Niwed masnachol Brexit

Fydda i ddim yn un o’r bobl hynny sy’n teimlo’r angen i ddweud ei ddweud trwy adael sylwadau ar dudalennau sylwadau Golwg360 – ond dwi’n meddwl bod y sylw idiotaidd ar ddiwedd y stori yma werth ychydig o sylw.  
Ymateb a geir i sylw gan Leanne Wood y bydd Brexit ‘caled’ yn gwneud niwed economaidd i Gymru (ac i’r DU).  Mae’r cyfranwr o’r enw Cledwyn wedi ypsetio am nad ydi o’n cael gwybod beth yn union fydd y niwed economaidd.  Mae yna ddau ateb os mai holi am yr effaith ar fasnach mae Cledwyn – y naill yn hollol amlwg,  a’r llall sydd braidd yn llai amlwg.  Mae un yn ymwneud a thollau ar nwyddau, ac mae’r llall yn ymwneud a tharfu ar gadwyni cyflenwi.  
O adael yr UE bydd rhaid i’r DU osod tollau ar nwyddau sy’n dod o’r UE a bydd rhaid i’r UE osod tollau ar nwyddau sy’n dod o’r DU. 
Felly, os oes  busnes sy’n mewnforio gwin o’r UE bydd pob potel ar y silff sydd wedi ei phrynu o’r UE yn costio cryn dipyn yn fwy. Bydd rhaid i’r gost cael ei drosglwyddo i’r cwsmeriaid yn y pen draw. Golyga hyn y bydd llai o boteli’n cael eu gwerthu, ac y bydd y rhai sydd yn cael eu gwerthu yn ddrud.
Weithiau bydd hyn yn cael yr effaith gadarnhaol ar werthwyr nwyddau sy ‘n cael eu cynhyrchu yn y DU – byddant yn fwy cystadleuol oddi mewn i’r DU. Mae hynny’n wych os ydi hi’n bosibl cynhyrchu stwff tebyg i safon uchel yn y DU.  Mae’r broblem yn codi os nad yw hynny’n wir – ac mae ‘n wir am lawer o nwyddau – gan gynnwys gwin.
Ond bydd yr un peth yn digwydd yn y cyfeiriad arall.   Bydd busnesau yn y DU yn gweld eu cynnyrch yn dod yn llawer mwy costus ym marchnad enfawr yr Undeb Ewropeaidd.  Hynny yw bydd cig oen sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru – er enghraifft – yn llawer, llawer drytach yn Ffrainc nag yw rwan. 
Mae yna ail fater hefyd – ac mae’n un mawr – hyd yn oed os nad yw’n cael nemor ddim sylw yn y wasg.  Mae nwyddau sydd ddim yn cael eu masnachu oddi mewn i’r Farchnad Sengl yn gorfod cael eu gwirio wrth iddynt groesi’r ffin i ‘r UE. Ynddo’i hun nid yw hyn yn niweidiol, ond os oes gennych lwyth o gydrannau ceir yn gorfod mynd trwy broses fiwrocrataidd mae’n dinistrio’r arfer o dderbyn cydrannau cyn agosed a phosibl at pan maent yn cael eu defnyddio sy’n gyffredin mewn gwaithgynhyrchu. Yn ychwanegol gallai’r broses o gynhyrchu ei hun ddod i stop tra bod cydrannau yn cael eu gwirio gan tollau os oes problem yn codi.
Yr ateb i gynhyrchwyr ydi stocio cydrannau – ond y broblem ydi bod hynny’n uffernol o ddrud – byddai angen creu a thalu am adeiladau storio.  Byddai’n cymryd mwy o lawer o amser i droi cydrannau yn bres.  Byddai yna hefyd gostau ynghlwm a newid modelau busnes yn llwyddiannus i ddelio efo hyn.  Hynny yw – bydd cadwyni cyflenwi yn cael eu tarfu – ac mae hynny’n farwol i gynhyrchwyr.

