Yn ol ar ddec S4C

Reit, yn ol a ni at ddec llawen S4C.

Ymddengys bod un o’r paneli o ‘arbenigwyr’ a benodwyd gan Edwina Hart i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion economaidd – wedi cryn drafod a doethinebu – wedi dod i’r un casgliad a bron i bawb arall y tu hwnt i Gaerfyrddin a datgan bod y syniad o glwstwr creadigol ar safle Coleg y Drindod yn – wel – gwbl ddiwerth.  
Pwysigrwydd ehangach hyn ydi bod y casgliad yn effeithio ar benderfyniad rhyfedd S4C i adleoli ar y safle.  Chwi gofiwch i’r sianel ystyried aros ymhle mae hi yng Nghaerdydd, mynd i’r Egin ar safle Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin neu ddod i safle’r Galeri yng Nghaernarfon.  Llunwyd ceisiadau gan Gyngor Gwynedd a Choleg y Drindod a phenderfynodd S4C ar safle’r Drindod.  Roedd hyn yn ymddangos yn rhyfedd i lawer ohonom ar y pryd –  mae Caernarfon yn brif ddinas answyddogol i’r Gymru Cymraeg gyda degau o filoedd o Gymry Cymraeg naturiol – gwylwyr S4C yn byw oddi fewn i radiws o ddeg milltir, ac mae hefyd yn ganolfan i’r diwydiant teledu.  Roedd cais Cyngor Gwynedd hefyd yn mynd cryn dipyn ymhellach na’r amod o fod yn ‘gost niwtral’ i S4C – neu mewn geiriau eraill roedd y sianel yn cael uffern o fargen dda.  
Ta waeth – symud i fyny’r M4 i Gaerfyrddin oedd penderfyniad y sianel – a chafwyd cryn dipyn o sbloets a dathlu yn y Drindod.  Beth bynnag, dechreuodd pethau syrthio’n ddarnau yn weddol sydyn.  Ymddengys bod cynllun ariannol cais y Drindod yn cymryd bod grantiau ar y ffordd o Ewrop – ond dydyn nhw ddim.  Chwythwyd twll gwerth £4m i £6m yn y cynllun – ond mae’n ymddangos bod y Drindod wedi addo dod o hyd i’r pres ychwanegol hyd yn oed os nad oedd y grant o Ewrop ar gael.  Dydyn nhw heb wneud hynny eto – ond maen nhw wedi gofyn ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i lenwi’r twll.  Mae’n amhosibl gweld y cais hwnnw’n cael ei ganiatau yn wyneb adroddiad heddiw.
Gwnaed cais hefyd i S4C dalu rhent o flaen llaw – £3m o rhent a bod yn fanwl gywir – ac yn rhyfeddol cytunodd y sianel i wneud hynny.  Rwan dydan ni ddim yn gwybod os bydd y Drindod yn llenwi’r twll du ariannol o’i adnoddau ei hun, ond os ydi hi mi fydd S4C wedi dod i delerau talu rhent unigryw ac anhygoel er mwyn adleoli i glwstr sy’n cael ei ystyried i fod ag unrhyw fudd ieithyddol, addysgol na chymdeithasegol  ynghlwm gan banel sy’n cynghori Llywodraeth Cymru.  

Fedra i ddim meddwl am gymaint ag un rheswm pam y dylai S4C wahanu a £3m o dan yr amgylchiadau hyn.  Mae’r holl beth yn hollol boncyrs.

