Yn y cyfamser ym myd rhyfedd Plaid Lafur Arfon _ _
Pam bod Albert Owen yn debygol o golli yn Ynys Mon i Ieuan Wyn
Oherwydd bod y bleidlais isaf gafodd Ieuan erioed – pan gollodd i Keith Best yn 1983 – fil yn uwch na’r bleidlais uchaf gafodd Albert erioed.
Record Albert mewn etholiadau San Steffan:
2010 – 11,490
2005 – 12,278
2001 – 11,906
Record Ieuan Wyn yn etholiadau San Steffan:
1997 – 15,756
1992 – 15,984
1987 – 18,580
1983 – 13,333
Talking to the few, not the many
Arfon ydi’r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru – ac yn wir y Byd. Hyd oed pan mae yna filoedd o fyfyrwyr yn ein plith mae tua dau draean o’r boblogaeth yn siarad y Gymraeg – gyda ‘r mwyafrif llethol ohonom yn ei siarad fel mamiaith. Mae pob ward sydd a mwy nag 80% o bobl yn siarad Cymraeg ynddynt ag eithrio pedair yn Arfon.
Ond fyddech chi byth yn credu hynny o ddarllen tudalen Facebook Llafur Arfon – Woking4Arfon – dydi hi ddim yn ymddangos i wneud unrhyw ddefnydd o gwbl o’r Gymraeg. Y teitl gogleisiol ydi Working For the Many, not the Few.
Sut i ymateb i newyddion ffug
Rwan bod y tymor y cynghorau newydd wedi cychwyn mae’n amlwg ar ol wythnos neu ddwy yn unig bod ‘newyddion ffug’ am barhau i fod yn un o nodweddion y ffordd mae’r gwrthbleidiau yn gweithredu.
Mae yna hen hanes o hyn yng Ngwynedd wrth gwrs – gyda pob math o hanesion bisar o greu ‘newyddion’ – o’r ymgeisydd Llafur ar gyfer y Cynulliad a safodd y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn hel enwau ar gyfer deiseb yn erbyn ‘toriadau’ Plaid Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd – er bod y toriadau hynny’n gwbl ddychmygol – i’r ymgeisydd cyngor Llais Gwynedd aeth ati i chwalu pob neges o’i eiddo ar maes e (o barchus gof) oherwydd bod y cwbl ohonynt yn ei adael yn agored i gamau cyfreithiol. Cafwyd hefyd erthygl mewn cylchgrawn wythnosol yn ddiweddar oedd yn honni bod hanner miliwn o gwynion yn cael eu derbyn ar y ffon yn flynyddol gan Gyngor Gwynedd – honiad arall cyfangwbl ddi sail.
Y cwestiwn sy’n codi i Bleidwyr ydi sut y dylid ymateb i hyn oll? Gallwn fod yn siwr bod llawer mwy o’r math yma o stwff ar y ffordd. Dyma ychydig o egwyddorion cyffredinol.
Egwyddor 1: Dylid cywiro celwydd pob tro. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn ffyrnig i rhywun sy’n dweud celwydd amdanynt, ac mae methu ymateb yn finiog yn awgrymu i bobl bod gwirionedd yn yr honiadau.
Egwyddor 2: Dylid cywiro yn gyhoeddus ac yn eang. Does yna ddim pwrpas cywiro celwydd os nad neb yn dod ar draws y cywiriad.
Egwyddor 3: Peidiwch byth a gwneud sylwadau personol. Does yna ddim pwrpas ymosod ar neb yn bersonol – does yna ddim i’w ennill o wneud hynny – hyd yn oed pan mae pobl wedi bod yn bersonol amdanom ni.
Egwyddor 4: Gwnewch yn siwr bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn ffeithiol gywir – gwiriwch a gwiriwch eto. Os ydi rhywbeth rydych yn ei ddweud yn anghywir – ymddiheurwch a chwalwch y deunydd anghywir. Does gennym ni ddim busnes yn rhoi pobl eraill yn eu lle am ddweud celwydd os ydym ni’n gwneud yr un peth ein hunain.
Egwyddor 5: Os oes yna gyd destun, tynnwch sylw at y cyd destun. Er enghraifft os oes yna orji o foesoli hunan gyfiawn wedi mynd rhagddo am gyflogau ‘uchel’ cynghorwyr, a bod hwnnw wedi ei arwain gan rhywun oedd wythnosau ynghynt yn dadlau tros godi cyflogau cynghorwyr – dylid tynnu sylw at hynny wrth ymateb. Os oes yna honiadau nad ydynt yn wir yn cael eu gwneud gan rhywun sydd efo hanes o ddweud anwiredd, dylid tynnu sylw at y celwydd blaenorol. Nid ein busnes ni ydi edrych ar ol y cynhyrchwyr newyddion ffug.
Egwyddor 6: Dylid osgoi ansoddeiriau – yn arbennig rhai lliwgar. Mae’r defnydd o ansoddeiriau megis ‘gwarthus’, ‘cywilyddus’ ac ati yn gwneud i’r sawl sy’n eu defnyddio edrych yn hysteraidd a chegog. Mae cyferbyniad oeraidd rhwng yr hyn ddywedwyd a’r ffeithiau gwirioneddol – ynghyd a chyflwyniad o gyd destun ehangach – yn gwneud y joban yn iawn. Mae yna ddigon o sterics, myllio a mwydro o amgylch y ddisgwrs wleidyddol yng Ngwynedd heb i ni ychwanegu ato.
