Rhwng y slabiau concrid

Os ydych chi byth yn mynd i Ferlin, ceisiwch ymweld a’r gofeb i’r Iddewon a laddwyd yn ystod achyn yr Ail Ryfel Byd.  Mae wedi ei lleoli wrth y Reichstad. Mae’r gofeb yn un dadleuol – mae yna lawer o bobl nad ydynt yn ei hoffi – ond mae hi hefyd yn hynod drawiadol. Cafodd ei chynllunio gan Peter Eisenman a Burro Hapbold. Mae’n ymestyn tros 19,000 m2 (4.7-acer) ac mae wedi ei gwneud o 2,711 slab concrid sydd wedi eu gosod ar gae sydd ar allt. Maent yn edrych braidd fel cerrig bedd enfawr. Maent yn amrywio o 0.2m to 4.7 m o ran uchter. Cawsant eu trefnu mewn rhesi – 54 yn mynd o’r gogledd i’r de, ac 87 yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin.




Gallwch gerdded rhwng a slabiau i grombil y gofeb, ac mae’n brofiad digon anghyfforddus – ar ymylon y strwythur rydych yn gweld yn iawn lle’r ydych a’r hyn sydd o’ch cwmpas, mae pethau’n dod yn llai eglur fel rydych yn mynd yn eich blaen, ac erbyn  cyrraedd y canol rhywsut rydych ar goll, 

ac mae’r cerrig o’ch cwmpas yn edrych yn fygythiol, yn fawr ac yn anhrefnus.  Am wn i mai trosiad am pa mor hawdd y llithrodd cymdeithas yn yr Almaen yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd yn araf bach – yn ddi sylw bron – o un digon goddefgar a threfnus i un cwbl anoddefgar oedd yn gallu caniatau i leiafrifoedd gael eu llofruddio wrth y miliwn.
Am rhyw reswm y gofeb yna ddaeth i fy meddwl wrth weld tudalennau blaen rhai o’r papurau newydd y bore ‘ma.

Dechrau’r diwedd i ‘r Ddeddf Hawliau Dynol yn y DU

Bu cryn ddathlu yn y wasg Asgell Dde yn sgil y datganiad bod y DU am symud i gyfeiriad  Belarus a Kazakhstan i ddod yn un o’r triawd o wledydd yn y DU sy’n gwrthod cydnabod y Ddeddf Hawliau Dynol.  Mae llywodraeth May am ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol lle mae’n effeithio ar filwyr mewn brwydr – ac yn ddi amau gallwn ddisgwyl gweld y Ddeddf yn cael ei gwanio ymhellach maes o law.

Mae rhai o’r papurau hynny wedi cynnal ymgyrchoedd i ryddhau rhai o’r ychydig filwyr sydd wedi eu carcharu yn sgil cyflawni troseddau rhyfel.  Y dadleuon a wneir fel rheol ydi bod y Fyddin Brydeinig yn anarferol o foesol a chyfrifol yn y ffordd maent yn cynnal eu mynych ymgyrchoedd milwrol, bod gweithdrefnau’r Fyddin Brydeinig i ddelio a chamymddygiad yn hynod effeithiol a bod yr honiadau a wneir gan bobl yn erbyn y Fyddin Brydeinig o dan amodau’r Ddeddf yn rhai annilys.  


Yn anffodus o edrych ar hanes cymharol ddiweddar y Fyddin Brydeinig dydi’r ffeithiau ddim yn cefnogi’r honiadau.  Mae defnydd chwarter awr o Google wedi dod o hyd i’r _ _ ahem _ _ camgymeriadau canlynol gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y ganrif yma a’r un diwethaf.  
Sefydlu’r Concentration Camps gwreiddiol yn ystod Rhyfel y Boer.  Arweiniodd hyn at farwolaeth tua 27,000 o ferched a phlant gwyn.  Mae’n debyg i nifer tebyg o bobl ddu farw hefyd – ond wnaeth neb drafferthu cyfri.

Arteithio cannoedd o bobl yn Ail Ryfel Irac.

