Pam bod ail etholiad buan yn debygol iawn

Ei phroblem ydi ei bod yn ddibynol ar blaid Asgell Dde eithafol, ond hynod ecsentrig y DUP.  Ystyriwch y canlynol:

1). Mae’r DUP o blaid Brexit – ond maent yn erbyn ffin galed – nid oherwydd rhyw gariad mawr at Ewrop na’r Weriniaeth, ond oherwydd y byddai ffin galed yn niweidiol yn economaidd ac yn hynod anghyfleus i etholwyr y DUP.  

2). Beth bynnag arall fydd yn digwydd mae’r DUP yn erbyn i Ogledd Iwerddon gael ei thrin yn wahanol i weddill y DU.  Maent yn gweld unrhyw symudiad i’r cyfeiriad hwnnw fel cyfraniad i gyfeiriad Iwerddon unedig – hunllef eithaf y DUP.  

3). Mae yna leiafrif bychan ond swnllyd iawn o aelodau seneddol Toriaidd sydd eisiau Brexit caled yn annad dim arall yn y Byd mawr crwn.  Does yna ddim byd wneith eu perswadio nhw i fod yn hyblyg ynglyn a Brexit caled.  Mae’n debyg mai er mwyn peidio bod yn ddibynol arnyn nhw y galwodd May yr etholiad.  

Rwan mae ganddi hi’r DUP ar y naill ochr iddi hi sydd am fod yn erbyn Brexit caled a Redwood, Rees Mogg ac ati ar y llall sy’n ystyried atal mewnfudo yn bwysicach na dim arall.  Mae am fod yn nesaf peth i amhosibl i blesio’r ddwy ochr.
Os ydi’r DUP yn cytuno i Brexit caled bydd y gost yn uchel iawn – mae’r DUP wedi arfer negydu efo McGuiness, Adams a Kelly – byddant yn llyfu eu gwefysau wrth feddwl am negydu efo Mrs Weak & Wobbly.  Gallant fod ar ol addasu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith – rhywbeth fyddai’n torri cytundeb rhyngwladol, neu becyn economaidd anferth – rhywbeth fyddai’n corddi rhannau tlawd eraill o’r DU.  
Mi fyddai Etholiad Cyffredinol arall yn llawer llai o drafferth na cheisio mynd i’r afael a hyn oll. 

Sylwadau brysiog ar etholiad ddoe

1). Arfon.  Ychydig iawn o bleidleisiau gollodd y Blaid yn Arfon ond daethom yn agos iawn i golli’r sedd i ymgeisydd sy’n byw yn Llundain, na wnaeth fawr o ymdrech o gymharu a Sion Jones ac Alun Pugh, sydd ddim yn siarad Cymraeg a sy’n ystyried ei bod yn gwbl briodol ateb ymholiadau Cymraeg mewn Sbaeneg.  Daeth y bleidlais bron i gyd gan bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ddiweddar neu oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf.  Daeth yr hollt ieithyddol yn ol gyda llaw – rhywbeth oedd wedi lled ddiflanu yn yr etholaeth.  Roedd gwahaniaeth mawr rhwng y patrymau pleidleisio mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn dominyddu a’r lleill – er bod rhai eithriadau o’r ddwy ochr.

2). Corbyn.  Mae perfformiad Llafur yn yr etholiad yma am ladd y ddadl mai’r canol ydi’r lle i fod yn wleidyddol am genhedlaeth.  Roedd y canlyniad bron yn gymaint o slap i’r traddodiad Blairaidd nag oedd i’r Toriaid.
3).  Mae’r Dib Lems mewn lle du iawn yng Nghymru – 62 o seddi cyngor enillwyd gan blaid fwyaf celwyddog yn y wlad, nid oes ganddynt yr un aelod seneddol am y tro cyntaf erioed i bob pwrpas a dim ond Kirsty Williams sydd ganddynt yn y Cynulliad, ac mae hithau yn fwy o aelod annibynnol na dim arall.
4). Yr Alban.  Mae’n bosibl bod pleidleisio tactegol i’r Toriaid gan Lafurwyr gwrth annibyniaeth wedi caniatau i May barhau fel Prif Weinidog.  Mae gwleidyddiaeth yr Alban hefyd wedi ei Ulstereiddio – yn bennaf diolch i’r Toriaid.  Mae’r math yma o wleidyddiaeth yn fwy ffyrnig, cynhenus, ac anymunol na gwleidyddiaeth gweddill y DU.  Toriaid Ruth Davidson sy’n gyfrifol am hyn i raddau helaeth.
5). Gogledd Iwerddon.  Y DUP ydi plaid mwyaf eithafol ac yn wir boncyrs y DU o ddigon.  Ar sawl cyfri maent ymhellach  i’r Dde nag UKIP.  Mae May am orfod dibynnu ar eu pleidleisiau nhw – ac mi fydd yna bris i’w dalu.  Gallai hynny beryglu elfennau o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a hefyd mae yna oblygiadau i Brexit.  Gan y bydd y DUP yn mynnu na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i unrhyw ran arall o’r DU gallai hynny olygu y bydd rhaid i’r Toriaid anghofio am Brexit caled, neu gallai olygu Brexit caled ar ffin y Gogledd a’r Weriniaeth – rhywbeth fyddai’n arwain at y DU yn gadael yr UE heb gytundeb – rhywbeth fyddai’n arwain at anhrefn llwyr.  Gallai’r DUP hefyd orfodi’r Toriaid i beidio ag ad drefnu’r ffiniau etholaethol – byddai newidiadau yn gostus i’r DUP.  Yn y cyfamser mae’r canol gwleidyddol wedi ei sgubo o’r neilltu, ac mae’r etholaethau ar hyd y ffin bellach yn wyrdd tywyll, tywyll, tywyll.  Mae gwleidyddiaeth y dalaith wedi ei bolareiddio yn llwyr – ac mae Brexit a’r ffin wrth galon y polareiddio hynny.
6). Plaid Cymru.  Ag ystyried grym y llif i Lafur yng Nghymru mae cynyddu ein seddi yn erbyn y llanw wedi bod yn gryn gamp – er ein bod hefyd wedi bod yn lwcus iawn yn Arfon a Cheredigion ag ystyried maint y mwyafrifoedd.  Ar y llaw arall gwleidyddiaeth unigryw y Gymru Gymraeg sydd wedi caniatau i hyn ddigwydd, a rydym unwaith eto ymhell o dorri tir newydd yn y Gymru ddi Gymraeg.
7). Llafur Cymru.   Canlyniad da iawn iddyn nhw yng Nghymru – diolch i’r Blaid Lafur Brydeinig.  Ar ol pleidleisio i Lafur am ganrif a chael ein hunain ar waelod pob tabl economaidd rydan ni wedi pleidleisio i Lafur eto, ac wedi gwneud hynny mewn niferoedd sylweddol iawn – mwy felly nag ydym wedi ei wneud ers cyfnod maith.
8). Y Toriaid.  Ha, ha.
9). UKIP.  Ha, ha, ha, ha, ha _ _ _ 

