Brexit wedi ei wneud yn syml

Bydd y flwyddyn nesaf yn cael ei dominyddu’n wleidyddol gan ymadawiad y DU a’r UE.  Mae’r holl beth yn edrych yn sobor o gymhleth ond dydi o ddim mewn gwirionedd.  

Tri prif opsiwn sydd yna mewn gwirionedd:
(1). “Brexit caled”.  Golyga hyn y bydd y DU yn gadael y UE heb gytundeb ac yn gwrthod cwrdd a’i hymrwymiadau ariannol.  Yn amlwg fyddai yna ddim cytundeb masnachol efo’r UE,  byddai statws dinasyddion y DU yn Ewrop mewn lle anodd iawn, byddai pob math o broblemau cyfreithiol yn codi gan bod llawer iawn o’r hyn mae’r DU yn ei wneud yn rhyngwladol yn digwydd oherwydd cytundebau sydd wedi eu harwyddo gan yr UE ac nid y DU.  Er enghraifft mae hawliau i awyrennau’r DU lanio mewn meysydd awyr ar hyd a lled y Byd wedi eu cytuno yng nghyd destun Ewrop. Ni fyddai yna gytundeb masnach efo’r UE yn y dyfodol agos na chanolig, byddai’n rhaid sefydlu adran newydd enfawr yn y llywodraeth i negydu dwsinau o gytundebau masnach, ond byddai amheuaeth ynglyn a chyfreithlondeb y cytundebau hynny.  Byddai Dinas (ariannol) Llundain yn colli ei hawliau pasbortio efo Ewrop. Byddai hyn oll yn cael ei setlo yn y Llys Rhyngwladol tros gyfnod o flynyddoedd. Dyma’r llwybr mae UKIP ac Adain Dde’r Blaid Doriaidd eisiau ei ddilyn.
(2). “Brexit meddal” Golyga hyn bod y DU yn gadael yr UE trwy gytundeb ac yn cwrdd a’i hymrwymiadau cytundebol o ran pensiynau ac ati, ac yn cytuno ar drefniadau ar gyfer dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion  y DU yn yr UE. Byddai hyn i bob pwrpas yn golygu bod pobl yn cael symud yn rhydd rhwng yr UE a’r DU.   Byddai cytundeb masnachol newydd rhwng yr UE a’r DU yn cael ei sefydlu tros amser, a byddai’n rhaid negydu dwsinau o gytundebau newydd – rhai masnachol, a phob math o rai eraill – ond ni fyddai yna frys gwyllt i wneud hynny – mae’n debyg y gellid masnachu o dan delerau tebyg i Norwy hyd bod cytundebau newydd yn cael ei negydu. Ni fyddai’n rhaid gweithredu cyfraith y DU oni bai am gyfreithiau masnachol. Byddai’n rhaid negydu cytundebau ynglyn ag amaethyddiaeth a physgota o’r cychwyn – dydi CAP (polisi amaeth yr UE) ond yn berthnasol i wledydd y tu mewn i’r Undeb.  Gellid felly – o gael cytundeb –  fewnforio cynnyrch rhad o ansawdd uchel o Awstralia, Seland Newydd a De America.  Byddai hyn yn gyrru prisiau bwyd i lawr, ond byddai hefyd yn hynod niweidiol i’r sector amaeth. 
(3). “Brexit y tylwyth teg”.  Golyga hyn bod y DU yn gadael yr UE gyda’u cytundeb, ddim yn talu fawr ddim i’r DU ond yn derbyn holl fanteision aelodaeth.  Byddai dinasyddion y DU efo’r hawl i fynd a dod o’r UE fel y dymunant – ond byddai’n rhaid i ddinasyddion yr UE wneud cais am fisa cyn cael dod  i’r DU. Byddai dinasyddion y DU yn cadw eu hawliau i wasanaeth iechyd yn Ewrop, ond byddai dinasyddion yr UE yn colli eu hawliau i wasanaeth iechyd yn y DU.  Yn y sefyllfa hon, byddai’r DU yn parhau i fod yn rhan o’r farchnad sengl – ond byddai’n rhydd i drafod ei chytundebau masnach ei hun gyda blociau masnachu eraill yn ol ei dymuniad. Dyma’r opsiwn mae llywodraeth y DU a rhai o’r papurau yn dweud wrthym sy’n ein haros.  Pob lwc efo honna. 

