Bendithion Brexit yn pentyru

Jac yr Undeb yn ymddangos – ac yn diflanu

Mae’n debyg gen i y bydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol o’r holl Jacs yr Undeb sy’n ymddangos ar becynnau bwyd.  Cwmniau masnachol sy’n ceisio cymryd mantais o ‘r don o genedlaetholdeb Prydeinig  / senoffobia (mae’n anodd gwahaniaethu rhwng un a’r llall weithiau) sy’n sgubo tua’r lan ar hyn o bryd.  Mae cwmniau masnachol yn dda iawn am gymryd mantais o unrhyw beth i helpu gwerthu eu stwff.
Mae’n debyg na fydd o lawer o gysur deall bod y faner yn diflanu o rhywle arall – oddi ar becynau bwyd  yn Ewrop.  Baner Iwerddon yn unig sydd wrth y cyfarwyddiadau Saesneg yma ar becyn pizza o’r Iseldiroedd.  

Y refferendwm yng Ngwynedd

Gwneud rhyw joban fach arall oeddwn i yn gynharach heddiw pan gefais hyd i’r tablau isod.  Data ydi o sydd wedi ei hel yn ystod y cyfri ar gyfer y refferendwm Ewrop yn gynharach eleni.  Cafodd y wybodaeth ei hel gan Blaid Cymru Gwynedd a Phlaid Lafur Arfon.  Yn anffodus doedd y samplu ddim mor drylwyr ag arfer, felly dydi’r wybodaeth ar gyfer pob bocs ddim ar gael.

Bydd pleidiau gwleidyddol yn monitro’r pleidleisiau yn cael eu tywallt o’r bocsus ym mhob etholiad, ond fel rheol bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei gadw’n gyfrinachol – mae gwybodaeth fanwl yn cynnig manteision strategol.  Ond gan na fydd yna refferendwm arall, does yna ddim pwrpas mewn cadw pethau’n gyfrinachol.

Felly – gydag ymddiheuriadau i’r sawl sydd yn anghyfarwydd a daearyddiaeth Gwynedd – dyma chi.

Meirion / Dwyfor
Arfon

Ymateb Lee Waters i’r bygythiadau mae Leanne Wood wedi eu derbyn

Mae’r stori ynglyn a’r bygythiadau ar lein i LeanneWood wedi ennyn ymateb rhyfeddol gan Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Lee Waters.
Mewn esiampl eithriadol o whataboutery mae Lee yn cyhuddo Aelodau Cynulliad Plaid Cymru o wneud yr un peth.  Bydd y sawl sydd wedi darllen y stori am Leanne yn ymwybodol iddi dderbyn bygythiadau o gael ei saethu a’i threisio.  Yn anffodus mae Lee yn gwrthod ymhelaethu nag egluro yn lle yn union y gellir dod o hyd i’r negeseuon sarhaus gan aelodau Cynulliad Plaid Cymru.  Tri eglurhad y gallaf feddwl amdanynt a bod yn onest.
1). Nad ydi’r negeseuon yn bodoli a bod Lee yn dweud celwydd.
2). Bod y negeseuon yn wir yn bodoli.  Y broblem efo’r eglurhad yma ydi petai’n wir byddai’n sgandal wleidyddol o’r radd flaenaf, ac mae’n anhebygol iawn mai Lee yn unig fyddai wedi sylwi ar y negeseuon.  Yn ychwanegol at hynny ni fyddai Lee’n cael unrhyw drafferth i gyfeirio’r sawl sy’n ei holi at y negeseuon sarhaus.
3). Bod Lee yn ceisio cyffelybu beirniadaeth wleidyddol ohono, neu gwestiynau ynglyn ag agweddau o’r hyn mae’n ddweud – ynglyn a lle mae’n byw er enghraifft – efo bygythiadau o drais a llofruddiaeth.  
Dewisiwch chi pa un.  Dwi ‘n mynd am dewis 3 dwi’n meddwl.  

