Ydi Gwilym Owen yn deall beth ydi Trydar?

Dwi ond yn gofyn y cwestiwn yn sgil ei erthygl fwy bisar nag arfer yn Golwg heddiw.  Wna i ddim eich blino efo’r rhan fwyaf o’r erthygl ag eithrio i nodi ei bod yn ymdrech eithaf hysteraidd i amddiffyn ymddygiad diweddar Dafydd Elis-Thomas, ymosod ar y sawl oedd yn ei feirniadu a dethol yn ofalus yr ychydig sylwadau canmoliaethus y daeth o hyd iddynt.  

Ond yr hyn sy’n rhyfedd ydi ei sylwadau am ddefnyddwyr Trydar – neu’r twitterati chwadl yntau:
Ac yn dilyn y cyhoeddiad fe gafwyd ymateb gwarthus o’r cyfeiriadau hunangyfiawn arferol.  Wrth gwrs roedd y twitterati dienw yn rhaffu brawddegau personol ac enllibus amdano.  Mae rhywun yn disgwyl hynny bellach gan y criw hunan dybus sy’n barod i fwrw sen ar unrhyw un nad yw’n canu o’r un llyfr emynau a nhw.  Ac felly does dim angen rhoi gormod o sylw i’r cawodydd beirniadol a ddaw fel arfer yn ystod oriau’r nos.

Mae’n anodd gwybod yn iawn lle i ddechrau.  Mae’n wir bod cyfathrebu ar trydar yn tueddu i fod braidd yn fwy anghwrtais na chyfathrebu mewn bywyd pob dydd – ond mae’n rhaid i mi ddweud nad oes yna ddim byd arbennig o amhriodol byth yn ymddangos ar fy llinell amser i.  Serch hynny mae’r canfyddiad ymddangosiadol yn y darn bod pawb sy’n defnyddio Trydar o’r un farn yn union yn amlwg yn gwbl gyfeiliornus.  Mi gewch chi pob barn y gallwch feddwl amdani ar Trydar – mae natur y farn rydych yn dod ar ei thraws yn dibynnu ar pwy rydych wedi dewis ei ddilyn.  Os ydych y  cael pobl sy’n rhannu’r un farn yn union pob amser, y rheswm am hynny ydi eich bod wedi bod yn hynod ddethol wrth ddewis pwy i ddilyn. Os ydi pawb ar eich llinell amser yn poeri sen a sarhad byth a hefyd, y rheswm am hynny ydi eich bod chi yn dewis dilyn pobl felly.   Dydi hyn ddim y tro cyntaf o bell ffordd i Gwilym gyfeirio at Trydar fel petai’n mynegi meddylfryd cwch gwenyn.
O ran fy llinell amser i ymddangosodd amrywiaeth o sylwadau ynglyn ag ymadawiad Dafydd Elis-Thomas, rhai yn feirniadol a rhai yn lled gefnogol – yn arbennig felly gan wleidyddion o bleidiau unoliaethol.  Roedd rhywfaint o’r sylwadau beirniadol yn bersonol ond doedd yna ddim byd enllibus nag arbennig o faleisus.  Lleiafrif cymharol fach o’r sawl dwi’n eu dilyn sy’n ddi enw – er bod yna ambell un.  Mae unrhyw un sydd wedi dilyn ei linell amser Trydar mewn gwlad sydd mewn parth amser gwahanol i Gymru yn gwybod ei bod yn ddistaw iawn, iawn pan mae ynghanol nos yng Nghymru.
Hyd y gwn i ‘does gan Gwilym ddim cyfri trydar ei hun (oni bai bod ganddo gyfri di enw),  ond byddai’n ddiddorol gwybod llinell amser pwy yn union mae’n ei dilyn.  Un pwy bynnag ydi hi mae’n gwbl wahanol i fy un i – a byddwn yn tybio ei bod yn gwbl wahanol i un pawb arall yng Nghymru hefyd.


