Ysgol Feddygol i’r Gogledd gam yn nes

Ychydig iawn o flogiadau Blogmenai sydd wedi eu ‘sgwennu gan neb ag eithrio fi – mae yna un neu ddau yn y gorffennol pell.  Ond dwi’n falch o ddweud i Sian Gwenllian gytuno i gynhyrchu un heddiw yn dilyn ei chwestiwn i Carwyn Jones ynglyn a sefydlu ysgol feddygol ym Mangor.  

Mae’n fater o bwys sylweddol i’r Gogledd Orllewin – ac mae gam yn nes o gael ei wireddu heddiw.


Mae sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor gam yn nes heddiw wrth i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gydnabod fod angen ystyried creu cynllun busnes ar gyfer sefydliad o’r math fel rhan o gynllun hyfforddi doctoriaid newydd ar draws Cymru. 




Mae’r compact rhwng Plaid Cymru a Llafur yn cynnwys ymrwymiad gan Lafur i greu cynllun i hyfforddi yn ogystal ag i recriwtio mwy o ddoctoriaid. Mae hyn yn gam mawr ymlaen yn y gwaith o wella’r NHS. Mae’n glod i waith y Blaid wrth negodi’r compact grewyd ar sail cytuno i beidio pleidleisio yn erbyn enwebiad Carwyn Jones fel y Prif Weinidog newydd. 


Wrth gwrs mae angen hyfforddi gweithwyr iechyd eraill hefyd i ddiwallu’r prinder staff ond heddiw, yn ystod seshiwn cwestiynau Prif Weinidog, fe benderfynais ganolbwyntio ar ddoctoriaid gan gymryd y cyfle i son am Ysgol Feddygol i’r Gogledd ym Mangor. 


Ar hyn o bryd, does dim dewis gan ein pobol ifanc sydd a’u bryd ar fod yn ddoctoriaid – rhaid iddyn nhw fynd i Dde Cymru neu i un o wledydd eraill y DU i hyfforddi. Mae tystiolaeth yn dangos fod doctoriaid yn aros i weithio yn yr ardal lle cawson nhw eu hyfforddi. Prin iawn yw’r doctoriaid rheini sy’n dychwelyd i weithio i froydd eu mebyd, er efallai mai dyna oedd eu dyhead gwreiddiol. 


Byddai sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor gan adeiladu ar yr arbenigedd meddygol sydd yno’n barod yn creu gweithlu newydd i’r Gogledd, llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg gan wella’r gwasanaeth i bobol yr ardal. Cafwyd cam pendant ymlaen heddiw pan gytunodd Carwyn Jones fod angen ystyried creu cynllun busnes. 

Byddaf yn dal ati efo hyn dros y misoedd nesaf.

Sian Gwenllian 

Yr etholiad yn Arfon – ychydig o nodiadau

Mi fydda i’n ceisio peidio bod yn rhy blwyfol ar Flogmenai – ond cyn fy mod wedi treulio tipyn o amser yn ymgyrchu yn Arfon ar gyfer etholiad eleni, dwi’n siwr y bydd darllenwyr y blog sy’n byw y tu allan i’r etholaeth yn maddau i mi am gynhyrchu ychydig o nodiadau ar berfformiad y Blaid – a phleidiau eraill – yn yr etholaeth.

Mewn wyth etholaeth yn unig cafodd unrhyw blaid fwy na 50% o’r bleidlais.  Plaid Cymru enillodd dair o ‘r rheiny, Llafur enillodd bedair a Kirsty Williams un.  Roedd canran y Blaid yn Arfon yn uwch nag yn unman arall ag eithrio Ogwr – sy’n golygu bod y ganran o’r bleidlais gafodd Sian Gwenllian yn uwch na’r ganran gafodd Carwyn Jones na’r un o’i aelodau cabinet neu weinidogion eraill.  Mae hyn yn gryn gamp i rhywun sy’n sefyll am y tro cyntaf, a sydd o ganlyniad heb gael y cyfle i adeiladu pleidlais bersonol ar hyd a lled yr etholaeth.

