Coeden Bres Hud y Toriaid

  • Felly yn ol maniffesto’r Toriaid o gael eu hethol byddant yn sicrhau nad ydi  treth y cyngor yn cynyddu, torri treth incwm, pwmpio pres i mewn i’r rhwydwaith ffonau symudol, talu am ofal preswyl, gofal plant, gwario mwy ar addysg, gwario ar yr M4 a pheidio a thorri gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd. 


Felly – yn anhygoel – mae’r Toriaid eisiau cynyddu gwariant a thorri trethi ar yr un pryd. I blaid sydd yn hoffi honni ei bod o gwmpas ei phethau mewn materion economaidd – mae’r ymdrech yma yn gryn sarhad i ddeallusrwydd yr etholwyr.  

Tybed yn lle maen nhw’n bwriadu planu’r Goeden Bres Hud?  

Rhag eich bod wedi anghofio _ _

_ _ y Canolbarth a’r Gorllewin y tro hwn.  Dim ond tair etholaeth sydd a mwy na 10% o fwyafrif – Meirion Dwyfor i Blaid Cymru sy ‘n gwbl ddiogel, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr – eto i Blaid Cymru a Threfaldwyn i’r Toriaid.

Ymgyrch bosteri Arfon

Fy nghar i a char Eurig bore ‘ma ar gyfer yr ail don o godi posteri ochrau G’narfon.  Roedd gennym ni 8 ar ol erbyn canol y prynhawn.  Roedd ‘na griwiau eraill allan mewn rhannau eraill o’r etholaeth hefyd.  Rydan ni eisoes wedi rhannu mwy o bosteri nag erioed o’r blaen, a rydan ni ‘n dal i orfod archebu.  Mae yna eitha sioe i’w gweld mewn rhannau helaeth o’r etholaeth erbyn hyn.

A wele Rheinallt a Dafydd wrthi yn Nyffryn Ogwen.

Diwrnod gogleisiol o ymgyrchu

I ddechrau dyna ni ‘fetro’ Glannau Mersi / Gogledd Orllewin Cymru.

Wedyn dyna i ni bolisi’r Toriaid o adael i geir yrru ar 80mha ar hyd yr A55 – a felly ei gwneud yn bosibl mynd o Gaer i Gaergybi 8.6 munud yn gynt ar yr adegau prin pan mae’n bosibl mynd ynghynt na chyflymder crwban ar y lon honno.  
Ac wedyn dyna i ni Carwyn Jones yn ateb cwestiynau ar un o brif raglenni etholiadol y Bib, llai na thair wythnos cyn etholiad, a neb yn gallu ei holi am ei faniffesto am nad yw wedi ei gyhoeddi eto.
Ac yna dyna UKIP am droi’r Cynulliad – deddfwrfa efo pwerau cyfyng iawn – yn rhywbeth rhyfeddol o gymhleth, gyda chynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol o gorff etholedig arall i gyd a o dan draed ei gilydd ym Mae Caerdydd.  

Delwedd mwyaf digri’r ymgyrch?

Rhywbeth wedi ei roi at ei gilydd mewn panic ar ol gweld pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu yn y Gogledd – a hyd yn oed wedyn mae’n ymddangos bod Llafur wedi anghofio bod bron i hanner poblogaeth y Gogledd yn byw i’r gorllewin o ‘r Rhyl.  

O wel, mae’n siwr bod y ‘metro’ yn dangos bod Llafur wedi rhoi ‘r ffidil yn y to yn Aberconwy a Gorllewin Clwyd.

Dal i ddisgwyl am gondemiad o dor cyfraith gan Lafur Arfon

Yn ol at ddifa posteri yn Arfon mae gen i ofn.  Mae yna adroddiadau am nifer o bosteri eraill wedi eu dwyn / torri mae gen i ofn.  
Byddwch yn cofio i mi (ymysg eraill) ofyn am gondemiad ddoe gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, Sion Jones – ond yn anffodus ni chafwyd ymateb.  Mae’n debyg y dyliwn egluro pam bod arweiniad cryf yn bwysig yn hyn o beth – ac mi wnaf hynny trwy gyfeirio at y cyfryngau cymdeithasol.
Fel rydym wedi trafod yn y gorffennol mae Llafur yn tueddu i’w chael yn haws i ddweud celwydd na phleidiau eraill oherwydd bod gan y blaid a’i haelodau ragdybiaeth (cwbl ddi sail) eu bod yn fwy moesol na neb arall.  Pan rydym o dan yr argraff ein bod yn well nag eraill, mae gwneud rhywbeth fyddai fel arall yn anerbyniol yn ymddangos yn llai anerbyniol.  Mae hyn yn ymestyn i faterion eraill – megis difa neu ddwyn posteri – ac mae’n ymestyn o waelod i frig y blaid.  Pwy allai anghofio Wayne David yn llenwi ei gar efo arwyddion roedd wedi eu dwyn yn 2011?  
Mae’r agwedd hefyd yn bodoli ar y gwaelod.  Cymerer y trydariad yma gan Owen Bracegirdle mewn ymateb i drydariad gan rhywun oedd yn cwyno bod ei bosteri wedi eu dwyn. Mi wnawn ni fod yn garedig efo Mr Bracegirdle a chymryd mai joc o rhyw fath ydi’r trydariad yn hytrach na bygythiad i dorri’r gyfraith.
Fel rheol byddwn yn anwybyddu trydariad o’r fath – ond mae’n ymddangos bod yna gysylltiad rhwng Mr Bracegirdle a Sion Jones a’r Blaid Lafur yn Arfon.  