Mwy o ddiolch i Gymru gan San Steffan

Mae’r gwahaniaeth rhwng adroddiad BBC Scotland ag un BBC Cymru ar y datganiad y bydd Maes Awyr Heathrow yn cael trydydd glanfa yn ddadlennol.  
Yn naturiol ddigon mae  adroddiadau’r ddau wasanaeth cenedlaethol yn canolbwyntio ar oblygiadau’r datblygiad anferth yma i’r wlad maent yn eu gwasanaethu.  Bydd y datblygiad yn cosio £17.6bn, ac os ydi’r propoganda i’w gredu bydd £61bn o fudd i ‘r economi ehangach tros gyfnod o drugain mlynedd.  

Mae’r adroddiad gan BBC Scotland yn cyfeirio at fanteision penodol i ‘r Alban – buddsoddiad yn yr Alban o £200m ac 16,000 o swyddi.  Mae BBC Cymru yn son am obaith – neu bosibilrwydd – y bydd cysylltiad yn cael ei sefydlu rhwng Caerdydd a Heathrow rhyw ddiwrnod.
Mae’r gwahaniaeth yn adrodd cyfrolau – mae’r Alban wedi cael rhywbeth pendant, mae Cymru wedi cael ar ddeall nad ydi cyswllt newydd ‘allan o’r cwestiwn’.  Mewn geiriau eraill, mae un gwlad wedi cael rhywbeth pendant tra nad ydi’r llall yn cael ddim byd.
Y wlad sydd efo’r trefniadau cyllido ffafriol a sydd a’i Senedd wedi derbyn pwerau arwyddocaol a phell gyrhaeddol sydd wedi dod allan o hon orau – eto fyth.  Ac mae yna reswm wrth gwrs, rheswm rydym yn dychwelyd ato fyth a hefyd ar y blog yma – mae llywodraeth y DU yn ofn yr Alban oherwydd patrymau pleidleisio’r Alban.  Y neges mae patrymau pleidleisio Cymru yn ei roi i lywodraeth San Steffan ydi nad oes angen poeni amdanom, a gellir ein anghofio yn ddi gost.  Mae’r ffordd rydym yn pleidleisio yng Nghymru yn wirioneddol hunan niweidiol.

Pam na ddylai’r Blaid glymbleidio efo Llafur

Mae cryn sylw cyfryngol wedi ei roi i’r syniad o glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur tros y dyddiau diwethaf – er y dylai araith Leanne fod wedi rhoi taw ar hynny am y tro.
Yn arwynebol mae yna resymeg yn cynnal y syniad.  Gyda chanlyniad y refferendwm, y senoffobia sydd wedi codi yn sgil hynny a symudiad disymwth y Toriaid tua’r Dde anoddefgar, senoffobaidd, mae yna ddadl tros ddod a’r elfennau blaenagar, goddefgar gwrth senoffobaidd yng Nghymru at ei gilydd.  
Beth bynnag fy ngwahaniaethau efo Llafur Cymru byddwn yn rhoi fy hun ar yr un ochr na nhw yn y cyd destun yma – er gwaetha’r ffrwd anoddefgar, gwrth Gymreig a gwrth Gymraeg sydd wedi ei nodweddu’r blaid  hyd yn gymharol ddiweddar. 
Fodd bynnag, byddai hynny’n gamgymeriad – a dyma pam:

1). Oherwydd mai’r patrwm arferol yn y DU (ag eithrio Gogledd Iwerddon lle mae’r patrymau etholiadol yn cael eu gyrru gan rymoedd hollol wahanol) ydi bod clymbleidiau yn ddi os yn arwain at gosb etholiadol i’r blaid leiafrifol yn y glymblaid yn yr etholiad yn dilyn y llywodraeth glymblaid.  Mae hefyd fel rheol – er nad pob tro – yn arwain at gryfhau sefyllfa’r blaid fwyafrifol.  Gellir dadlau ynglyn a pham bod hyn yn digwydd (pwnc i flogiad arall o bosibl), ond ‘does yna fawr ddim amheuaeth ei fod yn digwydd.  Dydi’r patrwm hwn ddim wedi ei gyfyngu i’r DU – o bell ffordd.  ‘Dydi’r Blaid ddim eisiau cryfhau sefyllfa Llafur na gwanio ei sefyllfa ei hun.

