Pan roeddwn yn ysgrifennu am Brexit yn y misoedd cyn y refferendwm roeddwn yn mynegi’r farn mai fy mhrif broblem efo’r syniad oedd y byddai natur y wladwriaeth yn newid yn hytrach na’r niwed economaidd. Roeddwn yn dadlau y byddai’r economi yn addasu i’r realiti newydd.
Erbyn hyn dwi’n credu fy mod yn gywir ynglyn a’r newidiadau i natur y wladwriaeth, ond yn anghywir ynglyn a dyfodol yr economi. Roedd yna awyrgylch senoffobaidd yng Nghynhadledd y Toriaid – ac mae hynny’n awgrymu bod natur y blaid honno wedi newid er gwaeth. Nhw fydd yn rhedeg y sioe (Brydeinig) am gyfnod hir yn ol pob tebyg.
Serch hynny, pan roeddwn yn darogan y byddai’r economi yn iawn yn yr hir dymor roeddwn yn cymryd y byddai’r llywodraeth yn dod o hyd i rhyw ffordd o aros yn y Farchnad Sengl. Mae’n edrych erbyn hyn bod na pan mae’n dod i ddewis rhwng symud rhydd i weithwyr ac aros yn y Farchnad Sengl bod y Toriaid am ddewis y cyntaf. Yn yr ystyr yma adain senoffobaidd y blaid sydd bellach yn rhedeg y sioe. Os ydi’r DU yn gadael y Farchnad Sengl ac yn talu tollau i allforio i’w prif farchnadoedd bydd yn dlotach, os mai tollau’r World Trade Organisation fydd yn cael eu talu byddwn yn dlotach eto.
Rydan ni’n son am rymoedd economaidd gwaelodol yn y fan hyn. Mae cyfoeth yn cael ei greu gan fasnach. Lle’r ydan ni’n cynyddu masnach mae mwy o gyfoeth yn cael ei greu. Lle’r ydan ni’n lleihau lefelau masnach mae cyfoeth yn cael ei leihau. Mae tollau ar allforion a mewnforion yn siwr o leihau masnach a felly cyfoeth. Mae pethau mor syml a hynny yn y bon.
Mae’r sawl sydd am adael ar hyn o bryd yn dadlau bod yr holl dramorwyr yna maent mor hoff ohonynt am fod yn ofnadwy o ffeind efo’r DU. Dydi cytundebau masnach rhwng gwledydd neu flociau masnach ddim yn gweithio felly. Hyd yn oed yn absenoldeb y drwg deimlad mae Brexit wedi ei achosi yn Ewrop, a hyd yn oed yn absenoldeb yr angen i gosbi’r DU am adael Ewrop mae pob ochr yn ceisio creu yr amodau gorau i ‘w masnachwyr ei hun, ac maent am geisio osgoi rhoi mantais i fasnachwyr bloc neu wlad arall.
Gan bod Ewrop fel bloc yn fawr a’r DU fel gwlad yn ganolig o ran maint, bydd y bloc mawr yn dominyddu’r trafodaethau. Os na ellir cael cytundeb rydan ni ‘n mynd i gael telerau WTO. Gan bod cyfran mawr o allforion y DU yn mynd i Ewrop ond cyfran bychan o allforion yr UE yn mynd i’r DU byddai hyn yn broblem anferth i ‘r DU ond yn un fach i’r UE. Bydd y cardiau i gyd gan negydwyr yr UE.
Y sylweddoliad yma yn y marchnadoedd arian sy’n gyrru’r cwymp yng ngwerth y bunt – a’r cwymp yng ngwerth y bunt sy’n gyrru’r cynnydd ymddangosiadol yng ngwerth y marchnadoedd stoc.
Gadewch i ni edrych lle’r ydan ni.
Os edrychwch ar gyfraddau’r llynedd roedd y bunt werth tua $1.50, mae’n dechrau cwympo fel mae’r tren Brexit yn gadael yr orsaf ddechrau’r flwyddyn, mae yna gwymp sylweddol pan mae’r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropiaidd, ac mae’r cwymp yn parhau fel mae’r sylweddoliad bod y DU ar y ffordd allan o’r Farchnad Sengl yn gwawrio ar y marchnadoedd pres.

Mae gwahaniaeth sylweddol yn y DU rhwng faint mae’r wlad yn allforio a faint mae’n mewnforio. Os nad yw’n cau’r bwlch yna bydd y bunt yn parhau i golli tir. Os bydd tollau ar fewnforion bydd gwneud hyn yn llawer mwy anodd nag ydyw ar hyn o bryd. Yr unig ffordd o leihau’r bwlch fydd trwy fewnforio – llai. Mae hynny am arwain at lai o weithgaredd economaidd a llai o wariant oddi mewn i’r economi. Bydd hynny’n arwain at yr economi’n crebachu. Fyddan ni ddim yn union lle’r oedd Iwerddon yn y 50au, ond fyddan ni ddim yn rhy bell.
Mae’n anhebygol y bydd Dinas Llundain yn cael cynnig eu gwasanaethau ar y telerau presenol, ac mae’n bosibl y bydd y pasbort yn cael ei golli ‘n llwyr – felly bydd hwnnw’n crebachu hefyd. Y sector gwasanaethau ariannol ydi injan economi’r DU. Bydd hwnnw hefyd yn arafu.
Bydd hyn oll yn cael ei adlewyrchu ar y marchnadoedd pres. Mae’r bunt yn sefyll rwan ar $1.23. Petai’n $1.30 byddai maint yr economi (fel GDP) yn $2.47 triliwn, pan oedd y bunt werth $1.50 roedd werth tua $2.85 triliwn, os bydd y bunt yn syrthio i $1 bydd gwerth yr economi yn $1.9 triliwn – neu $1.78 triliwn os ydym yn tynnu economi’r Alban o’r sym – ac mae’n fwy na phosibl y bydd rhaid gwbeud hynny. Byddai hyn yn arwain at economi gwerth tua hanner un yr Almaen, traean o un Japan a thua’r un faint ag un India, Brasil neu’r Eidal. Mae hyn yn gryn gwymp.