Cyflafan Amritsar yn 1919.  Lladdwyd rhwng 400 a 1,000 o brotestwyr heddychlon mewn tua 10 munud pan daniodd y fyddin Brydeinig i ganol y dorf.  Cafodd y swyddog – Reginald Dyer- oedd yn gyfrifol am roi’r gorchymyn ei symud o’i swydd (ond ddim o’r fyddin) – ond gwnaed casgliad sylweddol iddo o £26,000 (tua £350,000 ym mhres heddiw) gan y cyhoedd rai o’r papurau newydd – gan gynnwys rhai sy’n clochdar am ddiflaniad y Ddeddf Hawliau Dynol heddiw.  Arwydd o ddiolch oedd y rhodd. Eglurodd Reginald Dyer iddo orchymyn y gyflafan oherwydd yr effaith moesol y byddai’n ei gael yn yr ardal. 

Arteithio degau o filoedd o garcharorion yn nyddiau olaf yr Ymerodraeth.  Kenya, Aden a Cyprus ydi’r esiamplau mwyaf enwog o artaith yn cael ei ddefnyddio yn gyson a systematig ar garcharorion – ond roedd llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Llofruddio milwyr Almaenig oedd wedi goroesi wedi i’w llongau gael eu suddo.

Defnyddio arfau cemegol a difa pentrefi (a phob dim oedd yn byw ynddynt) wrth ddelio a gwrthryfel yn Irac yn 1920.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna Iwerddon – yng nghyd destun y rhyfel diweddaraf a’r Rhyfer Black & Tan.  Roedd y digwyddiadau hyn yn ymwneud yn bennaf a lladd heb gyfiawnhad, arteithio a difa eiddo. 
Mae gan llywodraeth Prydain, y gyfundrefn filwrol a’r gyfundrefn gyfreithiol record sal iawn yn hanesyddol o fynd i’r afael a thor cyfraith a dirmyg tuag at hawliau dynol mewn sefyllfa o ryfel.  Mae’r hyn mae May wedi ei wneud yn debygol o sicrhau y bydd yr un patrymau yn ail adrodd eu hunain yn rhyfeloedd y dyfodol – a gallwn fod yn gwbl sicr y bydd yna rhai.

Breuddwyd gwrach Andrew RT

Yn naturiol ddigon fydda i byth yn darllen y Sunday Times, ond dwi’n deall bod Andrew RT Davies – yn fuan ar ol perfformiad hynod siomedig ei blaid yn etholiadau’r Cynulliad – yn gweld dyfodol disglair iawn i’r Toriaid ‘Cymreig’.  Mae’n debyg ei fod yn ‘rhesymu’ y bydd mewn sefyllfa i fod yn Brif Weinidog Cymru yn 2021 oherwydd bod Plaid Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru a bod Corbyn yn uffernol o adain Chwith a gadael y ‘tir canol’ iddo fo a’i griw llawen.  Beth am edrych ar yr hyn sy’n sefyll rhwng Andrew a’i uchelgais?  (Hynny yw ag eithrio rhesymu arwynebol arweinydd y blaid).

