Pam bod y marchnadoedd betio yn anghytuno efo’r polau?

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod fy mod wedi bod yn gymharol besimistaidd ynglyn a refferendwm dydd Iau.  Un o’r rhesymau am hynny ydi methiant yr ymgyrch Aros i greu dadl gadarnhaol o pam y dylid aros yn yr Undeb, ac un arall ydi symudiad y polau piniwn tuag at yr ochr Gadael.  Mae yna resymau eraill hefyd.
Serch hynny mae’r marchnadoedd betio wedi parhau i awgrymu mai’r ochr Aros fydd yn ennill y dydd. Ar hyn o bryd maen nhw’n awgrymu bod y tebygolrwydd o bleidlais aros tua 70%.  Rwan gall marchnadoedd betio fod yn anghywir – ac maen nhw weithiau.  Ond maen nhw’n fwy tebygol na pholau piniwn o fod yn gywir.  Y rheswm am hynny ydi bod marchnadoedd betio yn ystyried y polau, ond maen nhw’n ystyried amrediad o ffactorau eraill hefyd – ffactorau na all y polau eu hystyried.  Er enghraifft, pan lofruddwyd Jo Cox yn gynharach yr wythnos yma, ymatebodd y marchnadoedd betio yn syth fwy neu lai gan awgrymu tebygrwydd uwch y byddai’r ochr Aros yn ennill.  Mae hynny’n amlwg yn ganfyddiad synhwyrol – ond dydi’r polau cyfredol ddim yn adlewyrchu’r digwyddiad trist hwnnw eto.
Mi fyddwn i’n awgrymu bod y canlynol ymysg y ffactorau ychwanegol i’r polau mae’r marchnadoedd yn eu hystyried.  

1). Roedd y polau ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015 yn enwog o anghywir.  Does yna neb wedi egluro’r  gwahaniaeth yn llawn – ond y prif reswm mae’n debyg oedd bod gormod o bobl  ieuengach yn y sampl.  Mae pobl ieuengach yn llai tebygol o bleidleisio na phobl hyn mewn etholiadau arferol.  Mae’r cwmniau polau wedi mynd i’r afael a hyn trwy leihau’r nifer o bobl ieuengach yn eu samplau – ond does yna ddim ffordd o wybod i sicrwydd os bydd pobl ieuengach yn llai tebygol na phobl hyn o bleidleisio mewn refferendwm Ewrop.  

2). Mae digwyddiadau cymharol fach yn fwy tebygol o gael effaith ar batrymau pleidleisio mewn refferendwm na mewn Etholiad Cyffredinol.  Mewn Etholiad Cyffredinol mae’r rhan fwyaf o bobl o lawer – mwy na 70% mae’n debyg – yn pleidleisio yn union fel y gwnaethant yn yr Etholiad Cyffredinol blaenorol.  Does yna ddim ‘y tro o’r blaen’ yn y refferendwm yma.  Dydi’r balast o batrymau pleidleisio blaenorol ddim yn bresenol – ac mae hyn yn gwneud pethau yn fwy anwadal.  Ar ben hynny mae rhai cwmniau polio yn cymryd patrymau blaenorol i ystyriaeth cyn dod i gasgliadau blaenorol.  Dydi hynny ddim yn bosibl y tro hwn.  
3). Mae’r polau eu hunain yn anghyson.  Mae polau ar lein yn tueddu i roi pleidlais uwch i’r ochr Gadael na’r rhai ffon.   Dydi hi ddim yn glir pam bod hyn yn digwydd – ond yn amlwg mae’r polau ar lein, y polau ffon neu’r ddau yn anghywir.
4). Dydi’r polau ddim yn ‘gweld’ y sawl sydd newydd gofrestru – ac mae yna lawer iawn o bobl felly.  Mae’n debyg i 1.65 miliwn o bobl gofrestru fis diwethaf.  Mae’n debyg i hanner miliwn o bobl gofrestru ar y diwrnod cofrestru swyddogol olaf.  Cofrestrodd tua chwarter miliwn y diwrnod wedyn – wedi i estyniad gael ei ganiatau.  Roedd mwyafrif llethol y bobl hyn yn ifanc – ac mae’r ifanc yn fwy tebygol o lawer i bleidleisio i aros na’u rhieni.
5). Dydi’r polau ddim yn ‘gweld’ Prydeinwyr sy’n byw mewn gwledydd tramor chwaith.  Caiff Prydeinwyr sydd wedi byw yn y DU yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf bleidlais.  Am resymau amlwg mae’r rhan fwyaf o’r bobl hyn yn debygol o bleidleisio i aros yn Ewrop.  Mae yna tua 5.6m o Brydeinwyr yn byw y tu allan i’r DU.
6). Mae yna hen hanes o ogwydd tuag at y status quo yn nyddiau olaf refferenda.  Mae hyn yn digwydd ym mhob refferendwm bron.

