Argraffiadau o ddathliadau Gwrthryfel 1916

Am rhyw reswm neu’i gilydd dydi’r wraig a finnau erioed wedi manteisio ar y cyfleoedd mynych sy’n codi yn y DU i fynychu dathliadau gwladwriaethol, felly dyma neidio ar y llong a chroesi i Ddulyn i ddathlu canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg.  Dyma un neu ddau o argraffiadau ychydig yn ddi strwythur.

Wedi cyrraedd Dulyn aethom am dro i Fynwent Arbour Hill – yno claddwyd arweinwyr y gwrthryfel mewn bedd torfol wedi iddynt gael eu saethu gan y fyddin Brydeinig yng Ngharchar Kilmainham.  Roedd yr hyn oedd yn ein haros yn – wel rhyfedd.  Roedd yna gryn weithgaredd o gwmpas y bedd gyda phobl yn penlinio neu’n sefyll wrth ei ochr, ac eraill yn edrych ar wal y tu cefn iddo oedd yn enwir’r sawl a laddwyd yn ystod yr ychydig ddyddiau o ymladd, ac yn pwyntio at wahanol enwau.  Ond roedd y swn yn y lle yn fyddarol – ac nid Gwyddelod oedd yn gwneud y swn ond Americanwyr.  Roedd y lle yn llawn o Americanwyr mewn cilts – bandiau chwythu o gwahanol ddinasoedd Americanaidd.
Yn y man ymddangosodd gorymdaith o rhywle a chasglodd yr ychydig gannoedd oedd yn gorymdeithio o gwmpas y bedd i wrando ar areithiau – er bod y bandiau yn ei gwneud yn anodd iawn clywed dim.  Ymddengys mai mudiad o’r enw’r Sean Heuston 1916 Dublin Society oedd yn gorymdeithio, a bod y digwyddiad yn un o gyfres faith o ddigwyddiadau oedd wedi eu trefnu yn Abour Hill gan wahanol fudiadau.  O’r hyn y gallwn gasglu ynghanol y swn roedd ganddynt dair thema – drwg dybiaeth o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, cred bod y wladwriaeth yn ceisio gwadu gwir hanes y Weriniaeth a chred bod cynlluniau i ail ddatblygu Moore Street yng nghanol Dulyn yn rhan o gynllwyn gan y wladwriaeth i lastwreiddio hanes y Weriniaeth.  Mae Moore Street yn faes brwydr – yr ardal olaf i syrthio i’r Prydeinwyr yn 1916.

O gerdded o gwmpas y dref wedyn roedd yn amlwg bod y digwyddiad yn un sylweddol – o safbwynt sific a masnaachol.  Mae pob tafarn a siop wedi eu haddurno – gyda chryn gystadleuaeth rhwng un sefydliad a’r llall i gael yr addurniadau gorau, mae pobl wedi addurno eu tai, mae crysau, baneri a phob math o baraffinalia sy’n ymwneud a’r digwyddiad ar werth mewn stondinau ar ochr y ffordd, ac mae adeiladau mwy swyddogol wedi eu haddurno hefyd.  

Wele pencadlys SIPTU – undeb llafur mwyaf Iwerddon.  Peidiwch a disgwyl gweld 1 Cathedral Road wedi ei addurno fel hyn yn y dyfodol agos.  