1). Andrew RT Davies.  Mae’r polau yn dangos bod Andrew yn gyson lawer llai poblogaidd nag arweinwyr y pleidiau eraill.  Dydan ni ddim yn gwybod sut bydd yn cymharu a Neil Hamilton eto – rwan bod UKIP wedi defnyddio eu dull unigryw o ddewis a newid eu harweinyddion Cymreig – ond bydd y gystadleuaeth rhyng Andrew a Neil i fod yn arweinydd pleidiol lleiaf poblogaidd Cymru yn un ddiddorol.
2). Grwp Andrew RT Davies.  Oherwydd eu harfer o adael i’r un hen griw fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen yn gwneud yr un hen beth ‘does yna ddim troelli o ran Aelodau Cynulliad Toriaidd – ag eithrio pan mae’r rhai sydd a mymryn o gic yn perthyn iddynt yn llwyddo i wireddu uchelgais pob gwleidydd o Dori a chael ei ethol / hethol i San Steffan.  Un o sgil effeithiau hyn ydi nad oes yna neb i gymryd lle Andrew RT – felly ‘fedar y Toriaid ddim cael gwared ohono fo.
3). Nenfwd naturiol y Toriaid yng Nghymru.  Tua thraean ydi’r bleidlais uchaf i’r Toriaid ei gael yn y cyfnod ar ol y Rhyfel yng Nghymru – ac roedd hynny mwy na deg mlynedd ar hugain yn ol, mewn amgylchiadau arbennig iawn ac mewn Etholiad Cyffredinol.  Mae’r Toriaid pob amser yn tan berfformio mewn Etholiadau Cynulliad o gymharu a rhai Cyffredinol.  Ond hyd yn oed petaent yn cyflawni gwyrth ac yn cynyddu eu pleidlais tua 15% (rhywbeth sydd byth yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru na Lloegr) byddai’n dal yn anigonol.  Gall Llafur ennill mwyafrif efo traean o’r bleidlais, ond mae dosbarthiad cryfder etholiadol y Toriaid yn ei gwneud yn anhebygol y gallant hwy wneud yr un peth efo’r un bleidlais.
4). UKIP.  Mae gwleidyddiaeth wedi mynd braidd yn gymhleth – ac o ganlyniad dydi hi ddim yn gwbl glir bellach beth ydi’r ‘tir canol’ nag yn wir os oes tir felly yn bodoli.  Ond mae bodolaeth UKIP yn cyfyngu ar sgop y Toriaid i addasu eu lleoliad gwleidyddol yn y DU ac yng Nghymru. Mae adain senoffobaidd y Blaid Doriaidd yn weddol agos at UKIP.
5). Brexit.  Bydd y Toriaid wedi gorfod negydu ymadawiad y DU a’r Undeb Ewropeaidd a byddant yn gwneud hynny o dan gryn anfantais – bydd y broses yn un anghyfartal iawn – mae’r DU yn gydadran cymharol fach o farchnad yr UE, tra bod yr UE yn rhan anferth o farchnad y DU.  Mae’n eithaf sicr y bydd gwaed ar y carped – mynediad y Ddinas yn Llundain i’r system ariannol yn yr UE wedi ei gyfyngu, tollau ar allforion, cyfyngiadau ar deithio i’r UE er enghraifft.  
Bydd problem arall hefyd – mae’n debyg y bydd llai o ddinasyddion y DU eisiau byw a gweithio yn y DU (hyd yn oed os byddant yn cael gwneud hynny) a bydd rhaid chwilio yn rhywle arall am bobl i gyflenwi gofynion y farchnad waith – neu weld yr economi yn crebachu.  Os mai o’r llefydd amlwg y bydd y bobl hynny ‘n dod, bydd adain senoffobaidd y Blaid Doriaidd yn cael eu hunain mewn stad o sterics parhaol. 
 ‘Dydi’r teulu Toriaidd ddim yn debyg o fod yn un arbennig o ddedwydd yn 2021 mae gen i ofn.  

Y drwg efo gwneud unrhyw beth _ _

_ _ ydi nad ydym ni’n siwr sut fydd pethau ar ddiwedd y daith.

Meddwl oeddwn i am hynny wrth edrych ar yr adroddiadau ar hanes rhyfedd nifer o Bleidwyr a Libya yn 1976.  
Ar wahan i’r diwethaf, lluniau geir isod na fyddai’r sawl sy’n ymddangos ynddynt yn arbennig o falch o fod wedi ymddangos ynddynt tra’n edrych yn ol.  Lluniau wedi eu cymryd ymhell cyn i’r daith ddod i ben.  
Petai hanes yn beirniadu – ac at ei gilydd does yna fawr o feirniadaeth o fflyrtian y Dde Prydeinig efo Naziaeth yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd – mae’n debyg y byddai’n ffeindiach efo tad y Frenhines yn dysgu iddi sig heilio yn 1933 na fyddai efo’r Swyddfa Dramor yn gorchymun tim pel droed Lloegr i wneud yr un peth yn 1938.  Er bod natur Naziaeth yn eithaf clir yn 1933, roedd y gwir ffieidd-dod yn gwbl amlwg erbyn 1938.
Mae’r llun diwethaf yn wahanol i’r gweddill yn yr ystyr bod diwedd y daith yn gwbl glir i Thatcher pan gafodd de efo Pinochet, ond mwynhaodd y sgons, jam a hufen beth bynnag.

