Methu gweld yr hyn sy’n digwydd o flaen eu trwynau

Dydw i ddim eisiau bysnesu mewn galar plaid arall, ond dwi’n meddwl y dyliwn ddweud pwt am yr obsesiwn sydd gan aelodau seneddol Cymreig ynglyn a Jeremy Corbyn – a’r ffordd mae ‘n cael ei ddefnyddio fel bwch dihangol i egluro pam bod y Blaid Lafur yng Nghymru – a thu hwnt – yn colli cefnogaeth.  Dwi am wneud hynny trwy gyfeirio at berfformiad Llafur yn rhai o gadarnleoedd y blaid yn 1992 – pan roeddynt yn cael eu harwain gan un person o’r Chwith ‘meddal’ a 2015 – pan roeddynt hefyd yn cael eu harwain gan rhywun ar y Chwith ‘meddal’.  

‘Dydw i heb ddethol etholaethau – ceir patrwm tebyg yn holl gadarnleoedd Llafur yng Nghymru.

Cyn mynd ymlaen, mae’n debyg y dylid cymryd ennyd i longyfarch Chris Bryant – does yna neb yng Nghymru wedi bod mor effeithiol am ddifa pleidleisiau Llafur.  
Rwan – mae’r cwymp yna i gyd – ac mae o’n anferth o safbwynt niferol syml – wedi digwydd yn absenoldeb Jeremy Corbyn a phan roedd y criw o wrthryfelwyr sydd bellach yn herio arweinyddiaeth Corbyn yn rhedeg y sioe. 
Mae’n eithaf amlwg bod yna rhywbeth sylfaenol o’i le ar y Blaid Lafur Gymreig – mae hi’n colli pleidleisiau mewn etholiad ar ol etholiad.  Mae hi’n teithio yn union yr un cyfeiriad a’r Blaid Lafur yn yr Alban, ond ychydig yn arafach.  Os ydi’r sefydliad Llafur yng Nghymru yn credu mai cael gwared o Corbyn ydi’r ateb i’w problemau, dydyn nhw heb fod yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd o flaen eu trwynau am chwarter canrif.

Ar y ffens?

Diolch i Ann Hopcyn am ddwyn fy sylw at ymddygiad bisar Plaid Lafur Arfon mewn perthynas a’r gwrthryfel o fewn y Blaid Lafur yn erbyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod i ymgeisydd Llafur yn etholiad Cynulliad eleni, Sion Jones gefnogi Andy Burnham ar y cychwyn yn etholiad arweinyddol Llafur y llynedd, cyn troi at Jeremy Corbyn.  Cafodd lond bol ar Jeremy Corbyn yn fuan iawn, a phenderfynodd gefnogi Owen Smith yn yr ornest eleni.  Nid yn unig hynny, ond penderfynodd fod yn gydlynnydd ymgyrch Smith yn Arfon, a threfnu banc ffonio i geisio perswadio pobl i bleidleisio i’r dyn bach o’r Bari.

Yn wir, ymddengys ei fod yn mynd cyn belled a rhoi’r bai ar Corbyn am bolio diweddar gwael Llafur yn hytrach na’r criw o gynllwynwyr sydd wedi taflu’r blaid i ryfel cartref a galw ar Corbyn i ymddiswyddo heb etholiad.
Ond – a barnu o’r trydariad yma gan un o hoelion wyth Llafur yn Arfon – does gan Sion ddim llawer o gydlynnu i’w wneud oherwydd nad oes fawr neb ymhlith Llafurwyr Arfon yn cefnogi Smith.  

Rwan, tydi hyn ddim yn syndod arbennig o fawr i mi a dweud y gwir oherwydd bod y rhan fwyaf o Lafurwyr Arfon – yn fy mhrofiad i o leiaf – yn bobl sy’n arddel gwerthoedd Llafur yn hytrach na’r dipyn o bob dim i bawb mae Smith yn ei gynnig.  
Mae hyn i gyd yn gwneud rhyw fath o synnwyr – cyn ymgeisydd seneddol allan o gysylltiad efo’i blaid leol ei hun yn uniaethu efo elit etholedig ei blaid.  Mae hyn yn siwr o fod yn wir mewn rhannau eraill o Gymru.  Ond yr hyn nad yw yn ei egluro ydi’r map yma o @CLPNominations
Yn ol hwnnw dydi Plaid Lafur Arfon ddim yn cefnogi’r naill ymgeisydd na’r llall o ran enwebiad swyddogol. Rwan efallai mai camgymeriad ar ran y wefan ydi’r map.  Neu efallai bod well gan Blaid Lafur Arfon eistedd ar y ffens yn gyhoeddus – er bod bron i 90% ohonynt yn cefnogi Corbyn.  Petai hynny’n wir, byddai’n anodd meddwl am blaid leol mwy llwfr ac amharod i ypsetio’r elit etholedig neo Blairaidd yn unman.  Wedi’r cwbl mae gan bron i pob plaid leol arall yng Ngogledd a Gorllewin Cymru y dewrder i wneud eu cefnogaeth i Corbyn yn gyhoeddus.
Byddai’n rhywbeth gwirioneddol bathetig.  

