Buddugoliaeth Trump – ychydig o sylwadau cychwynol

Aw!  Yr unig gysur o alw rhywbeth fel hyn yn anghywir debyg ydi bod bron iawn i’r holl gwmniau polio, y marchnadoedd betio a’r holl wybodysion.  Ond anghywir ydi anghywir am wn i.

Cawn weld tros y blynyddoedd nesaf os bydd yr enwog wal yn cael ei chodi, os bydd 14 miliwn o fewnfudwyr answyddogol yn cael eu hel adref, os bydd pob cytundeb masnach yn cael ei ail negydu (a lle bydd Prydain ol Brexit yn y ciw arbennig hwnnw), os bydd Mwslemiaid yn cael eu hatal rhag teithio i America, os bydd cyfyngu ar fasnach a gweddill y Byd yn creu cyfoeth adref am unwaith, os bydd system iechyd Obama yn cael ei ddatgymalu, os bydd America’n gadael y WTO, os bydd cytundeb Paris ar newid hinsawdd yn cael ei ddiddymu, os bydd De Corea a Japan yn cael eu hannog i gael eu harfau niwclear eu hunain, os bydd treth corfforaethol yn cael ei ostwng 20%, os y bydd Trump yn carcharu ei wrthwynebydd ac ati, ac ati.  
Ta waeth erbyn meddwl mae yna ddarn o gysur i’w gymryd o’r holl beth – ymddengys bod ein cyfeillion yn y Blaid Geidwadol Gymreig wrth eu bodd – er iddynt gadw’n sobor o ddistaw cyn i’r canlyniad gael ei ddatgan.
Mi wnawn ni hepgor y demtasiwn i chwerthin ar ben y syniad o Doriaid yn meddwl bod y sefydliad gwleidyddol yn rhywbeth sy’n ddim oll i’w wneud a nhw, a wnawn ni ddim trafferthu son gormod am y pwynt amlwg bod y ffin rhwng y Toriaid Cymreig  ac UKIP yn gyflym erydu – ond hoffwn wneud un sylw bach digon Toriaidd. 
 Mae’r rhan fwyaf o’n cyfeillion Toriaidd yng Nghymru wedi cefnogi Brexit – rhywbeth sy’n debygol o leihau masnach ryngwladol yn sylweddol.  Mae’n ymddangos bod nifer hefyd yn cefnogi Trump – ac mae ei bolisiau ‘America yn gyntaf’ hefyd am gyfyngu ar fasnach rhyngwladol – yn arbennig efo blociau masnachu bach fel y DU.  Mae cyfyngu ar fasnach yn arwain at grebachu economaidd – mae hynny’n dilyn fel mae dydd yn dilyn nos.  Pa fath o Dori sydd eisiau crebachu economaidd?  

Beth fydd yn digwydd ddydd Mawrth?

Dwi’n gwybod fy mod yn mentro gwneud ffwl ohonaf fy hun yma – ond ‘dwi’n darogan y bydd Clinton yn ennill yn weddol hawdd.  Dwi’n seilio’r canfyddiad hwnnw ar yr unig beth sy’n bwysig wrth ddarogan etholiadau mewn gwirionedd – y data sydd ar gael.  Mae’r data i gyd bron yn pwyntio i’r un cyfeiriad.  Ystyrier y canlynol.

1). Mae bron i pob pol piniwn cenedlaethol yn awgrymu bod Clinton ar y blaen.  Mae yna lawer o son wedi bod am y polau a Brexit yn ystod yr ymgyrch fel petae’r polau wedi bod yn darogan y byddwn yn aros yn yr UE.  Mae hynny’n gam ganfyddiad – roedd y polio yn hynod o gymysg yn yr wythnosau cyn y refferendwm.  Mae’n wir bod y polio cyn Etholiad Cyffredinol 2015 y DU yn anghywir, ond roeddynt yn anghywir mewn ffordd cyfarwydd.  Mae gan bolau piniwn yn y DU hanes o dan gyfrifo pleidleisiau’r Toriaid.  Yn 2012 roedd y polau Americanaidd yn tan gyfrifo pleidlais Obama o tua 3% oherwydd – yn ol pob tebyg – nad ydi’r polwyr yn ei chael yn hawdd i gysylltu a rhai o gydrannau’r glymblaid sy’n gefnogwyr Democratiaid naturiol.

