Colli dau gynghorydd mewn diwrnod

Fydd hi ddim yn syndod mawr i neb bod un o gynghorwyr Llafur yng Nghaerdydd wedi – mae yna res hir wedi gwneud hynny ers etholiad 2012.  Fydd hi ddim yn syndod chwaith bod Gretta Marshall (sy’n cynrychioli ardal Splott) yn cwyno am ddiwylliant o fwlio oddi mewn i’r Blaid Lafur – mae hionna’n hen gwyn.  Beth sy’n fwy anarferol – ond sy’n rhywbeth i’w groesawu – ydi bod Gretta’n dod at y Blaid.

Yn y cyfamser mae Gwynfor Edwards – unig gynghorydd Llafur ym Mangor – hefyd yn gadael, ond mynd i gorlan y Gwyrddion mae Gwynfor.  Mae i gynghorydd adael y Blaid Lafur yn fwy anarferol yng Ngwynedd – yn bennaf oherwydd bod cyn lleied ohonyn nhw.  Dim ond pump oedd yna tan heddiw, ond rwan maen nhw i lawr i bedwar, ac wedi colli 20% o’u cynghorwyr mewn diwrnod.  
Dydi moral ddim yn dda iawn mae gen i ofn.  

Beth wnawn ni efo UKIP?

Mae’n rhaid i mi gyfaddef bod dod ar draws Neil a Christine Hamilton a chwpl arall yn mynd o gwmpas maes yr Eisteddfod ddoe – gyda’u ymbarels Brexit a’u swn byddarol ( I just couldn ‘t figure out what they were on about meddai un ddynas wrth y llall) braidd yn chwydlyd.  Serch hynny mae’n bwysig ymateb i dwf diweddar UKIP yng Nghymru mewn ffordd synhwyrol – a dydi gor ymateb ddim yn beth synhwyrol i’w wneud.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi hyn – mae gan UKIP broblemau sylweddol ar y gorwel – yng Nghymru a thu hwnt i Gymru.  Ystyrier y canlynol.