Hanes dau gytundeb

Cyhoeddwyd fersiwn derfynol heddiw mae  cytundeb y Gyllideb Gymreig rhwng Plaid Cymru a’r llywodraeth wedi cael ei chyhoeddi.Mae Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau tri consesiwn ychwanegol i’r hyn a gyhoeddwyd ym mis Hydref, sef:
• £10m ychwanegol i gefnogi busnesau a effeithir gan newidiadau i drethi busnes
• £15m ychwanegol dros bedair blynedd i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol
• £50m dros bedair blynedd i gyflymu’r gwaith ar ffordd osgoi A483 Llandeilo

Mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi sicrhau bargen mor dda ar gyfer pobl Cymru. Yn wir hon yw’r fargen un-flwyddyn fwyaf o’i math erioed. 
Yn y cyfamser – yn ol Golwg360 – mae’r Arglwydd Elis-Thomas hefyd wedi sicrhau consesiwn pwysig am ei gefnogaeth di amod i’r llywodraeth Lafur – sef cyfarfod efo Rhywun o’r llywodraeth pob bore Llun lle mae hwnnw’n dweud wrtho fo beth fydd busnes yr wythnos.  Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas wedyn yn mynd ati i benderfynu os bydd ar gael i bleidleisio tros y llywodraeth – er nad ydi hynny’n gwneud gwahaniaeth os nad yw ar gael i fotio beth bynnag.
Mewn geiriau eraill dydi’r cytundeb fawr mwy na chyfarfod lle mae rhyw greadur druan yn gorfod hiwmro’r Arglwydd Elis-Thomas a’i helpu i deimlo’n bwysig.  
Uffar o fargen yn wir!

Etholwyr Meirion Dwyfor yn cael cynrychiolaeth nad ydynt ei heisiau

Felly ymddengys mai mewn enw’n unig mae Dafydd Elis-Thomas yn Aelod Cynulliad annibynnol – bydd yn cefnogi’r weinyddiaeth Lafur am weddill tymor y Cynulliad yma.
Cafodd etholwyr Meirion Dwyfor gyfle i ethol cynrychiolydd fyddai’n cefnogi llywodraeth Lafur yn ddi amod yn ol ym mis Mai – a manteisiodd 2,443 –  neu 12.1% ohonynt ar y cyfle i bleidleisio tros hynny.  Pleidleosiodd 87.9% o etholwyr Meirion Dwyfor yn erbyn cynrychiolaeth felly.  Ond dyna maen nhw’n ei gael gan eu haelod Cynulliad beth bynnag.
Dydi o ddim ots am yr etholwyr – dymuniadau, ego a theimladau’r etholedig ydi’r pethau pwysig ‘dach chi’n gweld.  Mae’r etholwyr bellach wedi cyflawni eu pwrpas a gellir anghofio am eu dymuniadau.

Camarwain ei ddarllenwyr

Bydd y sawl sy’n darllen tudalennau llythyrau y wasg Gymreig, sy’n edrych neu wrando ar Pawb a’i Farn neu Hawl i Holi neu sy ‘n dilyn ei gyfri trydar yn gwybod bod yr eithafwr Asgell Dde, Felix Aubel eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn gynted a phosibl ac eisiau Brexit mor galed a phosibl.  
Beth bynnag, cafwyd pol diweddar ar adael Ewrop gan y cwmni polio Opinium, ac mae’n arwain at ddau gasgliad.  Yn gyntaf dydi’r rhan fwyaf o bobl ddim eisiau refferendwm arall, ac yn ail mae mwy o bobl eisiau Brexit meddal na sydd eisiau un caled.  
Ymddengys bod Felix am i’w ddilynwyr trydar wybod hanner cyntaf y stori, ond nid yr ail hanner.  Mae’n ail drydar cyfeiriadau’r poliwr Keiran Pedley ynglyn a’r diffyg cefnogaeth i refferendwm arall.  

Ond mae’n ‘anghofio’ aildrydar cyfeiriadau Keiran Pedley at sut fath o Brexit mae pobl ei eisiau – er bod yna gymaint os nad mwy o gyfeiriad at hynny ar gyfri trydar Keiran Pedley.

Ymddengys bod gan Felix fwy o ddiddordeb mewn camarwain ei griw – ahem – dethol – o ddilynwyr na sydd ganddo mewn gadael iddynt wybod beth sydd yn digwydd.  
(A chyn i neb ofyn, dydw i ddim yn un o ddilynwyr Felix – dwi wedi cael fy mlocio ers talwm).