2). Mae’r polio taleithiol yn gymharol ffafriol i Clinton – ac mae polio taleithiol yn bwysicach na pholio cenedlaethol mewn etholiad arlywyddol.  Mae’r polio hwnnw yn rhoi mwy o gynrychiolwyr o lawer iddi hi na Trump mewn taleithiau sy’n gwbl ddiogel i’r naill neu’r llall, ac mae hi hefyd ar y blaen yn y rhan fwyaf o daleithiau ymylol.  Ond hyd yn oed os ydi Trump yn llwyddo i ennill Arizona, Iowa, Ohio, Utah, North Carolina, Florida a New Hampshire er enghraifft, dydi hynny ddim digon iddo.  Byddai’n rhaid iddo ennill yn un o’r canlynol hefyd – Pennsylvania, Nevada, Michigan, Wisconsin, Colorado, Virginia,  New Mexico neu Minnesota.  O’r rheiny dim ond yn Nevada mae’n amlwg  ar y blaen yn y polau – ond mae’n bosibl ei fod eisoes wedi colli yno oherwydd bod y pleidleisio cynnar wedi mynd yn drwm i Clinton.
3). Pleidleisio cynnar.  Mae yna gryn son wedi bod am bleidleisio cynnar trwm iawn ymysg pobl o gefndir Hispanaidd a bod fwy o ferched wedi pleidleisio na sydd o ddynion. Ond yn bwysicach mae yna fodelu wedi ei wneud o’r pleidleisio sydd eisoes wedi digwydd – er enghraifft y modelu yma gan TargetsmartRwan mae angen gair neu ddau o rybydd cyn mynd ymlaen – mae cysylltiad rhwng perchenog Targetsmart ag Obama – ond does yna ddim lle i feddwl bod y fethedoleg yn amheus, a does yna ddim fantais etholiadol mewn smalio eich bod yn gwneud yn well nag ydych mewn gwirionedd.  Mae’r ymchwil yn awgrymu bod Clinton tua 9% ar y blaen ymysg y 40m – tua thraean yr etholwyr – sydd eisoes wedi pleidleisio.  Os ydi hynny’n gywir, mae’n anhebygol iawn y gall Trump ddal i fyny ar y diwrnod.

4). Peiriant etholiadol.  Mae’n debyg bod y Democratiaid wedi buddsoddi’n helaeth i adeiladu peiriant etholiadaol tra bod y Gweriniaethwyr wedi buddsoddi eu hadnoddau (llai o lawer) ar hysbysebu ac ar symud Trump o un rhan o’r wlad i ‘r llall yn anerch raliau di ddiwedd.  Mae’n debyg bod ei hymgyrch wedi cysylltu efo 7m o bobl ddydd Gwener yn unig.  Lle mae pethau’n dyn mae bod a’r gallu i gael etholwyr i bleidleisio yn hynod bwysig.  Efallai mai dyma rhan o’r rheswm pam bod Clinton yn ymddangos i fod ar y blaen yn y pleidleisio cynnar.  Os ydi Trump am ennill nifer o’r taleithiau cystadleuol, o bwynt neu ddau y bydd yn gwneud hynny.  Mae raliau yn tynnu sylw ac yn codi brwdfrydedd ymysg y sawl sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond y gwaith distaw o berswadio pobl sydd ond efo ychydig o ddiddordeb sy’n ennill etholiadau agos.  

Wel dyna chi – efallai y byddwch yn chwerthin ar fy mhen ddydd Mercher – ond fel yna dwi’n ei gweld hi.


Campwaith barddonol i sylw darllenwyr Blogmenai

Mae’n debyg y dylid cydymdeimlo efo rhai o’n cyfeillion Asgell Dde oedd am adael Ewrop cyn gynted a phosibl yn eu ing a’u gwewyr.  Ymddengys bod barnwyr Uchel Lys Prydain wedi dod i farn ynglyn a chyfraith Prydain ac wedi rhoi’r grym i ddod i benderfyniad pwysig ar ddyfodol Prydain i Senedd Prydain.  Mae hyn wedi eu ypsetio’n ofnadwy.