2). Oherwydd bod y Blaid Lafur mewn cyflwr ansefydlog – os nad ffrwydrol – ar hyn o bryd.  ‘Does yna ddim dal beth sydd am ddigwydd nesaf efo’r Blaid Lafur.  ‘Dydi hi ddim yn syniad gwych i unrhyw blaid, nag yn wir berson,  gysylltu ei hun yn agos efo rhywbeth a allai’n hawdd ffrwydro.  ‘Dydi bod yn collateral damage – chwedl ein cyfeillion Americanaidd – ddim yn rhywbeth y dylai ‘r Blaid roi ei hun mewn sefyllfa i ymgyraedd tuag ato.  Mae’r Blaid Lafur ar hyn o bryd yn rhy berygl i’w fodio rhyw lawer.  
3). Dydi safle bargeinio’r Blaid ddim yn gryf.  Yn sgil ymadawiad yr Arglwydd Ellis-Thomas o gorlan y Blaid a hanner ymadawiad Nathan Gill o UKIP, mae gan Lafur nifer o opsiynau.  ‘Dydyn nhw ddim yn ddibynol ar y Blaid, ac felly nhw fyddai’n dominyddu unrhyw drafodaethau, a nhw hefyd fyddai ‘n tra arglwyddiaethu tros unrhyw ddeillianau polisi.
4). Yn fwy arwyddocaol na’r un o’r uchod ydi cyfeiriad tymor canolig i hir y Blaid.   Dylai prif  amcan strategol y Blaid fod wedi ei gyfeirio’n bennaf at ddifa tra arglwyddiaeth etholiadol y Blaid Lafur yng Nghymru.  Mae Llafur wedi dominyddu Cymru yn etholiadol ers bron i ganrif.  ‘Dydi canlyniadau hynny heb fod yn dda i Gymru – mae’n dlotach na bron i unrhyw ardal arall yng Ngorllewin Ewrop.  
Y llywodraeth orau i Gymru ei chael erioed oedd llywodraeth Cymru’n Un.  Roedd yr hyn oedd yn ddiddorol ac arloesol amdani yn ddeilliant i fewnbwn Plaid Cymru – a roedd Cymru ar ei hennill yn y byr dymor.  Ond yn y tymor canolig roedd ar ei cholled oherwydd i’r glymblaid gryfhau Llafur yn etholiadol a gwanio’r Blaid.  Canlyniad tymor canolig hyn oedd llywodraeth mwyafrifol Llafur o 2011 i 2016 – un a lithrodd yn ol i ddarparu’r arlwy di hid, di ddychymyg arferol.  Y peth gorau allai ddigwydd i Gymru ydi i Lafur gael ei hun yn yr un lle a Llafur yr Alban – hynny ydi yn drydydd plaid gyda dylanwad ymylol ar fywyd y wlad. 
 Hyd yn oed os ydi hi’n bosibl gwella Cymru yn y byr dymor trwy glymbleidio efo Llafur, ni ddylid gwneud hynny – Llafur gryfach ydi’r peth diwethaf mae Cymru ei hangen.  Os ydi hanes y ganrif ddiwethaf yn dangos unrhyw beth i ni, mae’n dangos hynny.