Roedd y cyfryngau torfol yn rhoi sylw sylweddol i’r digwyddiadau gyda chyfres hir o raglenni arbennig gan RTE a gelynion  chwyrn i’r traddodiad gweriniaethol yn y wasg – yr Irish Independent er enghraifft – yn ymuno yn brwdfrydedd. 
Gyda’r nos aethom am ddiod i’r Darkey Kelly’s yn Christ Church.  O fynd i mewn roedd y lle’n llawn dop gyda band gwerin yn canu yn y gornel.  Er gwaetha’r nifer pobl roedd prynu diod yn weithred digon hawdd, gyda’r staff bar yn gweithio ar gyflymder rhyfeddol – roeddynt yn edrych tipyn bach fel rhywbeth o un o’r hen ffilmiau du a gwyn ‘na lle mae pob dim yn digwydd ychydig yn rhy gyflym.  Caneuon rebel roedd y band yn eu canu.  
Mae yna gorff o gannoedd o ganeuon gwerin rebel yn Iwerddon sy’n ymdrin a’r gwrthdaro  sy’n dominyddu hanes y wlad – o’r gorffennol pell i lofruddiaeth Alan Ryan yn 2012.  Ceir nifer o ganeuon mae bron i bawb yn eu gwybod, a dyma’r caneuon mae Gwyddelod oddi cartref yn tueddu i’w canu pan maent yn dod at ei gilydd.  
Adref, fodd bynnag mae yna elfen o embaras yn ymwneud a nhw – a dydyn nhw ddim i’w clywed  mor aml a hynny mewn tafarnau ac ati.  Pan mae ambell un yn cael ei chanu y tueddiad ydi i’w claddu  rhywle rhwng Dublin City in the Rare Old Times a Buy Buy American Pie.  Byddai selogion Cymdeithas Sean Heuston yn dweud wrthych mai deugain mlynedd o naratif cyfryngol gwrth Wereniaethol sy’n gyfrifol am hynny.  Roedd y rhyfel hir yn y Gogledd yn gysylltiedig a’r naratif hwnnw wrth gwrs – ond roedd yn ffactor ynddo’i hun hefyd.
Doedd yna ddim llawer o embaras ar y noswaith arbennig yma, gydag un gan rebel yn dilyn y llall mewn cyfres ddi derfyn.  Yn ol pob golwg roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa wedi bod allan trwy’r dydd, ac roeddynt yn cael eu hunain mewn tipyn o hwyl. O dipyn i beth dechreuodd rhyw ddeg o’r cleiantiaid gwffio am resymau nad oeddynt yn eglur i neb ond nhw eu hunain. Roedd sgiliau taflu allan y staff bar mor effeithiol ag oedd eu sgiliau tynnu peintiau, ac roedd y cwbl allan ar y stryd o fewn ychydig eiliadau.  Aeth pawb yn ol at y canu, a chyn diwedd y noson roedd pawb (oedd yn weddill) yn dyrnu’r awyr ac yn bloeddio I I IRA, I I IRA, I I IRA _ _ _ .  Byddai selogion y Sean Heuston yn gartrefol iawn, a byddai golygydd yr Irish Independent yn cael gwasgfa.
Roedd y seremoni goffau ei hun ychydig yn fwy sobor a phwyllog.  Doedd hi ddim yn bosibl mynd yn agos at ganolbwynt y seremoni – y GPO oherwydd bod yr holl ardal wedi ei chau i’r cyhoedd, felly roedd rhaid edrych ar sgrin fawr wrth ymyl Pont O’Connell.  Roedd y dyrfa yn anferth.  

Cafwyd darlleniadau o’r Proclemasiwn, barddoniaeth ac ati fel sy’n gyffredin mewn digwyddiadau fel hyn am wn i, plant yn gosod torch.  Roedd rhaid i elynion gwleidyddol chwyrn sefyll wrth ochrau ei gilydd i osod torch gydag Arglwydd Faer Dulyn, Críona Ní Dhálaigh (Sinn Fein) yn cael ei hun wrth yr Arlywydd, Michael D Higgins (Llafur) ac Enda Kenny (Fine Gael).  Aeth y faner uwchben y GPO i fyny ac i lawr ychydig o weithiau, a chafwyd un o’r pethau bach rhyfedd yna sy’n digwydd mewn seremoniau Gwyddelig, pan gafodd delwedd o filwr yn siarad ar ei ffon symudol fel roedd yr Arlywydd yn gosod ei dorch, ei darlledu i filiynau o bobl.  Prysurodd y fyddin i ryddhau datganiad i’r wasg oedd yn honni nad oedd y milwr yn gwneud unrhyw beth o’i le.



Ac wedyn cafwyd gorymdaith o filwyr a chaledwedd milwrol.  Rhaid cyfaddef nad oedd yr hyn a arddangoswyd yn ymddangos yn agos mor farwol a’r hyn sydd gan y DU i’w ddangos ar achlysuron tebyg.  Ond wedyn mae hynny’n ddigon dealladwy am wn i.  Mae’r naill wlad efo trefniadau pwrcasu caledwedd milwrol sy’n cael ei yrru gan bolisi tramor sydd wedi ei seilio ar y gred bod gan y wlad honno’r hawl i ymyryd yn filwrol yn lle bynnag mae rhywun yn gwneud rhywbeth nad ydyw yn ei hoffi.  Mae’r llall yn gweld rol amddiffyn neu gadw’r heddwch ar ran yr UN i’w lluoedd arfog.