Fideo wleidyddol yr wythnos

Mississipi Goddam gan Nina Simone ydi’r fideo yr wythnos yma.  Yn amlwg mae’r gan yn dod o gyfnod hawliau sifil yn yr UDA.  Mae’r geiriau yn edrych yn ddigon di niwed heddiw, ond ar y pryd roedd yn cymryd cryn ddewrder i rhywun croenddu feirniadu gwleidyddion a thaleithiau yn Ne’r UDA yn gyhoeddus.

Cafodd y gan ei chyfansoddi yn dilyn llofruddiaeth actifydd hawliau sifil o’r enw Medgar Evers yn 1963 gan Byron De La Beckwith – aelod o’r Klu Klux Klan.  

A beth sy’n mynd ymlaen yng Ngogledd Iwerddon

Er bod ymddiswyddiad diweddar Martin McGuinness yn ymddangos fel ymateb i’r sgandal hynod Wyddelig ei naws – Ash for Cash – nid dyna sy’n digwydd mewn gwirionedd.  Mewn amgylchiadau arferol byddai Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon wedi lled anwybyddu’r peth er bod y blaid yn y Weriniaeth yn llawer mwy piwritanaidd ynglyn a cham ymddwyn ariannol.  Beth sydd yn mynd ymlaen felly?

Cyn ateb y cwestiwn hwnnw mae’n rhaid deall y ffordd mae Sinn Fein yn rhesymu fel plaid.  Mae hi’n blaid hynod anarferol, a’r rheswm am hynny ydi cysylltiadau milwrol ei harweinyddiaeth.  Mae Sinn Fein yn rhesymu mewn ffordd digon tebyg i sut oedd yr IRA yn rhesymu.  Mae strategaethau’r Mudiad Gweriniaethol pob amser yn gweithio mewn ffram amser hir.  Does gan y mudiad ddim diddordeb mewn strategaethau byr dymor – mae pob dim ynglyn ag ennill mantais yn yr hir dymor. Canlyniad hyn yn aml ydi cyfnodau hir, distaw yn cael ei ddilyn gan newyd cyflym radicalaidd. Ymateb ydi ‘r hyn ddigwyddodd echdoe i fethiant rhannol mewn strategaeth tymor hir.  Mae’r rhan fwyaf o bleidiau yn gweithio mewn ffram amser llawer llai.
Y bwriad yn dilyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith oedd adeiladu dylanwad gwleidyddol ar ddwy ochr y ffin er mwyn defnyddio’r sefydliadau a strwythurau oedd wedi eu creu gan y cytundeb i hyrwyddo’r broses o ail uno’r wlad.  Mae’r broses o adeiladu cefnogaeth yn y Weriniaeth wedi mynd rhagddo yn dda – mae’r blaid wedi datblygu cefnogaeth ar hyd a lled y wlad ac mae’n bresenoldeb grymus yn y Dail.  Cyn y cytundeb roedd yn gwbl ymylol i wleidyddiaeth y Weriniaeth.
Ond ‘dydi’r ochr arall heb weithio cystal.  Tyfodd cefnogaeth wleidyddol Sinn Fein yn y Gogledd yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr ymprydiau newyn ar ddechrau’r 80au – ond ni pharhaodd y twf wedi hynny oherwydd na lwyddwyd i adeiladu cefnogaeth y tu hwnt i berfedd diroedd yr IRA.  Parhaodd y rhan fwyaf o genedlaetholwyr i bleidleisio i’r SDLP.  Newidiodd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith hynny, ac yn dilyn y cytundeb achubodd Sinn Fein y blaen ar yr SDLP am y tro cyntaf ers 2001.  Ers hynny mae’r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid wedi parhau i dyfu – ac mae SF bellach yn cael tua dwywaith cymaint o bleidleisiau a’r SNP.  
Serch hynny – yn groes i ddisgwyliadau arweinyddiaeth y Mudiad Gweriniaethol  – ni thyfodd y bleidlais genedlaetholgar at ei gilydd o tua 2005 ymlaen – os rhywbeth mae wedi dechrau syrthio’n ol.  Roedd hyn yn anisgwyl oherwydd bod y ganran o Babyddion yn y boblogaeth yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn – ac yn ystod y rhyfel roedd Pabyddion yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na Phrotestaniaid.
Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn ydi natur y sefydliadau sydd wedi eu creu yn sgil Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Gan bod grym yn gorfod cael ei rannu rhwng Unoliaethwyr a Chenedlaetholwyr mae SF bellach yn cael ei gweld fel rhan o’r sefydliad.  Mae cefnogwyr naturiol SF yn y Gogledd yn bobl hynod wrth sefydliadol.  O ganlyniad mae nhw’n fwy tueddol i aros adref ar ddiwrnod etholiad nag oeddynt yn y gorffennol.
Rhan o ymgais i newid pethau ydi digwyddiadau echdoe.  Mae’r blaid am gael ei hail frandio a’i hail leoli’n wleidyddol i fod yn rhywbeth mwy gwrth sefydliadol o lawer – a gallai hynny arwain at ail negydu’r ffordd mae elfennau o’r strwythurau a grewyd yn gweithio.  Gallai hefyd arwain at lywodraethiant uniongyrchol o San Steffan am gyfnod estynedig.
Ac mae yna un peth arall wrth gwrs – Brexit.  Mae’r bleidlais honno wedi cynnig posibiliadau newydd o ran annibyniaeth i’r Alban, ac mae’n cynnig posibiliadau o ran ail uno’r Iwerddon hefyd.  Bydd cael dwy gyfundrefn economaidd hollol wahanol ar ynys sydd wedi ei hintigreiddio mewn rhai ffyrdd yn creu problemau sylweddol.  Bydd y blaid yn ceisio manteisio ar hynny – ac nid fel plaid lywodraethol mae gwneud hynny. 