Ar ddiwrnod du fel hyn mae llefarydd swyddogol y Toriaid Cymreig ar pob pwnc dan haul ar y cyfryngau cyfrwng Cymraeg, Felix Aubel wedi ei ysgwyd i’w seiliau – ac wedi trydar i fynegi hynny.
Mae’r linc yn arwain at y gampwaith farddonol yma:
Dydi Felix ddim yn dweud wrthym pwy ysgrifennodd y campwaith, ond ag ystyried nad yw’n ei phriodoli i neb mae’n debyg gen i mai Felix ei hun ydi ‘r awdur – ond ei fod rhy wylaidd i gydnabod hynny.  Mae’r sefyllfa drychinebus wedi esgor ar yr awen.  Ar wahan i’r cyfeiriad anffodus at De Gaulle – dyn a ymladdodd yn galed i atal y DU rhag ymuno a’r Farchnad Gyffredin er mwyn sicrhau mai hi oedd tlotyn Ewrop – dwi ‘n siwr bod holl ddarllenwyr Blogmenai yn cytuno  bod y gerdd yn gampwaith – o fath.
Byddai ‘n syniad gwych i Felix anfon ei gampwaith i gystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Mae yna bethau hyd yn oed yn waeth wedi dod i ‘r brig yn y gorffennol.  Y gorffennol pell iawn, iawn, iawn.

Pam bod yr ymgyrch arlywyddol yn yr UDA wedi bod mor niweidiol i ddemocratiaeth?

Tra bod yr etholiad arlywyddol yma wedi bod ar un olwg yn anodd tynnu llygaid oddi arni hi, mae hefyd wedi bod yn un uffernol o safbwynt democratiaeth yn America.  Mae hynny’n rhannol oherwydd pwy sy’n sefyll – ar ol yr holl wario a’r broses hirfaith i ddewis ymgeisyddion llwyddodd y ddwy brif blaid i ddod o hyd i ymgeiswyr gwirioneddol amhoblogaidd gyda charfanau sylweddol o’r boblogaeth.  Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchiad ar y broses ei hun, ond mae hefyd yn adlewyrchu ar natur gwleidyddiaeth yn America ar hyn o bryd – mae wedi ei begynnu mewn ffordd sy’n afiach mewn unrhyw ddemocratiaeth – mae yna rhyw deimlad o Dde America neu Ogledd Iwerddon am yr holl sefyllfa.