O gerdded o gwmpas y ddinas wedyn roedd amrywiaeth dryslyd o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan gwahanol gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar hyd y mannau cyhoeddus – sesiynnau canu, darllen barddoniaeth, arddangosfeydd, sioeau crefft, ffeiriau i’r plant ac ati.  Roedd yna arddangosfa o stampiau sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer yr achlysur yng nghanolfan siopa drudfawr Powerscourt.  Roedd yna lawer o bobl yn gwisgo dilladau o’r cyfnod, a rhai’n gwisgo dillad milwrol o’r cyfnod.  Acenion Albanaidd i’w clywed yn y tafarnau, a nifer o Gymry o gwmpas hefyd.  

A dyna ni – seremoni gofio genedlaethol oedd yn adlewyrchu’r wlad a’i phobl yn eithaf da – y brwdfrydedd, y dychymyg, y diffyg polish, yr anffurfioldeb ochr yn ochr a’r ymlyniad i seremoni, y cyfeillgarwch naturiol ochr yn ochr a’r gwylltineb, yr ymarferoldeb pragmataidd ochr yn ochr a’r anhyblygrwydd ideolegol.  

Ac wrth gwrs roedd yr holl ddigwyddiad yn codi cwestiynau.  Ydi’r Weriniaeth wedi cwrdd a’i photensial tros gyfnod o ganrif?  Ydi delfrydau gweriniaethol y gwrthryfelwyr wedi eu gwireddu?  Ydi sofraniaeth cenedlaethol wedi ei ddefnyddio’n llawn i wella bywydau holl drigolion y wlad?  Pryd y bydd y Weriniaeth yn mynd i’r afael yn onest a’i chefndir ac amodau ei chreu a thrwy hynny yn cael gwared o’r rhagrith a safonau dwbl sy’n nodweddu ei bywyd gwleidyddol?

Ond mae’r Weriniaeth – beth bynnag ei methianau – mewn llawer gwell lle na ni i gynnal disgwrs genedlaethol ystyrlon, i ddod i dermau efo’r hyn ydyw a’r hyn oedd, ac i lunio diffiniad clir o’r hyn y gall fod.  Mae ganddi ei sofraniaeth cenedlaethol sy’n caniatau iddi lunio ei dyfodol ei hun, ac mae wedi delio efo llawer o’r waddol wenwynig o fod yn gydadran bach o bwer ymerodraethol anferth.  

Rydym ni ymhell, bell o fod yn y fan yna.

Dathliadau 1916 a’r sefydliad gwleidyddol Gwyddelig

Dwi ar y cwch i’r Iwerddon -a bydd y sawl yn eich plith sydd wedi bod yn dilyn triniaeth (anisgwyl o gytbwys) y Bib yn gwybod bod canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn cael ei ddathlu y penwythnos yma.  Er gwaetha’r holl ddathlu – gwladwriaethol ac answyddogol – mae yna chwithdod.  Mae’r darn yma gan Fergal Keane yn egluro’n ddigon effeithiol pam – er fy mod yn anghytuno efo un elfen o’r dadansoddiad.

Y broblem ydi bod gwreiddiau’r rhan fwyaf o bleidiau Gwyddelig yn mynd yn ol i 1916 mewn gwirionedd, a ‘doedd gan y gwrthryfelwyr ddim mandad democrataidd o unrhyw fath.  Gallai’r IRA a ymladdodd yn erbyn Prydain yn nechrau’r dau ddegau hawlio mandad – roedd Dail 1918 wedi rhoi caniatad o fath iddynt ymladd – ac roedd y corff hwnnw wedi ei ethol gan etholwyr oedd wedi eu radicaleiddio gan ddigwyddiadau 1916. Ond chafodd gwrthryfelwyr 1916 ddim caniatad gan neb.
Mae yna ddau draddodiad cenedlaetholgar Gwyddelig – un cyfansoddiadol ac un anghyfansoddiadol.  Yr un cyfansoddiadol sy’n dominyddu gan amlaf, ond o bryd i’w gilydd bydd y traddodiad arall yn ffrwydro i’r wyneb.  Dyna ddigwyddodd yn 1916 a’r blynyddoedd a ddilynodd hynny.  Dewisodd y rhan fwyaf o genedlaetholwyr Gwyddelig y fersiwn anghyfansoddiadol yn 1918 oherwydd trawma 1916, methiant Prydain i gyflwyno datganoli, ac anfodlonrwydd oherwydd y Rhyfel Mawr a rhan cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn y rhyfel hwnnw.  
Felly mae’r wladwriaeth Wyddelig wedi ei geni o drais gan genedlaetholwyr anghyfansoddiadol, ond mae ei phrif bleidiau bellach yn rhai cyfansoddiadol sy ‘n ymwrthod a thrais i hyrwyddo undod cenedlaethol.  O safbwynt y pleidiau cyfansoddiadol Gwyddelig (Fianna Fail, Fine Gael a Llafur)  y broblem ydi eu bod yn cystadlu efo Sinn Fein am rym.  Nid y gwrthryfelwyr cyfoes yn y Gogledd fel mae Keane yn awgrymu sy’n gwneud pethau’n anodd, ond gelynion etholiadol y presenol.