Cerddoriaeth gwleidyddol 1

Gyda chymaint o gerddoriaeth gwleidyddol ar gael roeddwn yn meddwl y byddai’n syniad cael cyfres wythnosol o fideos gwleidyddol.  Ceisiaf gyyhoeddi rhywbeth pob dydd Sadwrn am sbel.
Christy Moore yn canu am Victor Jara, canwr poblogaidd a laddwyd yn dilyn y coup d’etat yn Chile yn 1973 ydi’r gyntaf.

Pam bod Llafur yn parhau i reoli er gwaetha’r holl fethiant?

Mae’n gwestiwn diddorol pam bod y Blaid Lafur yn dal mewn llywodraeth yng Nghymru er gwaethaf methiant parhaus i symud economi Cymru yn ei blaen mewn termau cymharol.  Bydd llywodraethau yn aros mewn grym am gyfnodau hir iawn weithiau (ond ddim yn aml) – ond fel rheol bydd hynny’n digwydd mewn cyd destun o dwf economaidd cyson yn hytrach na’r twf malwen mewn tar sy’n nodweddu Cymru.

Mae sawl rheswm am hyn mae’n debyg, ac un ohonynt ydi nad ar y llywodraeth Lafur mae’r bai i gyd – yn uniongyrchol o leiaf. Yr hyn sydd wrth wraidd tlodi Cymru yn y pen draw ydi’r ffaith nad oes ganddi afael ar y lefrau ariannol allweddol – mewn geiriau eraill oherwydd nad yw’n wlad annibynnol.  Rydym wedi llafurio o dan yr argraff ers canrifoedd mai ‘r ffordd orau o symud yn ein blaen yn economaidd ydi trwy adael i wlad arall redeg ein economi – ac mae’n ymddangos nad ydi mynyddoedd di ddiwedd o dystiolaeth nad ydi hyn yn syniad da yn debygol o’n argyhoeddi i ddod i’r casgliad amlwg.

Ond mae Cymru’n tan berfformio o gymharu a phob man arall – Lloegr sydd mewn sefyllfa i droi’r dwr i’w melin ei hun (neu i felin De Ddwyrain eu gwlad o leiaf), yr Alban sydd efo economi bywiog a chyflenwadau sylweddol o olew, ond hyd yn oed Gogledd Iwerddon sydd wedi treulio degawdau yn edrych ar ei strydoedd yn cael eu rhwygo gan ryfel.  Hyd yn oed ag anwybyddu’r gwall creiddiol o gredu bod gwaredigaeth i’w gael gan rhywun arall, mae’n amlwg bod rhaid i lywodraeth sydd wedi bod mewn grym ers 1999 gymryd cyfrifoldeb – ond dydi’r etholwyr heb eu dal nhw’n gyfrifol hyd yn hyn.  Mae yna sawl rheswm am hyn:

1). Yn wahanol i lywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon dydi’r cyfryngau ddim yn dal y llywodraeth i gyfri.  Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael eu newyddion i gyd bron o Loegr, mae’r wasg Gymreig yn wan iawn ac mae’r cyfryngau teledu a radio yn ofn y Blaid Lafur Gymreig.  Mae Llafur yn cael methu, methu a methu eto, ond dydi’r etholwyr prin hyd yn oed yn cael gwybod hynny.

2). Mae hegemoni hir y Blaid Lafur yng Nghymru wedi arwain at sefyllfa lle mae cyrff cyhoeddus wedi cael eu stwffio efo’u cefnogwyr.  Felly mae cyrff a allai fod yn feirniadol o fetjiannau’r llywodraeth yn tueddu i aros yn ddistaw.  Maen nhw’n rhan o’r un is ddiwylliant methiannus.

3). Mae’r system etholiadol yng Nghymru yn garedig iawn tuag at y Blaid Lafur.  Ym mis Mai cawsant lai na 35% o’r bleidlais, ond 29 o’r 60 sedd.  Gallant lithro’n hawdd o dan 30% a pharhau i fod yn blaid fwyaf.  

4). Mae’r gwrthwynebiad i Lafur wedi rhannu yn weddol gyfartal – yn arbennig felly Plaid Cymru a’r Toriaid ar lefel Cynulliad.  Hyd eleni – pan ddaeth Llafur yn drydydd – roedd gwleidyddiaeth yr Alban yn eithaf binari.  O ganlyniad yn y dyddiau pan roedd Llafur yn rheoli (hyd at 2007) roedd yr SNP yn gallu denu’r bobl hynny nad oeddynt yn arbennig o wleidyddol, ond nad oedd yn hoff o Lafur.  Mae’r bleidlais honno’n mynd i pob cyfeiriad yng Nghymru.

Ceredigion – Thanet South Cymru?