Mae gan Lafur bleidlais barchus yn Arfon – 34%.  O ganlyniad mae gwleidyddiaeth yr etholaeth wedi ei bolareiddio mwy nag yn unman arall yng Nghymru.  Pleidleisiodd 89% o’r etholwyr i’r Blaid neu i Lafur.  Dim ond yn y Rhondda ceir polareiddio tebyg – gydag 87% yn pleidleisio i’r ddwy blaid gyntaf.  
Tra bod y 3% y cafodd y Dib Lems yn yr etholaeth yn eithaf nodweddiadol o’u pleidlais tros y rhan fwyaf o Gymru, roedd y 6% y cafodd y Toriaid yn anarferol o isel.  Dim ond yn y Rhondda (2%) roedd eu pleidlais yn sylweddol is – roedd y ganran yn Arfon yn debyg i ganran Merthyr, Cwm Cynon ac Aberafon.  Mae’n eithaf sicr y byddant wedi colli eu hernes petai UKIP wedi trafferthu sefyll yn yr etholaeth.  Yn y Rhondda yn unig y collodd y Toriaid eu hernes y tro hwn.  Mae’n hawdd anghofio bod tua 40% o’r etholaeth (Ogwen a Bangor) yn cael eu cynrychioli gan Dori yn San Steffan hyd at 1997.  Y Dib Lems druan oedd eu prif wrthwynebwyr tan y flwyddyn honno – cawsant eu goddiweddyd gan Beti Williams (Llafur) y flwyddyn honno.  Cafodd Sian bump gwaith cymaint o bleidleisiau na’r Toriaid a’r Dib Lems efo’i gilydd.  
A son am Fangor, dwi’n credu mai Bangor ydi’r unig ddinas i gael ei chynrychioli erioed gan Blaid Cymru ar lefel Cynulliad neu San Steffan – ond roedd y Blaid ymhell ar y blaen yno, gan ennill 8 o’r 10 ward – rhai ohonynt gyda mwyafrifoedd anferth.  Roedd Bangor yn dipyn o gadarnle i’r Blaid yn 2016.  
Er bod Llafur (fel arfer) yn hynod hyderus o gipio’r sedd – ac wedi llusgo rhes di ddiwedd o weinidogion i’r etholaeth tros y misoedd diwethaf ni chawsant bleidlais arbennig o uchel. Cawsant ganran uwch mewn 28 etholaeth arall a phleidlais uwch mewn 31.  Deugain etholaeth sydd yng Nghymru i gyd.  
Yn anarferol roedd y gyfradd pleidleisio yn uwch yn Arfon nag oedd yn y rhan fwyaf o etholaethau tebyg.  Yn wir roedd yn uwch nag oedd yn unrhyw etholaeth yng Ngwynedd, Ynys Mon, Conwy, Fflint, Dinbych na Wrecsam.  

Etholiad 2016 y Toriaid vs Plaid Cymru

Mae’n debyg gen i bod yna deimlad i Blaid Cymru wneud yn eithaf da yn etholiadau Mai 5 tra bod yToriaid wedi gwneud yn sal.  Ar un olwg mae hyn yn rhyfedd braidd gan bod nifer pleidleisiau a nifer seddi’r ddwy blaid yn debyg iawn.  Serch hynny dwi’n credu bod y canfyddiad yn un cywir – yn arbennig os ydym yn edrych tua’r dyfodol yn hytrach nag aros efo’r canlyniad ei hun.

Mae Vaughan wrth gwrs yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith bod y Toriaid yn y Cynulliad yn edrych yn griw digon llwyd o gymharu a’r pleidiau eraill – mae nifer o aelodau newydd wedi eu hethol i Lafur a Phlaid Cymru, mae holl aelodau UKIP (ag eithrio Nathan Gill o bosibl) yn wynebau newydd yn y cyd destun Cymreig, ac mae’r Lib Dems i bob pwrpas wedu eu llyncu gan y Blaid Lafur ar lefel Cynulliad.