Ynglyn ag ail gynnal etholiadau

Dwi’n cytuno efo’r rhan fwyaf o’r hyn sydd gan Dylan Iorwerth i ‘w ddweud ynglyn a’r helynt Dafydd Ellis Thomas yn rhifyn heddiw o Golwg.
Mae’n gywir i nodi bod angen trefn lle gall etholiad gael ei hail gynnal pan mae ymgeisydd yn newid ei blaid yn fuan ar ol argyhoeddi’r etholwyr ei fod yn sefyll tros blaid arall.  Mae hefyd yn wir bod nifer o gynghorwyr wedi troi at Blaid Cymru yn y gorffennol cymharol agos, ac nad oes is etholiadau wedi bod yn sgil hynny.  Byddwn yn ychwanegu fodd bynnag bod achos Dafydd Ellis-Thomas yn anarferol oherwydd bod eglurhad Dafydd yn awgrymu’n gryf ei fod yn bwriadu gadael y Blaid cyn yr etholiad ac yn wir pan ddaeth i gytundeb efo’r Blaid yn lleol yn ei etholaeth.  Mae hefyd yn ymddangos o’r datganiadau hynny bod rheswm hynod hunanol ac anymunol tros yr ymadawiad hefyd – nad oedd y Blaid yn fodlon ‘edrych ar ei ol’.  

Efallai mai’r ffordd orau o fynd ati i atal gwleidyddion rhag defnyddio adnoddau pleidiau i gael eu hethol ac yna gadael y pleidiau cyn gynted a phosibl, ydi trwy sefydlu mecanwaith ail alw os ydi – dyweder- 10% o’r etholwyr yn gofyn am is etholiad.
Ond mae yna gymhlethdod bach.  Yn achos Dafydd Ellis-Thomas ni fyddai problem gyda chynnal is etholiad, ond beth fyddai’n digwydd yn achos aelod rhestr fel Nathan Gill?  Pedwerydd oedd UKIP yn y bleidlais rhestr yn y Gogledd, ac yn ol pob tebyg pedwerydd fyddai eu safle petai’r etholiad yn cael ei hail gynnal.  Mae’n anodd gweld sut y gellid gweithredu’r egwyddorion D’Hont a rhoi’r sedd i’r blaid sy’n dod yn bedwerydd yn yr is etholiad.  Ac ar ben hynny mae yna’r gost enfawr o gynnal etholiad ar draws naw etholaeth i lenwi un sedd.  
Rheswm pellach i fabwysiadu system STV o bosibl.  

Cofiwch am y Gynhadledd – a chais bach

Bydd Cynhadledd Flynyddol y Blaid yn cael ei chynnal ddydd Gwener a ddydd Sadwrn, Hydref 21 a 22.  Galwch heibio os cewch y cyfle – mae’n digwydd ar drothwy cyfnod tyngedfenol yn hanes Cymru.

Os ydych yn dod draw, ac os ydych yn aelod byddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn etholiad mewnol y Blaid i ddewis Cyfarwyddwr Ymgyrchu ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.  Dim ond fi sydd wedi ymgeisio am y rol, ond yn unol a threfn arferol y Blaid mae’n rhaid cynnal etholiad beth bynnag – felly byddwn yn gwerthfawrogi eich croes os gwelch yn dda.
Dwi eisoes yn cynrychioli Gogledd Cymru ar y Pwyllgor Gwaith, ond gan bod gen i fwy o amser ar fy nwylo y dyddiau hyn ‘dwi’n credu y gallaf fod o fwy o werth i’r Blaid yn cyflawni rol ychydig yn fwy gweithredol.  Mae’r ffaith fy mod hefyd wedi eistedd ar bwyllgorau ymgyrch llwyddiannus Arfon tros y ddegawd diwethaf hefyd yn rhoi cryn wybodaeth a phrofiad o drefnu ymgyrchoedd i mi.
Diolch.

Un pwt olaf (gobeithio) am Ymadawiad DET

Dwi am wrthsefyll y demtasiwn i ddiflasu pawb efo mwy am ymadawiad disymwth DET a’r Blaid, felly oni bai bod datblygiad arwyddocaol arall yn y stori mi adawaf i bethau fynd.  Serch hynny dwi am godi un peth bach cyn hynny – y clip radio yma, sydd i’w gael ar Golwg360.