Dydw i ddim yn gwybod os ydi’r honiadau bod y Toriaid wedi gor wario yn South Thanet yn Etholiad Cyffredinol 2015 mewn ymgais i sicrhau nad oedd Nigel Farage yn cael ei ethol yn wir, ond yr honiad ydi bod £200k wedi ei wario a bod y gwariant hwnnw wedi ei guddio yn y cyfrifon.  Os ydi hyn yn wir wedi digwydd rydym yn son am dor cyfraith eithaf difrifol.

Mae gan Gymru ei South Thanet ei hun, lle mae yna wariant enfawr wedi digwydd mewn un etholaeth am ddegawd a mwy – gwariant sydd o bosibl yn gyfreithlon  – ond os yw mae’n cymryd mantais o fwlch nad oedd neb wedi ei ragweld yn y gyfraith gwariant etholiadol.  Rydym wrth gwrs yn son am Geredigion.  

Mae’r stori rydym am edrych arni  yn mynd yn ol mewn gwirionedd i Etholiad Cyffredinol 1983.  Yn yr etholiad honno llwyddodd y gynghrair newydd SDP / Rhyddfrydwyr – mam a thad y Dib Lems presenol – i ennill chwarter y bleidlais, bron cymaint a Llafur Michael Foot, ond ennill 23 o seddi yn unig o gymharu a 209 Llafur.  Yr hyn oedd yn gyfrifol am yr anhegwch yma o ran canlyniad yr etholiad oedd bod cefnogaeth y gynghrair wedi ei rannu’n rhy gyfartal ar draws y DU.  Dydi’n system etholiadol ni ddim yn garedig i bleidiau sydd a’u cefnogaeth wedi ei ddosbarthu yn y ffordd yma.  Dyna pam cafodd UKIP un sedd y llynedd am bron i 4m o bleidleisiau, tra cafodd yr SDLP dair sedd am 99,000 o bleidleisiau.

Dysgodd y blaid a ddatblygodd o’r gynghrair – y Dib Lems yn weddol gyflym o’r profiad, a daethant yn dipyn o arbenigwyr ar ganolbwyntio ar seddi penodol, a mabysiadwyd nifer o dechnegau i hyrwyddo hyn – rhai yn fwy di egwyddol na ‘i gilydd. 

Tros yr etholiadau dilynol syrthiodd eu canran o’r bleidlais tros y DU, ond tyfodd eu niferoedd o etholiadau seneddol.  Roedd y llwyddiant yma wedi ei seilio ar ddewis ymgeiswyr cryf, gwario llwyth o bres, adeiladu presenoldeb ar gynghorau lleol, ac ymladd yr etholiadau i raddau fel cyfres o etholiadau lleol gan ddatblygu naratifau penodol ar gyfer etholaethau unigol.

Problem y Dib Lems yng Ngheredigion – fel mewn aml i sedd darged arall, yn arbennig rhai gwledig iawn – ydi nad oes ganddynt y milwyr troed i fynd a’r mynyddoedd o ohebiaeth etholiadol maent yn ei ddosbarthu o ddrws i ddrws yn y  seddi maent yn canolbwyntio arnynt.  Mae ailadrodd naratif benodol, leol drosodd a throsodd a throsodd yn rhan o’u strategaeth graidd.  Felly mae’n rhaid defnyddio’r Post Brenhinol.  Mae gwneud hynny tros etholaeth gyfan yn uffernol o ddrud – ac yn bwysicach mae’n llawer rhy ddrud i’w wneud yn gyfreithlon oddi mewn i’r cyfyngiadau gwario etholaethol.

Ond mae datrysiad i’r broblem yma – gwneud defnydd o ohebiaeth sy’n cael ei dalu amdano gan y blaid yn ‘genedlaethol’.  Mae’r hyn y gellir ei wario yn llawer uwch – ac mae’r gwariant yn cael ei gofnodi ar y cyfrifon ‘cenedlaethol’ yn hytrach na’r rhai lleol.  Mae pob plaid yn gwneud hyn wrth gwrs – ond fel rheol er mwyn hyrwyddo naratif cenedlaethol.  Yr hyn mae’r Dib Lems yn ei wneud ydi defnyddio gohebiaeth ‘cenedlaethol’ i hyrwyddo ymgyrchoedd lleol.  Dydi hyn ddim mor anodd a mae’n swnio.  

