Bore cynhyrchiol yn Nyffryn Nantlle
Noson diolch i Alun Ffred
Is etholiad Cyngor Tref Caerffili
Roger Bidgood Plaid Cymru 451
Llafur/ Labour 277
Ond ‘tydi’r Toriaid ‘ma’n rhai rhyfedd dywedwch?
Aelod seneddol a chyn weinidog Toriaidd yn rhoi’r gorau i drydar tros y Grawys, yna’n mynd ati i agor cyfri anhysbys, a defnyddio hwnnw i ymosod ar ei lywodraeth ei hun.
Brathu’r llaw sy’n ei fwydo
Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 11
Dydan ni ddim yn nhir y celwydd noeth y tro hwn – ond rydan ni yn edrych ar gam arwain bwriadol – a digon anymunol.
Ymddengys bod yr Aelod Seneddol Llafur Jack Dromey yn ymgyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru heddiw – yn rhannol i hyrwyddo ymgyrch ymgeisydd Llafur am swydd Comiwsiynydd yr Heddlu yn y Gogledd. Mae’n honni bod tor cyfraith treisgar wedi cynyddu 17%. Dydi o ddim yn egluro’r ffigwr – ond mae’n debyg ei fod yn cyfeirio at ganfyddiad yr ONS (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol) bod tor cyfraith treisgar wedi cynyddu 17% yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.
Y problemau ydi bod y cynnydd mewn tor cyfraith treisgar yn uwch ar hyd gweddill y DU nag yng Ngogledd Cymru a bod yr ONS ei hun yn dweud mai’r prif resymau am hynny ydi oherwydd gwelliannau yn y ffordd mae ymysodiadau rhywiol yn cael eu cofnodi a mwy o barodrwydd gan bobl i riportio ymysodiadau felly i’r heddlu.
Mae tor cyfraith yng Nghymru a Lloegr yn cael ei ddadansoddi mewn ffordd arall – trwy ganfyddiadau’r Crime Survey of England and Wales. Nid edrych ar ystadegau heddlu mae’r CSEW, ond holi’r cyhoedd ynglyn a’u profiad nhw o dor cyfraith. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried canfyddiadau’r CSEW yn fwy dibenadwy na rhai’r ONS. Mae astudiaeth y CSEW yn awgrymu nad oedd yna fawr o newid wedi bod mewn lefelau tor cyfraith treisgar tros y cyfnod tan sylw.
Rwan mae ffigyrau fel hyn yn cael eu taflu o gwmpas mewn etholiad – ond mae’n anghyfrifol i daflu ffigyrau na ellir dibynnu arnynt o gwmpas mewn perthynas a thor cyfraith. Mae llawer o bobl yn meddwl eu bod yn byw mewn Byd mwy peryglus na maent yn byw ynddo go iawn – ac mae hynny yn arwain at boeni di angen, ac mewn rhai achosion bobl yn ofn gadael eu tai.
Mae’n gwbl anghyfrifol i greu canfyddiad ffug o don o dor cyfraith treisgar.
Cywiro datganiadau camarweiniol – rhif 10
Jones yr ieuengaf unwaith eto mae gen i ofn. Nid yn nhir y troelli, na chamarwain trwy beidio cyflwyno’r ffeithiau i gyd ydan ni y tro hwn, ond yn nhir y celwydd noeth di addurn.
Mae honiad bod y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd yn gyfangwbl anghywir – a dydi hi ddim yn bosibl i neb ddod i’r casgliad hwnnw yn ddamweiniol.
Yn ol y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael mae yna 81 o weithwyr Cyngor Gwynedd ar gytundebau sero awr. Mae’r ffigwr hwnnw wedi gostwng o 477 yn 2014 – y rheswm am hynny ydi bod Cyngor Gwynedd yn dilyn polisi bwriadol o ddileu cytundebau sero awr.
Ond hyd yn oed yn 2014 byddai’n gwbl gelwyddog i ddweud mai Cyngor Gwynedd oedd yn cynnig y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru. Roedd yna 4,000 o gytundebau felly yn cael eu gweinyddu yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol – gyda thua hanner y rheiny i’w cael ym Mhowys – cyngor sydd (ac oedd) yn cael ei redeg gan grwp annibynnol. Roedd cannoedd lawer hefyd yn cael eu cynnig gan gynghorau Llafur gyda Chyngor Pen y Bont (sy’n cynnwys rhan o etholaeth Carwyn Jones) yn gyfrifol am 418 ac Abertawe yn gyfrifol am 482. Mae’n debygol gyda llaw bod gwir ffigyrau rhai cynghorau Llafur yn uwch o lawer na’r hyn sy’n wybyddus oherwydd arfer nifer ohonynt i gontractio gwaith cyngor i gwmniau a chorfforaethau annibynnol – does yna ddim ffigyrau ar gael ar gyfer cyrff felly. Tua 12% o gytundebau sero awr Cymru oedd yng Ngwynedd bryd hynny.
Fel y dywedais, mae Cyngor Gwynedd wedi cael gwared o tua 80% o’u cytundebau sero awr mewn cyfnod o tua blwyddyn a hanner oherwydd eu bod yn dilyn polisi bwriadol o wneud hynny. Does gen i ddim gwybodaeth am ffigyrau diweddaraf cynghorau eraill Cymru – ond mae’n anhebygol bod y cwyp wedi bod yn agos at yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngwynedd oherwydd nad ydi’r rhan fwyaf o gynghorau yn dilyn polisi rhagweithiol o’u dileu. Yn wir – os ydi’r graffeg mae Jac Capon yn ei ddyfynu yn gywir, mae yna gynnydd wedi bod yng ngweddill Cymru.