Tour de force mewn rhagrith

Mae’r stori ddeugain oed yma sydd yn ymddangos yn Walesonline heddiw wedi ennyn ymateb eithaf digri – yn arbennig felly gan y Toriaid ‘Cymreig’ – plaid sy’n gyflym ddatblygu i fod yn arweinydd Byd eang yn y grefft o ragrithio di gywilydd ac eithafol.  
I dorri stori hir yn un fyrach mae’n ymwneud ag ymweliad gan nifer o bleidwyr a Libya ddeugain mlynedd yn ol, a rhodd honedig o £25,000 gan lywodraeth Libya i’r Blaid.
Rwan does yna ddim amheuaeth i nifer o aelodau’r blaid ymweld a’r wlad yn 1976, ond mae yna gryn dipyn o amheuaeth am y £25k.  Fel mae’n digwydd bod mae gen i frith gof o’r stori am y £25k – roeddwn yn 16 ar y pryd, a dwi’n eithaf siwr ei bod yn un o’r straeon yna sy’n crwydro weithiau – urban myth fel dywed y Sais.  Byddai £25,000 yn 1976 werth tua £190,000 heddiw – byddai’r cyfraniad mwyaf yn hanes y Blaid o ddigon.  

Byddai pres felly wedi ei roi i’r Blaid byddai wedi ei wario ar rhywbeth neu’i gilydd, a byddai rhywfaint ohono wedi ymddangos ar rhyw ffurf neu’i gilydd yn etholiad 1979 – un o’r rhai lleiaf llwyddiannus a lle cafwyd y lleiaf o wariant yn hanes y Blaid.  ‘Does yna ddim cofnod o daliad o’r fath gan y Blaid – a does yna ddim cofnod yn Libya chwaith.
Mae’r Toriaid wrth gwrs yn arbenigwyr ar dderbyn cyfraniadau o ffynonellau amheus – cawsant £440,000 gan y drwg weithredwr Asil Nadir ar ddechrau naw degau’r ganrif ddiwethaf er enghraifft.  Ar yr un pryd fwy neu lai roedd y blaid honno wedi derbyn cyfraniad anferth o £2,000,000 gan y Groegiwr John Latsis – perchenog llongau ac un o brif gefnogwyr unbeniaeth milwrol y wlad rhwng 1967 a 1974.  Mae yna hefyd le i gredu i John Major sicrhau nifer o ddynion busnes Asiaidd oedd yn cyfrannu i goffrau ‘r Ceidwadwyr y byddai’n cadw amodau treth hynod ffafriol iddynt – amodau oedd yn caniatau iddynt dalu treth bitw ym Mhrydain ar enillion tramor anferth.  
Ond mae’r Toriaid hefyd yn gyfeillion agos efo llywodraethau unbeniaethol sydd o leiaf cyn waethed a llywodraeth Gadaffi yn ei dyddiau olaf, a llawer iawn gwaeth na’r hyn oedd yn 1976.  Ac mae’r cyfeillgarwch hwnnw’n gyfredol ac yn barhaus yn hytrach na’n ymwneud ag un ymweliad yn nghanol y ganrif ddiwethaf.  
Dydi’r Blaid Doriaidd ddim yn derbyn cyfraniadau gan y Saudis, ond mae’n sicrhau bod dwsinau o drwyddedau yn cael eu dosbarthu i gwmniau arfau Prydeinig i werthu arfau i’r unbeniaethol). Mae’r rhestr cyhuddiadau yn erbyn unbeniaeth Saudi Arabia yn faith:
1). Hawliau dynol ar ei thiriogaeth ei hun gyda’r gwaethaf yn y Byd.
2). Cyflawni troseddau ryfel lu yn Yemen – gan gynnwys gwneud defnydd eang o artaith.
3). Gwneud defnydd eang o artaith mewn rhyfeloedd ac i bwrpas mynd a’r afael a gwrthwynebiad gwleidyddol ar ei thiriogaeth ei hun.
4). Gwneud defnydd o’r gosb eithaf yn amlach na bron i unrhyw wlad arall yn y Byd.
5). Cefnogi ac ariannu terfysgaeth Byd eang.  Pres a chefnogaeth unbeniaeth Saudi Arabia ddaeth ag Al Qaida ac ISIS i fodolaeth.
Ahhhh- dwi’n sylwi i Lafur gael ei phig i mewn.
Roedd Llafur efo union yr un gysylltiadau efo’r unbeniaeth Saudi a sydd gan y Toriaid wrth gwrs.

