Gwir arwyddocad pol heddiw

Wele’r ffigyrau:
Etholaethau:
Llafur: 33% (-2)
Plaid Cymru: 21% (-)
Toriaid: 19% (-)
UKIP: 15% (-2)
Dib Lems: 8% (+2)
Eraill: 3% (-)
Rhestr:
Llafur: 29% (-2)
Plaid Cymru: 22% (+2)
Toriaid: 19 (-1)
UKIP: 15% (-1)
Dib Lems: 8% (+3)
Gwyrddion: 4% (-)
Eraill: 4% (+1)
Mae’r newidiadau oddi mewn i’r margin of error.  Yr hyn sydd braidd yn fwy arwyddocaol ydi bod gan y polau hanes o or gyfrifo’r bleidlais Lafur yng Nghymru.  Gor gyfrifwyd y bleidlais Lafur ym mhol Ebrill 2011 o tua 7%.  Petai’r un peth yn digwydd y tro hwn byddai Llafur yn cael tua 26% yn yr etholaethau a thua 22% ar y rhestrau.  Byddai canlyniad felly yn drychineb i Lafur, a byddai cyfres o’u seddi yn syrthio – gan gynnwys y cwbl ond un yng Ngogledd Cymru.  Mae’n debyg mai’r rheswm am y tan gyfrifo ydi oherwydd bod Llafur yn ei chael yn anodd iawn i gael eu cefnogwyr i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.
Rwan dydi hi ddim yn dilyn y bydd yr un peth yn digwydd y tro yma wrth gwrs – mae’n bosibl y bydd y polau yn adlewyrchu pleidlais Llafur yn well.  Ond mae yna bosibilrwydd y bydd y map gwleidyddol yn edrych yn dra gwahanol ar Fai 6 o gymharu a rwan.  

O Keele i’r Rhondda

Peidiwch a chamddeall rwan ‘does gen i ddim byd yn erbyn Keele – dim oll – wyddoch chi ddim, efallai y byddaf yn ymweld a’r lle rhywbryd yn y dyfodol.  Does gen i ddim byd yn erbyn Plaid Lafur Keele chwaith – ‘dwi’n siwr eu bod nhw’n bobl ddymunol iawn.  

Ond mae’n ddiddorol eu bod wrthi’n canfasio yn Ne Cymru.
Ac mae’n ddiddorol lle maent yn canfasio – Bro Morgannwg – sy ‘n sedd ymylol.
Canol Caerdydd – sydd eto yn sedd ymylol.
A’r Rhondda.
Mae’n adrodd cyfrolau am gyflwr y Blaid Lafur yng Nghymru bod y blaid yn y Rhondda – lle a arferai fod yn ymgorfforiad o gadernid Llafur – yn gorfod mynd i Keele i gael pobl i wneud eu canfasio iddyn nhw.  Ac nid  yng Nghanol Caerdydd, Bro Morgannwg a’r Rhondda yn unig mae’r actifyddion o Keele yn ymddangos.  Roedd rhai hefyd yn y gynulleidfa yn ystod lawnsiad maniffesto Llafur ddoe.

Gwir neges maniffesto Llafur

Ar ol yr holl ddisgwyl wele ymddangosiad y maniffesto byraf – 24 tudalen, llawer ohono’n luniau.  Dyma’r ymdrech fwyaf ddi sylwedd o lawer hefyd.  Ar adegau mae’n darllen mwy na rhestr o ddymuniadau na dim arall.

Gwasanaeth bysiau mwy effeithiol – ond dim gair am sut y bydd hynny ‘n cael ei wireddu.

Am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond dim gair am sut.
Son am addysg heb ddefnyddio’r gair athro nag athrawes.
Son am ddatgloi potensial y Gogledd – ddim gair am sut.
Eisiau ail fedyddio’r A55.
Ailadrodd, ailadrodd, ailadrodd – er mor fyr y ddogfen.
Heb ei chostio wrth gwrs.
Anelwig, aneglur, di ffocws.
Mae’r ddogfen – fel y ‘map’ ‘metro’ Gogledd Orllewin Lloegr / Glannau’r Gogledd Ddwyrain – yn adlewyrchu’n eithaf twt yr hyn ydi Llafur.  
Y neges mae’n ei rhoi i ni ydi hon – O gael ein hail ethol byddwn yn parhau i lawr yr un llwybr ag ydym wedi bod yn ei ddilyn am y pum mlynedd diwethaf – ymlwybro o un peth i’r llall, ymateb i bethau fel maent yn digwydd yn hytrach na gosod cyfeiriad, cyfyngu ein huchelgais i obeithio na fydd rhywbeth rhy ofnadwy yn digwydd.

Cywiro datganiadau camarweiniol – rhif 101

Wna i ddim ailadrodd fy hun – gallwch weld pam mae hon yn gamarweiniol yma.
Dydi celwydd ddim yn syndod wrth gwrs – ons mae’n dipyn y syndod bod Llafur yn trafferthu i ganfasio’r trydarwr – mae o’n aelod o’r Blaid, yn fotio i’r Blaid pob tro ac mae ganddo glamp o arwydd Plaid Cymru yng ngwaelod ei ardd.  Mae o’n gwneud i rhywun ofni braidd am ansawdd eu data – ac yn wir eu golwg.
O.N Dwi’n brysur rwan – ond mi fyddwn yn cael golwg ar faniffesto enwog Llafur pan ga i ddau funud.