Mae’r cyfryngau i gyd yn erbyn Corbyn – gydag eithriad esoteric braidd y Morning Star. Mae hyn yn wir am y teledu a’r radio yn ogystal a’r papurau. Rydym yn ol ym mis Medi 2014 i raddau pan roedd adolygiadau’r papurau ar sianeli newyddion 24 awr y Bib yn cynnwys dau westai chwyrn (ac aml anwybodus) eu gwrthwynebiad i annibyniaeth i’r Alban, a chadeirydd oedd yn cytuno’n llwyr efo nhw. Ond Corbyn yn hytrach nag annibyniaeth ydi testun y llif unochrog y tro hwn.
Dewch o hyd i’r gyllell
Dydi’r fan hyn ddim yn lle da i fod
Beth felly fyddai’n digwydd petai Llafur tros y DU yn hollti’n ddwy blaid tros y DU? Wel, petai cefnogaeth Llafur yn aros tua 2:1 efo pwy bynnag fydd yn arwain Llafur gyda’r gweddill yn mynd efo’r blaid newydd, a bod y polau piniwn yn aros lle maen nhw rwan, byddai Llafur yn coll tua 70 sedd tros y DU. Byddai hyn yn eu gadael efo tua 160 sedd a byddai’r Toriaid efo tua 390. Y seddi fyddai’n syrthio yng Nghymru ydi’r ddwy sedd Casnewydd, Ynys Mon, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Delyn, De Clwyd, Wrecsam a Phen y Bont. Byddai Gorllewin a De Caerdydd, Gorllewin Abertawe, Torfaen a Llanelli hefyd o dan gryn fygythiad. Byddai’r gyflafan yn llawer gwaeth mewn etholiad Cynulliad gyda bron i’r cwbl o’r seddi uniongyrchol yn cwympo.
Owen Smith a mewnfudo
- Mae yna 476 lle gwag yn ysgolion cynradd RCT.
- Mae yna 715 lle gwag yn ysgolion uwchradd RCT.
- Mae fwy neu lai pawb yn cael mynd i ysgol o’u dewis.
- 2.1% yn unig o drigolion Rhondda Cynon Taf sydd wedi eu geni y tu allan i’r DU – un o’r ffigyrau isaf yn y DU.
- Mae’r niferoedd o bobl o wledydd eraill yn yr ardal yn gostwng.
- Mae’n debyg mai 18 o bobl sy ‘n chwilio am loches sydd wedi symud i’r ardal ers diwedd y gwanwyn. Mae poblogaeth RCT yn anferth – yr ail sir mwyaf poblog yng Nghymru.
Cywiriad bach
Y broblem efo prynu cath mewn sach
Does gen i ddim rheswm i gredu bod yr hyn mae Sion yn ei ddweud yn gamarweiniol – mae ganddo fynediad i restrau aelodaeth Llafur yng Ngwynedd ac i’w data canfasio a does yna ddim mantais etholiadol i’w ennill o gamarwain yn yr achos yma. Ond mae’r sylw yn crisialu’r broblem efo pleidleisio i ymgeiswyr annibynnol – mae’n weithred sydd braidd yn debyg i brynu cath mewn sach – dydych chi ddim yn gwybod beth ydych yn ei gael.
Ffraeo mewnol UKIP a Llafur – y diweddaraf
Bod rhai aelodau o’r Blaid Lafur yn honni bod arweinydd Llafur yn euog o wahaniaethu hiliol.
Is etholiadau ar y gweill
Caerffili: Dwyrain Risca – Llafur yn amddiffyn
Castell Nedd Port Talbot – Llafur yn amddiffyn
Bro Morgannwg: Gibbensdown – Llafur yn amddiffyn
Yr wythnos mewn ffigyrau
6% – y nifer ddywedodd eu bod nhw’n bwriadu pleidleidio i UKIP mewn etholiad cyffredinol yn ol pol diweddaraf IPSOS MORI. Mae hyn 1% yn is na’r Lib Dems.









