Etholiad Comiwsiynydd yr Heddlu, Gogledd Cymru

Dydi Blogmenai ddim yn ceisio rhagweld canlyniadau etholiadau yn rhy aml y dyddiau hyn – yn gyhoeddus o leiaf – ond yn dal i gael hwyl yn betio ar etholiadau.  Y rheswm ydi bod cymryd ochr mewn ffordd mor bendant a mae’r blog yma yn ei wneud yn ei gwneud yn hynod o anodd bod yn wrthrychol wrth ddarogan yn gyhoeddus – byddai darogan canlyniad negyddol i fy mhlaid fy hun yn cael effaith negyddol – a dyna’r peth diwethaf ‘dwi eisiau.
Serch hynny, dwi’n fodlon darogan un peth gyda chryn sicrwydd – naill ai Arfon Jones (Plaid Cymru) neu David Taylor (Llafur) fydd Comisiynydd yr Heddlu nesaf yn y Gogledd.  
Gan bod y bleidlais wedi ei hollti’n weddol agos rhwng y Toriaid, Plaid Cymru a Llafur tros ranbarth (heddlu’r) Gogledd yn etholiadau Cynulliad 2011 byddai rhywun yn meddwl ar yr olwg gyntaf bod gobaith gan y Toriaid hefyd.  Ond etholiad dau gymal ydi hon lle ceir ail bleidlais, a chan bod gwleidyddiaeth y Gogledd fel y mae o bydd ail bleidleisiau cefnogwyr Llafur yn fwy tebygol o lawer i fynd i’r Blaid nag i’r Toriaid, a bydd ail bleidleisiau cefnogwyr y Blaid yn fwy tebygol i fynd i Lafur nag i’r Toriaid – mae’n anhebygol y caiff y Tori ei ethol.
Rwan mae’r arfer cymharol newydd o ethol comisiynydd a rhai manteision iddo – mae’n dod a democratiaeth a’r tryloywder sydd ynghlwm a hynny i waith yr heddlu. Ond mae’n dod a phroblemau hefyd – a dwy yn arbennig – mae’n creu risg bod y broses o blismona yn mynd yn un wleidyddol ac mae’n creu risg bod rhywun sydd a fawr o glem beth mae’n ei wneud yn cael ei hun yn gyfrifol am blimona.  Mae plismona effeithiol yn fater pwysig iawn.

Yn anffodus mae David Taylor yn cyfuno’r ddau risg.  Er ei fod wedi treulio cyfnod cymharol fyr yn rhedeg busnes, mae’r rhan fwyaf o’i yrfa wedi ymwneud a gweithio i’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd a gweithio fel ymgynghorydd arbennig i Peter Hain.  Does ganddo ddim profiad o blismona na gweinyddu’r gyfundrefn cyfiawnder.  Rhy ychydig o brofiad o blismona a gormod o brofiad o wleidyddiaeth os y mynwch chi.
Cymharwch hynny efo Arfon.  Mae wedi gweithio am ddeg mlynedd ar hugain fel heddwas, wedi gwneud amrywiol swyddi o fewn yr heddlu, ac wedi bod yn arolygydd.   Mae’n wir ei fod yn aelod o blaid ( a gadewch i ni fod yn onest, gyda’r etholiadau heddlu ar yr un diwrnod a rhai Cynulliad bydd yn nesaf peth i amhosibl i ymgeiswyr annibynnol gael eu hethol) – ond mae ei ddealltwriaeth o blismona wedi ei seilio ar brofiad ymarferol o – wel – blismona, ac nid ar ganfyddiad gwleidydd o’r hyn ydi plismona.  
Mae ganddo agwedd gall, ymarferol, ddyngarol a rhyddfrydig tuag at blismona – agwedd sydd yn deillio o wneud y gwaith tros gyfnod hir.  O’i ethol bydd yn gwybod beth mae’n ei wneud, a bydd y cyfeiriad mae’n ei osod wedi ei seilio ar brofiad, nid ar ddogma.
Mae’r term ‘rhowch ddwy bleidlais i’r Blaid’ yn cael ei ddefnyddio yn aml yn yr etholiad yma – ond bydd gennych dair pleidlais (neu yn wir pedair) ym Mis Mai.  Defnyddiwch eich pleidlais gyntaf yn etholiadau Comiwsiynydd yr Heddlu i sicrhau cyfeiriad gwybodus, aeddfed ac ymarferol i blismona yng Ngogledd Cymru. 