1). Pan fydd y DU yn tynnu allan o’r Undeb Ewropiaidd byddant yn colli y rhan fwyaf o’u gwleidyddion proffesiynol.  Yr unig rai fydd ar ol fydd Douglas Carswell – sy’n ymddwyn yn fwy tebyg i aelod seneddol annibynnol na dim arall, y criw lliwgar ym Mae Caerdydd – faint bynnag ohonyn nhw fydd wedi osgoi cael eu diarddel erbyn hynny, dau aelod o Gynulliad Llundain, a thri aelod o Dy’r Arglwyddi.  Does ganddyn nhw ddim cynrychiolaeth yn senedd-dai Gogledd Iwerddon na’r Alban. Bydd hyn yn sicr o gynyddu’r sylw cyfryngol Prydeinig fydd Hamilton a’r gweddill yn ei gael – ac o’r cyfryngau Prydeinig mae’r rhan fwyaf o Gymry’n cael eu newyddion.  Ydi’r criw yma’n debygol o apelio at etholwyr Cymru?  ‘Dwi’n amau hynny rhywsut.
2). Mae canlyniad y refferendwm Ewrop yn fuddugoliaeth i UKIP wrth reswm, ond mae hefyd yn achosi problemau iddynt.  Eu pwynt gwerthu unigryw hyd refferendwm mis Mehefin oedd mai nhw oedd yr unig blaid (a chefnogaeth arwyddocaol iddi) oedd am adael Ewrop. Mae llawer o bobl gwrth Ewropeaidd yng Nghymru – fel y dangoswyd yng nghanlyniad y refferendwm.  Ond bydd rhaid iddynt ail ddiffinio eu hunain yn sgil y canlyniad a dod o hyd i rhywbeth arall i sefyll trosto.  Dydi hi ddim yn amlwg y bydd y ‘rhywbeth arall’ hwnnw yn boblogaidd yng Nghymru.  Apelio at eu pleidlais graidd yn Lloegr fydd eu blaenoriaeth.  Dydi o ddim yn dilyn bod natur eu cefnogaeth yng Nghymru yr un peth ag yw yn Lloegr.  Er enghraifft, os ydi UKIP yn troi fwyfwy at wleidyddiaeth hunaniaeth yn Lloegr, mae ganddynt broblem yng Nghymru.  Mae’r blaid yn tueddu i wneud yn dda yng Nghymru mewn ardaloedd sydd a hunaniaeth Gymreig gref.  Dydi pwyslais ar hunaniaeth Seisnig ddim am edrych yn wych ym Mlaenau Gwent na Merthyr, ac nid yw Seisnigrwydd amlwg rhai o’u aelodau Cynulliad am fod o lawer o gymorth chwaith.
3). Gwan iawn ydi peirianwaith lleol UKIP yng Nghymru – dyna yn rhannol pam nad ydynt yn gystadleuol mewn etholaethau uniongyrchol.  Un cynghorydd sydd ganddynt trwy’r wlad – mae ganddynt bron i 500 yn Lloegr.  Anaml y byddant yn dod o hyd i ymgeisydd mewn is etholiadau lleol yng Nghymru.  Maen nhw wedi llwyddo i ennill cryn dipyn o bleidleisiau yng Nghymru heb beirianwaith – ond roedd llawer o hynny (er nad y cwbl) yn ddibynnol ar eu neges greiddiol gwrth Ewropiaidd.  Fydd hwnnw ddim ar gael yn 2020 a 2021.  Un o’r prif resymau pam bod peirianwaith etholiadol yn angenrheidiol ydi i gael pobl allan i bleidleisio – pan mae cymhelliad cryf i bleidleisio does dim llawer o angen annog pobl i fynd i bleidleisio.  Ond dydi cymhelliad cryf ddim yn aros am byth – ac mae UKIP yn apelio at grwpiau sydd ddim yn yr arfer o fynd allan i bleidleisio.  Byddant angen peiriant yn y dyfodol – ac os na allant adeiladu un byddant yn gwywo. 
4). Mae’r blaid yng Nghymru a thu hwnt yn dioddef o ffraeo mewnol a thueddiad i ddewis ymgeiswyr anaddas.  Mae’r etholwyr wedi maddau iddynt hyd yn hyn.  Mae eu delwedd gwrth sefydliadol wedi cuddio’r ffaith eu bod yn euog o rai o ffaeleddau’r pleidiau sefydliadol.  Yn wir maent yn fwy euog o ffraeo mewnol a sleeze nag ydi’r rhan fwyaf o’r pleidiau sefydliadol erbyn hyn (OK – fedar neb guro Llafur am ffraeo). Ni fydd yr etholwyr yn gwahaniaethu am byth rhyngddyn nhw a’r pleidiau traddodiadol.  