Ymddengys bod Mr Bracegirdle a Sion Jones yn mynychu Weatherspoons, Bangor efo’i gilydd yng nghwmni Cymdeithas Lafur, Prifysgol Bangor.  
Neu cymerer y trydariadau yma:

Unwaith eto mae yna gysylltiad rhwng y trydarwr a’r ymgeisydd:
Rwan, ar y lleiaf – y lleiaf – mae’n rhesymol casglu bod agweddau o gwmpas y Blaid Lafur yn Arfon sy’n canfod dwyn a malu eiddo pleidiau eraill yn fater ysgafn.  Dydi torri ‘r gyfraith ddim yn fater ysgafn – a dyna pam ei bod yn bwysig bod Sion yn dangos arweiniad ac yn ei gwneud yn glir nad yw’r math yma o ymddygiad yn dderbyniol nag yn fater ysgafn.  Duw a wyr pam nad yw’n fodlon gwneud hynny.  

Ynglyn a gwrthod condemio tor cyfraith

Does yna ddim amheuaeth bod dwyn neu falu posteri etholiadol yn drosedd – i fod yn fanwl gywir mae’n debyg mai niwed troseddol neu ladrad fyddai’r cyhuddiad petai rhywun yn cael ei hun yn y llys am y peth – nid bod hynny prin byth yn digwydd.  Mae’n anodd dwyn neu falu poster heb dresbasu hefyd – er mai mater sifil yn hytrach nag un troseddol ydi hynny.

Beth bynnag cafodd nifer o bosteri’r Blaid eu dwyn a / neu eu malu ym mhentref Bethel ger Caernarfon tros y Sul.  Achosodd y digwyddiad gryn storm ar trydar gyda nifer go uchel o bobl yn cwyno am y peth.  Trwy gyd ddigwyddiad anffodus mae ymgeisydd Llafur Arfon yn byw ym Methel, a chafodd ei bosteri yntau lonydd.  
Yn gam neu’n gymwys rhoddodd ambell un ddau a dau at ei gilydd a chasglu mai cefnogwyr Llafur oedd y lladron posteri – nid bod neb yn honni bod Sion ei hun yn gyfrifol wrth gwrs.  Yn wir ‘dwi’n ‘nabod Sion ddigon da i wybod na fyddai’n ymhel a’r math yma o beth.
Fel y dywedais roedd yna storm drydar ynglyn a’r mater, a wna i ddim mynd trwy’r cyfan – gallwch fynd i edrych eich hun os oes gennych ddiddordeb.  Ond hoffwn ffocysu ar beth o’r dadlau rhwng Llion Jones a Sion.  Gweler isod:

Fel y gwelwch mae Llion yn flin oherwydd i rywun ddwyn poster o ardd ei dad oedranus liw nos.  Yr hyn sy’n anhygoel am y ddeialog ydi bod Sion yn gwrthod condemnio dwyn / malu posteri oni bai bod yr heddlu yn gwneud ymchwiliad.  Mae ymchwiliadau heddlu yn cymryd amser, efallai na fyddai’r heddlu yn dewis ymchwilio i’r mater, efallai nad oes neb am drafferthu tynnu sylw’r heddlu at y mater.  Ond mae dwyn / malu pethau pobl eraill yn dal i fod yn beth hollol anerbyniol i’w wneud – ac mae Sion yn gwrthod condemnio gwneud hynny.
Gan nad ydi o’n fodlon condemnio tor cyfraith ac argymell i bobl beidio a malu neu ddwyn mi wna i – er nad ydw i erioed wedi clywed am gefnogwyr Plaid Cymru yn dwyn neu falu posteri, ac er nad ydw i’n ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad.  
Felly – fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru, fel aelod o Bwyllgor Ymgyrch Plaid Cymru yn Arfon, fel asiant y Blaid yn y Gogledd, a fel rhywun dreuliodd y rhan fwyaf o ddydd Sadwrn yn gosod posteri yng Nghaernarfon – ‘dwi’n gofyn i bawb, yn gefnogwyr Plaid Cymru a chefnogwyr pleidiau eraill i adael llonydd i bosteri a deunyddiau etholiadol pleidiau eraill.  Byddai gwneud hynny ‘n groes i’r gyfraith ac mae mewn gwirionedd yn ymysodiad ar y broses ddemocrataidd.  
Na fo – doedd hynna ddim yn  boenus o gwbl –  er nad oes unrhyw awgrym bod cefnogwyr y Blaid yn gwneud y math yma o beth.  Pam goblyn bod Sion yn ei chael mor anodd i ddweud rhywbeth tebyg?

Posteri gardd Sian Gwenllian

Ymddiheuriadau i’r sawl yn eich plith sydd wedi gofyn am bosteri a heb eu cael eto.  Mae yna rai cannoedd o bosteri wedi eu dosbarthu tros y dyddiau diwethaf – ond mae mwy o bobl eisiau posteri nag oes gennym o bosteri ar hyn o bryd.  

Felly os ydych yn disgwyl am boster ond heb gael un, byddwch yn amyneddgar – mi geisiwn gael rhai i chi tros y 10 diwrnod nesaf.  Cysylltwch trwy neges trydar uniongyrchol i @olafcailarsen, trwy ebost i cailarsenblgmenai@gmail.com, neu trwy neges destun ar+447795230072