Mae’r blaid honno yn cyfiawnhau rhyfel hir yr IRA yng Ngogledd Iwerddon o ddiwedd chwe degau’r ganrif ddiwethaf i ganol y naw degau.  Yn wir cymrodd llawer o arweinwyr SF ran gweithredol yn y rhyfel hwnnw.  Mae SF yn fygythiad enfawr i’r sefydliad Gwyddelig sydd wedi sefydlu a chadarnhau ei afael ar strwythurau grym y Weriniaeth tros hanes y wladwriaeth.  Mae’n naturiol felly bod rhan SF yn rhyfel y ganrif ddiwethaf yn cael ei ddefnyddio fel gordd gwleidyddol i’w waldio yn ystod pob ymgyrch etholiadol.  
Daeth yn draddodiad gwleidyddol diweddar i’r cyfryngau Gwyddelig chwifio amdo, rhywun neu ‘i gilydd a laddwyd gan yr IRA yn y ganrif ddiwethaf, i’r pedwar gwynt am wythnosau pan mae yna gymaint ag awgrym o etholiad.  Mae codi cyrff y ganrif ddiwethaf yn fwy effeithiol ac yn haws nag ateb am wendidau presenol y gyfundrefn wleidyddol.  Ond – fel yr awgrymwyd  – fyddai’r wladwriaeth Wyddelig erioed wedi dod i fodolaeth oni bai am Wrthryfel anghyfansoddiadol 1916, ac am y rheswm hwnnw mae’n ddigwyddiad arwyddocaol a phwysig i lawer o Wyddelod o pob plaid (ag eithrio unoliaethwyr y Gogledd).  
Mae natur y dathlu yn adlewyrchu’r ddeuoliaeth yma – ac mae’n nodweddiadol o sut mae’r sefydliad gwleidyddol Gwyddelig yn delio efo cymlethdodau anodd y gorffennol – cymylu ffiniau, cymysgu elfennau gwahanol, gwneud llinellau eglur yn aneglur.  
Mae’r ddelwedd uchod yn dangos baner a godwyd gan Gyngor Dulyn.  Mae’n dathlu Gwrthryfel 1916, ond roedd y  pedwar arweinydd cenedlaethol a ddangosir yn wleidyddion cyfansoddiadol o gyfnodau gwahanol yn hanes Iwerddon.  Roedd tri ohonynt wedi marw cyn 1916, ac arweiniodd y Gwrthryfel at ddifa plaid y pedwerydd – John Redmond.  Byddai’r pedwar wedi casau’r hyn ddigwyddodd yn 1916 gyda chasineb perffaith – ond maen nhw ar y faner beth bynnag.

Crowdfunder lleiaf llwyddiannus Cymru?

Mae gallu cyfathrebu ar y We wedi newid y ffordd rydym yn gwneud llawer iawn o bethau.  Enghraifft dda ydi codi pres.  Ers talwm os oedd rhywun eisiau codi pres roedd rhaid mynd ati i drefnu boreuau coffi ac ati.  Ond erbyn heddiw mae gennym Crowdfunders – gwefannau sy’n caniatau i bobl neu gymdeithasau ofyn am arian gan gynulleidfa fyd eang ar y We.  Mae rhai o’r rhain yn hynod lwyddiannus.  Er enghraifft mae perchenog y blog Wings Over Scotland, Stuart Campell yn llwyddo i godi digon o bres i gadw blog yn broffesiynol am flynyddoedd trwy’r dull hwn.

Ac wedyn mae yna gynlluniau llai llwyddiannus – un Dib Lems, Ceredigion er enghraifft.  Targed o £3,000 a £170 wedi ei godi efo diwrnod i fynd.

Os oes rhywun yn dod ar draws ymderch llai llwyddiannus i godi pres gadewch i mi wybod.  