Mwy o driciau budur gan Dib Lems Ceredigion

Mae’n debyg mai ‘Dib Lems’ Ceredigion sy’n. ‘Arwain’ y ffordd yng Nghymru o ran triciau budur etholiadol a dweud celwydd.  Mae’r hanes yn un hir a hynod anymunol.  Ni fyddai etholiad yn gyflawn yng Ngheredigion pe na byddai’r Lib Dems yn mynd i lawr i’r gwter.

Honni ar y munud olaf bod Plaid Cymru o blaid Brexit caled ac ymddiheuro wedi i’r niwed gael ei wneud ydi’r gem y tro hwn.  Yn anffodus i’r Dib Lems mae’r cyfryngau prif lif wedi neidio ar eu celwydd am unwaith – a gallai hynny wneud rhywfaint o niwed i’r blaid fwyaf celwyddog Cymru.  Ymddengys bod hyd yn oed rhai o gyn ymgeiswyr seneddol y Dib Lems yn beirniadu eu nonsens celwyddog.
Mae yna gymhlethdod arall hefyd – mae’n debyg i’r rhannau o Geredigion mae’r Dib Lems gryfaf ynddynt wedi pleidleisio i adael yr UE – dydi gwneud mor a mynydd o’u gwrthwynebad ‘unigryw’ i Brexit ddim o anghenrhaid yn syniad da.
Bydd yn ddiddorol gweld os ydi celwydd etholiadol yn gweithio i’r Dib Lems eto fyth.

Paradocs rhyfedd etholiad 2017

Felly beth ydym i’w wneud o’r etholiad ryfedd yma?

Os ydym i gredu’r polau – er gwaetha’r amrywiaeth sylweddol yng nghanfyddiadau’r polau hynny – mae yna batrwm amlwg yn ymddangos, ac mae’n batrwm amlwg iawn.


Yr hyn sy’n rhyfedd, ac yn anarferol iawn ydi bod erbyn hyn mae’r ddwy blaid fawr yn ymddangos i fod yn ennill pleidleisiau.  Mae hynny’n bennaf oherwydd y chwalfa ym mhleidlais UKIP, ond mae hefyd – i raddau llai – ar draul y pleidiau llai eraill.  Ar ol blynyddoedd o symud oddi wrth gyfundrefn dwy blaid a thuag at cyfundrefn aml bleidiol, ymddengys bod y llanw wedi troi – ac wedi troi go iawn.

Felly – os ydi’r polau i’w credu bydd Llafur a’r Torïaid yn ôl pob tebyg yn cynyddu eu cyfran o’r bleidlais. Y broblem o safbwynt Llafur a’r Toriaid ydi na fyddant yn ennill llawer o seddi oddi wrth ei gilydd os ydi pleidlais y ddwy blaid yn cynyddu.  
Hynny yw os ydi y Torïaid i ennill nifer fawr o seddi, mae’n rhaid iddynt i ennill oddi wrth Lafur a felly hefyd i’r gwrthwyneb.  Ond os ydi pleidlais y ddwy blaid yn codi ar draul UKIP yna fydd yna ddim llawer o symud o ran seddi.  Ar hyn o bryd mae’r polau cyfartalog yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid tros y DU yn cynyddu o 6.2%, tra y bydd pleidlais Llafur yn cynyddu 4.8%.  Mae hyn yn ogwydd o 0.7% gogwydd fyddai’n arwain at ychydig iawn o newid o ran seddau.  Yn wir gallai arwain at fwy ac nid llai o seddi i’r Toriaid.
Felly gellir yn hawdd ddychmygu’r Toriaid yn cael cryn dipyn mwy o bleidleisiau na gawsant yn 2015, ond yn cael llai o seddi – neu o leiaf ddim llawer mwy.  Gallai May fod allan o joban ddydd Gwener er iddi gynyddu canran y Toriaid o’r broblem yn sylweddol