Ond mae yna broblemau pellach yn wynebu ‘r Toriaid Cymreig hefyd.  Yn gyntaf mae ganddynt gystadleuaeth ar y Dde – rhywbeth nad oedd yn wir yn y gorffennol.  Bydd cystadleuaeth o’r Dde ynglyn a sut i feirniadu’r weinyddiaeth Lafur – bydd yn feirniadaeth mwy lliwgar, mwy popiwlistaidd – a mwy boncyrs nag unrhyw beth fydd gan y Toriaid i’w gynnig.  Bydd ymateb i hyn yn fater braidd yn anodd i’r blaid.  Ydi hi’n ceisio cystadlu efo UKIP? – rhywbeth fyddai yn ei llusgo i’r Dde ac oddi wrth tir canol gwleidyddiaeth yng Nghymru.  Ydi hi’n anwybyddu UKIP? – cwrs fyddai’n arwain ati’n cael ei thaflu i’r cysgod gan rethreg mwy lliwgar ei chyd blaid Adain Dde.
I raddau mae’r Toriaid wedi ffeirio lle efo’r Blaid yn yr ystyr yma – roedd y Blaid yn cystadlu efo’r Lib Dems, a Kirsty Williams yn arbennig yn y senedd diwethaf i feirniadu Llafur.  Mae’r llwyfan hwnnw yn gwbl glir i’r Blaid bellach – ac o farnu o berfformiad hynod ymosodol wythnos gyntaf y senedd newydd mae’n bwriadu cymryd llawn fantais o hynny.  
Ond mae yna fater arall hefyd – sef perfformiad etholiadol y Blaid Doriaidd.  Syrthiodd ei phleidlais y tro hwn wrth gwrs – a chollodd ei statws fel y prif wrthblaid.  Ond dydi’r  Blaid Doriaidd ddim yn gystadleuol mewn rhannau helaeth o Gymru – a dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw arwyddion o wella ar hynny.  Cymerer y Gymru Gymraeg er enghraifft.  Ynys Mon – 12%, Arfon 8%, Dwyfor / Meirion 16%, Ceredigion 7%, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr – 15%.  Mae eu perfformiad yng Nghymoedd y De yn llawer gwaeth.  Dydyn nhw ond yn llwyddo i gael mwy na 10% ar ymylon y Cymoedd – yn Nhorfaen, Pontypridd, Ogwr a Chastell Nedd.  Roedd eu pleidlais mewn digidau sengl yng ngweddill y Cymoedd – 2% oedd eu canran yn y Rhondda.  Mae eu cefnogaeth yn parhau i fod wedi ei wreiddio yn yr ardaloedd a arferid eu disgrifio fel ‘y Gymru Seisnig’.  Does yna ddim tystiolaeth bod unrhyw strategaeth o gwbl ar gyfer newid hyn.
Eto mae yna gyferbyniad i’w gwneud  efo Plaid Cymru.  Gydag un eithriad nodedig nad oes angen ei henwi enilliodd ei seddi uniongyrchol ym mherferfedd diroedd traddodiadol yr iaith Gymraeg.  Ond dangosodd bod potensial iddi dyfu mewn rhannau eraill o Gymru.  Roedd canlyniad Gorllewin Caerdydd yn dangos y gall berfformio’n gryf mewn dinasoedd – rhywbeth nad ydi’r Blaid wedi llwyddo i’w wneud o’r blaen. Roedd y perfformiad rhanbarthol yng Ngorllewin De Cymru ac ym Mlaenau Gwent  ( a’r Rhondda wrth gwrs) yn dangos bod potensial gwirioneddol iddi yn y Gymru ol ddiwydiannol.  Roedd perfformiadau’r Blaid yn etholiadau’r heddlu yn dangos bod iddi hefyd gefnogaeth ‘feddal’ yn y llefydd mwyaf anisgwyl.  Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud iddi ennill ar yr ail bleidlais ym mhob etholaeth yn y Canolbarth a’r Gorllewin a’r Gogledd.  
Gall un o’r ddwy blaid edrych ymlaen at 2021 gydag hyder – ac nid y Blaid Doriaidd ydi honno. 

Unig lais y Lib Dems yng Nghymru _ _

_ _ bellach ydi un Mark Williams.

Rwan efo Kirsty Williams wedi ei thraflyncu gan y Blaid Lafur, Mark Williams ydi ‘r unig Dib Lem sy’n wleidydd proffesiynol yng Nghymru sydd mewn sefyllfa i ddweud ei ddweud. Roedd cau ceg un o’i feirniaid llymaf a mwyaf effeithiol yn y ffordd yma yn un peth clyfar o leiaf mae Carwyn Jones wedi llwyddo i’w wneud.