Beth sy’n mynd ymlaen yn yr Alban?

Mae datganiadau Nicola Sturgeon tros y dyddiau diwethaf yn ddiddorol – ac yn awgrymu bod gan yr SNP fap pendant o’r ffordd ymlaen.  Mae hyn yn cyferbynu’n eithaf amlwg efo llywodraeth y DU – sy’n ymddangos i fod yn rhanedig ac aneglur ynglyn a’r hyn mae eisiau ei wneud.  Gadewch i ni geisio deall yr hyn mae’r SNP yn ceisio ei wneud.  Dywedwyd dau beth gan Nicola Sturgeon tros y dyddiau diwethaf:  

1). Na fydd yr SNP yn galw refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn y tymor canolig os bydd y DU yn aros yn y Farchnad Sengl.
2). Y bydd yr SNP yn galw refferendwm mewn dwy flynedd os bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl.

Rwan ar un olwg mae hyn yn ymddangos yn rhyfedd.  Byddai rhywun yn disgwyl iddi fod yn anos i ‘r Alban adael y DU os bydd tollau ar allforion a mewnforion o ac i’r UE.  Mae’r farchnad rhwng gweddill y DU a’r Alban yn llawer mwy na’r farchnad rhwng yr Alban a’r UE.  Petai’r DU yn gadael y Farchnad Sengl, yna y DU fyddai’r Farchnad Sengl i ‘r Alban.  Byddai codi wal o dollau ar hyd y ffin efo Lloegr yn broblem.
Ond mae yna ffordd arall o edrych ar bethau.  Byddai gadael y DU hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r Alban petai Prydain allan o’r Farchnad Sengl.  Ceir dau brif gyfle – neu un cyfle efo dwy agwedd iddi mewn gwirionedd.
1). Gallwn fod yn weddol sicr y byddai gwledydd yr UE yn syrthio tros ei gilydd yn cystadlu am farchnadoedd Prydain petaent yn gadael y Farchnad Sengl.  Gallai ‘r Alban fod yn rhan o’r sgrambl yna.
2). Byddai’r Alban mewn lle delfrydol – yn ddaearyddol, ieithyddol a diwylliannol – i gystadlu am lawer o’r hyn y byddai gweddill y DU yn ei golli.  Byddai Paris, Frankfurt, Dulyn a Chaeredin yn cystadlu i ddenu sefydliadau ariannol – ond byddai Dulyn a Chaeredin gyda manteision oherwydd y byddai’n haws adleoli staff yna.  Petai cwmni ceir eisiau adleoli, byddai’n haws symud tros y ffin na symud tros y dwr. 
Byddai natur refferendwm o dan yr amgylchiadau yma’n dra gwahanol i’r un diwethaf – ond byddai yna naratif ‘Ia’ atyniadol y gellid ei chreu – yn arbennig felly os y byddai sefydliadau masnachol ac ariannol eisoes yn chwilio am gyfleoedd i adleoli. 