Ymhle yng Nghymru fydd y bleidlais Aros a Gadael uchaf?

Diolch i Mabon am dynnu fy sylw at y tabl isod – sydd wedi ei gymryd o dabl Prydain gyfan sydd yn ei dro wedi ei goledu o ddata sydd wedi ei goledu o bolau Prydain gyfan.  Mae’r polau wedi symud tuag at yr ochr Gadael ers i’r ffigyrau gael eu casglu – ond maent yn parhau i ddarparu gwybodaeth ddiddorol ynglyn a lle mae’r gefnogaeth i Aros yng Nghymru ar ei gryfaf – ac ar ei wanaf.  
Mae’r patrymau yn weddol amlwg – pedair sir sydd a phrifysgolion mawr ynddynt sydd fwyaf tebygol o aros.  Mae’r siroedd sydd a chanran uchel o Gymru Cymraeg yn byw ynddynt hefyd yn uchel ar y rhestr.  Mae’r Cymoedd dwyreiniol yn isel ar y rhestr – Blaenau Gwent, Merthyr a Thorfaen.  Mae’r dair sir wedi derbyn symiau sylweddol o arian o Ewrop. Mae cefnogaeth i aros yn Ewrop yn gyffredinol gryfach yng ngorllewin y wlad.  Ceir perthynas rhwng cefnogaeth uchel i aros a sector amaethyddol fawr.

Ceir mwy o wybodaeth yma – 


Dwi ddim yn ddyn Facebook, ond deallaf bod ymdriniaeth ar dudalen Llyr ap Gareth.

Ymddiheuriadau am flerwch y lincs – dwi’n gweithio ar dablet sydd ddim yn cynnig llawer o hyblygrwydd ar Blogger.


Y blynyddoedd wedi’r refferendwm os y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropiaidd

Mae pethau’n edrych yn agos ar gyfer y refferendwm Ewrop – ac mae hynny’n rhannol oherwydd nad ydi’r gefnogaeth i’r ochr Aros ddim yn edrych mor soled ymysg y grwpiau y byddai rhywun yn disgwyl y byddai’n pleidleisio iddynt.  
Yn bersonol dwi ddim yn credu’r darogan gwae economaidd gan yr ochr Aros(na’r ochr Gadael).  Mae’n ddigon posibl y bydd anhrefn yn y marchnadoedd stoc ac arian tros dro os bydd y DU yn gadael yr Undeb – ond mae marchnadoedd a busnesau yn addasu’n sydyn i ‘r sefyllfaoedd sy’n eu hwynebu.  Yr hyn sydd yn fy mhoeni fi mwy ydi’r math o wladwriaeth y bydd y DU ar ol cyfnod maith o lywodraethu Adain Dde.  Gallai’n hawdd esblygu i fod yn wladwriaeth o fath tra gwahanol i’r hyn ydyw ar hyn o bryd.
Bydd y Dde oddi mewn i’r Blaid Geidwadol yn ennill goruwchafiaeth.  Bydd rhaid i Cameron ymddiswyddo, ac os na wnaiff hynny bydd yn cael ei wthio.  Bydd aelodaeth y Blaid Geidwadol yn dewis arweinydd sy’n erbyn Ewrop – a bydd hwnnw / honno ar asgell Dde ei blaid.  Mae yna resymau pam y bydd y Blaid Geidwadol yn anodd i’w symud o lywodraeth am flynyddoedd lawer.  
Dydi’r anhrefn oddi mewn i’r Blaid Lafur ddim yn debygol o leihau hyd yn oed os nad Corbyn fydd yn eu harwain i’r etholiad nesaf.  Mae’n amlwg bod aelodaeth cyffredin y blaid Lafur a’u haelodau etholedig mewn dau le gwahanol – cwbl wahanol – ar hyn o bryd.  Tra bod y sefyllfa yna’n parhau mae am fod yn hynod anodd i Lafur wneud argraff mewn etholiad cyffredinol.