Yn ol pob tebyg mae rhywbeth yn yr amrediad 1% – 2% o gytundebau sero awr awdurdodau lleol Cymru yng Ngwynedd ar hyn o bryd – er nad oes gen i ffordd o fod yn gyfangwbl siwr am hynny. Mae hyn ymhell, bell o’r 50%+ sy’n cael ei honni gan Sion. Mae’r honiad yn gyfangwbl gamarweiniol.
Mae hefyd yn hynod anffodus gweld cynghorydd yn dwyn anfri ar ei gyngor ei hun trwy ddweud celwydd amdano.
Araith Nicola Sturgeon yng nghynhadledd yr SNP
Os ydych eisiau deall pam bod yr SNP yn llwyddo i’r fath raddau yn etholiadol, gwrandewch ar yr araith yma gan Nicola Sturgeon yn gynharach heddiw. Cyfuniad o weledigaeth gyffredinol o sut i ddod a gwlad yn ei blaen ynghyd a chynlluniau manwl, manwl a chredadwy i wella safon amodau carfannau sylweddol o bobl.
Dyna ydi’r fformiwla i sicrhau llwyddiant etholiadol.
Os nad ydi’r fideo yn gweithio edrychwch yma.
Y Toriaid ar chwal
Mae pawb sy’n ymwneud a phlaid wleidyddol yn gwybod pam bod cynhadledd wanwyn yn bwysig. Dydi eu pwysigrwydd yn ddim oll i’w wneud efo llunio polisi ac ati. Fel rheol byddant yn cael eu cynnal yn fuan cyn ethloiad o rhyw fath, ac mae’r cyfryngau yn rhoi cymaint o sylw iddynt ag mae unrhyw beth sy’n ymwneud a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn ei gael ganddynt. O ganlyniad mae’n gyfle i werthu negeseuon etholiadol creiddiol y blaid. Felly mae’n bwysig cael pethau’n ‘iawn’. Does yna ddim lle i gymhlethdod yma – negeseuon clir, syml, deniadol ydi’r nod gyda phawb yn gytun ac yn gwenu’n ddel. Os ydi’r negeseuon yn cael eu cyfleu yn glir, effeithiol a di wrthwynebiad mae’r gynhadledd wedi bod yn llwyddiant.
Nid dyma mae’r cyfryngau eisiau adrodd arno wrth gwrs – mae anghydfod, ffraeo, negeseuon yn gwrth ddweud ei gilydd a gwrthdaro yn fwy diddorol o lawer o’u safbwynt nhw. Felly mae’n dipyn o gem i ddod o hyd i rhyw faferic neu’i gilydd i ddweud pethau sy’n groes i’r negeseuon creiddiol. Gorau oll os ydi’r maferic wedi bod yn bwysig ar rhyw bwynt neu’i gilydd – a gore oll os ydi o’n dweud pethau mawr. Mae’r cyfryngau yn cael eu stori, mae’r maferic yn cael ymddangos ar y tudalenau blaen a meddwl ei fod yn bwysig am ddiwrnod neu ddau, ac mae rheolwyr y blaid dan sylw yn tynnu eu gwalltiau allan o’u pennau oherwydd bod buddsoddiad sylweddol o ran amser ac adnoddau wedi ei wastraffu ar naratif newyddiadurol negyddol.
Fel rheol mae’n rhaid i’r cyfryngau chwilio am faferic, ac fel rheol mae hwnnw efo’r rhan fwyaf o’i yrfa wleidyddol y tu cefn iddo. Y tro hwn doedd dim rhaid chwilio, ac arweinydd y blaid oedd yn defnyddio prif bwynt ffocws y gynhadledd i gicio yn erbyn y tresi – a hynny o’r prif lwyfan. Gallwn fod yn reit siwr bod y Blaid Geidwadol ‘Gymreig’ wedi gofyn i Cameron draddodi eu negeseuon etholiadol creiddiol a pheidio dweud gair am Ewrop. Mae’r rhan fwyaf o gefnogwyr potensial y Toriaid o blaid Brexit – a ‘dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i’w pechu trwy gymysgu’r negeseuon etholiadol efo negeseuon nad ydynt yn eu hoffi.
Gwnaeth Cameron yn gwbl groes i’r hyn ofynwyd ohono. Roedd wyneb Andrew RT Davies werth ei weld wrth wrando ar Cameron yn mynd trwy’i bethau. Gallwn fod yn eithaf siwr mai’r rheswm am hyn oedd bod Cameron wedi cael y myll efo Andrew RT Davies oherwydd ei benderfyniad i wrthwynebu aelodaeth o’r Undeb Ewropiaidd yn gyhoeddus.
A’r gwersi? Yn gyntaf yr un amlwg – mae ffraeo am Ewrop yn rhan o DNA y Toriaid. Yn ail, dydi ffawd y Toriaid Cymreig ddim yn arbennig o bwysig i Cameron – a’r rheswm am hynny yn ei dro ydi nad yw Cymru yn bwysig i’r Blaid Geidwadol Brydeinig. Mater bach ydi Cymru i’r Toriaid yn y diwedd – yn union fel y pleidiau unoliaethol eraill.



