Yr hyn rwyf yn ei ddweud mae’n debyg ydi y bydd yn anos i UKIP yng Nghymru yn y dyfodol, ac mae’n debyg y bydd eu cefnogaeth yn cilio i ryw raddau neu’i gilydd yn naturiol.  Mae yna berygl y gallai gor ymateb wneud pethau’n haws i UKIP – ac mae yna bethau’n sicr na ddylai’r mudiad cenedlaethol eu gwneud.
Y cyntaf a’r pwysicaf o’r rheiny ydi cynghreirio efo cyd bleidiau unoliaethol UKIP yn erbyn UKIP. Mae’r blaid asgell Dde, bopiwlistaidd yn byw ar greu canfyddiad ei bod yn wrth sefydliadol.  Byddai ochri efo pleidiau sefydliadol yn erbyn UKIP yn bwydo’r naratif yna’n berffaith.  Un hollt wleidyddol arwyddocaol sydd ei hangen yng Nghymru o safbwynt genedlaetholgar – un rhwng y sawl sy’n credu mewn annibyniaeth i Gymru, a’r sawl sydd ddim yn credu mewn annibyniaeth i Gymru.  Dydi creu holltau eraill ddim yn ddefnyddiol.
Yn ail, ni ddylid creu argraff bod UKIP yn bwysicach nag ydyn nhw – maen nhw’n bwydo ar y canfyddiad hwnnw hefyd.  Pedwerydd plaid ydyn nhw yn y Cynulliad – a phedwerydd plaid sydd wedi gwanhau ei hun trwy ffraeo mewnol – ond hynod gyhoeddus.  
Yn drydydd, ni ddylid rhoi’r argraff bod UKIP efo naratif cyson o ran gwleidyddiaeth Cymru – does ganddyn nhw ddim un, a dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw dystiolaeth eu bod yn gallu diffinio eu hunain yng nghyd destun gwleidyddiaeth Senedd Cymru chwaith.  Plaid gwbl Brydeinig ydi hi o ran ei meddylfryd sylfaenol – mwy felly nag unrhyw blaid arall yng Nghymru – hyd yn oed y Lib Dems.  Dydyn nhw heb ddod o hyd i niche yn nhirlun gwleidyddiaeth Cymru, a does yna ddim pwrpas priodoli un iddyn nhw.  Maen nhw ar hyd i lle i gyd, ac maent yn debygol o barhau i fod ar hyd y lle i gyd.
Yn bedwerydd ni ddylid ceisio eu hesgymuno a’u cau allan o wleidydda arferol.  Digwyddodd hyn i raddau eithafol yn yr 80au a’r 90au yn sgil twf Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon.  Cawsant eu cau allan o’r cyfryngau – yn llythrennol, roedd yn nesaf peth i amhosibl iddynt weithredu yn y rhan fwyaf o gynghorau lleol oherwydd nad oedd y cynghorwyr unoliaethol yn fodlon cyd weithio efo nhw, cawsant eu cau o’r ddisgwrs wleidyddol, roedd yr holl sylw cyfryngol roeddynt yn ei gael yn gwbl negyddol.  A gweithiodd hyn oll – dros dro.  Llwyddwyd i gyfyngu ar dwf y blaid – ond digwyddodd rhywbeth arall hefyd.  Gorfodwyd y blaid i ddod o hyd i ffyrdd amgen i gyfathrebu efo’i hetholwyr, a chafodd ei gorfodi i adeiladu peiriant etholiadol sylweddol.  Roedd y peiriant, a’r dulliau cyfathrebu mewn lle pan laciodd y gwrthwynebiad a’r cyfyngiadau yn sgil Cytundeb Dydd Gwener y Groglith – a doedd Sinn Fein fawr o dro yn sgubo cenedlaetholdeb cyfansoddiadol o’r neilltu.  
Y peth diwethaf rydym  sydd angen ei wneud ydi gorfodi UKIP yng Nghymru i esblygu i fod yn endid llawer mwy effeithiol wleidyddol nag yw ar hyn o bryd.  Gwell gadael iddi arddangos ei rhwygiadau mewnol a’i diffyg cysondeb a chrebwyll gwleidyddol yn gyhoeddus.
Dydi hyn oll ddim yn golygu na ddylid gwrthwynebu UKIP, wrth gwrs – ond dylid gwneud hynny mewn modd sy’n cymesur a’u bygythiad.  Fel mae’n digwydd mae am fod yn hawdd ei beirniadu a’i gwrthwynebu – plaid Brydeinig iawn ydi hi, ac oherwydd hynny mae’n naturiol y bydd buddiannau Cymru pob amser yn dod yn ail gwael i fuddiannau Lloegr.  Mae am fod yn hawdd ei diffinio fel gwarchodwr buddiannau Lloegr yng Nghymru.  Mae’r un peth yn wir am y Toriaid wrth gwrs, ond dydyn nhw ddim yn gorfod mynd i Islwyn, Merthyr neu Dorfaen i chwilio am bleidleisiau.  