Yr olwynion yn dod oddi ar yr ymgyrch i gamarwain
Mwy am y ‘codiad cyflog’ – neu spot the difference
Ynglyn a’r ‘codiad cyflog’ o £3,000 i gynghorwyr Gwynedd
Dwi’n gwybod fy mod i’n mynd yn hen – ond roedd yn gryn syndod gennyf ddeall o dudalen ymgeisydd aflwyddiannus ym Menai, Caernarfon (y ward dwi’n byw ynddi) – Gwyndaf Jones fy mod wedi pleidleisio am godiad cyflog i gynghorwyr o £3,000.
Erbyn meddwl mae’n debyg mai’r rheswm am hynny ydi nad oedd yna bleidlais am godiad cyflog o £3,000. Roedd yna fodd bynnag bleidlais i dderbyn argymhellion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn cynnwys cyfeiriad at godiad cyflog o £100 y flwyddyn i gynghorwyr cyffredin – cynnydd o £13,300 i £13,400, codiad o tua 0.7%. Gan bod chwyddiant ar hyn o bryd yn 2.7%, golyga hyn gwymp cyflog mewn termau real o 2%.
Roedd yna hefyd bleidlais yn erbyn gwelliant (gan Sion Jones, unig aelod Llafur y cyngor bellach) oedd yn argymell toriad cyflog o tua £3,000 i aelodau cabinet o gymharu a’r trefniadau blaenorol – trwy eu symud o un lefel cyflog i un arall. Nid oedd gan yr aelodau Annibynnol, Llais Gwynedd, Llafur na Lib Dems unrhyw obaith o gael lle ar y cabinet – felly roeddynt mewn gwirionedd yn pleidleisio i dorri cyflogau eu gelynion gwleidyddol, tra’n osgoi unrhyw doriad eu hunain. Dwi ddim yn cofio cynnig o ostyngiad cyffelyb yng nghyflogau cadeiryddion pwyllgorau – safleoedd sydd yn agored i aelodau o pob grwp, ac nid y grwp sy’n rheoli yn unig.
Mae’r aelodau o’r wrthblaid a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig i dderbyn argymhellion y bwrdd yn gwbl rhydd i ddychwelyd y £100 blynyddol, neu unrhyw gyfran eraill o’u cyflogau. Bydd yn ddiddorol gweld faint o aelodau’r gwrthbleidiau sy’n teimlo’n ddigon cryf am y mater i wrthod cymryd eu £100 y flwyddyn.
Mae Sion hefyd yn cyfeirio at y mater yn ei dudalen gweplyfr – ond mae ei gyfeiriad ychydig yn fwy cywir nag un Gwyndaf. Mae Sion wrth gwrs – yn wahanol i Gwyndaf – yn agored i gamau disgyblu o dan god ymarfer cynghorwyr os yw’n dweud celwydd am bobl eraill.
Beth bynnag mae ganddo ddau gyfeiriad – yn y cyntaf mae’n cwyno nad ydi’r Daily Post yn rhedeg stori am y cyngor yn gwrthod ei gynnig i dorri cyflogau aelodau cabinet.
Petai’r Daily Post yn rhedeg straeon am gynghorau ddim yn torri cyflogau cynghorwyr neu aelodau cabinet, dyna’r unig straeon y byddant yn ei rhedeg. Mae yna 22 cyngor yng Nghymru gyda chyfran uchel ohonynt yn cael eu rheoli’n llwyr neu’n rhannol gan Lafur. ‘Dydw i heb glywed am yr un o’r rheiny’n torri cyflogau, a dydw i heb glywed Sion – nag yn wir Gwyndaf – yn galw arnynt i wneud hynny.
Mae hefyd yn nodi ei fod o’n fodlon cymryd toriad – er nad ydi’r tebygrwydd y bydd yn cael ei hun ar y cabinet yn uchel – a dweud y lleiaf.
Yn yr ail mae’n cwyno bod pobl wedi cywiro’r camargraff.
Beth bynnag os ydi’r grwp annibynnol o ddifri eisiau arbed pres i’r cyngor mae yna ffyrdd llawer mwy effeithiol o wneud hynny. Mae yna 75 aelod ar Gyngor Gwynedd (gydag argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol i’w dorri i 67 erbyn 2022). 60 Aelod Cynulliad sydd yna – er bod hwnnw’n gweithredu tros Gymru gyfan, a 30 aelod sydd gan Ynys Mon – sydd a bod yn deg efo poblogaeth is nag un Gwynedd. Byddai toriad yn y nifer o gynghorwyr yng Ngwynedd i – dyweder – 40 yn arbed pres sylweddol yn hytrach na manion i’r cyngor. Byddai hynny’n hen ddigon i wneud y gwaith.
Felly beth amdani bois? Beth am gynnig bod y cyngor yn argymell toriad yn nifer y cynghorwyr sy’n eistedd arno i 40?
A bu distawrydd.