Un o ‘r ychydig bethau y gallwn fod yn siwr ynglyn a nhw am ganlyniad y refferendwm ydi y bydd yr Alban yn pleidlesio i aros yn y DU.  Erbyn hyn mae diwylliant gwleidyddol yr Alban yn gwbl wahanol i un gweddill y DU.  Does gan yr Alban ddim dyfodol hir dymor yn y DU beth bynnag – mae natur demograffaidd y gefnogaeth i adael y DU yn ei gwneud yn hynod debygol y bydd yn gadael mewn llai na dau ddegawd beth bynnag.  Gallai cael ei gorfodi i adael yr UE – wedi i’r perygl i aelodaeth yr Alban yn y DU gael ei ddefnyddio fel un o’r prif ddadleuon yn erbyn annibyniaeth i’r Alban – yn hawdd arwain at yr Alban yn cael refferendwm cyn 2020 – a gallai’r canlyniad fod yn wahanol y tro hwn. 

Yn ychwanegol at hynny, bydd y ffiniau etholiadol wedi newid yn sylweddol erbyn 2020, newidiadau fydd yn dileu’r fantais strwythurol sydd gan Llafur yn y gyfundrefn etholiadol sydd ohoni.  Bydd yn llawer, llawer anos i lywodraeth sy’n cael ei harwain gan Lafur ddod i rym eto yn y dyfodol canolig.
Byddai’r newid ffiniau, a’r gwrthdaro mewnol gan Lafur ac – o bosibl ymadawiad yr Alban a’r DU – wedi digwydd beth bynnag wrth gwrs.  Mae’n ddigon posibl y byddai blynyddoedd maith o lywodraethau Adain Dde o’n blaenau beth bynnag.  Mae’n ddigon posibl y byddai’n rhaid i’r Blaid Lafur symud i’r Dde ac i gyfeiriad y tir canol newydd beth bynnag.
Ond yr hyn fyddai’n gwahanol petai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropiaidd ydi y byddai llywodraeth felly yn cael rhwydd hynt i wneud yr hyn fyddai eisiau ei wneud.  Fyddai yna ddim deddfwriaeth Ewropiaidd i atal i’r llywodraeth gymryd pa bynnag lwybr y byddai am ei gymryd.  Petai eisiau cyfyngu ar hawliau gweithwyr – a’i alw’n ddeddfwriaeth busnes gyfeillgar – gallai wneud hynny.  Petai eisiau cryfhau gallu’r wladwriaeth i gyfyngu ar hawliau sifil – gallai wneud hynny hefyd.  Petai eisiau cael gwared o ddeddfau amddiffyn data gallai wneud hynny.  Gallai hefyd gael gwared o ddeddfwriaeth cyflogaeth cyfartal, deddfwriaeth i atal discrimineiddio ar sail crefydd, hil, rhyw, oed ac ati, deddfwriaeth sicrhau hawliau sylfaenol i bobl sy’n dioddef yn sgil tor cyfraith, 

Gallai’r DU mewn ugain mlynedd fod yn rhywbeth tra gwahanol i’r hyn ydyw heddiw.

Beth mae Loughinisland yn ei ddweud wrthym am y cyfryngau Prydeinig?

Mae’r stori heddiw am Ombwdsman yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon yn cadarnhau’r hyn roedd y rhan fwyaf o bobl sydd a diddordeb yng Ngogledd Iwerddon yn ei wybod beth bynnag – bod cysylltiadau agos rhwng y sawl a lofruddiodd 6 dyn oedd yn gwylio gem bel droed mewn bar yn Loughinisland, Swydd Down yn 1996 a’r heddlu – yr RUC. Mae’r adroddiad hefyd yn cysylltu’r lluoedd diogelwch efo mewnforio arfau anghyfreithlon i Ogledd Iwerddon – arfau a ddefnyddwyd i lofruddio 70 o Babyddion.