Ydi hi’n bosibl i Trump ennill?

Byddai llawer yn dweud ei bod yn anodd iawn i’r Blaid Weriniaethol ennill mewn etholiad arlywyddol (lle mae cyfraddau pleidleisio yn gymharol uchel) oherwydd demograffeg – mae’r grwpiau sy’n pleidleisio tros y Democratiaid yn tyfu tros amser tra bod y grwpiau sy ‘n pleidleisio tros y Gweriniaethwyr yn lleihau.  Fel y gellir gweld o’r graff mae’r boblogaeth croenwyn yn lleihau, tra bod grwpiau eraill – yn arbennig felly pobl sydd a’u gwreiddiau yn Asia a Chanolbarth a De America yn cynyddu.

Mae yna wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae gwahanol bobl yn pleidleisio.  Er enghraifft pleidleisiodd tua 93% o bobl groenddu i Obama yn 2012 – ac roedd y canrannau yn ddigon tebyg mewn etholiadau cyn hynny.  Tua 71% o bobl o gefndir De / Canolbarth America bleidleisiodd tros y Democratiaid a 74% o bobl o gefndir Asiaidd.  
Tra bod y twf yma yn helpu’r Democratiaid, mae yna newid demograffig pwysicach yn digwydd hefyd – ac mae hwnnw yn digwydd oddi mewn i’r boblogaeth croenwyn.  Mae pobl gwyn sydd wedi cael addysg coleg yn llawer mwy tebygol na’r boblogaeth croenwyn sydd heb fod i goleg o bleidleisio i’r Democratiaid.  Pleidleisiodd y bobl groenwyn addysgiedig i’r Democratiaid gyda mwyafrif o 6% yn 2012 – pleidleisiodd y bobl groenwyn anaddysgiedig i’r Gweriniaethwyr gyda mwyafrif o 26%.  Mae’r boblogaeth wyn anaddysgiedig yn syrthio’n eithaf cyflym fel canran o’r boblogaeth yn gyffredinol – tua 0.75% y flwyddyn.
Ond dydi pethau ddim mor syml a hynny – gallai cwymp yng nghyfradd pleidleisio’r sawl sydd yn pleidleisio i’r Democratiaid sicrhau mai’r Gweriniaethwyr sy’n ennill – hyd yn oed os ydi maint y grwpiau hynny yn tyfu.
Esiampl da o hyn yn digwydd mewn cyd destun arall ydi Gogledd Iwerddon.  Mae’r cysylltiad rhwng demograffeg a phatrymau pleidleisio hyd yn oed yn gliriach yno nag yw yn yr UDA gyda mwyafrif llethol y Pabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar a’r Protestaniaid yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.  
Mae pob tystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod y boblogaeth Babyddol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn – a bod tua’r un faint o Babyddion a Phrotestaniaid yn y boblogaeth bellach.  Ond mae’r bleidlais genedlaetholgar yn is nag oedd yn 2001.  Y rheswm sylfaenol am hynny ydi bod y boblogaeth Babyddol yn llai tebygol o lawer o bleidleisio nag oeddynt yn ystod y rhyfel maith, a’r blynyddoedd yn dilyn hynny – tra bod y Protestaniaid yr un mor debygol – neu’n fwy tebygol o wneud hynny.  
Gallai’r un peth ddigwydd yn America, neu unrhyw le arall wrth gwrs – ond byddai angen rheswm neu resymau am gwymp felly.  Byddai drwgdybiaeth tuag at Hillary Clinton yn reswm felly wrth gwrs.  Ond yn fy marn i dydi hynny ddim yn debygol o ddigwydd yn yr UDA eleni, oherwydd rhethreg a natur ymgyrch Trump.  Mae ofn yn gymhelliad cryf – cryfach na’r un arall tros fynd allan i bleidleisio – ac mae Trump wedi codi ofn ar lawer iawn o bobl sy’n perthyn i’r grwpiau sy’n tueddu i bleidleisio i’r Democratiaid.  

