Cydymdeimlo a Felix Aubel

Mae’n ddrwg iawn gan Blogmenai ddeall bod y Tori a’r gweinidog, Felix Aubel, yn cael problem anymunol efo gwrachod.  
Dwi’n siwr bod problem gwrachod yn beth digon annifyr – ac mae’n debyg y dyliwn fod yn ddiolchgar nad ydw i erioed wedi cael profiad cyffelyb.  Mae’n debyg mai’r rheswm am hynny ydi nad yw Felix a minnau yn troi yn yr un cylchoedd – mae o’n Dori o Gaerfyrddin tra fy mod i’n Bleidiwr o Wynedd.  
Dim ond dangos fel y dylem fod yn ddiolchgar am y bendithion yr ydym yn eu cael mewn bywyd.  

Delfrydau gwleidyddol cynnar Mark Reckless

Diolch i’r sawl ddaeth a’r canlynol i fy sylw – gohebiaeth etholiadol aelod cynulliad UKIP newydd Dwyrain De Cymru, Mark Rekless.

Pan gafodd ei ethol yn gyntaf yn Rochester & Strewd yng Nghaint –  tros y Toriaid wrth gwrs – ymddengys mai ei flaenoriaethau oedd amddifadu cynghorau Llafur o adnoddau ariannol (mae yna ddigon o ‘r rheiny yn Ne Ddwyrain De Cymru iddo eu herlid), gadael i elysennau a chwmniau preifat redeg ysgolion a chefnogi’r syniad o gael comiwsiynwyr heddlu.

Does yna neb am gyhuddo Mark o gychwyn ei yrfa efo delfrydau breuddwydiol a rhamantaidd. Duw a wyr sut ddelfrydau fydd ganddo pan mae ei yrfa wleidyddol yn tynnu tua’i therfyn a phrofiad bywyd wedi ei wneud yn chwerw a sinicaidd. 

Beth mae’r marchnadoedd betio yn ei ddweud wrthym am y refferendwm?

Wel, un peth maent yn sicr yn ei ddweud ydi bod Gogledd Iwerddon a’r Alban bron yn sicr o bleidleisio i aros yn Ewrop.  Mae 1/50 yr Alban yn awgrymu tebygolrwydd o 98% y bydd y wlad honno yn pleidleisio i aros tra bod 1/33 Gogledd Iwerddon yn awgrymu tebygolrwydd o tua 97%.  

Mae’r tebygolrwydd y bydd Cymru a Lloegr eisiau aros fodd bynnag yn is o lawer.  Mae 2/7 Cymru yn awgrymu tebygolrwydd o tua 78%, tra bod 2/5 Lloegr yn awgrymu tebygolrwydd o tua 71%.  Y ffigyrau tros y DU i gyd ydi 1/3 tros aros – tebygolrwydd o 75%.  Mae’r marchnadoedd betio gryn dipyn ynfwy hyderus mai’r ochr aros fydd yn ennill na’r polau piniwn.
Byddai canlyniad agos iawn lle mae gwahanol wledydd y DU yn pleidleisio mewn ffyrdd gwahanol yn achosi’r ffraeo mwyaf rhyfeddol.  Dwi ddim yn siwr beth fyddai’n achosi y mwyaf o anhrefn – y DU yn pleidleisio o fymryn i adael tra bod yr Alban yn pleidleisio’n drwm i aros, ‘ta’r DU yn pleidleisio o drwch blewyn i aros, ond bod Lloegr yn pleidleisio i adael.  Byddai’r naill ganlyniad neu’r llall yn gryn fygythiad i ddyfodol y DU.

Wyth rheswm i boeni am refferendwm Ewrop

Er bod y marchnadoedd betio yn parhau i awgrymu mai’r ochr aros fydd yn ennill yn refferendwm Ewrop ddiwedd y mis, mae’r polau wedi closio yn sylweddol yn ystod y dyddiau diwethaf – ac mae yna le i boeni bod pethau am fod yn agos iawn – ac y gallai’r ochr gadael ennill y dydd.

Yn fy marn i mae’r ymgyrch aros yn wynebu nifer o broblemau.  Dwi’n eu rhestru isod.