Trafod goblygiadau Brexit efo Nathan Gill – o bawb

Felly mae cynrychiolwyr ffermwyr Ynys Mon wedi cyfarfod Nathan Gill – aelod Annibynnol / UKIP i drafod goblygiadau Brexit i’r diwydiant amaethyddol.  Mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Ynys Mon, a bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i Ynys Mon bleidleisio o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropiaidd a bod Nathan Gill ar flaen y gad i berswadio pobl i bleidleisio i adael yr Undeb.  
Rwan dwi ‘n gwerthfawrogi bod amaethwyr Mon yn poeni am oblygiadau Brexit i’w diwydiant – mae’n fygythiad marwol i’r diwydiant yng Nghymru, ond dydw i ddim yn siwr faint mae lobio Nathan Gill – gwleidydd proffesiynol lleiaf dylanwadol Cymru – yn mynd i helpu.
Yn ol y darn yn Golwg mae’r ffermwyr am gadw cymorthdaliadau amaethyddol fel ag y maent ac am sicrhau bod  cynllunio gofalus ar gyfer hynny.  Fydd gan UKIP wrth gwrs ddim rhan mewn unrhyw gynllunio Cymreig (nid bod yna dystiolaeth o fawr ddim cynllunio gan y llywodraeth ar hyn o bryd), a phetai ganddynt ni fyddai gan Nathan Gill ddim byd i’w wneud efo hynny gan iddo adael y grwp am nad oedd yn cael bod yn arweinydd.   Mae’n parhau’n aelod o grwp Ewrop UKIP – ond fydd y grwp hwnnw ddim yn cael unrhyw ddylanwad chwaith – oddi mewn i Senedd Ewrop mae’r grwp mor boblogaidd a’r Pla Du.
Mae ymbalfalu efo UKIP yn beth hynod o amheus i’w wneud beth bynnag, ond yn yr achos hwn ni allai unrhyw ddylanwad sydd gan UKIP ond bod yn hollol wrth gynhyrchiol.  

Ai’r polau piniwn oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Trump?

Wna i byth brofi hon – ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai’r polau piniwn a’r consensws bod Clinton am ennill a grewyd ganddynt – oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Trump.

Tra bod buddugoliaeth Trump yn ddychrynllyd, mae elfennau o’r ymgyrch y dylid eu hedmygu – yn arbennig felly’r targedu o ran gul – ond allweddol – o’r etholwyr, a’r ddisgyblaeth wrth barhau i dargedu’r bobl hynny trwy pob dim.  Caniataodd hyn i Trump ennill yr etholiad er iddo gael cryn dipyn llai o bleidleisiau na Clinton.
Mae’r hyn ddigwyddodd yn sylfaenol syml.  Gwnaeth Trump yn dda a Clinton yn wael mewn rhannau o’r penodol o’r UDA – yn yr Upper Mid West ac mewn taleithiau cyfochrog yng Ngogledd Ddwyrain yr UDA.  Mae’r taleithiau hyn yn gymharol dlawd, gyda rhannau sylweddol ol ddiwydiannol a chyda mwyafrif sylweddol o etholwyr gwyn.  Roedd Clinton yn gwneud yn dda mewn ardaloedd diogel i’r Democratiaid – California neu Efrog Newydd, neu rai ardaloedd diogel i’r Gweriniaethwyr – Georgia neu Texas er enghraifft.  Yn anhygoel mae’r bwlch rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid yn Ohio ac yn Texas yn debyg iawn erbyn hyn.  
I gael syniad o pam mor agos oedd pethau mewn gwirionedd ystyrier y canlynol:
Roedd mwyafrif Trump yn Michegan yn 11,832, o tua 4.6 miliwn o bleidleisiau.
Roedd mwyafrif Trump yn Wisconsin yn 27,257, o tua 2.9 miliwn o bleidleisiau.
Roedd mwyafrif Trump yn Pennsylvania yn 68,228 o tua 5.9 miliwn o bleidleisiau.
Mae’r cyfanswm yn tua 107,000 neu 0.09% o’r etholwyr tros y wlad. Byddai Trump wedi colli pe na byddai wedi ennill yn y dair talaith hanesyddol Ddemocrataidd yma.  
Rwan roedd y polau yn awgrymu y byddai Clinton yn ennill o tua 3.2% erbyn y diwedd.  Daeth y cyfryngau a’r marchnadoedd betio i’r casgliad bod Clinton yn siwr o ennill yn hawdd ar sail y polau hynny.  Gallai canfyddiad felly fod wedi arwain at deimlad ymysg llawer o Ddemocratiaid nad oedd pwrpas mynd i giwio y tu allan i orsaf bleidleisio – a gallai’r ffaith bod Clinton yn ymgeisydd oedd a delwedd negyddol i lawer, a bod ei gwrthwynebydd wedi bod yn ei phardduo ar y cyfryngau yn ddyddiol am fisoedd fod wedi cryfhau’r tueddiad i beidio a thrafferthu mynd allan i bleidleisio iddi. Ychydig iawn o bobl – yn ganrannol – fyddai wedi gorfod aros adref yn Michegan, Wisconsin a Pennsylvania i wneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli i’r naill ymgeisydd neu’r llall.
Os ydi ras yn agos, y peth diwethaf mae ymgeisydd ei angen ydi polau sy ‘n awgrymu y byddant yn ennill yn hawdd.