Fel rheol mae’n bosibl gosod etholaethau  tebyg i’w gilydd mewn grwpiau penodol.  Er enghraifft trefi prifysgol lle mae’r Dib Lems yn cystadlu efo Llafur, etholaethau gwledig anferth yn Ucheldiroedd yr Alban lle mae’r gystadleuaeth efo’r SNP neu’r etholaethau yn Ne Orllewin Lloegr lle mae’r gystadleuaeth efo’r Toriaid.  Gellir paratoi stwff gwahaniaethol i grwpiau o etholaethau.  Cyn belled a bod enw’r etholaeth a’r ymgeiswyr yn cael eu cadw oddi ar yr ohebiaeth gellir paratoi deunydd ‘cenedlaethol’ sy’n cefnogi naratif etholiadol Inverness & Nairn, Sheffield Hallam neu Redruth – mae gwahanol negeseuon ‘cenedlaethol’ yn cael eu dosbarthu mewn gwahanol grwpiau o etholaethau.  Mae hyn yn digwydd yng Ngheredigion – ond y gwahaniaeth efo Ceredigion ydi’r ffaith ei bod yn perthyn i grwp o 1 – sedd wledig sy’n ymylol rhwng Plaid Cymru a’r Dib Lems.  Mwy am hynny yn y man.

Mi wnawn ni gael golwg ar ddeunydd etholiadol y Dib Lems mewn tair etholiad – San Steffan 2010 a 2015 a Cynulliad 2016.  Mae’r dair dudalen isod wedi eu cymryd o bapur 8 tudalen a ddosbarthwyd trwy’r post yn ystod ymgyrch San Steffan 2015. 


Mae cost cynhyrchu a dosbarthu papur 8 tudalen trwy’r  Post Brenhinol yn sylweddol.  Mae’n debyg y byddai’r gost o gwmpas £5,000 yng Ngheredigion  – £1,300 i ‘r cwmni argraffu a £3,700 i Postman Pat, ei ffrindiau a’i gyfranddalwyr. Tua £12,000 ydi’r uchafswm y ceiir ei wario ar lefel etholaethol yn ystod mis diwethaf etholiad a £35,000 tros gyfnod o dri mis yn arwain at etholiad.

Rwan o edrych ar y papur un peth anarferol sy’n dod i’r amlwg ydi mai ar dudalen 1 a thudalen 1 yn unig mae enw Mark Williams ac etholaeth Ceredigion yn ymddangos.  Mae’r gweddill yn stwff cyffredinol – neu a bod yn gywirach, ymddangosiadol gyffredinol.  Os nad oes son am etholaeth benodol gellir rhoi’r costau yn erbyn gwariant cenedlaethol lle mae’r uchafswm gwariant yn anferth yn hytrach nag yn erbyn gwariant etholaethol lle mae’r uchafswm gwariant yn gymharol isel.

Felly i wneud i bethau weithio yng Ngheredigion mae’n rhaid i’r Dib Lems gyflwyno eu naratifau etholaethol gan gymryd arnynt eu bod yn naratifau cenedlaethol neu ranbarthol.  Byddai rhywun wedi meddwl y byddai gwneud hyn yn hynod anodd gan bod Ceredigion yn etholaeth unigryw.  Dyma’r unig etholaeth yng Nghymru lle mae’n ras rhwng Plaid Cymru a’r Dib Lems.  Ar wahan i Geredigion mae’n rheol etholiadol di feth bod y Dib Lems yn hynod wan lle mae Plaid Cymru yn gryf.

Ond dydi’r Dib Lems ddim yn gadael i bethau fel geirwiredd gyfyngu ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.  Sylwer ar y graff yn yr ail dudalen er enghraifft – mae’r Dib Lems yn hoff iawn o graffiau.  ‘Doedd y graff ddim yn cynrychioli’r darlun etholiadol ar gyfer unrhyw etholaeth na rhanbarth ar lefel San Steffan na hyd yn oed Cynulliad.  Mae’r ffigyrau yn gwbl ddychmygol.  Yn waeth na hynny maent yn berthnasol i strategaeth y Dib Lems yng Ngheredigion, ond ddim yn unrhyw le arall.  Dyna pam mai yng Ngheredigion, ac yng Ngheredigion yn unig ymddangosodd y graff – er bod y costau cynhyrchu a dosbarthu yn cael eu cwrdd yn ‘genedlaethol’.  

Yn yr un modd mae ieithwedd yr holl bapur yn ffitio i naratif y Dib Lems yng Ngheredigion, ac yng Ngheredigion yn unig – ymosod ar Blaid Cymru, a Phlaid Cymru yn unig, vox pop o bobl o Geredigion, son am ‘ymgyrchwyr lleol’, ‘canolbarth Cymru’ ac ati.  