Dethol er mwyn pardduo

Gyda mwy a mwy o adroddiadau am gasineb gwrth Fwslemaidd – yn rhannol yn sgil Brexit ac ethol Donald Trump – byddai rhywun yn disgwyl y byddai’r pleidiau gwleidyddol prif lif a sefydliadau crefyddol yng Nghymru yn awyddus i wneud yr hyn y gallent i leddfu’r dyfroedd.  Ond nid felly pob un – yn arbennig felly’r gwleidydd Toriaidd o Weinidog Annibynnol, Felix Aubel.  Wele ddetholiad o’i drydariadau diweddaraf.
Yn hytrach na cheisio tawelu pethau ymddengys ei fod yn treulio ei amser yn pori trwy’r We am straeon gwrth dramorwyr ac yn arbennig felly gwrth Fwslemaidd cyn mynd ati i’w hail drydar neu wneud rhyw sylw ffug boenus amdanynt.  Papurau newydd adain Dde, cyfrifon trydar asgell Dde eithafol fel un David Jones neu Ulster Crusader, gwefannau adain Dde eithafol megis Breitbart ydi ffynonellau’r stwff fel rheol.  Dydi o ddim yn colli cyfle i achub cam y Donald Trump bach annwyl ‘na chwaith pan mae pobl yn ymosod arno fo oherwydd ei senoffobia.
Rwan os rydym yn dethol ein straeon yn ofalus gallwn wneud i unrhyw grwp mewn cymdeithas edrych yn wael.  Y cwbl sydd rhaid ei wneud ydi dod o hyd i cymaint o straeon  negyddol am aelodau o’r grwp, anwybyddu pob stori gadarnhaol am aelodau o’r grwp ac anwybyddu pob stori negyddol am bobl o grwpiau eraill.  Yn ddi amau mae yna pob math o senoffobiaid ac eithafwyr crefyddol yn gwneud yr un math o beth ar hyd y Byd – Protestaniaid eithafol yn ceisio pardduo Pabyddion, eithafwyr Islamaidd yn ceisio pardduo Cristnogion a’r di grefydd, hilgwn croenwyn yn yr UDA yn pardduo pobl dywyll eu croen, Rwsiaid yn pardduo Iwcraniaid ac ati, ac ati – yn dibynu ar pa bynnag niwrosis anoddefgar sy’n poeni’r sawl sy’n dethol.
Mi fyddai rhywun yn meddwl y byddai enwad neu blaid Felix farn am y gorffwylldra senoffobaidd yma, ond na – rydan ni’n lle’r ydym mae gen i ofn.




Theresa May druan

Mae cydymdeimlo efo Theresa May yn teimlo’n rhyfedd – ond mae yna reswm tros gydymdeimlo – mae hi wedi ei chlymu’n sownd i Donald Trump – yn drosiadol wrth gwrs.

Mae wedi derbyn cryn dipyn o feirniadaeth am gymryd cymaint o amser i gondemio cynllun dwlali Trump i wahardd trigolion o rhai gwledydd Mwslemaidd o’r America.  Ond mae yna reswm da pam ymatebodd May yn y ffordd y gwnaeth – dydi hi ddim mewn sefyllfa i bechu’r hiligi, oren a chroen denau o Efrog Newydd – a Brexit sy’n gyfrifol am hynny i raddau helaeth.  Felly cymrodd 38 awr iddi fynegi amheuon am bolisi idiotaidd sydd yn cosbi trigolion gwledydd sydd erioed wedi cynhyrchu terfysgwyr sydd wedi lladd unrhyw un yn yr UDA tra’n rhoi llonydd llwyr i wledydd Mwslemaidd eraill fel Saudi Arabia sydd wedi cynhyrchu terfysgwyr sydd wedi lladd Americanwyr yn America.
Bellach mae’n amlwg y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl, a bydd hynny’n broblem enfawr yn economaidd.  Bydd ymadawiad Prydain hefyd yn ei gadael yn eithaf unig yn ddiplamyddol.  Dyna pam roedd Theresa May mor awyddus i redeg i America cyn gynted a phosibl, dyna pam bod Trump wedi cael gwahoddiad i ddod ar ymweliad gwladwriaethol yn llawer cynharach yn ei arlywyddiaeth na’r un Arlywydd arall, a dyna pam rydym yn clywed yr holl wichian treuenus am y berthynas. ‘arbennig’ efo ‘r UDA.  Does gan Prydain ddim ffrindiau, ac mae’n torri ei bol i ddod o hyd i rai – ac America Donald Trump ydi’r hoff ddewis – mae’n fawr, cegog a swnllyd.
A gallwn fod yn eithaf siwr nad dyma’r weithred boncyrs olaf gan Trump.  Bydd yr hyn mae wedi ei wneud tros y dyddiau diwethaf wrth fodd eithafwyr Mwslemaidd – bydd yn cadarnhau eu naratif i’r byd Mwslemaidd ehangach bod y Gorllewin yn wrth Fwslemaidd.  Mae’n debygol iawn y bydd terfysgwyr Mwslemaidd yn ceisio gwneud rhywbeth i gael Trump i or ymateb eto, ac mae’n debygol iawn y bydd Trump yn gor ymateb eto.  Ac unwaith eto bydd Theresa May yn sefyll yn edrych yn hurt pan fydd newyddiadurwyr yn gofyn iddi beth mae’n feddwl o hurtni diweddaraf Trump.
Does yna ddim byd y gall Trump ei wneud sydd yn ddigon anymunol a hurt fydd yn ysgogi May i ‘w feirniadu, a felly bydd pethau am flynyddoedd.