Ydi 60 Aelod Cynulliad yn ddigon i bwrpas rheoli Cymru?

O edrych ar Newyddion 9 heno, ymddengys – yn ol gwr bonheddig o’r Eglwys Newydd a holwyd fel rhan o ymarferiad vox pop – bod 60 Aelod Cynulliad yn hen ddigon i bwrpas rheoli gwlad fach fel Cymru.  I bwrpas cymharu ystyrier y canlynol.
Cymru 3.06m
(60 AS).
Y DU – poblogaeth 64m

Ty’r Arglwyddi (812)

Ty’r Cyffredin (650) 
Cyfanswm (1462)
Powys 133,000 poblogaeth.
(73 cynghorydd).  
Gwynedd 122,000 poblogaeth.
(75 cynghorydd)
Yr Alban 5.3m poblogaeth.
(129 Aelod Senedd yr Alban).
Gogledd Iwerddon 1.8m poblogaeth
(108 aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Iwerddon –  4.6m poblogaeth
(156 TD)
Gwlad yr Ia – 323,000 poblogaeth
(65 Aelod Althing)
Blaenau Gwent – poblogaeth, fawr o neb.
(42 cynghorydd).

Ynglyn a’r polau piniwn

Gan bod Dan yr Wyneb wedi gofyn i mi ddweud pwt am bolio yn sgil y methiant polio yn yr etholiad arlywyddol yr wythnos yma, a gan fy mod wedi bod yn edrych ar y pwnc yn sgil hynny waeth i mi ddweud gair neu ddau yma am y pwnc hynod gymhleth hwn.

Dyma i chi dair egwyddor i ddechrau efo nhw:

1). Mae polau piniwn pob amser yn anghywir – dydi hi ddim yn bosibl iddynt fod yn gwbl gywir gan bod yr hyn maent yn ei bolio – sef yr etholwyr sydd am bleidleisio – mewn cyflwr o newid parhaus.
2). Dydan ni ond yn poeni bod y polau’n anghywir pan maent yn darogan yr enillydd cywir (yn hytrach na’r canrannau anghywir).  Pan maent yn darogan enillydd cywir ond canrannau anghywir, rydan ni’n anghofio am y peth yn syth fwy neu lai.  
3). Mae pob cwmni polio yn torri eu bol eisiau bod yn gywir, ond mae yna rhywbeth sy’n bwysicach iddynt na bod yn gywir.  Mwy am hynny ar y diwedd.
Reit. ‘ta, pam mor anghywir oedd y polau yn yr achos yma?   I ddechrau roedd y polau cenedlaethol yn gywir i’r graddau iddynt ddarogan pwy fyddai’n cael y mwyaf o bleidleisiau.  Fel rydw i’n ‘sgwennu hyn mae Clinton ar y blaen o ran pleidleisiau ar draws y wlad, ac mae’r bwlch yn debygol o gynyddu gan fod y pleidleisiau sydd eto i’w cyfri yn dod o ardaloedd sy’n gefnogol i Clinton.  Collodd oherwydd ei bod wedi pentyru ei phleidleisiau mewn taleithiau megis yr arfordir gorllewinol oedd yn ddiogel iddi beth bynnag, ond colli seddi mewn ardaloedd ymylol – yn arbennig felly ‘r rust belt.
Beth bynnag ar hyn o bryd mae Clinton ar y blaen o tua 0.2% – canran sy ‘n debygol o dyfu.  Roedd y polau cyfartalog yn awgrymu y byddai 3.2% ar y blaen.  Felly erbyn diwedd y cyfri byddant wedi tan gyfri’r bwlch o lai na 3%.  
Roedd y polau taleithiol yn yr ardaloedd a drodd at y Gweriniaethwyr hefyd yn anghywir – ond roedd yna fwy o amrywiaeth yno nag yn y polau cenedlaethol.
Beth ddigwyddodd yn 2012?  Wel, rhywbeth tebyg mewn ffordd.  Roedd y polau cyfartalog yn awgrymu buddugoliaeth gweddol fach i Obama – o tua 0.8%, ond aeth ati i ennill yn weddol hawdd – gyda 3.8% o oruwchafiaeth.  Mewn geiriau eraill roedd y gwall polio yr un faint – neu’n fwy – na’r gwall polio eleni, ond gan bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn gywir wnaeth yna fawr o neb boeni am y peth.
Beth am Brexit felly?  Mae yna fytholeg wedi tyfu o gwmpas canlyniad Brexit  bod y polau i gyd yn anghywir.  Mae’n wir bod y polau yn gyfartalog anghywir – ond (yn wahanol i America 2016) roedd yna ddigonedd yn awgrymu mai Gadael fyddai’n mynd a hi. Er enghraifft roedd polau olaf Opinium a TNS a phol diwethaf ond un YouGov yn awgrymu mai Gadael fyddai’n ennill o drwch blewyn.  Y marchnadoedd betio gafodd pethau’n anghywir go iawn – ac mae’n debyg bod rheswm gweddol hawdd i’w arenwi am hynny.  Roedd y polau (at ei gilydd) wedi cael canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban yn anghywir yn yr ystyr eu bod wedi darogan buddugoliaeth gweddol fach i’r ochr Aros, ond bod y bwlch mewn gwirionedd yn fwy – tua 10%. Roedd hyn yn cyd fynd yn weddol dda efo hen batrwm mewn refferenda Prydeinig bod gogwydd munud diwethaf tuag at y status quo.  Wnaeth hyn ddim digwydd y tro hwn – am resymau rydym eisoes wedi cyfeirio atynt yn y blog – ac o ganlyniad cafodd y marchnadoedd betio bethau’n anghywir, a chollodd lawer iawn o bobl lawer iawn o bres.  