Y Dib Lems ers Brexit

Dwi wedi dwyn y graff isod o’r wefan politicalbetting.com – ac mae’n cyfleu rhywbeth diddorol.
Yr hyn rydym yn ei weld ydi llwyddiant i’r Lib Dems – o gymharu a’r etholiad flaenorol.  Mae’r Lib Dems yn ddi amwys gefnogol i ‘r UE wrth gwrs.  Mae’r un peth yn wir am y Gwyrddion.  Mae’r Toriaid – bellach – ac UKIP yn ddi amwys eisiau gadael yr UE ac mae Llafur eisiau rhywbeth neu’i gilydd, ond does neb yn rhy siwr beth.  
Yr hyn sy’n ddiddorol ydi mor dda mae’r Lib Dems yn gwneud mewn ardaloedd a bleidleisiodd i adael. Hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny mae yna leiafrif sylweddol – a lleiafrif sy’n fwy na pharod i fynd i bleidleisio – oedd eisiau aros yn yr UE.  Mae’r Lib Dems yn eu corlanu oherwydd nad ydynt yn gorfod cystadlu efo neb am eu pleidleisiau.
Mae’r wers yng Nghymru yn weddol amlwg mi dybiwn.

Problem y Blaid Lafur

Dydw i ddim yn arbennig o falch bod pol heddiw wedi dangos bod Llafur tros y DU wedi syrthio i cyn ised a 24%, wedi’r cwbl mae pob plaid unoliaethol arall yn waeth na nhw rwan mae nhw wedi cael gwared o Blair a Brown.  Ond does yna ddim llawer o amheuaeth bod y dyfodol canolig yn edrych yn ddrwg arnyn nhw, ac mae’r rhesymau am hynny yn weddol hawdd i’w harenwi.

Dydw i ddim yn meddwl bod yr hyn mae eu harweinydd yn ei ddweud yn arbennig o amhoblogaidd, nag yn wir yn amhoblogaidd o gwbl – ond mae nifer o ffactorau yn ei wneud yn amhoblogaidd – ei gymeriad anarferol i arweinydd plaid, gwrthwynebiad chwyrn unfrydol  y cyfryngau torfol, gwrthwynebiad chwyrn a hoffter o ryfela cartref y rhan fwyaf o aelodau seneddol Llafur.  Ond fel mae’r graff isod yn ei ddangos dydi pethau heb wella yn dilyn yr etholiad arweinyddol – yn wir maent wedi mynd cryn dipyn yn waeth.