1). Mae arweinyddiaeth y Blaid Doriaidd yn arwain yr ymgyrch.  Oherwydd bod Cameron ac Osborne wedi treulio cymaint o amser tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn gwneud mor a mynydd o fod yn Ewrosceptiaid mae’r Ewrofrwdedd diweddar yn ymddangos yn ffug.  Mae’r cyferbyniad yma yn effeithio ar hygrededd yr ymgyrch.

2). Y negyddiaeth di ddiwedd – rydym eisoes wedi trafod hyn.

3).  Diffyg proffil arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr ymgyrch.  Mae yna leiafrif sylweddol o gefnogwyr Llafur sydd ddim yn eglur ynglyn a safbwynt eu plaid tuag at aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropiaidd.  Dydi hi ddim yn bosibl i’r ochr aros ennill y refferendwm yma oni bai bod mwyafrif clir o gefnogwyr Llafur yn pleidleisio i aros – ac yn dod allan i bleidleisio ar y diwrnod.

4). Y berthynas rhwng oedran yr etholwyr a’r patrymau pleidleisio.  Pobl mewn oed sydd fwyaf tebygol o bleidleisio i adael, a nhw hefyd sydd fwyaf tebygol i bleidleisio.  Pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o bleidleisio i aros, a nhw sydd leiaf tebygol o bleidleisio.  Bydd cyfraddau pleidleisio gwahaniaethol – a bydd hynny o fantais i’r ochr gadael.

5). Ar wahan i’r Alban yn Llundain mae’r gefnogaeth uchaf i’r ochr aros – ac mae cyfraddau pleidleisio yn tueddu i fod yn isel yn Llundain.  Serch hynny mae cyfraddau pleidleisio yn uchel yn yr Alban – a bydd yr ochr aros yn cael eu digolledu yn rhannol oherwydd hynny.

6).  Yr economi ydi prif gryfder yr ochr aros, mewnfudo ydi prif gryfder yr ochr gadael.  Dydi’r economi ddim yn y newyddion llawer ar hyn o bryd oherwydd nad oes yna ddim argyfwng ar y gorwel, mae mewnfudo a ffoaduriaid yn y newyddion dragwyddol oherwydd gwahanol argyfyngau’r Dwyrain Canol.

7). Fel rheol mewn refferendwm mae gan yr ochr sydd ddim eisiau newid fantais o’r cychwyn – mae yna lawer o bobl yn ofn newid o unrhyw fath.  Mae’r amgylchiadau’n wahanol yma – i lawer o bobl mewnfudo ydi prif yrrwr newid yn y DU.  I’r bobl hynny pleidlais yn erbyn newid ydi pleidlais i adael.

8). Mae’r rhan fwyaf o’r cyfryngau print poblogaidd eisiau – ac maent yn gwneud eu safbwynt yn gwnl glir.  

Gwilym Owen – rhan 101

Bydd yn dda gennych wybod na wna i ddim mynd trwy holl rant Gwilym Owen yn Golwg yr wythnos diwethaf – ailadroddiad o fyllio gwleidyddion Llafur yn syth wedi i Leanne Wood sefyll yn erbyn Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog Cymru ydi hi i pob pwrpas – ynghyd a chwyno yn erbyn y cyfryngau oherwydd nad oeddynt wedi gwneud digon o ymdrech i wyntyllu fersiwn Llafur o bethau.  