Y tro diwethaf i ni fod mewn sefyllfa pan mai un Dib Lem yn unig oedd mewn sefyllfa i agor ei geg oedd cyn etholiad 97, pan mai Alex Carlile oedd unig aelod seneddol Cymreig ei blaid.  Roedd Alex Carlile – beth bynnag ei wendidau – yn llais effeithiol a phendant, a felly hefyd Kirsty Williams.  
Bydd Mark Williams yn – sut allwn ni roi hyn mewn ffordd gweddol gwrtais? – yn lais cyhoeddus llai pendant a llai effeithiol na Kirsty Williams, Alex Carlile – ac yn wir pob arweinydd arall y gallaf feddwl amdano mae’r Dib Lems wedu ei gael yng Nghymru.  
Mae’r ffaith bod Kirsty Williams wedi gadael y llong dyllog yn nwylo Mark Williams yn awgrymu ei bod hi o leiaf wedi rhoi’r ffidil chwedlonol yn y to o safbwynt adfer ei phlaid.  ‘Dydw i ddim yn gweld bai arni hi.

Dameg y Blaid Lafur

Felly dyna ni wedi cyrraedd diwedd y stori fach yma – ac un dda oedd hi hefyd.  Mae hi bron yn ddameg o’r hyn ydi ‘r Blaid Lafur yng Nghymru.

Dyna ni’n dechrau efo Carwyn Jones yn methu a chael mwyafrif llwyr, ond yn penderfynu ymddwyn fel petai ganddo un.  Felly dyma wrthod dod i unrhyw delerau efo Plaid Cymru, wrthod gohirio’r bleidlais am Brif Weinidog, fethu paratoi ar gyfer y bleidlais, fethu ymateb i sicrhau ei safle pan ddywedwyd wrtho bod Leanne am sefyll yn ei erbyn.  Ac o ganlyniad methodd ennill y bleidlais.
Dilynwyd hyn oll gan gorwynt ryfeddol o fyllio, tantro a phalu celwydd gan Lafurwyr bach a mawr. Yn naturiol ddigon roedd y Bib yn awyddus i fod yn rhan o’r sterics, ac i ffwrdd a nhw i fyny ‘r A470 i Flaenau Gwent – lle’r oedd etholwyr newydd bleidleisio i’r Blaid mewn niferoedd sylweddol – i ailadrodd peth o gelwydd Llafur – fel petai’n Efengyl – wrth drigolion anffodus yr etholaeth.
Ac yna dechreuodd Llafur siarad efo UKIP a’r Toriaid a daeth y myllio, y stampio traed, yr hefru a’r moesoli i ddiwedd di symwth. Dechreuodd Andrew RT Davies awgrymu na fyddai ei blaid yn pleidleisio yn erbyn erbyn Carwyn Jones eilwaith.  
Doedd  Llafur ddim yn awyddus i dderbyn sel bendith o’r cyfeiriad yma a phenderfynwyd  mai’r unig ffordd gall i sicrhau bod eu harweinydd yn ennill  oedd trwy siarad a chyfaddawdu efo Plaid Cymru, digwyddodd hynny, ac agorwyd y ffordd yn ddi drafferth at  ethol Carwyn Jones.  
Mae’r holl stori bron yn ddameg o’r hyn ydi’r Blaid Lafur yng Nghymru – trahaus, twp, wedi ei hargyhoeddi bod ganddi hawl dwyfol i reoli, celwyddog, hysteraidd, rhagrithiol – ond a’r gallu i fod yn ymarferol, synhwyrol a hyblyg pan mae’r hyn mae’n ei charu fwyaf o dan fygythiad – ei ‘hawl’ i reoli.

Y dirywiad ym mhleidlais Llafur

Dwi’n gwybod nad ydan ni i fod i gymharu etholiadau o fathau gwahanol i’w gilydd.  ‘Dwi’n gwybod bod cyfraddau pleidleisio yn is mewn etholiadau Cynulliad a dwi hefyd yn gwybod bod etholiadau Cynulliad yn llai ffafriol i Lafur nag etholiadau San Steffan.