A felly dyna ni – dyfais bach eithaf syml o son yn benodol am Geredigion a Mark Williams mewn un tudalen yn unig, ond cyflwyno naratif sydd ond yn berthnasol i Geredigion a Cheredigion yn unig.  Mae hyn yn caniatau i’r Dib Lems roi chwarter y gwariant tuag at y cyfanswm etholaethol, a thri chwarter y gwariant tuag at y cyfanswm ‘cenedlaethol’.

Neu ystyrier y canlynol – post uniongyrchol mewn amlen yn Etholiad Cyffredinol 2010:



Mae’n weddol gyffredin i bleidiau rannu costau rhwng ymgyrchoedd trwy roi mwy nag un pamffled mewn amlen.  Er enghraifft mewn sawl etholaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru eleni anfonwyd un taflen Cynulliad ac un taflen Dafydd  Llywelyn (etholiad Comiwsiynydd yr Heddlu) efo’i gilydd yn yr un amlen. Felly roedd arian yn cael ei arbed, ac roedd y costau’n cael eu rhannu’n ddau ac yn ymddangos o dan dau bennawd yn y cyfrifon.  Mae pob plaid yn gwneud hyn, a does yna ddim problem efo’r arfer.

Ond mae’r Dim Lems yng Ngheredigion yn mynd gam ymhellach. Maent yn cynhyrchu  llenyddiaeth sy’n amlwg yn lleol o ran naratif ond yn geirio mewn modd sy’n osgoi costau etholaethol, ac yn cymysgu’r stwff efo deunydd sydd yn cyfeirio’n benodol at yr etholaeth.  Gwariwyd yn anhygoel yn gwneud hyn yn 2010. 

Mae’n bosibl mai  gwariant y Dib Lems yng Ngheredigion yn 2010 oedd y gwariant uchaf erioed mewn unrhyw etholaeth ar y pryd, record na gurwyd nes i’r Toriaid (yn honedig) wario £200k yn South Thanet y llynedd.  

Mwyafrif o 219 yn unig roedd y Dib Lems yn ei amddiffyn bryd hynny, ac mi amddiffynwyd y sedd trwy wario’n lloerig a chofnodi’r gwariant trwy ddulliau – ahem – hyblyg a chreadigol.  Roedd gwariant mawr ar seddi targed ar hyd a lled y DU gan y blaid yn 2010, ond roedd y gwariant yn uwch yng Ngheredigion nag oedd mewn seddi targed eraill  oherwydd y cymhlethdod o orfod cynhyrchu deunydd dwyieithog, ac oherwydd bod y stwff ‘cenedlaethol’ yn unigryw i Geredigion oherwydd bod ei phroffeil etholiadol yn unigryw. Doedd yna ddim economy of scale sy’n dod o gynhyrchu cannoedd o filoedd o bamffledi ar gyfer grwp o etholaethau.  Cafodd miloedd lawer o bobl tua 5-6 amlen tros gyfnod o 3 mis. Byddai hyn wedi costio £40-50k, ar bostio uniongyrchol yn unig.
Mae’r daflen a’r llythyr wedi eu teilwra i naratif etholiadol y Dib Lems yng Ngheredigion a – fel sonwyd eisoes – Ceredigion yn unig.  Mae amodau etholiadol Ceredigion yn gwbl unigryw.  Ceir son am ‘sawl ardal’ – ond yn un ardal yn unig mae’r neges yn berthnasol, ac mewn un ardal yn unig y cafodd y stwff ei ddosbarthu.  Afraid dweud nad oedd rhaid cofnodi’r stwff yma fel gwariant etholaethol?
Dydi pethau ddim gwahanol mewn etholiadau Cynulliad.
Defnyddwyd y Post Brenhinol ddwywaith i ohebu efo holl etholwyr yr etholaeth ym mhethefnos olaf yr ymgyrch eleni. Byddai’r gost yn debygol o fod yn £10k i £12k – tua’r uchafswm gwariant ynddo’i hun.  Felly unwaith eto roedd rhaid dod o hyd i ffordd o guddio’r costau yn y cyfrifon cenedlaethol.  Mae’r delweddau isod o un o’r papurau newydd a anfonwyd at bawb.:

Dim ond 1 tudalen o’r 4  sy’n son am yr ymgeisydd – a hynny am resymau rydym bellach yn gyfarwydd a nhw.