Yr hyn dwi am aros efo fo fodd bynnag ydi’r honiad bod y penderfyniad i sefyll yn anemocrataidd.  Roedd Gwilym yn seilio’r honiad ar y ffaith bod gan Lafur fwy o seddi na Phlaid Cymru a bod ganddi 27 sedd ‘agored’ ganddi i chwech Plaid Cymru.  
Yr hyn mae Gwilym yn ei olygu efo ‘agored’ ydi seddi etholaethol.  Mae dau ddosbarth o aelodau Cynulliad yng Nghymru (a’r Alban) rhai etholaethol a rhai rhanbarthol.  Llywodraeth Lafur Tony Blair greodd y gyfundrefn ranbarthol er mwyn mynd i’r afael a’r diffyg democratiaeth sydd ynghlwm a’r gyfundrefn etholaethol ar ei phen ei hun.  Mae’r blog yma wedi beirniadu’r system sawl gwaith – ond mae’n llawer tecach a mwy democrataidd na’r gyfundrefn etholaethol ar ei phen ei hun.  
Efallai ei bod werth edrych ar beth fyddai wedi digwydd ers cychwyn y Cynulliad petai’r gyfundrefn ranbarthol ddim yn bodoli – ac mai 40 yn hytrach na 60 aelod fyddai yn y Cynulliad.
Llafur
1999 – pleidlais 37.6%, seddi 67.5%
2003 – pleidlais 40%, seddi 75%
2007 – pleidlais 32.2%, seddi 60%
2011 – pleidlais 42.3%, seddi 70%
2016 – pleidlais 34.7%, seddi 67.5%
Mewn geiriau eraill byddai Llafur wedi bod a mwyafrif clir iawn ym mhob etholiad – hyd yn oed pan roeddynt yn ennill llai na thraean o’r bleidlais.  Dydyn nhw heb ddod yn agos at gael hanner y bleidlais mewn unrhyw etholiad Cynulliad.
Mae gan y gyfundrefn ranbarthol wendidau – a gwendidau arwyddocaol – ond mae hi’n llawer mwy democrataidd na’r gyfundrefn etholaethol ar ei phen ei hun.

Ynglyn a refferendwm Ewrop.

Ond ‘tydi’r ymgyrch refferendwm Ewrop ‘ma yn beth erchyll dywedwch?

Mewn un ffordd mae’n ymdebygu i refferendwm yr Alban efo’r llif di ddiwedd o negyddiaeth ac ymdrechion mwyfwy hysteraidd i ddychryn a chamarwain yr etholwyr gyda bygythiadau mwyfwy chwerthinllyd.  Yr unig wahaniaeth ydi mai un ochr oedd wrthi yn refferendwm yr Alban – mae’r ddwy wrthi bymtheg y dwsin yn yr ymgyrch yma.

Mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu bod tebygolrwydd o tua 75% mai’r ochr ‘Aros’ fydd yn ennill.  Mae’r polau wedi bod yn awgrymu hynny hyd yn ddiweddar hefyd – er bod dau bol sydd wedi eu rhyddhau heddiw yn awgrymu mai ‘Gadael’ fydd yn ennill.
Yn amlwg mi fyddaf i yn pleidleisio i aros – ond ‘dydi ‘r ochr ‘Aros’ heb wneud unrhyw ymdrech i greu delwedd bositif o ddyfodol yn Ewrop.  Dwi ddim yn hoffi negyddiaeth, a dydw i ddim yn credu ‘r darogan gwae sy ‘n dod o ‘r naill ochr na’r llall.  Mewn geiriau eraill byddaf yn pleidleisio i aros er gwaethaf yr ymgyrch idiotaidd, nid oherwydd yr ymgyrch honno.  
Rwan, dwi ddim eisiau swnio’n snob – ond mae yna wahaniaeth rhwng y rhan o ‘r boblogaeth sy’n debygol o bleidleisio i adael a’r rhan sy ‘n debygol o bleodleisio i aros.  Mae’r sawl sydd am aros yn tueddu i fod yn ieuengach, yn fwy addysgiedig ac yn gyfoethocach.  Mae ymgyrch sydd wedi ei seilio ar geisio dychryn pobl am weithio ‘n well efo pobl sydd wedi cael llai o addysg, a sydd yn dlawd.  Mae’n anos iddynt weld trwy’r celwydd, ac mae darogan gwae ariannol yn fwy o fygythiad iddynt.  Mae pobl sydd a mwy o addysg a sy ‘n gyfoethocach am edrych ar fygythiadau hysteraidd mewn ffordd wahanol.
Mae negyddiaeth a chodi bwganod yn fwy addas i ‘r ovhr ‘Gadael ‘ nag yw i’r ochr ‘Aros’.  Mae penderfyniad yr ochr ‘Aros’ i ymladd yr ymgyrch yn y ffordd yma yn gamgymeriad strategol sylfaenol – a gallai’n hawdd arwain yn uniongyrchol at ganlyniad trychinebus i’r refferendwm.