Y camgymeriad polio mwyaf enwog yn ystod fy mywyd i oedd y polio yn yr wythnosau cyn etholiad cyffredinol 1992. Roedd disgwyliad clir y byddai Plaid Lafur Kinnock yn ennill buddugoliaeth glir ond cul, neu o leiaf yn cael digon o bleidleisiau i fod y blaid fwyaf yn San Steffan.  Cafodd Toriaid John Major fuddugoliaeth  gyfforddus a chafodd y diwydiant polio sesiwn hir o syllu’n bruddglwyfus ar ei fotwm bol.  Ac ar ol syllu am hir daeth i ganlyniad – bai y sawl oedd yn cael eu polio oedd pob dim – nid bai y polwyr.  Roedd yr etholwyr yn dweud celwydd wrth y cwmniau polio.  Felly crewyd y (yn fy marn i) myth o’r Tori swil – rhywun oedd yn pleidleisio i’r Toriaid, ond oedd a gormod o gywilydd o’r ffaith i gydnabod hynny i gwmni polio.  Newidwyd y fethodoleg i gymryd i ystyriaeth y Tori swil.
A wele cafwyd llwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol 1997 – roedd y polau i gyd yn dweud bod Blair am ennill, ac roeddynt yn gywir.  Ond wedyn roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod bod Blair am ennill bryd hynny.  O graffu ar y ffigyrau roedd record y cwmniau polio yn llai na gwych.  O’r 82 pol piniwn a gymerwyd cyn yr etholiad yn ystod 1997 llwyddodd 80 ohonyn nhw i or gyfrifo’r bleidlais Lafur – rhai ohonyn nhw o filltiroedd.  Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhoi 50%+ i Lafur, er mai 43.2% yn unig oedd eu pleidlais ar y diwrnod.  Felly er gwaetha’r addasu methodoleg i gymryd y Tori swil i ystyriaeth, roedd y cwmniau polio ymhellach o gael eu canrannau yn gywir nag oeddynt yn 2012 – ond gan bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn gywir, wnaeth neb boeni rhyw lawer am y peth.
Ac wedyn dyna i ni etholiad cyffredinol 2015 – methiant polio arall.  Roedd y polio yn fwy cywir o lawer na 1997  o ran darogan canranau canlyniadau, ond roedd yn anghywir o ran darogan yr enillydd. Roedd y gwendid mawr yn y polio yn debyg i’r hyn ddigwyddodd yn 1997 a 1992 – gor gyfrifo’r bleidlais Lafur, ac fel 1992 roedd y gwall yn ddigon i sicrhau bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn anghywir.  Y disgwyl oedd y byddai yna senedd grog, gyda Llafur yn ennill mwy o seddi, os nad mwy o bleidleisiau.  Unwaith eto bu wylofain ac ysgyrnygu dannedd yn y diwydiant oherwydd i’r canlyniad gael ei alw’n anghywir.
Rwan, efallai fy mod i’n cymryd y diwydiant polio ychydig yn ysgafn – mae yna fodelu soffistigedig iawn ar waith ganddynt – maent byth a hefyd yn newid eu methodoleg ac addasu eu pwysiadau i geisio adlewyrchu’r boblogaeth pleidleisio – ond yn y diwedd maen nhw’n ceisio gwneud rhywbeth amhosibl – creu llun llonydd o lun sydd mewn gwirionedd yn newid yn barhaus.  Os nad ydi etholiad yn agos maen nhw am alw etholiad yn gywir pob tro.  Os ydi hi’n agos, maen nhw am gael pethau’n anghywir weithiau – traean yr amser o bosibl.  Rhaid derbyn hynny.
Ac un peth bach cyn gorffen – mae yna batrwm sydd wedi hen sefydlu mewn polio – sef bod y polau yn dod yn nes at ei gilydd tuag at ddiwedd ymgyrch etholiadol.  Mae yna reswm am hyn – mae rhai o ‘r cwmniau polio yn dechrau copio methodoleg ei gilydd.  
I lawer o gwmniau polio, PR ydi polio gwleidyddol mewn gwirionedd – maent yn gwneud eu bara menyn gyda pholio masnachol. Byddai canlyniad cywir iawn i ddigwyddiad proffil uchel megis etholiad yn dod a busnes masnachol i’r cwmni.  Felly byddai unrhyw gwmni wrth eu bodd petaen nhw fyddai’r unig gwmni i ddarogan etholiad yn gywir.   