Defaid, iobs a fawr ddim arall

Yn ol at Owen Smith mae gen i ofn – boring ‘dwi’n gwybod, ond dyna fo – Owen ydi dyn y funud – yn ol y cyfryngau beth bynnag.  Byddwch yn cofio i ni gael golwg ar ragrith rhyfeddol y dyn yn ddiweddar – ac yntau’n cwyno nad ydi Corbyn yn deall gwlatgarwch tra’n dilorni’r gwlatgar ei hun.  Mae’r cyfryngau prif lif wedi bod yn nodi ei ddefnydd o drosiadau treisgar heddiw.

Beth bynnag, ac yntau’n cyflwyno ei hun fel sosialydd o argyhoeddiad a sylwedd, efallai y byddai’n ddiddorol edrych ar gychwyn ei yrfa wleidyddol a chwilio am dystiolaeth o’r sosialaeth, y sylwedd, a’r argyhoeddiad.  
Safodd Owen tros Lafur mewn is etholiad San Steffan ym Mlaenau Gwent yn 2006 yn dilyn marwolaeth Peter Law.   Cyhoeddodd lond trol o ddeunydd etholiadol – ac mae’r deunydd hwnnw dweud llawer am natur y boi.  Roedd is etholiad Cynulliad ar yr un diwrnod gyda llaw – dyna’r rheswm am gyfeiriad at ddau ymgeisydd.

Cyfraith a threfn oedd prif thema Owen – yn arbennig mynd i’r afael efo iobs.  Roedd Owen eisiau dwblu’r nifer o heddweision oedd yn troedio strydoedd Blaenau Gwent – nid bod hynny’n fater i Aelod Seneddol wrth gwrs – ond stori arall ydi honno.

Roedd ffermwyr a defaid hefyd yn dan ar ei groen – ac roedd cosbi ffermwyr am adael i’w defaid grwydro yn un o brif themau ei ymgyrch – o – ac mae yna gyfeiriad at yr holl swyddi oedd yn dod i Flaenau Gwent diolch i lywodraeth Lafur y Cynulliad.
Dydi Owen ddim yn son llawer am gyfraith a threfn, nag yn ymosod ar  ddefaid a ffermwyr yn ei ymgyrch arweinyddol wrth gwrs – ond fel rwan, roedd yn awyddus iawn i bawb ddeall ei fod yn foi ‘normal’ – ac nad ydi o’n hoffi iobs wrth gwrs.
 
A mae’n ymddangos ei fod am i’w ddarpar etholwyr ddeall ei fod yn hamddena ym Mlaenau Gwent.
Ac wedyn mae yna fwy am yr iobs a cyfraith a threfn.
Mae’n hefyd am adael i ni wybod am yr holl bobl sy’n mynd i bleidleisio i Lafur eto, ar ol pleidleisio i Peter Law yn yr etholiad flaenorol – er mwyn cael gwared o’r iobs wrth gwrs.
A dyna ni’r horoscop – sy’n darogan pleidleisiau i Lafur – ac yn mynd ar ol yr holl iobs na sy’n byw ym Mlaenau Gwent.  Ac wedyn y ‘llythyrau’ sy’n rhoi cyfle i Owen ddweud ei ddweud am ddefaid, yr holl lewyrch roedd Llafur yn ei gynnig i Flaenau Gwent, a beth mae o’n mynd i’w wneud – ia dyna chi – i’r iobs drwg ‘na eto.

Ac wedyn – rhywbeth hollol wahanol – iobs, llenwi Blaenau Gwent efo plismyn, cardiau adnabod, zero tolerance _ _ _.
Hwre – dyma ni rhywbeth gwahanol o’r diwedd – Gordon Brown yn sicrhau trigolion Blaenau Gwent mai Owen a’i gyd ymgeisydd Llafur ydi’r bobl i ddod a swyddi iddyn nhw.  Ac wrth gwrs mae yna gyfeiriad at bobl yn dod yn ol adref at Lafur am eu bod nhw’n mynd i ddelio efo’r iobs.  

