distaw bach y brif blaid arall. Rhywbeth tebyg i’r hyn ddigwyddodd yn yr Alban rhwng 2007 a 2011, ond mewn amgylchiadau llawer mwy cymhleth.  Byddai hynny’n gadael y blaid fyddai’n arwain yr wrthblaid mewn lle anodd – byddai’n rhaid iddi ymddwyn fel gwrthblaid tra’n gwneud yn siwr nad yw’n dod a’r llywodraeth i lawr.  Ni fydd hynny’n hawdd i’w gynnal – yn arbennig mewn diwylliant gwleidyddol sydd wedi arfer efo gwrthdaro chwyrn.  
Y canlyniad mwyaf tebygol ydi etholiad arall o fewn ychydig fisoedd mae gen i ofn.

Pol ar y diwrnod Iwerddon – RTE

Os ydi’r pol yma’n cael ei wireddu heddiw – efo dim ond 45% i’r ddwy brif blaid sefydliadol – FG a FF bydd yn sioc sylweddol i’r system wleidyddol yn yr Iwerddon.  Byddai’n rhaid i arweinyddion FG a Llafur fynd – y prif weinidog a’r dirprwy brif weinidog – a Duw a wyr sut y byddai’r llywodraeth nesaf yn edrych.  Mae’n ddigon posibl y byddai yna etholiad arall mewn ychydig fisoedd.
Bydd y cyfryngau Gwyddelig mewn cryn alar hefyd wedi eu hymdrechion mwyfwy hysteraidd i amddiffyn y sefydliad gwleidyddol.

Pwy sy’n rhy hen i wleidydda yn ol Llafur Arfon?

Rydym eisoes wedi edrych ar yr esiampl bach rhyfeddol yma o ageism gan Blaid Lafur Arfon.  Beth bynnag am hynny, dwi’n rhyw feddwl bod y bennod yn cynnig cyfle da i gynnal cystadleuaeth fach.

Ar ol gwneud ychydig o syms bach elfennol i weld pwy mae Llafur Arfon yn eu hystyried eisoes yn rhy hen a musgrall i wleidydda, dwi wedi mynd ati i gywain lluniau nifer o hen begoriaid.  Mae rhan fwyaf yn hawdd, un neu ddau yn anodd iawn – ond mae’r cwbl yn dal i wleidydda.

                                  

Yn ol i wleidyddiaeth yr anterliwt

Felly mae Llafur yn ol efo’u naratif arferol – neu wleidyddiaeth yr anterliwt.  Ychydig wythnosau’n ol roedd yn ymddangos fel petaent am amrywio rhyw fymryn ar eu nonsens arferol a dweud mai dewis rhyngddyn nhw ac UKIP oedd yn wynebu ‘r etholwyr.  Erbyn hyn ymddengys eu bod yn ol i’r arferol – dewis rhyngddyn nhw eu hunain a’r Toriaid.

Ffurf ar ddramau poblogaidd a ddatblygodd yn bennaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru oedd yr anterliwt.  Roeddynt yn cael eu perfformio mewn ffeiriau yn aml ac roedd ganddynt neges foesol syml fel rheol – roeddynt yn portreadu’r Byd yn nhermau brwydr rhwng daioni a drygioni.  Mae Llafur yn gweld y Byd yn y ffordd yma.  Mae nhw eu hunain yn bobl dda, mae’r Toriaid yn bobl ddrwg, ac os byddant yn cael eu hethol byddant yn mynd ati i fwyta babanod, lluchio’r henoed i’r mor oddi ar glogwyni a throi pawb sydd ar ol yn gaethweision am weddill eu bywydau.  Mae pleidlais i unrhyw un ond nhw yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y Toriaid drwg, drwg yn cael eu hethol ac yn erlid pawb.  Mae hyn yn gwbl idiotaidd wrth gwrs – ond mae’n naratif sy’n cael ei defnyddio ym mhob etholiad yn ddi eithriad.
Mae’r ffordd yma o edrych ar wleidyddiaeth wedi ei wreiddio mewn dau dueddiad sydd gan y Blaid Lafur – moesoli a byw yn y gorffennol.  Mae’r gred ei bod yn blaid mwy moesol na’r un arall wedi ei wreiddio ym meddylfryd Llafur.  Mae’n gred gwbl di dystiolaeth yn yr oes sydd ohoni wrth gwrs, ond dydi hynny ddim yn ei gwneud fymryn gwanach.  Mae hyn gyda llaw yn un o’r rhesymau pam bod Llafur yn cael cymaint o broblem efo bod yn ffeithiol gywir – os ydym yn meddwl ein bod yn fwy moesol na phawb arall, dydi ambell i gelwydd gwyn ddim yn ymddangos yn  rhy ddrwg.  
Ac wedyn dyna i ni ‘r gorffennol.  Yn Etholiad Cyffredinol 1959 cafodd y Toriaid a Llafur rhyngddyn nhw bron i 99% o’r bleidlais yn y DU (heb gyfri Gogledd Iwerddon).  Mae’r polau diweddaraf yn rhoi 54% i’r ddwy blaid efo ‘i gilydd yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.  Byddwn yn synnu os cant hynny.  Ac eto mae Llafur yn dal i ymddwyn  fel petaent yn y 50au.
Mae’r byd o ddewis beinari syml wedi hen farw.  Yn hwyr neu’n hwyrach bydd rhaid i Lafur ddefnyddio mymryn o ddychymyg a meddwl am rhywbeth arall i’w ddweud wrth wynebu’r etholwyr – mae’n anffodus nad eleni fydd hynny’n digwydd.