Ym maes amddiffyn yr iaith mae’r Gogledd yn ei chael hi gan Lywodraeth Lafur Bae Caerdydd y tro hwn. Gallwch ddarllen y stori’n llawn yma.
Noson i ddiolch i Alun Ffred
Os ydych chi yn agos at Arfon nos Wener nesaf – beth fyddai’n well i’w wneud nos Wener na dod i ddiolch i Alun Ffred am ei gyfraniad tros y tair mlynedd ar ddeg diwethaf?
ON – diolch i’r nifer ohonoch wnaeth gywiro’r camgymeriad bach yn y blogiad – dydd Gwener nesaf mae noson Ffred wrth gwrs, nid nos Wener diwethaf!
Gan nad oes gen i fynediad i’r blog yn ystod y dydd, doedd hi ddim yn bosibl i mi gywiro’r camgymeriad tan wedi 5.
Sut fedrai hogyn o’r Aman droi allan fel hyn?
Rhag ofn bod rhywun yn rhywle yn y Canolbarth a’r Gorllewin yn ystyried rhoi croes i UKIP fis Mai oherwydd eu bod yn meddwl mai hunaniaeth Gymreig sydd gan y sawl sydd ar frig eu rhestr_ _ _.
Ac wedyn dyna i ni Nathan Gill
Dydi etholwyr Lloegr ddim eisiau Mark Reckless a Neil Hamilton _ _
_ _ felly rydan ni yn eu cael nhw.
Mae’r drefn etholiadol yn sicrhau y byddan nhw yn cael eu hethol. Does gan y naill na’r llall ddim mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad ‘na sydd gen i yng Nghynulliad Llundain neu Gyngor Lerpwl – ac mi fyddan nhw’n ei heglu hi am borfeydd brasach y cyfle cyntaf y byddant yn ei gael.
Ta waeth – i ddathlu’r achlysur mi ail gyhoeddwn dudalen flaen enwog y Guardian o 1996 wedi i Hamilton golli achos enllib yn erbyn y papur.
Mae Hamilton yn enwog yn bennaf oherwydd iddo dderbyn taliadau am ofyn cwestiynau seneddol am bres pan oedd yn aelod seneddol Ceidwadol – ac eto daeth ar ben y rhestr yn etholiadau mewnol UKIP yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Dweud pob dim sydd angen ei ddweud am aelodau UKIP yn y rhan hwnnw o ‘r wlad mae gen i ofn.
Dewch i ‘Pob Lwc Sian’ yn y Felinheli
Araith Adam yn y Gynhadledd
Cefnogaeth o le anisgwyl
Ymddengys nad pobl o fy ochr i sydd yn ystyried Lee Waters yn benodol a Llafur yn gyffredinol o fod yn wrthwynebus i’r Gymraeg. Daw’r sgwrs fach yma o dudalen Facebook Lee (Chwefror 24). Mae’n ymwneud ag ail gategoreiddio Ysgol Llangennech ger Llanelli yn ysgol Gymraeg.
Heddyr Gregory ydi gwraig Aelod Cynulliad presenol Llanelli.
Lee Waters: The debate about Welsh language education in Llangennech is a very sensitive one.
I deplore the language used by a Plaid Cymru Councillor who has accused local parents who support bilingual education of ‘insisting’ on “denying their children fluency in our magnificent indigenous language”.
This is not the way to deal with real concerns, or to safeguard the language.
Llafur – mor wrth Gymraeg ag erioed
Mae blogiad diweddaraf ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn un digon diddorol. Blogiad ydi o yn y bon sy’n egluro pam y dylai pobl bleidleisio iddo fo. I rhywun sydd wedi arwain y IWA mae’r blogiad yn un arwynebol a rhagweladwy – amrywiaeth bach ar wleidyddiaeth yr anterliwt. Mae’r Toriaid yn bobl arbennig o ddrwg – ac os byddwch yn pleidleisio i Blaid Cymru bydd yr hen bobl ddrwg ‘na yn cael eu hethol.
Ond ynghanol y rwdlan gwrth resymegol dyma hon yn ymddangos.
Plaid have not made the breakthrough that the SNP has, and research shows that in Wales their obsession with independence and the Welsh language turn-off many voters.
A gadael o’r neilltu’r ffaith bod yna gryn dipyn o gwyno o rai cyfeiriadau nad ydi’r Blaid yn canolbwyntio digon ar annibyniaeth a materion ieithyddol, ac a gadael o’r neilltu’r ffaith nad ydi polau cyfredol yn awgrymu bod yna gefnogaeth eang i annibyniaeth ar hyn o bryd – pa ymchwil sy’n dangos bod gan etholwyr Cymru rhywbeth yn erbyn y Gymraeg? Oes yna ymchwil felly? Pwy sydd wedi ei wneud? ‘Dydi Lee ddim yn trafferthu dweud wrthym – felly ei air o sydd gennym am y peth. Beth bynnag am hynny – mae’n amlwg bod Lee yn gwneud defnydd o’r iaith yma i bortreadu gwrthwynebwyr gwleidyddol mewn goleuni negyddol.
Y pethau bach sydd yn ddadlennol yn aml iawn – ac mae’r esiampl fach yma o ddefnyddio’r iaith fel offeryn gwleidyddol etholiadol yn awgrymu nad ydi agweddau gwrth Gymraeg gwaelodol y Blaid Lafur yng Nghymru wedi newid rhyw lawer. Beth bynnag am yr ystumio cefnogaeth i’r iaith mae’n cael ei defnyddio i bwrpas portreadu negyddol, mae hyd yn oed ‘pencampwr iaith’ Llafur -Sion Jones – yn credu bod cymryd rhai o’r camau sydd rhaid wrthynt i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg (fel cyflogi pobl sy’n siarad y Gymraeg) yn ‘ymylu ar fod yn hiliol’, mae’r gweinidogion sy’n gyfrifol am y Gymraeg wedi eistedd ar eu dwylo am bron i bum mlynedd, mae llywodraeth Lafur y Cynulliad yn gwrthod caniatau i’r Comiwsiynydd Iaith fabwysiadu safonau iaith rhy radicalaidd, ac yna’n mynd ati i herio’r safonau glastwreiddiedig pan maent yn eu derbyn.
Dydi Llafur Cymru yn y bon byth yn newid – gwleidyddiaeth yr anterliwt yn cuddio agweddau gwaelodol wrth Gymraeg.