Ond mae yna ganfyddiad yng Nghymru bod gwleidyddiaeth Cymru yn ddigyfnewid – pan rydym yn cymharu efo’r Alban o leiaf – a bod yr hegemoni Llafur yn parhau i oroesi – fwy neu lai.  Mae yna beth sail i’r gred honno.  Serch hynny mae’n bwysig cofio bod is seiledd y gefnogaeth Lafur yn dirywio’n sylweddol – ond bod yr hegemoni yn parhau oherwydd cyfuniad o system etholiadol sy’n ffafriol i Lafur a dosbarthiad cefnogaeth ffodus o safbwynt y blaid honno.  Roedd yna amser, yn y gorffennol cymharol agos, pan allai Llafur ddisgwyl i ddegau lawer o filoedd o bobl ddod allan i bleidleisio mewn etholiad ar ol etholiad – byddionoedd o bobl a gweud y gwir.  
I ddangos hyn dwi wedi dethol ychydig o ganlyniadau o etholiad cyffredinol 1997 (etholiad nad oedd yn benllanw i Lafur yng Nghymru gyda llaw) ac etholiadau’r Cynulliad eleni.  Mae’r gwahaniaeth yn sylweddol.  

Rwan, dwi’n gwybod fy mod wedi nodi bod y system etholiadol yn arbed Llafur rhag llawn effeithiau’r dirywiad yn ei chefnogaeth.  Ond dydi’r system ddim yn eu hamddiffyn o dan pob amgylchiad.  Petai Llafur yn cael llai na 30% – fell ddigwyddodd yn etholiad Ewrop 2014 – byddai’r system yn dechrau gweithio yn erbyn, yn hytrach nag o blaid Llafur.

Problemau sylweddol ar y gorwel i Lafur

Mae’r blog yma eisoes wedi cydnabod i Lafur wneud yn dda yng Nghymru ar Fai 5 i’r graddau iddynt lwyddo i golli un sedd yn unig.  Ond wedi dweud hynny, aeth eu pleidlais i lawr yn sylweddol tros y wlad – ac yn arbennig felly mewn rhai ardaloedd penodol.  Wele’r 11 etholaeth lle bu cwymp o tros 10%.

Rhondda – 27.3%

Blaenau Gwent – 24.3%
Castell Nedd – 16.1%
Caerffili – 13.6%
Aberafon – 13.4%
Islwyn – 12.9%
Gorll Caerdydd – 11.5%

Pontypridd  -11.4%

Cwm Cynon  -10.9%
Pen y Bont – 10.9%
Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr – 10.8%
Yr hyn sy’n drawiadol ydi iddynt oll – ag eithrio’r olaf – ddigwydd mewn ardaloedd lle mae Llafur yn rheoli ar y cynghorau.  Mae cynghorau wedi gorfod torri yn ol yn sylweddol ar wariant wrth gwrs – ac at ei gilydd mae cynghorau Llafur wedi gwneud joban wael arni.
Bydd etholiadau’r cynghorau yn cael eu cynnal mewn blwyddyn – ac mae gan Llafur gryn le i boeni wrth edrych ymlaen atynt.  Petawn i yn Lafurwr byddwn yn poeni am Rhondda Cynon Taf, , Caerffili,  Castell Nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Chaerdydd – yn y drefn yna.

Marwolaeth rhyfedd y Lib Dems Cymreig

Llyfr gan George Dangerfield yn egluro marwolaeth di symwth y Rhyddfrydwyr yn Lloegr yn y blynyddoedd wedi 1918 ydi The Strange Death of Liberal England.  Aeth y blaid o fod yn un a bron i 400 o seddi a bron i hanner y bleidlais yn 1906 i drydydd plaid yn y 20au i bolio llai na 10% (2.7% yn 1955 er enghraifft) ac ennill llond dwrn o seddau yn y 50au.  Roedd y prosesau a arweiniodd at gwymp y blaid yn gymhleth os hawdd eu hadnabod.  Wnaeth y Rhyddfrydwyr ddim dechrau ad ennill tir mewn gwirionedd am hanner canrif wedi ‘r gwymp.
Mae’n debyg na fydd neb byth yn ysgrifennu llyfr am farwolaeth rhyfedd y Lib Dems yng Nghymru, a dydi’r blaid heb ddod yn agos at uchelfannau 1906 yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar, ond mae’r math o bleidlais y cafodd y Lib Dems mewn rhannau eang o Gymru eleni yn debyg i ‘r hyn y byddant yn ei gael yn y 50au – os nad yn waeth.
Ac un o’r pethau rhyfeddol ydi fel mae bron i’r cwbl o bleidlais y blaid wedi ei chanoli ar rannau cyfyng iawn o Gymru erbyn hyn.  Ystyrier y sylwadau yma gan Jason Morgan er enghraifft:

Gadewch i ni ystyried tipyn yn fanylach.

40 etholaeth sydd yno i gyd – cafodd y Dib Lems lai na 1,000 o bleidleisiau mewn mwy na’i hanner – 21 sedd i gyd.  Os ydan ni’n adio sgor y 21 etholaeth at ei gilydd cawn gyfanswm o 13,617 – sy’n llai na’r bleidlais gafodd Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Cafodd y Dib Lems tua 1% mewn pum etholaeth – Ynys Mon, Llanelli, Rhondda, Blaenau Gwent a Chaerffili.  Petaent wedi cael yr holl bleidleisiau yna mewn un etholaeth mae’n anhebygol y byddant wedi cadw eu hernes.
Mewn tair etholaeth yn unig y cafodd y blaid fwy na 30%, mewn pedair y cafwyd mwy nag 20% ac mewn 6 y cafwyd mwy na 10%.  Os ydych chi angen rhyw fath o gymhariaeth, cafodd y blaid 10%+ ym mhob etholaeth ag eithrio Ynys Mon yn Etholiad Cyffredinol 2010.

Oes yna wersi i ‘w dysgu o’r hyn ddigwyddodd i Ryddfrydwyr Lloegr yn y gorffennol?  Oes mae’n debyg.  Y gyntaf ydi bod y ffordd yn ol yn un faith ac anodd ar ol trychineb etholiadol.  Bydd i ddigwyddiadau dechrau’r mis oblygiadau pell gyrhaeddol – gan gychwyn yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.  Yr ail ydi ei bod yn bosibl goroesi am gyfnodau maith mewn ambell i ardal, hyd yn oed pan mae’r hwch wedi mynd trwy’r siop go iawn ym mhob man arall.  Parhaodd y Rhyddfrydwr i ennill seddau yn Nhrefaldwyn a Cheredigion hyd yn oed pan nad oeddynt yn gystadleuol yn yr unman arall yn y DU bron.   
Ond ar wahan i hynny mae’r Dib Lems bellach yn ymylol i wleidyddiaeth Cymru – ac yn debygol o aros felly am gyfnod maith.
A beth am hon?  

Arweiniad yr idiot i beth ddigwyddodd heddiw

1). Mae Llafur yn rhoi eu harwrinydd ger bron y Senedd fel eu henwebai ar gyfer y swydd o Weinidog Cyntaf.

2). Er nad oes ganddyn nhw’r niferoedd i sicrhau bod eu harwrinydd yn cael ei ethol, dydyn nhw ddim yn trafferthu gwneud unrhyw waith codi pontydd paratoadol.  Y rheswm am hyn ydi bod y gred bod  ganddi ddwyfol hawl i reoli Cymru wedi ei wreiddio yn dwfn yn DNA Llafur Cymru.
3). Mae Plaid Cymru yn cynnig ei harweinydd hithau i’r Senedd fel Gweinidog Cyntaf / Prif Weinidog.
4).  Mae Llafur a’r un aelod Dib Lem yn pleidleisio i’r Llafurwr, mae pawb arall yn pleidleisio i’r Bleidwraig.  Mae’r bleidlais yn gyfartal.
5). Yn hytrach na gofyn iddyn nhw eu hunain pam bod y Toriaid ac UKIP yn ei chael yn haws pleidleisio i un o aelodau mwyaf Adain Chwith y Senedd, sy’n credu mewn chwalu’r DU, ac aros yn Ewrop yn hytrach nag i’w hymgeisydd nhw – mae Llafur yn gwneud yr un peth ag arfer – palu celwydd, cael sterics a dychwelyd at wleidyddiaeth yr anterliwt.  
A beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd Llafur yn gwneud yr hyn y dylent fod wedi ei wneud ar y cychwyn a dangos mymryn o wyleidd- dra a gwneud ychydig o waith paratoi cyn mynd i bleidlais.  Bydd eu hymgeisydd yn cael ei ethol wedyn.  

