Perlau Felix – rhan 2

Ac mae hon yn berl hefyd.

Ymddengys bod Nicola Sturgeon yn geg fawr.
Bydd gwylwyr cyson Pawb a’i Farn S4C yn gyfarwydd a Felix wrth gwrs.  Pan gaiff ei hun ar y panel bydd yn bloeddio ei atebion mewn llediaith – ond llediaith digon dealladwy.  Pan mae’r panelwyr eraill yn ceisio ateb eu cwestiynau nhw, mae’n aml yn sgrechian ar eu traws mewn llediaith rhannol ddealladwy – sy’n ei gwneud yn anodd, ac weithiau’n amhosibl deall beth maent yn geisio ei ddweud.  Pan mae’n rhan o’r gynulleidfa yn hytrach na’n rhan o’r panel bydd yn sgrechian ar draws y panelwyr mewn llediaith cwbl anealladwy.  Bydd felly yn difetha’r rhaglenni i’r panelwyr eraill, ac yn bwysicach i’r gwylwyr.  Duw yn unig a wyr pam bod y Bib yn dioddef yr ymddygiad gwrth gymdeithasol, ail adroddus yma.  
Mae Felix ei hun yn ymgorfforiaddi lychwyn geg fawr.  Beth ydi’r term Cymraeg am self awareness dywedwch?

Ynglyn a Thrident

Dod ar draws rhywun dwi’n ei adnabod wnes i neithiwr mewn tafarn neithiwr.  Roedd yn darllen rhyw bapur newydd neu’i gilydd, ac roedd yn awyddus i rannu yr hyn roedd wedi ei ddysgu am fanylion technegol y system Trident newydd mae cymaint o’n haelodau seneddol eisiau  ‘buddsoddi’ ynddi.  Fydd o ddim yn gwbl anisgwyl i ddarllenwyr Blogmenai am wn i, ond dywedais bod yr holl beth yn wastraff arian llwyr.  Doedd o ddim yn cytuno – roedd angen y taflegrau ‘i’n cadw ni’n saff’.  Holais oddi wrth pwy oedd angen ein hamddiffyn – a chael mai Putin oedd yr ateb – ymddengys bod hwnnw’n ddyn drwg iawn.  Wnes i ddim holi pam y byddai ‘r dywydedig Putin eisiau cynnal ymysodiad niwclear ar wlad yr ochr arall i Ewrop (sy’n perthyn i NATO, ac a fyddai felly’n gwahodd ymysodiad niwclear gan yr UDA beth bynnag), a wnes i ddim holi pam nad ydi cymdogion agos Rwsia yn dangos unrhyw ddiddordeb mewn ymuno efo’r clwb o 9 sydd yn cadw’r WMDs yma chwaith.

Ta waeth – un neu ddwy o ffeithiau.  
1). Naw gwlad sydd a systemau niwclear – er bod un neu ddwy o rai eraill wedi ceisio datblygu rhai.  Gwaddol y Rhyfel Oer ydi systemau, China, Rwsia, yr UDA, Prydain a Ffrainc.  Adlewyrchiad o elyniaeth ffyrnig rhwng y ddwy wlad ydi systemau Pacistan ac India, y ffaith eu bod ar dermau sobor o wael efo’u holl gymdogion sy’n gyfrifol am system Israel, a does yna fawr o bwynt ceisio egluro pam bod Gogledd Corea eisiau taflegrau niwclear.