Y rheswm am hynny yn ol pob tebyg ydi Brexit – neu a bod yn fwy manwl ymateb Llafur i Brexit.  Mae refferendwm y llynedd yn ddigwyddiad arwyddocaol a sylweddol ac mae sut y pleidleisiodd pobl yn debygol o effeithio ar y ffordd maent yn edrych arnynt eu hunain yn wleidyddol ac yn diffinio eu hunain yn wleidyddol.
Mae’r Toriaid wedi ymateb trwy symud i ‘r Dde, a mynegi ‘r bwriad i adael Ewrop, a gwneud hynny mewn modd fydd yn dod a mewnlifiad i ben.  Dydi’r ffaith eu bod yn gobeithio am rhywbeth afresymegol – aelodaeth o’r farchnad rydd ond dim mewnfudo – ddim yma nag acw, mae’r safbwynt yn glir a dealladwy.  Mae’r un peth yn wir am y Dib Lems, UKIP ac yn wir Plaid Cymru.  Dydi hynny ddim yn wir am Lafur – mae eu hymateb yn gymhleth.  
Mae’r rheswm am hynny ynddo ei hun yn eithaf cymhleth.  Er i fwyafrif da o bleidleiswyr 2015 Llafur bleidleisio i aros (mae’r ganran yn debyg i un Plaid Cymru, y Dib Lems a’r SNP) os ydynt i ennill etholiad cyffredinol mae’n rhaid iddynt apelio at grwpiau ychwanegol – ac mae’r rheini at ei gilydd wedi pleidleisio i adael (pleidleiswyr UKIP a phobl sydd ddim yn pleidleisio gan amlaf yn bennaf).  Felly mae’n rhaid iddynt gael o leiaf un droed efo’r sawl sydd am adael – a chystadlu efo’r Toriaid ac UKIP yn y pwll hwnnw.  Mae hynny’n gadael y pwll arall – un y 48% a bleidleisiodd i aros – yn eithaf rhydd i’r Dib Lems a’r Gwyrddion yn Lloegr, ac i’r pleidiau hynny a’r pleidiau cenedlaetholgar yng Nghymru a’r Alban.  
Felly maent mewn perygl o golli pleidleisiau i UKIP ymysg y sawl nad ydynt yn credu eu bod yn ddigon cefnogol i Brexit ar un llaw, ac i’r cenedlaetholwyr, Dib Lems a’r Gwyrddion ymysg y sawl nad ydynt am adael Ewrop.  Bydd eleni yn cael ei dominydfu ‘n wleidyddol gan y negydu fydd yn digwydd yn sgil gweithrefu Erthygl 50.  Bydd hynny yn debygol o bolareiddio pobl, ac mae perygl y bydd Llafur yn cael ei gadael ar y ffens – neu’n meddiannu tir neb.  Bydd hyn yn ei dro yn eu gwneud yn amherthnasol – ac mae bod yn amherthnasol yn farwol i bleidiau gwleidyddol.

Y diweddaraf o Bencadlys Rhesymu Gwlanog Cymru

Os ydi rwdlan a malu cachu yn mynd a’ch bryd mae blog aelod seneddol Trefaldwyn – Glyn Davies yn goblyn o le da i fynd.  A View From Rural Wales, ond byddai Pencadlys Rhesymu Gwlanog Cymru yn enw gwell o lawer.  Cymerer yr ymdrech ddiweddaraf lle mae Glyn yn ddigon caredig i adael i ni wybod ei farn am Donald Trump a newid hinsawdd.  I dorri stori hir braidd yn fyrach:

1). Mae Glyn yn credu bod y busnes newid hinsawdd a’r cyswllt a gweithgareddau dynol yma yn ddamcaniaeth uniongred anoddefgar.
2). Mae Glyn o’r farn na fydd canlyniadau newid hinsawdd yn rhy ddrwg.
3). Dydi Donald Trump ddim yn hoffi’r ddamcaniaeth chwaith a bydd yntau yn caniatau i ‘wyddonwyr’ sydd yn cytuno efo fo gael dweud eu dweud.
4). Mae Glyn fodd bynnag yn poeni bod Trump yn mynd yn rhy bell o beth uffar trwy alw’r ddamcaniaeth yn hollol ffug a phenodi pobl sy’n gwneud eu bara menyn yn gwerthu olew i wneud pob math o swyddi yn ei weinyddiaeth.
5). Ond mae Glyn yn credu y bydd Trump yn dilyn agenda o ddad garboneiddio beth bynnag rhag ofn ei fod o a’i griw o werthwyr olew yn anghywir ynglyn a newid hinsawdd.
Rwan pam bod Glyn yn sgwennu nonsens fel hyn?  Dydi’r dyn ddim yn ddwl wedi’r cwbl.
Mae’r ateb yn eithaf syml -mae Glyn wrth reddf yn Adain Dde, ond mae o hefyd wrth reddf yn gymodwr – mae o’n hoffi cytuno efo pawb.  Dyma un o’r rhesymau pam bod cymaint o bobl a gwleidyddion yn arbennig yn hoff o Glyn – mae o’n gwneud synnau sy’n ddeniadol i bawb ar yr un pryd.  
Y broblem  wrth gwrs ydi ei bod yn amhosibl gwneud hynny heb rwdlan yn afresymegol.  