Dwi’n meddwl bod y clip yn ei gwneud yn hollol glir i Dafydd ystyried y syniad o adael y Blaid ac eistedd fel aelod annibynnol gyntaf yn ystod haf 2015 – yr union bryd daeth i gytundeb efo’r Blaid yn ganolog a’i etholaeth y byddai’n osgoi gwneud datganiadau cynhenus am y Blaid – ac o ganlyniad i hynny dderbyn eu cefnogaeth i sefyll yn etholiad 2016.
Dydi o ddim yn egluro wrth gwrs pam na ymladdodd etholiad 2016 fel ymgeisydd annibynnol, a disgwyl nes bod yr etholiad allan o’r ffordd cyn mynd ati i wireddu ei fwriad.

Cip ar y ‘rhesymau’ tros ymadawiad Dafydd Ellis-Thomas

Mae’n rhaid i chi faddau i mi os nad ydw i ‘fyny i sbid’ a defnyddio idiom Seisnig hyll braidd, ond dwi wedi bod mewn digwyddiad teuluol yn Llaneirwg am y rhan fwyaf o’r dydd a heb weld – na chlywed – yr Arglwydd Ellis-Thomas yn ceisio egluro ei hun ar y cyfryngau y bore ‘ma.  
Beth bynnag mi geisiaf edrych ar y ‘rhesymau’ hynny – fel dwi’n eu deall.

1). Oherwydd nad ydi Plaid Cymru eisiau cefnogi Llafur mewn llywodraeth.  Mae Dafydd wedi mynegi’r farn ecsentrig braidd mai priod rol yr wrthblaid ddylai fod i gefnogi’r llywodraeth er talwm.  ‘Does dim fel y cyfryw o’i le mewn coleddu’r gred yma, ond yn amlwg mae trefn lywodraethol lle mae gwrthbleidiau yn ceisio cefnogi ‘r llywodraeth yn hytrach na chraffu ar ei waith a’i ddal i gyfri’ yn hynod anarferol os nad unigryw.   Dydi safbwynt y Blaid ar y mater yma ddim wedi newid o gwbl ers y Cynulliad diwethaf – roedd pethau’n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw’r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

2). Oherwydd bod y Blaid yn ei atal rhag dweud ei ddweud.  ‘Dydi’r Blaid ddim yn ei atal rhag dweud ei ddweud – mae Pleidwyr yn cael paldaruo’n ddi ddiwedd yn fy mhrofiad i.  Ond mae’n gosod disgwyliadau sylfaenol arno – yn benodol peidio tanseilio negeseuon sylfaenol y Blaid ar adegau allweddol megis dechrau cynadleddau a dechrau ymgyrchoedd etholiadol a pheidio cefnogi ymgeiswyr nad ydynt yn Bleidwyr yn hytrach na Phleidwyr.  Mae’r lefel yma o hunan ddisgyblaeth sylfaenol yn ddisgwyledig gan wleidyddion proffesiynol ym mhob plaid – ond hyd yn oed petai’n  wir roedd pethau’n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw’r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

3). Oherwydd nad ydi’r Blaid wedi newid fel pleidiau eraill ers cyflwyno datganoli.  Fel mae’n digwydd dydi hyn ddim yn wir – mae’r Blaid wedi newid ei chyfansoddiad yn llwyr ers hynny, ond hyd yn oed petai’n wir unwaith eto roedd pethau’n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw’r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

4). Oherwydd i Leanne sefyll yn erbyn Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog Cymru.   Wel yn amlwg wnaeth hyn ddim digwydd cyn yr etholiad, ond ‘doedd hi ddim yn hollol anragweladwy y gallai arweinydd yr ail blaid fwyaf roi ei henw gerbron mewn pleidlais i ddewis Prif Weinidog mewn sefyllfa lle mae’r blaid fwyaf yn un leiafrifol.