Tros beth saif Owen Smith?

Rydym eisoes wedi edrych ar y blog ar ddelfrydau gwleidyddol cynnar Owen Smith pan roedd yn ymgeisydd ifanc Llafur ym Mlaenau Gwent – mynd i’r afael a defaid a iobs.  Ond mae’n rhaid ei fod wedi symud ymlaen ers hynny – ac wedi magu diddordeb mewn rhywbeth amgenach.  Mae’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw beth mae Owen yn credu ynddo cyn yr etholiad arweinyddol, ond ar ol hir chwilio mae’n bleser gan Flogmenai lenwi’r bylchau a rhoi syniad o’r hyn mae Owen yn credu ynddo bellach.

Mae o’n mwynhau ciniawa efo gwerthwyr arfau yn ei amser hamdden.

A dyna chi – digon i bawb a phopeth yna.  
Os dof o hyd i rhywbeth arall, darllenwyr Blogmenai fydd y cyntaf i gael gwybod.  

Pam nad oes gan Lafur obaith caneri o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae’n ddiddorol i Alun Davies a Carwyn Jones fynd ati i fynegi eu bod am geisio sicrhau y bydd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar yr un pryd – fwy neu lai – a chyhoeddiad adroddiad 5 mlynedd ar y Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r adroddiad yn un maith – a diddorol ar brydiau – ac mae yna lawer iawn, iawn ynddi hi. Ond mae yna un peth amlwg iawn ynglyn a dyfodol y Gymraeg i’w weld yn yr adroddiad – ac mae’n bwysicach nag unrhyw beth arall mewn gwirionedd.  Dwi wedi dwyn y graffiau o’r adroddiad.

Does yna ddim angen eglurhad ar y siart uchod – mae’n amlwg bod newid arwyddocaol a phell gyrhaeddol wedi digwydd ers canol y ganrif ddiwethaf.  Heddiw mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad y Gymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf – a chyn hynny – wedi dysgu’r Gymraeg adref.
Un o’r prif resymau am y newid yma ydi nad ydi trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw nag oedd yn y gorffennol.  Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo ‘r Gymraeg ydi’r broblem – ond bod yna lai o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad yr iaith.  
Mater o fathemateg ydi hyn yn y bon – os ydi 20% o’r gwyr / gwragedd / partneriaid sydd ar gael yn ddi Gymraeg, yna mae’r nifer o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad yr iaith yn siwr o gwympo.  Teuluoedd felly ydi’r mwyaf effeithiol o lawer o drosglwyddo’r iaith. 
Felly os ydi’r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael ei gwrdd mae’n hanfodol bod y nifer o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu.  Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg.  Yn anffodus ‘dydi’r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddim yn cynyddu.  Roedd y ganran o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014/15 nag oedd yn 2010/11.
Dydi’r nifer o blant sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn ymddangos i gynyddu llawer chwaith.  O gymharu faint o blant a asesid trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn 2 mae’r niferoedd wedi cynyddu, tra bod y ganran wedi cwympo.  Demograffeg sy’n gyfrifol am y cynnydd – roedd yna fwy o blant 7 oed yn gyffredinol yn 2014 nag oedd yna bum mlynedd ynghynt.  Gallwn ddisgwyl gweld y nifer sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg yn cwympo fel mae’r niferoedd plant yn gyffredinol yn cwympo.  
Mae yna dystiolaeth bod galw sylweddol am addysg Gymraeg – galw sydd ddim yn cael ei ddiwallu yn y rhan fwyaf o Gymru.  Mae awdurdodau Llafur ymysg y gwaethaf yn y wlad am ddarparu ysgolion Cymraeg.

Y gwir amdani ydi y gall Llafur siarad hyd ddydd y farn am gynhyrchu miliwn o siaradwyr Cymraeg – ond does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o wneud hynny tan maen nhw’n cael eu cynghorau i wneud gwell job ar ddarparu addysg Gymraeg, ac i gael eu gwleidyddion i gefnogi’r addysg Gymraeg, yn hytrach na’i ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol.

Ffrwydriad ar y ffordd o Fynwy – efallai

Bydd y sawl ymhlith darllenwyr Blogmenai sydd efo cof arbennig o dda yn cofio i Aelod Seneddol Mynwy – David Davies – gael sterics pan benderfynodd Llywodraeth y Cynulliad wario £3.2 miliwn ar addasu swyddfeydd ar bumed llawr yn Nhy Hywel ar safle’r Cynulliad yn ol yn 2013.

Rwan dydi £3.2m ddim yn swm arbennig o fawr o gymharu a chyfanrwydd gwariant Llywodraeth Cymru – ond dyna fo, efallai nad ydi David yn hoff o wariant ar senedd-dai a ‘ballu.