A dyna ni – dim gair, dim sill, dim byd am werthoedd Llafur.  Zilch.  Gallai’r pamffledi hyn fod wedi eu cynhyrchu gan y Toriaid, neu UKIP neu unrhyw blaid bopiwlistaidd Adain Dde. Sbwriel arwynebol, di weledigaeth, di glem o’r dechrau i’r diwedd.  Dim gair am wlatgarwch chwelonol Owen chwaith yn rhyfedd iawn.
Tybed os oes yna erioed gymaint o bres wedi ei wario ar gynhyrchu cymaint o ddeunydd etholiadol sydd efo dim o unrhyw werth i’w ddweud ag eithrio negyddiaeth popiwlistaidd ail adroddus?
Rhag ofn nad ydych yn gwybod beth ddigwyddodd – wele:

Ond tydi’r Owen Smith na’n un rhyfedd dywedwch?

Ddoe ar Newsnight roedd o’n cyhuddo Jeremy Corbyn o ddiffyg gwlatgarwch ac o fethu deall hunaniaeth genedlaethol.

Internationalism oedd y gair mawr bryd hynny.
Mae Owen Smith yn cyhuddo Corbyn o beidio deall rhywbeth nad yw yn ei ddeall ac nad oes ganddo fewath o ddiddordeb ynddo ei hun.
O.N – newydd sylwi bod @ifanmj wedi fy nghuro fi i’r stori yma.

Gogledd Gwynedd a’r Gymraeg

Os oes gennych ddiddordeb yn hynt a helynt yr iaith Gymraeg, ac mewn ystadegau mae’n debyg nad oes yna fawr o wefannau mwy addas i chi na statiaith – mae’n dtysorfa o wybodaeth ystadegol am yr iaith Gymraeg.  
Un gymhariaeth ddiddorol i ddod o’r wefan ydi un rhwng map arferol o Wynedd sy ‘n dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg yn ol canran, a chartogram sy’n dangos y dosbarthiad yn ol canran a niferoedd.  Mae’r ddau fap yn rhai tra gwahanol.   Mae Gogledd y sir yn llawer, llawer mwy yn y cartogram nag ydyw yn y map cyffredin.

Roedd yna amser pan roedd yn cael ei derbyn yn gyffredinol bron bod dwysedd siaradwyr Cymraeg mewn cymuned yn llawer pwysicach na’r niferoedd.  Mae’n debyg bod llawer yn parhau i gredu hynny – ac mae yna sylwedd i’r gred.  Ond mae iddi hefyd ei chyfyngiadau.  O gymharu Caerdydd a Cheredigion, dydi niferoedd y siaradwyr Cymraeg ddim yn anhebyg, ac yn ddi amau mae yna fwy o siaradwyr rhugl yng Ngheredigion na sydd yng Nghaerdydd.  Mae’r ganran sy’n siarad y Gymraeg hefyd yn llawer uwch yng Ngheredigion.  Ond dwi’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod yr iaith yn fwy bregus yn Sir Geredigion nag yw yng Nghaerdydd.

Mae’r rheswm am hynny’n eithaf syml mewn gwirionedd – mae siaradwyr Cymraeg Caerdydd yn byw yn agos at ei gilydd, tra bod siaradwyr Cymraeg Ceredigion wedi eu gwasgaru tros ardal llawer ehangach.  Mae felly’n haws o lawer sefydlu rhwydweithiau o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd nag yw mewn ardaloedd gwledig yng Ngheredigion.  Mae cymunedau isel eu poblogaeth hefyd mwy ar drugaredd mewnfudo hefyd wrth gwrs.  

Mae Gogledd  Gwynedd – ac yn arbennig y cymdogaethau sydd yn agos at Afon Menai gyda’r ddwy nodwedd – canrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn ogystal a niferoedd cymharol uchel o siaradwyr hefyd.  