2). Piso dryw yn y mor ydi’r hyn sydd gan y DU – a’r hyn fydd gan y DU – tua 1.3% o’r job lot.  A dweud y gwir mae o’n llai na mae’r ffigyrau moel yn awgrymu – yn wahanol i’r gwledydd eraill mae taflegrau’r DU yn cael eu cadw mewn llongau tanfor – a dydi’r rheiny byth o dan y dwr ac yn barod i danio efo’i gilydd.  Maen nhw’n ddigon pwerus i wneud niwed i rhywun neu ‘i gilydd – Rwsia er enghraifft – ond mae 8,000 taflegr Rwsia yn fwy o fygythiad o lawer i wlad lle mae pawb yn byw ar ben ei gilydd nag ydi  225 taflegr yn fygythiad i’r wlad fwyaf – ac ymysg yr isaf o ran dwysedd ei phoblogaeth – yn y Byd.  Mae’r gymhariaeth yn ogleisiol o anghyfartal.
3). Mae’r DU yn perthyn i NATO. Does gan 25 o 28 aelod y gynghrair honno ddim arfau niwclear – ond maent yn gwybod bod ymysodiad arnynt yn ymosodiad ar y cwbl – gan gynnwys America – gwlad sydd ag arfau niwclear yn dod allan o’i chlustiau.
4). Yn hanesyddol mae’r DU yn llawer mwy tebygol o ymosod ar wledydd eraill nag ydi’r gwledydd hynny o ymosod arni hi.  Mae’r DU (neu Loegr cyn creu’r DU) wedi ymosod rhywbryd neu’i gilydd ar tua 90% o’r gwledydd sy’n bodoli ar hyn o bryd.  Mae Iran i fod yn fygythiad sylweddol i ni – dydi’r wlad honno heb ymosod ar wlad arall am ddwy ganrif.  Petai rhesymeg yn unrhyw beth i wneud efo’r ffordd mae’r pethau ‘ma’n gweithio, byddai rhai o’r gwledydd mae’r DU wedi ymosod arnyn nhw yn y gorffennol yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gael arfau niwclear er mwyn bod yn ‘saff rhag y DU.
Beth bynnag, mae’r criw isod yn anghytuno ac maen nhw wedi pleidleisio ddoe i barhau a’r cynllun dw lali.  Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw hefyd wedi pleidleisio tros lymder.

Perlau Felix – rhan 1

Rydan ni wedi rhedeg ambell i stori ar ddatganiadau, doethinebu a thrydar ein cyfaill Felix Aubel.  Ond efallai y byddai’n syniad cael cyfres fach fel sydd gennym ar Gwilym Owen.  Mae’r gyntaf yn berl fach.  

Yma mae Felix yn dangos nifer o’i nodweddion mwy anymunol a chredoau rhyfedd ar yr un pryd – mewn pymtheg gair cwta mae’n llwyddo i ddangos dirmyg at y deddfwrfeydd datganoledig, ei dueddiadau Little Englander, ei ddiffyg cwrteisi, a’i eilyn addoliaeth naif o wleidyddion adain Dde Seisnig – i gyd ar yr un pryd. 

Delfrydol ar gyfer y job

Un o brif rinweddau gweinidog llywodraethol llwyddiannus ydi ei fox yn gwneud y joban yn effeithiol, yn mynd ymlaen efo pethau’n ddistaw, yn canolbwyntio ar ei ddyletswyddau ac yn osgoi hunan hyrwyddo.  Mae hynny’n arbennig o wir os yw’n un o’r gweinidogion pwysicaf, ac os yw ei swydd yn un sensitif.
Rhoddaf i chi Boris Johnson.

A diolch i Chris Bryant _ _

_ _ am egluro i ni beth oedd y rheswm am y coup yn Nhwrci.  Ar ymgyrchwyr Brexit mae’r bai!


Roedd Mr Bryant yn Arweinydd Cysgodol Ty’r Cyffredin hyd ei ymddiswyddiad diweddar.

Ym myd rhyfedd Chris mae swyddogion byddin Twrci yn dilyn ymgyrch refferendwm Ewrop yn glos, yn clywed sylwadau gwrth Dwrcaidd, yn gwylltio’n gacwn, ac yn gwylltio i’r fath raddau nes penderfynu cynnal coup i gael gwared o llywodraeth eu gwlad eu hunain.
Diolch byth nad oes gan Chris swydd gyfrifol na dim byd felly.