Felly mae’n debyg gen i y gallwn ddisgwyl clywed y ffrwydriad mwyaf erchyll o gyfeiriad Mynwy pan fydd David yn dod i ddeall bod Llywodraeth Y DU yn bwriadu gwario £4bn ar gynnal, cadw, addasu ac uwchraddio San Steffan.  Rhag ofn bod rhywun ddim yn rhy siwr o’i syms, golyga hyn y bydd Llywodraeth y DU yn gwario 1,250 punt ar San Steffan am pob punt gafodd ei wario ar Dy Hywel gan Lywodraeth Cymru.  Gobeithio na wneith o wylltio 1,250 gwaith cymaint na wnaeth o yn 2013, neu bydd yn gwneud rhyw fath o niwed iddo’i hun.

A Duw a wyr beth ddigwyddith os daw i ddeall y gallai’r gost yn y diwedd gyrraedd £7.1bn – 2,200 punt am pob punt gafodd ei gwario ar Dy Hywel.

Neu, efallai na fyddwn yn clywed gair o Fynwy ynglyn a’r mater wrth gwrs _ _ wedi’r cwbl mae San Steffan yn lle hynod o bwysig, tra bod y Cynulliad yn _ _ wel rhywbeth i’w wneud efo Cymru.

Perlau Felix – rhan 3 – Felix Paisley (Dr)

O diar, mae Felix eisiau tynnu baneri ‘tramor’ oddi ar adeiladau cyhoeddus.  
Doeddwn i heb feddwl am y tebygrwydd rhwng y diweddar Ian Paisley a Felix nes i mi weld y trydariad yma – ond mae yna debygrwydd – y ddau’n gegog a swnllyd, y ddau’n weinidogion yr Efengyl, y ddau’n  hoff iawn o truiamphalism, y ddau yn gwirioni ar raniadau mewn cymdeithas, a’r ddau yn hoffi tynnu baneri pobl sydd a daliadau gwahanol iddyn nhw eu hunain i lawr.

Dwi’n meddwl mai yn ystod mis Hydref 1964 y mynnodd Paisley bod yr RUC yn mynd i Divis Street i ddwyn baner Wyddelig – syniad gwych a arweiniodd at ddau ddiwrnod o ymladd ac anhrefn ar strydoedd Belfast, at gannoedd o anafiadau ac at garcharu ugeiniau o bobl.   
Does yna neb am fod allan ar y strydoedd i amddiffyn baner Ewrop wrth gwrs – ond mae’r ffordd mae Felix a Paisley yn rhesymu yn debyg iawn.  

Annwyl BBC _ _

_ _ dim ond pwt bach i egluro i chi pam ei bod yn amhriodol i ddarlledwr gwladwriaethol ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i chwilio am eithafwyr i ddadlau y dylai’r iaith Gymraeg farw.

Mae’n syndod i mi eich bod mor stiwpid bod angen eglurhad arnoch, ond dyna lle ydan ni.  Mi wnawn ni bethau mor syml a phosibl.  
Mae’r DU yn gymdeithasegol gymhleth, ac mae yna amrediad o hunaniaethau gwahanol yma. 
Ceir cysylltiad agos rhwng hunaniaeth a gwahanol nodweddion dynol eraill – lliw croen, crefydd, acen, man geni, dosbarth cymdeithasol – ac wrth gwrs iaith.
Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwyr i ddweud yn gyhoeddus y dylai Protestaniaeth farw yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod hynny yn ymysodiad ar hunaniaeth 800,000 o bobl.  Mae hefyd yn rhywbeth hynod o an ryddfrydig a chroes i werthoedd Gorllewinol i’w ddadlau – ond mi wnawn ni adael honna ar un ochr am y tro.  
Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai pobl groenddu Lambeth,neu Fwslemiaid Tower Hamlets gael eu gwasgaru ar hyd y brif ddinas, neu eu hel adref i India’r Gorllewin neu is gyfandir India.  Byddai hynny yn ymysodiad ar hunaniaeth niferoedd sylweddol o bobl. 
Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai Teithwyr gael eu gorfodi i beidio a theithio. Byddai hynny yn ymysodiad ar eu hunaniaeth. 
Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai Iddewon crefyddol roi’r gorau i arfer eu crefydd.  Byddai hynny’n ymosodiad ar eu hunaniaeth hwythau.  
Dydi hi ddim yn briodol i chwilio am eithafwr i ddadlau y dylai trigolion Lerpwl siarad fel y Frenhines.  Byddai hynny’n ymysodiad ar eu hunaniaeth nhw – a byddai’n beth cwbl chwerthinllyd i’w wneud hefyd.
Rwan, dydych chi ddim yn gwneud dim o’r uchod, felly mae’n debyg gen i eich bod yn deall yn o lew na ddylai darlledwr gwladwriaethol fynd ati i danseilio cydlyniant cymdeithasol o fewn y wladwriaeth mae’n ei gwasanaethu.
Mae eithriadau yn aml yn ddadlennol – ac mae’r ffaith bod y Gymraeg a’i siaradwyr yn cael eu heithrio o  ymdeimlad eich corfforaeth o sut y dylid ymddwyn yn briodol yn ddadlennol.  Mae’n awgrymu rhagfarn gwaelodol yn erbyn y Gymraeg a’i siaradwyr.  
Byddwn ddiolchgar petaech yn edrych ar eich gweithdrefnau cydraddoldeb yng ngoleuni’r uchod.  
Diolch.