Dydw i ddim yn un am wahaniaethu rhwng siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru – mae pob siaradwr Cymraeg yn gyfwerth.  Ond mae’r ardal yma o Ogledd Gwynedd yn bwysig iawn i ddyfodol y Gymraeg yn ehangach – a dylai’r rhai ohonom sy ‘n ddigon ffodus i fyw yn yr ardal gymryd amser i fod yn ddiolchgar weithiau.  Mae’n hawdd cymryd pethau’n ganiataol weithiau.

Mynediad i safleoedd hanesyddol

Bryngaed tua dwy erw o faint yn Llanddeiniolen, Arfon ydi Dinas Dinorwig a cafodd ei chodi – fel gweddill y bryngeiri sydd i ‘w gweld yma ac acw ar hyd gorllewin Ynysoedd Prydain – yn ystod Oes yr Haearn.  Mae ‘n debyg mai ei phrif nodweddion sydd o ddiddordeb heddiw ydi ei maint – mae ‘n fwy na’r rhan fwyaf o geiri tebyg a’r ffaith bod y muriau a’r ffosydd amddiffynol o’i chwmpas yn anisgwyl o eglur, cywrain a chyflawn.  
Fel mae’n digwydd dwi’n ‘nabod y safle yn dda iawn oherwydd i mi gael fy magu o fewn rhyw filltir a hanner iddi, ac arferem fynd yno i chwarae pan oeddym yn blant.  I’r rhai ohonoch sydd heb fod i’r gaer, gellir cael syniad o sut safle ydi hi trwy edrych ar y fideo arbennig yma mae Gareth Roberts wedi ei wneud o’r safle.
Nid gwefan sy’n ymwneud a llefydd hanesyddol ydi Blogmenai, a’r rheswm dwi’n son am y lle ydi oherwydd i rhywun gysylltu a mi’r diwrnod o’r blaen i ddweud nad oedd perchenog y tir yn caniatau mynediad iddo i’r safle.  Rwan mae’n rhaid i mi ddweud yma fy mod wedi bod i’r safle gyda chaniatad rai blynyddoedd yn ol.  Yn amlwg, fel plant doeddem ni ddim yn trafferthu chwilio am ganiatad.  Mae hefyd yn deg nodi ei bod yn rhesymol bod deiliaid tir eisiau edrych ar ol eu heiddo.
Ond wedi dweud hynny, mae’n drist bod llawer o safleoedd hanesyddol yng Nghymru – sydd yn etifeddiaeth i ni oll – y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o’r cyhoedd.  Mae yna ddwy safle arall o fewn ychydig filltiroedd i Ddinas Dinorwig yn y sefyllfa yma.  
Mae yna lawer o safleoedd yng Nghymru o dan ofal Cadw neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ac mae’r rheiny ar gael i bawb.  Mae yna lawer o safleoedd eraill nad ydynt ar gael oherwydd nad ydi’r perchnogion tir yn fodlon caniatau mynediant iddynt.  Nid oes angen iddynt boeni.  Dydi ceiri Oes Haearn ddim yn debygol o ddenu miloedd y bobl – mae ymweld a llefydd fel hyn yn ddiddordeb eithaf anarferol.  Mae safleoedd enwog iawn megis Dun Aengus ar Inis Mor neu Dre’r Ceiri ar gopa’r Eifl yn llefydd distaw iawn hyd yn oed yng nghanol haf.
Un o’r camau y gallai Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y Senedd ei gymryd i wella’r ddarpariaeth sydd ar gael ydi gweithio efo perchnogion tir i’w hannog i agor eu safleoedd hanesyddol am rannau o’r flwyddyn o leiaf – ac ystyried y posibilrwydd o dalu’r perchnogion unrhyw gostau sy’n deillio o wneud hynny – a rhoi cydnabyddiaeth ariannol bychan yn ychwanegol i hynny bosibl.