Er hynny – neu efallai oherwydd hynny – mae’r etholiad ei hun wedi bod yn hynod ddinistriol.   Mae’r rhan fwyaf – er nad y cwbl – o’r bai am hynny ar Trump a’i ymgyrch.
I ddechrau dyna’r celwydd.  Mae camarwain yn anffodus yn rhan o’r ddisgwrs wleidyddol ym mhob man.  Mae hyn yn rhywbeth ‘dwi’n gael yn beth hynod o ddiflas.  Dylai’r ddisgwrs wleidyddol gael ei chynnal gan ffeithiau, nid gan hanner gwirionedd ac anwiredd.  Ond mae Trump wedi mynd a’r arfer o gyflwyno gwybodaeth ffug i eithafion sy’n newydd i mi – a ‘dwi wedi bod yn dilyn gwleidyddiaeth etholiadol ers mwy o amser na fyddwn i eisiau cydnabod.  Gweler yma.  
Ac wedyn dyna oslef ei ymgyrch – mae pob dim wedi ei or ddweud, ac yna wedi ei or ddweud eto – Clinton ydi’r person mwyaf llwgr yn hanes yr UDA, NAFTA ydi’r cytundeb gwaethaf yn hanes dynoliaeth, Bill Clinton ydi’r person gwaethaf ei ymddygiad tuag at ferched erioed, Obamacare ydi’r cynllun iechyd gwaethaf erioed, arlywyddiaeth Trump fydd yr un gorau erioed, perthynas America a’r Dwyrain Canol ydi’r llanast mwyaf erioed, mae Elizabeth Warren yn fethiant llwyr, Obama ydi’r arlywydd salaf erioed a fo sefydlodd ISIS, mae Ted Cruz wedi cau’r llywodraeth i lawr, mae 42% o’r boblogaeth yn ddi waith ac ati ac ati, ac ati.  
Ac wedyn mae’r ymgyrch wedi agor hen linellau anghyfforddus mewn cymdeithas Americanaidd.  Gan amlaf mewn etholiad arlywyddol bydd ymgeiswyr yn defnyddio rhethreg eithafol pan maent yn ceisio ennill yr enwebiaeth, ond yn defnyddio rhethreg mwy cymhedrol wedyn.  Rhaid apelio at yr eithafion pan mae’r etholwyr yn perthyn i un blaid, ond rhaid apelio at y canol erbyn mis Tachwedd – neu felly roedd pethau’n arfer cael eu gwneud.  Dydi Trump heb gymedroli – ac mae’r creithiau agorwyd yn ystod yr ornest am yr enwebiaeth – rhai sy’n ymwneud a gwahaniaethau ethnig a chymdeithasol – ar agor o hyd.
Ond o bosibl y peth gwaethaf ydi tueddiad yr ymgyrch i danseilio’r gyfundrefn gyfreithiol a’r system ddemocrataidd. Mae Trump yn bygwth carcharu ei wrthwynebydd yn rheolaidd, mae ei gynulleidfaoedd yn galw ar lafar am hynny yn ei raliau – fel pe na fyddai cyfundrefn erlyn cyhoeddus y. Yr UDA. Mae hefyd yn honni bod cynllwyn anferth ar waith i ddwyn yr etholiad oddi arno, ac mae hefyd yn bygwth peidio a derbyn y canlyniad.  Mae hyn oll yn fwy nodweddiadol o etholiad Trydydd Byd lle mae democratiaeth yn gysyniad newydd na gwladwriaeth sydd a diwylliant democrataidd wedi hen wreiddio ynddi.  
Yn y pen draw, pa mor bynnag gryf a hir hoedlog mae system ddemocrataidd yn ymddangos, mae’n hollol ddibynol ar bobl, a chred pobl yn ei hygrededd.  Yn y diwedd dyna sy’n bwysig – mae’n bwysicach na’r fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol sy’n cynnal y drefn honno.  Mae’r ffordd mae’r etholiad yma wedi ei chynnal wedi tanseilio hygrededd prosesau democrataidd yn yr UDA – ac mae’n debygol o wneud hynny am flynyddoedd i ddod.  

Brexit a’r ymgyrch arlywyddol yn UDA

Gwleidyddiaeth Cymru sy’n cael sylw Blogmenai gan amlaf, ond gan fod gwleidyddiaeth yr UDA yn cael cymaint o sylw cyfryngol ar hyn o bryd dwi’n bwriadu ‘sgwennu ychydig o flogiau byr ar y pwnc hwnnw – nid fy mod yn honni i fod yn arbenigwr wrth gwrs. Mi wnawn ni ddechrau efo un dipyn bach yn sensitif – y tebygrwydd rhwng cefnogwyr Trump a chefnogwyr Brexit.