Mae tudalen 1 yn llawn canmoliaeth i’r Lib Dems gan bobl o Aberteifi, Llanrhystud ac ati (gwragedd cynghorwyr LD yn bennaf) ond does dim son am yr ymgeisydd. Tybed os wnaeth rhywun anghofio bod Ceredigion yn nheitl y papur?   Mae dwy dudalen arall yn ymosod ar y Blaid mewn modd digon negyddol ac anonest. Ond sonnir am Kirsty Williams ac am ‘ardal fel hon’ ac ati yn hytrach na’r ymgeisydd a’r etholaeth.

Un o sgil effeithiau’r bwlch yma yn y rheolau costau etholiadol ydi creu mwy o wleidydda negyddol.  Os nad ydych yn son am eich hymgeisydd eich hun y demtasiwn ydi i ymosod ar y blaid sy’n cystadlu yn eich herbyn. 

A dyna chi, Thanet South Cymru – gwariant enfawr ar un etholaeth, a’r gwariant hwnnw wedi ei guddio yn y cyfrifon ‘cenedlaethol ‘. Cyfreithlon? – digon posibl.  Unol a bwriad y gyfraith!  Yn sicr ddim.

Ynglyn a cholofn ‘Plaid Cymru Bad’ Golwg

I’r sawl yn eich plith sy’n anghyfarwydd a’r term ‘SNP Bad’ mae’n debyg bod angen pwt o eglurhad.  Term ydyw sy’n cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag arfer elfennau o’r cyfryngau i ddod i ‘r un casgliad o pob stori – bod yr SNP yn ‘ddrwg ‘ – ac i chwilio am unrhyw stori, unrhyw beth o gwbl, i gefnogi’r canfyddiad bod yr SNP yn ddrwg.