Ond byddai cael canlyniad anghywir sy’n waeth na chanlyniad pawb arall yn beth gwael iawn – ac os ydi cwmni yn cael canlyniadau sy’n wahanol i bawb arall mae’n debygol – er nad yn sicr o bell ffordd – mai nhw sy ‘n anghwir.  Felly mae yna banig cyn etholiad os ydi canlyniadau cwmni ymhell ohoni, ac mae yna boetsian efo’r fethodoleg.  Mae hyn yn arwain at gywasgu canlyniadau – ac mae hynny yn y pen draw yn debygol o arwain at lai o gywirdeb, nid mwy.

Buddugoliaeth Trump – ambell i wers

Roedd buddugoliaeth Trump yn anisgwyl – yn sicr o safbwynt y polau a’r marchnadoedd betio.  Ond digwyddodd mewn cyfnod lle – o safbwynt gwleidyddiaeth beth bynnag – mae’r anisgwyl yn ddisgwyledig.  Mae yna wersi etholiadol i’w cymryd o hyn oll – rhai ohonyn nhw’n ddigon anghyfforddus.  Beth am gael cip ar ambell i fyth sydd wedi ei chwalu’n ddiweddar.  

1). Dydi ymgyrchu negyddol ddim yn gweithio.  Roedd ymgyrch y ddwy ochr yma’n hynod o negyddol, ond yr ymgyrch fwyaf negyddol oedd yn fuddugol.  Roedd hyn yn gweithio’n bennaf oherwydd  bod ymgyrchu negyddol gan un ochr yn llusgo pleidlais yr ochr arall i lawr.  Er i Clinton gael mwy o bleidleisiau na Trump cafodd lai o lawer nag Obama – ac mi gafodd Trump lai na Romney.  Mae patrwm wedi cael ei hen sefydlu bellach bod yr ochr mwyaf negyddol yn ennill ymgyrch etholiadol – meddylier Brexit, refferendwm annibyniaeth yr Alban, Etholiad Cyffredinol 2015 er enghraifft.  Dydi hyn oll ddim yn golygu bod ymgyrchu negyddol yn well nag ymgyrchu cadarnhaol pob tro – ond mae’n sicr yn wir nad ydi ymgyrchu cadarnhaol yn well nag ymgyrchu negyddol pob tro.

2). Mae’n rhaid bod yn wleidyddol gywir i lwyddo’n etholiadol.  Dydi dweud pethau hiliol, secteraidd, anweddus, ffiaidd neu idiotaidd ddim o anghenrhaid yn ei gwneud yn amhosibl i rhywun gael ei ethol hyd yn oed i’r swydd ddemocrataidd uchaf yn y Byd mawr crwn.
3). Mae’n rhaid meddiannu tir canol i lwyddo ‘n etholiadol.  Dydi meddiannu tir canol ddim yn sicrhau llwyddiant etholiadol.  Mae Clinton yn y canol, mae Trump yn eithafol.  Mae UKIP yn gwneud yn dda yn y DU, dydi’r Dib Lems druan ddim.  Mae Hollande yn y canol, dydi La Pen ddim.  Dydi Podemos ddim ar gyfyl y canol, na’r ERC yng Nghatalonia, na SYRIZA yng Ngwlad Groeg.  Mae hegemoniaeth y pleidiau tir canol yn cilio i’r gorffennol i raddau helaeth.  Dydan ni ddim yn gwybod os y pery hynny – ond felly mae hi ar hyn o bryd.
4). Mae’n rhaid wrth beiriant etholiadol llawr gwlad i gael llwyddiant etholiadol.  Dydi cael peiriant felly yn amlwg ddim yn gwneud llawer o ddrwg – ond dydi hi ddim yn glir ei fod yn gwneud lles arwyddocaol chwaith.  Does gan UKIP ddim peiriant o unrhyw fath yng Nghymru, ond maen nhw’n cael llwyddiant etholiadol.  Roedd peiriant etholiadol Clinton yn llawer mwy nag un Trump – ond roedd Clinton hefyd yn llawer llai llwyddiannus yn cael ei phleidlais allan mewn taleithiau allweddol nag oedd Trump.
5). Mae’n rhaid wrth gefnogaeth gyfryngol i ennill.  Roedd elfennau o’r wasg ac o’r cyfryngau torfol eraill yn cefnogi Trump, ond roedd mwy o lawer yn cefnogi Clinton.  Tra ei bod yn bwysig cael cefnogaeth cyfryngol, mae bod ar yr un dudalen ag elfennau arwyddocaol o’r etholwyr yn bwysicach na’r hyn sydd wedi ei ‘sgwennu ar dudalen yn y New York Times.
6). Mae’n rhaid wrth neges sy’n apelio at y rhan fwyaf o bobl.  Ychydig mwy na hanner o’r boblogaeth bleidleisiodd a lleiafrif o’r rheiny bleidleisiodd i Trump – ond pleidleisiodd digon yn y llefydd. ‘cywir’ iddo i sicrhau buddugoliaeth i leiafrif cymharol fach o’r boblogaeth.  Mae’n ddigon posibl ennill trwy apelio at leiafrif – cyn belled a bod y lleiafrif hwnnw yn byw yn y llefydd cywir.
6). Dydi ‘r gwleidyddol dwlali ac eithafol byth yn hapus.  Yn amlwg dydi hyn ddim yn wir chwaith.