Week in Week Out a’r Gymraeg

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol nad ydi’r awdur pob amser yn cytuno efo’r BBC pan mae’n dod i faterion gwleidyddol, ond mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf erioed wedi cael lle i feddwl bod tueddiadau gwrthwynebus i’r Gymraeg yn neunydd cyfrwng Saesneg BBC Wales.

Welais i ddim o raglen Week in Week Out y noson o’r blaen chwaith – ond mae rhai a’i gwelodd wedi gweld natur newyddiaduraeth y rhaglen fel tystiolaeth o ddiwylliant gwrth Gymraeg yn y gorfforaeth.  Mae’n debyg ei bod yn hollol wir bod rhai o honiadau’r rhaglen wedi eu seilio ar ddata nad oedd llawer o hygrededd iddo  – ond bod cyfeiriad uniongyrchol at y data hwnnw wedi ei ddileu o’r rhaglen derfynol.  Mae’n ymddangos eu bod hefyd wedi rhoi llais i un ochr o’r ddadl – bod darparu hawliau i ddefnyddwyr y Gymraeg yn ddrud iawn – tra’n anwybyddu’r ochr arall i pob pwrpas.  Dydi’r naill wendid na’r llall ddim yn adlewyrchu’n arbennig o dda ar newyddiaduraeth y rhaglen, ac mae’n awgrymu rhagfarn ar ran y sawl oedd yn gyfrifol amdani – ond dydi hynny ynddo’i hun ddim yn awgrymu rhagfarn corfforaethol wrth gwrs.
Ond wedi dweud hynny mae’n bwysig bod y BBC – a darlledwyr eraill – yn ceisio ymarfer synnwyr cyffredin pan mae’n dod i faterion fel hyn.  Dydi ymdriniaeth newyddiadurol o’r Gymraeg ddim yr un peth ag ymdriniaeth newyddiadurol o faint o bres mae cynghorau yn ei wario ar brif weithredwyr, neu ar sut maent yn gweithredu eu cynlluniau unedol, neu sut mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn dosbarthu adnoddau i lywodraeth leol.  Mae yna fwy yn gyffredin mewn rhai ffyrdd efo hil neu grefydd.  
Mae materion felly yn faterion sensitif – ac mae yna reswm pam eu bod yn sensitif.  Mae cymdeithas yn aml wedi ei rannu ar seiliau crefyddol, ethnig neu ieithyddol – ac mae’n bwysig o safbwynt sicrhau cydlynnedd cymdeithasol nad yw rhai grwpiau yn teimlo bod yna ragfarnau strwythurol yn eu herbyn.  Mae gan ddarlledwyr gwladwriaethol gyfrifoldeb arbennig yn hyn o beth – mae canfyddiad o ragfarn yn erbyn grwp penodol gan ddarlledwr felly yn awgrymu rhagfarn gan y wladwriaeth ei hun. 
 Dydi ymddygiad y gorfforaeth yn ystod refferendwm annibyniaeth yr Alban ddim yn union yr un peth a’r hyn a drafodir ar hyn o bryd, ond mae’r canfyddiad (cwbl gywir) bod y BBC wedi cymryd ochr yn nyddiau olaf, ffrantig yr ymgyrch wedi niweidio delwedd y Gorfforaeth yn yr Alban – ac mae’n un o’r rhesymau tros y surni sydd yn parhau yn yr Alban ynglyn a thegwch y refferendwm – surni fydd yn arwain at refferendwm arall mewn ychydig flynyddoedd.  
Dydw i ddim yn dadlau nad oes trafodaeth i’w chael ynglyn  a chostau sefydlu hawliau cyfartal i grwpiau ieithyddol gwahanol yng Nghymru.  Mae pob dim yn agored i ddadl a thrafodaeth mewn democratiaeth iach.  Ond rhaid i ddadl felly gael ei chynnal mewn ffordd gall a theg – nid ar sail hysteria sy’n cael ei greu gan raglen sy’n seilio ei hymdriniaeth ar ddata amheus a sylwebaeth un ochrog.  
Calliwch bois.