Maniffesto’r Blaid a methiant Llafur

Ar ol sterics a theatrics Llafur ddoe wedi cyhoeddi maniffesto Plaid Cymru mae’n siwr y dylid dweud gair am y ddogfen ei hun.  Mae’n ddogfen hir a hynod fanwl – ac mae’n torri tir newydd.  Nid maniffesto yw mewn gwirionedd ond cynllun i ail strwythuro’r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi anghenion pobl Cymru yn gyntaf ac anghenion strwythurau rheolaethol a llywodraethol yn ail.  Mae’n ddogfen wirioneddol arloesol, ac o’i gweithredu byddai’n gwella bywydau y rhan fwyaf o bobl Cymru mewn llawer o ffyrdd gwahanol.  Mae’n un o’r dogfennau mwyaf arwyddocaol i gael ei chyhoeddi yng Nghymru ers sefydlu datganoli – a chyn hynny.  Dylai unrhyw un sydd a diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ei darllen.  Gellir gwneud hynny yma.

Roedd ymateb y pleidiau eraill yn ddisgwyliadwy am wn i.  Disgrifiodd y Toriaid ddogfen gynhwysfawr sydd wedi ei chostio’n fanwl – ac yn annibynnol – fel ‘ffuglen’ – ond heb ehangu ar eu dadansoddiad treiddgar.  
Byddai rhywun wedi meddwl y byddai Llafur – efo’u record o lywodraethu sydd wedi cael Cymru ar waelod bron i pob tabl perfformiad Ewropiaidd – wedi petruso i edrych os oedd yna unrhyw syniadau y gallent eu derbyn yno – ond na, neidiodd yr hogiau ar ddehongliad oedd wedi ei wreiddio yn eu problemau llythrennedd eu hunain (diffyg dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng toriad / cut ac arbediad / saving) a honni bod y Blaid yn bwriadu torri £1.5 bn o’r Gwasanaeth Iechyd, er bod y ddogfen yn ei gwneud yn hollol glir y byddai’r gwariant ar iechyd yn cynyddu bron i £1bn erbyn 2020.  Yn wir aeth y gwirionaf a’r mwyaf hysteraidd ohonyn nhw y tu allan i ysbyty i ddychryn pobl oedd yn ymweld a pherthnasau sal efo gwybodaeth ffug a’u perswadio i roi eu henwau a’u cyfeiriadau ar ‘ddeiseb’.  ‘Dwi’n edrych ymlaen i weld pa ddefnydd sy’n cael ei wneud o’r wybodaeth bersonol yma sydd wedi cael ei hel ar sail anwiredd.
Dwi erioed wedi cael cymaint o negeseuon personol ar trydar na gefais i ddoe gan bobl oedd yn gandryll oherwydd y celwydd a’r camarwain.  ‘Does ‘na ddim pwynt gwylltio bois – a benthyg idiom Saesneg Don’t get mad, get even.  Y peth gorau fedrwch ei wneud ydi chwarae eich rhan yn y broses etholiadol er mwyn rhoi cyfle i’r Blaid gael gweithredu ar y ddogfen wych yma a thrawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru.  Gwnewch unrhyw beth yr ydych yn teimlo y gallwch ei wneud yn ystod y mis a deuddydd nesaf – canfasiwch, cyfranwch, taflenwch, siaradwch gyda chymdogion, ffrindiau a theulu, cymerwch boster gardd, perswadiwch eraill i wneud hynny, gwirfoddolwch i farcio yn y bythau pleidleisio, helpwch i gael y bleidlais allan ar y diwrnod, gwnewch yn siwr bod pawb yn eich teulu wedi cofrestru i bleidleisio, ystyriwch ofyn am bleidlais bost i bawb yn y teulu.  
Mae sterics ddoe wedi dangos gwacter Llafur – gwacter deallusol a gwacter ysbrydol.  Yn wyneb dogfen sy’n amlinellu’n fanwl sut i fynd i’r afael a’i methiant am ddwy flynedd ar bymtheg hir, yr unig ymateb oedd gan Lafur oedd neidio’n ol i’r un hen ffosydd – gwneidyddiaeth yr anterliwt, dychryn pobl, camarwain pobl, trin yr etholwyr fel petaent yn wan eu meddwl.  Doedd ganddyn nhw ddim byd arall i’w gynnig – dim oll, zilch.  
Os oes yna unrhyw beth yn crisialu’r hyn ydi Llafur yng Nghymru heddiw, wele’r trydariad hwn echdoe:
Mae’r blaid yn dathlu tlodi Cymru – tlodi sydd wedi cael ei greu gan ei cham lywodraethiant ei hun i raddau helaeth.
Mae Cymru’n haeddu gwell a gall Cymru wneud yn well – ond cyn i hynny ddigwydd mae’n rhaid i’r Blaid Lafur ‘Gymreig’ sydd wedi methu mor gyson ac am gymaint o amser fod yn rhywbeth ymylol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.  Mae yna gyfle i roi cychwyn go lew ar hynny ym mis Mai.  Peidiwch a gwastraffu’r cyfle.