Ond roedd Llafur Blair hefyd ar dermau da iawn efo llywodraeth Gadaffi yng nghyfnod Tony Blair allforwyd gwerth tua £120 miliwn o arfau i’r wlad rhwng 2005 a 2009 – y rhan fwyaf ohono’n stwff a fyddai’n cael ei ddefnyddio gan y weinyddiaeth i ymosod ar ei phoblogaeth ei hun.  Roedd Blair mor gyfeillgar efo’r unben nes mynd ati i gywiro traethawd estynedig un o’i feibion ar gyfer doethuriaeth mewn gwleidyddiaeth.  Dwi ddim yn tynnu coes

Yn wir aeth cyn belled ag ysgrifennu llythyr i Gadaffi yn ymddiheuro am fethu ag alldraddodi rhai o’i wrthwynebwyr mewnol.  
O.N Dwi’n sylwi hefyd bod y stori wedi cael lle blaenllaw ar wefan ‘newyddion’ y Bib i’r stori ddeugain oed yma – yn wahanol i’r stori mymryn yn fwy cyfredol am fethiant Llafur yn y Cynulliad i gefnogi galwad am fynediad llawn i Gymru i’r farchnad sengl.  Mae’n debyg y byddwn yn clywed am honno yn 2056.  

Llafur – beth nesaf?

Felly dyna’r coup drosodd – o bosibl un o’r cynllwyniau mwyaf di glem ac idiotaidd yn hanes gwleidyddiaeth diweddar – wedi ei gynnal ar yr amser anghywir, yn gwneud defnydd o’r ymgeisydd anghywir ac yn siwr o fethu o’r dechrau’n deg.  Y bwriad oedd difa arweinyddiaeth Corbyn, a thrwy hynny gryfhau’r Blaid Lafur yn etholiadol.  Y canlyniad oedd cryfhau gafael Corbyn ar y blaid a’i thanseilio’n etholiadol.

Reit – beth fydd yn digwydd nesaf?  Yn fy marn bach i, rhywbeth tebyg i’r canlynol.
1).  Bron pawb oddi mewn i’r blaid yn galw am undod.  Siarsio cyffredinol mai’r dasg rwan ydi gwrthwynebu’r Toriaid ac ati, ac ati.
2).  Y Chwith yn mynd ati i ddefnyddio ei fantais niferol i adgyfnerthu ei afael ar strwythurau mewnol y blaid.  Mewn gwirionedd does ganddi ddim dewis.  Roedd diffyg rheolaeth lawn y Chwith tros y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn gryn fygythiad i Corbyn – cael a chael oedd hi iddo gael caniatad i sefyll o gwbl.  Wnaeth ymdrechion pencadlys Llafur i atal cefnogwyr Corbyn rhag pleidleisio yn eu miloedd ddim gwahaniaeth yn y diwedd – roedd y bwlch rhy fawr.  Ond roeddynt yn dangos y perygl o fod a rheolaeth rannol yn unig o’r blaid.
3). Gwrthryfelwyr o Aelodau Seneddol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd.  Mae’r newid ffiniau, a’r ffaith bod mwyafrif aelodau lleol y blaid yn gefnogol i Corbyn yn rhoi cryn bwysau ar y cyfeillion hyn. Mae swydd aelod seneddol efo cyflog rhy dda, ac amodau gwaith rhy ffafriol i’w colli ar chwarae bach.  Bydd y cam nesaf yn dyngedfenol i lawer ohonynt. 
Eisoes gwelwyd Nia Griffith yn gwneud ei phenderfyniad – ar ol yr holl honni nad ydi Corbyn yn etholadwy mae wedi plygu glin a dychwelyd i’r gorlan yn llywath ei gwedd a thawel ei llais.  Roedd rhai o aelodau ei phlaid leol hi ymysg y mwyaf llafar eu cefnogaeth i Corbyn wrth gwrs.  
Mae’n debygol y bydd eraill yn dod i gasgliadau gwahanol – bydd rhai yn aros ar y cyrion  i weld beth ddigwyddith ac yn gweithredu wedyn, tra bydd eraill eto yn penderfynu bod eu perthynas efo’u pleidiau lleol wedi ei niweidio i’r fath raddau nad ydynt am gael eu hail ddewis – a byddant yn edrych ar yr opsiynau sy’n cynnig y posibiliadau gorau o barhau i fod yn aelodau seneddol wedi 2020. 
4). Adain Dde, Blairaidd y blaid yn penderfynu beth i’w wneud.  
Mae’n bwysig deall bod i’r Blaid Lafur dair prif cydadran – Y Chwith, y Dde a’r sawl sydd heb ideoleg cryf.  O ran yr aelodaeth mae’r Chwith yn gryfach na’r un cydadran arall – mae canlyniad yr etholiad yn brawf o hynny.  
Sect bach ydi’r un Blairaidd, ond mae wedi ei or gynrychioli ymysg aelodau seneddol a llwyddodd i ennill rheolaeth tros y blaid am gyfnod o tua pymtheg mlynedd.  Yr hyn wnaeth y sect Blairaidd tra’n rhedeg y blaid – a’r wladwriaeth – sydd wrth wraidd llawer o’r anhrefn sy’n nodweddu Llafur heddiw.  
Mae’r gweddill yn weddol ddi ideoleg.  Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau seneddol a lwmp mawr o’r Blaid Lafur ‘Gymreig’ yn y categori yma.  Mae Owen Smith yn esiampl arbennig o dda.  Cyn iddo geisio gosod ei hun ar Chwith y blaid i bwrpas  ennill yr etholiad arweinyddol doedd o erioed wedi dangos fawr o gredoau sylfaenol o gwbl ag eithrio gwrthwynebiad llwyr i iobs a defaid, diffyg diddordeb mewn datganoli, tueddiadau unoliaethol cryf, ymdeimlad o fod yn anghysurus ynglyn a’i Gymreigrwydd ac ambell i ddatganiad na fyddai ymyraeth y sector breifat yn y Gwasanaeth Iechyd yn beth drwg i gyd yn y dyddiau pan roedd yn gweithio i Pfizer. 
Bydd y di ideoleg yn dilyn y llwybr sy’n fwyaf tebygol o sicrhau eu goroesiad gwleidyddol.  Mae pethau’n wahanol i’r Dde Blairaidd.  Ag eithrio agweddau tuag at Brexit mae yna lawer mwy yn gyffredin rhyngddyn nhw a’r Blaid Doriaidd na sydd rhyngddyn nhw a Corbyn.  Os ydi’r Chwith yn cadarnhau ei afael ar y blaid mae’n fwy na phosibl y bydd rhain yn gadael.  Dydi’r system etholiadol ddim yn garedig efo pleidiau bach yn y DU – ond mae gan y Blairiaid aelodau seneddol ond dim plaid, ac mae gan y Dib Lems blaid ond fawr ddim aelodau seneddol _ _ .
Ond beth bynnag fydd gwhanol elfennau o’r Blaid Lafur yn ei wneud tros y misoedd nesaf, mae un peth yn sicr – mae’r holl gybol wedi gwneud cryn ffafr a’r Toriaid.  Mae yna raniafau go iawn yn y blaid honno tros Brexit, ond diolch i antics y Blaid Lafur ‘dydi’r cyfryngau heb orfod adrodd ar hynny eto.  

