Gwleidydd y flwyddyn
Miwsig yng nghlustiau masnachwyr cyffuriau
Cymharu etholaethau Cymru
Cymru wedi Brexit – ambell i bosibilrwydd
1). Ton o fewnfudo i Gymru gan Saeson mewn oed. Ar hyn o bryd mae’r miliynau o Brydeinwyr sydd wedi ymddeol ac yn byw ar y cyfandir yn derbyn gofal iechyd o dan drefniadau’r UE. Dydi hi ddim yn afresymol i gymryd y bydd y trefniadau hynny’n dod i ben wedi i’r DU adael yr UE. Dydi hi ddim yn glir beth fydd digwydd wedyn. Efallai y bydd y wladwriaeth Brydeinig yn talu am y gofal, ac efallai na fyddan nhw. Os na fydd y wladwriaeth yn talu a gadael pobl i ddibynu ar eu cynilion os ydyn nhw yn sal, neu dalu yswiriant iechyd rhag iddyn nhw fynd yn sal, bydd yna fewnlifiad o fath anghyfarwydd i’r DU – dinasyddion yn dod yn ol adref. Dydi arfordir Llyn a Cheredigion ddim mor braf a’r Costa del Sol, ond mae’n fwy tebyg i’r fan honno na Saltney neu Scunthorp.
Pam bod y Lib Dems yn dweud celwydd am Brexit?
Y diweddaraf o grwp gwleidyddol mwyaf boncyrs Cymru
Reit, beth am geisio cofio pawb sydd wedi gadael y grwp Llafur yng Nghaerdydd? Mae Sue White wedi mynd ddoe gan wneud honiadau o hiliaeth a bwlio yn erbyn y grwp, tra bod Manzoor Ahmed wedi mynd heddiw gan wneud honiadau o hiliaeth yn erbyn ei blaid. Mae Ralph Cook wedi ymuno efo’r Blaid Werdd, tra bod Gretta Marshall wedi ymuno a Phlaid Cymru. Wedyn mae Siobhan Corria, Cerys Furlong, Luke Holland a Phil Hawkins wedi ymddiswyddo hefyd. Gwaharddwyd Keith Jones am gyfnod hefyd.
Mwy am helynt adleoli pencadlys S4C
Cwestiynau i S4C:
Ynglyn ag ad leoli S4C
Dwi’n gwybod fy mod yn mentro swnio’n blwyfol, ond dwi’n meddwl y byddai’n well i mi ddweud pwt am saga ad leoli S4C i Gaerfyrddin. Bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i’r sianel – yn dilyn edrych yn bryddglwyfus ar ei botwm bol ar ol colli cyllid a gwylwyr – benderfynu ystyried adleoli ei phencadlys yn nes at ei chynulleidfa. Cafwyd cais gan Coleg y Drindod i gartrefu’r sioe yng Nghaerfyrddin, a gan Cyngor Gwynedd i’w chartrefu yng Nghaernarfon.
Ymlaen i’r gorffennol
Yn ol yn oes yr arth a’r blaidd pan oeddwn i’n y coleg roedd yn beth gweddol gyffredin i bobl ar y Chwith gyfeirio at eu gwrthwyneb wyr fel ‘ffasgwyr’. Yn bersonol dwi pob amser wedi ceisio gwneud defnydd o’r term – mae yna ystyr penodol i’r term ac mae ei ddefnyddio y tu hwnt i’r ystyr cywir yn ffordd ddiog braidd o daflu sarhad o gwmpas y lle. Roeddwn yn meddwl am hynny wrth ddarllen ymgais boncyrs i Daily Mail i feio mewnfudwyr am lofruddiaeth Jo Cox.





