Y pol piniwn Cymreig diweddaraf

Fydda i ddim yn blogio ar bolau piniwn yn aml iawn, ond mi gawn ni gip sydyn ar y diweddaraf o bolau gan Brifysgol Caerdydd.  Wele’r canfyddiadau:
Etholaethau:
Llafur: 34% (-)
Toriaid: 22% (-)
Plaid Cymru: 21% (+2)
UKIP: 15% (-3)
Dib Lems: 6% (+1)
Eraill : 3% (+1)
Rhestr:
Llafur: 31% (-)
Toriaid: 22% (-)
Plaid Cymru: 22% (+3)
UKIP: 14% (-4)
Dib Lems: 5% (+1)
Gwyrddion: 4% (+1)
Eraill: 3% (-)
Petai’r polau yn cael eu gwireddu, yn ol dadansoddiad Roger Scully, byddai Llafur yn ennill 27 sedd, Plaid Cymru 13, y Toriaid 11, UKIP 7 a’r Dib Lems 2.
Rwan, dydi hi ddim yn syniad gwych i gymryd gormod o sylw o union ganrannau pol piniwn chwech wythnos cyn etholiad – gall llawer ddigwydd yn ystod ymgyrch etholiadol.  Yn ychwanegol at hynny dydi effaith refferendwm Ewrop sydd i’w gynnal ym mis Mehefin ddim yn amlwg eto.  Ond mae yna dri pheth sy’n rhoi lle i obeithio y gallai’r etholiad yma fod yn un dda i’r Blaid.
1.  Mae’n bosibl y bydd y nifer sy’n pleidleisio  yn anarferol o isel oherwydd bod naratifau ymgyrchoedd y Cynulliad yn cael eu boddi gan naratif ymgyrch Ewrop.  Mae Plaid Cymru ‘n tueddu i wneud yn well pan mae’r cyfraddau pleidleisio yn isel gan bod ei chefnogwyr yn fwy parod na chefnogwyr pleidiau eraill (ag eithrio’r Toriaid o bosibl) i fynd allan i bleidleisio.  Mae hyn yn arbennig o wir am etholiad Cynulliad.
2.  Mae cyfeiriad patrymau cefnogaeth yn tueddu i fod yn bwysicach na’r union ganrannau fel mae etholiad yn dynesu.  Mae’r cyfeiriad yma yn galonogol i’r Blaid ac yn negyddol i UKIP.
3.  Mae hwn yn gysylltiedig ag 1.  Bydd Llafur yn tueddu i wneud yn salach na mae’r polau yn awgrymu mewn etholiadau Cymreig ac Ewropiaidd.  Mae’n debyg mai’r ffaith eu bod yn tueddu i ddioddef mwy na neb arall pan mae cyfraddau pleidleisio yn isel sy’n gyfrifol am hyn.
Ac mae yna rhywbeth arall hefyd – sy’n newyddion da i bob plaid ag eithrio’r Toriaid.  Mae’r pol wedi ei gymryd cyn y llanast a’r ffraeo diweddar ymysg Toriaid San Steffan.  Dim ond drwg all hynny ei wneud i’r blaid honno.  
Felly – ag edrych ar bethau o safbwynt y Blaid – mae’r pol yn addawol ac mae’n awgrymu bod canlyniad gwirioneddol dda yn bosibl ym mis Mai.  Ond mae angen ymgyrch dda i hynny ddigwydd, ac ni all hynny ddigwydd yn ei dro oni bai bod niferoedd sylweddol o bobl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.  
Felly os ydych  eisiau gweld newid go iawn rydych chi’n gwybod beth i ‘w wneud _ _ 

Plaid Cymru ar y blaen – yn Planet Swans o leiaf

Peidiwch byth, byth a chymryd pol piniwn sy’n cael ei gynnal ar wefan gyhoeddus gormod o ddifri.  Mae pol ‘go iawn’ yn dewis yn ofalus eu sampl i wneud yn siwr ei fod yn debyg i’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.  Maent hefyd yn polio llawer o bobl gan amlaf.    Dydi polau gwefannau ddim yn gwneud hynny – felly does gennym ni ddim syniad os ydi’r sawl sy’n pleidleisio yn cynrychioli’r etholwyr yn gyffredinol.
Serch hynny mae fforwm Planet Swans yn lle anisgwyl i ddod o hyd i bol gwefan sy’n rhoi Plaid Cymru ar y blaen.  

Y Toriaid yn 2011

Gan bod y Toriaid yn San Steffan wedi penderfynu dad berfeddu ei gilydd yn gyhoeddus, a gan fod yr etholwyr efo hanes hir o gosbi pleidiau sy’n ffraeo’n gyhoeddus, a gan fod ffigyrau’r Toriaid yn y polau piniwn Prydeinig yn dangos arwyddion o syrthio’n weddol gyflym a gan ein bod o fewn ychydig wythnosau i etholiadau’r Cynulliad, waeth i ni edrych ar eu perfformiad yn  etholiadau’r Cynulliad 2011.