Y perygl efo’r ffordd mae’r adroddiadau ar y cysylltiadau rhwng y lluoedd diogelwch yng Ngogledd Iwerddon a llofruddiaethau gan grwpiau parafilwrol teyrngarol yn cael eu rhyddhau yn araf bach tros gyfnod o flynyddoedd ydi i bobl feddwl mai digwyddiadau ynysig a phrin oedd y digwyddiadau.  Y gwir ydi bod yna gysylltiadau rhwng y lluoedd diogelwch a channoedd o lofruddiaethau parafilwrol.
Er enghraifft roedd cysylltiad clos rhwng y lluoedd diogelwch a’r Glennane Gang ym mlynyddoedd cynnar yr ymladd.  Llofruddwyd 120 o bobl gan y grwp hwnnw.  Mae yna lawer o enghreifftiau eraill.
Rwan, doedd hyn i gyd ddim yn digwydd mewn gwagle.  Roedd llawer o’r wybodaeth sy’n cael ei ddatgelu yn raddol ar hyn o bryd ar gael yn ystod y cyfnod.  Roedd yna honiadau bod cysylltiad rhwng yr RUC a Loughinisland o’r dechrau’n deg – ac roedd hynny ‘n wir am lawer o lofruddiaethau teyrngarol eraill.  Parhaodd y sefyllfa yma trwy gydol y cyfnod fwy neu lai – un rheswm am hynny oedd na chymrodd y cyfryngau torfol fwy neu lai ddim diddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd – a’r rheswm am hynny oedd oherwydd eu bod yn ystyried mai eu prif bwrpas oedd cefnogi llywodraeth y DU yn eu rhyfel yn erbyn y gwahanol grwpiau parafilwrol gweriniaethol.
Roedd hynny’n hynod o anffodus gan bod dealltwriaeth llywodraethau Prydeinig o ‘r sefyllfa roeddynt yn ymgodymu a hi yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod yn sylfaenol wallus.  Yn ystod blwyddynyddoedd cyntaf y gwrthdaro roedd llywodraeth y DU yn dehongli’n gywir – roedd yn cydnabod mai adlewyrchiad o broblem wleidyddol ehangach oedd y gwrthdaro ar y strydoedd – ac roeddynt yn ceisio dod o hyd i atebion gwleidyddol (yn ogystal a milwrol).  Ond newidwyd polisi yn y saith degau canol a dechreuodd y llywodraeth drin y broblem fel un droseddol syml.  Dyna arweiniodd at y llysoedd di reithgor, at ddiddymu statws gwleidyddol i garcharorion, at yr ymgeisiadau cyfryngol i gysylltu parafilwriaeth gweriniaethol efo pob math o dor cyfraith arall.  
Dydi hi ddim yn bosibl – gan amlaf – datrys problem wleidyddol trwy smalio mai un droseddol syml ydi hi. O ganlyniad i’r arfer o drin carcharorion parafilwrol fel drwgweithredwyr cyffredin cafwyd y protestiadau budur yn y Maze, ac arweiniodd hynny yn ei dro at yr ymprydio a’r marwolaethau yn y carchar hwnnw – cyfres o ddigwyddiadau a fwydodd y trais a’r anhrefn am flynyddoedd maith wedyn Ac yna – o ‘r diwedd – yng nghanol y naw degau – penderfynwyd trin y broblem fel un wleidyddol unwaith eto, a chafwyd datrysiad o fath i broblem oedd yn ymddangos yn amhosibl i’w datrys.
A thrwy hyn oll methodd y cyfryngau yn llwyr – methwyd gweld ymgyrch o lofruddio secteraidd oedd yn cael ei yrru i raddau helaeth gan bobl oedd yn cael eu cyflogi gan lywodraeth y DU, a methwyd a beirniadu dehongliad o’r gwrthdaro oedd yn amlwg hurt, ac yn arwain at fwy o wrthdaro.  
Mae’r holl hanes yn adrodd cyfrolau am y cyfryngau Prydeinig – mae yna anghytuno chwerw rhyngddynt tros fanion, ond pan mae’n dod i faterion tramor, neu sefyllfaoedd sy ‘n cael eu dehongli fel bygythiadau i’r DU maent yn rhyfeddol o debyg.