Posteri gardd – Arfon

Mae Plaid Cymru Arfon wedi bod yn hynod llwyddiannus wrth gael posteri gardd allan yn ystod yr ychydig etholiadau diwethaf – yn wir byddwn yn mentro dweud ein bod wedi gwneud joban cystal os nad gwell nag unrhyw blaid leol arall yng Nghymru.

Rydym yn bwriadu cael mwy nag erioed allan y tro hwn.  Felly os ydych yn byw yn Arfon ac yn ddigon caredig i adael i ni wneud defnydd o’ch gardd ffrynt am ychydig wythnosau cysylltwch – naill ai trwy neges trydar uniongyrchol i @olafcailarsen, trwy ebost i cailarsenblgmenai@gmail.com, neu trwy neges destun ar +447795230072
ON – diolch i bawb fu wrthi’n brysur yn paratoi posteri heddiw – yn arbennig y boi yn y llun canol ar y dde o’r collage a’r lleiaf o’r ddau yn y llun chwith ar y brig.

Gwneud sioe o godi pais ar ol piso

O’r Financial Times:

Felly gorchest ydi’r holl ‘weithgarwch’ gan Lywodraeth Cymru tros y dyddiau diwethaf.  Roedd gweinidogion y llywodraeth yn gwybod o’r gore bod Tata am gau Port Talbot – ond wnaethon nhw ddim byd tan y datganiad y diwrnod o’r blaen.  Gwneud sioe o godi pais ar ol piso.
Mae’r stori bron yn ddameg o sut mae’r Blaid Lafur yng Nghymru’n gweithio -gwneud dim tan mae’n rhy hwyr, ac yna gwneud llawer o swn a beio’r Toriaid, ac wedyn syrthio i gysgu nes bod rhywbeth arall yn digwydd.

Hybu busnesau bach – postscript

Un pwt bach arall ynglyn a chynlluniau Plaid Cymru a chynlluniau Llafur Arfon i roi hwb i fusnesau bach.

Yn y bon cynllun Plaid Cymru i hybu busnesau bach ydi ail strwythuro’r gyfundrefn drethiannol mewn modd lle gellid cefnogi yn ariannol pob busnes efo gwerth ardrethol o hyd at £20,000.  Byddai hyn o gymorth 90,000 o fusnesau, gyda 70,000 ddim yn talu unrhyw drethi busnes o gwbl ac 20,000 yn talu llai o drethi.


Mae cynllun Llafur Arfon wedi ei seilio ar berswadio’r Cynulliad i orfodi trefi i gynnig parcio rhad ac am ddim am ddwy awr y dydd. Bu Llafur mewn grym ers 1999 wrth gwrs a dydyn nhw heb wneud hyn.  Efallai mai ‘r rheswm am hynny ydi y byddai cymryd camau o’r fath yn creu twll mawr du yng nghyllidebau cynghorau – yn arbennig felly rhai dinesig fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.  Byddai’n rhaid llenwi’r twll trwy dorri gwasanaethau, sacio gweithwyr neu godi treth y cyngor.