Brexit – y bygythiad i undod y DU

Mae yna gryn dipyn o son wedi bod ynglyn a statws cyfansoddiadol yr Alban yn sgil Brexit gyda chryn dipyn o ddarogan y bydd refferendwm annibyniaeth arall yn cael ei chynnal cyn diwedd y ddegawd.  Mae’r sefyllfa newydd yn creu sefyllfa heriol i’r sawl sydd am weld Alban annibynnol – mae llawer mwy o allforion yr Alban yn mynd i Loegr na sy’n mynd i’r UE – a bydd hynny’n creu problem os bydd tollau yn y dyfodol ar allforion a mewnforion i ‘r DU.
Beth bynnag, y sefyllfa ar hyn o bryd yn ol y rhan fwyaf o bolau ydi bod pethau’n ddigon tebyg i’r hyn roeddynt yn y refferendwm yn 2014 gyda tua 55% o blaid aros yn y DU a thua 45% o blaid annibyniaeth.  Ni fydd hynny’n fawr o boen i ‘e SNP – roedd yr ochr ‘Ia’ yn llawer pellach y tu ol cyn i’r ymgyrchu ddechrau yn 2014.
Ond yr hyn sydd heb gael llawer o sylw ydi’r effaith ar Ogledd Iwerddon.  Mae yna lawer iawn o fasnach, teithio a chysylltiadau diwylliannol rhwng De a Gogledd yr ynys.  Mae’r polio sydd wedi digwydd hyd yn hyn – megis yr isod gan Lucid Talk – yn awgrymu bod cryn symudiad wedi bod tuag at ail uno’r ynys.  Mae’r ddau gwestiwn ar ben y graff yn awgrymu faint o bobl sydd o blaid aros yn y DU ac mae’r ddau gwestiwn ar y gwaelod yn awgrymu faint sydd o blaid ail uno’r ynys.  Mae’r canlyniadau yn dod i tua 55% i 45% o blaid aros yn y DU – bwlch llai nag a gafwyd erioed mae’n debyg.  Dim ond chwarter y boblogaeth sydd o blaid yr hyn sydd yn debygol o ddigwydd – Gogledd Iwerddon yn aros yn y DU.

O edrych ar y canlyniad o safbwynt pobl o gefndir Protestanaidd / unoliaethol yn unig mae dau beth yn ddiddorol – bod y mwyafrif am aros yn y DU, a bod bron i 9% eisiau ymuno efo gweddill yr ynys.  O gymharu a ffigyrau hanesyddol mae’r ffigwr hwnnw yn uchel.
O edych ar y ffigyrau ar gyfer pobl o gefndir Pabyddol / cenedlaetholgar mae’r ffigyrau hefyd yn ddiddorol.  Ymddengys bod y mwyafrif llethol (tua 95%) o blaid ail uno’r ynys.  Mae hwn yn ganran llawer, llawer uwch nag a gafwyd yn y gorffennol agos.  
Felly mae’n wir bod Brexit yn bygwth undod y DU – ond mae’r bygythiad hwnnw’n ehangach nag i statws yr Alban yn unig.