Hanner edrych ymlaen at 2017

Hanner edrych ymlaen ydw i oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn 2016 – roedd bron i pob dim gafodd ei ddarogan gan bron i bawb yn anghywir.  Felly y cyfan ddyweda i ydi bod y canlynol yn bosibl – neu’n fwy na phosibl.
1). Degawdau o leihau yn amlder arfau niwclear yn dod i ben.  Ymddengys bod Rwsia yn awyddus i ddiweddaru ei harfau ac ymddengys bod Trump eisiau gwneud yr un peth yn yr UDA.  Mae Prydain eisoes wedi dweud y bydd Trident yn cael ei ddiweddaru.  Bydd bwriad yr UDA i adael i wledydd cyfeillgar edrych ar ol eu hunain yn filitaraidd yn rhoi pwysau ar Dde Corea a Japan i gael arfau niwclear  eu hunain i ymateb i fygythiad Gogledd Corea.  Yn ol pob tebyg bydd cytundeb yr UDA efo Iran i atal eu rhaglen niwclear nhw yn dod i ben a bydd hynny’n arwain at bwysau ar Saudi Arabia i gael arfau niwclear ei hun – mae’n debyg o Bacistan.  Bydd yr UDA yn llai cyfeillgar efo Ewrop ac yn fwy felly efo Rwsia.  Bydd hyn yn cynyddu’r pwysau am fwy o arfau niwclear yn Ewrop yn arbennig felly gydag ymadawiad y DU – Ffrainc yn unig fydd a’i harfau niwclear ei hun.