Yn y bon yn y refferendwm Ewrop roedd yr addysgiedig, pobl o gefndiroedd ethnig, yr ifanc, a’r cymharol gefnog yn tueddu i bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropiaidd, tra bod pobl wyn sydd wedi cael llai o addysg – ac yn arbennig felly dynion – wedi tueddu’n weddol gryf i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropiaidd.  Mae’r hollt demograffig yma’n adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn America yn weddol agos.  Mae’r grwpiau demograffig sy’n pleidleisio i Clinton yn debyg i’r grwpiau demograffig a bleidleisiodd tros Aros, tra bod grwpiau demograffig Trump yn debyg i grwpiau demograffig Gadael. 
Rwan, dwi wedi clywed nifer o bobl – a phobl ddylai wybod yn well – yn honni mai mater o ddeallusrwydd ydi’r patrwm yma – bod y deallus yn pleidleisio i Clinton yn yr UDA ac i aros yn Ewrop yn y DU, tra bod yr aneallus yn pleidleisio tros Trump ac i adael Ewrop.  ‘Dydi’r canfyddiad yma ddim yn un arbennig o ddeallus mae gen i ofn.  
Yr hyn sy’n digwydd yn y bon ydi bod pobl sydd wedi dioddef yn sgil ail strwythuro economiau’r DU a’r UDA tros y degawdau diwethaf yn pleidleisio yn erbyn y newidiadau hynny.  Mae globaleiddio wedi symud diwydiannau cynhyrchu a mwyngloddio i’r Dwyrain, ac wedi gwneud economiau gorllewinol yn rhai sydd wedi eu hadeiladau o gwmpas diwydiannau sy’n gofyn am sgiliau ‘meddal’ yn hytrach na sgiliau traddodiadol.  Mae sgiliau meddal yn cael eu dysgu mewn coleg yn hytrach nag ar lawr ffatri.  Yn ychwanegol at hynny mae globaleiddio wedi tynnu niferoedd sylweddol o bobl i’r DU a’r UDA sy’n cystadlu am waith.  Gan bod y diwydiannau ‘newydd’ yn tyfu dydi hyn ddim effeithio’n ormodol ar y sawl sy’n gweithio yn y rheiny, ond mae cystadleuaeth ym marchnad gwaith diwydiannau traddodiadol sydd eisoes yn crebachu, yn cael effaith sylweddol ar y bobl oedd yn gweithio yn y sectorau hynny.
Rwan yn amlwg dydi Brexit ddim am fod yn llesol i’r DU, a ni fyddai arlywyddiaeth Trump ddim yn llesol i’r UDA nag yn wir i weddill y Byd.  Ond mae yna resymeg i bobl sydd wedi dioddef oherwydd agor marchnadoedd tramor bleidleisio yn erbyn endid gwleidyddol (yr UE) sy’n hyrwyddo hynny, neu tros ymgeisydd arlywyddol sydd eisiau lleihau masnach rhyngwladol (Trump).  
Mae cefnogwyr Trump – fel cefnogwyr Brexit – yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth sydd wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau.  Yr hyn nad yw’n amlwg iddynt ydi y byddai lleihau masnach dramor yn crebachu economiau’r DU a’r UDA – ac mae gen i ofn petai hynny’n digwydd mai’r union grwpiau hynny fyddai’n dioddef unwaith eto.

Yng nghefn ciw Brexit

O edrych yn ol ar y cyfnod o gwmpas 2008 pan aeth yr hwch trwy’r siop ar nifer o fanciau’r DU, ac ymateb y llywodraeth i hynny, mae’n amlwg bod y digwyddiadau hynny yn dynodi diwedd cyfnod yn y DU.  Am bron i ddeugain mlynedd cyn hynny – ers etholiad cyffredinol 1979 a bod yn fanwl – roedd y wladwriaeth wedi symud oddi wrth y cysyniad y dylai ymyryd llawer yn hynt a helynt y sector breifat, a dechreuodd ymbellau oddi wrth y sector honno – peidio ymyryd, gadael i bethau gymryd eu cwrs, ac yn wir ehangu’r sector breifat trwy ddad wladoli nifer o asedau cyhoeddus.