Y cyfryngau print a Brexit

Siarad oeddwn i’r diwrnod o’r blaen efo un o gefnogwyr Brexit ac ar ol pwt o sgwrs am adael Ewrop dechreuodd gwyno am ‘elit’ cyfryngol oedd yn ceisio dwyn perswad ar bobl i bleidleisio i aros yr yr UE. Mae’r canfuddiad yma’n un gweddol gyffredin ymysg y sawl oedd am adael yr UE.  Mae’n ganfyddiad cwbl gyfeiliornus.
Wele isod agwedd y papurau newydd at Brexit a’u cylchrediad:

O blaid Brexit:

Sun (1.7m cylchrediad)
Daily Mail (1.5m)
Telegraph (490k)
Mail on Sunday (1.3m)
Sunday Times (797k)
Sunday Telegraph (797k)
Daily Star – heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Brexit (425k)
Daily Express (427k)
Sunday Express (396k)
Sun on Sunday (1.45m).

O blaid Aros:

Times (438k)
Daily Mirror (776k)
I –  heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Aros (284k)
Guardian (165k)
FT (118k)
Observer (194k)
Sunday Mirror (1.8m)

Pam bod May o blaid mewnfudo

Felly ymddengys bod Theresa May o blaid mewnfudo wedi’r cwbl – mae eisiau gwneud mewnfudo o’r UDA yn haws.  ‘Dwi’n rhyw gymryd mai’r hyn sydd ganddi mewn golwg ydi’r 209m Americanwyr sy’n wyn ac yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf yn hytrach na’r 118m sy’n syrthio i gategoriau eraill.