Arwyddocad canlyniad Comiwsiynydd Heddlu’r Gogledd

Un o’r pethau sydd wedi ei golli braidd yn dilyn etholiadau dydd Iau diwethaf ydi perfformiad rhyfeddol o gryf Arfon Jones o Blaid Cymru yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd. Ystyrier y tabl cyntaf – sy’n dangos o ble y daeth y pleidleisiau cyntaf yn ol etholaeth.


Daeth y Blaid yn gyntaf yn Aberconwy, Arfon, Dwyfor Meirion ac Ynys Mon – a daeth o fewn chwe phleidlais i ddod ar y brig yng Ngorllewin Clwyd.  Daeth o flaen yr ymgeiswyr annibynnol ac UKIP ym mhob etholaeth, daeth o flaen y Toriaid yn saith o’r deg etholaeth a daeth o flaen Llafur yn hanner yr etholaethau – weithiau gyda mwyafrifoedd anferthol.  Daeth yn ail gweddol agos yn Wrecsam.  
Dangos beth ddigwyddodd i’r ail bleidleisiau yn ol etholaeth mae’r ail dabl.  Y ddwy res uchaf ydi’r rhai pwysig – PC ydi’r gyntaf a Llafur ydi’r ail.

Mae’r Blaid yn cael mwy o ail bleidleisiau na Llafur ym mhob etholaeth – weithiau llawer  mwy. Ni chafodd ail bleidleisiau Llafur eu cyfri oherwydd bod y blaid honno yn ail – ond o’r hyn y gallwn weld yng Nghaernarfon nos Iau, roedd cyfran uchel iawn ohonynt yn mynd i’r Blaid.

Beth felly ydi arwyddocad hyn oll?  Wel –  mae cryfder y perfformiad yn arwyddocaol –  gyda’r Blaid yn cymryd bron i draean y pleidleisiau ar hyd y rhanbarth.  Gwnaethwyd hynny er gwaethaf ymgyrch driciau budron a arweiniodd at sylw cyfryngol negyddol eang ac ymgais hollol hurt a di glem gan un o aelodau Cynulliad y Blaid i gael pleidwyr i bleidleisio’n dactegol i’r ail blaid er mwyn stopio’r pedwerydd ddod yn gyntaf.

Ond mae yna arwyddocad pellach hefyd.  Mae yna rannau o’r Gogledd lle mae pobl wedi pleidleisio i’r Blaid yn naturiol ers hanner canrif.  Ond ar un ystyr mae’r rhanbarth yn ddwy wlad wahanol, ac yn rhai o’r llefydd yma byddai fotio i’r Blaid yn rhywbeth eithaf rhyfedd i’w wneud.  Mae yna lawer o bobl yn yr ardaloedd hyn sydd wedi rhoi un o’u dwy bleidlais i’r Blaid yn yr etholiadau hyn am y tro cyntaf erioed.  Mae pleidleisio i’r Blaid wedi cael ei normaleiddio mewn rhannau o Gymru sy’n anghyfarwydd efo gwneud hynny.

Adlewyrchwyd hyn mewn rhannau eraill o Gymru – Caerdydd er enghraifft.  Cafodd y Blaid fwy o bleidleisiau’n gyfforddus na’r Lib Dems yn y brif ddinas.  Hyd yn gymharol ddiweddar roedd y Dib Lems yn dominyddu gwleidyddiaeth leol yng Nghaerdydd.

Roedd yr hyn ddigwyddodd yng Nghaerdydd yn gam mawr ymlaen o ran Cymreigio gwleidyddiaeth, mewn rhannau o’r wlad sy’n tueddu i ddilyn patrymau etholiadol Seisnig.  Roedd pleidlais wych Arfon yn y Gogledd yr un mor bwysig – ac am yr un rheswm.