2). Llafur yn colli seddi yn yr etholiadau lleol yng Nghymru.  Yn hanesyddol mae Llafur yn gwneud yn dda mewn etholiadau lleol pan maent yn polio’n dda ar lefel ‘cenedlaethol’.  Yn ol yn 2012 roeddynt yn y 40au cynnar yn y polau ac aethant ati i gynyddu eu cynrychiolaeth o 231 sedd.   Erbyn hyn maent fwy na deg pwynt canrannol yn is na hynny.  Gallai hyn arwain at golli llawer o’r hyn enillwyd yn 2012 – a cholli cynghorau megis Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.  Dylai Plaid Cymru elwa o broblemau Llafur a’r Dib Lems i raddau llai.  Gallai’r Toriaid elwa hefyd – os nad ydi’r ffraeo mewnol mawr am Brexit wedi cychwyn.
3). Trafodaethau Brexit yn dod i ddiwedd di symwth a Phrydain yn gadael heb gytundeb.  Ar hyn o bryd mae yna wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae’r ddwy ochr yn gweld y trafodaethau.  Mae’r DU yn eu gweld fel ffordd o sicrhau amodau masnach ffafriol.  Mae pawb arall yn eu gweld fel modd yn bennaf o sicrhau bod Prydain yn cytuno i wneud taliadau i setlo’i dyledion cyn gadael.  Dydi’r ddau ganfyddiad tra gwahanol yma o bwrpas sylfaenol y trafodaethau ddim yn awgrymu y bydd pethau’n mynd yn dda – a gallant yn hawdd fynd yn wael iawn.
Beth bynnag ddigwyddith bydd pethau’n anodd iawn i’r Toriaid a bydd yr holltau sydd yn y blaid yn dod i’r amlwg – bydd y Blaid Doriaidd a’r Blaid Lafur mewn twll tebyg yn yr ystyr yna, ac mae ail strythuro’r drefn bleidiol yn y DU yn gyfangwbl bosibl.  Bydd yna hefyd gryn dipyn mwy o bwysau ar Theresa May.
4). Bydd llwyth o bobl enwog iawn nad ydi awdur Blogmenai erioed wedi clywed amdanynt yn marw.  Eto.
5). Bydd yn dod yn glir y bydd ffin de facto Prydain ac Iwerddon yn symud i borthladdoedd a meysydd awyr y dalaith.  Doedd hi ddim yn bosibl selio’r ffin pan roedd degau o filoedd o aelodau’r lluoedd diogelwch ar gael, a fydd hi ddim yn bosibl gwneud hynny yn yr oes sydd ohoni.  Felly bydd rhaid dangos pasbort ac ati yn y meysydd awyr a’r porthladdoedd.  Bydd hyn yn newid seicolegol go fawr.  Disgwyliwch glywed mwy am Ogledd Iwerddon yn sgil Brexit gyda llaw.  Yr UE a Chytundeb Dydd Gwener y Groglith ydi’r ddau set o gytundebau sydd wedi gwneud fwyaf i gynnal Ewrop yng Ngorllewin Ewrop yn ystod y blynyddoecc ers yr Ail Ryfel Byd.  Mae elfennau o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gweithio yng nghyd destun yr Undeb Ewropiaidd, a bydd rhaid ail adeiladu’r elfennau hynny.  Bydd llywodraeth Iwerddon yn edrych am pob math o sicrwydd – gan gynnwys sicrwydd y caiff Gogledd Iwerddon ail ymaelodi a’r UE yn syth bin os ydi hi’n pleidleisio i ail ymuno a gweddill Ewrop.
6). Mae’n ddigon posibl y bydd yna ambell i ryfel yn torri allan yma ac acw.  Bydd y ffaith bod cynghreiriau milwrol yn gwanio yn sgil ethol Trump yn golygu y bydd mwy o gytundebau uniongyrchol rhwng gwledydd unigol.  Bydd hynny’n gadael  mwy o wledydd heb llawer o ffrindoai a bydd temtasiwn i sawl gwlad fynd ati i setlo hen sgoriau.
7). Gallai unig aelod seneddol UKIP Douglas Carswell wneud ‘Dafydd El’ a gadael y blaid – gan adael eu bron i 4,000,000 heb gynrychiolaeth seneddol o gwbl.  ‘Doedd Carswell erioed yn UKIPar naturiol – a dydi pethau ddim wedi gwella ers etholiad 2015.  Bydd hyn yn dod a mwy o ffocws ar y criw bach ffraegar o UKIPars ym Mae Caerdydd.  
8). Etholiad Cyffredonol yn cael ei galw yn Iwerddon, Fianna Fail yn cael maddeuant rhannol am ddod yn agos at fethdalu, ond ddim yn dod yn agos at fwyafrif llwyr.  Fine Gael yn dod yn ail, ond yn mynd i glymblaid efo Fianna Fail.  Enda Kenny yn gorfod rhoi’r ffidil yn y to.  Sinn Fein yn ffurfio’r wrthblaid swyddogol ond o dan arweiniad yr hynod ddosbarth canol ac anfilwrol Mary Lou McDonald, ac nid Gerry Adams.  Y Blaid Lafur yn diflannu. 
9). Yr SNP yn cyhoeddi y bydd refferendwm annibyniaeth arall yn cael ei gynnal yn 2018 – ond efo’r broblem sylweddol bod y rhan fwyaf o fasnach yr Alban efo Lloegr – a bod Lloegr y tu ol i wal dollau efo gweddill Ewrop. 
10). Pris petrol yn codi’n sylweddol.  Dwi’n gwrthod credu y bydd baril o olew yn costio cyn lleoed a $55 y gasgen mewn blwyddyn os mai prif weithredwr Exon Mobile sy’n gyfrifol am bolisi tramor America. 
11). Llafur yn cymryd blwyddyn o wyliau o’u cystadleuaeth arweinyddol blynyddol, ond Corbyn yn cryfhau ei afael ar y blaid – a hynny’n achosi drwgdeimlad a ffraeo.  Bydd anhrefn o fewn y Blaid Lafur Brydeinig, a bydd hynny yn ei gwneud mymryn yn fwy tebygol y bydd y Blaid Lafur Gymreig yn mabwysiadu statws ffederal.  Ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt ar honna a bod yn onest.  Does yna ddim llawer o gyrff mwy ceidwadol na’r Blaid Lafur Gymreig.
12). Y Dde eithafol yn colli etholiadau yn yr Almaen a Ffrainc – yn rhannol oherwydd na fydd llawer o bobl yn chwenych yr anhrefn fydd i’w weld ym Mhrydain a’r UDA erbyn hynny.