A dyna ydi’r broblem wrth gwrs – mae’r sawl sy’n anfodlon efo mewnfudo i’r DU yn anfodlon yn y bon efo mewnfudiad pobl o hil neu gefndir diwylliannol gwahanol i’w un eu hunain.  Mae tua dau Americanwr o pob tri yn weddol debyg yn ddiwylliannol i Saeson, felly ‘dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried yn cymaint o broblem, ac o ganlyniad mae Theresa May yn ddigon hapus i wneud pethau’n haws iddynt o ran mewnfudo.  Breuddwyd gwrach ydi’r syniad o fewnfudo sylweddol o’r UDA (neu Awstralia neu Seland Newydd) mewn gwirionedd wrth gwrs – pan mae niferoedd mawr o bobl yn symud, mynd  o wledydd tlawd i wledydd cyfoethog maen nhw, nid mynd o wledydd cyfoethog i wledydd cyfoethog eraill.  
Ond mae yna wledydd fydd yn fwy na pharod i ddarparu mewnfudwyr yn absenoldeb mewnfudwyr o’r Undeb Ewropiaidd – gwledydd y Gymanwlad.  Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw yn y gwledydd hyn yn ddiwylliannol a hiliol fwy gwahanol i drigolion y DU na Phabyddion a Lutheriaid croenwyn Canol a Dwyrain Ewrop.  Eisoes mae yna fwy o bobl yn dod i’r DU o’r tu allan i ‘r UE nag oddi mewn iddi.  Mae hynny wedi bod yn wir trwy gydol hanes y DU fel aelod o’r UE.  Oherwydd strwythur oedran y DU, mae’n debyg y byddwn angen mwy ac nid llai o fewnfudwyr yn y dyfodol i lenwi’r bylchau yn y farchnad lafur – mae’n dra thebygol y bydd yna lai yn dod yma o’r UE – felly bydd mwy yn dod o lefydd eraill.
Hyd yn oed pe na byddai’r economi angen mwy o bobl o oed gweithio, mae gwledydd eraill yn gweld cysylltiad rhwng cytundebau masnach a rhyddid i bobl symud – roedd llywodraeth India yn dweud hynny yn ddiweddar.  Mae yna bron i 1bn o Hindwiaid yn byw yn India ynghyd a 172m o Fwslemiaid – llawer, llawer mwy na’r nifer o Fwslemiaid sy’n  byw ym mhob gwlad  yn Ewrop efo’i gilydd. Mae yna tua 200m o Fwslemiaid yn byw ym Mhacistan, ac mae yna 150m o Fwslemiaid yn byw ym Mangladesh.  Mae yna tua’r un faint Fwslemiaid yn byw yn is gyfandir India a phoblogaeth yr UE – hyd yn oed os ydym yn cyfri poblogaeth y DU.
Y rheswm dwi’n son am Fwslemiaid ydi oherwydd – a barnu o bapurau newydd Asgell Dde megis yr Express a’r Mail a chyfrifon trydar eithafwyr Asgell Dde megis Felix Aubel – mai nhw ydi Iddewon yr unfed ganrif ar hugain.  O’r holl grwpiau nad ydi’r Dde  yn eu hoffi – ac mae’r rhestr yn un hir iawn –  Mwslemiaid sydd ar ar y brig.  Iddewon oedd ar frig y rhestr casineb hyd at yr Ail Ryfel Byd.  
A dyna baradocs y sefyllfa sydd ohoni – rydym ar y ffordd allan o’r UE oherwydd bod y wasg gwrth Ewropiaidd a’r chydadran arwyddocaol o’r sawl a bleidleisiodd i adael y DU yn ddrwgdybus (a dweud y lleiaf) o bobl o wledydd eraill.  Mae’n ddigon posibl mai canlyniad y bleidlais fydd cynnydd mewn mewnfudo gan bobl y bobl sy’n brif wrthrych casineb llawer o’r sawl oedd yn awyddus i adael yr UE.

Goblygiadau Trump a Brexit

Os ydi’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth i ni dangosodd nad ydi darogan yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn syniad rhy dda – felly ‘dwi am osgoi syrthio i mewn i’r trap yna.  Mae’n bosibl fodd bynnag dadlau bod y ddau ddigwyddiad mawr – ethol Trump a Brexit – yn adlewyrchu tueddiadau mawr mewn gwleidyddiaeth.  Mi geisiwn edrych ar y rheiny a beth maent yn eu awgrymu am yr hyn allai ddigwydd tros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Dwi’n sylweddoli fy mod wedi gwneud ymarferoad tebyg ynglyn ag ethol Bush yny forffennol agos – ond mae’r cyfuniad a Bush a Brexit yn creu darlun ychydig yn wahanol.

1). Llai o gydweithrediad rhwng gwledydd.  Mae addewid Trump i ‘roi America’n gyntaf’ yn amlwg am leihau cydweithrediad rhyngwladol – ac mae’n fwy na thebyg y bydd yn cynyddu gwrthdaro rhyngwladol.  Ymgais ydi’r UE i greu strwythur i alluogi gwledydd sydd yn hanesyddol wedi bod yn elyniaethus i’w gilydd i gydweithredu a chyd dynnu.  Eto mae ymadawiad y DU yn debygol o leihau’r cydweithrediad hwnnw.  Dydi’r ffaith bod Trump yn achub ar pob cyfle i ddweud y byddai’n hoffi gweld yr UE yn chwalu ddim o gymorth mawr chwaith.  Mae’r ffaith bod yr UDA yn colli diddordeb yn NATO hefyd yn awgrymu y gellid gweld ambell i ryfel anisgwyl yma ac acw.