Roeddwn yn meddwl am hynny wrth ddarllen colofn ddiweddaraf Gwilym Owen yn Golwg heddiw.  Myllio oedd Gwilym oherwydd bod gan gwahanol aelodau o Blaid Cymru farn ynglyn a lle dylid lleoli pencadlys S4C yn sgil y stori ei bod yn ymddangos nad oes gan Coleg y Drindod yr adnoddau ariannol i wireddu eu cais llwyddiannus i ddenu’r cynllun i Gaerfyrddin, a’u bod wedi gorfod gofyn i ‘r llywodraeth am gyfraniad sylweddol i wireddu’r cynllun.
Mae lleoliad pencadlys y sianel gyda goblygiadau sylweddol i etholaethau’r ASau a wnaeth sylwadau ar y mater – ac mae pob Aelod Cynulliad. (gobeithio) yn ceisio edrych ar ol buddiannau ei hetholaeth / etholaeth.  Yn ol Gwilym does yna ddim ots lle mae’r sianel wedi ei lleoli ac mai’r mater pwysig ydi’r ffaith bod yna ‘ail, trydydd a phedwerydd’ darllediadau ar y sianel. 
Am ennyd rhown o’r neilltu’r ffaith mai dim ond rhywun sy’n byw ar blaned arall – neu o leiaf mewn gwlad arall sydd ddim yn rhan o’r gyfundrefn ariannol rhyngwladol (Gogledd Corea er enghraifft)  – fyddai’n anwybodus ynglyn a pham bod S4C wedi gorfod newid ei ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diweddar.  
Ond mi arhoswn efo’r busnes nad ydi o ots yn lle mae’r sianel wedi ei lleoli.  Roedd Gwilym wrth ei fodd pan glywodd yn y lle cyntaf bod y pencadlys newydd i’w leoli yng Nghaerfyrddin.  Eglurodd  bod cais Coleg y Drindod yn llawer gwell nag un Gwynedd – sydd trwy gyd ddigwyddiad llwyr yn cael ei arwain gan Blaid Cymru.  Ond yn fwyaf sydyn dydi’r lleoliad – na’r ffaith nad oedd y cynllun llwyddiannus yn fforddiadwy i’r sawl a’i creodd – yn bwysig.  Yn ddi amau ni fyddai’n bwysig i Gwilym chwaith petai’r esgid ar y droed arall a phetai cais Gwynedd wedi llwyddo, ond bod y cyngor wedi gorfod mynd i’r Cynulliad efo cap yn ei law ychydig fisoedd yn ddiweddarach i chwilio am bres i dalu amdano.
Mae yna rhywbeth bach arall hefyd cyn ein bod wrthi.  Dydi hi ddim yn gyffredin i’r cyfryngau Cymreig – i’r graddau eu bod yn bodoli o gwbl – fod yn bleidiol wleidyddol.  Mae ganddynt yn aml safbwyntiau gwleidyddol, ond dydyn nhw ddim fel rheol yn mynegi’r safbwyntiau hynny mewn naratif pleidiol wleidyddol.  Un o sgil effeithiau gwendid y cyfryngau a’r ffaith nad ydyn nhw’n hoffi cymryd safbwyntiau pleidiol wleidyddol ydi nad ydi’r llywodraeth yng Nghaerdydd yn cael ei dal i gyfrif yn yr un ffordd a llywodraethau Llundain, Caeredin a Belfast.  Mae colofn Gwilym yn Golwg yn  bleidiol wleidyddol yn yr ystyr bod yna un blaid nad yw yn ei hoffi, ac mae’n achub ar pob cyfle i ladd arni, ac mae’n benderfynol o ddal yr wrthblaid honno i gyfri’ – os nad unrhyw un arall, nag yn wir y llywodraeth.
Mae  pob math o bethau’n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd – Llafur yn ffraeo’n fewnol ac yn parhau i fethu’n llwyr i lywodraethu yn effeithiol, rhyfel cartref parhaus yn y grwp gwleidyddol sy’n rheoli prif ddinas Cymru, y Toriaid Cymreig yn barhaol anghyson gyda’i agenda polisi yn cael ei lywio i raddau helaeth gan yr hyn mae llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr ac yn gefnogol i’r toriadau sydd wedi arwain yr ‘ail, trydydd a phedwerydd’ darllediadau ar S4C, y Dib Lems yn cael eu traflyncu gan Lafur, UKIP yng Nghymru yn tyfu ond mewn cyflwr o ryfel cartref parhaus, yn lladd ar ei gilydd yn gyhoeddus ac yn fileinig gyda dau o’i haelodau’n  cymudo i Fae Caerdydd o Loegr. Mae hinsawdd wleidyddol Cymru yn bellach i’r Dde, yn fwy anoddefgar ac yn fwy mewnblyg / Brydeinig nag a fu ers blynyddoedd mawr.   
Ond mae hyn oll  – a bron i pob dim arall sy ‘n digwydd yng Nghymru yn mynd tros golofn Gwilym Owen fel dwr afon dros garreg – mae prif lif gwleidyddiaeth Cymru yn sgubo trosti’n ddi sylw.  Mae’n canolbwyntio i raddau helaeth ar ladd ar sefydliadau cyhoeddus (Cymraeg eu hiaith gan amlaf)  a lladd ar un blaid benodol, gan grafu o gwmpas yn obsesiynol am gerrig i’w troi a blew i’w hollti er mwyn iddo gael gwneud hynny.
Rwan fi fyddai’r person olaf i fod eisiau cau pig neb – rhydd i bawb ei farn, hyd yn oed os ydi ‘r farn honno’n un hurt.  Serch hynny mae’n wir i ddweud mai ychydig o sylwebaeth ar wleidyddiaeth Cymru sydd i’w gael yn y cyfryngau prif lif, ac mae’r hyn sydd i’w gael yn y Gymraeg yn sobor o brin.  Ond mae un o’r ychydig golofnau rheolaidd yn methu’n lan a sylwi ar y newidiadau sylweddol sy’n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r tu hwnt ac yn canolbwyntio bron yn llwyr ar un rigol anhygoel a gyfyng, ac ail adroddus.  Trwy stryffaglo i roi ei hen, hen ragfarnau ar ffurf print mae  Gwilym yn colli cyfle euraid pob pythefnos i gynnig dehongliad o’r newidiadau enfawr sy’n digwydd.  Mae’n debyg  nad ydi o’n sylwi arnyn nhw.  I’r graddau hynny mae’r golofn yn wastraff llwyr o wagle, ac efallai ei bod yn bryd i’r stryffagl aflwyddiannus  pethefnosol i ddeall y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni ddod i ben.

Y diweddaraf o etholiad arlywyddol America

Na, dwi ddim yn colli arni – am resymau sydd y tu hwnt i ddealltwriaeth Blogmenai mae rhai talaethau yn yr UDA yn dal i gyfri tan fis Ionawr, ac fel mae’r cyfri wedi mynd rhagddo mae’r bwlch rhwng Clinton a Trump wedi mynd yn fwy, ac yn fwy, ac yn fwy a hynny i fantais Clinton.  Ar hyn o bryd mae ei goruwchafiaeth yn fwy na 2.6 miliwn, a chafodd fwy o bleidleisiau na’r hyn gafodd Obama yn 2012.  Yn wir yr unig berson i gael mwy o bleidleisiau na gafodd Clinton erioed oedd Obama yn 2008 – ac mae’n debyg y bydd ganddi fwy na hynny erbyn i’r cyfri ddod i ben.