Daeth hynny i ben yn dilyn cyflafan fancio 2008 pan benderfynodd y llywodraeth bod rhaid i’r trethdalwr achub y banciau, a thros y blynyddol dilynol mae’n debyg i dros i £1 triliwn gael ei roi o’r neilltu i’r pwrpas hwnnw.  Arweiniodd y penderfyniad  at drosglwyddiad anferth o adnoddau oddi wrth y trethdalwr i’r sector breifat.  Roedd y wladwriaeth yn ymyryd unwaith eto efo’r sector breifat – ac yn gwneud hynny i raddau arwyddocaol iawn.
Mae’n ymddangos bellach y bydd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropiaidd am gwblhau’r broses yna, ac arwain at berthynas fwy clos o lawer rhwng y sector breifat a’r wladwriaeth.  Y rheswm am hynny ydi bod y llywodraeth wedi dod i benderfyniad bod lleihau / atal mewnfudo yn flaenoriaeth iddi – a chanlyniad anhepgor hynny ydi y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl.  Canlyniad hynny fydd tollau ar allforion a mewnforion, a chanlyniad hynny yn ei dro fydd lleihad mewn masnach rhyngwladol, a lleihad yng ngallu busnes yn y DU i gystadlu’n rhyngwladol.  
Yn y cyd destun yna y dylid edrych ar benderfyniad Nissan wythnos diwethaf i barhau i gynhyrchu ceir yn y DU.  Mae’n amlwg na fyddai Nissan wedi cytuno i fuddsoddi biliynau heb gael sicrwydd y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffordd i’w digolledu am yr effaith y bydd tollau rhyngwladol yn ei gael ar eu busnes, ac mae’n ymddangos i’r un sicrwydd gael ei roi i’r diwydiant ceir yn ei gyfanrwydd.  O safbwynt y llywodraeth mae hyn yn benderfyniad cwbl resymegol.  Mae’r diwydiant ceir yn y DU yn cynhyrchu 1.5 miliwn car y flwyddyn, mae’n cyflogi 900,000 o bobl ac mae iddo drosiant blynyddol o tua £70bn.  Ond mae i’r sefyllfa oblygiadau negyddol i Gymru.
Mae’n amlwg y bydd ymadawiad y DU a’r UE yn fler – ac mae’n amlwg y bydd y llywodraeth yn blaenori yr hyn maent eisiau ei amddiffyn ac yn anwybyddu’r hyn nad ydynt am ei amddiffyn.  Gallwn fentro y bydd sicrwydd yn cael ei roi i ddiwydiannau allweddol eraill y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau na fydd eu gallu i gystadlu yn erydu yn sgil y newidiadau.  Bydd y sector gwasanaethau ariannol ar flaen y ciw yma.  Bydd yna gost ariannol i amddiffyn diwydiannau dethol – a bydd y gost yn un uchel.  Bydd y wladwriaeth yn dewis yn ofalus pa sectorau sydd werth eu hamddiffyn, a pha rai nad ydynt werth eu hamddffyn.  
Ac mi fydd yna eithriadau sydd ddim yn rhai ariannol hefyd – mae llawer o ffermydd mawr yn Ne Lloegr yn ddibynnol iawn ar lafur tramor tymhorol.  Mae’n debyg bod sicrwydd ynglyn a hynny eisoes wedi ei ddarparu.  Bydd cartrefi gofal, y Gwasanaeth Iechyd ac ati yn chwilio am sicrwydd tebyg.
A bydd eithriadau o fath arall hefyd.  Mae’n debyg y bydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU, mae’r syniad o ffin caled rhyngwladol nad ydi hi’n bosibl ei selio yn Iwerddon yn codi pob math o broblemau anodd iawn i fynd i’r afael a nhw.  Bydd Gibraltar yn eithriad arall – byddai’n anodd iawn i economi’r ynys bellenig honno o Brydeindod oroesi os byddai’n cael ei gwahanu gan ffin galed oddi wrth y gweithlu sy’n ei chynnal.  Ac mae’n ddigon posibl y bydd yr Alban yn cael ei thrin yn wahanol hefyd – yn arbennig os y bydd yn edrych fel petai’r wlad am dorri ei chwys ei hun a gadael y DU.
Y sawl sydd yn gryf, y sawl sy’n fawr neu’r sawl fydd mewn lle i fargeinio fydd yn cael ffafriaeth – bydd y sawl sy’n wan, y sawl sy’n fach a’r sawl sydd ddim mewn lle i fargeinio  yn cael eu gadael i wywo ar y gangen.  
Lle fydd hynny yn gadael Cymru?  Faint o’n diwydiannau ni sy’n cael eu hystyried yn allweddol i economi’r DU?  Go brin bod angen crafu pen gormod cyn cael ateb i honna.  Yn wleidyddol rydym yn hynod ddof ac ufudd o gymharu a Gogledd Iwerddon a’r Alban – o safbwynt llywodraeth y DU bydd yn hawdd ein cymryd yn ganiataol, bydd yn hawdd ein hanwybyddu.  Byddwn o safbwynt economaidd a gwleidyddol yn flaenoriaeth isel iawn – byddwn ar gefn y ciw –  fel arfer.