2). Twf economaidd rhyngwladol i ostwng.  Mae Trump wedi ei gwneud yn gwbl glir nad yw’n credu mewn masnach rydd – felly bydd tollau ar pob dim sy’n cael ei fewnforio i’r UDA.  Mae llywodraeth May yn honni ei bod eisiau cytundebau masnach rydd efo pawb.  Rydan ni’n gwybod nad ydi hynny’n mynd i ddigwydd efo America, a rydan ni fwy neu lai ‘n siwr na fydd yn digwydd efo’r UE chwaith.  Yn hanesyddol mae mwy o dollau rhyngwladol wedi arwain at lai o fasnach rhyngwladol ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at lai o dwf economaidd rhyngwladol.  Bydd yn cymryd amser maith i’r DU negydu ugeiniau o gytundebau efo gwledydd eraill – ychydig iawn o brofiad a chapasiti i wneud hynny sydd yn y DU ar hyn o bryd.
3). Amaethyddiaeth yng Nghymru a’r DU i ddod yn llawer llai pwysig.  Mae pwysigrwydd amaethyddiaeth wedi dirywio’n raddol ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol.  Mae yna resymau i gredu y bydd y dirywiad hwnnw’n parhau.  Dydi hi ddim yn glir y bydd y DU yn gallu fforddio i gynnig cymorthdaliadau yn lle’r drefn CAP – ac mae llawer llai o rym gwleidyddol gan ffermwyr yn y DU na sydd ganddynt ar y cyfandir. Mae tua 80% o incwm y diwydiant amaeth yng Nghymru yn dod trwy gymorthdaliadau CAP ac mae 90% o’n allforion amaethyddol yn mynd i ‘r UE.   Mae tollau ar gynnyrch amaethyddol yn uchel iawn – a bydd hynny yn lladd y sector allforio i Ewrop.  Os bydd cytundebau masnach rhydd yn cael eu negydu tros amser bydd llif o fewnforion yn cyrraedd o wledydd o wledydd fel Seland Newydd a gwledydd trydydd byd.  Bydd yn anodd iawn cystadlu efo hynny.  Yng Nghymru bydd hen broses hanesyddol yn cyrraedd ei therfyn.
4). Cynnydd mewn gwariant cyhoeddus yn yr UDA a’r DU – a thwf mewn dyledion cenedlaethol.   Mae Trump wedi datgan y bydd yna wario sylweddol gan y wladwriaeth ar is adeiledd.  Mae’r llywodraeth yn y DU eisoes wedi anghofio bwriad Osborne i gydbwyso gwariant ac incwm, ac i’r graddau hynny mae llymder wedi dod i ben.  Os bydd arafu economaidd sylweddol – neu ddirwasgiad – yn codi yn sgil Brexit yna mae’n fwy na thebyg y bydd llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth tebyg. 
5). Mae Brexit ac ethol Trump yn adlewyrchu newid sylfaenol mewn gwleidyddiaeth.  Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn fwyaf sydyn ar ganol y llwyfan ac mae’r hollt De / Chwith sydd wedi dominyddu’r rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf yn llai pwysig.  Mae’r canllawiau gwleidyddol rydym wedi arfer efo nhw wedi datgymalu’n fwyaf sydyn.  Mae goblygiadau i’r math yma o wleidyddiaeth – gall arwain at lai o gydlynnedd cymdeithasol – sy’n broblem mewn gwlad gyda chymaint o bobl o gefndiroedd gwahanol a’r DU.  Mae hefyd yn debygol y bydd annibyniaeth i’r Alban ac ail uno’r Iwerddon yn ol ar yr agenda – ac yn fuan.  Gall hefyd arwain at newidiafau mawr mewn patrymau pleidleisio traddodiadol.
6). Mwy o wariant byd eang ar arfau – ac arfau niwclear.  Mae America am ymyryd llai, ond gwario mwy ar arfau.  Mae hyn yn debygol o arwain at gynnydd mewn gwariant ar arfau yn y DU – a chynnydd mewn gwariant ar arfau y tu hwnt i ‘r UDA.