5). Bod ei ymgeisyddiaeth yn un ‘annibynnol’ beth bynnag.  Mae’n cyfiawnhau peidio ag ymddiswyddo a chaniatau i etholwyr Meirion Dwyfor benderfynnu os ydynt ei eisiau fel Aelod Cynulliad annibynnol yn hytrach nag un Plaid Cymru mewn amrywiol ffyrdd sydd braidd yn ddryslyd – bod rhaglen yn ei ohebiaeth etholiadol a bod yr etholwyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn ‘deall’ bod ei ymgeisyddiaeth ar wahan ac yn wahanol i ymgyrch y Blaid.  Am wn i mai ffordd o awgrymu bod ei ymgeisyddiaeth mewn rhyw ffordd yn un lled annibynnol a bod yr etholwyr mewn rhyw ffordd yn deall hynny ydi’r eglurhad.
Rwan i hyn fod yn gredadwy byddai dyn yn disgwyl y byddai  rhyw fath o ymdrech wedi ei gwneud i egluro i’r etholwyr bod yr ymgeisyddiaeth yn un annibynnol neu led annibynnol.  Er enghraifft gellid ceisio ymbellhau oddi wrth naratif y Blaid yn genedlaethol, ac efallai ymdrechu i dynnu elfennau o’r tu allan i beirianwaith y Blaid i mewn i’r ymgyrch.  Byddai rhywun yn disgwyl i’w ohebiaeth hepgor logo ac ymddangosiad corfforaethol deunydd y Blaid – felly hefyd ei bosteri etholiadol.  Byddai rhywun hefyd yn disgwyl y byddai yna elfen o ariannu ‘annibynnol’ i’r ymgyrch  yn hytrach na defnydd o adnoddau ariannol y Blaid. Byddai rhywun yn disgwyl canfasio pobl nad ydynt yn ymddangos ar restrau canfasio’r Blaid.   Ydi hyn i gyd wedi digwydd?  Wrth gwrs nad ydi o.  
A thra rydym yn son am ariannu mewn etholiad Cynulliad, dydi etholaeth ddiogel fel Meirion Dwyfor ddim yn derbyn unrhyw gyfraniad gan y Blaid yn ganolog – mae’n rhaid i’r ymgyrch gael ei hariannu’n lleol.  Mewn geiriau eraill cafodd yr etholiad ei hariannu gan aelodau cyffredin yn mynd ati i godi pres yn y ffyrdd llawr gwlad arferol – raffl, boreuau coffi ac ati.  Pobl gyffredin sy’n codi’r pres yma – pobl sy’n caru eu gwlad, pobl sy’n gweld y Blaid fel y ffordd orau o symud y wlad yn ei blaen, pobl nad oes ganddynt fynediad i gyflog Cynulliad, pensiwn San Steffan na threuliau Ty’r Arglwydd. Pobl gyffredin, di rodres, onest. Pobl sydd yn gofyn iddyn nhw eu hunain “Beth allaf ei wneud i helpu’r Blaid” yn hytrach na “Tybed sut y gall y Blaid edrych ar fy ol i?”  
Beth bynnag oedd yn mynd trwy feddwl Dafydd pan dderbyniodd yr enwebiad i sefyll yn enw’r Blaid, a beth bynnag aeth drwy ei feddwl pan benderfynodd wedi iddo gael ei ethol mai Aelod Cynulliad annibynnol oedd am fod, bydd yr amheuaeth yn aros am byth ei fod wedi gwneud defnydd sinicaidd o’r Blaid, ei hapel cenedlaethol, ei adnoddau ariannol a dynol a’i strwythurau trefniadol i gael ei ethol oherwydd ei fod yn gwybod na fyddai ganddo fawr o obaith fel ymgeisydd annibynnol.  Gall y canfyddiad hwnnw fod yn gam neu ‘n gymwys, ond bydd yr amheuaeth yno tra bydd Dafydd – ac ymhell ar ol hynny.