Cymharwch a chyferbyniwch

O leiaf mae’r Western Mail yn adnabod stori fawr pan maen nhw’n gweld un.  Ac wrth gwrs mae’r ffaith bod Llafur – yn yr unig ran o’r DU mae’n ei llywodraethu – yn pleidleisio i efo’r Toriaid ac UKIP yn erbyn cynnig oedd yn nodi pwysigrwydd mynediad llawn i Gymru o’r farchnad sengl yn stori fawr.
Dydw i ddim adref – a does gen i ddim mynediad hawdd i wasanaethau’r Bib, ond does yna ddim llawer i’w weld am y stori ar eu gwefan.  
Byddwch yn cofio ymateb hysteraidd y Bib pan bleidleisiodd Aelodau Cynulliad Toriaidd ac UKIP tros Leanne Wood i fod yn Brif Weinidog.  Anfonwyd gohebydd i Flaenau Gwent i honni wrth bobl (yn hollol anghywir) bod clymblaid rhwng y Blaid, UKIP a’r Toriaid, gwneud vox pop ar sail y celwydd hwnnw a’i roi ar flaen eu rhaglen.

Meddyliwch am y peth am funud – plaid lywodraethol Cymru yn pleidleisio efo criw o bobl oedd at ei gilydd eisiau gadael yr Undeb Ewropiaidd yn uniongyrchol yn erbyn buddiannau Cymru ar ol cyfnod lle mae Brexit wedi dominyddu’r newyddion am fisoedd – ac mae’r darlledwr gwladwriaethol yn hynod dawedog am y peth.  
Hunan sensoriaeth ydi’r term technegol dwi’n meddwl.