Ta waeth, yr hyn sy’n rhyfedd am y stori ydi nad ydi ymgeisydd Llafur yn Arfon – hyd y gwn i – erioed wedi dadlau ar lawr y cyngor y dylid cynnig parcio rhad ac am ddim yn nhrefi Gwynedd.  Byddai’n llawer haws sicrhau parcio rhad ac am ddim yng Ngwynedd trwy gael y cyngor i wneud hynny na thrwy gael y Cynulliad i greu deddf fyddai’n eu rhoi ben ben a phob cyngor bron yng Nghymru.

Rwan, efallai fy mod yn anghywir – ac fel arfer dwi ‘n mwy na bodlon cywiro camargraff os mai dyna’r sefyllfa – ond mae’n ymddangos bod Sion eisiau cynnig parcio rhad ac am ddim trwy’r Cynulliad – trywydd fyddai’n nesaf peth i amhosibl.  Serch hynny nid yw wedi ceisio gwneud hynny trwy drywydd haws o lawer – cael y cyngor sy’n uniongyrchol gyfrifol am godi am barcio yn Arfon i beidio a gwneud hynny.

Pam tybed?


Hybu busnesau bach

Cymharwch a chyferbynwch:

Gweledigaeth Llafur Arfon:
ON – mater i’r Cyngor Sir (corff mae ymgeisydd Llafur eisoes yn aelod ohono) ydi gosod prisiau parcio yng Nghaernarfon. 
Gweledigaeth Plaid Cymru:

PRESS RELEASE. DATGANIAD I’R WASG.

Plaid. www.plaid.cymru

Dydd Iau 31ain o Fawrth 2016. I’w ryddhau ar unwaith.

 

Cynllun trethi busnes Plaid Cymru yn ymestyn cymorth i 90,000 o fusnesau Cymreig

 

Bydd Cymru’n symud o gael y trethi busnesau bach uchaf i’r rhai isaf

 

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn torri trethi busnes i 80% o fusnesi Cymreig, dywedodd Leanne WoodArweinydd Plaid Cymru a Siân Gwenllian Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnesau Bach heddiw.

 

Cyn ymweld a busnesau bach ym Mangor, dywedodd Siân Gwenllian fod cynlluniau Plaid Cymru’n golygu y byddai pob busnes gyda gwerth ardrethol o hyd at £20,000 yn cael cynnig mwy o gefnogaeth. Byddai hyn yn helpu 90,000 o fusnesau, gyda 70,000 ddim yn talu unrhyw drethi busnes o gwbl ac 20,000 yn talu llai o drethi.

 

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnesau ac ymgeisydd y Cynulliad dros Arfon Siân Gwenllian:

 

“Mae gan Gymru ysbryd menter cryf ac rydym eisiau gwneud y mwyaf o’r brwdfrydedd hyn. Dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd Cymru’n symud o gael y trethi busnesau bach uchaf i’r rhai isaf, gan roi mantais gystadleuol newydd i ni wrth geisio dennu, cynnal a chymell sefydlwyr busnesau’r dyfodol.

 

“Byddai cynlluniau Plaid Cymru’n ymestyn toriadau trethi busnes i bob busnes gyda gwerth ardrethol o £20,000 gan olygu na fydd 70,000 o fusnesau yn talu unrhyw drethi o gwbl.

 

“Bydd Plaid Cymru yn helpu busnesau ym mhob cwr o’r wlad ac yn rhoi cymorth gwerthfawr iddynt yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.”

 

Ychwanegodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru:

 

“Mae 98% o fusnesau Cymreig yn fusnesau bach, ac mae Plaid Cymru o ddifri am roi cefnogaeth gref iddynt. Dyna pam fy mod wedi apwyntio  Siân Gwenllian yn Weinidog Cysgodol dros Fusnesau Bach, gan bwysleisio pwysigrwydd busnesau bach i’r economi Gymreig.

 

“Dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd 80% o fusnesau yn cael cymorth gyda threthi busnes, gan roi hwb werthfawr iddynt.

 

“Plaid Cymru yw blaid y busnesau bach a dan ein cynlluniau ni byddwn yn ei gwneud hi’n haws i fusnesau bach geisio am gytundebau sector cyhoeddus, byddwn yn sicrhau gwell mynediad i fusnesau bach i gyllid drwy sefydlu banc benthyca i fusnesau, a bydd Plaid Cymru’n rhoi mwy o arian yn eu pocedi drwy dorri trethi busnes.”


Cywiro datganiadau camarweiniol – rhan 12

Bydd darllenwyr Blogmenai yn falch o wybod nad Plaid Lafur Arfon sydd dan sylw y tro hwn, ond Dib Lems Gorllewin Caerdydd.  Dyma’r pamffled o dan sylw.

A dyma berfformiad trychinebus eu hymgeisydd yn etholiad y Cynulliad, yn etholiadau San Steffan y llynedd:
A dyma eu canlyniad dim cweit mor drychinebus yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011.
A dyma’r ganran maent wedi ei gael mewn is etholiadau yng Ngorllewin Caerdydd ers 2011 – Glan yr Afon 2015 4%, Pentyrch 2015 1%, Treganna 2014.3%, Glan yr Afon 2013 3%.  Yr ymgeisydd yn yr etholiad yma a’r sawl sy’n gyfrifol am y pamffled oedd eu hymgeisydd ym Mhentyrch – a chafodd o bosibl y canlyniad gwaethaf i’r Dib Lems yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru.
Felly am wn i y byddai unrhyw sylwebydd gwrthrychol yn dod i’r casgliad bod Cadan mor debygol o ennill yr etholiad fis nesaf yng Ngorllewin Caerdydd ag yw o godi’r meirw’n fyw neu droi dwr yn win.  Felly be goblyn ydi’r stwff Elections here are a close fight between the Dib Lems & Labour ‘ma?  
Wel – ag ystyried mai yn Llandaf mae’r pamffled yn cael ei ddosbarthu, mae’n debyg mai cyfeirio at etholiad Cyngor Caerdydd yn y ward honno mae Cadan.  Wele’r canlyniad yno, bryd hynny:
Felly mae Cadan yn dweud rhyw hanner gwir mewn ffordd – pleidleisiodd rhywbeth tros fil o unigolion gwahanol i ymgeiswyr ei blaid yn y ward fach hon mewn etholiad cyngor yn 2012 ac roedd Llafur yn ail agos.  Felly nid y celwydd noeth, di addurn y byddwn yn ei gael weithiau gan Blaid Lafur Arfon yma – ond ymgais i gamarwain trwy ddefnyddio gobyldigwc ystadegol – arbenigedd y Dib Lems ym mhob man.  Ystyrier
1) Dyma’r unig ward yng Ngorllewin Caerdydd lle cafodd y Dib Lems bleidlais barchus yn 2012.  Mae yna wyth ward arall – a doedd y Dib Lems ddim yn agos at fod yn gystadleuol mewn unrhyw un ohonyn nhw.  
2). Dydi Llandaf ddim yn uned yn etholiadau’r Cynulliad – ward braidd yn fach mewn uned llawer mwy ydi hi.  Fydd gan fawr o neb efo syniad na diddordeb pwy enilliodd yn Llandaf erbyn Mai 6ed.
3). Gallwn fod yn weddol siwr nad oedd y Dib Lems yn gystadleuol hyd yn oed yn Llandaf yn etholiadau Cynulliad 2012 a San Steffan yn 2015.  Tua 2,000 o bleidleisiau gafodd y Dib Lems trwy Orllewin Caerdydd ar y ddau achlysur – go brin bod unrhyw beth yn agos at hanner y rheiny yn Llandaf.  Trydydd neu bedwerydd oeddynt hyd yn oed yno yn 2012 a 2015 yn ol pob tebyg.
Felly yr hyn sydd gennym eto fyth ydi ymgais i dwyllo’r etholwyr.  Dydym ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl yr ydym yn eu parchu, nag yn eu trin fel idiotiaid.  Beth bynnag arall y gellir ei ddweud am drigolion Llandaf, nid idiotiaid mohonynt – o bell, bell ffordd.  Daw’r cyfle i dalu’r pwyth i Cadan a’i blaid am eu sarhau ym mis Mai.